Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XX Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XXII

PENNOD XXI.
MYND I'R DARN LLONG A CHAEL LLAWER O BETHAU OHONI—MEDDWL GADAEL YR YNYS.

HYD at y flwyddyn olaf i mi ar yr ynys hon, ni wyddwn a oedd rhywun wedi ei achub o'r llong honno ai peidio; ac ni chefais ddim ond y gofid o ganfod corff bachgen wedi boddi yn dod i'r lan ar ben yr ynys oedd nesaf at y darn llong. Nid oedd ganddo ddim dillad amdano heblaw gwasgod llongwr, pâr o drors lliain, a chrys lliain glas; ond nid oedd dim byd i'm cyfarwyddo, hyd yn oed i ddyfalu i ba genedl y perthynai. Nid oedd ganddo ddim yn ei bocedi oddieithr dau ddarn wyth a phibell. Yr oedd yr olaf ddengwaith mwy gwerthfawr i mi na'r cyntaf.

Yr oedd yn dawel yn awr, ac yr oedd arnaf awydd mentro allan yn fy nghwch i'r darn llong hwn, heb amau dim na chawn rywbeth ynddi a fyddai o ddefnydd i mi. Ond nid hynny yn hollol a'm cymhellodd, yn gymaint â'r syniad y gallai fod rhyw greadur byw ar y bwrdd y gallwn nid yn unig achub ei fywyd, ond y gallwn, trwy achub y bywyd hwnnw, sirioli fy mywyd fy hunan yn fawr iawn. Glynodd y syniad hwn gymaint yn fy nghalon fel na allwn fod yn dawel na dydd na nos, ond rhaid oedd mentro yn fy nghwch i'r darn llong.

Yng ngrym yr argraff hon, brysiais yn ôl i'm castell; paratoais bopeth gogyfer â'm mordaith; ac wedi fy llwytho fy hunan â phopeth angenrheidiol, euthum â hwynt i'm cwch. A chan weddïo ar Dduw i'm harwain ar y fordaith, euthum allan; ac wrth rwyfo'r canŵ gyda'r lan, deuthum o'r diwedd i ben pellaf yr ynys ar yr ochr honno; sef, y Gogledd—ddwyrain. Ac wedi tynnu fy nghwch i gilfach fechan ar y traeth, euthum i eistedd ar ddarn o dir codi, yn bruddaidd ac yn bryderus iawn, rhwng ofn ac awydd, ynglŷn â'm mordaith. Ond tra'r oeddwn yn synfyfyrio, gwelwn fod y llif wedi troi, a bod y llanw'n dod i mewn; ac am rai oriau byddai'n annichon i mi fynd.

Bore trannoeth, penderfynais gychwyn gyda'r llif cyntaf. Deliais allan i'r môr ar y cyntaf, yn union i'r gogledd, a chludodd y llif fi gyda chyflymdra mawr i gyfeiriad y darn llong, ac mewn llai na dwyawr deuthum ati. Golygfa ddigalon ydoedd; llong o Sbaen yn ôl ei saerniaeth, wedi glynu ac wedi ei gwasgu'n dyn rhwng dwy graig. Yr oedd ei starn i gyd a'i chwarter ôl wedi ei falu'n yfflon gan y môr; a chan fod y fforcasl, a lynasai yn y creigiau, wedi rhedeg arnynt gyda'r fath rym, yr oedd y mast blaen a'r mast mawr wedi eu torri yn y bôn; ond yr oedd y bolsbryd yn gyfan, ac ymddangosai'r pen blaen yn gadarn. Wedi i mi ddod yn agos ati, daeth ci i'r golwg arni, ac wrth iddo fy ngweld i'n dod, cyfarthai a gwaeddai; a chyn gynted ag y gelwais arno, neidiodd i'r môr i ddod ataf, a chymerais ef i'r cwch; ond gwelwn ei fod bron â marw gan newyn a syched. Rhoddais dafell o'm bara iddo, a bwytaodd hi fel blaidd rheibus wedi bod yn trengi o newyn am bythefnos yn yr eira. Yna rhoddais ychydig ddŵr croyw i'r creadur druan, a phetawn wedi gadael iddo buasai wedi ei hollti ei hunan ag ef.

Wedyn euthum ar y bwrdd; ond y peth cyntaf a welais oedd dau ddyn wedi boddi yn y fforcasl, gyda'u breichiau'n dyn am ei gilydd. Heblaw'r ci, nid oedd yn y llong ddim byd â bywyd ynddo; na dim nwyddau hyd y gwelwn i ond a ddifethwyd gan y dŵr. Yr oedd yno gasgiau o wirod, pa un ai gwin ai brandi ni wyddwn i ddim; ond yr oeddynt yn rhy fawr i ymyrryd â hwynt. Gwelais amryw gistiau o eiddo'r llongwyr, a chefais ddwy ohonynt i'r cwch heb edrych beth oedd ynddynt. Yr oedd amryw fwsgedi yn y caban a chorn powdwr mawr, a thua phedwar pwys o bowdwr ynddo. Nid oedd arnaf eisiau'r mwsgedi a gadewais iddynt, ond cymerais y corn powdwr. Cymerais hefyd raw dân a gefail, yr oedd mawr angen arnaf amdanynt; a hefyd, dau degell pres bychan, pot efydd, a gradell; a chyda hyn o lwyth, a'r ci, deuthum oddiyno. A'r noson honno, ryw awr wedi nos, cyrhaeddais yr ynys drachefn, yn flinedig ac yn lluddedig neilltuol.

Cysgais y noson honno yn y cwch; a bore trannoeth penderfynais gadw'r pethau a gawswn yn fy ogof newydd. Wedi cael bwyd, cludais fy İlwyth i'r lan, a dechreuais chwilota ei gynnwys; ond ar y cyfan, ni chefais ar y fordaith hon ond ychydig iawn o ddim byd a oedd o ddefnydd i mi. Nid oedd yr arian a gawswn o fudd yn y byd i mi, ac fe'i rhoeswn i gyd am ddeubar neu dri o 'sgidiau a 'sanau Lloegr,—pethau yr oedd arnaf angen mawr amdanynt; ond yr oedd blynyddoedd er pan fuasai rhai am fy nhraed i.

Wedi i mi ddwyn popeth i'r lan a'u cadw yn ddiogel, a mynd â'm cwch i'w borthladd, cyrchais i'm hen gartref, lle y cefais bopeth yn ddiogel ac yn dawel. Gorffwysais yn awr, gan fyw yn yr hen ddull; dim ond fy mod yn fwy gwyliadwrus nag yr arferwn fod, ac nid awn allan gymaint.

Bum fyw yn y cyflwr hwn am ddwy flynedd arall bron, a'm pen yn llawn o syniadau a chynlluniau ar sut i ddianc o'r ynys; a chredaf yn wir, pe buasai'r cwch yr aethwn ynddo o Sallee gennyf yn awr, y buaswn wedi mentro i'r môr. Mae'n wir fod gennyf fwy o gyfoeth yn awr nag oedd gennyf o'r blaen, ond ni fedrwn wneud dim gwell defnydd ohono nag a wnâi Indiaid Periw cyn i'r Ysbaenwyr ddod yno.

Rhyw noswaith yn ystod y tymor glawog ym mis Mawrth, a'r bedwaredd flwyddyn ar hugain er pan oeddwn wedi gosod fy nhraed ar yr ynys unig hon, gorweddwn yn effro yn fy ngwely. Yr oedd fy iechyd yn iawn, a dim mwy o anesmwythdra meddwl arnaf nag arfer, ond ni allwn gau fy llygaid mewn modd yn y byd, hynny yw, i gysgu; na, dim un chwinciad drwy gydol y nos, dim ond fel a ganlyn:

Euthum drwy holl hanes fy mywyd, mewn crynodeb fel petai, hyd at fy nyfod i'r ynys hon, a hefyd y darn hwnnw o'm bywyd er pan ddeuthum i'r ynys. Wrth ystyried fy sefyllfa er yr adeg y deuthum yma, yr oeddwn yn cymharu fy amgylchiadau cysurus yn y blynyddoedd cyntaf â'r bywyd o bryder ac ofn a dreuliaswn fyth er pan welswn yr ôl troed ar y tywod.

Yna dechreuais feddwl yn ddifrifol am y peryglon y buaswn ynddynt am gymaint o flynyddoedd, yn enwedig y perygl o syrthio i ddwylo canibaliaid ac anwariaid na thybient ei fod yn ddim mwy o drosedd iddynt fy lladd a'm bwyta nag a wnawn innau gyda cholomen neu ylfinir.

O'r diwedd penderfynais mai'r unig ffordd i mi geisio dianc ydoedd trwy gael un o'r anwariaid yn eiddo i mi; ac, os yn bosibl, byddai hwnnw yn un o'r carcharorion a fyddai wedi ei gollfarnu i'w fwyta ganddynt hwy, ac wedi ei ddwyn yma i'w ladd. Ond codai'r anhawster hwn wedyn, sef, ei bod yn annichonadwy gwneud hyn heb ymosod ar fintai gyfan ohonynt a lladd y cwbl; ac arswydai fy nghalon wrth feddwl am dywallt cymaint â hynny o waed; hyd yn oed i'm gwaredu fy hun. Fodd bynnag, wedi llawer o ymddadlau, penderfynais gael un o'r anwariaid i'm dwylo, costied a gostio. A'r peth nesaf oedd dyfeisio sut i wneud hynny, ac yr oedd hyn yn wir yn beth anodd iawn. Nid oedd dim am dani ond eu gwylio pan ddeuent i'r lan, a gadael i'r gweddill gymryd eu siawns yn ôl fel y byddai'r cyfle.

Nodiadau

[golygu]