Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXIX

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXVIII Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XXX

PENNOD XXIX.
ROBINSON YN DYFEISIO CYNLLUN I DDAL Y GWRTHRYFELWYR—MYND I'R LLONG—LLADD Y CAPTEN GWRTHRYFELGAR AC AMRYW O'I WŶR.

AROSASOM yn llonydd am ysbaid hir, heb wybod yn y byd mawr pa gwrs i'w gymryd. O'r diwedd, dywedais nad oedd dim byd i'w wneud, i'm tyb i, dan y nos; ac yna, os na ddychwelent i'r cwch, efallai y gwelem ffordd i fynd rhyngddynt a'r traeth, ac felly y medrem ddyfeisio rhyw ystryw i gael y rhai oedd yn y cwch i'r lan.

Buom yn aros yn hir iawn, er ein bod yn hynod ddiamynedd gan eisiau iddynt symud; ond, wedi hir ymgynghori, gwelem hwy yn codi i gyd ac yn cerdded tua'r môr. Cyn gynted ag y gwelais eu bod yn mynd i gyfeiriad y traeth, tybiais eu bod wedi rhoi'r gorau i chwilio am eu cymdeithion a'u bod am fynd yn ôl eto; ac yr oedd y capten, cyn gynted ag y dywedais fy syniadau wrtho, bron ag ymollwng gan ofn; ond yn fuan meddyliais am ystryw i'w dwyn yn ôl drachefn, yr hyn a wnaeth fy nhro i'r dim.

Gorchmynnais i Friday a'r mêt fynd drosodd i'r gilfach i gyfeiriad y gorllewin tua'r fan y glaniodd yr anwariaid pan achubwyd Friday; a chyn gynted ag y deuent i ychydig dir codi tua hanner milltir o ffordd, perais iddynt weiddi cyn uched ag y medrent ac aros nes gweled bod y morwyr wedi eu clywed, cyn gynted byth ag y clywent y morwyr yn eu hateb, yr oeddynt i ailweiddi drachefn, a chan gadw o'r golwg cymryd tro, ac ateb pan floeddiai'r lleill er mwyn eu tynnu cyn belled ag oedd bosibl i'r ynys ac i ganol y coed; ac yna dychwelyd ar dro ataf fi drachefn, yn ôl fel y cyfarwyddwn i hwynt.

Yr oeddynt ar fynd i mewn i'r cwch pan waeddodd Friday a'r mêt; ac yn y man clywsant hwy, a chan ateb, rhedasant ar hyd y traeth tua'r gorllewin; ond yn fuan, ataliwyd hwynt gan y gilfach lle'r oedd y dŵr i fyny yn rhwystro iddynt groesi, a galwasant ar y cwch i ddod i'w cludo drosodd, yn union fel y disgwyliwn. Wedi iddynt groesi, gan fod y cwch wedi mynd i fyny'r gilfach gryn ffordd ac mewn math o borthladd, cymerasant un o'r triwyr o'r cwch, gan adael dim ond dau ynddo a'i rwymo wrth fonyn coeden fechan ar y lan. Dyma'n hollol y peth a ddymunwn, ac ar unwaith euthum â'r gweddill gyda mi, a chan groesi'r gilfach heb iddynt ein gweld, daethom ar warthaf y ddau ddyn yn ddiarwybod iddynt. Yr oedd un ohonynt yn gorwedd ar y traeth, rhwng cysgu ac effro, ac yn dechrau ymysgwyd; ond rhuthrodd y capten arno a thrawodd ef i lawr, ac yna gwaeddodd ar yr un oedd yn y cwch i ildio, neu ei fod yn ddyn marw. Nid oedd angen ond ychydig o ddadlau i berswadio un dyn i ildio ac yntau'n gweld pump o ddynion ar ei warthaf; heblaw hyn, mae'n debyg fod hwn yn un o'r rhai nad oedd mor selog yn y gwrthryfel â'r gweddill o'r criw, ac felly perswadiwyd ef yn hawdd nid yn unig i ildio, ond hefyd i ymuno'n galonnog â ni.

Yn y cyfamser, llwyddodd Friday a'r mêt mor dda gyda'r gweddill nes eu tynnu, trwy weiddi ac ateb, o'r naill fryn i'r llall, ac o'r naill goedwig i'r llall, nes iddynt nid yn unig eu llwyr flino, ond hefyd eu gadael mewn lle yr oeddynt yn sicr na allent gyrraedd yn ôl i'r cwch oddiyno cyn iddi nosi; ac yn wir, yr oeddynt hwythau hefyd wedi blino yn anghyffredin erbyn iddynt ddod yn ôl atom ni.

Nid oedd gennym ddim i'w wneud yn awr ond eu gwylio yn y tywyllwch, a rhuthro arnynt er mwyn bod yn sicr o wneud pen arnynt. Aeth rhai oriau heibio cyn iddynt ddychwelyd i'r cwch, a chlywem y rhai blaenaf, ymhell cyn iddynt gyrraedd, yn galw ar y rhai oedd tu ôl i frysio, a chlywem hwythau'n ateb ac yn cwyno mor gloff a blinedig oeddynt, ac na allent ddod ddim cynt.

O'r diwedd, daethant cyn belled â'r cwch; ond amhosibl yw datgan y dryswch yr oeddynt ynddo pan gawsant y cwch ar lawr yn y gilfach a'r ddau ddyn wedi mynd. Gwaeddasant drachefn, a galwasant ar eu dau gydymaith wrth eu henwau lawer gwaith; ond dim ateb. Mynnai fy ngwŷr i ruthro arnynt ar unwaith yn y tywyllwch, ond nid oeddwn yn fodlon peryglu bywyd yr un o'm dynion i. Penderfynais aros i weld a ymwahanent; ac i wneud yn sicr ohonynt euthum â'm gosgordd yn nes, a gorchmynnais i Friday a'r capten ymlusgo ar eu crafangau ar hyd y ddaear, a mynd cyn nesed atynt ag y medrent cyn iddynt gynnig tanio.

Ni buont felly yn hir cyn i'r pen-badwr, sef arweinydd y gwrthryfel, gerdded ymlaen tuag atynt gyda dau arall o'r criw. Yr oedd y capten mor awyddus wrth weld y dyhiryn pennaf yn ei afael fel mai prin yr oedd ganddo ddigon o amynedd i adael iddo ddod yn ddigon agos ato i wneud yn siwr ohono, gan na chlywent ddim ond ei dafod o'r blaen. Ond pan ddaethant yn nes, gan godi ar eu traed, taniodd y capten a Friday atynt. Lladdwyd y pen—badwr yn y fan; saethwyd y dyn arall trwy ei Gorff, a syrthiodd yn ei ymyl, er na fu farw am awr neu ddwy wedyn; a gloywodd y trydydd hi.

Wedi clywed y tanio, euthum ymlaen ar unwaith gyda'm holl fyddin, yn cynnwys wyth o wŷr, sef, myfi yn gadfridog; Friday'n is—gadfridog; y capten a'i ddau ddyn, a thri o garcharorion rhyfel yr oeddem wedi ymddiried arfau iddynt. Daethom ar eu gwarthaf yn y tywyllwch, fel na fedrent weld ein nifer, a pherais i'r dyn a adawsent yn y cwch alw arnynt wrth eu henwau, i weld a ellid cael telerau ganddynt. Felly galwodd cyn uched ag y medrai ar un ohonynt: "Tom Smith! Tom Smith!"

Ac atebodd Tom Smith ar unwaith; Pwy sydd yna? Robinson?" Canys mae'n debyg ei fod yn adnabod y llais.

Atebodd y llall, "Ie, ie; er mwyn Duw, Tom Smith, rho dy arfau i lawr ac ildia, neu fe fyddwch i gyd yn ddynion marw'r funud yma."

"I bwy mae'n rhaid i mi ildio? Ble maen nhw?" ebe Smith drachefn.

"Dyma nhw," meddai, "dyma'n capten ni, a hanner cant o ddynion gydag o, wedi bod yn eich hela am ddwyawr; mae'r pen—badwr wedi ei ladd; Will Fry wedi ei glwyfo, a minnau'n garcharor; ac os na ildiwch chi, mae hi wedi darfod am danoch.'

"Wnân nhw arbed ein bywyd os ildiwn ni?" ebe Tom Smith.

"Fe af i ofyn, os gwnewch chi addo ildio," ebe Robinson.

Felly gofynnodd i'r capten, ac yna gwaeddodd y capten ei hun: 'Rwyt ti, Smith, yn 'nabod fy llais i; os rhoi di d'arfau i lawr ar unwaith, ac ildio, fe arbedir bywyd pawb ond Will Atkins."

Ar hyn gwaeddodd Will Atkins: "Er mwyn Duw capten, arbedwch fi; beth wnes i? Mae nhw i gyd wedi bod cynddrwg â minnau."

Ond mae'n debyg nad oedd hyn ddim yn wir, gan mai Will Atkins oedd y cyntaf i gydio yn y capten pan fu iddynt wrthryfela i ddechrau, a thrinodd ef yn giaidd trwy rwymo ei freichiau, a rhoi tafod drwg iddo. Fodd bynnag, dywedodd y capten wrtho fod yn rhaid iddo roi ei arfau i lawr, ac ymddiried yn nhrugaredd y llywydd; a myfi oedd hwnnw, canys galwai'r cwbl fi'n llywydd.

Mewn gair, dodasant eu harfau i lawr i gyd, ac ymbiliasant am eu bywyd; a gyrrais y dyn a fuasai'n siarad â hwy a dau arall i'w rhwymo i gyd. Yna cyrhaeddodd fy myddin gref o hanner cant o wŷr (nad oeddynt ond wyth i gyd), a chymryd meddiant ohonynt hwy a'r cwch; ond cedwais i ac un arall o'r golwg.

Ein gorchwyl nesaf oedd adgyweirio'r cwch a cheisio cael gafael ar y llong. Parthed y capten, gan iddo gael hamdden yn awr i ymddiddan â hwy, dangosodd iddynt mor anfad ac ysgeler oedd eu cynllwyn, ac y byddai'n sicr o'u harwain i drueni a helbul yn y diwedd, ac efallai i'r crocbren. Ymddangosai'r cwbl yn edifeiriol iawn, ac erfyniasant yn daer am eu bywydau. Ynglŷn â hynny, dywedodd yntau nad ei garcharorion ef mohonynt, eithr eiddo llywydd yr ynys, a'i fod yntau yn Sais; y gallai eu crogi i gyd os mynnai; ond mae'n debyg mai eu gyrru i gyd i Loegr a wnâi oddieithr Atkins, a'i fod ef i'w grogi fore trannoeth. Er mai ffug o'i eiddo ef oedd hyn i gyd; eto cafodd yr effaith a ddymunid. Syrthiodd Atkins ar ei liniau i erfyn ar y capten eiriol â'r llywydd am ei fywyd; ac erfyniodd y gweddill arno, er mwyn Duw, beidio â'u gyrru Loegr.

Trawodd i'm meddwl yn awr mai gwaith hawdd fyddai cael cymorth y creaduriaid hyn i ennill y llong yn ôl. Felly ciliais i'r tywyllwch oddi wrthynt, rhag ofn iddynt weld pa fath lywydd a oedd ganddynt, a gelwais ar y capten ataf. Pan elwais, megis o bell, gorchmynnwyd i un o'r dynion ailadrodd a dweud wrth y capten: Capten, mae'r llywydd yn galw arnoch," ac atebodd y capten yn y man, Dywedwch wrth ei Fawrhydi fy mod yn dod yn awr," a chredent i gyd fod y llywydd yn ymyl gyda hanner cant o’i wŷr.

Wedi i'r capten ddod ataf, dywedais wrtho fy nghynllun i gael gafael yn y llong; a hoffai ef yn ardderchog, a phenderfynasom roi cynnig arno fore trannoeth. Ond er mwyn bod yn sicr o lwyddo, dywedais wrtho y byddai'n rhaid i ni rannu'r carcharorion, ac anfon Atkins a dau arall o'r rhai gwaethaf, yn rhwym i'r ogof. Ymddiriedwyd hyn i Friday a'r ddau ddyn a ddaethai i'r lan gyda'r capten. Gorchmynnais fynd â'r lleill i'm hafoty; a chan ei fod wedi ei gau i mewn, a hwythau wedi eu rhwymo, yr oedd y lle'n eithaf diogel.

Trannoeth gyrrais y capten at y rhain i siarad â hwynt, a dweud wrthyf a ellid ymddiried ynddynt ai peidio i fynd ar fwrdd y llong. Soniodd wrthynt am y niwed a wnaed iddo ef, ac er bod y llywydd wedi arbed eu bywydau, eto os anfonid hwy i Loegr fe'u crogid i gyd yn sicr; ond os ymunent mewn ymgais deg i ennill y llong yn ôl, y câi ef gan y llywydd addo pardwn iddynt. Syrthiasant ar eu gliniau gerbron y capten, ac addawsant fod yn ffyddlon iddo hyd y diferyn olaf, ac yr aent gydag ef dros y byd i gyd; y buasent yn ei gydnabod fel tad iddynt cyhyd ag y byddent fyw.

"Wel," ebe'r capten, "rhaid i mi fynd i ddweud wrth y llywydd beth a ddywedwch, a gweld beth a allaf ei wneud i gael ganddo gydsynio a'r peth."

Fodd bynnag, er mwyn i ni fod yn hollol sicr, dywedais wrtho am fynd yn ôl drachefn a dewis pump ohonynt, a dweud wrthynt y cymerai ef y pump hynny yn gynorthwywyr iddo, ac y cadwai'r llywydd y ddau arall, a'r tri a anfonwyd yn garcharorion i'm hogof i, yn wystlon am ffyddlondeb y pump hynny; ac os byddent yn anffyddlon y crogid y gwystlon yn fyw mewn cadwynau ar y traeth.

Nid oedd dim anhawster i'r capten yn awr, ond darparu'r ddau gwch; gwnaeth yr un oedd yn deithiwr gydag ef yn gapten ar un cwch, a phedwar dyn gydag ef; ac aeth yntau, ei fêt, a phump arall yn y llall; a chyraeddasant at y llong tua hanner nos.

Cyn gynted ag y daethant o fewn galw i'r llong, gwnaeth i Robinson weiddi arnynt a dweud wrthynt eu bod wedi dyfod â'r dynion a'r cwch, ond iddynt fod yn hir iawn cyn cael hyd iddynt, a phethau felly; gan eu cadw i ymddiddan nes dod at ochr y llong. Yna aeth y capten a'r mêt i mewn gyntaf yn arfog, ac ar unwaith trawsant i lawr yr ail—fêt a'r saer gyda bonau eu mwsgedi, a safodd eu gwŷr yn ffyddlon iawn wrth eu cefnau. Daliasant y gweddill a oedd ar y deciau, a dechrau rhwymo'r hatsus i gadw'r lleill i lawr; a chan fynd i mewn dros y cadwyni blaen, sicrhaodd criw'r cwch arall y fforcasl, gan gymryd tri o ddynion yn garcharorion. Wedi gwneud hyn, gorchmynnodd y capten i'r mêt a thri o ddynion dorri i mewn i'r rowndws[1] lle'r oedd y capten newydd gwrthryfelgar gyda dau ddyn a bachgen, â gynnau ganddynt yn eu dwylo; phan holltodd y mêt y drws â throsol, taniodd y capten newydd a'i wŷr arnynt; torrwyd braich y mêt a chlwyfwyd dau ddyn, ond ni laddwyd neb. Fodd bynnag, gan weiddi am help, rhuthrodd y mêt i'r rowndws, ac â'i bistol saethodd y capten newydd drwy ei ben; ac ar hynny ildiodd y gweddill, a chymerwyd y llong heb golli dim rhagor o fywydau.

Nodiadau

[golygu]
  1. Y pryd hwnnw y caban uchel ymhen ôl y llong oedd ystafell y capten, a gelwid hi'n round—house, am fod ei phen yn grwn.