Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod II
← Pennod I | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod III → |
PENNOD II.
YR ANTUR GYNTAF—EI BROFIAD AR Y MÔR—MORDAITH I GUINEA.
CREDAF na bu i anffodion yr un anturiwr ieuanc ddechrau ynghynt na pharhau yn hwy na'r eiddof fi. Cyn gynted â bod y llong allan o Hymyr, dechreuodd y gwynt chwythu, a'r tonnau godi yn y modd mwyaf dychrynllyd; a chan nad oeddwn wedi bod ar y môr erioed o'r blaen, yr oeddwn yn sâl ofnadwy, ac yr oedd ofn arswydus arnaf. Dechreuais feddwl yn ddifrifol yn awr ar y peth a wnaethwn; ac mor gyfiawn ydoedd barn y Nefoedd arnaf am fy anfadrwydd yn gadael tŷ fy nhad ac yn esgeuluso fy nyletswydd. Yn awr daeth cynghorion fy rhieni, dagrau fy nhad ac erfyniadau fy mam, yn fyw i'm cof, a chyhuddodd fy nghydwybod fi o ddirmygu cynghorion, ac anghofio fy nyletswydd i Dduw ac i'm tad.
Yn ystod yr amser hwn gwaethygodd y storm a chododd y môr yn uchel iawn, er nad oedd yn ddim wrth y peth a welais ar ol hyn; ond yr oedd yn ddigon i effeithio arnaf y pryd hwnnw, a minnau heb fod ond llongwr ifanc, a heb erioed wybod dim byd am y peth. Disgwyliwn i bob ton ein llyncu, a phob tro y disgynnai'r llong i gafn neu bant y môr, fel y tybiwn i, ofnwn na chodem byth wedyn; ac yn yr ing meddwl hwn addunedais a phenderfynais, os gwelai Duw yn dda achub fy mywyd y fordaith hon, os byth y cawn fy nhroed ar dir sych drachefn; yr awn adre'n syth at fy nhad, fe dderbyniwn ei gyngor ef, ac ni ruthrwn byth mwyach i'r fath drueni â hyn. Yn awr fe welwn yn eglur werth ei sylwadau ar sefyllfa ganol bywyd, mor esmwyth, mor gysurus yr oedd ef wedi byw ar hyd ei oes, heb erioed fod yn agored i stormydd ar y môr, na helbulon ar y lan; ac megis afradlon gwir edifeiriol, penderfynais ddychwelyd adref at fy nhad.
Parhaodd y meddyliau dwys hyn cyhyd ag y parhaodd y storm, ac yn wir am beth amser wedyn; ond drannoeth gostegodd y gwynt a thawelodd y môr, a dechreuais gynefino ag ef. Fodd bynnag yr oeddwn yn lled brudd y diwrnod hwnnw, a thipyn o glefyd y môr arnaf o hyd; ond at y nos fe gliriodd y tywydd, yr oedd y gwynt wedi llwyr ostegu, daeth yn fin nos hynod o braf; aeth yr haul i lawr yn berffaith glir, a chododd felly fore trannoeth; a chydag ychydig neu ddim gwynt, a môr llyfn, gyda'r haul yn tywynnu arno, yr oedd yr olygfa, i'm tyb i, yr hyfrytaf a welswn erioed.
Yr oeddwn wedi cysgu yn dda yn y nos, a chan nad oedd clefyd y môr arnaf yn awr, yr oeddwn yn lled siriol, yn edrych mewn syndod ar y môr oedd mor arw ac ofnadwy y diwrnod cynt, ac yn gallu bod mor dawel a hyfryd mewn cyn lleied o amser wedyn. Mewn gair, gan fod wyneb y môr wedi dyfod yn esmwyth drachefn ac yn hollol dawel trwy i'r storm honno ostegu, fe lwyr anghofiais yr addunedau a'r addewidion a wnaethwn yn fy nghyni, ac ymhen pum niwrnod neu chwech yr oeddwn wedi cael goruchafiaeth mor llwyr ar fy nghydwybod ag y gall yr un llanc ifanc ddymuno amdani.
Y chweched diwrnod i ni fod ar y môr, daethom i Yarmouth Roads; gan i'r gwynt ddal yn groes a'r tywydd yn dawel, nid oeddem wedi symud ymlaen ond ychydig er adeg y storm. Yma bu rhaid i ni fwrw angor, ac yma y buom, gan fod y gwynt yn parhau yn groes, sef, yn y de-orllewin am saith niwrnod neu wyth. Ni buasem, fodd bynnag, wedi angori yma cyhyd, ond buasem wedi mynd i fyny'r afon gyda'r teit, oni bai fod y gwynt yn chwythu'n rhy ffres; ac wedi i ni orwedd yma bedwar diwrnod neu bump, chwythai yn galed iawn. Beth bynnag, gan yr ystyrrid y Roads cystal â phorthladd, yr angorfa yn dda, a'n taclau ninnau yn ddigon cryf, yr oedd ein dynion yn hollol ddidaro heb ofn perygl arnynt o gwbl, ond treuliasant yr amser i orffwyso a'u difyrru eu hunain yn null y môr. Ond yr wythfed dydd yn y bore, cryfhaodd y gwynt, ac yr oedd y dwylo i gyd ar waith gennym i wneud popeth yn ddiogel ac yn dyn, er mwyn i'r llong forio mor esmwyth ag oedd bosibl. Erbyn y prynhawn cododd y môr yn uchel anghyffredin, a nofiai'r llong â'i fforcasl dan ddŵr, a thybiem unwaith neu ddwy fod yr angor wedi dyfod adref; ar hyn gorchmynnodd ein meistr roddi'r prif angor allan, fel y moriem gyda dau angor ymlaen, a'r rhaffau wedi eu troi allan i'r pen gorau arnynt.
Erbyn hyn chwythai storm ddychrynllyd, ac yn awr gwelwn ofn a braw yn wynebau hyd yn oed y llongwyr eu hunain. Clywn y meistr, wrth fynd yn ôl a blaen i'r caban yn f'ymyl yn dweud yn dawel wrtho'i hunan droeon: Arglwydd, bydd drugarog wrthym, fe'n collir i gyd, fe'n difethir i gyd.
Yr oedd arnaf ofn arswydus yn awr; codais o'm caban ac edrychais allan. Ond ni welais erioed olygfa mor erchyll; codai'r môr yn fynyddoedd, a thorrai drosom bob rhyw dri munud neu bedwar; pan fedrwn edrych o'm cwmpas, ni fedrwn weld dim ond cyfyngder o'n deutu. Gwelem fod dwy long a foriai yn ein hymyl wedi torri y mastiau wrth y bwrdd, gan eu bod yn drwmlwythog; a gwaeddai'r dynion fod llong a foriai ryw filltir o'n blaenau wedi suddo.
Ynghanol y nos, gwaeddodd un o'r dynion a aethai i lawr o bwrpas i weld, ei bod yn gollwng dŵr i mewn; dywedodd un arall fod pedair troedfedd o ddŵr yn yr howld. Yna galwyd yr holl ddwylo i'r pwmp. Ar y gair hwnnw, llesmeiriodd fy nghalon ynof, fel y tybiwn i, a syrthiais wysg fy nghefn ar ymyl fy ngwely lle'r eisteddwn, i'r caban. Sut bynnag, deffrôdd y dynion fi, a dywedasant wrthyf y gallwn i bympio cystal â rhywun arall, ac ar hynny codais ac euthum at y pwmp. Tra'r oedd hyn ar waith, gan i'r meistr weld llongau glo bychain, oedd yn methu dal y storm, yn llithro allan i'r môr, gorchmynnodd danio gwn fel arwydd o gyfyngder. Yr oeddwn i, a minnau heb wybod beth yn y byd oedd ystyr hynny, wedi fy synnu gymaint nes i mi dybio bod y llong wedi torri, neu fod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd. Mewn gair, yr oeddwn wedi fy synnu gymaint, nes i mi syrthio i lawr mewn llewyg. Gan fod hyn yn adeg yr oedd yn rhaid i bob un feddwl am ei einioes ei hun, nid oedd waeth gan neb amdanaf fi; ond neidiodd dyn arall at y pwmp, a chan fy ngwthio i o'r neilĺtu â'i droed, gadawodd i mi orwedd, gan dybio fy mod wedi marw; ac ni ddeuthum ataf fy hun am hir iawn.
Daliasom ati i weithio; ond gan fod y dŵr yn cynyddu yn yr howld, yr oedd yn amlwg mai suddo a wnâi'r llong; ac er i'r storm ddechrau gostegu ychydig, eto gan nad oedd ddichon iddi nofio hyd oni allem gyrraedd porthladd, daliodd y meistr i danio gynnau am help, a mentrodd goleulong oedd wedi dal i forio o'n blaenau, yrru cwch i'n cynorthwyo. Gyda'r enbydrwydd mwyaf y daeth y cwch atom, ond amhosibl oedd i ni fynd ar y bwrdd, nac i'r cwch ddal wrth ochr y llong. O'r diwedd, trwy i'r dynion rwyfo yn galed a mentro eu bywydau i'n hachub ni, taflodd ein dynion ni raff iddynt dros y starn a bwi wrthi, ac wedi llafur ac enbydrwydd mawr cawsant afael arni, a thynasom hwy yn dyn o dan ein starn, ac aethom i gyd i'r cwch. Nid oedd dim diben iddynt hwy na ninnau, wedi i ni fynd i'r cwch, feddwl am gyrraedd eu llong hwy, felly cytunodd pawb i adael iddo yrru, a dim ond ei dynnu i mewn mor agos ag y medrem i'r traeth; ac addawodd ein meistr iddynt, os dryllid y cwch ar y lan, y gwnâi ef iawn am dano i'w meistr; felly fe aeth ein cwch i ffwrdd tua'r gogledd, ar osgo am y lan bron cyn belled â Winterton Ness.
Nid oeddem nemor fwy na chwarter awr o'n llong na welem hi'n suddo, ac yna deëllais am y tro cyntaf beth oedd ystyr llong yn suddo yn y môr. Rhaid i mi gydnabod mai prin y medrwn godi fy llygaid pan ddywedodd y morwyr wrthyf ei bod yn suddo. Yr oedd fy nghalon fel petai'n farw ynof, o ran â dychryn, o ran ag arswyd a'r meddyliau am y pethau oedd eto o'm blaen.
Tra'r oeddem yn y cyflwr hwn, a'r dynion eto'n gweithio wrth y rhwyfau i ddyfod â'r cwch at y lan (pan fedrem weld y lan wrth i'r cwch ddringo'r tonnau) gwelem lawer o bobl yn rhedeg ar hyd y traeth i'n cynorthwyo pan ddelem yn agos. Ond yn araf y cyrchem at y lan; ac ni lwyddasom i gyrraedd y lan, nes wedi i ni fynd heibio i oleudy Winterton, cilia gallt y môr tua'r gorllewin i gyfeiriad Cromer, ac felly torrai'r tir ychydig ar rym y gwynt. Yma aethom i mewn, a chyraeddasom y lan yn ddiogel, a cherddasom wedyn i Yarmouth, lle y derbyniwyd ni gyda chryn lawer o diriondeb gan ynadon y dref, yn ogystal â'r gwahanol fasnachwyr a pherchenogion llongau, a rhoddwyd digon o arian i ni i'n cludo un ai i Lundain neu yn ol i Hull, fel y gwelem ni yn orau.
Petasai gennyf ddigon o synnwyr yn awr i ddychwelyd i Hull, a phetaswn i wedi mynd adref, buaswn yn hapus; a buasai fy nhad (arwyddlun o ddameg ein Gwaredwr bendigedig) wedi lladd y llo pasgedig i mi, canys ar ôl clywed bod y llong yr euthum i ffwrdd ynddi wedi torri'n rhydd yn Yarmouth Roads, bu'n hir iawn cyn derbyn yr un sicrwydd nad oeddwn wedi boddi. Ond amdanaf fi, gan fod gennyf arian yn fy mhoced, teithiais i Lundain drwy'r tir, ac yno yn ogystal ag ar y ffordd, bu aml ymdrech rhyngof a mi fy hun pa gwrs mewn bywyd a gymerwn, a pha un a awn i adref, ai ynteu mynd i'r môr.
Gyda golwg ar fynd adref, trawodd i'm meddwl ar unwaith fel y chwerddid am fy mhen gan y cymdogion, ac y byddai arnaf gywilydd gweld, nid yn unig fy nhad a'm mam, ond pawb arall hyd yn oed. Ac oddiar hynny yr wyf wedi sylwi yn aml, yn enwedig ar bobl ieuanc, nad oes arnynt ddim cywilydd pechu, ac eto y mae arnynt gywilydd edifarhau; dim cywilydd o'r weithred y dylid yn deg eu cyfrif yn ffyliaid o'i herwydd, ond cywilydd o'r dychwelyd, yr unig beth a bair iddynt gael eu cyfrif yn ddynion doeth.
Yn y cyflwr hwn y bûm, fodd bynnag, am beth amser, yn ansicr pa ffordd i'w chymryd, a pha gwrs o fywyd i'w arwain. Daliwn yn hynod anewyllysgar i fynd adref; a chan i mi aros am ysbaid, treuliodd yr atgof am y cyni y bûm ynddo ymaith, nes o'r diwedd rhoddais heibio feddwl am y peth, ac euthum ar fwrdd llong oedd yn rhwym am arfordir Affrica, neu, fel y dywed ein llongwyr yn gyffredin,—mordaith i Guinea.
Yn gyntaf oll, digwyddais daro ar gwmni pur dda yn Llundain, peth nad yw yn digwydd yn aml i lanciau ifainc penrhydd ac annoeth fel fi. Deuthum yn gydnabyddus â meistr llong oedd wedi bod ar ororau Guinea, a chan iddo fod yn llwyddiannus iawn yno, yr oedd â'i fryd ar fynd yno drachefn, ac yn fy nghlywed i'n dweud fod arnaf awydd gweled y byd, dywedodd wrthyf os awn i am fordaith gydag ef na chostiai hi ddim i mi; cawn gydfwyta ag ef a bod yn gydymaith iddo; ac os medrwn i ddwyn rhywbeth gyda mi, cawn bob mantais oddiwrtho a ganiatâi'r fasnach ac efallai y cawn i dipyn o gefnogaeth.
Derbyniais y cynnig; a chan ddechrau cyfeillgarwch tyn â'r capten, euthum gydag ef am y fordaith, gan fynd â chyfran fechan gyda mi, canys yr oedd gennyf werth tua 40 mewn teganau a manion y dywedasai'r capten wrthyf am eu prynu. Yr oeddwn wedi casglu'r £40 hyn trwy gymorth rhai o'm perthnasau yr oeddwn wedi bod yn gohebu â hwynt, y rhai oedd wedi cael gan fy nhad, neu fy mam o leiaf, 'rwy'n credu, gyfrannu cymaint â hynny beth bynnag at fy antur gyntaf. Dyma'r unig fordaith y gallaf ddweud iddi fod yn llwyddiant yn fy holl anturiaethau, ac y mae arnaf ddyled am hynny i gywirdeb a gonestrwydd fy nghyfaill, y capten. Dano ef hefyd y cefais ddigonedd o wybodaeth am fesuroniaeth a rheolau morwriaeth; dysgais sut i gadw cyfrif o gwrs y llong, ac, mewn byr eiriau, i ddeall rhai pethau yr oedd yn rhaid i longwr eu deall. Canys gan ei fod ef yn cymryd diddordeb i'm hyfforddi, cymerwn innau ddiddordeb i ddysgu, ac, mewn gair, gwnaeth y fordaith hon fi yn llongwr yn ogystal â masnachwr; canys deuthum â phum pwys a naw owns o lwch aur gyda mi, oedd yn rhoddi bron £300 i mi yn Llundain, ac fe'm llanwodd hyn i â'r syniadau uchelgeisiol hynny sydd ar ôl hynny wedi fy llwyr ddifetha,
Eto, hyd yn oed ar y fordaith hon yr oedd i mi fy anffodion hefyd, yn arbennig, fy mod yn sâl yn barhaus, wedi fy mwrw mewn twymyn enbyd oherwydd gwres llethol yr hinsawdd, gan fod ein prif fasnach ar yr arfordir, o ledred 15° i'r Gogledd hyd yn oed i linell y cyhydedd ei hun.