Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXVIII
← Pennod XXVII | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
Pennod XXIX → |
PENNOD XXVIII.
ROBINSON YN ADRODD EI HANES WRTH Y CAPTEN—CEISIO ENNILL Y LLONG YN ÔL ODDIAR Y GWRTHRYFELWYR.
YN awr aeth y capten a minnau i holi'r naill y llall ynghylch ein helyntion. Myfi a ddechreuodd gyntaf, a dywedais wrtho fy holl hanes, a gwrandawodd mewn syndod arnaf; yn enwedig ar y modd rhyfedd y'm cyflenwyd ag ymborth a thaclau saethu. Ond pan feddyliodd amdano ei hun, ac fel y'm cadwyd yno megis i achub ei fywyd ef, llifai'r dagrau i lawr ei wyneb, ac ni allai yngan gair yn rhagor.
Ar ddiwedd yr ymgom hon, euthum ag ef a'i ddau gydymaith i'm llety, gan eu harwain i mewn yr un ffordd ag yr euthum allan, lle y cawsant fwyd gennyf; a dangosais iddynt bob dyfais a wnaethwn yn ystod fy nhrigiant hir hir yn y fan honno. Yn anad dim, edmygai'r capten fy amddiffynfa, a pherffeithied yr oeddwn wedi cuddio fy lloches â llwyn o goed, a oedd erbyn hyn wedi dyfod yn goedwig fechan, gan ei bod wedi ei phlannu yn awr ers yn agos i ugain mlynedd. Dywedais wrtho mai dyma fy nghastell a'm plas, ond bod gennyf dŷ yn y wlad hefyd, fel y sydd gan y mwyafrif o dywysogion, ac y dangoswn i hwnnw iddo hefyd rywdro; ond ar hyn o bryd, ein busnes ni ydoedd ystyried sut i ennill y llong yn ôl. Cytunai â mi ynglŷn â hynny; ond dywedodd wrthyf na wyddai ef ddim yn y byd sut i fynd ynghylch y peth, gan fod eto chwech ar hugain o ddwylo ar y bwrdd; a chan eu bod oll yn y cynllwyn melltigedig, ac wedi fforffetio eu bywydau yn ôl y gyfraith, fe ddalient ati i'r pen yn eu gorffwylltra, gan wybod os gorchfygid hwy, y dygid hwy i'r crocbren, cyn gynted ag y deuent i Loegr, neu i un o'r trefedigaethau Seisnig; ac felly ni ellid ymosod arnynt â chyn lleied o nifer ag a oedd gennym ni.
Bûm yn myfyrio tipyn uwchben y peth a ddywedodd, a gwelwn ei fod yn gasgliad lled resymol, ac felly rhaid oedd penderfynu ar rywbeth rhag blaen. Ar hyn trawodd i'm meddwl y byddai criw'r llong yn y man yn sicr o ddod i'r lan mewn cwch arall i chwilio amdanynt; ac efallai y deuent yn arfog ac y byddent yn rhy gryf i ni.
Cyfaddefai fod hyn yn rhesymol.
Yna dywedais wrtho mai'r peth cyntaf a fyddai'n rhaid i ni ei wneud oedd torri twll yn y cwch a oedd ar y traeth, fel na allent ei ddwyn ymaith; a mynd â phopeth ohono, a'i adael yn y fath fodd na fyddai'n gymwys i'w nofio. Felly aethom i'r cwch, a mynd â'r arfau a phopeth arall a fedrem eu cael ohono. Wedi i ni gludo'r pethau hyn i gyd i'r lan, torasom dwll mawr yn ei waelod. Yn wir, ni thybiwn i y medrem byth ennill y llong; ond nid amheuwn, pe baent yn mynd ymaith heb y cwch, na allem ei wneud yn gymwys eto i'n cludo i'r ynysoedd gyferbyn, a galw am ein cyfeillion y Sbaenwyr ar ein ffordd; canys cofiwn am danynt o hyd.
Tra'r oeddem fel hyn yn paratoi ein cynlluniau, ac wedi tynnu'r cwch i fyny o afael y llanw; a heblaw hynny, wedi torri twll yn ei waelod rhy fawr i allu ei gau yn hawdd, ac yn eistedd i lawr i ystyried beth a wnaem, clywem y llong yn tanio gwn, a gwelem hi'n chwifio baner yn arwydd i'r cwch ddychwelyd. Ond ni symudodd yr un cwch; a thaniasant droeon, gan roddi arwyddion eraill i'r cwch. O'r diwedd, wedi i'r holl arwyddion a'r tanio brofi'n ddi-fudd, gwelem hwy (trwy gymorth fy sbienddrych i) yn tynnu cwch arall allan ac yn rhwyfo i gyfeiriad y lan; a gwelem, wrth iddynt nesau, nad oedd dim llai na deg o ddynion ynddo, a bod gynnau ganddynt.
Gan fod y llong tua dwy filltir o'r lan, cawsom olwg lawn arnynt yn dod, a threm glir hyd yn oed ar wynebau'r dynion; ac adwaenai'r capten bob cymeriad a oedd yn y cwch, a dywedai fod tri ohonynt yn hollol onest, ac yr oedd ef yn sicr mai'r lleill oedd wedi eu tynnu i'r cynllwyn. Ond gyda golwg ar y pen—badwr (yr hwn, mae'n debyg, oedd y prif swyddog yn eu plith), a'r gweddill i gyd, yr oeddynt mor ysgeler â neb o griw'r llong; ac yr oedd arno ofn arswydus y byddent yn rhy gryf i ni. Gwenais arno, a dywedais wrtho na ddylai ofn effeithio dim ar ddynion yn ein hamgylchiadau ni. Gan fod unrhyw gyflwr bron yn well na'r un yr oeddem ni ynddo, dylem ddisgwyl y byddai'r canlyniad, pa un ai angau ai einioes, yn sicr o fod yn waredigaeth.
Cyn gynted ag y gwelsom y cwch yn dod o'r llong, yr oeddem wedi meddwl am wahanu ein carcharorion; ac yn wir, yr oeddem wedi eu carcharu yn berffaith ddiogel. Gyrrais ddau (nad oedd y capten yn sicr iawn amdanynt) gyda Friday ac un o'r tri a ollyngasid yn rhydd i'm hogof, lle yr oeddynt yn ddigon pell. Gadawsant hwy yma wedi eu rhwymo, ond rhoddasant ddigon o fwyd iddynt; ac addo, os arhosent yno yn dawel, y gollyngid hwy yn rhydd ymhen diwrnod neu ddau; ond os ceisient ddianc dienyddid hwy heb ddim trugaredd.
Cafodd y carcharorion eraill well triniaeth. Rhwymwyd breichiau dau ohonynt, mae'n wir, gan na allai'r capten ddim ymddiried ynddynt; ond cymerwyd y ddau arall i'm gwasanaeth i ar gymeradwyaeth y capten, a hwythau yn ymrwymo i fyw a marw gyda ni; felly, rhwng y rhain a'r tri dyn onest, yr oedd saith ohonom wedi ein harfogi'n dda; ac nid amheuwn o gwbl na allem drin yn hwylus y deg oedd yn dod, ac ystyried i'r capten ddweud bod tri neu bedwar o ddynion onest yn eu plith hwythau hefyd.
Cyn gynted ag y daethant i'r fan lle y gorweddai eu cwch arall, rhedasant eu cwch hwy i'r traeth a daethant i gyd i'r lan, gan dynnu'r cwch ar eu holau. Wedi glanio, y peth cyntaf a wnaethant, oedd rhedeg i gyd at eu cwch arall; a hawdd gweld eu bod wedi eu synnu yn fawr wrth ei weld yn foel fel hyn, a thwll mawr yn ei waelod. Wedi bod yn meddwl tipyn wrth ben hyn, gwaeddasant â'u holl egni i geisio cael gan eu cymdeithion glywed; ond y cwbl i ddim diben. Yna daethant at ei gilydd mewn cylch, a thaniasant eu gynnau nes yr oedd y coed yn adseinio. Ond yr oeddem yn sicr na allai y rhai oedd yn yr ogof mo'u clywed, ac er i'r rhai oedd gyda ni glywed yn iawn, eto ni feiddient roi ateb iddynt.
Yr oedd hyn yn gymaint o syndod iddynt (fel y dywedasant wrthym wedyn) nes iddynt benderfynu mynd i'r llong drachefn a hysbysu bod y dynion wedi eu mwrdro i gyd, a'r cwch wedi ei dyllu. Yr oedd y capten wedi synnu'n aruthrol at hyn, ac yn credu yr hwylient ymaith ac y collai ef y llong eto; ond yn fuan fe'i dychrynwyd y ffordd arall.
Nid oedd fawr iawn o amser er pan aethant ymaith yn y cwch na welem ni hwy yn dod i'r lan drachefn; ond gyda'r gwahaniaeth hwn yn eu hymddygiad, sef, gadael tri dyn yn y cwch, a'r gweddill yn mynd i'r lan a mynd i fyny'r wlad i chwilio am eu cymdeithion. Yr oedd hyn yn siomedigaeth fawr i ni; ac ni wyddem yn awr beth i'w wneud, gan na fyddai dal y saith oedd ar y lan yn fantais yn y byd i ni os gadawem i'r cwch ddianc; oherwydd rhwyfent wedyn yn ôl i'r llong, a byddai'r gweddill yn sicr o hwylio ymaith, a chollem ninnau'r llong. Fodd bynnag, nid oedd dim i'w wneud ond aros a gweld beth a fyddai'r diwedd.
Daeth y seithwyr i'r lan, a gwthiodd y tri, a arhosodd ar ôl, y cwch bellter lled dda o'r lan, ac angori i ddisgwyl amdanynt fel yr oedd yn amhosibl i ni gyrraedd atynt yn y cwch. Cadwodd y rhai a ddaeth i'r lan gyda'i gilydd, gan gerdded tua phen y bryncyn yr oedd fy nhrigfan i dano; a gwelwn hwy yn eglur, er na welent hwy mohonom ni. Buasem yn falch iawn pe buasent wedi dod yn nes atom er mwyn i ni allu tanio arnynt;
neu ynteu pe baent wedi cadw ymhellach, er mwyn i ni fedru dod allan. Ond pan ddaethant i ael y bryn, lle y gallent weld ymhell iawn i'r dyffrynnoedd a'r coedwigoedd i'r gogledd—ddwyrain, gwaeddasant a bloeddiasant nes yr oeddynt wedi blino; a chan na fynnent fynd yn rhy bell o'r traeth, nac ychwaith oddi wrth ei gilydd, eisteddasant i lawr o dan goeden i ystyried y mater.