Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XVI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XV Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XVII

PENNOD XVI.
MAGU DIADELL O EIFR—EI DDYDDLYFR—EI DDULL O FYW—LLWYDDO FWYFWY.

GAN fy mod bellach wedi byw yma am un mlynedd ar ddeg, a chan fod fy nhaclau saethu wedi mynd yn isel, ymrois ati i ddyfeisio rhyw ystryw i faglu a rhwydo'r geifr, er mwyn gweld a fedrwn i ddal rhai ohonynt yn fyw. I'r diben hwn gwneuthum groglathau i'w rhwystro, a chredaf y daliwyd hwy ynddynt fwy nag unwaith; ond nid oedd fy nhaclau'n ddigon da, a thorrid hwynt byth a beunydd. O'r diwedd torrais dyllau mawr yn y ddaear, mewn mannau y gwelswn y geifr yn pori, a thros y tyllau hyn gosodais glwydi a phwysau mawr arnynt; amryw droeon dodais dywysennau haidd a reis sych heb osod y trap, a gwelwn yn hawdd fod y geifr wedi bod i mewn ac wedi bwyta'r ŷd, canys gwelwn ôl eu traed.

O'r diwedd gosodais dri thrap yr un noson, ac wrth fynd yno fore trannoeth, cefais y cwbl lle'r oeddynt, ac eto yr oedd yr abwyd wedi ei fwyta. Yr oedd hyn yn beth digalon iawn. Fodd bynnag, newidiais fy nhrap, ac un bore cefais yn un ohonynt hen fwchgafr mawr, a thri myn yn un o'r lleill, un gwryw a dwy fenyw. Gyda golwg ar yr hen un, ni wyddwn beth i'w wneud ag ef; yr oedd mor ffyrnig fel na feiddiwn fynd i'r twll ato, hynny yw, mynd yno a'i ddwyn adre'n fyw. Gallaswn ei ladd, ond nid dyna oedd fy amcan; felly gollyngais ef, a rhedodd ymaith fel petai wedi ei ddychrynu allan o'i synhwyrau. Yna euthum at y tri myn, a chan eu cymryd bob yn un, rhwymais hwynt wrth ei gilydd â llinynnau, a chyda chryn lawer o drafferth deuthum â hwynt adref i gyd.

Aeth ysbaid lled dda heibio cyn iddynt fwyta dim; ond trwy luchio tipyn o ŷd glas iddynt, fe'u hudwyd, a dechreuasant ddofi. Ac yn awr gwelwn, os oeddwn am gael cig geifr, fod yn rhaid i mi fagu rhai dof, ac wedyn cawn hwynt efallai o amgylch fy nhŷ fel diadell o ddefaid. Ond wedyn trawodd i'm meddwl y byddai'n rhaid i mi gadw y rhai dofion oddiwrth y rhai gwylltion, neu fe âi'r cwbl yn wylltion wedi iddynt dyfu i fyny; a'r unig ffordd am dani oedd cael darn o dir wedi ei amgáu â chlawdd neu wrych, i'w cadw i mewn fel na allai y rhai fyddai o'r tu mewn ddim torri allan, na'r rhai o'r tu allan ddim torri i mewn.

Bûm wrthi am tua thri mis yn cau'r darn cyntaf; a hyd nes i mi ei orffen byddwn yn rhwymo'r tri myn yn y darn gorau ohono, a gwneud iddynt gynefino â phori yn fy ymyl; ac yn aml iawn byddwn yn mynd â thywysennau haidd iddynt neu ddyrnaid o reis, ac yn eu bwydo â'm llaw; ac wedi i mi orffen y cae a'u gollwng yn rhydd, dilynent fi yn ôl a blaen gan frefu ar fy ôl am ddyrnaid o ŷd.

Ymhen tua blwyddyn a hanner, yr oedd gennyf ddiadell o tua dwsin o eifr; ac ymhen dwy flynedd arall yr oedd gennyf dair a deugain, heblaw amryw a laddaswn yn fwyd i mi fy hun. Wedi hynny caeais bum darn o dir i'w bwydo ynddynt, gyda chutiau bychain iddynt, ac adwyau o'r naill gae i'r llall.

Yn awr, yr oedd gennyf nid yn unig gig geifr i'w fwyta pan fynnwn, ond llaeth hefyd; a chodais laethdy, ac weithiau cawn alwyn neu ddau o laeth y dydd. O'r diwedd, er nad oeddwn wedi godro buwch erioed, heb sôn am afr, na gweld neb yn gwneud nac ymenyn na chaws, eto, ar ôl amryw gynigion, llwyddais i wneud ymenyn a chaws, ac ni fûm heb ddim byth wedyn.

Buasai'n ddigon i beri i stoic wenu fy ngweld i a'm teulu bach yn eistedd i lawr i gael cinio. Dyna lle'r oedd fy mawrhydi yn dywysog ac yn arglwydd yr ynys i gyd. Yr oedd bywydau fy holl ddeiliaid yn gwbl dan fy awdurdod i. Gallwn grogi, dirdynnu, roddi rhyddid neu ei atal; a heb ddim un gwrthryfelwr ymysg fy holl ddeiliaid. A byddwn yn ciniawa fel brenin, ar fy mhen fy hun, a'm gweision yn fy ngwasanaethu. Pol yn unig a gâi gennad i siarad â mi, fel petasai ef yn ffafryn gennyf. Eisteddai fy nghi (oedd yn awr wedi mynd yn hen ac yn hollol hurt) wrth fy ochr ar y llaw dde, a'm dwy gath, un bob ochr i'r bwrdd, yn disgwyl tamaid o'm llaw yn awr ac yn y man.

Yr oedd golwg ddigon aflêr arnaf, ac wrth edrych arnaf fy hun, ni allwn beidio â gwenu wrth feddwl amdanaf fy hun yn teithio trwy Sir Gaerefrog yn y fath wisg. Yr oedd gennyf gap mawr uchel di—lun, wedi ei wneud o groen gafr, gyda chlust yn hongian y tu ôl i gadw'r haul oddi wrthyf yn ogystal â chadw'r glaw rhag rhedeg i lawr fy ngwar. Yr oedd gennyf siaced fer o groen gafr, a'r godre yn cyrraedd hyd tua chanol fy nghluniau, a chlôs pen—glin o'r un peth. Yr oedd y clôs wedi ei wneud o groen hen fwch gafr, a'i flew yn hongian i lawr mor bell ar y ddwy ochr nes yr oedd fel bandalŵn yn cyrraedd i ganol fy nghoesau. Nid oedd gennyf nac esgidiau na hosanau; ond yr oeddwn wedi gwneud pâr o ryw bethau (ni wn yn iawn beth i'w galw) fel gwintasau, i'w llithro am fy nghoesau, gyda chareiau ar bob ochr.

Gwisgwn wregys llydan o groen gafr wedi ei sychu, a'i dynnu at ei gilydd â dwy garrai o'r un peth, yn lle byclau; ac mewn rhyw fath o ddolen y ddwy ochr i'r rhain, yn lle cleddau a dagr, crogai llif fechan a bwyall, un ar y naill ochr a'r llall yr ochr arall. Yr oedd gennyf wregys arall hefyd, heb fod mor llydan, wedi ei glymu'r un fath, a grogai dros fy ysgwydd; ac ar ei flaen o dan fy mraich chwith, crogai dwy god, y ddwy wedi eu gwneud o groen gafr, gyda phowdr yn un ohonynt a haels yn y llall. Ar fy nghefn cariwn fy masged, fy ngwn ar fy ysgwydd, ac uwch fy mhen ambarél mawr hyll o groen gafr; ond wedi'r cwbl, dyma'r peth yr oedd mwyaf o'i angen arnaf yn nesaf at fy ngwn. Gyda golwg ar fy wyneb, nid oedd ei liw mor felynddu ag a ellid ei ddisgwyl gan ddyn na ofalai ddim amdano, ac un yn byw o fewn pedair gradd ar bymtheg i'r cyhydedd. Ar un adeg yr oeddwn wedi gadael i'm barf dyfu nes yr oedd tua chwarter llath o hyd; ond gan fod gennyf ddigonedd o sisyrnau ac ellynnod, yr oeddwn wedi ei thorri yn lled fyr, ag eithrio yr hyn a dyfai ar fy ngwefus uchaf; ac yr oeddwn wedi trin hwn yn bâr o fwstas Mahometanaidd mawr, y fath ag a wisgai'r Twrciaid yn Sallee. Am y mwstas hyn, ni ddywedaf eu bod yn ddigon mawr i mi hongian fy het arnynt, ond yr oedd eu maint a'u hyd yn aruthrol; ac yn Lloegr, buasid yn eu hystyried yn rhai dychrynllyd.

Fe ddeellwch fod gennyf yn awr ddwy ystâd yn yr ynys; un ydoedd fy nghaer fechan gyda'r mur o'i hamgylch, o dan y graig, gyda'r ogof o'r tu cefn. Ac erbyn hyn yr oedd y pyst yn y clawdd yn tyfu fel coed, ac yr oeddynt wedi lledu cymaint fel nad oedd dim golwg o gwbl ar fath yn y byd o drigfan y tu ôl iddynt.

Yn ymyl yr annedd hon o'm heiddo, ond ychydig ym mhellach i'r tir ac ar le is, yr oedd fy nau gae ŷd; a byddwn yn eu trin ac yn eu hau yn gyson, a rhoddent i mi eu cynhaeaf yn ei adeg; a phryd bynnag y byddai arnaf eisiau rhagor o ŷd, yr oedd gennyf ychwaneg o dir yn ymyl mor addas ag yntau.

Heblaw hyn, yr oedd gennyf dŷ yn y wlad; ac yn awr yr oedd gennyf ystad bur dda yn y fan honno hefyd. Yno yr oedd fy hafoty, fel y galwn i ef, a chadwn ef yn daclus; hynny yw, byddwn yn cadw'r clawdd oedd o'i amgylch yn ei uchder arferol, gyda'r ysgol yn ei sefyll yr ochr i mewn. Byddwn yn torri'r coed, er mwyn iddynt dyfu'n gryf ac ar led, a gwneud gwell cysgod. Ynghanol hwn, yr oedd fy mhabell, sef darn o hwyl wedi ei daenu ar bolion, ac nid oedd byth angen ei hadgyweirio na'i hadnewyddu.

Gerllaw yr oedd gennyf fy nghaeau i'm praidd, hynny yw, fy ngeifr. Yma hefyd y tyfai fy ngrawnwin, a chan mai arnynt hwy y dibynnwn am f'ystôr o resin at y gaeaf, byddwn yn eu cadw yn ofalus iawn. Gan fod hwn tua hanner y ffordd rhwng fy mhreswylfod arall a'r lle y cadwaswn fy nghwch, byddwn yn aros yma yn gyffredin ar y ffordd yno; canys awn yn fynych i weld fy nghwch, a chadwn bopeth oedd yn perthyn iddo yn daclus iawn.

Nodiadau

[golygu]