Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod III

Oddi ar Wicidestun
Pennod II Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod IV

PENNOD III.
EI GAETHIWED YN SALLEE—DIANC GYDA XURY—CYRRAEDD BRAZIL.

YR oeddwn yn awr wedi fy sefydlu fy hun fel un o fasnachwyr Guinea; a chan i'm cyfaill farw yn fuan wedi iddo gyrraedd, penderfynais fynd ar yr un fordaith drachefn, ac fe hwyliais allan yn yr un llong gyda'r un oedd yn fêt iddo ar y fordaith gyntaf, a'r un oedd yn awr yn llywydd y llong. Dyma'r fordaith fwyaf annedwydd a wnaeth neb erioed, canys er nad euthum â llawn canpunt gyda mi o'r cyfoeth oeddwn newydd ei ennill, gan i mi adael £200 ar ôl gyda gweddw fy nghyfaill, eto syrthiais i brofedigaethau ofnadwy ar y fordaith hon; a dyma'r gyntaf, sef—wrth i'r llong hwylio'i chwrs tuag Ynysoedd Canary, neu yn hytrach rhwng yr ynysoedd hynny ac arfordir Affrica, daeth un o fôr—ladron Twrci o Sallee ar ei gwarthaf yng nglas y bore, gan ein hymlid ar lawn hwyliau. Cludasom ninnau hefyd gymaint o liain ag a ledai'r iardiau, neu a gariai ein mastiau, er mwyn mynd yn glir; ond wrth weld bod y môr-leidr yn ennill arnom, ac y byddai'n sicr o'n dal ymhen ychydig oriau, paratoesom ymladd,—deg o ynnau gan ein llong ni a deunaw gan yr herwlong. Tua thri yn y prynhawn fe'n daliodd ni; a chan iddi atal ei chwrs mewn amryfusedd, bron ar draws ein chwarter, yn lle ar draws ein starn fel y bwriadai, troesom wyth o'n gynnau ar yr ochr honno, gan fwrw ergydion arni a wnaeth iddi gilio i ffwrdd drachefn wedi iddi ateb ein tân ni a thywallt i mewn ei mân ergydion gan yn agos i 200 o wŷr oedd ar ei bwrdd. Sut bynnag, ni chyffyrddwyd â'r un o'n dynion ni. Paratôdd i ymosod arnom drachefn, a ninnau i'n hamddiffyn ein hunain; ond gan gyrchu arnom ar ein chwarter arall y tro nesaf, rhoddodd drigain o ddynion ar ein deciau, y rhai a ddechreuodd ar unwaith dorri a darnio ein deciau a'n rigin. Fodd bynnag, i dorri'n fyr y darn pruddaidd hwn o'n stori, gan fod ein llong wedi ei handwyo, a thri o'n dynion wedi eu lladd ac wyth wedi eu clwyfo, bu rhaid i ni ildio, a dygwyd ni i gyd yn garcharorion i Sallee, porthladd yn perthyn i'r Mwriaid.

Nid oedd y driniaeth a gefais yno mor arswydus ag yr ofnwn ar y cyntaf, ac ni chludwyd mohonof i fyny i'r wlad i lys yr ymherawdr, fel y gwnaed â'r gweddill o'n gwŷr; ond cadwyd fi gan gapten yr herwlong fel ei briod wobr ei hun, a gwnaed fi'n gaethwas iddo, gan fy mod yn ifanc ac yn sionc ac yn ateb ei ddiben ef.

Gan fod fy meistr newydd wedi mynd â mi adref i'w dŷ, gobeithiwn y cymerai fi gydag ef pan âi i'r môr eto, gan gredu mai ei dynged yntau rywbryd neu'i gilydd fyddai ei ddal gan un o longau rhyfel yr Ysbaen neu Portugal; ac yna fe'm gollyngid innau yn rhydd. Ond amddifadwyd fi o'r gobaith hwn yn fuan iawn; canys pan aeth ef i'r môr, gadawodd fi ar y lan i ofalu am ei ardd fechan, ac i wneud caledwaith arferol

Bu rhaid i ni ildio, a dygwyd ni i gyd yn garcharorion i Sallee.
(Gwel tud. 16).


caethweision o amgylch ei dŷ; a phan ddaeth adre'n ôl drachefn o'i fordaith, gorchmynnodd i mi orwedd yn y caban i edrych ar ôl y llong.

Yma ni feddyliais am ddim ond am ddianc, a pha ddull a gymerwn i gyflawni hynny, ond ni welwn ffordd o gwbl a fyddai'n debyg o lwyddo. Ac am ddwy flynedd, er i mi fod wrth fy modd yn aml yn dychmygu'r peth, eto ni chefais ddim calondid o gwbl i wneud hynny.

Ymhen tua dwy flynedd digwyddodd amgylchiad hynod, a ddaeth â'r hen syniad o geisio ennill fy rhyddid i'm pen drachefn. Arferai fy noddwr yn gyson, unwaith neu ddwy yr wythnos, weithiau yn amlach os byddai'r tywydd yn braf, fynd allan i bysgota i'r angorfa yng nghwch bach y llong. Ai â fi a Maresco ieuanc gydag ef bob amser i rwyfo'r cwch, a chan fy mod yn ddeheig iawn i ddal pysgod anfonai fi weithiau gyda Mŵr (un o'i geraint) a'r llanc y Maresco, fel y galwent ef, i ddal dysglaid o bysgod iddo.

Un tro, a ninnau yn mynd i bysgota ar fore hollol dawel, digwyddodd niwl godi mor dew nes i ni golli golwg ar y lan er nad oeddem hanner milltir oddiyno; a chan rwyfo heb wybod i ble na pha ffordd, llafuriasom drwy'r dydd a thrwy'r nos wedyn, a phan ddaeth y bore gwelsom ein bod wedi tynnu allan i'r môr yn lle tynnu at y lan, a'n bod o leiaf ddwy filltir o'r lan. Sut bynnag, daethom i mewn yn lled dda wedyn, er gyda chryn lawer o lafur, a pheth perygl, gan i'r gwynt ddechrau chwythu yn lled ffres yn y bore; ond yr oedd arnom newyn anghyffredin i gyd.

Ond, wedi ei rybuddio gan yr aflwydd hwn, penderfynodd ein noddwr gymryd mwy o ofal ohono'i hun yn y dyfodol, a chan fod cwch hir ein llong Seisnig ni ganddo, penderfynodd nad âi i bysgota byth mwy heb gwmpawd a rhyw gymaint o fwyd. Felly gorchmynnodd i saer ei long (yntau yn gaethwas o Sais) godi caban bychan ynghanol y cwch, gyda lle i sefyll y tu ôl iddo i lywio ac i dynnu'r Main Sheet i mewn, a lle o'r tu blaen i un neu ddau o'r dwylo sefyll a thrin yr hwyliau.

Aem allan i bysgota yn fynych gyda'r cwch hwn, a chan fy mod i yn hynod ddeheig i ddal pysgod iddo, nid âi byth hebof. Digwyddodd ei fod wedi trefnu mynd allan yn y cwch hwn, un ai am bleser neu bysgod, gyda dau neu dri Mŵr o beth bri yn y lle hwnnw, y rhai yr oedd wedi darparu'n eithriadol ar eu cyfer; ac felly wedi anfon arlwy mwy nag arfer ar fwrdd y cwch dros y nos; ac wedi gorchymyn i mi ddarparu tri dryll, gyda phowdr a haels, oedd ar fwrdd ei long ef, gan eu bod yn bwriadu cael tipyn o sbort wrth hela yn ogystal â physgota.

Cefais bopeth yn barod fel yr oedd ef wedi fy nghyfarwyddo, a disgwyl bore trannoeth gyda'r cwch wedi ei olchi'n lân, gyda'i luman a'i faneri allan, a phopeth wedi ei drefnu gogyfer â'i wŷr gwâdd. Yn y man, daeth fy noddwr ar y bwrdd ar ei ben ei hun, a dweud wrthyf nad oedd ei westeion am fynd, oherwydd rhyw helynt oedd wedi digwydd, a gorchmynnodd i mi fynd allan fel arfer gyda'r cwch a dal pysgod iddynt, gan fod ei gyfeillion i swperu yn ei dŷ ef; a gorchmynnodd i mi, cyn gynted ag y byddai gennyf bysgod, ddyfod â hwynt adref i'w dŷ ef.

Y foment hon daeth fy syniadau blaenorol am waredigaeth i'm meddwl, gan y gwelwn yn awr fy mod yn debyg o gael llong fechan i mi fy hun; ac wedi i'm meistr fynd, ymbaratoais nid am y gorchwyl o bysgota ond am fordaith; er na wyddwn i ddim, ac na wneuthum hyd yn oed ystyried, i ble yr hwyliwn, gan fod rhywle, i gael mynd ymaith o'r lle hwnnw, yn ffordd i mi.

Fy ystryw cyntaf oedd cymryd arnaf sôn wrth y Mŵr am gael rhywbeth yn fwyd i ni ar y bwrdd; canys dywedais wrtho na fyddai wiw i ni fwyta bwyd ein noddwr. Dywedodd yntau fod hynny'n wir; felly daeth â basgedaid fawr o ryw fath o fara caled, a thair costrelaid o ddŵr croyw i'r cwch. Gwyddwn ymhle yr oedd cistan boteli fy noddwr, a chludais hwynt i'r cwch tra'r oedd y Mŵr ar y lan, fel petasent yno o'r blaen i'n meistr. Cludais hefyd delpyn mawr o gŵyr melyn i'r cwch, gyda pharselaid o linyn neu edau, bwyall, llif, a morthwyl; a bu'r cwbl o wasanaeth mawr i ni wedyn, yr enwedig y cŵyr i wneud canhwyllau. Cynigiais dric arall arno hefyd, a daeth iddo yn ddigon diniwed. Ei enw oedd Ismael, a alwant hwy yn Muli neu Moeli; gan hynny, gelwais arno: "Moeli," meddwn i, y mae gynnau ein meistr ar fwrdd y cwch; a fedri di gael tipyn o bowdwr a haels? Efallai y lladdwn ni ambell ylfinir i ni ein hunain, oherwydd mi wn ei fod yn cadw'r taclau saethu yn y llong."

Medraf," eb yntau, "fe ddof â pheth, daeth â phwrs lledr mawr oedd yn cynnwys tua phwys a hanner o bowdwr, neu fwy; ac un arall â haels, ac ynddo bum pwys neu chwech, a rhai bwledi; a rhoddodd y cwbl yn y cwch. Yr un pryd yr oeddwn innau wedi cael hyd i bowdwr fy meistr yn y caban mawr, ac â hwn llenwais un o'r poteli mawr yn y gistan oedd bron yn wag, gan arllwys y peth oedd ynddi i un arall; ac wedi paratoi felly bopeth oedd yn angenrheidiol, hwyliasom allan o'r borth i bysgota. Gwyddai'r castell sydd ar geg y porthladd pwy oeddem, ac ni chymerth sylw ohonom; ac nid oeddem dros filltir o'r borth cyn i ni dynnu ein hwyl i mewn, ac eistedd i lawr i bysgota. Chwythai'r gwynt o'r Gogledd Ddwyrain, yn groes i'm dymuniad i, canys petasai yn chwythu o'r de buaswn yn siwr o daro ar arfordir Sbaen, a 'chyrraedd Bae Cadiz fan leiaf; ond yr oeddwn wedi penderfynu, o ble bynnag y chwythai, y buaswn yn mynd o'r lle arswydus yr oeddwn ynddo, a gadael y gweddill i Ffawd.

Wedi i ni fod yn pysgota am beth amser heb ddal dim (canys pan fyddai gennyf bysgod ar fy mach ni thynnwn mohonynt i fyny, rhag iddo eu gweld) dywedais wrth y Mŵr, "Ni wna hyn mo'r tro; rhaid i ni sefyll ymhellach allan." Heb feddwl dim drwg, cytunodd yntau, a chan ei fod ymlaen y cwch cododd yr hwyliau; a chan mai fi oedd wrth y llyw rhedais y cwch allan tua milltir ymhellach, ac yna arafu ei gwrs fel petawn am bysgota. Yna, gan roddi'r llyw i'r bachgen, euthum ymlaen i'r lle yr oedd y Mŵr, a chan gymryd arnaf wyro am rywbeth y tu ôl iddo, cydiais ynddo yn ddiarwybod iddo gyda'm braich am ei wasg, a theflais ef yn glir dros y bwrdd i'r môr. Cododd ar unwaith, gan y nofiai fel corcyn, a gwaeddodd arnaf; erfyniodd am gael dyfod i mewn; dywedodd wrthyf yr âi ef gyda mi dros y byd i gyd. Nofiai mor gryf ar ôl y cwch fel y buasai wedi fy nal yn lled fuan, gan nad oedd ond ychydig o wynt; ar hynny euthum i'r caban, a chan estyn un o'r gynnau, trois ef ato, a dywedais wrtho nad oeddwn i wedi gwneud dim niwed iddo, ac os byddai'n ddistaw na wnawn i ddim byd iddo. Ond," meddwn i, "rwyt ti'n nofio'n ddigon da i gyrraedd y lan, ac mae'r môr yn dawel; gwna dy ffordd i'r lan orau y medri, ac ni wnaf fi ddim niwed i ti; ond os doi di'n agos i'r cwch mi saethaf di drwy dy ben, gan fy mod wedi penderfynu cael fy rhyddid." Felly trôdd yn ei ôl a nofiodd am y lan, ac nid wyf yn amau na chyrhaeddodd yn ddiogel gan ei fod yn nofiwr ardderchog.

Buaswn yn ddigon bodlon mynd â'r Mŵr hwn gyda mi, a boddi'r bachgen, ond ni ellid mentro ymddiried ynddo. Wedi iddo ef fynd, trois at y bachgen, a alwent hwy yn Xury, a dywedais wrtho: Xury, os byddi di'n ffyddlon i mi fe'th wnaf yn ddyn mawr, ond os na thynni di dy law dros dy wyneb i fod yn ffyddlon i mi (sef yw hynny, tyngu trwy Fahomet a barf ei dad), rhaid i mi dy daflu dithau i'r môr hefyd." Gwenodd y bachgen yn fy wyneb, a siaradodd mor ddiniwed fel na fedrwn mo'i ddrwg-dybio; thyngodd y byddai'n ffyddlon i mi, ac yr âi gyda mi dros y byd i gyd.

Tra'r oeddwn yng ngolwg y Mŵr, deliais allan yn syth i'r môr gyda'r cwch, gan dynnu braidd i'r gwynt, er mwyn iddynt feddwl fy mod wedi mynd i gyfeiriad genau'r culfor (fel yn wir y gellid tybio y gwnâi unrhyw un yn ei synhwyrau); canys pwy fyth a fuasai'n tybio ein bod wedi hwylio i'r deau, i'r glannau gwir farbaraidd, lle byddai cenhedloedd cyfain o ddynion duon yn sicr o'n hamgylchynu â'u badau, a'n difetha ni; lle na fedrem lanio o gwbl heb gael ein difa gan fwystfilod rheibus, neu anwariaid mwy di-drugaredd fyth.

Ond cyn gynted ag y dechreuodd dywyllu ym min nos, newidiais fy nghwrs, a hwyliais i'r deddwyrain, gan gyfeirio fy nghwrs ychydig i'r dwyrain, er mwyn i mi gadw wrth y lan; a chydag awel o wynt teg, a môr esmwyth tawel, hwyliais cyn belled, nes erbyn tri o'r gloch prynhawn drannoeth, pan ddeuthum i olwg y tir, credaf nad oeddwn i ddim llai na chant a hanner o filltiroedd i ddeau Sallee; ymhell tu draw i diriogaethau Ymherawdr Morocco, neu yn wir unrhyw frenin arall yn y cyffiniau, gan na welsom bobl o gwbl.

Eto yr oedd arnaf gymaint o ofn y Mwriaid, a chawswn y fath fraw arswydus rhag syrthio i'w dwylo, na wnawn i ddim aros, na mynd i'r lan, na bwrw angor (a'r gwynt yn dal yn deg) nes i mi hwylio felly am bum niwrnod; ac yna, gan i'r gwynt droi i'r deau, bernais os oedd rhai o'u llongau yn fy ymlid, y rhoent hwythau'r gorau iddi hefyd yn awr; felly mentrais gyrchu at y tir, ac angorais yng ngenau afon fechan; ond ni wyddwn pa un ydoedd, na pha le yr oedd; na pha ledred, pa wlad, pa genhedloedd, na pha afon. Ni welais ac ni ddymunwn weld pobl o gwbl; y prif beth yr oedd arnaf ei eisiau oedd dŵr croyw. Daethom i'r gilfach hon ym min nos, gan benderfynu nofio i'r lan cyn gynted ag y tywyllai, a chwilio'r wlad; ond cyn gynted â'i bod yn hollol dywyll, clywem oernadau creaduriaid gwylltion yn cyfarth, yn rhuo, ac yn udo (na wyddem ni o ba fathau) nes bod y bachgen druan bron â marw gan ofn, ac erfyniodd arnaf beidio â mynd i'r lan tan y dydd.

"Wel, Xury," meddwn innau, "felly 'd âf fi ddim; ond efallai y gwelwn ni ddynion yn y dydd a fydd cynddrwg i ni â'r llewod yna."

"Yna mi rown y gwn saethu iddyn nhw," ebe Xury, dan chwerthin, a gneud iddyn nhw redeg i ffwrdd."

Fodd bynnag, yr oeddwn yn falch o weld y bachgen mor llon, a rhoddais lymaid iddo (o gistan boteli ein noddwr) i'w sirioli. Wedi'r cwbl, yr oedd cyngor Xury yn un da, a chymerais ef; bwriasom ein hangor bychan ac arosasom yn llonydd drwy'r nos. Dywedaf "yn llonydd," gan na chysgasom ddim; canys ymhen dwyawr neu dair gwelem greaduriaid mawr anferth (ni wyddem beth i'w galw) yn dyfod i lawr i'r traeth ac yn rhedeg i'r dŵr, yn ymdreiglo ac yn ymolchi er mwyn y pleser o ymoeri; a gwnaent y fath oernadau ac ysgrechiadau erchyll, na chlywais i yn wir erioed mo'u bath.

Yr oedd ofn dychrynllyd ar Xury, ac yn wir felly finnau hefyd; ond yr oedd arnom fwy o ofn fyth pan glywsom un o'r creaduriaid anferth hyn yn nofio at ein cwch; ni fedrem ei weld, ond clywem wrth ei chwythu ei fod yn fwystfil anferth a ffyrnig. Dywedodd Xury mai llew ydoedd, a gallai fod am ddim byd a wyddwn i; ond gwaeddai Xury druan arnaf i godi'r angor a rhwyfo ymaith.

"Na, Xury," meddwn i, "gallwn ollwng ein rhaff â bwi arni, a mynd allan i'r môr; ni fedrant mo'n dilyn ymhell."

Nid cynt y dywedais hynny nag y gwelwn y creadur o fewn dau hyd rhwyf, ac fe'm dychrynodd braidd. Fodd bynnag, cerddais yn syth at ddrws y caban, a chan godi fy ngwn, teniais arno; ar hynny trôdd yn ôl ar unwaith, a nofiodd i'r lan drachefn.

Ond amhosibl yw disgrifio'r oernadau, a'r gweiddi a'r ysgrechian erchyll a ddyrchafwyd,ar fin y traeth yn ogystal ag yn uwch i fyny yn y wlad, wrth sŵn neu ergyd y gwn,—peth na chlywsai'r creaduriaid hynny mohono erioed o'r blaen, mi dybiaf. Argyhoeddodd hyn fi nad oedd wiw i ni fynd i'r lan yn y nos ar y glannau hyn; a sut i fentro i'r lan yn y dydd oedd gwestiwn arall eto; canys buasai syrthio i ddwylo rhai o'r anwariaid, cynddrwg â syrthio i grafangau'r llewod a'r teigrod; o leiaf, yr oedd arnom gymaint o ofn y perygl hwnnw.

Bid a fynno, rhaid oedd i ni fynd i'r lan rywle neu'i gilydd am ddŵr, gan nad oedd gennym yr un peint ar ôl yn y cwch. Dywedodd Xury os gadawn i iddo fynd i'r lan gydag un o'r costrelau, y chwiliai ef a oedd yno ddŵr, a dôi â pheth i mi. Gofynnais iddo paham yr oedd ef am fynd? Paham na allwn i fynd ac yntau aros yn y cwch? Atebodd y bachgen gyda'r fath anwyldeb, nes peri i mi ei garu fyth wedyn. Meddai, Os dynion gwyllt yn dod, nhw bwyta fi, a chi mynd i ffwrdd.' Wel, Xury," meddwn innau, "fe awn ein dau; ac os daw'r dynion gwylltion fe'u lladdwn nhw, chân' nhw ddim bwyta'r un ohonom ni."

Felly rhoddais ddarn o fara caled i Xury i'w fwyta a dracht o gistan boteli ein noddwr y soniais amdani o'r blaen; a thynasom y cwch cyn nesed i'r lan ag y tybiem ni oedd yn briodol, ac aethom drwy'r dŵr i'r lan, heb ddim yn ein dwylo ond ein harfau, a dwy gostrel am ddŵr. Nid oeddwn yn caru mynd o olwg y cwch, gan ofn i fadau ag anwariaid ynddynt ddyfod i lawr yr afon; ond gan i'r bachgen weld lle isel tua milltir i fyny'r wlad, crwydrodd ato; ac yn y man gwelwn ef yn dyfod dan redeg ataf. Tybiwn y dilynid ef gan un o'r anwariaid, neu fod rhyw fwystfil gwyllt wedi ei ddychrynu, a rhedais ymlaen ato i'w gynorthwyo; ond pan ddeuthum yn nes ato, gwelwn rywbeth yn hongian dros ei ysgwydd, ryw greadur yr oedd ef wedi ei saethu, tebyg i ysgyfarnog, ond o liw gwahanol, a choesau hwy. Fodd bynnag, yr oeddem yn falch iawn ohono, ac yr oedd yn gig da iawn; ond deuai Xury druan gyda'r fath lawenydd i ddweud wrthyf ei fod wedi darganfod dŵr da, a heb weld dim dynion gwylltion.

Ond gwelsom wedyn nad oedd dim rhaid i ni boeni cymaint am ddŵr, canys ychydig yn uwch i fyny'r gilfach lle'r oeddem, canfuom fod y dŵr yn groyw pan fai'r llanw allan; felly llanwasom ein costrelau, a gwnaethom wledd o'r ysgyfarnog a laddasom, a pharatoesom fynd i ffwrdd, gan nad oeddem wedi gweld ôl traed yr un creadur o ddyn yn y rhan honno o'r wlad.

Gan i mi fod ar un fordaith i'r glannau hyn o'r blaen, gwyddwn yn eithaf da fod ynysoedd Canaries ac ynysoedd Cape de Verde heb fod nepell o'r arfordir. Ond gan nad oedd gennyf offerynnau i gael gwybod ymha ledred yr oeddem, a chan na wyddwn yn iawn ymha ledred yr oeddynt hwy, ni wyddwn ymha le i edrych amdanynt, na pha bryd i sefyll allan i'r môr i'w cyfeiriad, onidê gallaswn fod wedi taro ar rai o'r ynysoedd hyn yn awr. Ond gobeithiwn os daliwn wrth yr arfordir hwn nes i mi ddyfod i'r rhan lle'r oedd y Saeson yn masnachu, y gwelwn i rai o'u llongau hwy a'n cynorthwyai ac a'n derbyniai i mewn.

Yn ôl fy nghyfri gorau i, rhaid mai'r tir rhwng tiriogaethau Ymherawdr Morocco a'r dynion duon, ydoedd y lle yr oeddwn ynddo yn awr, lle sy'n aros yn ddiffaith a heb breswylwyr, heblaw'r bwystfilod gwylltion; gan fod y negroaid wedi troi cefn arno a mynd ymhellach i'r deau rhag ofn y Mwriaid, a'r Mwriaid heb ei ystyried yn werth i'w gyfanheddu, oherwydd ei ddiffrwythdra; ac yn wir, y naill a'r llall yn ei adael oherwydd y nifer aruthrol o deigrod, llewod, llewpartiaid, a chreaduriaid gwylltion eraill sy'n llechu yno.

Unwaith neu ddwy yn ystod y dydd tybiwn fy mod yn gweld Pico Teneriffe, sef copa Mynydd Teneriffe yn y Canaries, ac yr oedd arnaf awydd mawr mentro allan, gan obeithio cyrraedd yno; ond wedi cynnig ddwywaith, fe'm gyrrwyd i mewn eilwaith gan wyntoedd croesion, a'r môr hefyd yn codi'n rhy uchel i'm llong fach i; felly penderfynais ddilyn fy nghynllun cyntaf, a chadw wrth y lan.

Wedi aros yma am ychydig, daliasom i hwylio i'r deau am ddeng niwrnod neu ddeuddeg, gan fyw yn gynnil iawn ar ein hymborth a oedd yn dechrau mynd yn brinnach brinnach, a pheidio â mynd i'r lan yn amlach nag oedd raid am ddŵr croyw. Fy mwriad yn hyn o beth oedd cyrraedd yr afon Gambia neu Senegal,—hynny yw, rhywle o amgylch Cape de Verde—lle y gobeithiwn gyfarfod â rhyw long Ewropeaidd; ac os na wnawn i hynny, ni wyddwn pa gwrs i'w gymryd, heblaw chwilio am yr ynysoedd neu farw yno ymhlith y dynion duon. Gwyddwn fod holl longau Ewrop a hwyliai un ai i lannau Guinea neu i Frazil, neu i India'r Dwyrain, yn cyrraedd y penrhyn hwn neu'r ynysoedd hynny.

Wedi i mi ddilyn y bwriad hwn am tua deng niwrnod yn hwy, fel y dywedais, gwelwn fod y tir yn gyfannedd, ac mewn dau neu dri o leoedd, wrth i ni hwylio heibio, gwelem bobl yn sefyll ar y traeth i edrych arnom; gallem weld hefyd eu bod yn hollol ddu, ac yn noethlymun. Bu arnaf awydd mynd i'r lan atynt unwaith; ond dywedodd Xury wrthyf, "Peidio mynd, peidio mynd." Fodd bynnag, tynnais yn nes i'r lan er mwyn i mi allu siarad â hwy; a gwelwn eu bod yn rhedeg hyd y traeth wrth fy ochr am ffordd bell. Sylwais nad oedd ganddynt ddim arfau yn eu dwylo, oddieithr un oedd â ffon fain hir ganddo, a dywedai Xury mai gwaywffon ydoedd, ac y medrent anelu'n dda â hwy dros ffordd bell. Felly cedwais draw, ond siaredais â hwynt drwy arwyddion cystal ag y medrwn, ac yn enwedig gwneud arwyddion am rywbeth i'w fwyta. Gwnaethant amnaid arnaf i stopio fy nghwch, ac fe aent hwythau i nôl cig i mi. Ar hyn gollyngais flaen fy hwyl i lawr, ac arhosais, a rhedodd dau ohonynt i fyny i'r wlad, ac ymhen llai na hanner awr daethant yn ôl, a dwyn dau ddarn o gig wedi ei sychu ac ŷd gyda hwynt, y cyfryw ag sy'n gynnyrch eu gwlad hwy; ond ni wyddem ni beth oedd na'r naill na'r llall. Fodd bynnag, yr oeddem yn fodlon i'w dderbyn; ond sut i ddyfod ato oedd ein dadl nesaf, canys nid oeddwn i am fentro i'r lan atynt hwy, ac yr oedd arnynt hwythau gymaint o'n hofn ninnau; ond cymerasant ffordd ddiogel i bawb ohonom, gan iddynt ddyfod ag ef i'r traeth a'i roi ar lawr a mynd ymaith, a sefyll ymhell i ffwrdd nes i ni ei nôl ar y bwrdd, ac yna daethant yn agos atom drachefn.

Gwnaethom arwyddion diolch iddynt, gan nad oedd gennym ddim i'w roi'n dâl iddynt. Ond daeth cyfle y munud hwnnw i'w boddhau yn anghyffredin; canys tra'r oeddem yn aros wrth y lan, daeth dau greadur enfawr, y naill yn dilyn y llall yn ffyrnig iawn, o'r mynyddoedd tua'r môr; a gwelem fod ar y bobl ofn arswydus, yn enwedig y merched. Ni ffôdd y gŵr â'r waywffon neu'r bicell rhagddynt, ond fe wnaeth y gweddill. Fodd bynnag, gan i'r ddau greadur redeg ar eu hunion i'r dŵr, nid ymddangosent fel pe baent am gynnig disgyn ar ddim un o'r negroaid, ond ymdrochasant yn y môr a nofiasant o amgylch fel pe baent wedi dyfod yno i'w mwynhau eu hunain. O'r diwedd, dechreuodd un ohonynt ddyfod yn nes i'n cwch ni nag y disgwyliem ar y cyntaf; ond yr oeddwn yn barod amdano, gan fy mod wedi rhoi ergyd yn fy ngwn gyda'r brys mwyaf, a pheri i Xury roi ergydion yn y ddau arall. Cyn gynted ag y daeth yn weddol o fewn fy nghyrraedd, teniais a saethais ef yn union yn ei ben; suddodd i lawr ar unwaith i'r dŵr, ond cododd mewn munud a neidiodd i fyny ac i lawr fel pe bai'n ymladd am ei fywyd, ac felly, yn wir, yr oedd. Unionodd am y lan ar unwaith; ond rhwng y clwyf a oedd yn niwed angheuol iddo, a'r dŵr yn ei dagu, bu farw ychydig cyn iddo gyrraedd y lan.

Amhosibl yw disgrifio syndod y creaduriaid truain hyn at sŵn a thân fy ngwn i; yr oedd rhai ohonynt bron marw gan ofn, a syrthiasant i lawr fel yn farw gan ddim ond arswyd. Ond pan welsant y creadur wedi marw ac wedi suddo yn y dŵr, a'm bod innau yn gwneud arwyddion arnynt i ddyfod i'r traeth codasant eu calonnau a daethant i'r traeth, a dechreuasant chwilio am y creadur. Deuthum o hyd iddo trwy fod ei waed yn ystaenio'r dŵr, a thrwy gymorth rhaff a deflais am dano, a'i rhoi i'r negroaid i'w thynnu, llusgasant ef i'r traeth, a gwelsant mai llewpart hynod iawn ydoedd, ac ysmotiau arno; a chodai'r negroaid eu dwylo mewn edmygedd wrth ystyried â pha beth yr oeddwn wedi ei ladd.

Wedi ei ddychrynu gan fflach y tân a sŵn y gwn, nofiodd y creadur arall i'r lan, a rhedodd ar ei union i'r mynyddoedd o'r lle y daethent; ac o'r pellter hwnnw ni allwn wybod beth ydoedd. Sylwais yn fuan fod y negroaid am fwyta cig y creadur hwn, ac yr oeddwn yn fodlon iddynt ei gael fel ffafr gennyf; a phan wneuthum arwyddion arnynt y gallent ei gael yr oeddent yn ddiolchgar dros ben am dano. Dechreuasant weithio arno ar unwaith; ac er nad oedd ganddynt yr un gyllell, eto, gyda darn o bren miniog, tynasant ei groen cyn gynted, ac yn gynt o lawer, nag y medrem ni â chyllell. Cynigiasant beth o'r cig i mi, yr hyn a wrthodais; ond gwneuthum arwyddion am y croen, a rhoesant ef i mi yn barod iawn, a daethant â chryn lawer yn rhagor o fwyd i mi. Yna gwneuthum arwyddion arnynt am ddŵr, a deliais allan un o'm costrelau iddynt, gan ei throi â'i gwaelod i fyny i ddangos ei bod yn wag a bod arnaf eisiau ei llenwi. Galwasant yn ddioed ar rai o'u cyfeillion, a daeth dwy wraig yno gan ddwyn llestr pridd mawr, wedi ei grasu yn yr haul mae'n debyg. Rhoesant hwn ar lawr i mi fel o'r blaen, ac anfonais Xury i'r lan gyda'm costrelau, a llanwodd y tair.

Yr oedd gennyf yn awr wreiddiau, ac ŷd o ryw fath, a dŵr; a chan adael y negroaid cyfeillgar, euthum ymlaen am tuag un dydd ar ddeg arall, heb gynnig mynd yn agos i'r lan, hyd nes y gwelwn tir yn rhedeg allan ymhell i'r môr, pellter o tua phedair neu bum milltir o'm blaen; a chan fod y môr yn dawel iawn, cedwais allan ymhell er mwyn cyrraedd y pwynt hwn. O'r diwedd, wrth fynd heibio i'r trwyn, tua dwy filltir o'r tir, gwelwn dir yn eglur ar yr ochr arall yng nghyfeiriad y môr; yna cesglais mai hwn ydoedd Cape de Verde, ac mai y rheini oedd yr ynysoedd a elwir oherwydd hynny yn Ynysoedd Cape de Verde. Fodd bynnag, yr oeddynt ymhell iawn, ac ni wyddwn yn iawn beth oedd orau i mi ei wneud, canys pe'm delid gan awel o wynt efallai na chyrhaeddwn i mo'r naill na'r llall.

Yng nghanol y benbleth hon, gan fy mod yn drist iawn, cerddais i'r caban ac eisteddais i lawr, a gadael Xury wrth y llyw; ac yn sydyn dyma'r bachgen yn gweiddi, Meistr, meistr, llong â hwyliau arni!" ac 'roedd y bachgen druan allan o'i bwyll gan ofn, yn meddwl mai un o longau ei feistr ydoedd, wedi ei gyrru ar ein holau, a minnau'n gwybod ein bod wedi mynd yn ddigon pell o'u gafael. Neidiais allan o'r caban a gwelwn ar unwaith, nid yn unig y llong, ond beth ydoedd, sef, mai llong Bortugeaidd ydoedd, ac, fel y tybiwn i, yn rhwym i lannau Guinea am negroaid.

Hyd yn oed â hwyliau llawn, gwelwn na fedrwn ddyfod i'w ffordd, a byddent wedi mynd heibio cyn y gallwn wneud yr un arwydd iddynt; ond wedi i mi gasglu pob cerpyn oedd gennyf, ac yn dechrau digalonni, gwelsant fi, mae'n debyg, gyda'u sbienddrychau, ac mai cwch Ewropeaidd ydoedd, yn perthyn fel y tybient hwy, i ryw long oedd wedi colli, a rhoesant lai o hwyliau er mwyn i mi eu dal, ac ymhen tua theirawr deuthum atynt.

Gofynasant i mi beth oeddwn, mewn Portugaeg, Ysbaeneg a Ffrangeg, ond ni ddeallwn ddim arnynt. O'r diwedd galwodd llongwr Ysgotaidd arnaf, ac atebais ef mai Sais oeddwn, a'm bod wedi dianc o gaethiwed oddiar y Mwriaid yn Sallee. Yna parasant i mi ddyfod ar y bwrdd, ac yn garedig iawn cymerasant fi a'm celfi i gyd i mewn.

Yr oedd yn llawenydd anhraethol i mi fy mod wedi fy ngwaredu fel hyn o'r cyflwr truenus ac anobeithiol yr oeddwn ynddo; ac yn ddioed cynigiais bopeth oedd gennyf i gapten y llong fel tâl am fy ngwaredigaeth. Ond bu'n ddigon hael i ddweud wrthyf na chymerai ef ddim byd gennyf, ond fe drosglwyddid i mi bopeth oedd gennyf pan gyrhaeddwn y Brazils.

Nodiadau

[golygu]