Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod VII
← Pennod VI | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod VIII → |
PENNOD VII.
DULL ROBINSON O GYFRIF AMSER—ANAWSTERAU YN CODI
TRWY DDIFFYG ARFAU—TREFNU EI GARTREF.
WEDI i mi fod yno am tua deng niwrnod neu ddeuddeg, trawodd i'm meddwl collwn fy nghyfrif ar amser trwy ddiffyg llyfrau a phin ac inc, ac yr anghofiwn hyd yn oed y Sabathau oddiwrth ddyddiau gwaith; ond i ochelyd hyn, fe'i torrais â'm cyllell mewn prif lythrennau ar bostyn mawr; a chan wneud croes fawr ohono, gosodais ef i fyny ar y traeth lle y gleniais gyntaf, fel hyn:
"Gleniais yma ar y 30 0 Fedi, 1659."
Ar ochrau'r postyn sgwâr hwn torrais fwlch â'm cyllell bob dydd, a'r seithfed bwlch bob tro gyhyd arall â'r gweddill, a phob dydd cyntaf o'r mis gyhyd arall â'r un hir hwnnw; ac fel hyn y cedwais fy nghalendr.
Wedi hyn, ymhlith pethau eraill a gludaswn o'r llong, deuthum ar draws amryw bethau defnyddiol i mi, megis, pin ysgrifennu, inc, a phapur, tri chwmpawd neu bedwar, siartiau, a İlyfrau morwriaeth. Hefyd, deuthum o hyd i dri Beibl ardderchog, llyfrau Portugaeg, ac yn eu mysg ddau neu dri o lyfrau gweddi Pabaidd, ac amryw lyfrau eraill. A rhaid i mi beidio ag anghofio hefyd fod gennym gi a dwy gath yn y llong; canys cludais y ddwy gath gyda mi; ac am y ci, neidiodd ohono'i hun o'r llong, a nofiodd i'r lan ataf y diwrnod ar ôl i mi lanio gyda'm llwyth cyntaf, a bu'n was ffyddlon i mi am lawer o flynyddoedd. Ni bu arnaf eisiau dim byd a allai ef ei nôl i mi, na chwmpeini a allai ef ei roddi i mi; dim ond eisiau iddo siarad â mi oedd arnaf, ond ni allai wneud hynny. Fel y sylwais o'r blaen, cefais hyd i bin sgrifennu, inc, a phapur, a chedwais hwynt yn ofalus; a thra parhaodd fy inc cedwais bethau'n fanwl iawn, ond wedi i hwnnw ddarfod ni allwn, gan na fedrwn ddyfeisio ffordd i wneud inc o gwbl.
Ac atgofiodd hyn fi fod arnaf eisiau amryw bethau, er gwaethaf popeth a gasglaswn ynghyd; ac ymysg y rhain, inc oedd un peth, a hefyd rhaw a chaib i gloddio neu symud y pridd, nodwyddau, pinnau, ac edau. Yr oedd diffyg arfau fel hyn yn peri bod pob gwaith a wnawn yn drwm iawn; ac aeth blwyddyn bron heibio cyn i mi orffen y clawdd o amgylch fy nhrigfan. Gwaith araf iawn oedd torri a darparu'r polion neu'r ystanciau yn y coed, ac arafach fyth oedd eu cludo adref; fel y treuliwn weithiau ddau ddiwrnod yn torri a chludo adref un o'r pyst hynny, a thrydydd diwrnod yn ei bwyo i'r ddaear. Ond pa raid oedd i mi ymboeni ynghylch meithder dim byd a wnawn a chennyf innau ddigonedd o amser i'w wneud? Ac nid oedd gennyf yr un gorchwyl arall, petasai hwnnw drosodd, oddieithr crwydro'r ynys i chwilio am fwyd; peth a wnawn fwy neu lai bob dydd. Ac yn awr gan fy mod yn dechrau dygymod â'm sefyllfa, ac wedi rhoddi heibio syllu i'r môr i edrych a welwn i long, dechreuais drefnu fy ffordd o fyw, a gwneud pethau cyn hawsed i mi ag y medrwn. Yr wyf eisoes wedi disgrifio fy nghartref, sef pabell o dan ochr craig, wedi ei hamgylchu â gwrych cadarn o byst a rhaffau; ond gallwn yn hytrach ei alw yn glawdd yn awr, gan i mi godi math o glawdd tywyrch yn ei erbyn, tua dwy droedfedd o drwch o'r tu allan; ac ymhen peth amser codais drawstiau arno â'u gogwydd i'r graig, a thoais ef â changau coed, ac unrhyw beth a fedrwn ei gael, i gadw'r glaw allan, a oedd yn ofnadwy ar rai adegau o'r flwyddyn.
Sylwais eisoes sut y cludais fy nghelfi i gyd i'r amddiffynfa hon ac i'r ogof a wneuthum y tu cefn iddi. Ond rhaid i mi sylwi hefyd mai pentwr cymysg o daclau oedd hwn ar y cyntaf, a chan nad oedd trefn yn y byd arnynt aent â'm lle i gyd; nid oedd gennyf ddim lle i droi. Felly ymroddais ati i helaethu fy ogof ac i weithio ymhellach i'r ddaear, gan mai craig rydd dywodog ydoedd, ac yn ildio'n rhwydd i'm llafur. Gweithiais ymlaen i'r dde i mewn i'r graig; ac yna, gan droi i'r dde drachefn, gweithiais allan, a gwneuthum ddrws i mi allu dyfod oddiyno yr ochr allan i'm gwrych neu'r amddiffynfa. Rhoddodd hyn i mi fath o ddrws cefn i'm pabell a'm hystordy, a digon o le i ystorio fy mhethau.
Ac yn awr dechreuais wneud y pethau yr oedd arnaf fwyaf o'u hangen, yn enwedig cadair a bwrdd; canys heb y rhain ni allwn fwynhau'r ychydig gysuron oedd gennyf yn y byd. Ni fedrwn nac ysgrifennu na bwyta heb ddim bwrdd; felly euthum ati i weithio. Nid oeddwn wedi bod yn trin yr un erfyn erioed yn fy mywyd; ac eto mewn amser, trwy lafur, ymdrech, a dyfais, canfûm o'r diwedd nad oedd arnaf eisiau dim na fedrwn ei wneud, yn enwedig petasai gennyf arfau. Sut bynnag, gwneuthum ddigonedd o bethau, hyd yn oed heb ddim arfau; a rhai heb arfau amgenach na neddau a bwyall. Mae'n wir y cymerai amser a llafur aruthrol i mi wneud astell neu fwrdd, ond nid oedd na'm hamser na'm llafur yn werth ond ychydig, ac felly nid oedd waeth i mi eu defnyddio'r naill ffordd mwy na'r llall. Ond fel y sylwais uchod, gwneuthum fwrdd a chadair i ddechrau; sef, o'r darnau byrion o ystyllod a ddygais ar y rafft o'r llong. Yna fe wneuthum silffoedd mawr, troedfedd a hanner o led, y naill uwchben y llall ar hyd un ochr i'r ogof i ddal fy arfau, hoelion, a haearn; mewn gair, i gadw popeth yn eu llefydd ar wahan, fel y down o hyd iddynt yn hawdd. Pwyais ddarnau wyneb y graig i hongian fy ngynnau a phopeth a ellid ei hongian; ac yr oedd popeth gennyf wrth law mor hwylus fel yr oedd yn bleser mawr i mi weld fy holl bethau mewn cystal trefn, ac yn enwedig gweld gennyf ystôr mor fawr o bethau angenrheidiol.
A dyma'r adeg y dechreuais gadw dyddlyfr o waith pob dydd; canys ar y cyntaf yr oedd gormod o frys arnaf, a'm meddwl yn rhy gyffrous; a buasai fy nyddlyfr hefyd yn orlawn o bethau diflas. Ond wedi i mi drefnu fy nodrefn a'm

Credaf mai dyma'r gwn cyntaf a daniasid yno er creadigaeth y byd.
cartref, gwneud bwrdd a chadair, a gwneud popeth o'm cylch cyn hardded ag y medrwn, dechreuais gadw fy nyddlyfr; a rhoddaf gopi ohono yma cyhyd ag y parhaodd; canys gan nad oedd gennyf ddim rhagor o inc, bu raid i mi roi'r gorau iddo.