Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XIV
← Pennod XIII | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XV → |
PENNOD XIV.
BWRIADU DIANC O'R YNYS—GWNEUD CANŴ—METHIANT EI GYNLLUN—BODLONI AR EI GYFLWR—GWNEUD GWISG NEWYDD IDDO'I HUN.
TRWY gydol yr amser hyn, yn sicr i chwi yr oedd fy mryd yn fynych ar yr olwg a gawswn ar y tir o'r ochr arall i'r ynys, ac nid oeddwn heb ddymuno'n ddirgel bod ar y lan yno; gan ddychmygu (wrth fy mod yn gweld y tir mawr a gwlad gyfannedd) y gallwn ganfod rhyw ffordd neu ei gilydd i'm symud fy hun ymhellach, ac efallai o'r diwedd y cawn ryw gynllun i ddianc.
Yn awr yr oedd arnaf hiraeth am fy machgen Xury, a'r cwch hir a'r hwyl fel ysgwydd dafad arno, yr hwyliais ynddo dros fil o filltiroedd ar arfordir Affrica; ond yr oedd y cwbl yn ofer. Yna meddyliais am fynd i edrych ar gwch y llong a chwythasid i fyny ymhell ar y traeth yn y storm. Gorweddai bron lle'r ydoedd ar y dechrau, ond yr oedd wedi ei droi gan rym y tonnau a'r gwyntoedd, bron â'i waelod i fyny yn erbyn cefnen uchel o dywod bras; ond nid oedd dim dŵr o'i amgylch fel cynt. Pe buasai gennyf griw i'w adgyweirio a'i lansio i'r dŵr, buasai'r cwch yn gwneud y tro yn eithaf, a buaswn wedi mynd yn ôl i'r Brazils ynddo yn ddigon hawdd; ond dylaswn fod wedi rhagweld na fedrwn i mo'i droi a'i osod yn syth ar ei waelod mwy nag y medrwn symud yr ynys. Beth bynnag, euthum i'r coed, a thorrais drosolion a rowleri, a chludais hwynt at y cwch, a phenderfynu gwneud a allwn; gan awgrymu i mi fy hun, os medrwn ei droi ac adgyweirio'r niwed a gawsai, y byddai'n gwch pur dda ac y medrwn fentro i'r môr ynddo.
Nid arbedais unrhyw drafferth gyda'r gwaith ofer hwn, a threuliais, yr wyf yn credu, dair wythnos neu bedair arno. O'r diwedd, wrth weld mai amhosibl oedd i mi ei godi gyda'r ychydig nerth oedd gennyf, dechreuais gloddio'r tywod ymaith i dynnu dan ei seiliau a gwneud iddo syrthio i lawr, gan roddi darnau o goed i'w wthio a rhoi cyfeiriad iawn iddo yn y cwymp. Ond wedi i mi wneud hyn, ni fedrwn ei gyffro wedyn na mynd dano, a llai fyth ei symud ymlaen tua'r dŵr; a bu raid i mi roi'r gorau iddo.
O'r diwedd, dechreuais feddwl onid oedd yn bosibl i mi wneud canŵ, neu periagua, y cyfryw ag a wna brodorion y parthau hynny o foncyff coeden fawr. Tybiwn fod hyn nid yn unig yn bosibl, ond yn hawdd, ac yr oeddwn wrth fy modd wrth feddwl am ei wneud; ond nid oeddwn yn ystyried o gwbl bod angen dwylo i'w symud i'r dŵr ar ôl ei wneud.
Euthum i weithio ar y cwch hwn yn debycach o lawer i ffŵl nag y bu dyn erioed a chanddo unrhyw un o'i synhwyrau'n effro. Yr oeddwn wedi fy modloni fy hun ar fy nghynllun heb benderfynu a fedrwn ymgymryd ag ef ai peidio. Nid na ddaeth yr anhawster o lansio'r cwch yn fynych i'm pen; ond rhoddais derfyn ar fy ymholiadau i gyd â'r ateb ffôl hwn: "Gadewch i mi ei wneud gyntaf; mi wrantaf y caf ryw ffordd neu ei gilydd i'w symud pan orffennir ef."

Wrth i mi edrych ymhellach i mewn . . . gwelwn ddau lygad mawr disglair.
(gwel tud 143)
Yr oedd hwn yn gynllun hollol afresymol; ond euthum ati. Torrais gedrwydden; a phrin y credaf i Solomon erioed gael ei bath i adeiladu'r Deml yng Nghaersalem. Yr oedd yn bum troedfedd a deng modfedd o dryfesur yn y rhan isaf yn nesaf i'r bonyn, ac yn bedair troedfedd ac un fodfedd ar ddeg o drwch ym mhen dwy droedfedd ar hugain, lle yr âi'n llai, ac wedyn ymrannai'n frigau. Nid heb lafur di-ben-draw y torrais y goeden hon. Bûm ugain niwrnod yn ei darnio a'i naddu yn y bôn, a phedwar diwrnod ar ddeg yn torri ei changau a'i phen mawr caeadfrig. Wedyn, costiodd fis i mi i'w llunio a'i naddu i rywbeth ar ffurf gwaelod cwch, er mwyn iddo nofio'n unionsyth fel y dylai. Costiodd i mi bron dri mis yn ychwaneg i glirio'r tu mewn a'i weithio er mwyn gwneud cwch iawn ohono. Gwneuthum hyn heb ddim tân, gyda dim byd ond gordd a chŷn a grym llafur caled, nes i mi ei lunio yn periagua hardd, ac yn ddigon mawr i gario chwech ar hugain o ddynion, ac felly yn ddigon mawr i'm cario i a'm holl gelfi.
Ond methodd pob dyfais gennyf i'w gael i'r dŵr, er iddynt gostio llafur diderfyn i mi. Gorweddai tua chanllath o'r dŵr, a dim mwy; ond yr anhawster cyntaf oedd, mai gorifyny oedd i'r gilfach. Wel, i symud y rhwystr hwn, penderfynais durio wyneb y ddaear a gwneud goriwaered. Dechreuais hyn, a chostiodd lafur aruthrol i mi; ond wedi gweithio drwy hwn yr oeddwn bron yn yr un fan, gan na fedrwn i ddim cyffro'r canŵ mwy nag y medrwn i gyffro'r cwch arall.
Yna mesurais hyd y tir, a phenderfynais dorri doc neu gamlas i ddwyn y dŵr i fyny at y canŵ, gan na fedrwn i ddim dwyn y canŵ i lawr i'r dŵr. Wel, dechreuais y gwaith hwn; ac wedi cyfrif pa mor ddwfn yr oedd yn rhaid ei dorri, pa mor llydan, a sut i luchio'r stwff allan, gwelwn yn ôl y dwylo oedd gennyf, sef dim ond yr eiddof fy hun, y cymerai ddeng mlynedd neu ddeuddeg cyn y byddwn wedi ei gwplau, gan fod y traeth mor uchel nes bod ugain troedfedd o ddyfnder beth bynnag ar yr ochr uchaf; felly, o'r diwedd, er yn anewyllysgar iawn, rhoddais y cynnig hwn heibio hefyd.
Parodd hyn ofid calon i mi; ac yn awr, er yn rhy ddiweddar, gwelwn y ffolineb o ddechrau gwaith cyn i ni gyfri'r draul, a chyn i ni farnu'n iawn ein gallu i'w gwplau.
Ynghanol y gwaith hwn gorffennais fy mhedwaredd flwyddyn yn y fan hon, a chedwais fy mhen blwydd gyda'r un defosiwn, a chyda'r un faint o gysur ag o'r blaen; canys trwy ddyfal astudio gair Duw, a thrwy gymorth Ei ras Ef, enillais wybodaeth wahanol i'r hyn oedd gennyf o'r blaen. Edrychwn yn awr ar y byd fel rhywbeth pell nad oedd a fynnwn i ddim ag ef, na dim i'w ddisgwyl oddiwrtho, nac yn wir ddim i'w ddymuno yn ei gylch. Mewn gair, tybiwn ei fod yn ymddangos fel lle yr oeddwn wedi bod yn byw ynddo, ond fy mod wedi dod ohono; a da y gallwn ddweud, fel y tad Abraham wrth y gŵr goludog, Rhyngof fi a thi y sicrhawyd gagendor mawr. Treuliais ddyddiau cyfain i ddarlunio i mi fy hun â'r lliwiau mwyaf byw, sut y buaswn wedi ymddwyn pe buaswn heb gael dim byd o'r llong. Ni fuaswn wedi llwyddo hyd yn oed i gael bwyd, dim ond pysgod a chrwbanod, a buaswn wedi byw fel anwariad noeth. Pe lladdaswn afr neu aderyn trwy ryw ystryw, ni allaswn eu blingo na'u hagor mewn ffordd yn y byd, na gwahanu'r cig oddi wrth y croen a'r perfedd, ond buasai'n rhaid i mi ei gnoi â'm dannedd a'i dynnu'n ddarnau â'm crafangau, fel bwystfil.
Parodd y myfyrdodau hyn i mi ystyried daioni Rhagluniaeth tuag ataf, a bod yn ddiolchgar am fy nghyflwr presennol er gwaetha'i holl galedi a'i anffodion; ac ni allaf beidio â chymeradwyo hyn i ystyriaeth y rhai sy'n tueddu i ddweud yn eu hadfyd; A oes y fath ofid â'm gofid i?" Bydded iddynt ystyried pa faint gwaeth yw achosion rhai pobl, ac y gallasai eu hachos hwythau fod yn waeth hefyd, pe mynasai Rhagluniaeth.
Felly penderfynais, nid yn unig ymostwng i ewyllys Duw dan yr amgylchiadau presennol, ond diolch o galon am fy nghyflwr; ac na ddylwn i, a minnau hyd yma yn ddyn byw, ddim cwyno, gan nad oeddwn wedi derbyn cosb ddyladwy am fy mhechodau; fy mod yn mwynhau cymaint o drugareddau nad oedd gennyf reswm dros ddisgwyl amdanynt yn y fan honno; na ddylwn byth mwyach ofidio oherwydd fy nghyflwr, ond llawenhau a rhoddi diolch beunyddiol am fara beunyddiol; y dylwn ystyried fy mod wedi fy mhorthi trwy wyrth (gymaint hyd yn oed ag ydoedd porthi Elias gan y cigfrain); ac mai prin y medrwn enwi lle, mewn rhan anghyfannedd o'r byd, y gallaswn fod wedi fy mwrw arno er gwell mantais i mi; lle nad oedd ynddo fwystfilod rheibus i fygwth fy einioes, dim creaduriaid gwenwynig y gallwn ymborthi arnynt er niwed i mi, dim anwariaid i'm llofruddio a'm bwyta.
Yr oeddwn yn awr wedi bod yma gyhyd nes bod llawer o'r pethau a ddygaswn gyda mi o'r llong un ai wedi darfod yn llwyr, neu ynteu bron â threulio allan. Yr oedd fy nillad hefyd yn dechrau braenu yn anghyffredin. Gyda golwg ar ddillad lliain, bûm heb yr un am amser maith, dim ond rhyw grysau rhesog a gawswn yng nghistiau'r llongwyr eraill, ac yr oeddwn wedi eu cadw'n ofalus, gan na fedrwn ddioddef dim dillad arnaf yn aml heblaw crys; a bu'n help mawr i mi fod gennyf bron dri dwsin o grysau. Yr oeddwn wedi gwisgo allan hynny o wasgodau oedd gennyf, a'm gorchwyl yn awr oedd ceisio gwneud siacedi o'r cotiau mawr oedd gennyf ac unrhyw ddefnyddiau eraill. Felly dechreuais deilwra, neu yn hytrach fwnglera, gan i mi wneud gwaith gresynus ohono. Beth bynnag, llwyddais i wneud dwy neu dair gwasgod newydd, a gobeithiwn y parhaent i mi am amser maith.
Soniais i mi gadw crwyn y creaduriaid a leddais i gyd; ac yr oeddwn wedi eu crogi i fyny gan eu lledu â phriciau yn yr haul, a thrwy hynny yr oedd rhai ohonynt mor sych a chaled fel nad oeddynt dda i fawr ddim; ond bu'r lleill yn ddefnyddiol iawn i mi. Y peth cyntaf a wneuthum o'r rhain oedd cap mawr am fy mhen, gyda'r blew o'r tu allan i daflu'r glaw i ffwrdd, a gwneuthum hwn cystal fel y gwneuthum wedi hynny siwt o ddillad yn gyfan gwbl o'r crwyn; hynny yw, gwasgod a chlôs pen-glin, a'r ddau yn llac gan mai eu heisiau i'm cadw'n oer oedd yn hytrach nag yn gynnes. Rhaid i mi beidio ag anghofio cyfaddef eu bod wedi eu gwneud yn druenus, canys os saer gwael oeddwn, yr oeddwn yn waeth teiliwr. Fodd bynnag, yr oeddynt yn gyfryw ag y gwnawn y tro yn iawn â hwynt; a phan fyddwn allan, os digwyddai fwrw glaw, gan fod blew fy nghap a'm gwasgod o'r tu allan, fe'm cedwid yn hollol sych.
Wedi hyn treuliais amser mawr i wneud ambarél. Gwelswn wneud rhai yn y Brazils lle y maent yn ddefnyddiol iawn yn y gwres mawr a geir yno; a theimlwn y gwres gymaint bob tipyn yma, ac yn fwy hefyd, gan ei fod yn nes i'r cyhydedd. Bûm yn ymboeni llawer wrth ei ben; ond o'r diwedd, llwyddais i wneud un, gan ei orchuddio â chrwyn gyda'r blew i fyny; ac yn awr gallwn fynd allan yn y tywydd poethaf gyda gwell mantais nag a allwn o'r blaen yn y tywydd oeraf; a phan nad oedd ei eisiau arnaf gallwn ei gau a'i gario dan fy nghesail.
Ac fel hyn yr oeddwn yn byw yn hynod gysurus, a'm meddwl yn hollol dawel trwy ymddiried yn Ewyllys Duw ac ymdaflu'n gyfan gwbl ar drefn Ei Ragluniaeth Ef. Gwnâi hyn fy mywyd yn well na chymdeithasgar; canys pan ddechreuwn ofidio oherwydd diffyg ymgom, byddwn yn gofyn i mi fy hunan onid oedd ymgomio fel hyn â'm meddyliau fy hun (a hefyd mi obeithaf hyd yn oed â Duw Ei hun trwy saeth-weddïau) yn well na'r mwynhad pennaf o unrhyw gymdeithas ddynol yn y byd.