Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XX
← Pennod XIX | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XXI → |
PENNOD XX.
YR ANWARIAID YN YMWELED Â'R YNYS DRACHEFN—ROBINSON YN EU GWELD YN DAWNSIO—GWELD DARNAU O LONG AR Y CREIGIAU.
YR oedd yn awr yn fis Rhagfyr yn fy nhrydedd fwyddyn ar hugain; a chan mai Cyhydedd y Deau ydoedd (ni allaf ei alw'n aeaf), dyma adeg fy nghynhaeaf i, a rhaid oedd i mi fod allan gryn lawer yn y meysydd. Wrth i mi fynd allan yn bur gynnar un bore, hyd yn oed cyn iddi dorri'r dydd yn iawn, fe'm synnwyd wrth weld golau tân ar y traeth, tua dwy filltir o bellter, oddi wrthyf, yng nghyfeiriad pen yr ynys lle yr oeddwn wedi sylwi i'r anwariaid fod yno o'r blaen.
Yr oeddwn wedi fy synnu'n ofnadwy gan yr olygfa, ac arhosais lle'r oeddwn, gan na feiddiwn fynd allan. Ac eto nid oedd dim heddwch i mi yno, gan yr ofnwn os digwyddai i'r anwariaid hyn, wrth grwydro drwy'r ynys, ddod ar draws fy ŷd neu ryw waith o'm heiddo, y casglent ar unwaith fod yno bobl, ac na orffwysent wedyn nes cael hyd i mi. Yn y cyfyngder hwn, euthum yn ôl ar fy union i'm castell, gan dynnu'r ysgol ar fy ôl a gwneud i bopeth o'r tu allan edrych mor wyllt a naturiol ag a fedrwn.
Yna paratoais i'm hamddiffyn fy hun. Llwythais fy holl fagnelau, fel y galwn i hwynt; sef, fy mwsgedi, a phob pistol a feddwn, a phenderfynais fy amddiffyn fy hun hyd yr anadl olaf, heb anghofio fy nghyflwyno fy hunan i'r Amddiffyn Dwyfol, a gweddio'n daer ar Dduw i'm gwaredu o ddwylo'r barbariaid. Ac yn y sefyllfa hon y bûm am tua dwy awr. Wedi eistedd ychydig yn hwy, gan synfyfyrio beth a wnawn, methais à dal dim rhagor, a chan osod fy ysgol yn erbyn yr ochr ar le gwastad, a'i thynnu ar fy ôl, a'i hailosod drachefn, dringais i ben y bryn; a chan dynnu allan fy sbienddrych, gorweddais ar fy nhor ar lawr, a dechrau edrych am y lle. Yn fuan gwelwn nad oedd dim llai na naw o anwariaid noethion yn eistedd o amgylch tân bychan, nid i ymdwymno, gan nad oedd angen hynny arnynt wrth fod y tywydd yn boeth dros ben, ond, mae'n debyg, i drin peth o'u hymborth barbaraidd o gig dynol a ddygasent gyda hwynt,—pa un ai'n fyw ai'n farw, ni wyddwn i ddim.
Yr oedd ganddynt ddau ganŵ wedi eu tynnu i fyny ar y traeth; a chan ei bod y pryd hwnnw yn amser trai, ymddangosent i mi fel pe baent yn aros am y llanw i fynd ymaith drachefn. Nid hawdd yw dychmygu'r dryswch a barodd yr olygfa hon i mi, yn enwedig wrth eu gweld yn dyfod fy ochr i i'r ynys, ac mor agos ataf hefyd. Ond pan ystyriais eu bod yn dyfod bob amser gyda'r trai, dechreuais ymdawelu, gan fy mod yn fodlon yn awr y gallwn fentro allan yn ddiogel yn ystod y llanw, os na fyddent ar y lan cyn hynny.
Megis y disgwyliwn, felly y profodd; canys cyn gynted ag y daeth y llanw, gwelwn hwynt i gyd yn cymryd cwch, ac yn rhwyfo ymaith. Fe ddylaswn sylwi iddynt fynd ati i ddawnsio am awr neu fwy cyn ymadael; a gallwn ganfod eu hystumiau a'u hysgogiadau a'm gwydrau gwelwn hefyd eu bod yn noeth lymun. Cyn gynted ag y gwelais eu bod wedi mynd, cymerais ddau wn ar fy ysgwyddau, a dau bistol wrth fy ngwregys, a'm cleddau ar fy ochr heb ddim gwain, ac euthum nerth fy nhraed i'r bryn lle y cawswn yr olwg gyntaf arnynt; a chyn gynted ag y cyrhaeddais yno, gwelwn fod tri chanŵ arall wedi bod yno; ac wrth edrych allan ymhellach, gwelwn y cwbl ar y môr gyda'i gilydd, yn mynd am y tir mawr. Golygfa arswydus oedd hon i mi, yn enwedig wrth i mi fynd i lawr i'r traeth a gweld olion yr erchyllwaith a adawsid ar ôl ganddynt; sef, y gwaed, yr esgyrn, a darnau o gnawd cyrff dynol a fwytasid gan y dyhirod hynny mewn difyrrwch a than chwarae.
Yr oedd yn amlwg i mi nad ymwelent â'r ynys yn aml; a threuliais flwyddyn a thri mis yno cyn gweled dim ychwaneg ohonynt. Ond yr oedd cynnwrf anghyffredin yn fy meddwl yn ystod y pymtheng mis hyn. Cysgwn yn anesmwyth, breuddwydiwn freuddwydion arswydus, ac yn fynych iawn neidiwn i fyny yn fy nghwsg yn ystod y nos.
Canol mis Mai ydoedd, ar yr unfed dydd ar bymtheg, 'rwy'n credu, yn ôl yr hen galendr pren oedd gennyf, pan chwythodd storm gref o wynt drwy'r dydd, gyda chryn lawer o fellt a tharanau; ac yr oedd yn noson front anghyffredin wedi hynny. Ni wn i ddim pa achlysur arbennig ydoedd, ond tra'r oeddwn yn darllen y Beibl, a minnau wedi fy llyncu gan feddyliau difrifol ynghylch fy nghyflwr presennol, fe'm synnwyd gan sŵn gwn, fel y tybiwn i, wedi ei danio ar y môr.
Parodd hyn syndod o natur hollol wahanol i ddim un a gawswn o'r blaen, gan i'r peth roi syniadau newydd hollol yn fy mhen. Codais ar frys gwyllt, ac mewn chwinciad, trewais fy ysgol ar ochr y graig, a chan ddringo ar hyd-ddi a'i thynnu ar fy ôl, cyrhaeddais ben y bryn yn union ar y funud y daeth fflach o dân a barodd i mi wrando am ergyd arall; ac ymhen hanner munud dyma fi'n ei chlywed; ac oddi wrth y sŵn gwyddwn iddi ddod o'r rhan honno o'r môr lle y gyrrwyd fi gyda'r lli yn fy nghwch.
Tybiais ar unwaith mai rhyw long mewn perygl oedd yno, a bod ganddynt gydymaith neu long arall yn gwmni, a'u bod yn tanio'r gynnau fel arwydd o gyfyngder, ac er mwyn cael help. Bûm yn ddigon pwyllog i feddwl, hyd yn oed os na fedrwn i eu helpu hwy, y gallent hwy efallai fy helpu i; felly cesglais ynghyd hynny o goed sychion a allwn eu cael, a chan wneud pentwr braf, dodais dân ynddo ar ben y bryn. Yr oedd y coed yn sychion, ac fe fflamiodd yn rhwydd, ac er bod y gwynt yn chwythu'n lled galed, llosgodd allan yn bur llwyr; ac yr oeddwn yn eithaf sicr os oedd yno'r fath beth â llong y byddent yn rhwym o'i weld, ac fe'i gwelsant yn ddiau; canys cyn gynted ag y fflamiodd fy nhân i fyny clywais wn arall, ac wedi hynny amryw o rai eraill, a'r cwbl o'r un cyfeiriad. Bûm yn trin fy nhân drwy'r nos nes i'r dydd dorri; a phan oedd yn ddydd golau, a'r awyr wedi clirio, gwelwn rywbeth ymhell allan yn y môr, yn union ar du'r dwyrain i'r ynys; ni allwn ddarganfod pa un ai hwyl ai corff llong ydoedd, na, ddim hyd yn oed â'm gwydrau; yr oedd y pellter gymaint, a'r tywydd hefyd braidd yn niwlog; o leiaf yr oedd felly allan yn y môr.
Edrychais arno'n fynych drwy'r diwrnod hwnnw a gwelais yn fuan nad oedd yn symud dim; felly cesglais mai llong wrth ei hangor ydoedd. A chan fy mod yn awyddus i wybod, cymerais fy ngwn yn fy llaw, a rhedais i gyfeiriad pen deau'r ynys, hyd at y creigiau lle gynt y'm cludwyd ymaith gyda'r lli; ac wedi cyrraedd yno, er gofid mawr i mi, gwelwn ddarn o long wedi ei fwrw yn y nos ar y creigiau cudd hynny a welswn pan oeddwn allan yn fy nghwch. Ymddengys fod y gwŷr hyn, pwy bynnag oeddynt, gan eu bod allan o'u cynefin, a chan fod y creigiau'n hollol dan ddŵr, wedi eu gyrru arnynt yn y nos, wrth fod y gwynt yn chwythu'n galed o'r Gogledd-ddwyrain. Os oeddynt wedi gweled yr ynys, mae'n rhaid eu bod wedi ceisio eu hachub eu hunain trwy gymorth eu cwch; ond gan eu bod wedi tanio gynnau am gynhorthwy, fe'm llanwyd â phob math o syniadau. Yn gyntaf, wedi iddynt weld fy ngolau i, dychmygwn eu bod wedi mynd i'r cwch, a cheisio cyrraedd y lan; bryd arall dychmygwn eu bod wedi colli eu cwch cyn hynny, drwy i'r môr olchi dros y llong. Ar adegau eraill tybiwn fod ganddynt long arall yn gwmni, a bod honno wedi eu codi. Weithiau dychmygwn eu bod i gyd wedi mynd allan i'r môr mewn cwch, a chan i'r llif y bûm i ynddo gynt eu cipio ymaith, eu bod wedi eu cludo allan i'r eigion mawr lle nad oedd dim yn eu haros ond trueni ac angau; ac erbyn hyn efallai eu bod yn trengi o newyn ac yn dechrau bwyta'i gilydd.