Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod IV
| ← Pennod III | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod V → |

Ni fedrwn ymryddhau o'r tonnau.
(Gwel tud. 42).
PENNOD IV.
SEFYDLU YN Y BRAZILS—MYND AR FORDAITH ARALL—LLONGDDRYLLIAD.
GORCHMYNNODD y capten nad oedd neb i gyffwrdd â dim byd oedd gennyf; yna cymerodd y cwbl i'w feddiant ei hun, a rhoddodd restr gyflawn i mi ohonynt, fel y cawn hwynt yn ôl,—hyd yn oed fy nhair costrel bridd.
Gyda golwg ar fy nghwch, yr oedd yn un da iawn, a gwelodd yntau hynny, a dywedodd wrthyf y buasai yn ei brynu; a gofynnodd i mi faint oedd arnaf ei eisiau am dano. Dywedais wrtho ei fod wedi bod mor haelfrydig wrthyf ym mhopeth na fedrwn i ddim cynnig rhoi pris yn y byd ar y cwch ond ei adael yn gyfangwbl iddo ef. Ar hynny dywedodd wrthyf y rhoddai ef i mi bedwar ugain o ddarnau wyth am dano ym Mrazil. Cynigiodd i mi hefyd drigain o ddarnau wyth[1] yn rhagor am fy machgen Xury, ac yr oedd yn ddrwg gennyf eu cymryd; nid am nad oeddwn yn fodlon i'r capten ei gael, ond yr oedd yn anodd iawn gennyf werthu rhyddid y bachgen a'm cynorthwyasai mor ffyddlon i ennill fy rhyddid fy hun. Fodd bynnag, pan ddywedais fy rheswm wrtho, cyfaddefai ei fod yn deg, a chynigiodd i mi y buasai'n ymrwymo i ryddhau'r bachgen ymhen deng mlynedd os deuai'n Gristion. Ar hyn, a Xury yntau yn dweud ei fod yn fodlon mynd ato, gadewais i'r capten ei gael.
Cawsom fordaith dda iawn i Frazil, a chyraeddasom Fae de Todos los Santos, neu Fae'r Holl Seintiau, ymhen tua dau ddiwrnod ar hugain wedyn. Ac yn awr yr oeddwn unwaith eto wedi fy ngwaredu o un o'r cyflyrau mwyaf truenus mewn bywyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ystyried beth i'w wneud nesaf â mi fy hun.
Ni allaf fyth gofio digon am ymddygiad haelfrydig y capten tuag ataf. Ni chymerai ddim gennyf am fy nghludo; rhoddodd ugain ducat[2] i mi am groen y llewpart a deugain am groen y llew oedd gennyf yn y cwch, a pharodd drosglwyddo popeth oedd yn y cwch i mi ar unwaith; a'r pethau yr oeddwn yn barod i'w gwerthu fe'u prynodd, megis y gistan boteli, dau o'm gynnau, a darn o'r telpyn cŵyr melyn, gan fy mod wedi gwneud canhwyllau o'r gweddill; mewn gair, gwneuthum tua 220 o ddarnau wyth o'm cargo gyd, ac â'r stoc hon fe euthum i'r lan yn y Brazils.
Nid oeddwn wedi bod yno yn hir iawn cyn dyfod i adnabod teulu rhyw ŵr da ac onest, a chanddo ingeino fel y galwant hwy hi, sef yw hynny, planhigfa a thy siwgr. Bûm yn byw gydag ef am beth amser, ac felly deuthum yn gyfarwydd â'r dull o blannu a gwneuthur siwgr; ac wrth weld mor dda yr oedd y planwyr yn byw, ac fel yr ymgyfoethogent yn gyflym, penderfynais os medrwn gael trwydded i sefydlu yno, y trown innau'n blannwr yn eu plith, gan benderfynu yn y cyfamser geisio darganfod ffordd y gellid anfon i mi yr arian a adawswn yn Llundain. I'r diben hwn, wedi derbyn math o lythyr rhyddfreiniad prynais gymaint o dir heb ei drin ag a gyrhaeddai fy arian, a lluniais gynllun i'm planhigfa a'm preswylfod.
Yr oedd gennyf gymydog, Portugead o Lisbon, ond â'i rieni'n Saeson, a'i enw Wells, ac mewn amgylchiadau tebyg iawn i minnau. Galwaf ef yn gymydog am fod ei blanhigfa y nesaf at fy un i, ac yr oeddem yn gyfeillgar iawn â'n gilydd. Nid oedd fy stoc i ond isel, fel yr eiddo yntau, a phlanasom er mwyn y bwyd yn fwy na dim arall am tua dwy flynedd. Fodd bynnag, dechreuasom fynd ar gynnydd, a dechreuodd ein tir ddyfod i drefn; a'r drydedd flwyddyn planhasom dybaco, a darparodd pob un ohonom ddarn mawr o dir i blannu cyrs y flwyddyn wedyn. Ond yr oedd arnom eisiau help ein dau; a chanfyddwn yn awr, yn fwy nag o'r blaen, fy mod wedi gwneud camgymeriad wrth ymadael â'm bachgen Xury.
Yr oeddwn wedi gwneud trefniadau ynglŷn â'r blanhigfa i ryw raddau, cyn i'm cyfaill caredig, y capten, ddychwelyd; canys bu'r llong yno am dri mis bron. Pan ddywedais wrtho am y stoc fechan a adawswn ar ôl yn Llundain, rhoddodd i mi'r cyngor caredig a ganlyn: "Os rhowch chwi lythyrau i mi, a gorchymyn i'r person y mae eich arian ganddi yn Llundain anfon eich eiddo i Lisbon, i bersonau a nodir gennyf fi, ac mewn nwyddau priodol i'r wlad hon, dygaf y pethau i chwi pan ddychwelaf, os Duw a'i myn. Ond ni chynghorwn i chwi yrru am ddim ond canpunt, sef hanner eich stoc, ac os daw yn ddiogel, gellwch yrru am y gweddill yn yr un modd."
Yr oedd hwn yn gyngor mor dda, fel yr argyhoeddwyd fi mai dyma'r cwrs gorau i'w gymryd; felly darperais lythyrau i'r foneddiges y gadawswn fy arian gyda hi. A phan ddaeth y capten onest hwn i Lisbon, darganfu ffordd, drwy rai o'r masnachwyr Seisnig oedd yno, i yrru drosodd nid yr archeb yn unig, ond hefyd adroddiad cyflawn o'm hanes i fasnachwr yn Llundain, yr hwn a'i hadroddodd yn llawn iddi hithau. Ar hynny, gyrrodd hithau, nid yn unig yr arian, ond anfonodd hefyd o'i phoced ei hun anrheg hael i'r capten am ei diriondeb a'i garedigrwydd tuag ataf. Ac wedi i'r masnachwr yn Llundain brynu gwerth canpunt o nwyddau, y cyfryw ag yr ysgrifenasai'r capten amdanynt, anfonodd hwynt ar eu hunion iddo i Lisbon, a dug yntau'r cwbl yn ddiogel i mi i'r Brazils.
Pan gyrhaeddodd y cargo hwn, tybiwn fy mod wedi gwneud fy ffortiwn. Heblaw hyn, yr oedd y capten wedi dyfod â gwas i mi, ac ni chymerai ddim cydnabyddiaeth amdano, oddieithr ychydig dybaco. Ac nid dyna'r cwbl, ond gan fod fy nwyddau yn bethau hynod werthfawr yn y wlad honno, llwyddais i'w gwerthu er mantais fawr i mi; a gallaf ddweud i mi dderbyn mwy na'u gwerth bedair gwaith, ac yr oeddwn yn awr ymhell tuhwnt i'm cymydog druan, hynny yw, ynglŷn â chynnydd fy mhlanhigfa; canys y peth cyntaf a wneuthum ydoedd prynu caethwas o negro, a gwas Ewropeaidd hefyd, sef, un arall heblaw'r un a ddug y capten i mi o Lisbon.
Wedi byw am bedair blynedd bron yn y Brazils, a dechrau ffynnu a llwyddo yn lled dda ar fy mhlanhigfa, yr oeddwn nid yn unig wedi dysgu'r iaith, ond wedi ennill cydnabod a chyfeillgarwch ymhlith fy nghyd-blanwyr yn ogystal ag ymysg y masnachwyr yn St. Salvador ein porthladd ni, ac yn fy ymddiddanion â hwynt yr oeddwn yn fynych wedi adrodd yr hanes wrthynt am fy nwy fordaith i lannau Guinea, y dull o fasnachu â'r negroaid yno, ac mor hawdd oedd prynu ar y glannau am ryw fân bethau,—megis gleiniau, teganau, cyllyll, sisyrnau, bwyeill, darnau o wydr, a phethau o'r fath, nid yn unig lwch aur, grawn Guinea, dannedd cawrfilod, etc., ond negroaid i wasanaethu'r Brazils yn niferoedd mawrion.
Gwrandawent yn astud iawn bob amser ar fy areithiau ar y pennau hyn, ond yn arbennig ar y rhan honno oedd yn sôn am brynu negroaid, masnach na wneid mohoni i raddau mawr y pryd hwnnw, ond cyn belled ag y gwneid hi, dygasid hi ymlaen trwy assiento, neu ganiatâd brenhinoedd Ysbaen a Phortugal; fel na phrynid ond ychydig Negroaid, a'r rheini yn eithafol o ddrud.
Wedi bod yng nghwmni rhai masnachwyr a phlanwyr o'm cydnabod, a siarad yn frwd anghyffredin am y pethau hynny, digwyddodd tri ohonynt ddyfod ataf fore trannoeth, a dywedasant wrthyf eu bod wedi bod yn meddwl yn ddwys am y peth y soniaswn amdano wrthynt y noson cynt, ac yr oeddynt wedi dyfod i wneud cynnig cyfrinachol i mi. Ac ar ol fy rhybuddio i gadw'r gyfrinach, dywedasant wrthyf fod arnynt awydd trefnu llong i fynd i Guinea; fod ganddynt hwythau i gyd blanigfeydd fel finnau, ac nad oedd dim yn cyfyngu mwy arnynt na'r angen am weision; ond gan ei bod yn fasnach na ellid parhau ynddi oherwydd na allent werthu'r negroaid ar goedd ar ôl dyfod adref, felly nid oeddynt am wneud dim ond un fordaith, a dwyn y negroaid i'r lan yn ddirgel a'u rhannu ymysg eu planigfeydd eu hunain; ac mewn gair, y cwestiwn oedd, a awn i yn y llong fel goruchwyliwr iddynt i drefnu'r rhan fasnachol ar lannau Guinea; a chynigient i mi y cawn innau ran gyfartal o'r Negroaid heb i mi gyfrannu dim at y stoc.
Ni fedrwn wrthod y cynnig hwn mwy nag y medrwn wrthwynebu fy nhueddiadau cyntaf grwydro pan wrthodais gynghorion da fy nhad. Mewn gair, dywedais y byddai'n dda o galon gennyf fynd, os ymgymerent hwy â gofalu am fy mhlanhigfa yn fy absenoldeb, a'i gwerthu yn ôl fy nghyfarwyddyd i os awn i ar goll. Ymrwymodd y cwbl i wneuthur hyn, a gwneuthum innau ewyllys ffurfiol yn trefnu ynglŷn â'm planhigfa a'm heiddo os byddwn farw; gan wneuthur capten y llong a achubasai fy mywyd yn unig etifedd i mi; ond gan ei rwymo i werthu fy mhethau fel y gorchmynnwn i yn fy ewyllys; hanner yr elw i fod yn eiddo iddo ef, a'r llall i'w yrru mewn llong i Loegr.
Wedi paratoi'r llong a threfnu'r cargo, a phopeth wedi ei wneud megis trwy gytundeb gan fy mhartneriaid yn y fordaith, euthum ar y bwrdd ar awr ddrwg eto, y cyntaf o Fedi, 1659, wyth mlynedd i'r dydd yr euthum oddi wrth fy nhad a'm mam yn Hull, er mwyn actio'r gwrthryfelwr yn erbyn eu hawdurdod hwy, a'r ffŵl er fy lles fy hun.
Tua 120 tunnell ydoedd llwyth ein llong; cariai chwe gwn a phedwar ar ddeg o ddynion, heblaw'r meistr, ei fachgen, a minnau. Y diwrnod yr euthum ar y bwrdd, hwyliasom ymaith gan ddal i'r gogledd ar hyd y glannau. Cawsom dywydd da iawn, ond ei bod yn boeth anghyffredin ar hyd ein harfordir ni hyd nes y daethom i olwg Cape St. Augustino, lle y collasom olwg ar y tir wrth ddal allan i'r môr a hwylio fel pe baem yn rhwym am Ynys Fernando de Noronha. Ar y cwrs yma aethom dros y Llinell ymhen tua deuddeng niwrnod, ac yr oeddem 7 gradd a 22 munud yn lledred y gogledd, pan ddaeth tornado neu gorwynt dychrynllyd ar ein gwarthaf yn hollol ddiarwybod i ni. Dechreuodd o'r de-ddwyrain, trôdd wedyn i'r gogledd-orllewin, ac yna arhosodd yn y gogledd-ddwyrain, o'r lle y chwythodd mewn modd mor arswydus ag na allem wneud dim am ddeuddeng niwrnod ond gyrru, a chan redeg i ffwrdd o'i flaen, gadael iddo ein cludo lle y mynnai ffawd a chynddaredd y gwyntoedd; ac yn ystod y deuddeng niwrnod hyn, nid rhaid i mi ddim dweud fy mod yn disgwyl cael fy llyncu beunydd, ac yn wir nid oedd neb yn y llong yn disgwyl yr achubid eu bywydau.
Yn yr helynt hwn, bu farw un o'n dynion drwy'r dwymyn, a golchwyd dros y bwrdd un dyn a'r bachgen. Tua'r deuddegfed dydd, wedi i'r tywydd liniaru ychydig, archwiliodd y meistr orau y medrai a chanfu ei fod tuag un radd ar ddeg yn lledred y gogledd, ond ei fod tua dwy radd ar hugain yn fwy i'r gorllewin o Cape St. Augustino. Canfu felly ei fod wedi cyrraedd arfordir Guiana, neu ogleddbarth Brazil, tu draw i afon Amazon, i gyfeiriad afon Orinoco a elwir yn gyffredin Yr Afon Fawr; a dechreuodd ymgynghori â mi ar ba gwrs i'w gymryd, gan fod y llong yn gollwng dŵr ac wedi ei niweidio yn bur ddrwg, ac yr oedd am fynd yn ôl ar ei union i lannau Brazil.
Gwrthwynebwn hynny yn bendant; ac wrth edrych dros siartiau glannau America gydag ef, barnasom nad oedd yr un wlad gyfannedd i ni i gyrchu amdani nes dyfod i gylch Ynysoedd Carribee ac felly penderfynasom sefyll allan i gyfeiriad Barbadoes. Wrth gadw allan i'r môr, osgoi tynfa Bae Mexico gobeithiem gyrraedd yno wedi hwylio am tua phymtheng niwrnod, gan na fedrem byth wneud y fordaith i arfordir Affrica heb rywfaint o gymorth i'r llong yn ogystal ag ni ein hunain.
Gyda'r bwriad hwn newidiasom ein cwrs, a hwyliasom i'r Gogledd-Orllewin, er mwyn cyrraedd rhai o'r Ynysoedd Seisnig, lle y disgwyliwn ymwared; ond a ninnau yn lledred 12 gradd 18 munud, daeth ail storm ar ein gwarthaf a'n cludodd tua'r gorllewin gyda'r un angerdd, ac fe'n gyrrodd cyn belled oddiwrth bob trafnidaeth ddynol, fel yr oeddem mewn perygl cael ein difa gan anwariaid yn hytrach na dychwelyd byth i'n gwlad ein hun, hyd yn oed pe gwaredid ein bywydau rhag y môr.
Yn yr helynt hwn, a'r gwynt eto yn chwythu yn lled gryf, yn gynnar yn y bore dyma un o'n dynion yn gweiddi "Tir!" a chyn gynted â'n bod wedi rhedeg allan o'r caban gan ddisgwyl gweld ymhle yn y byd yr oeddem, dyma'r llong yn taro ar y tywod, ac mewn munud dyna'r môr yn torri drosti yn y fath fodd nes peri i ni i gyd feddwl ei bod wedi darfod amdanom ar unwaith; ac fe'n gyrrwyd i gyd i'n llochesau i ymguddio rhag ewyn a throchion y môr.
Gan fod y llong wedi taro ar y tywod, ac wedi glynu gormod i ni i feddwl ei chael ymaith, yr oeddem mewn cyflwr difrifol iawn, ac nid oedd dim i'w wneud ond ceisio achub ein bywydau orau y medrem. Yr oedd gennym gwch wrth starn ychydig cyn y storm, ond fe'i torrwyd ddechrau trwy iddo guro yn erbyn llyw'r llong, ac wedyn torrodd yn rhydd, ac un ai fe suddodd neu ynteu fe'i gyrrwyd allan i'r môr, fel nad oedd dim gobaith amdano. Yr oedd gennym gwch arall ar y bwrdd, ond yr oedd yn amheus a ellid ei gael allan i'r môr. Fodd bynnag nid oedd dim amser i amau, gan y tybiem y torrai'r llong yn ddarnau bob munud, a dywedai rhywrai ei bod eisoes wedi torri.
Yn yr helbul hwn, cydiodd mêt y llong yn y cwch, a chyda help y gweddill o'r dynion, taflasant ef dros ochr y llong; a chan fynd iddo i gyd, gollyngasom ef yn rhydd, ac fe'n bwriasom ein hunain (un ar ddeg mewn nifer) ar drugaredd Duw a'r môr gwyllt. Canys er bod y storm wedi gostegu cryn lawer, eto codai'r môr yn uchel ddychrynllyd ar y traeth, a gellid yn hawdd ei alw den wild zee, fel y geilw'r Isalmaenwyr y môr mewn storm.
Wedi i ni rwyfo, neu yrru yn hytrach, tua milltir a hanner, cododd ton gynddeiriog, fel mynydd, o'r tu ôl i ni, ac fe'n trawodd gyda'r fath gynddaredd nes dymchwelyd y cwch ar unwaith, a chan ein gwahanu oddiwrth y cwch yn ogystal ag oddiwrth ein gilydd, ni roddodd i ni bron ddigon o amser i ddweud "O Dduw," canys fe'n llyncwyd oll mewn munud.
Ni all dim ddisgrifio'r dryswch meddwl a deimlwn pan suddais i'r dŵr; canys er y gallwn nofio yn lled dda, eto ni fedrwn ymryddhau o'r tonnau er mwyn cael fy anadl, nes i'r don honno wedi iddi fy ngyrru, neu fy nghario yn hytrach, fynd yn ôl, a'm gadael ar dir sych bron, eithr yn hanner marw gan y dŵr yr oeddwn wedi ei lyncu. Yr oedd gennyf ddigon o barodrwydd meddwl yn ogystal ag o anadl ar ôl, fel, wrth fy ngweld fy hun yn nes i'r tir mawr nag y disgwyliwn, y codais ar fy nhraed a cheisiais gyrchu i'r tir cyn gynted ag y medrwn cyn i don arall ddychwelyd a'm codi eilwaith. Ond gwelais yn bur fuan mai amhosibl oedd ei hosgoi; canys gwelwn y môr yn fy nilyn cyn uched â bryn mawr, ac mor ffyrnig â gelyn nad oedd gennyf na modd na nerth i ymladd yn ei erbyn. Fy ngwaith i oedd dal fy anadl, a'm codi fy hunan ar y dŵr os medrwn; a'm pryder pennaf yn awr oedd y byddai i'r don wrth iddi fy nghludo ymhell tua'r lan pan ddeuai ymlaen, fy nghludo'n ôl drachefn pan giliai i gyfeiriad y môr.
Bu i'r don a ddaeth ar fy ngwarthaf drachefn fy nghladdu ar unwaith tuag ugain neu ddeg troedfedd ar hugain yn ei chrombil, ac fe'm clywn fy hun yn cael fy nghario gyda grym a chyflymdra aruthrol tua'r lan am ffordd bell; ond deliais fy anadl, a cheisiais nofio ymlaen gyda'm holl nerth. Yr oeddwn bron a hollti wrth ddal fy ngwynt, pan glywn fy mhen a'm dwylo yn saethu ymlaen dros wyneb y dŵr, ac er na fedrwn fy nal fy hun felly am ddau eiliad, eto cefais beth anadl a dewrder newydd. Fe'm gorchuddiwyd eilwaith â dŵr am gryn amser, ond nid yn rhy hir i mi fedru dal; ac wrth weld y dŵr yn dechrau cilio, gwthiais ymlaen yn erbyn y tonnau a theimlwn y tir â'm traed drachefn. Sefais yn llonydd am ychydig funudau i ennill fy anadl nes i'r dŵr gilio oddiwrthyf, yna sodlais hi a rhedais gyda hynny o nerth oedd gennyf i gyfeiriad y lan. Ond ni wnâi hyn ychwaith fy ngwaredu rhag cynddaredd y môr a ymarllwysai arnaf unwaith yn rhagor, ac fe'm codwyd ddwywaith drachefn gan y tonnau, ac fe'm cludwyd ymlaen fel cynt, gan fod y traeth yn lled wastaď.
Bu'r tro olaf o'r ddau bron yn angau i mi; gan i'r môr fy nhaflu yn erbyn darn o graig, a hynny gyda'r fath rym nes fy ngwneud yn hurt ac yn hollol ddiymadferth i'm gwaredu fy hun; a chan i'r ergyd wrth daro fy ystlys a'm mynwes guro'r anadl bron i gyd o'm corff; a phe buasai wedi dychwelyd ar unwaith, buaswn wedi fy nhagu yn y dŵr. Ond dadebrais ychydig cyn i'r tonnau ddychwelyd, ac wrth weld y cuddid fi eto â'r dŵr, penderfynais ddal gafael mewn darn o graig, a dal fy anadl felly os medrwn, nes i'r don gilio. Gan nad oedd y tonnau cyfuwch ag oeddynt ar y cyntaf, deliais fy ngafael nes i'r don dawelu, ac yna cymerais râs arall, a'm dug mor agos i'r lan, fel na wnaeth y don nesaf mo'm llyncu nes fy nghludo ymaith; a'r râs nesaf a gymerais, cyrhaeddais y tir mawr, lle y dringais fyny allt y môr ac eisteddais ar y glaswellt, yn rhydd o bob perygl ac yn hollol glir o afael y dŵr.
Yr oeddwn yn awr yn ddiogel ar y lan, a dechreuais edrych i fyny a diolch i Dduw fod fy mywyd wedi ei arbed er nad oedd ond ychydig obaith am hynny ychydig funudau ynghynt. Cerddais o amgylch ar hyd y traeth, gan godi fy nwylo a gwneud miloedd o ystumiau ac ysgogiadau na fedraf eu disgrifio, a meddwl am fy holl gymdeithion oedd wedi boddi heb ddim enaid wedi ei achub heblaw fi; canys, gyda golwg arnynt hwy, ni welais mohonynt wedyn na'r un arwydd ohonynt, dim ond tair o'u hetiau, un cap, a dwy esgid heb fod yn gymheiriaid.
Yna dechreuais edrych o'm cwmpas i weld ymha fath le yr oeddwn, a beth oedd i'w wneud nesaf, a gwelwn fy mod wedi cael gwaredigaeth ofnadwy, canys yr oeddwn yn wlyb, heb ddim dillad i'w newid, na dim byd i'w fwyta nac i'w yfed i'm cysuro; ni welwn ychwaith ddim rhagolygon o'm blaen heblaw marw o newyn neu fy nifa gan fwystfilod rheibus; a'r peth oedd yn peri trallod arbennig i mi oedd, nad oedd gennyf yr un arf i hela a lladd rhyw greadur yn gynhaliaeth i mi, neu i'm hamddiffyn fy hun rhag un o'r creaduriaid a fynnai fy lladd yn fwyd. Mewn gair, nid oedd gennyf ddim byd ond cyllell, pibell, ac ychydig dybaco mewn blwch. Dyma'r unig ddarpariaeth oedd gennyf, a pharodd hyn boen meddwl arswydus i mi, fel y rhedwn oddi amgylch fel gwallgofddyn am beth amser. Ac wrth i'r nos ddynesu, gyda chalon drom, dechreuais feddwl beth fyddai fy nhynged os oedd bwystfilod rheibus yn y wlad honno. Yr unig ymwared a ymgynigiai ei hun i'm meddwl ar y pryd oedd dringo i goeden frigog dew a dyfai yn fy ymyl, lle y penderfynais gysgu drwy'r nos. Cerddais tua milltir o'r traeth i edrych a gawn i ddŵr croyw i'w yfed, ac er llawenydd i mi fe gefais beth; ac wedi yfed a rhoi ychydig dybaco yn fy ngheg i dorri fy newyn, euthum at y goeden, a chan ddringo iddi ceisiais fy ngosod fy hun fel na syrthiwn pe digwyddwn gysgu, ac wedi torri math o bastwn byr i'm hamddiffyn fy hun, yno y lletyais; a chan fy mod wedi blino yn anghyffredin, cysgais yn drwm ac mor gysurus mi gredaf ag y gwnâi nemor neb yn y cyflwr yr oeddwn i ynddo.