Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod IX

Oddi ar Wicidestun
Pennod VIII Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod X

PENNOD IX.
ROBINSON YN CAEL YCHWANEG O DACLAU O'R HEN LONG—AFIECHYD A THRALLOD.

MAI 1.—Yn y bore, wrth edrych i gyfeiriad y môr, a'r llanw'n isel, gwelwn rywbeth mwy na'r cyffredin yn gorwedd ar y traeth, ac edrychai fel casgen. Pan ddeuthum ato, cefais faril fechan a dau neu dri dernyn o'r llong, wedi eu gyrru i'r lan gan y dymestĺ; ac wrth edrych i gyfeiriad y darn llong, tybiwn ei bod yn gorwedd yn uwch o'r dŵr nag yr arferai Archwiliais y faril, a gwelais yn fuan mai barilaid o bowdwr—gwn ydoedd, ond yr oedd wedi gwlychu, ac yr oedd y powdwr wedi caledu fel carreg; sut bynnag, rowliais hi ymhellach i'r lan, ac euthum ymlaen ar hyd y tywod cyn nesed ag y medrwn i'r darn llong i edrych am ychwaneg.

Pan ddeuthum i lawr at y llong, gwelais ei bod wedi ei symud yn rhyfedd. Yr oedd y fforcasl, a gladdesid mewn tywod o'r blaen, wedi ei godi i fyny o leiaf chwe throedfedd, a'r starn wedi ei dorri'n ddarnau ac wedi ei ysgaru oddi wrth y gweddill gan rym y môr, ac wedi ei fwrw ar y naill ochr, a'r tywod wedi cael ei luchio mor uchel ar yr ochr nesaf i'r starn, fel y gallwn gerdded ati'n awr pan oedd y llanw allan.

Parodd hyn i mi newid fy syniadau yn llwyr ynglŷn â'r cynllun o symud fy nhrigfan; a bûm yn brysur anghyffredin, yn enwedig y diwrnod hwnnw, yn chwilio a allwn ganfod ffordd i'r llong; ond gwelais na allwn ddisgwyl dim o'r fath, gan fod y tu mewn i'r llong wedi ei dagu'n llwyr â thywod. Fodd bynnag, penderfynais dynnu'n ddarnau o'r llong bopeth a allwn, gan gredu y byddai popeth a allwn ei gael ohoni o ryw ddefnydd i mi.

Mai 3—Dechreuais â'm llif, a thorrais ddarn o drawst drwodd, ac wedi i mi ei dorri drwodd, cliriais y tywod ymaith gystal ag y medrwn o'r ochr uchaf, ond gan i'r llanw ddyfod i mewn bu raid i mi roi'r gorau iddi am y tro.

Mai 4.—Euthum i bysgota, ond ni ddeliais yr un pysgodyn y gallwn fentro ei fwyta, nes yr oeddwn wedi blino ar fy sbort; pan oeddwn ar roi'r gorau iddi, deliais ddolffin ieuanc. Yr oeddwn wedi gwneud lein hir o edau raff, ond nid oedd gennyf ddim bachau; eto daliwn ddigon o bysgod yn aml,—gymaint ag a fedrwn eu bwyta; sychwn y rhain i gyd yn yr haul, a bwytawn hwynt yn sych.

Mai 24.—Bob dydd, hyd at y dydd hwn, gweithiais ar yr hen long, a chyda llafur caled tynnais gymaint o bethau'n rhydd â'r trosol, fel gyda'r llanw nesaf nofiodd amryw gasgiau ohoni, a dwy gist llongwr. Ond gan fod y gwynt yn chwythu o'r tir, ni ddaeth dim i'r lan y diwrnod hwnnw ond darnau o goed, a hogsied a chig moch Brazil ynddi, ond yr oedd y dŵr hallt a'r tywod wedi ei ddifetha.

Dilynais y gwaith hwn bob dydd hyd y 15 o Fehefin, ag eithrio'r amser angenrheidiol i gael bwyd; a threfnwn i hynny ddigwydd pan fyddai'r llanw i fyny, fel y byddwn yn barod wedi i'r trai fynd allan. Ac erbyn hyn yr oeddwn wedi cael digon o goed, a phlanciau, a haearn i adeiladu cwch helaeth, petaswn yn gwybod sut; hefyd yr oeddwn wedi cael, o dro i dro mewn mân ddarnau, bron ganpwys o blwm.

Mehefin 16.—Wrth fynd i lawr i lan y môr, cefais hyd i grwban mawr. Dyma'r cyntaf a welswn, ac ymddengys mai fy anffawd i oedd hynny, ac nid bai'r lle na phrinder, canys pe digwyddaswn fod yr ochr arall i'r ynys, gallaswn fod wedi cael cannoedd ohonynt bob dydd, fel y gwelais wedyn, ond hwyrach y buaswn wedi talu'n ddigon drud amdanynt.

Meh. 17.—Treuliais hwn i goginio'r crwban. Cefais drigain o wyau ynddo; ac i mi, yr adeg honno, yr oedd ei gig y mwyaf blasus a'r mwyaf dymunol a brofaswn yn fy mywyd, gan nad oeddwn wedi cael dim cig heblaw cig geifr ac adar, er pan leniais yn y lle arswydus hwn.

Meh. 18.—Bwrw glaw drwy'r dydd, a minnau'n aros i mewn. Tybiwn yr adeg hon fod y glaw i'w glywed yn oer, ac yr oeddwn braidd yn rhynllyd, peth anghyffredin yn y rhan honno.

Meh. 19.—Gwael iawn, a rhynllyd fel petasai'r tywydd yn oer.

Meh. 20.—Dim gorffwys drwy'r nos; poenau ofnadwy yn fy mhen, ac mewn twymyn.

Meh. 21.—Gwael iawn; wedi dychrynu bron hyd farw oherwydd ofnau am fy nghyflwr truenus o fod yn sâl a heb gymorth; gweddio ar Dduw am y tro cyntaf er adeg y storm tu allan i Hull; ond prin y gwyddwn beth a ddywedwn, gan fod fy meddwl yn ddryslyd iawn.

Meh. 22.—Ychydig yn well, ond ofn salwch arnaf yn arswydus.

Meh. 23.—Gwael iawn eto; oer a rhynllyd, ac wedyn cur dychrynllyd yn fy mhen.

Meh. 24.—Gwell o lawer.

Meh.25.—Cryndod ofnadwy';' mewn ffit am'saith awr; ffit oer a phoeth; chwysu'n ysgafn ar ei hôl. Meh. 26.—Gwell; a chan nad oedd gennyf ddim bwyd i'w fwyta, mynd gyda'r gwn, ond fy nghlywed fy hun yn wan iawn. Fodd bynnag, lleddais afr, a chyda llawer o drafferth deuthum â hi adref, a rhostio peth ohoni, a bwyta. Caraswn ei stiwio a gwneud cawl, ond nid oedd crochan gennyf.

Meh. 27. Y cryd mor ofnadwy eto fel y gorweddais ar fy ngwely drwy'r dydd, heb na bwyta nac yfed. Yr oeddwn bron â marw gan syched, ond mor wan, fel nad oedd gennyf mo'r nerth i sefyll, nac i estyn dŵr i'w yfed. Gweddïo ar Dduw eto, ond yr oeddwn yn benysgafn; a phan nad oeddwn, yr oeddwn mor ddwl fel na wyddwn beth i'w wneud; dim ond gorwedd a gweiddi,

Arglwydd, edrych arnaf! Arglwydd, tosturia wrthyf! Arglwydd, bydd drugarog wrthyf!" Mae'n debyg na wneuthum ddim arall am ddwyawr neu dair, hyd nes y cysgais wedi i'r wasgfa fynd heibio, ac ni ddeffroais nes ei bod ymhell i'r nos.

Pan ddeffroais, yr oeddwn wedi fy adfywio'n fawr, ond yn wan ac yn sychedig anghyffredin. Fodd bynnag, gan nad oedd gennyf ddim dŵr yn fy nhrigfan, gorfu i mi orwedd tan y bore, ac euthum i gysgu drachefn.

Yn fy nghwsg breuddwydiais, a gwelwn ŵr yn disgyn o gwmwl du mawr mewn fflam dân, a chanddo waywffon hir yn ei law i'm lladd. A chlywais ryw lais erchyll yn dywedyd wrthyf: Gan nad yw'r pethau hyn i gyd ddim wedi dy arwain i edifeirwch, yn awr ti a fyddi farw." Ac ar y geiriau hyn tybiwn ei fod yn codi'r waywffon oedd yn ei law i'm lladd.

Och fi! Nid oedd gennyf ddim gwybodaeth ddiwinyddol; yr oedd yr hyn a gawswn trwy addysg dda fy nhad wedi ei dreulio allan gan wyth mlynedd o annuwioldeb ar y môr, ac ymddiddan cyson â rhai oedd fel finnau yn annuwiol a chableddus i'r eithaf. Nid wyf yn cofio, yn ystod yr amser hwnnw i gyd, fod ynof yr un meddwl oedd gymaint ag yn tueddu i edrych i fyny tuag at Dduw, na thuag i mewn i ystyried fy ffyrdd; ond yr oedd rhyw ddylni enaid, heb ddymuno dim da, a heb ymwybod â'r drwg, wedi fy llwyr orchfygu; ac yr oeddwn yn bopeth y gellid disgwyl i'r creadur mwyaf annuwiol, caled, a difeddwl ymysg llongwyr cyffredin fod, heb feddu'r syniad lleiaf am ofn Duw mewn perygl nac am ddiolchgarwch i Dduw mewn gwaredigaethau.

Mae'n wir, pan leniais yma gyntaf, a gweld holl griw fy llong wedi boddi, a minnau wedi fy achub, fy mod yn synnu â math o berlewyg a gorfoledd enaid a allasai, gyda chymorth gras Duw, fod wedi troi'n wir ddiolchgarwch; ond diweddodd lle y dechreuodd, mewn hwyl o lawenydd yn unig; dim byd ond math o lawenydd cyffredin fel y bydd gan forwyr wedi eu dwyn i'r lan yn ddiogel o longddrylliad, ac a anghofir ganddynt bron cyn gynted ag y bo drosodd; ac yr oedd gweddill fy oes innau felly. Hyd yn oed y ddaeargryn, er na allai dim byd fod yn fwy ofnadwy yn ei natur, na dim ddangos y Gallu anweledig yn fwy uniongyrchol, eto nid cynt yr oedd y braw cyntaf drosodd nag y diflannodd yr argraff a wnaethai hefyd.

Ond yn awr, pan ddechreuais fod yn sâl, a phan ddechreuodd fy ysbrydoedd suddo dan faich afiechyd cryf, a Natur wedi diffygio gan rym y clefyd, dechreuodd fy nghydwybod, a fuasai yng nghwsg cyhyd, ddihuno, a dechreuais edliw i mi fy hun orffennol fy mywyd.

"Yn awr," meddwn yn uchel, "y mae geiriau fy nhad wedi dod i ben; y mae cyfiawnder Duw wedi fy nal, ac nid oes gennyf neb i'm cynorthwyo nac i wrando arnaf. Trois yn glustfyddar i lais Rhagluniaeth a'm gosodasai'n drugarog mewn sefyllfa bywyd lle y gallaswn fod yn hapus ac yn esmwyth, ond ni welwn mo hynny fy hunan, ac ni fynnwn wybod gan fy rhieni fendith oedd yn hynny. Gadewais hwynt i alaru uwchben fy ffolineb, ac yn awr fe'm gadewir innau i alaru oherwydd canlyniadau hynny. Gwrthodais eu help a'u cynhorthwy, ac yn awr y mae gennyf anawsterau i'w gorchfygu, a heb ddim cynhorthwy, dim cysur, dim cyngor."

Yna llefais allan: "Arglwydd, bydd yn gymorth i mi, canys yr wyf mewn cyfyngder."

Dyma'r weddi gyntaf, os yw yn iawn i mi ei galw felly, a wnaethwn ers blynyddoedd. Ond dychwelaf at fy nyddlyfr.

Nodiadau

[golygu]