Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod I
← Cynnwys | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod II → |
PENNOD I.
TEULU ROBINSON—DIANC ODDI CARTREF ER GWAETHAF EI RIENI.
FE'm ganed yn y flwyddyn 1632, yn ninas Caerefrog, o deulu da, er nad o'r ardal honno, canys tramorwr o Fremen ydoedd fy nhad, a sefydlodd i ddechrau yn Hull. Gwnaeth ef eiddo da trwy fasnachu, ac wedi iddo adael ei fasnach, aeth i fyw wedyn i Gaerefrog, lle y priodasai fy mam. Gelwid ei pherthnasau hi yn Robinson, teulu da iawn yn yr ardal honno, oddiwrth y sawl y galwyd fi yn Robinson Kreutzner; ond, yn ôl llygriad cyffredin geiriau yn Lloegr, gelwir ni yn awr, ac yn wir, fe'n galwn ein hunain, ac fe ysgrifennwn ein henw yn Crusoe, ac felly y geilw fy nghymdeithion fi bob amser.
Yr oedd gennyf ddau frawd hŷn na mi, un ohonynt yn lefftenant-cyrnol mewn catrawd Seisnig o wŷr traed yn Fflandyrs, ac a laddwyd mewn brwydr yn erbyn yr Ysbaenwyr ger Dunkirk; beth a ddaeth o'm hail frawd ni wybûm i erioed, mwy nag y gwyddai fy nhad a'm mam beth a ddaethai ohonof fi.
Gan mai'r trydydd mab yn y teulu oeddwn, a heb fy nghodi mewn crefft yn y byd, llanwyd fy mhen yn gynnar iawn â meddyliau crwydredig. Rhoddasai fy nhad gyfran dda o addysg i mi, cyn belled ag yr â addysg cartref ac ysgol râd yn y wlad, gan fy mwriadu gogyfer â'r gyfraith. Ond ni wnâi dim y tro gennyf fi ond mynd i'r môr, a hynny yn erbyn ewyllys fy nhad ac er gwaethaf holl erfyniadau ac anogaethau fy mam a chyfeillion eraill.
Rhoddodd fy nhad gynghorion dwys ac ardderchog i mi rhag y peth a ragwelai ef oedd fy mwriad. Galwodd fi un bore i'w ystafell, ac ymresymodd â mi yn frwd iawn ar y pwnc hwn. Gofynnodd i mi pa resymau, oddieithr rhyw dueddfryd i grwydro, oedd gennyf dros adael tŷ fy nhad a'm bro enedigol. Dywedodd wrthyf mai gwŷr anobeithiol eu hamgylchiadau ar y naill law, neu uwchraddol eu hamgylchiadau ar y llaw arall, fyddai'n anturio ar led; fod y pethau hyn un ai ymhell uwchlaw i mi, neu ymhell islaw i mi; mai'r sefyllfa ganol mewn bywyd oedd yr eiddof fi, ac yr oedd ef trwy brofiad maith wedi darganfod mai dyma'r sefyllfa orau yn y byd. Dywedodd wrthyf y gallwn farnu hapusrwydd sefyllfa hon â'r un peth hwn, sef, mai dyma'r sefyllfa mewn bywyd y cenfigennai pawb wrthi; fod brenhinoedd wedi gofidio lawer tro oherwydd canlyniadau truenus eu geni i bethau gwych, ac wedi dymuno eu gosod yn y canol rhwng y ddau eithaf, rhwng y gwael a'r gwych; fod y gŵr doeth wedi dwyn tystiolaeth i hyn fel safon deg gwir hapusrwydd, pan weddïodd am iddo beidio â chael na thlodi na chyfoeth.
Parodd i mi sylwi y rhennid trallodion bywyd rhwng rhan uchaf a rhan isaf dynolryw; ond mai i'r sefyllfa ganol yr oedd y lleiaf o drychinebau, ac nad ydoedd yn agored i gymaint o gyfnewidiadau â rhan uchaf neu ran isaf dynolryw. Nid oeddynt yn agored ychwaith i gymaint o afiechydon ac o anesmwythyd, na chorff na meddwl, â'r rhai sy'n dwyn afiechydon arnynt eu hunain trwy ganlyniadau naturiol eu dull o fyw; bod sefyllfa ganol bywyd yn gyfaddas i bob math o rinweddau a phob math o fwyniannau; bod heddwch a llawnder yn llawforynion y sefyllfa ganol; bod dirwest, cymedrolder, tawelwch, iechyd, cyfeillach, pob digrifwch hyfryd, a phob pleser dymunol, yn fendithion sy'n perthyn i sefyllfa ganol bywyd; mai dyma'r ffordd yr âi dynion drwy'r byd yn dawel ac yn esmwyth, ac ohono yn gysurus.
Wedyn, pwysodd arnaf yn ddwys, ac yn y modd mwyaf serchog, i beidio ag ymruthro i helbulon yr oedd Natur a'r sefyllfa mewn bywyd y ganed fi iddi fel pe wedi rhag ddarparu rhagddynt; nad oedd dim rhaid i mi chwilio am fy nhamaid; y gwnâi ef ei orau drosof; ac os na fyddwn i'n esmwyth a hapus yn y byd, rhaid mai fy nhynged neu fy mai i yn unig a rwystrai hynny; ac na fyddai ganddo ef ddim i ateb drosto, gan iddo wneuthur ei ddyletswydd trwy fy rhybuddio rhag pethau y gwyddai ef a fyddai er niwed i mi. Ac yn ben ar bopeth, dywedodd wrthyf fod fy mrawd hynaf gennyf yn esiampl, i'r hwn yr oedd ef wedi rhoddi cynghorion yr un mor ddwys, i'w gadw rhag mynd i ryfeloedd yr Iseldiroedd, ond ni lwyddodd, gan i chwantau ieuenctid ei gymell i ffoi i'r fyddin, lle y lladdwyd ef; ac er iddo ddywedyd na wnâi ef ddim peidio â gweddïo drosof, eto mentrai ddywedyd wrthyf, os cymerwn i'r cam ffôl hwn, na fendithiai Duw mohonof; ac fe gawn hamdden ar ôl hyn i fyfyrio amdanaf fy hun yn esgeuluso ei gyngor ef pan na fyddai neb, efallai, i gynorthwyo yn fy adferiad.
Sylwais yn y rhan olaf o'i araith fod y dagrau yn llifo i lawr ei ruddiau, yn enwedig pan soniai am fy mrawd oedd wedi ei ladd; a phan soniai y cawn i hamdden i edifarhau, heb neb i'm cynorthwyo, yr oedd wedi ei gynhyrfu gymaint nes iddo dorri ar y sgwrs, a dywedodd wrthyf fod ei galon mor llawn na fedrai ddywedyd dim yn rhagor wrthyf.
Dylanwadodd yr araith hon yn fawr arnaf, a phenderfynais beidio â meddwl am fynd i ffwrdd mwyach, ond setlo gartref yn unol â dymuniad fy nhad. Ond gwae fi! gwisgodd ychydig ddyddiau y cwbl i ffwrdd, a rhag i'm tad grefu ychwaneg arnaf, ymhen ychydig wythnosau wedyn, penderfynais redeg i ffwrdd oddiwrtho yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, ni bûm mor fyrbwyll ag y bwriadwn ar y cyntaf, ond dywedais wrth fy mam fod fy mryd gymaint ar weled y byd na allwn i byth gydio mewn dim gyda digon o benderfyniad i lynu wrtho, ac mai gwell fuasai i'm tad gydsynio â'm cais na'm gorfodi i fynd heb hynny; fy mod yn awr yn ddeunaw oed, a'i bod yn rhy ddiweddar i fynd yn brentis mewn crefft yn y byd, neu'n glerc twrnai; fy mod yn sicr os gwnawn hynny y byddwn yn siwr o redeg i ffwrdd oddiwrth fy meistr a mynd i'r môr; ac os gwnâi hi siarad â'm tad am iddo adael i mi fynd dim ond am un fordaith ar led, os down i adre'n ôl drachefn a heb gael blas ar hynny, nad awn i byth wedyn, ac fe addawn trwy ddwbl—ddiwydrwydd adennill yr amser a gollaswn.
Gyrrodd hyn fy mam yn gynddeiriog. Dywedodd wrthyf ei bod hi yn gwybod nad oedd ddiben yn y byd siarad â'm tad ar bwnc o'r fath; y gwyddai ef yn rhy dda beth oedd er fy lles i gydsynio â pheth a wnâi gymaint o niwed i mi; a'i bod hi'n synnu sut yr oeddwn yn medru meddwl am beth o'r fath ar ôl y fath sgwrs a gawswn gyda'm tad; ac mewn byr eiriau, os difethwn i fy hun nad oedd mo'r help amdanaf; ond fe allwn ddibynnu na chawn i byth mo'u cydsyniad hwy â hynny; ac o'i rhan hi, ni chawn i byth ddim dweud bod fy mam yn fodlon tra nad ydoedd fy nhad ddim.
Er i'm mam wrthod cymeradwyo'r peth i'm tad, eto, fel y clywais wedyn, fe adroddodd yr holl sgwrs wrtho, ac i'm tad ddywedyd wrthi gydag ochenaid, "Fe allai'r bachgen yna fod yn hapus petai'n aros gartref, ond os â i ffwrdd fe fydd yr adyn mwyaf truenus a anwyd erioed; ni allaf fi ddim cydsynio â'r peth o gwbl."
Aeth bron flwyddyn heibio wedi hyn cyn i mi dorri'n rhydd; ond rhyw ddiwrnod yn Hull, lle yr awn yn achlysurol, ac un o'm cyfeillion yn mynd ar y môr i Lundain yn llong ei dad, ac yn fy annog i fynd gyda hwynt, nid ymgynghorais ddim pellach â'm tad na'm mam, na hyd yn oed anfon gair atynt am y peth; ond gan adael iddynt glywed amdano fel y digwyddai iddynt, heb ofyn bendith na Duw na'm tad, heb ystyried nac amgylchiadau na chanlyniadau, ar y cyntaf o Fedi, 1651, euthum ar fwrdd llong oedd yn rhwym am Lundain.