Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXVI
← Pennod XXV | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XXVII → |
PENNOD XXVI.
CROESAWU'R YMWELWYR NEWYDD,—ANFON Y DDAU I WAREDU'R SBAENWYR ERAILL,—LLONG BRYDEINIG—YN ANGORI WRTH YR YNYS.
CYN gynted ag yr oeddwn wedi diogelu fy nau garcharor llesg, a rhoi cysgod a lle iddynt i orffwyso, dechreuais feddwl am wneud rhywbeth yn fwyd iddynt. A'r peth cyntaf a wneuthum ydoedd gorchymyn i Friday gymryd gafr flwydd i'w lladd. Wedi i mi dorri ei chwarter ôl a'i malu'n ddarnau mân, perais i Friday fynd ati i ferwi a stiwio dysglaid o gig a chawl iddynt, a rhoi haidd a reis yn y cawl hefyd; a chan i mi ei goginio allan, euthum ag ef i gyd i'r babell newydd; ac wedi gosod bwrdd iddynt yno, eisteddais i lawr a bwyteais fy nghinio fy hun gyda hwy, gan eu sirioli a'u calonogi orau y medrwn, a Friday yn gyfieithydd i mi, yn enwedig i'w dad, ac yn wir, i'r Sbaenwr hefyd, gan y siaradai'r Sbaenwr iaith yr anwariaid yn lled dda.
Yna dechreuais ymddiddan tipyn â'm dau ddeiliad newydd; ac i ddechrau, gwneuthum i Friday holi ei dad beth oedd ef yn ei feddwl o'r anwariaid yn dianc yn y canŵ, a pha un a allem ddisgwyl iddynt ddychwelyd gyda mwy o rym nag a allem ni ei wrthsefyll. Ei farn gyntaf oedd, na allai'r anwariaid yn y cwch byth fyw drwy'r storm a chwythai'r noson yr aethant i ffwrdd.
Ond gyda golwg ar yr hyn a wnaent os deuent yn ddiogel i'r lan, dywedodd na wyddai ef ddim. Ond ei farn ef oedd, eu bod wedi eu dychrynu mor ofnadwy gan y dull yr ymosodwyd arnynt, y sŵn a'r tân, fel y credai ef y dywedent wrth eu pobl eu bod wedi eu lladd i gyd gan fellt a tharanau, ac nid â dwylo dynion; ac mai dyna oedd Friday a minnau, sef, dau ysbryd o'r nef, neu gythreuliaid wedi dod i lawr i'w difetha, ac nid gwŷr ag arfau. Gwyddai hyn meddai, gan iddo eu clywed yn gweiddi felly ar ei gilydd, yn eu hiaith eu hunain. Fodd bynnag yr oedd arnaf ofn yn barhaus am amser maith, a gwyliwn yn wastad, myfi a'm holl fyddin; canys gan fod pedwar ohonom yn awr, buaswn yn mentro cant ohonynt mewn maes agored unrhyw adeg.
Ymhen peth amser, fodd bynnag, gan nad oedd yr un canŵ arall yn ymddangos, aeth yr ofn heibio, a dechreuais feddwl drachefn am gymryd mordaith i'r tir mawr; a sicrheid fi hefyd gan dad Friday y cawn i bob chware teg gan eu cenedl hwy petawn i'n mynd. Ond petrusais beth wedi i mi gael ymgom ddifrifol â'r Sbaenwr, a deall bod yno un-ar-bymtheg yn ychwaneg o'i gydwladwyr a Phortugeaid yn byw yn heddychol gyda'r anwariaid, ond yr oedd yn gyfyng iawn arnynt am angenrheidiau; ac, yn wir, am eu bywyd. Holais ef am holl fanylion eu mordaith, a chefais mai llong Ysbaenig ydoedd yn rhwym o Rio de la Plata i Havana, wedi cael gorchymyn i adael eu llwyth yno (sef crwyn ac arian gan mwyaf), a dychwelyd gyda hynny o nwyddau Ewropeaidd a fedrent eu cael yno; fod ganddynt chwe llongwr o Bortugal ar y bwrdd wedi eu cymryd o long arall; fod pump o'u dynion hwy wedi boddi pan gollwyd y llong, a bod y rhain wedi dianc trwy enbydrwydd a pheryglon di-rif, ac wedi cyrraedd, bron ar drengi, i lannau'r canibaliaid. Dywedodd wrthyf fod ganddynt rywfaint o arfau gyda hwy, ond nid oeddynt o ddefnydd yn y byd iddynt.
Gofynnais iddo a oeddynt wedi ffurfio rhyw gynllun o gwbl i ddianc oddi yno. Dywedodd eu bod wedi cael aml gydymgynghoriad ynglŷn â'r peth; ond gan nad oedd ganddynt na llong, nac arfau i godi un, na darpariaethau o fath yn y byd, terfynai pob cyngor o'r eiddynt mewn dagrau ac anobaith. Gofynnais iddo, sut tybed y buasent yn derbyn cynnig gennyf fi, a allai fod yn llwybr ymwared iddynt. Dywedais wrtho mai'r peth a ofnwn fwyaf oedd eu brad, ac iddynt fy ngham-drin os rhoddwn fy hunan yn eu dwylo. Dywedais wrtho mai peth annheg iawn fyddai i mi fod yn foddion i'w gwaredu ac iddynt hwythau wedyn fynd â mi'n garcharor i New Sbain; ac y buasai'n well gennyf gael fy mwyta'n fyw gan yr anwariaid na syrthio i grafangau di—drugaredd yr offeiriaid a'm dwyn i'r Chwil—lys.
Atebodd yntau fod eu cyflwr mor druenus, a'u bod hwythau'n gwybod hynny, fel y tybiai ef y buasent yn casau'r syniad o drin yn angharedig yr un dyn a fyddai'n gymorth i'w gwaredu; ac os mynnwn, fe âi ef atynt gyda'r hen ŵr, ac ymddiddan â hwy am y peth, a dychwelyd drachefn a dwyn eu hateb i mi; y gwnâi ef amodau â hwynt ar eu llw y byddent yn hollol dan fy arweiniad i fel llywydd a chapten arnynt; Ac y deuai ef â chytundeb oddi wrthynt wedi ei lofnodi ganddynt i'r perwyl hwnnw.
Wedi cael hyn o sicrwydd, penderfynais fentro eu cynorthwyo, os yn bosibl, ac anfon yr hen anwariad a'r Sbaenwr drosodd i wneud cyfamod â hwy. Ond wedi i ni gael popeth yn barod i fynd, cododd y Sbaenwr ei hun wrthwynebiad, ac yr oedd cymaint o synnwyr ynddo ar y naill law a didwylledd ar y llaw arall, fel na allwn ond bodloni iddo; ac yn ôl ei gyngor ef gohiriais y waredigaeth i'w gymdeithion am hanner blwyddyn o leiaf. Dyma'r ddadl: Yr oedd wedi bod gyda ni'n awr am fis, a minnau wedi gadael iddo weld sut yr oeddwn yn fy nghynnal fy hun, trwy gymorth Rhagluniaeth; a gwelodd mae'n amlwg y stoc o ŷd a reis a roeswn o'r neilltu; yr hyn, er ei fod yn fwy na digon i mi fy hun, nid oedd yn ddigon, heb lawer o gynildeb, i'm teulu, ac yntau yn awr wedi cynyddu'n bedwar; a llai fyth y byddai'n ddigon os deuai ei gydwladwyr drosodd, ac un-ar-bymtheg ohonynt yn fyw o hyd. Felly dywedodd wrthyf y credai ef mai doethach fyddai iddo ef a'r ddau arall drin ychwaneg o dir, ac aros am gynhaeaf arall er mwyn cael digon o ŷd i'w gydwladwyr pan ddeuent; canys gallai angen eu temtioi anghydweld a chredu nad oeddynt ddim ond wedi eu gwaredu allan o un anhawster i un arall.
"Gwyddoch," meddai, "i blant Israel, er iddynt lawenhau i ddechrau oherwydd y waredigaeth o'r Aifft, eto wrthryfela hyd yn oed yn erbyn Duw ei hun, yr un a'u gwaredodd, pan ddaeth chwant bwyd arnynt yn yr anialwch."
Yr oedd ei rybudd mor amserol a'i gyngor mor dda fel na allwn lai na bod yn fodlon iawn i'w gynnig. Felly aethom ati i gloddio ein pedwar; ac ymhen y mis, yr oedd gennym ddigon o dir wedi ei drin i hau dau fwysel ar hugain o haidd arno, ac un llestraid ar bymtheg o reis, sef, hynny o hadyd oedd gennym yn sbâr; yn wir, ni chadwasom ddigon o haidd yn fwyd i ni ein hunain am y chwe mis y byddai'n rhaid i ni ddisgwyl am ein cnwd; hynny ydyw, a chyfrif o'r adeg y rhoesom ein hadyd o'r neilltu i'w hau.
Yr un pryd llwyddais i ychwanegu at y ddiadell o eifr dofion a oedd gennyf. Ac i'r diben hwn, gwneuthum i Friday a'r Sbaenwr fynd allan un dydd, a minnau a Friday drannoeth; a thrwy'r cynllun hwn cawsom tuag ugain o fynnod ieuainc i'w magu gyda'r lleill. Casglasom hefyd swm mawr o rawnwin gan eu sychu yn yr haul; a'r rhain, gyda'n bara, ydoedd y rhan fwyaf o'n bwyd; ac yr oedd yn fwyd maethlon iawn hefyd.
Erbyn hyn yr oedd yn adeg cynhaeaf, ac yr oedd gennym gnwd da. Nid oedd mo'r cynnyrch mwyaf a welswn yn yr ynys, ond yr oedd yn ddigon i'n pwrpas ni; canys, allan o ddau fwysel ar hugain o haidd yr oeddem wedi cywain a dyrnu dros ddau gant ac ugain o fwyseli, a'r un fath ar gyfartaledd o reis. Yr oedd hyn yn ddigon o fwyd i ni tan y cynhaeaf nesaf, hyd yn oed petai'r un Sbaenwr ar bymtheg gyda ni.
Yn awr, gan fod gennyf ddigonedd o fwyd i'r holl wahoddedigion a ddisgwyliwn, rhoddais ganiatâd i'r Sbaenwr fynd drosodd i'r tir mawr i weld beth a allai wneud â'r rhai a adawsai ar ôl y no. Ac aeth ef a thad Friday allan mewn canŵ, un o'r rhai y cludwyd hwy ynddo yn garcharorion i'w bwyta gan yr anwariaid. Rhoddais fwsged iddynt bob un, a thuag wyth ergyd o bowdwr a phelennau, gan eu rhybuddio i beidio â'u defnyddio ond pan fyddai gwir angen. Rhoddais iddynt gyflawnder o fara a grawnwin wedi eu sychu, digon iddynt hwy am ddyddiau lawer, a digon i'r Sbaenwyr i gyd am tuag wyth niwrnod; a chan ddymuno mordaith dda iddynt, euthum i'w gweld yn cychwyn, gan gytuno â hwynt ynglŷn ag arwydd yr oeddynt i'w roddi wrth ddychwelyd, i mi eu hadnabod wrtho o bell, cyn iddynt ddod i'r lan.
Yr oeddwn wedi bod yn disgwyl amdanynt am ryw wyth niwrnod, pan ddigwyddodd peth rhyfedd ac annisgwyliadwy, na chlywyd efallai am ei debyg mewn hanes. Yr oeddwn yn cysgu'n drwm yn fy nghaban un bore, pan ddaeth fy ngwas Friday ataf dan redeg a gweiddi'n uchel, Mistir, mistir, mae nhw wedi dod, mae nhw wedi dod!"
Neidiais i fyny, a heb ystyried bod perygl o gwbl, euthum allan, cyn gynted ag y medrwn wisgo amdanaf, drwy'r llwyn coed, a oedd erbyn hyn wedi tyfu'n goedwig drwchus. Euthum heb fy arfau; ond fe'm synnwyd pan droais fy ngolwg i gyfeiriad y môr a gweld cwch tua milltir a hanner o ffordd yn hwylio am y lan, â hwyl ysgwydd dafad arno, fel y gelwir hi. Sylwais hefyd nad oeddynt yn dod o'r cyfeiriad lle'r oedd y traeth, ond o ben deau yr ynys. Ar hyn gelwais ar Friday i mewn; a pherais iddo gadw o'r golwg gan nad y rhain oedd y bobl a ddisgwyliem, a chan na wyddem eto pa un ai cyfeillion ai gelynion oeddynt. Yn y lle nesaf, euthum i nôl fy sbienddrych i edrych beth a allwn i ei wneud ohonynt; ac wedi tynnu'r ysgol allan, dringais i ben y mynydd fel y byddwn yn arfer gwneud. Prin yr oeddwn wedi gosod fy nhroed ar y bryn na welwn long wrth ei hangor tua dwy filltir a hanner oddi wrthyf i'r de—ddwyrain, ond nid oedd dros filltir a hanner o'r lan. I'm golwg i, yr oedd yn amlwg mai llong Brydeinig ydoedd, ac yr oedd y cwch yn debyg i gwch Prydeinig.
Ni allaf fynegi'r dryswch yr oeddwn ynddo; er bod fy llawenydd wrth weld llong a'm cydwladwyr fy hunan arni, y cyfryw na allaf mo'i ddisgrifio. Ond eto glynai rhyw amheuon dirgelaidd wrthyf, yn fy annog i fod ar fy ngwyliadwriaeth. I ddechrau, trawodd i'm meddwl pa fusnes a allai fod gan long Brydeinig yn y rhan honno o'r byd, gan nad dyma'r ffordd i unrhyw ran o'r byd nac o unrhyw ran lle'r oedd gan y Saeson drafnidiaeth; a gwyddwn nad oedd dim storm wedi eu gyrru yno; ac os Saeson oeddynt nid oedd yn debyg eu bod yma gydag unrhyw amcan da; ac mai gwell oedd i mi barhau fel yr oeddwn, na syrthio i ddwylo lladron a llofruddion.
Nid oeddwn wedi bod yn yr agwedd hon yn hir na welwn y cwch yn nesu at y lan, fel pe baent yn edrych am gilfach i lanio. Fodd bynnag, gan na ddaethant lawn digon pell, ni welsant mo'r gilfach fechan lle y gleniais i gynt gyda'r rafftiau, ond rhedasant y cwch i'r lan ar y traeth, tua hanner milltir oddi wrthyf,—peth ffodus iawn i mi; oni bai am hynny buasent wedi glanio wrth fy nrws, a buasent wedi fy mwrw allan o'm castell, ac efallai wedi f'ysbeilio o bopeth oedd gennyf.
Pan ddaethant i'r lan, yr oeddwn yn eithaf sicr mai Saeson oeddynt, o leiaf y rhan fwyaf ohonynt. Yr oedd yno un-ar-ddeg o ddynion i gyd, a gwelwn fod tri ohonynt heb arfau, a thybiwn eu bod wedi eu rhwymo; ac wedi i bedwar neu bump ohonynt neidio i'r lan cymerasant y tri hynny o'r cwch yn garcharorion. Gwelwn fod un o'r tri yn ymbil yn daer, mewn trallod ac anobaith; gwelwn fod y ddau arall yn codi eu dwylo weithiau ac ymddangosent mewn pryder mawr, ond nid i'r fath raddau a'r cyntaf.
Yr oeddwn wedi fy nrysu'n lân gan yr olygfa, ac ni wyddwn beth oedd ei hystyr. Gwaeddodd Friday arnaf yn Saesneg, gorau y medrai: "O Mistir! Chi welwch dynion Seisnig yn bwyta carcharor yr un fath â dynion gwyllt.'
"Beth, Friday," meddwn i, wyt ti'n meddwl ynte eu bod nhw am eu bwyta?"
"Ydyn," meddai Friday, "nhw am bwyta nhw."
"Na, na, Friday," meddwn innau, "y mae arnaf ofn yn wir eu bod am eu lladd, ond ti elli fod yn sicr na wnân 'nhw mo'u bwyta nhw."
Yn ystod yr amser hyn i gyd ni wyddwn yn iawn beth oedd yn bod, ond safwn dan grynu oherwydd erchylltra'r olygfa, a disgwyl bob munud iddynt ladd y tri charcharor. Unwaith gwelais un o'r gweilch yn codi twca mawr neu gleddau i daro un o'r dynion druain; a disgwyliwn ei weld yn syrthio bob munud; ac yr oedd hynny o waed oedd yn fy nghorff fel pe'n fferru yn fy ngwythiennau.
Wedi i mi weld y llongwyr hyfion yn cam—drin y tri dyn, sylwais arnynt yn rhedeg yma ac acw o amgylch y lle, fel pe bai arnynt eisiau gweld y wlad. Sylwais hefyd fod y tri arall at eu rhyddid i fynd i'r fan a fynnent; ond eisteddai'r tri gyda'i gilydd ar y ddaear, gan synfyfyrio; ac edrychent fel dynion mewn anobaith. Atgofiodd hyn fi o'r adeg y gleniais i yma, ac fel yr edrychwn o amgylch, ac fel y llechais yn y goeden drwy'r nos rhag ofn cael fy nifa gan fwystfilod gwylltion. Megis na wyddwn i ddim byd y noson honno am y cymorth oeddwn i'w dderbyn trwy i'r llong gael ei gyrru yn nês i'r lan gan y stormydd a'r llanw, felly hefyd ni wyddai'r tri hyn druain ddim byd am y waredigaeth a'r cymorth oedd mor sicr iddynt, ac mor agos atynt, a hwythau yn eu tybied eu hunain yn golledig ac mewn cyflwr anobeithiol.