Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XIII
← Pennod XII | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XIV → |
PENNOD XIII
GWNEUD LLESTRI PRIDD—DYFAIS I GRASU BARA.
OND yn awr yr oedd yn rhaid i mi ddarparu mwy o dir, gan fod gennyf ddigon o had i hau dros acer o ddaear. Cyn i mi wneud hyn, bum wrthi am wythnos o leiaf yn gwneud rhaw, ac un wael ydoedd wedi i mi ei gorffen, a chymaint arall o lafur i weithio gyda hi. Beth bynnag, heuais fy had mewn dau ddarn mawr o dir gwastad, cyn nesed i'm tŷ ag y medrwn yn ôl fy nhyb i, a chaeais o'u hamgylch â chlawdd da. Cymerodd y gwaith hwn dri mis llawn i mi, gan fod rhan fawr o'r amser hwnnw yn y tymor gwlyb pan na fedrwn fynd allan.
Pan fyddai'n bwrw glaw, byddwn yn gweithio i mewn; a phob amser, tra byddwn wrth fy ngwaith byddwn yn fy mwynhau fy hunan wrth siarad gyda'r parrot; ac fe'i dysgais yn fuan i wybod ei enw ei hun, ac o'r diwedd i weiddi "Pol" yn uchel, a dyma'r gair cyntaf erioed a glywais ei siarad yn yr ynys o ben neb ond fy mhen fy hun. Nid gwaith i mi oedd hwn felly, ond cymorth i'm gwaith. Yr oeddwn wedi bod yn astudio'n hir, trwy ryw ffordd neu'i gilydd, sut i wneud llestri pridd. Ag ystyried gwres yr hinsawdd, nid oeddwn yn amau, pe medrwn gael hyd i glai, na fedrwn i wneud rhyw fath o lestr a fyddai'n ddigon caled a chryf i ddal cydio ynddo, wedi iddo sychu yn yr haul; a chan fod angen hyn wrth baratoi ŷd, blawd, etc., sef, y peth yr oeddwn ynglŷn ag ef yn awr, penderfynais wneud rhai mor fawr ag y medrwn i ddal unrhyw beth a roddid ynddynt.
Buasai'r darllenydd yn gresynu drosof neu yn chwerthin am fy mhen pe soniwn am y ffyrdd lletchwith a gymerais i godi'r past yma; y pethau rhyfedd, di-lun, hyll a wneuthum; pa sawl un a gwympodd i mewn a pha sawl un a gwympodd allan, gan nad oedd y clai ddim digon caled i ddal ei bwysau ei hun; pa sawl un a graciodd oherwydd gwres gordanbaid yr haul; a pha sawl un a syrthiodd yn ddarnau trwy ddim ond ei symud, cyn iddynt sychu yn ogystal ag wedi hynny; ac mewn gair, wedi llafurio'n galed i gael y clai, i'w godi, i'w dymheru, i'w gludo adref, a'i weithio, ni allwn wneud dim mwy na dau beth pridd mawr hyll (ni fedraf eu galw'n llestri) mewn tua dau fis o lafur. Fodd bynnag, gan i'r haul grasu'r ddau hyn yn sych ac yn galed iawn, codais hwynt yn hynod ofalus, a gosodais hwynt mewn dwy fasged wiail fawr a wnaethwn o bwrpas iddynt rhag iddynt dorri; a chan fod ychydig o le rhwng y llestr a'r fasged, gwthiais ei lond o wellt reis a haidd; a thybiwn y gwnâi y ddau yma i ddal fy ŷd, ac efallai'r blawd.
Er i mi fethu cymaint gyda'm cynllun i wneud llestri mawrion, eto gwneuthum amryw bethau llai gyda chryn lwyddiant; megis potiau bach crwn, dysglau bas, ystenau, a mân grochanau; a chrasai gwres yr haul hwynt yn bur galed. Ond ni wnâi y rhain i gyd ateb fy niben, sef, cael pot pridd i ddal peth gwlyb a diodde'r tân,— peth na wnâi'r un o'r rhain. Ymhen peth amser, a minnau wedi gwneud tân lled fawr i goginio fy nghig, pan euthum i'w ddiffodd wedi i mi orffen ag ef, digwyddais gael dernyn o un o'm llestri pridd yn y tân, wedi llosgi cyn galeted â charreg, a chyn goched â theilsen. Yr oeddwn wedi synnu ei weld; a dywedais wrthyf fy hun y gellid yn ddiau cael ganddynt losgi'n gyfan os llosgent yn ddarnau.
Parodd hyn i mi ystyried sut i daclu fy nhân a gwneud iddo losgi ychydig botiau. Nid oedd gennyf syniad am odyn; ond gosodais dri phicyn bychan a dau bot neu dri yn bentwr, y naill ar ben y llall, a dodais goed tân o'u cwmpas, a thomen fawr o farwor o danynt. Teclais y tân â thanwydd newydd, o'r tu allan ac ar ei ben, hyd oni welwn y potiau o'r tu mewn yn wynias drwyddynt; a sylwais nad oeddynt ddim yn cracio o gwbl. Pan welais eu bod yn berffaith wynias, gadewais hwynt yn y gwres hwnnw am tua phum awr neu chwech, hyd oni welwn un ohonynt yn toddi neu yn rhedeg, gan i'r tywod oedd yn gymysg â'r clai doddi oherwydd tanbeidrwydd y gwres, a buasai wedi rhedeg yn wydr pe buaswn wedi dal ati; felly llaciais y tân yn raddol nes i'r potiau ddechrau colli'r lliw coch; a chan eu gwylio drwy'r nos, rhag ofn i mi adael i'r tân ddiffodd yn rhy gyflym, yn y bore yr oedd gennyf dri phicyn da iawn, a dau bot arall wedi llosgi cyn galeted ag y gellid disgwyl, ac un o honynt wedi ei wydru'n berffaith, trwy i'r tywod redeg.
Fy ngorchwyl nesaf oedd cael morter garreg i friwo neu guro ŷd ynddi; canys ynglŷn â'r felin, nid oedd wiw meddwl cyrraedd y fath berffeithrwydd celfyddyd gydag un pâr o ddwylo. Ni wyddwn yn y byd sut i lenwi'r diffyg hwn; canys, o bob crefft ar y ddaear, yr oeddwn mor anghymwys fel naddwr cerrig â'r un; ac nid oedd arfau gennyf i fynd o'i chwmpas hi. Treuliais amryw ddyddiau yn chwilio am garreg fawr, yn ddigon mawr i'w chafnio; ond ni fedrwn gael un o gwbl heblaw'r rhai oedd yn y graig; ac yn wir nid oedd creigiau'r ynys yn ddigon caled, ond yr oeddynt i gyd yn gerrig tywod brau na ddalient bwysau pestl drom, na briwo'r ŷd heb iddynt ei lenwi â thywod. Felly, wedi colli llawer o amser yn edrych am garreg, rhoddais y gorau iddi, a phenderfynais chwilio am blocyn mawr o bren caled, yr hyn a gefais yn haws o lawer; ac wedi cael un cymaint ag a fedrwn ei symud, lluniais ef ar yr ochr allan a'm bwyall; ac yna trwy gymorth y tân a llafur diben-draw; gwneuthum gafn ynddo, fel y bydd Indiaid Brazil yn gwneud canŵ. Wedyn, gwneuthum bestl fawr drom o'r pren a elwir yn bren haearn; a gosodais y rhain o'r neilltu hyd oni chawn fy nghnwd ŷd nesaf, pryd y bwriadwn falu neu bwyo'r ŷd yn flawd i wneud bara.
Y pobi oedd y peth nesaf i'w ystyried, a sut y gwnawn i fara pan fyddai gennyf ŷd; canys, i ddechrau, nid oedd burum gennyf. A chan na ellid llenwi'r diffyg ni phryderais lawer yn ei gylch; ond ynglŷn â ffwrn, yr oeddwn mewn cryn benbleth. O'r diwedd dyfeisiais beth at hynny hefyd, sef hyn; gwneuthum lestri pridd llydain iawn, ond heb fod yn ddwfn, hynny yw, tua dwy droedfedd ar draws a heb fod dros naw modfedd o ddyfnder. Llosgais y rhain yn y tân fel y gwneuthum â'r lleill, a dodais hwynt o'r neilltu; a phan oedd arnaf eisiau pobi, gwneuthum dân mawr ar fy aelwyd yr oeddwn wedi ei phalmantu â theils sgwâr, wedi eu gwneud a'u llosgi gennyf fi fy hun. Wedi i'r tanwydd losgi'n ulw neu'n farwor, tynnais hwynt ymlaen ar yr aelwyd nes ei gorchuddio drosti, a gadewais hwynt yno nes yr oedd yr aelwyd yn boeth iawn; yna wedi ysgubo'r marwor ymaith i gyd, dodais fy nhorthau ar lawr, a chan eu gorchuddio â'r llestr pridd, tynnais y marwor dros y llestr amgylch ogylch i gadw'r gwres i mewn. Ac fel hyn, cystal ag yn y ffwrn orau yn y byd, crasais fy nhorthau haidd; ac ymhen ychydig, deuthum yn gogydd da yn y fargen, gan i mi wneud amryw deisennau i mi fy hun a phwdin reis; ond ni wneuthum ddim pastai, gan nad oedd gennyf ddim i'w roi ynddynt ond cig adar neu eifr.
Ac yn awr gan fod fy stoc o ŷd yn cynyddu, yr oedd arnaf wir angen codi ysguboriau mwy. Yr oedd arnaf eisiau lle i'w gadw, gan fod gennyf yn awr tuag ugain bwysel o haidd, a chymaint os nad mwy o reis. Hefyd penderfynais weld faint oedd yn ddigon i mi am flwyddyn gyfan, heb hau dim ond unwaith y flwyddyn.
Ar y cyfan, canfûm fod y deugain bwysel o haidd a reis yn fwy o lawer nag a fedrwn ei fwyta mewn blwyddyn, felly penderfynais hau yr un faint bob blwyddyn ag a wnaethwn y flwyddyn cynt, gan obeithio y gwnâi cymaint â hynny roddi imi ddigon o fara, etc.