Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XI Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XIII

PENNOD XII.
DYCHWELYD ADREF—LLWYDDO I DRIN Y TIR.

DYCHWELAIS ar hyd ffordd arall, gan dybio y medrwn yn hawdd gadw'r ynys i gyd gymaint yn fy ngolwg, fel na fethwn gael hyd i'm cartref cyntaf wrth edrych ar y wlad. Ond gwelais fy mod yn camsynied, canys wedi i mi ddyfod tua dwy filltir neu dair, gwelwn fy mod wedi disgyn i ddyffryn mawr, ond yr oedd wedi ei amgylchu â bryniau a'r rheini wedi eu gorchuddio â choed, fel na fedrwn weld fy ffordd ond yn ôl cyfarwyddyd yr haul, a dim hyd yn oed felly, oni bai fy mod yn gwybod yn iawn beth oedd safle'r haul yr adeg honno o'r dydd. Ac yn anffodus hefyd, digwyddodd fod y tywydd yn niwlog am dridiau neu bedwar tra'r oeddwn yn y dyffryn hwn; a chan na fedrwn weld yr haul, crwydrais o gwmpas yn bur anghysurus, ac o'r diwedd bu raid i mi gyrchu am y traeth, edrych am fy mholyn, a dychwelyd y ffordd yr aethwn; ac yna bob yn dipyn trois tuag adref, a'r tywydd yn hynod o boeth, a'm gwn, y taclau saethu, y fwyall, a phethau eraill yn drwm iawn. Ar y daith hon, cododd fy nghi fyn gafr ifanc a chydiodd ynddo; a chan redeg ato i afael ynddo deliais ef, ac achubais ef yn fyw oddiar y ci. Yr oedd arnaf awydd garw mynd ag ef adref os medrwn, canys yr oeddwn wedi bod yn meddwl droeon oni byddai'n bosibl cael myn neu ddau a chodi brid o eifr dofion i'm cyflenwi â bwyd pan fyddai fy mhowdr a'm haels wedi gorffen i gyd. Gwneuthum goler i'r creadur bach yma, ac arweiniais ef wrth linyn, er gyda chryn drafferth, nes y deuthum i'm hafoty, ac yno caeais ef i mewn a gadewais ef, canys yr oeddwn yn wyllt am fynd adref, a minnau wedi bod oddi yno am dros fis.

Ni allaf fynegi mor falch oeddwn o ddyfod yn ôl i'm hen gaban, a chysgu ar fy ngwely hamoc. Wedi taith o grwydro fel hyn, yr oedd popeth yno mor gysurus, fel y penderfynais nad awn i byth ymhell oddiyno wedyn, tra byddwn ar yr ynys. Arhosais yma am wythnos i orffwyso ar ôl fy nhaith hir, a threuliais y rhan fwyaf o'r amser gyda'r gorchwyl pwysig o wneud caets i'm Poli, a ddechreuodd yn awr fod yn fwy dof, ac yn gyfeillgar iawn â mi. Yna dechreuais feddwl am y myn gafr druan a gaeaswn i mewn, a phenderfynais fynd i'w nôl adref, neu fynd i roi bwyd iddo. Felly fe euthum, a chefais ef lle y gadawswn ef, ond bron â marw o eisiau bwyd. Euthum i dorri cangau o'r coed ac unrhyw frigau a allwn gael, ac wedi i mi ei fwydo rhwymais ef fel o'r blaen i'w dywys ymaith, ond yr oedd mor ddof trwy fod arno eisiau bwyd, fel nad oedd angen i mi ei rwymo, canys dilynai fi fel ci. A chan fy mod yn ei fwydo'n gyson, daeth mor annwyl, mor fwyn, ac mor hoffus, fel yr oedd yntau hefyd o'r pryd hwnnw yn un o'm creaduriaid dof, ac ni'm gadawai fyth wedyn.

Yr oedd tymor glawog Cyhydedd yr Hydref wedi dyfod yn awr, a chedwais y 30 o Fedi mewn dull crefyddol fel o'r blaen, gan ei fod yn ben blwydd fy nglanio ar yr ynys, ac yr oeddwn wedi bod yno yn awr am ddwy flynedd. Diolchais yn ostyngedig a chynnes fod Duw wedi gweld yn dda dangos i mi y gallaswn fod yn hapusach yn y cyflwr unig hwn nag a fuaswn yng nghanol rhyddid cymdeithas ac ymysg pleserau'r byd.

Dyma'r adeg y dechreuais deimlo gymaint hapusach ydoedd y bywyd a arweiniwn yn awr na'r bywyd drwg, melltigedig, atgas a arweiniwn yng ngorffennol fy mywyd. Cyn hyn, pan awn allan, un ai i hela neu i weld y wlad, byddai ing fy enaid oherwydd fy nghyflwr yn torri drosof yn sydyn a byddai fy nghalon megis yn marw ynof, wrth feddwl am y coedwigoedd, y mynyddoedd, a'r diffeithleoedd yr oeddwn ynddynt, a minnau'n garcharor wedi fy nghloi i fyny â barrau tragwyddol a bolltau'r eigion, mewn diffeithwch anghyfannedd, heb ymwared. Weithiau trawai fi yng nghanol fy ngwaith, ac fe eisteddwn i lawr ar unwaith gan ochneidio, ac edrych ar y ddaear am awr neu ddwy.

Ond yn awr, darllenwn Air Duw bob dydd, a chymhwyswn ei holl gysuron i'm cyflwr presennol. Un bore, a minnau'n drist iawn, agorais y Beibl ar y geiriau hyn: "Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith"; ac ar unwaith fe'm trawodd mai i mi yr oedd y geiriau hyn. O'r foment hon penderfynais ei bod yn bosibl i mi fod yn hapusach yn y cyflwr unig a diymgeledd hwn, nag a fuaswn mewn unrhyw gyflwr arall yn y byd, ac â'r meddwl hwn mynnwn roddi diolch i Dduw am iddo fy nwyn i'r fangre hon.

Ac fel hyn y dechreuais fy nhrydedd flwyddyn; ac er nad ydwyf wedi blino'r darllenydd gyda chyfrif mor fanwl o'm gorchwylion y flwyddyn hon â'r gyntaf, eto anfynych iawn y byddwn yn segur, gan fy mod wedi rhannu fy amser yn gyson yn ôl y gorchwylion dyddiol oedd o'm blaen; megis, yn gyntaf, fy nyletswydd tuag at Dduw a darllen yr Ysgrythurau, gan roddi peth amser iddynt deirgwaith bob dydd; yn ail, mynd allan gyda'm gwn am fwyd yr hyn a gymerai i mi'n gyffredin deirawr bob bore, pan na fyddai'n bwrw glaw; yn drydydd, trin, halltu, cadw, a choginio'r peth fyddwn wedi ei ladd yn ymborth i mi; hefyd, ganol dydd pan oedd yr haul yn ei anterth yr oedd angerdd y gwres yn ormod i mi symud, fel na ellid disgwyl i mi weithio ond am ryw bedair awr yn yr hwyr; gydag eithrio, y byddwn weithiau yn newid fy oriau hela a gweithio, a mynd i weithio yn y bore, ac allan gyda'm gwn yn y prynhawn.

At yr amser byr a roddid i waith, dymunwn ychwanegu bod fy ngwaith yn llafurfawr anghyffredin; cymerai popeth a wnawn oriau o'm hamser, trwy ddiffyg arfau, diffyg help, a diffyg medr; er enghraifft, bûm ddau ddiwrnod a deugain yn gwneud ystyllen yr oedd arnaf ei heisiau yn silff hir yn fy ogof; a buasai dau lifiwr, gyda'u harfau a'u march llifio, yn torri chwech ohonynt o'r un goeden mewn hanner diwrnod.

Dyma fy helynt i: yr oedd y goeden oedd i'w thorri yn un fawr, gan fod yr ystyllen i fod yn un lydan. Bum am dridiau yn torri'r goeden, a dau arall yn torri'r cangau i'w gwneud yn un coedyn. Trwy ddarnio a naddu anghyffredin, teneuais ei dwy ochr yn asglodion nes yr oedd yn ddigon ysgafn i'w symud; yna troais hi, a gwneuthum un ochr iddi yn llyfn ac yn wastad fel bwrdd, a chan droi'r ochr honno yn isaf, torrais yr ochr arall nes cael y planc tua thair modfedd o drwch ac yn llyfn o'r ddeutu. Gall unrhyw un farnu faint fy nhrafferth ar waith o'r fath; ond dug llafur ac amynedd fi drwy hwnnw a llawer o bethau eraill. Šoniaf am hyn yn arbennig i ddangos y rheswm dros i mi golli cymaint o amser gyda chyn lleied o waith.

Yn awr, ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, yr oeddwn yn disgwyl fy nghnwd o haidd a reis. Nid oedd y tir oeddwn wedi ei drin iddynt yn fawr; canys fel y sylwais nid oedd gennyf dros hanner pecaid o had. Ond yr oedd fy nghnwd yn argoeli'n dda; pryd yn ddisymwth y gwelwn fod perygl i mi golli'r cwbl eto trwy elynion o amryw fathau yr oedd bron yn amhosibl eu cadw oddiwrtho; megis, y geifr a'r creaduriaid gwylltion a alwn i yn ysgyfarnogod, y rhai, wedi profi melyster yr egin a orweddai ynddo nos a dydd, gan ei bori mor gwta fel na châi ddim amser i dyfu'n wellt.

Ni welwn yr un feddyginiaeth tuag at hyn, heblaw cau o'i amgylch â chlawdd; a gwneuthum hynny gyda chryn lawer o drafferth. Fodd bynnag, gan nad oedd fy nhir âr ond lled fychan, llwyddais i'w gau'n gyfan gwbl ymhen tair wythnos, a chan saethu rhai o'r creaduriaid yn ystod y dydd, rhoddwn fy nghi i'w warchod yn y nos, gan ei rwymo wrth ystanc yn yr adwy lle y safai dan gyfarth drwy'r nos. Ac ymhen ychydig amser, gadawodd y gelynion y fan, a thyfodd yr ŷd yn gryf a dechreuodd aeddfedu yn gyflym.

Ond megis y'm difethodd y bwystfilod fi o'r blaen pan oedd fy ŷd yn egino, felly hefyd yr oedd yr adar yn debyg o'm difetha'n awr pan ydoedd yn dywysennau. Canys wrth fynd heibio i'r lle i weld sut yr oedd yn ffynnu, gwelwn fy mymryn cnwd wedi ei amgylchu ag adar a safai fel pe'n aros nes y byddwn i wedi mynd. Gollyngais ergyd i'w canol ar unwaith, gan fod fy ngwn gennyf gyda mi'n wastad. Nid cynt y teniais nag y cododd cwmwl bychan o adar na welswn mohonynt o gwbl, o ganol yr ŷd ei hunan. Teniais drachefn, a lleddais dri ohonynt. Codais hwynt i fyny, a thrinais hwynt fel y byddwn ni yn trin carnlladron yn Lloegr, sef, eu crogi mewn cadwyni yn ddychryn i eraill. Anodd dychmygu i hyn gael y fath effaith ag a gafodd; canys nid yn unig fe beidiodd yr adar â dod i'r ŷd, ond fe ymadawsant â'r rhan honno o'r ynys yn llwyr; ac ni welwn fyth aderyn yn agos i'r lle tra bu'r bwganod brain yn crogi yn y fan honno. Yr oeddwn yn falch iawn o hyn; a thua diwedd Rhagfyr, ail gynhaea'r flwyddyn i ni, medais fy nghnwd.

Yr oeddwn mewn tipyn o helynt ynglŷn â phladur neu gryman i'w dorri, a'r unig beth a fedrwn ei wneud oedd llunio un orau y medrwn o un o'r bidogau a gawswn yn y llong. Beth bynnag, gan mai bychan oedd fy nghnwd cyntaf, ni chefais drafferth fawr i'w dorri. Yn fyr, medais ef yn fy ffordd fy hun, gan na thorrais ddim ond y tywysennau, a chludais hwynt ymaith mewn basged fawr a wnaethwn, a rhwbiais hwynt rhwng fy nwylo. Ac ar ddiwedd fy nghynhaeaf, allan o'm hanner pecaid o had, cefais fod gennyf bron ddau fwysel[1] o reis, a thros ddau fwysel a hanner o haidd; hynny yw, yn ôl fy nghyfrif i, gan nad oedd gennyf ddim byd i'w fesur.

Fodd bynnag, yr oedd hyn yn galondid mawr i mi, a rhagwelwn, ymhen amser, y rhyngai fodd i Dduw roddi bara i mi. Ac eto yr oeddwn mewn penbleth drachefn gan na wyddwn sut i falu neu wneud blawd o'r ŷd, nac yn wir sut i'w lanhau a'i nithio; nac ychwaith, pe gwnelid blawd ohono, sut i wneud bara ohono; a phe bawn yn gwybod sut i wneud hwnnw, eto ni wyddwn sut i'w grasu. Ond er mwyn sicrhau cyflenwad cyson, penderfynais beidio â phrofi dim o'r cnwd hwn, ond ei gadw'n hadyd i gyd erbyn y tymor wedyn; ac yn y cyfamser, defnyddio fy holl feddwl a'm horiau llafur i berffeithio'r gwaith mawr hwn o gael ŷd a bara i mi fy hun.

Gellid dywedyd yn wir fy mod yn awr yn gweithio am fy mara. Y mae'n rhyfedd y gymysgfa anarferol o fân bethau sy'n angenrheidiol i wneud bara. Parai hyn ddigalondid beunyddiol i mi, hyd yn oed wedi i mi gael y dyrnaid cyntaf o hadyd. I ddechrau, nid oedd aradr gennyf i droi'r tir, na rhaw i'w balu. Wel, gorchfygais hyn trwy wneud rhaw bren fel y sylwais o'r blaen; ac er iddi gostio dyddiau lawer i mi i'w gwneud, eto o ddiffyg haearn, nid yn unig fe dreuliodd ynghynt, ond fe wnaeth fy ngwaith yn galetach.

Wedi hau'r ŷd, nid oedd gennyf og, ond bu raid i mi fynd drosto fy hunan a thynnu brigyn coeden mawr trwm drosto i'w grafu, yn hytrach na'i gribinio neu ei lyfnu. Wedi iddo dyfu, fel y sylwais eisoes, yr oedd eisiau amryw bethau i'w fedi, i'w drin a'i gario adref, ei ddyrnu, ei wahanu oddiwrth yr us, a'i gadw. Yna yr oedd arnaf eisiau melin i'w falu, gograu i'w drin, burum a halen i wneud bara ohono, a ffwrn i'w grasu; ac eto fe wneuthum heb y pethau hyn i gyd, a bu'r ŷd yn gysur ac yn fantais amhrisiadwy i mi. A chan i mi benderfynu peidio â defnyddio dim o'r ŷd i wneud bara nes y byddai gennyf ychwaneg wrth law, am y chwe mis nesaf gallwn ymroi'n gyfan gwbl, trwy lafur a dyfais, i ddarparu offerynnau priodol er gwneud yr ŷd yn addas i'm gwasanaeth, pan gawn i ef.

Nodiadau

[golygu]
  1. bushel yw'r gair a ddefnyddir; anodd cael gwell gair Cymraeg na bwysel.