Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XV
← Pennod XIV | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XVI → |
PENNOD XV.
GWNEUD CANŴ LLAI A CHEISIO MORIO YNDDO O AMGYLCH YR YNYS—MEWN PERYGL AR Y MÔR—DYCHWELYD ADREF.
NI allaf ddweud i ddim byd eithriadol ddigwydd i mi am bum mlynedd wedi hyn; bûm yn byw yn yr un rhych ac yn yr un fan yn hollol ag o'r blaen. Fy mhrif orchwyl ar wahan i'm gwaith blynyddol o blannu haidd a reis, a sychu resin, a mynd allan bob dydd gyda'm gwn ydoedd gwneud canŵ; ac o'r diwedd gorffennais ef, a thrwy dorri camlas iddo chwe throedfedd o led a phedair troedfedd o ddyfnder, deuthum ag ef i'r gilfach, bron hanner milltir o ffordd.
Fodd bynnag, er bod y periagua bychan wedi ei orffen, eto nid oedd ei faint yn ateb i'r bwriad oedd gennyf mewn golwg pan wneuthum y cyntaf, sef, mentro drosodd i'r terra firma, mewn lle oedd dros ddeugain milltir o led. Ond gan fod gennyf gwch, fy mwriad nesaf oedd rhoi tro o gylch yr ynys. I'r diben hwn, gwneuthum fast bychan i'm cwch, a hwyl fechan o ddarnau o hwyliau'r llong. Gosodais fy ambarél hefyd yn y starn, fel mast, i sefyll uwch fy mhen a chadw'r gwres oddi wrthyf.
Y 6ed o Dachwedd ydoedd, yn y chweched flwyddyn o'm teyrnasiad, neu fy nghaethiwed, os mynnwch, pan gychwynnais ar y fordaith hon, a chefais hi yn llawer hwy nag y tybiwn; canys er nad oedd yr ynys ei hun yn fawr iawn, eto pan ddeuthum i'r ochr ddwyreiniol iddi cefais yno haen o greigiau yn rhedeg allan am tua dwy filltir i'r môr, rhai yn uwch na'r dŵr, eraill o dano, a gwely o dywod tu draw i hynny yn gorwedd yn sych am tua hanner milltir arall, fel y bu raid i mi fynd ymhell allan i'r môr i redeg heibio i'r trwyn.
Pan welais hwynt gyntaf yr oeddwn am daflu'r antur i fyny a throi'n ôl, gan na wyddwn pa mor bell i'r môr y byddai'n rhaid i mi fynd, ac uwchlaw popeth, yn amau sut y medrwn ddychwelyd o gwbl; felly bwriais angor. Ac wedi i mi sicrhau fy nghwch, cymerais fy ngwn ac euthum i'r lan, gan ddringo i ben bryn lle y gwelwn y trwyn i gyd, a phenderfynais fentro.
Wrth i mi edrych ar y môr o'r bryn hwnnw, lle y safwn, gwelwn gerrynt cryf ofnadwy a redai i'r dwyrain ac a ddeuai hyd yn oed yn agos i'r trwyn; a chymerais fwy o sylw ohono gan i mi weld bod perygl pan ddeuwn iddo i mi gael fy nghario allan i'r môr gan ei rym, a methu cyrraedd yr ynys wedyn. Ac yn wir, oni bai i mi fynd ben y bryn hwn gyntaf, credaf mai felly y buasai; canys yr oedd yr un cerrynt ar yr ochr arall i'r ynys, ond ei fod yn rhedeg ym mhellach oddi wrthi, a gwelwn fod dŵr llonydd wrth y lan; felly nid oedd dim i mi i'w wneud ond dal i mewn o'r cerrynt cyntaf, a byddwn yn fuan mewn dŵr llonydd.
Arhosais yma, fodd bynnag, am ddau ddiwrnod, gan fod y gwynt yn chwythu'n ffres o'r De- ddwyrain; a thrwy fod hynny yn hollol groes i'r cerrynt, trochionnai'r môr yn arw ar y trwyn, fel nad oedd yn ddiogel i mi gadw yn rhy agos i'r lan, nac ychwaith fynd yn rhy bell allan oherwydd y cerrynt.
Y trydydd dydd, yn y bore, gan fod y gwynt wedi gostegu dros y nos, yr oedd y môr yn dawel, a mentrais hi. Ond cyn gynted ag y deuthum i'r trwyn, a minnau heb fod ond hyd fy nghwch o'r lan, dyma fi i ddyfnder arswydus, a llif fel cafn melin. Cludodd fy nghwch i'w ganlyn gyda'r fath rym fel na allwn ei gadw hyd yn oed ar ei ymyl, ond gwelwn ei fod yn fy nghipio ym mhellach bellach oddiwrth y dŵr llonydd oedd ar y llaw dde i mi. Nid oedd dim gwynt yn cyffro i'm helpu; a theimlwn yn awr nad oedd dim ond trengi yn fy aros; nid yn y môr, gan fod hwnnw'n ddigon tawel, ond marw o newyn. Mae'n wir fy mod wedi cael crwban ar y traeth, bron cymaint ag a fedrwn ei godi, ac yr oeddwn wedi ei daflu i'r cwch; ac yr oedd gennyf lond llestr pridd o ddŵr croyw.
Prin y gellir dychmygu fy mraw; wedi fy ngyrru o'm hynys annwyl i ganol yr eigion mawr, a heb obaith dychwelyd iddi mwyach. Fodd bynnag, gweithiais yn galed, nes bod fy nerth bron â phallu, a chedwais fy nghwch gymaint ag a fedrwn i'r gogledd. Yn y prynhawn, a'r haul yn ei anterth, tybiwn fy mod yn clywed awel o wynt i'm hwyneb yn codi o'r De-ddwyrain. Cododd hyn ychydig ar fy nghalon, yn enwedig ymhen rhyw hanner awr pan chwythai awel led gref. Erbyn hyn yr oeddwn ymhell ofnadwy o'r ynys, a phetasai cwmwl neu ychydig dawch wedi codi, buasai wedi darfod arnaf mewn ffordd arall hefyd; canys nid oedd cwmpawd gennyf yn y cwch, ac ni fuaswn byth yn gwybod sut i lywio i gyfeiriad yr ynys pe buaswn unwaith wedi colli golwg arni. Ond gan i'r tywydd bara'n glir, ymrois ati i godi'r mast eto a lledu'r hwyl, gan ddal i'r gogledd gymaint ag a allwn, er mwyn cadw o'r cerrynt.
Cyn gynted ag y codais y mast a'r hwyl, ac i'r cwch ddechrau symud, gwelwn oddiwrth loywder y dŵr fod rhyw gyfnewidiad yn y cerrynt yn agos; canys lle yr oedd y cerrynt yn gryf iawn, yr oedd y dŵr yn fudr, ond lle'r oedd y dŵr yn loyw, gwelwn y cerrynt yn lleihau, ac yn fuan, tua hanner milltir i'r dwyrain, gwelwn y môr yn torri ar greigiau.
Cludodd y llif hwn fi tua thair milltir ar fy ffordd yn ôl yn union i gyfeiriad yr ynys, ond tua chwe milltir yn fwy i'r gogledd nag a wnaethai'r cerrynt a'm cludodd i ffwrdd ar y cyntaf; fel pan ddeuthum yn agos i'r ynys y cefais fy hun ar du'r gogledd iddi, hynny yw, y pen arall i'r ynys, gyferbyn â'r un yr aethwn allan ohono. Fodd bynnag, gyda gwynt teg, ymhen tuag awr, cyrhaeddais o fewn milltir i'r traeth, a chan fod y dŵr yn y fan honno yn llonydd, deuthum yn fuan i'r lan.
Wedi dod i'r lan, syrthiais ar fy ngliniau, a diolchais i Dduw am iddo fy ngwaredu; ac wedi i mi fwyta ychydig o'r pethau oedd gennyf, tynnais fy nghwch i'r lan i gilfach fechan a welswn o dan ryw goed, a gorweddais i lawr i gysgu,— oherwydd fy mod wedi llwyr ddiffygio gan lafur a lludded y daith. Yr oeddwn yn awr mewn penbleth fawr sut i fynd adref gyda'm cwch. Yr oeddwn wedi bod mewn gormod o berygl i feddwl ei chynnig hi y ffordd yr euthum allan. Felly penderfynais chwilio am gilfach i'r gorllewin lle y gallwn adael fy nghwch. Ac wedi morio am tua thair milltir gyda'r lan deuthum i gilfach dda, lle y cefais borthladd cyfleus iawn i'm cwch, ac yno y gadewais ef.
Wedi cadw fy nghwch yn ddiogel, euthum i'r lan i edrych o'm cwmpas, a gweld lle'r oeddwn. Gwelwn yn fuan nad oeddwn ymhell o'r lle y buaswn ynddo o'r blaen pan deithiais ar fy nhraed i'r glannau hynny; a heb gymryd dim o'm cwch ond fy ngwn a'm hambarél, cychwynnais ar fy nhaith. Bu'r daith yn eithaf cysurus wedi'r fath fordaith ag a gawswn i, a chyrhaeddais fy hafoty erbyn min nos, lle y cefais bopeth fel y gadawswn i hwynt. Euthum dros y clawdd, a gorweddais yn y cysgod i orffwyso fy aelodau, gan fy mod wedi blino yn arw, a chysgais. Ond bernwch chwi, os gellwch, y syndod a gefais pan ddeffrowyd fi o'm cwsg gan lais yn fy ngalw wrth fy enw droeon: "Robin, Robin, Robin Crusoe, Robin Crusoe druan! Ble'r wyt ti, Robin Crusoe? Ble'r wyt ti? Ble buost ti?"
Cyn gynted ag yr agorais fy llygaid, gwelwn Pol yn eistedd ar ben y clawdd, a gwyddwn ar unwaith mai fo oedd wedi siarad â mi; canys mewn iaith gwynfanus felly yr arferwn i siarad ag ef, a'i ddysgu; ac yr oedd wedi ei dysgu mor berffaith fel yr eisteddai ar fy mys, a gosodai ei big yn dyn wrth fy wyneb, a gweiddi; "Robin Crusoe druan! Ble'r wyt ti?
Ble'r wyt ti? Ble buost ti? Sut y daethost ti yma?" a'r cyfryw bethau ag a ddysgaswn i iddo.
Wedi i mi ddal fy llaw allan a'i alw wrth ei enw—Pol—daeth y creadur cymdeithasgar ataf, ac eisteddodd ar fy mawd, fel yr arferai, a daliodd ati i siarad â mi, fel petai'n falch o'm gweld eto; ac euthum ag ef adref gyda mi.
Yr oeddwn yn awr wedi cael digon ar grwydro i'r môr am beth amser, ac yr oedd gennyf ddigon i'w wneud am rai dyddiau i fyfyrio ar y perygl y buaswn ynddo. Bodlonais i wneud y tro heb y cwch, er ei fod wedi costio misoedd o lafur i'w wneud, a llawer mwy na hynny i'w gael i'r môr. Ac fel hyn yr arhosais am yn agos i flwyddyn; a chan fod fy meddyliau yn hollol dawel ynglŷn â'm cyflwr, a minnau'n f'ymddiried fy hunan yn llwyr i drefn Rhagluniaeth, tybiwn fy mod yn byw yn hapus iawn ym mhopeth, ag eithrio cymdeithas.
Gwneuthum amryw bethau yn ystod y cyfnod hwn, ond nid wyf yn meddwl i mi fod yn falchach o ddim byd erioed nag oeddwn o allu gwneud pibell dybaco; ac er mai peth hyll a lletchwith ydoedd, a dim ond wedi ei llosgi'n goch fel y llestri pridd eraill, eto yr oedd yn galed a chryf, ac yn tynnu mwg. Rhoddodd gysur anghyffredin i mi, gan fy mod wedi arfer smocio bob amser.