Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XVII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XVI Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XVIII

PENNOD XVII.
GWELD ÔL TROED AR Y TYWOD—OFNI'R GWAETHAF —DARPARU I'W AMDDIFFYN EI HUN.

TUA chanol dydd, un diwrnod, a minnau yn mynd i gyfeiriad fy nghwch, synnwyd fi'n anghyffredin wrth weld ôl troed noeth dyn ar y traeth, a oedd i'w weld yn eglur iawn yn y tywod. Sefais fel un wedi ei syfrdanu neu fel petawn wedi gweld drychiolaeth. Gwrandewais, edrychais o'm hamgylch, ond ni allwn glywed dim byd na gweld dim byd. Euthum i dir codi i edrych ymhellach. Euthum i fyny'r traeth, ac i lawr y traeth, ond yr oedd i gyd yr un fath; ni fedrwn weld dim un ôl ond hwnnw. Euthum ato drachefn i weld a oedd rhagor yno, a rhag ofn nad oedd yn ddim byd mwy na'm dychymyg i; ond nid oedd dim lle i hynny, canys yno yr oedd ôl troed perffaith,—bysedd, sawdl, a phob rhan o droed. Sut y daeth yno, ni wyddwn i ddim, ac ni fedrwn ddychmygu o gwbl. Ac fel dyn wedi drysu'n hollol ac allan o'm pwyll, deuthum adref i'm hamddiffynfa, megis heb glywed y tir y troediwn arno, ond wedi fy nychrynu hyd yr eithaf, gan edrych yn ôl bob dau gam neu dri, camgymryd pob llwyn a choeden, a chan ddychmygu mai dyn ydoedd pob bonyn o bell.

Pan ddeuthum at fy nghastell (canys felly y galwn ef ar ôl hyn) ffoais iddo fel un a erlidid. Pa un ai mynd dros yr ysgol a wneuthum neu drwy'r twll yn y graig, a alwn i yn ddrws, ni allaf gofio; na, ac ni allwn gofio hyd yn oed fore trannoeth. Ni chysgais ddim y noson honno. Dychmygwn weithiau mai'r diafol ydoedd; canys sut y gallai unpeth arall ar ffurf dyn ddod i'r lle? Ble'r oedd y llestr a'i cludodd yno? Ble'r oedd yr ôl traed eraill? A sut yr oedd yn ddichonadwy i ddyn ddod yno? Ond tybiwn wedyn y gallasai'r diafol fod wedi darganfod digonedd o ffyrdd eraill i'm dychrynu heblaw drwy'r un ôl troed hwn, ac ymddangosai'r peth yn anghyson â dichellion y diafol. O'r diwedd, bernais mai rhai o'r anwariaid o'r tir mawr gyferbyn â mi oedd wedi crwydro dros y môr yn eu badau a glanio ar yr ynys, ond eu bod wedi mynd i ffwrdd drachefn, gan ei bod mor gas efallai ganddynt hwy aros yn yr ynys ddiffaith hon ag a fuasai gennyf innau eu derbyn.

Tra rhedai'r myfyrdodau hyn drwy fy meddwl, yr oeddwn yn ddiolchgar iawn nad oeddwn yn digwydd bod oddeutu'r lle yr adeg honno, ac nad oeddynt hwythau ddim wedi gweld fy nghwch. Yna daeth syniadau arswydus i'm meddwl ynglŷn â'u bod wedi darganfod fy nghwch, a bod pobl yma; ac os felly, fe fyddent yn sicr o ddychwelyd drachefn yn niferoedd mwy, ac fe'm llarpient.

Ac fel hyn fe ymlidiodd fy ofn bob gobaith crefyddol oedd ynof. Diflannodd pob hyder a feddwn gynt yn Nuw; a thybiwn yn awr mai fy rhan i oedd ymostwng a dioddef ei gosbedigaeth Ef, gan fy mod wedi pechu yn Ei erbyn. Yna meddyliais drachefn y gallai Duw, ag yntau nid yn unig yn gyfiawn, ond yn hollalluog, fy ngwaredu hefyd; ac os na welai Ef yn dda wneuthur hynny, fy nyletswydd i oedd ymostwng yn llwyr ac yn hollol i'w ewyllys Ef; ac ar y llaw arall, yr oedd yn ddyletswydd arnaf obeithio ynddo hefyd, gweddio arno, cadw Ei orchmynion a dilyn cyfarwyddiadau ei Drefn Ef.

Ynghanol y myfyrdodau a'r ofnau hyn, trawodd i'm meddwl un diwrnod nad oedd hyn yn ddim byd ond gwag ddychymyg o'm heiddo i, ac efallai nad oedd hwn yn ddim mwy nag ôl fy nhroed i fy hun pan ddeuthum i'r lan o'm cwch. Siriolodd hyn fi ychydig hefyd, a dechreuais fy mherswadio fy hun mai twyll oedd y cwbl, ac nad oedd yn ddim byd ond fy nhroed i fy hun. Dechreuais ymwroli yn awr, a mynd allan drachefn, gan nad oeddwn i ddim wedi cyffro o'm castell am dri diwrnod a thair noson, ac yr oeddwn yn mynd yn brin o fwyd. Gwyddwn hefyd fod eisiau godro'r geifr, ac yr oedd y creaduriaid druain mewn poen ac anghysur mawr; ac yn wir bu bron iddo andwyo rhai ohonynt, a'u hesbio.

A chan ymgalonogi, felly, trwy gredu nad oedd hwn yn ddim byd ond ôl un o'm traed i fy hun, dechreuais fynd allan drachefn, ac euthum i'm tŷ yn y wlad i odro fy ngeifr. Ond o weld fel yr ofnwn fynd yn fy mlaen, mor aml yr edrychwn yn ôl, mor barod oeddwn yn awr ac eilwaith i osod fy masged ar lawr a rhedeg am fy mywyd, buasai yn ddigon i beri i rywun feddwl yr afonyddid arnaf gan gydwybod euog, neu fy mod yn ddiweddar wedi fy nychrynu yn ofnadwy; ac felly, yn wir, yr oeddwn.

Beth bynnag, gan i mi fynd i lawr fel hyn am ddeuddydd neu dri, heb weld dim byd, dechreuais fod ychydig yn fwy eofn, a meddwl nad oedd dim byd yn y peth ond fy nychymyg i fy hun. Ond ni allwn fy mherswadio fy hunan yn llawn nes i mi fynd i lawr i'r traeth drachefn, a gweld yr ôl troed, a'i fesur wrth yr eiddof fy hun, a gweld a oedd tebygrwydd rhyngddynt, er mwyn bod yn sicr mai fy nhroed i ydoedd. Ond pan ddeuthum i'r lle; yn gyntaf, yr oedd yn amlwg i mi nad oedd ddichon i mi fod ar y traeth oddeutu'r fan honno pan oeddwn yn cadw fy nghwch; yn ail, pan euthum i fesur yr ôl â'm troed fy hun, gwelwn nad oedd fy nhraed i ddim cymaint o lawer. Llanwodd y ddau beth hyn fy mhen â dychmygion newyddion, a chrynwn gan annwyd fel un â'r cryd arno; a dychwelais adref wedi fy llenwi â'r syniad fod rhyw ddyn neu ddynion wedi glanio yno; neu ynteu fod yr ynys yn gyfannedd, ac efallai y deuid ar fy ngwarthaf heb yn wybod i mi; ac ni wyddwn pa gwrs i'w gymryd er diogelwch i mi.

O! y fath benderfyniadau chwerthinllyd a wna dynion pan feddiennir hwy gan ofn! Y peth cyntaf a awgrymais i mi fy hun ydoedd chwalu fy nghloddiau a throi fy holl braidd yn wyllt i'r coedwigoedd, rhag ofn i'r gelyn ddod ar eu traws ac yna cyrchu i'r ynys drachefn gyda'r bwriad o gael yr un anrhaith neu rywbeth tebyg; yna ceibio fy nau gae ŷd, rhag iddynt gael y fath rawn yno a chael eu hannog felly i fynychu'r ynys; yna distrywio fy hafoty a'm pabell rhag ofn iddynt weld olion yr un annedd yno, a chael eu cymell i edrych ymhellach er mwyn canfod y preswylwyr.

Y mae ofn perygl yn ddengmil mwy arswydus na'r perygl ei hun pan fo'n eglur i'r llygaid; ac y mae baich pryder yn fwy o lawer i ni na'r drwg y pryderwn yn ei gylch. Edrychwn, mi dybiwn, fel Saul, a gwynai nid yn unig fod y Philistiaid ar ei warthaf, ond. bod Duw wedi ei adael; canys ni cheisiais yn awr dawelu fy meddwl, trwy alw ar Dduw yn fy nghyfyngder, ac ymorffwys ar Ei Ragluniaeth Ef fel y gwnaethwn o'r blaen. Yn awr, dechreuais edifarhau yn arw fy mod wedi torri fy ogof mor fawr nes cael drws allan ohoni, a'r drws hwnnw tu draw i'r lle yr ymunai fy amddiffynfa â'r graig. Ac wedi ystyried y peth yn bwyllog, penderfynais wneud amddiffynfa arall, yr un modd â chynt—ar ddull hanner cylch, yn union lle yr oeddwn wedi plannu rhes ddwbl o goed tua deuddeng mlynedd cyn hynny. Yr oedd y coed hyn wedi eu plannu mor drwchus fel nad oedd eisiau ond ychydig bolion rhyngddynt na fyddai fy nghlawdd wedi ei orffen.

Yn clawdd nesaf allan yr oedd gennyf saith o dyllau bychain, digon mawr i mi roi fy mraich drwyddynt. Ar y tu mewn, lledais fy mur dros ddeg troedfedd o drwch trwy gludo pridd yn barhaus o'm hogof a'i osod wrth droed y clawdd a cherdded arno; a thrwy'r saith dwll llwyddais i osod y mwsgedi a gawswn o'r llong. Gosodais y rhain fel magnelau; a gallwn danio'r saith mewn dau funud o amser. Bûm am fisoedd lawer yn gorffen y mur hwn; ac eto ni'm teimlwn fy hun yn ddiogel nes ei gwpláu.

Pan orffennwyd hyn, gwthiais i'r ddaear frigau coed tebyg i helyg, am bellter mawr i bob cyfeiriad. Credaf fy mod wedi gosod yn agos i ugain mil ohonynt, gan adael lle gwag pur fawr rhyngddynt a'r clawdd, er mwyn i mi gael lle i weld gelynion, a rhag iddynt hwythau gael cysgod y coed ifainc pe ceisient ddod yn agos i'm clawdd.

Ymhen dwy flynedd o amser yr oedd gennyf lwyn o goed trwchus; ac ymhen pum mlynedd neu chwech yr oedd gennyf goedwig o flaen fy nghartref, yn tyfu mor aruthrol o drwchus a chadarn fel yr oedd yn annichon mynd trwyddi. Trefnais fynedfa i mi fy hunan i fynd yn ôl a blaen trwy osod dwy ysgol ar y graig; a phan dynnid yr ysgolion ymaith ni allai undyn byw ddod i lawr ataf heb iddo ei niweidio ei hun.

Pryderwn lawer hefyd ynghylch fy niadell fechan o eifr; ac wedi ystyriaeth hir, ni allwn feddwl ond am ddwy ffordd i'w hachub. Un ydoedd, chwilio am le cyfleus arall i dorri ogof o dan y ddaear, a'u gyrru hwynt iddi bob nos; a'r llall ydoedd, cau dau ddarn neu dri o dir ymhell oddiwrth ei gilydd lle y medrwn gadw tua hanner dwsin o eifr ifainc ymhob un; fel os digwyddai rhyw anffawd i'r praidd yn gyffredinol y medrwn fagu rhai drachefn heb fawr o drafferth ac mewn byr amser. Felly treuliais beth amser i chwilio am y rhannau mwyaf cudd o'r ynys, a threwais ar fan oedd mor neilltuedig ag a allwn ei ddymuno. Darn bychan o dir llaith ydoedd ynghanol coed trwchus, a bron yn dair acer; ac wedi ei amgylchu â choed fel nad oedd dim hanner cymaint o lafur i'w gau â'r darnau eraill oedd gennyf. Mewn llai na mis o amser, yr oeddwn wedi ei gau, a symudais ddeg o eifr ieuainc a dau fwch gafr i'r darn hwn.

Euthum drwy'r holl lafur hyn, yn unig am fod arnaf ofn oherwydd yr ôl troed a welswn; canys hyd yn hyn, ni welais yr un creadur o ddyn yn dod yn agos i'r ynys.

Nodiadau

[golygu]