Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XVIII
← Pennod XVII | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XIX → |
PENNOD XVIII.
ROBINSON YN DARGANFOD FOD CANIBALIAID WEDI YMWELED Â'R YNYS—GWNEUD CYNLLUNIAU I'W AMDDIFFYN EI HUN AC I LADD YR ANWARIAID.
WEDI i mi ddiogelu un rhan o'm praidd bychan, euthum dros yr holl ynys i chwilio am le cudd arall; ac wrth grwydro ymhellach at ben gorllewinol yr ynys nag a wnaethwn erioed o'r blaen, ac edrych allan i'r môr, tybiwn weld cwch ar y môr yn y pellter. Yr oeddwn wedi dod o hyd i sbienddrych neu ddau yn un o gistiau'r llongwyr, ond nid oedd gennyf ar y pryd; ac yr oedd hwn mor bell fel na wyddwn beth ydoedd, er i mi edrych arno hyd oni fethodd fy llygaid â dal i edrych arno yn hwy. Pa un ai cwch ydoedd ai peidio, ni wn i ddim; ond wrth i mi ddisgyn o'r bryn, ni welwn mohono mwyach, a gadewais iddo; ond penderfynais nad awn i ddim allan byth yn rhagor heb sbienddrych yn fy mhoced.
Pan ddeuthum i lawr i'r traeth, a hynny ar drwyn de-orllewin yr ynys, fe'm synnwyd ac fe'm dryswyd yn hollol; ac amhosibl ydyw i mi fynegi'r arswyd oedd arnaf wrth weld y traeth wedi ei orchuddio â phenglogau, dwylo, traed, ac esgyrn cyrff dynol; ac yn arbennig, fe sylwais ar le yr oedd tân wedi ei gynnau, a chylch wedi ei dorri yn y ddaear, lle mae'n debyg, yr eisteddasai'r dyhirod anwaraidd i'w gwleddoedd annynol ar gyrff eu cyd-greaduriaid.
Fe'm synnwyd gymaint gan yr olwg ar y pethau hyn, fel na thybiwn o gwbl fod dim perygl i mi oddi wrthynt am amser maith. Claddwyd fy holl ofnau yn y meddyliau am y fath gieidd-dra annynol ac uffernol, a'r arswyd oherwydd dirywiad y natur ddynol; ac er y clywswn am y peth yn aml, ni chawswn erioed olwg mor agos arno o'r blaen. Trois fy wyneb oddiwrth yr olygfa erchyll, a bûm bron â llewygu, ac ni fedrwn ddioddef aros yn y lle foment yn hwy; ond dringais y bryn drachefn cyn gynted ag y medrwn, a cherddais ymlaen i gyfeiriad fy mhreswylfod.
Pan ddeuthum allan o'r rhan honno o'r ynys, sefais yn llonydd am ychydig, fel pe bawn wedi fy syfrdanu; yna gan fy adfeddiannu fy hun, edrychais i fyny gyda holl angerdd fy enaid, a'm dagrau'n lli, a diolchais i Dduw am iddo osod fy rhan i ddechrau mewn cwr o'r byd lle yr oedd gwahaniaeth rhyngof a'r creaduriaid arswydus hyn. Ac mewn agwedd diolch fel hyn, euthum adref i'm castell, a theimlwn yn fwy tawel yn awr nag oeddwn o'r blaen. Gwyddwn fy mod yn awr wedi treulio deunaw mlynedd yma bron, ac ni welswn ôl traed creadur o ddyn erioed o'r blaen. Eto yr oedd ynof y fath atgasrwydd at y dyhirod anwaraidd y soniais amdanynt, fel yr oedd arnaf gymaint o ofn eu gweld â gweld y diafol ei hun, ac fe'm cyfyngais fy hunan i'm cylch fy hun am tua dwy flynedd wedi hyn. Ni wneuthum gymaint â mynd i edrych ar fy nghwch yn ystod yr amser hyn i gyd, ond dechreuais yn hytrach feddwl am wneud un arall; canys ni allwn feddwl rhoi cynnig arall ar nôl y cwch hwnnw, rhag ofn i mi gyfarfod â rhai o'r creaduriaid hyn ar y môr.
Fodd bynnag, dechreuodd amser dreulio ymaith fy anesmwythyd yn eu cylch; a dechreuais fyw yr un mor dawel ag o'r blaen; gyda'r gwahaniaeth hwn yn unig, fy mod yn fwy gochelgar, ac yn cadw fy llygaid yn fwy agored nag o'r blaen, rhag ofn y gwelid fi gan rai ohonynt, ac yn enwedig yr oeddwn yn fwy gochelgar wrth danio fy ngwn, rhag ofn i rai ohonynt, a hwythau ar yr ynys, ddigwydd ei glywed.
Fe gymerai gyfrol fwy na hon i mi osod i lawr yr holl ddichellion a luniais yn fy meddwl i ddistrywio'r creaduriaid hyn, neu o leiaf i'w dychrynu fel ag i'w rhwystro rhag dod yma byth mwy. Weithiau meddyliwn am dorri twll dan y lle y gwnaent dân arno, a rhoddi deubwys neu dri o bowdr—gwn ynddo a phan gyneuent hwy y tân fe daniai hwnnw a chwythu i fyny bopeth a fyddai'n agos iddo. Ond, yn y lle cyntaf, gan y byddai'n anodd iawn gennyf wastraffu cymaint â hynny o bowdr arnynt, a minnau heb fod yn sicr y taniai ar adeg arbennig; ac ar y gorau ni wnâi fawr fwy na lluchio'r tân o amgylch eu clustiau a'u dychrynu; felly rhoddais y peth o'r neilltu. Yna bwriadu gwneud cynllwyn a'm gosod fy hun mewn man cyfleus gyda'm tri gwn wedi eu llwytho, ac ynghanol eu gloddest gwaedlyd, saethu atynt, a byddwn yn sicr o ladd neu glwyfo dau neu dri ohonynt ar bob ergyd; ac yna rhuthro arnynt gyda'm tri phistol a'm cleddau, a diau gennyf petai yno ugain ohonynt y lladdwn i'r cwbl. Bu'r syniad hwn yn fy mhen am rai wythnosau; ac yr oeddwn mor llawn ohono fel y breuddwydiwn amdano, ac weithiau breuddwydiwn fy mod ar ollwng ergyd atynt yn fy nghwsg.
O'r diwedd, cefais le ar ochr y mynydd lle tybiwn y gallwn aros yn ddiogel nes y gwelwn eu cychod yn dyfod; a gallwn wedyn ymguddio heb iddynt fy ngweled yn y llwyni coed; ac yno gallwn eistedd a'u gwylio ac anelu at eu pennau pan fyddent mor agos at ei gilydd fel na allwn i ddim peidio â chlwyfo tri neu bedwar ohonynt ar yr ergyd gyntaf. Ac wedi i mi baratoi fy nghynllwyn fel hyn, awn am dro'n barhaus bob bore i ben y bryn i edrych a welwn i gychod ar y môr yn dynesu at yr ynys. Ond dechreuais flino ar y gwaith hwn, wedi i mi fod wrthi'n gwylio'n gyson am ddeufis neu dri, a gorfod dychwelyd bob tro heb ddarganfod dim byd; a dechreuais feddwl ar beth yr oeddwn am ymosod. Pa awdurdod a pha hawl oedd gennyf fi i gymryd arnaf fod yn farnwr a dienyddiwr ar y gwŷr hyn fel drwgweithredwyr, a'r Nefoedd wedi gweld yn dda eu gadael yn ddigerydd am gymaint o oesau.
Parodd yr ystyriaethau hyn i mi ymatal; a phob yn dipyn rhoddais fy nghynllun heibio, a barnwn yn awr mai camwri fyddai ymosod ar yr anwariaid; nad fy musnes i oedd ymyrryd â hwynt oni bai eu bod hwy yn ymosod arnaf fi gyntaf. Ar y cyfan, credwn mai fy musnes i oedd ymguddio rhagddynt, a pheidio â gadael yr arwydd lleiaf iddynt ddyfalu oddi wrth hynny fod yr un dyn byw ar yr ynys. A diolchais yn ostyngedig ar fy ngliniau i Dduw, am iddo fy ngwaredu rhag euogrwydd gwaed; gan erfyn arno Ef roddi amddiffyn Ei Ragluniaeth drosof, fel na syrthiwn i ddwylo'r barbariaid ac na osodwn innau mo'm dwylo arnynt hwythau, oni bai fy mod yn derbyn galwad y Nef i wneuthur hynny er mwyn amddiffyn fy einioes fy hun.