Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod VI
← Pennod V | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod VII → |
PENNOD VI.
EI GARTREF UNIGRWYDD—MYFYRDODAU CYSURLAWN.
CANFÛM yn fuan nad oedd hwn ddim yn lle i mi gartrefu ynddo, yn enwedig gan ei fod ar dir corsog isel wrth y môr, a chredwn na fyddai'n iach; yn fwyaf arbennig, gan nad oedd yno ddim dŵr croyw yn ei ymyl. Felly penderfynais gael llecyn iachach a mwy cyfleus.
Bûm yn ystyried amryw bethau ynglŷn â'm sefyllfa. Yng nghyntaf, iechyd a dŵr croyw y soniais gynnau amdanynt. Yn ail, cysgod rhag gwres yr haul. Yn drydydd, diogelwch rhag creaduriaid rheibus, un ai dynion neu fwystfilod. Yn bedwerydd, golygfa i'r môr, fel os anfonai Duw long i'r golwg na chollwn i'r un fantais am ymwared.
Wrth chwilio am le priodol i hyn, deuthum o hyd i wastadedd bychan ar ochr bryn, a'i wyneb yng nghyfeiriad y gwastatir cyn sythed â phared tŷ, fel na fedrai dim byd ddisgyn arnaf o'r top. Ar ochr y graig hon yr oedd pant, wedi treulio ychydig i mewn, fel genau neu ddrws ogof; ond nid oedd yno yr un ogof iawn na ffordd i'r graig o gwbl.
Ar wastad y llannerch, yn union o flaen y pant hwn, penderfynais osod fy mhabell. Nid oedd y gwastadedd hwn dros gan lath o led, a thua chyhyd ddwywaith, ac yr oedd fel lawnt o flaen fy nrws; ac yn ei ben draw disgynnai'n anwastad bob ffordd i lawr i'r gwastadeddau ger glan y môr. Yr oedd ar ochr y Gogledd—Orllewin i'r bryn; fel y'm cysgodid rhag y gwres bob dydd hyd nes y deuai'r haul i'r De—Orllewin, sy'n agos i'r machlud yn y gwledydd hynny.
Cyn codi fy mhabell, tynnais hanner cylch o flaen y pant, rhyw ddecllath o led o'r graig, ac ugain lath mewn tryfesur o'i ddechrau i'w ddiwedd. Yn yr hanner cylch hwn gosodais ddwy res o ystanciau cryfion gan eu gyrru i'r ddaear nes bod y pen tewaf tua phum troedfedd a hanner o'r ddaear ac yn flaenfain ar y top. Nid oedd dim mwy na chwe modfedd rhwng y ddwy res.
Yna cymerais y darnau rhaffau a doraswn yn y llong, a gosodais hwynt yn rhesi y naill ar y llall tufewn i'r cylch rhwng y ddwyres ystanciau hyn; ac yr oedd y clawdd hwn mor gryf fel na allai na dyn na bwystfil fynd i mewn trwyddo na throsto. Costiodd hyn lawer o amser a llafur i mi, yn enwedig i dorri'r polion yn y coed, eu cludo i'r lle, a'u gyrru i'r ddaear. Nid drws oedd y fynedfa iddo, ond ysgol fechan i fynd dros y top; a phan fyddwn i mewn, codwn yr ysgol ar fy ôl, a thrwy hynny yr oeddwn wedi fy nghau i mewn yn hollol, a chysgwn yn dawel drwy'r nos.
I'r gaer neu'r amddiffynfa hon, gyda llafur diderfyn, cludais fy holl gyfoeth, fy holl ymborth, y taclau saethu, a'r trysorau y rhoddwyd eu hanes uchod; a gwneuthum babell fawr ddwbl i'm diogelu rhag y glawogydd, hynny yw, un babell fechan o'r tu mewn, a phabell fwy uwch ei phen, a gorchuddiais yr uchaf â tharpowlin mawr. I'r babell hon euthum â'm bwyd i gyd, a phopeth a ddifethid gan y gwlybaniaeth.
Wedi i mi wneud hyn, dechreuais weithio fy ffordd i'r graig; a chan gludo drwy fy mhabell y pridd a'r cerrig a gloddiais allan, pentyrrais hwynt y tu mewn i'm caer nes codi'r llawr y tu mewn tua throedfedd a hanner; ac fel hyn y gwneuthum ogof yn union y tu cefn i'm pabell, a wasanaethai fel seler i'm tŷ. Costiodd i mi lawer o lafur ac amryw ddyddiau cyn perffeithio'r pethau hyn i gyd. Ond gorffennais y cwbl ymhen rhyw bythefnos; a rhennais fy mhowdwr yn rhyw gant o barseli. Rhoddais y faril oedd wedi gwlychu yn fy ogof newydd, a chuddiais y gweddill mewn tyllau yn y creigiau rhag ofn iddo wlychu, gan sylwi'n ofalus iawn ymha le dodwn ef.
Yn ystod yr amser hyn, awn allan gyda'm gwn unwaith o leiaf bob dydd, i'm mwynhau fy hun yn ogystal ag i weld a fedrwn i saethu rhywbeth gwerth ei fwyta. Y tro cyntaf yr euthum allan gwelais yn fuan fod geifr yn yr ynys; ond yr oeddynt mor swil, mor graff, ac mor gyflymdroed, fel mai'r peth anhawsaf yn y byd oedd mynd yn agos atynt. Un diwrnod lleddais afr a chanddi fyn bychan yn sugno, a pharodd hyn ofid mawr i mi; ond pan ddisgynnodd yr hen afr, safodd y myn yn farw—lonydd wrth ei hochr nes i mi fynd i'w chodi; ac nid hynny yn unig, ond pan gludais yr hen afr ymaith ar fy ysgwyddau, dilynodd y myn fi hyd at fy amddiffynfa. Ar hynny, rhoddais y famog i lawr, a chymerais y myn yn fy mreichiau, a chludais ef dros y clawdd gan ddisgwyl ei ddofi; ond ni wnâi fwyta dim, ac oherwydd hynny gorfu i mi ei ladd, a'i fwyta fy hunan. Rhoddodd y ddau hyn ddigon o gig i mi am amser maith, gan mai bwyta'n brin a wnawn, a chynilo fy mwyd, yn enwedig fy mara, gymaint fyth ag a fedrwn.
Ac yn awr gan fy mod ar fin rhoddi hanes golygfa brudd o fywyd tawel, y fath, efallai, na chlywyd am ei debyg yn y byd erioed o'r blaen, fe ddechreuaf o'r dechrau, ac fe'i dilynaf yn ei drefn. Yn ol fy nghyfrif i, y 30 o Fedi ydoedd pan osodais fy nhroed gyntaf ar yr ynys erchyll hon, pan oedd yr haul bron yn hollol uwch fy mhen; canys trwy sylwi, barnwn fy mod yn lledred 9° 22' ar y gogledd i'r llinell.