Neidio i'r cynnwys

Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXIV Anturiaethau Robinson Crusoe

gan Daniel Defoe


wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog
Pennod XXVI

PENNOD XXV.
ROBINSON YN RHYDDHAU YSBAENWR O AFAEL YR ANWARIAID—FRIDAY YN CANFOD EI DAD—GWNEUD LLE I'R DDAU.


Nid oedd gennyf funud i'w golli yn awr, gan fod pedwar ar bymtheg o'r dyhirod yn eistedd ar lawr yn dwr gyda'i gilydd, ac yr oeddynt newydd yrru'r ddau arall i ladd y Cristion druan, a'i ddwyn efallai, bob yn aelod, at y tân; ac yr oeddynt yn gwyro i lawr i ddatod y rhwymau oddi am ei draed. Troais at Friday: "Yn awr, Friday," meddwn, gwna fel y gorchmynnaf i ti."

Dywedodd Friday y gwnâi.

"Felly, Friday," meddwn, " gwna yn union fel y gweli fi'n gwneud."

Yna dodais un mwsged ac un dryll ar lawr, a gwnaeth Friday yr un fath, a chyda'r mwsged arall anelais at yr anwariaid a pheri iddo yntau wneud yr un peth. Yna gofynnais iddo a oedd yn barod; dywedodd ei fod.

"Tania arnynt," meddwn i; a'r un funud fe deniais innau hefyd.

Anelodd Friday gymaint gwell na mi fel y lladdodd ef ddau ohonynt a chlwyfodd dri arall; ac fe leddais innau un, a chlwyfais ddau. Cawsant i gyd fraw dychrynllyd, a neidiodd pob un oedd heb ei anafu ar ei draed, ond ni wyddent ar unwaith pa ffordd i redeg, na pha ffordd i edrych, gan na wyddent o ba le y daethai eu dinistr. Cadwodd Friday ei lygaid yn dyn arnaf; teflais y mwsged i lawr a chydiais yn y dryll, a gwnaeth Friday yr un peth.

"Wyt ti'n barod, Friday?" meddwn i.

"Ydw," meddai yntau.

"Gollwng ynte," meddwn innau, "yn enw Duw!"

Ac ar hynny teniais drachefn ar y dyhirod, ac felly Friday; a chan mai ergydion mân oedd yn ein gynnau, ni welem ddim ond dau yn unig yn syrthio; ond clwyfwyd cynifer fel y rhedent o amgylch gan wichian a gweiddi fel creaduriaid cynddeiriog, yn waed diferol, ac amryw wedi eu clwyfo'n dost; a syrthiodd tri arall ohonynt yn lled fuan, er nid yn hollol farw.

"Yn awr, Friday," meddwn i, gan gydio yn y mwsged a oedd ag ergyd ynddo, "dilyn fi."

Ar hynny rhuthrais allan o'r coed, a Friday wrth fy sawdl. Cyn gynted ag y sylwais eu bod wedi fy ngweld, gwaeddais gymaint ag a fedrwn, a pherais i Friday wneud hynny hefyd; a chan redeg cyn gynted ag y medrwn, euthum ar fy union at yr adyn druan a orweddai ar y traeth, rhwng y lle yr eisteddent hwy a'r môr. Yr oedd y ddau gigydd a oedd ar ymosod arno wedi ei adael ac wedi ffoi mewn braw ofnadwy at ymyl y dŵr ac wedi neidio i ganŵ, a gwnaeth tri o'r lleill yr un peth. Trois at Friday a pherais iddo fynd ymlaen a thanio arnynt; deallodd fi ar unwaith, a chan redeg tua deugain llath i fod yn nes atynt, saethodd atynt, a thybiwn ei fod wedi eu lladd i gyd gan i mi eu gweld yn syrthio'n bentwr i'r cwch, er i mi weld dau ohonynt yn codi'n gyflym drachefn. Fodd bynnag, lladdodd ddau ohonynt, a chlwyfodd y trydydd fel y gorweddodd yng ngwaelod y cwch fel petai wedi marw.

Tra'r oedd Friday yn tanio arnynt, tynnais fy nghyllell a thorrais yr hesg a rwymai'r un oedd i'w ladd druan, a chan ryddhau ei ddwylo a'i draed, codais ef i fyny, a gofynnais iddo yn nhafodiaith y Portugeaid, beth ydoedd. Atebodd yn Lladin "Christianus "; ond yr oedd mor wan a llesg fel mai prin y medrai na sefyll na siarad. Tynnais fy mhotel o'm poced a rhoddais hi iddo, gan arwyddo arno i yfed, a gwnaeth yntau; a rhoddais damaid o fara iddo a bwytaodd ef. Yna gofynnais iddo un o ba wlad ydoedd; meddai yntau, "Espagniole"; a thrwy arwyddion ceisiodd ddangos i mi gymaint oedd ei ddyled i mi am ei waredu.

"Seignior," meddwn i, mewn hynny o Sbaeneg a oedd gennyf, " fe gawn siarad eto, ond rhaid i ni ymladd yn awr. Os oes rhywfaint o nerth ar ôl gennyt, cydia yn y pistol a'r cleddau hwn, a bwrw iddi hi."

Nid cynt yr oedd yr arfau yn ei ddwylo nag y rhuthrodd ar ei lofruddion fel peth cynddeiriog, a malodd ddau ohonynt yn ddarnau mewn eiliad. Fe gedwaisi fy ngwn yn fy llaw heb ei danio, gan fy mod wedi rhoi fy mhistol a'm cleddau i'r Sbaenwr. Felly gelwais ar Friday, a pherais iddo redeg at y goeden, o'r lle y taniasom gyntaf, i nôl y gynnau a daniasid, yr hyn a wnaeth gyda brys mawr, a chan roi fy mwsged iddo, eisteddais i lawr i ail-lenwi'r lleill, a pherais iddynt ddod ataf pan fyddai eisiau. Tra'r oeddwn i yn rhoi ergydion yn y gynnau, bu brwydr ffyrnig rhwng y Sbaenwr ac un o'r anwariaid a ymosododd arno gydag un o'u cleddyfau pren mawr. Ymladdasai'r Sbaenwr, er ei fod yn wan, â'r Indiad hwn am hir, ac yr oedd wedi ei glwyfo ddwywaith yn ei ben yn dost; ond gan fod yr anwariad yn greadur mor heini, yr oedd wedi ei fwrw i lawr, ac yr oedd yn troi fy nghleddau i o'i law, pan fu'r Sbaenwr yn ddigon call i ollwng y cleddau, er ei fod yn isaf, a thynnodd y pistol o'i wregys, saethodd yr anwar drwy ei ganol, a lladdodd ef yn y fan cyn i mi fedru mynd yn agos ato.

Gan fod Friday yn awr at ei ryddid, dilynodd y dyhirod oedd ar ffo heb yr un arf yn ei law ond ei fwyall; a chyda honno gorffennodd y tri a glwyfasid ar y cyntaf a chynifer o'r lleill ag a fedrai eu dal; ac aeth y Sbaenwr ar ôl dau arall gyda gwn a roddais i iddo, a chlwyfodd y ddau; ond gan na allai ef redeg dihangodd y ddau oddi arno i'r coed, lle y dilynodd Friday hwynt, gan ladd un ohonynt; ond yr oedd y llall yn rhy sionc, ac er ei fod wedi ei glwyfo, neidiodd i'r môr a nofiodd â'i holl egni at y rhai hynny a adawyd yn y canŵ,—a dyna'r cwbl a ddihangodd oddi arnom allan o'r un ar hugain. Y mae'r cyfrif i gyd fel hyn:

  • 3 wedi eu lladd ar ein hergyd gyntaf o'r goeden.
  • 2 wedi eu lladd ar yr ergyd nesaf.
  • 2 wedi eu lladd gan Friday yn y cwch.
  • 2 wedi eu lladd gan Friday o'r rhai a glwyfwyd gyntaf.
  • 1 wedi ei ladd gan Friday yn y coed.
  • 3 wedi eu lladd gan y Sbaenwr.
  • 4 wedi eu lladd, a'u cael wedi marw o'u clwyfau yma ac acw, neu wedi eu lladd gan Friday wrth iddo eu hymlid.
  • 4 wedi dianc yn y cwch, ac un o'r rheini wedi ei glwyfo, os nad wedi marw.

———

  • 21 i gyd.

———

Ymdrechodd y rhai oedd yn y canŵ yn galed fynd allan o gyrraedd ergyd gwn; ac er i Friday saethu atynt ddwywaith neu dair, ni sylwais iddo daro yr un ohonynt. Mynnai Friday i mi gymryd canŵ a'u hymlid; ac yn wir, pryderwn innau ynglŷn â'u bod wedi dianc, rhag ofn wedi dwyn y newyddion adref i'w pobl y byddent yn dychwelyd efallai gyda dau gant neu dri o gychod. Felly cytunais i'w hymlid dros y môr, a neidiais i ganŵ, a pherais i Friday fy nilyn. Ond pan oeddwn yn y canŵ, synnais weld creadur tlawd arall yn gorwedd yno'n fyw, wedi ei rwymo draed a dwylo fel yr oedd y Sbaenwr, a bron â marw gan ofn, gan na wyddai beth oedd yn bod. Torrais ar unwaith yr hesg cyfrodedd yr oeddynt wedi ei glymu ag ef, ac yr oeddwn am ei helpu i godi; ond ni allai na sefyll na siarad, ond griddfanai'n druenus, gan gredu, mae'n debyg, na ollyngid mohono'n rhydd i ddim byd ond i'w ladd.

Pan ddaeth Friday ato, perais iddo siarad ag ef, a dweud wrtho am ei waredigaeth; a chan dynnu allan fy mhotel, gwneuthum iddo roi llymaid i'r creadur tlawd, yr hyn, ynghyda'r newyddion ei fod yn rhydd, a'i hadfywiodd, ac eisteddodd yn y cwch. Ond pan glywodd Friday ef yn siarad, ac iddo edrych yn ei wyneb, yr oedd yn ddigon i beri i neb golli dagrau wrth weld Friday yn ei gusanu, yn ei gofleidio, yn ei wasgu, yn crio, yn chwerthin, yn gweiddi, yn neidio, yn dawnsio, ac yn canu; yna'n cric drachefn, yn troi ei ddwylo, yn curo ei wyneb ei hun a'i ben; ac yna yn canu ac yn neidio oddi amgylch fel creadur gwallgo. Bu ysbaid cyn y medrais gael ganddo siarad â mi, neu ddweud wrthyf beth oedd yn bod; ond pan ddaeth ato ei hun ychydig, dywedodd wrthyf mai ei dad ydoedd.

Rhoddodd y peth hwn derfyn ar ein hymlid ar ôl y canŵ a'r anwariaid eraill a oedd yn awr wedi mynd bron o'r golwg; a da oedd i ni na wnaethom hynny, gan iddi chwythu mor galed ymhen dwyawr wedyn, a chyn iddynt allu mynd chwarter y ffordd, a daliodd i chwythu mor galed drwy'r nos, fel na thybiwn i'w cwch allu byw nac iddynt hwythau erioed gyrraedd i'w tir eu hun.

Ond rhaid dychwelyd at Friday. Yr oedd mor brysur gyda'i dad, fel na chlywn ar fy nghalon ei ddwyn oddi arno am beth amser. Ond pan dybiais y gallai ei adael am ychydig, gelwais arno ataf, a daeth dan neidio a chwerthin; ac yr oedd wrth ei fodd. Yna gofynnais iddo a roddasai ef rywfaint o fara i'w dad. Ysgydwodd ei ben, a dywedodd, " Dim; ci hyll bwyta cwbl i gyd i hun." Felly rhoddais dafell o fara iddo o gwdyn bychan a gariwn i'r pwrpas. Rhoddais lymaid iddo hefyd, ond ni phrofai mohono, ond aeth ag ef i'w dad. Yr oedd gennyf yn fy mhoced hefyd ddau sypyn neu dri o resin, a rhoddais ddyrnaid iddo i'w dad. Nid cynt y rhoddodd y rhain i'w dad nag y gwelwn i ef yn dod allan o'r cwch ac yn rhedeg ymaith, fel petai wedi ei reibio. Rhedai gyda'r fath gyflymdra, nes ei fod o'r golwg megis mewn eiliad, ac er i mi alw arno, a gweiddi ar ei ôl, nid oedd dim gwahaniaeth, ymaith yr aeth. Ac ymhen chwarter awr gwelwn ef yn dychwelyd drachefn, er nad mor gyflym ag yr aethai; ac wrth iddo ddod yn nes gwelwn fod ei gam yn arafach, gan fod ganddo rywbeth yn ei law.

Pan ddaeth ataf, gwelwn ei fod wedi bod adre'r holl ffordd i nôl llestr pridd i ddod â dŵr croyw i'w dad, a bod ganddo ddwy dorth o fara yn rhagor. Rhoddodd y bara i mi, ond aeth â'r dŵr i'w dad. Fodd bynnag, gan fy mod innau hefyd yn sychedig iawn, cymerais innau lymaid bach ohono. Adfywiodd y dŵr fwy ar ei dad na'r holl wirod a roeswn i iddo, gan ei fod ymron â llewygu gan syched.

Wedi i'w dad yfed, gelwais arno i wybod a oedd rhywfaint o ddŵr ar ôl. "Oes," meddai; a pherais iddo ei roi i'r Sbaenwr druan, yr oedd arno gymaint o'i eisiau â'i dad. Anfonais un o'r teisennau, a ddygasai Friday, i'r Sbaenwr hefyd, a oedd yn hynod egwan, ac a orffwysai ar lannerch las dan gysgod coeden; ac yr oedd ei aelodau yn lled stiff ac wedi chwyddo'n fawr gyda'r rhwymynnau geirwon y clymasid ef ynddynt. Pan welais ef yn eistedd i fyny ac yn yfed, ac yn cymryd y bara a dechrau bwyta, euthum ato; a rhoddais ddyrnaid o resin iddo. Edrychodd yn fy wyneb gyda hynny o arwyddion diolchgarwch ag a allai ymddangos mewn unrhyw wyneb; ond yr oedd mor wan fel na fedrai sefyll ar ei draed. Ceisiodd wneud hynny ddwywaith neu dair, ond methai'n lân, gan fod ei fferau wedi chwyddo cymaint ac mor boenus iddo; felly gorchmynnais iddo eistedd yn llonydd, a pherais i Friday rwbio ei fferau, a'u golchi â rum, megis y gwnaethai i'w dad.

Sylwais fod y creadur serchlawn, bob dau funud neu lai, yn ystod yr amser y bu yno, yn troi ei ben i weld a oedd ei dad yn yr un fan ac yn eistedd fel y gadawsai ef; ac o'r diwedd canfu nad oedd yn y golwg. Ar hynny, neidiodd i fyny, a heb ddweud yr un gair, llamodd ato gyda'r fath gyflymdra fel mai prin y gallai neb weld ei draed yn cyffwrdd â'r llawr wrth iddo fynd. Ond pan aeth yno, canfu nad oedd ddim ond wedi gorwedd i lawr i esmwytho ei aelodau, a daeth Friday yn ôl ataf yn union. Yna dywedais wrth y Sbaenwr am iddo adael i Friday ei helpu i godi, a'i arwain i'r cwch, ac yna y câi ei gario i'n cartref ni lle y gofalwn i amdano. Ond cymerodd Friday y Sbaenwr ar ei gefn, a chariodd ef i'r cwch a gosododd ef i lawr yn esmwyth ar ymyl y canŵ, gyda'i draed y tu mewn iddo, ac yna cododd ef i mewn, a gosododd ef wrth ochr ei dad; ac yna gwthiodd y cwch allan a rhwyfodd ef gyda'r lan ynghynt nag y medrwn i gerdded, er bod y gwynt yn chwythu'n lled galed hefyd. Ac aeth â'r ddau yn ddiogel i'r gilfach; a chan eu gadael hwy yn y cwch, rhedodd ymaith i nôl y canŵ arall; ac yr oedd hwnnw yn y gilfach bron cyn gynted ag y cyrhaeddais i ar hyd y tir. Yna aeth i helpu ein hymwelwyr newydd allan o'r cwch; ond ni fedrai na'r naill na'r llall ddim cerdded; ac ni wyddai Friday druan beth i'w wneud.

Gwaeddais ar Friday iddo beri iddynt eistedd i lawr ar y lan, ac iddo yntau ddod ataf fi. Yn fuan gwneuthum fath o ferfa law i'w dodi hwynt arni, a chariodd Friday a minnau rhyngom y ddau gyda'i gilydd. Ond wedi i ni eu cael i ymyl ein hamddiffynfa, yr oedd yn waeth arnom nag o'r blaen, gan mai annichon oedd eu cael drosodd. Felly euthum ati i weithio drachefn; ac ymhen tua dwyawr, gwnaeth Friday a minnau babell led dda, wedi ei thoi â hen hwyliau a brigau coed ar y rheini, a hynny ar y lle agored y tu allan i'r gwrych nesaf allan a rhwng hwnnw a'r llwyn coed ifainc a blanaswn; ac yma gwnaethom iddynt ddau wely o'r pethau oedd gennyf, sef, gwellt reis da, a phlancedi wedi eu gosod arno i orwedd arnynt, ac un arall drostynt ar bob gwely.

Yr oedd fy ynys yn awr wedi ei phoblogi, a thybiwn fy hunan yn gyfoethog mewn deiliaid; a llawenydd mawr i mi yn aml fyddai meddwl mor debyg i frenin yr edrychwn. I ddechrau, yr oedd y wlad i gyd yn eiddo cyfan gwbl i mi, fel yr oedd gennyf hawl arglwyddiaeth ddiamheuol. Yn ail, yr oedd fy mhobl yn berffaith ddarostyngedig i mi; yr oeddwn yn arglwydd ac yn ddeddfroddwr diamodol; yr oeddynt i gyd yn fy nyled am eu bywydau, ac yr oeddynt yn barod i'w dodi i lawr drosof, pe buasai galw am hynny. Yr oedd yn beth nodedig hefyd, nad oedd gennyf ddim ond tri o ddeiliaid, a'r rheini o dair crefydd wahanol; Protestant oedd fy ngwas Friday, Pagan a chanibal oedd ei dad, a Phabydd oedd y Sbaenwr. Fodd bynnag, caniatawn ryddid cydwybod drwy fy holl diriogaethau.

Nodiadau

[golygu]