Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXII Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XXIV

PENNOD XXIII.
ROBINSON YN DYSGU FRIDAY AC YN EI WAREIDDIO—CEISIO RHOI SYNIAD IDDO AM GRISTNOGAETH.

YMHEN deuddydd neu dri ar ôl i mi ddychwelyd i'm castell, er mwyn tynnu Friday oddi wrth ei ddull erchyll o ymborthi ac oddi wrth flas stumog canibal, tybiais y dylwn adael iddo brofi rhyw gig arall; felly euthum ag ef allan un bore i'r coed. Euthum gan fwriadu lladd myn o'm diadell fy hun; ond wrth i mi fynd gwelwn afr yn gorwedd mewn cysgod a dau fyn ieuanc yn ei hymyl. Cydiais yn Friday. " Aros," meddwn i, "saf yn llonydd," a gwneuthum arwyddion arno i beidio â symud. Ar unwaith codais fy ngwn, saethais, a lleddais fyn. Yr oedd y creadur druan wedi ei synnu'n fawr, arswydai a chrynai, ac yr oedd golwg mor frawychus arno fel y credwn y syrthiai ar lawr. Ni welodd ef mo'r myn y saethaswn ato, ac ni sylwodd fy mod wedi ei ladd, ond rhwygodd ei wasgod i weld a oedd ef ei hun wedi ei glwyfo, a thybiai fy mod i wedi penderfynu ei ladd; canys daeth ataf gan benlinio o'm blaen, a chan gofleidio fy ngliniau dywedodd 'amryw bethau na ddeallwn i mohonynt; ond gwelwn yn hawdd mai'r ystyr oedd erfyn arnaf beidio â'i ladd.

Yn fuan gwelais ffordd i'w ddarbwyllo na wnawn i ddim niwed iddo, a chan ei gymryd gerfydd ei law gwenais arno, a chan ddangos iddo'r myn a laddaswn amneidiais arno i redeg i'w nôl,—yr hyn a wnaeth. A thra'r oedd ef yn synnu ac yn edrych sut y lladdasid y creadur, llwythais fy ngwn drachefn. Yn y man, gwelwn aderyn mawr, tebyg i gudyll, yn eistedd ar goeden o fewn ergyd; ac er mwyn i Friday ddeall ychydig beth oeddwn am ei wneud, gelwais arno drachefn a dangosais yr aderyn iddo (parrot ydoedd, er y tybiwn i ar y cyntaf mai cudyll ydoedd); a chan bwyntio at y parrot, ac at fy ngwn, a'r ddaear o dan y parrot, gwneuthum iddo ddeall y saethwn yr aderyn a'i ladd. Felly teniais, a pherais iddo edrych, a gwelodd y parrot yn syrthio yn y fan. Safodd eto fel pe bai wedi cael braw, er gwaethaf popeth a ddywedaswn wrtho, a gwelwn ei fod wedi ei synnu'n fwy fyth gan na welsai mohonof yn rhoi dim byd yn y gwn; ond tybiai fod rhyw ystôr ryfedd o angau a dinistr yn y peth hwnnw a allai ladd dyn, anifail, aderyn, neu unrhyw beth arall ymhell neu yn agos; a chredaf pe gadawswn lonydd iddo yr addolasai fi a'm gwn. Am y gwn, ni wnâi gymaint â'i gyffwrdd am ddyddiau lawer wedi hyn; ond siaradai ac ymddiddanai ag ef pan fyddai ar ei ben ei hun; a gwnâi hynny, fel y cefais wybod ganddo wedyn, i ddeisyf arno beidio â'i ladd.

Ymhen ychydig amser gofynnais iddo drachefn redeg i nôl yr aderyn, a gwnaeth hynny. Yna euthum â'r myn gafr adref, a blingais ef, a thorrais ef yn ddarnau orau y medrwn. Yna berwais beth o'r cig a gwneuthum gawl ardderchog ohono. Ac wedi i mi fwyta peth, rhoddais beth iddo yntau, a hoffai ef yn fawr iawn; ond y peth a'i synnai fwyaf ydoedd fy ngweld i yn bwyta halen ynddo. Gwnaeth arwyddion i ddangos i mi nad oedd halen yn dda i'w fwyta, ac ni chymerai ef byth halen gyda'i gig na'i gawl.

Ar ôl i mi ei borthi fel hyn â chig wedi ei ferwi a chawl, penderfynais roi gwledd iddo drannoeth trwy rostio darn o'r myn gafr. Gwneuthum hyn trwy ei hongian o flaen y tân wrth linyn, gan osod dau bolyn i fyny, un o boptu, a rhwymo'r llinyn wrth bren croes ar y top; ac edmygai Friday hyn yn fawr. Ond pan ddaeth i brofi'r cig, cymerth gymaint o ffyrdd i ddweud wrthyf mor hoff oedd ohono, na allwn i ddim peidio â'i ddeall; ac o'r diwedd dywedodd wrthyf na fwytâi ef byth mwyach gig dyn, peth yr oeddwn yn falch iawn o'i glywed.

Trannoeth dodais ef i ddyrnu ŷd a'i nithio yn y dull y gwnawn i; a deallodd yn fuan sut i wneud hynny cystal â minnau, yn enwedig wedi iddo weld ystyr y peth, ac mai i wneud bara ohono yr oedd; canys wedi hynny gadewais iddo fy ngweld yn gwneud bara ac yn ei grasu hefyd; ac ymhen ychydig amser gallai Friday wneud y gwaith i mi i gyd, cystal ag y medrwn innau fy hunan. Yn awr dechreuais feddwl, gan fod gennyf ddau ben i'w bwydo yn lle un, y byddai'n rhaid i mi ddarparu rhagor o dir i'm cynhaeaf, a hau mwy o ŷd nag a arferwn; felly merciais ddarn mwy o dir, a dechreuais wneud clawdd fel o'r blaen, a bu Friday yntau'n gweithio arno yn ewyllysgar ac yn galed iawn.

Dyma'r flwyddyn ddifyrraf o'r bywyd a dreuliais yn y lle hwn. Dechreuodd Friday siarad yn lled dda a deall enw bron bopeth y galwn amdano a phob lle yr anfonwn ef iddo, ac ymgomiai lawer â mi. Deuai ei onestrwydd syml a diffuant yn fwy i'r amlwg bob dydd, a dechreuais ymserchu ynddo mewn gwirionedd, a chredaf y carai yntau finnau yn fwy nag y gallodd garu dim byd erioed o'r blaen.

Un tro yr oedd arnaf awydd gwybod a oedd arno rywfaint o hiraeth am ei wlad ei hun, a gofynnais iddo oni fyddai'r genedl yr oedd ef yn perthyn iddi yn gorchfygu mewn brwydr weithiau? Gwenodd yntau ac atebodd; Ie, ie, ni bob amser ymladd orau"; wrth hyn, meddyliai mai hwy a gâi'r gorau o'r frwydr; a chawsom y sgwrs a ganlyn:

Meistr: Chi fydd yn ymladd orau? Sut y cymerwyd ti'n garcharor ynteu, Friday?

Friday: Cenedl fi'n curo llawer er hynny.

Meistr: Curo sut? Os curodd dy genedl di hwy, sut y daliwyd di?

Friday: Nhw'n llawer mwy na cenedl fi yn lle yr oedd fi; nhw dal un, dau, tri, a fi. Cenedl fi curo nhw'n fawr yn lle acw, lle nad oedd fi; yno cenedl fi dal un, dau, mil mawr.

Meistr: Ond paham na fuasai dy ochr di yn dy achub di drachefn o ddwylo d'elynion?

Friday: Nhw rhedeg un, dau, tri a fi, a gwneud i ni fynd i'r canŵ; dim canŵ gan cenedl fi pryd hynny.

Meistr: Wel, Friday, a beth mae dy genedl di yn'i wneud gyda'r dynion a ddaliant? A fyddan nhw'n eu cario nhw ymaith a'u bwyta nhw, fel y gwnaeth y rhain?

Friday: Byddan, bydd cenedl fi'n bwyta dynion hefyd; bwyta nhw i gyd.

Meistr: I ble byddan nhw'n eu cario nhw?

Friday: Mynd i le arall, lle mae nhw'n meddwl.

Meistr: A fyddan nhw'n dod yma?

Friday: Byddan, byddan, nhw dod yma; nhw dod i le arall.

Meistr: A fuost ti yma gyda nhw?

Friday: Do, fi wedi bod yma. (Dengys i ochr Ogledd—Orllewinol yr ynys, yr hon oedd eu hochr hwy, mae'n debyg).

Wedi i mi gael yr ymgom hon ag ef, gofynnais iddo faint o ffordd oedd o'n hynys ni i'r lan, ac oni chollid y cychod weithiau. Dywedodd wrthyf nad oedd yno ddim perygl, ac na chollid yr un canŵ byth, ond fod yno lif a gwynt dipyn allan yn y môr, bob amser un ffordd yn y bore a'r ffordd arall yn y prynhawn. Deellais wedi hynny yr achosid hyn gan lwnc a llifiant afon fawr Oroonoko, yr afon yr oedd ein hynys ni yn ei haber, fel y canfûm wedyn; a'r tir a welwn i'r Gorllewin a'r Gogledd—Orllewin oedd ynys fawr Trinidad ar ben gogleddol genau'r afon. Gofynnais filoedd o gwestiynau i Friday am y wlad, y trigolion, y môr, yr arfordir, a pha genhedloedd oedd yn agos. Dywedodd bopeth a wyddai wrthyf gyda'r parodrwydd mwyaf. Gofynnais iddo enwau'r gwahanol genhedloedd o bobl o'i fath ef, ond ni allwn gael enw yn y byd ond Caribs; oddiwrth hyn deallwn yn hawdd mai'r Caribees oedd y rhain, a ddyry ein mapiau ar y darn hwnnw o America sy'n ymestyn o enau afon Oroonoko i Guiana, ac ymlaen i St. Martha. Dywedodd wrthyf y trigai, ymhell tu draw i'r lleuad, sef oedd hynny, machlud y lleuad, ddynion gwynion barfog fel fi; a'u bod wedi lladd llawer o ddynion; wrth hyn deallwn mai'r Sbaenwyr a olygai, y rhai yr oedd sôn am eu creulonderau yn America wedi ei ledaenu drwy'r wlad i gyd, ac a atgofid gan yr holl genhedloedd o dad i fab.

Gofynnais a allai ef ddweud wrthyf sut yr awn i o'r ynys hon a mynd i fysg y dynion gwynion hynny. Dywedodd wrthyf y gallwn fynd mewn dau ganŵ. Ni fedrwn ddeall beth a olygai, ac ni allwn gael ganddo ddisgrifio i mi beth a feddyliai wrth ddau ganŵ. O'r diwedd, gyda chryn lawer o drafferth, cefais ar ddeall ganddo y byddai'n rhaid mynd mewn cwch mawr, cymaint â dau ganŵ. Yr oeddwn yn cael blas anghyffredin ar y darn hwn o sgwrs Friday; ac o'r adeg hon yr oedd gennyf ryw hyder y cawn gyfle rywbryd neu'i gilydd i ddianc o'r fan hon, ac efallai y byddai'r anwariad hwn druan yn foddion i'm cynorthwyo.

Yn ystod yr amser maith yr oedd Friday wedi bod gyda mi, a chan ei fod yn awr yn fy neall, ni chollais mo'r cyfle i osod sylfaen gwybodaeth grefyddol yn ei feddwl; yn enwedig un tro, gofynnais iddo pwy a'i gwnaeth? Ni ddeallai'r creadur druan mohonof o gwbl, ond tybiai i mi ofyn pwy oedd ei dad. Cynigiais ffordd arall arni, a gofynnais iddo pwy a wnaeth y môr, y ddaear y cerddem arni, y bryniau a'r coed? Dywedodd wrthyf mai rhyw hen Benamwci oedd yn byw tu draw i bopeth. Ni allai ddisgrifio dim ar y person mawr hwn, oddieithr ei fod yn hen iawn, yn hŷn o lawer, meddai, na'r môr na'r tir, na'r lleuad na'r sêr. Gofynnais iddo wedyn, os yr hen greadur yma oedd wedi gwneud popeth, paham na fuasai popeth yn ei addoli? Edrychodd yn ddifrifol iawn, a chyda golwg hollol ddiniwed, meddai, "Y mae popeth yn dweud O wrtho Ef.”

Gofynnais iddo a âi'r bobl a fyddai'n marw yn y wlad hon ymaith i rywle? Meddai yntau: Ant, ânt i gyd at Benamwci." Yna gofynnais iddo a âi y rhai a fwytaent hwy yno hefyd? Dywedodd yntau, " Ant."

Oddi wrth y pethau hyn dechreuais ei hyfforddi i adnabod y gwir Dduw. Dywedais wrtho fod Creawdwr mawr popeth yn byw i fyny acw, gan ddangos i gyfeiriad y nefoedd; ei fod Ef yn llywodraethu'r byd gyda'r un gallu a'r un rhagluniaeth ag oedd ganddo yn ei wneud; ei fod Ef yn hollalluog, ac y gallai Ef wneud popeth er ein mwyn, rhoddi popeth i ni, a chymryd popeth oddi arnom; ac fel hyn yn raddol agorais ei lygaid. Gwrandawodd yn astud iawn, a derbyniodd gyda phleser mawr y syniad am Iesu Grist wedi ei anfon i'n gwaredu, a'n dull ni o weddïo ar Dduw ac yntau yn gallu ein clywed hyd yn oed yn y Nefoedd. Dywedodd wrthyf un diwrnod, os gallai ein Duw ni ein clywed i fyny tu hwnt i'r haul, ei fod yn sicr o fod yn Dduw mwy na'u Benamwci hwy, a drigai heb fod nepell oddi yma; ac eto ni allai glywed dim nes iddynt fynd ato i'r mynyddoedd uchel lle y trigai i siarad ag ef. Gofynnais iddo a fuasai ef yno erioed yn siarad ag ef? Atebodd, "Na." Ni fyddai'r gwŷr ieuainc byth yn mynd; nid âi neb yno ond yr hynafgwyr y rhai a alwai ef yn Oowokakee; sef yw hynny, fel yr eglurodd i mi, eu gwŷr crefyddol neu offeiriaid. Aent hwy i ddweud O (felly y galwai ef ddweud paderau), ac yna dychwelent, ac adroddent wrthynt beth a ddywedai Benamwci.

Ceisiais egluro'r ystryw hwn i Friday, a dywedais wrtho mai twyll ydoedd esgus yr hynafgwyr yn mynd i fyny'r mynyddoedd i ddweud O wrth eu duw Benamwci, ac os siaradent â rhywun yno mae'n rhaid mai ysbryd drwg ydoedd; yna cefais sgwrs hir ag ef am y diafol, am ei gymeriad gwreiddiol, ei wrthryfel yn erbyn Duw, ei elyniaeth tuag at ddyn, y rheswm am hynny, amdano'n ymsefydlu yn nhywyll leoedd y ddaear iddo gael ei addoli yn lle Duw ac fel Duw, a'r amryw ddichellion a ddefnyddiodd er llithio'r ddynoliaeth i ddinistr; y ffordd ddirgelaidd oedd ganddo at ein nwydau a'n serchiadau, ac o drefnu ei faglau gogyfer â'n tueddiadau, ac o beri i ni fod yn demtwyr hyd yn oed arnom ein hunain, a rhedeg i'n dinistr yn ôl ein mympwy ein hunain.

Wedi i mi fod yn dweud wrtho sut yr oedd y diafol yn elyn Duw yng nghalonnau dynion, a sut yr oedd yn ceisio dinistrio teyrnas Crist yn y byd a phethau felly:

"Wel," meddai Friday, "ond chi deud fod Duw mor fawr, mor gry', onid yw lawer mwy cry', mwy mawr na'r diafol?"

'Ydi, ydi, Friday," meddwn i, " y mae Duw yn gryfach na'r diafol; y mae Duw yn uwch na'r diafol, ac felly fe fyddwn yn gweddïo ar Dduw i'w fathru dan ein traed, a'n cynorthwyo i wrthsefyll ei demtasiynau a dofi ei bicellau tanllyd."

Ond," meddai drachefn, os ydi Duw yn fwy cry', yn fwy mawr na'r diafol, pam nad yw Duw yn lladd y diafol a rhwystro iddo wneud rhagor o ddrwg?"

Fe synnais yn anghyffredin at y cwestiwn hwn, ac ni wyddwn yn iawn beth i'w ddweud. Duw a ŵyr, yr oeddwn yn meddu mwy o ddidwylledd nag o wybodaeth yn y dulliau oedd gennyf ddysgu'r creadur hwn druan, a rhaid i mi gyfaddef fy mod wrth geisio ei oleuo ef wedi dysgu llawer o bethau fy hunan nad oeddwn wedi meddwl fawr yn eu cylch o'r blaen. A pha un bynnag a oedd y truan hwn rywfaint gwell o'm plegid i ai peidio, yr oedd gennyf resymau dros ddiolch iddo erioed ddod ataf; pwysai fy ngofid lai arnaf; daeth fy nghartref yn gysurus tu hwnt i mi; a phan ystyriais fy mod nid yn unig wedi fy nghyffroi i edrych i fyny i'r Nefoedd fy hunan, ond fy mod yn awr i'm gwneud yn offeryn yn llaw Rhagluniaeth i achub bywyd ac, am ddim a wyddwn i, enaid yr anwariad hwn druan, a'i arwain i wybodaeth iawn am grefydd, ac i adnabod Crist Iesu, yr hwn y mae bywyd tragwyddol ynddo. Pan ystyriais y pethau hyn i gyd, fe lifodd rhyw lawenydd cyfrin drwy fy holl enaid, a llawenychwn yn fynych fy mod erioed wedi fy nwyn i'r fan hon, a minnau'n aml wedi meddwl mai dyma'r trallod mwyaf ofnadwy a allasai byth ddigwydd i mi.

Nodiadau

[golygu]