Anturiaethau Robinson Crusoe/Pennod XXX
← Pennod XXIX | Anturiaethau Robinson Crusoe gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
→ |
PENNOD XXX.
Y CAPTEN YN ENNILL Y LLONG YN ÔL—ROBINSON YN GADAEL YR YNYS AC YN CYRRAEDD LLOEGR.
CYN gynted ag y sicrhawyd y llong gorchmynnodd y capten danio saith gwn, sef yr arwydd y cytunasem arno er rhoddi rhybudd o'i lwyddiant i mi; ac yr oeddwn yn falch o'i glywed, gan fy mod wedi eistedd ar y traeth yn disgwyl amdano tan yn agos i ddau o'r gloch y bore. Wedi clywed yr arwydd yn eglur fel hyn, gorweddais i lawr; a chan mai diwrnod blinedig iawn i mi oedd hwn, cysgais yn drwm anghyffredin hyd nes y dychrynwyd fi gan sŵn gwn; a chan godi ar unwaith clywn ddyn yn galw arnaf wrth yr enw; " Llywydd, Llywydd!" ac yn y man adnabûm lais y capten. A phan ddringais i ben y bryn, dyna lle y safai, a chan ddangos i gyfeiriad y llong, cofleidiodd fi yn ei freichiau.
Fy annwyl gyfaill a'm gwaredwr," meddai, dyna'ch llong chi, gan mai chi piau hi i gyd, a ninnau hefyd, a phopeth sy'n perthyn iddi.
Codais fy ngolygon i gyfeiriad y llong, a dyna lle'r oedd hi ychydig dros hanner milltir o'r lan; canys codasent ei hangor cyn gynted â'u bod wedi ei meistroli; a chan fod y tywydd yn braf, yr oeddynt wedi ei hangori yng ngenau'r gilfach; a chan fod y llanw i fyny yr oedd y capten wedi dod yn y cwch bach, ac wedi glanio bron wrth fy nrws. Ar y cyntaf yr oeddwn bron ag ymollwng gan syndod, canys gwelwn fy ngwaredigaeth wedi ei gosod yn fy nwylo, a llong fawr yn barod i'm cludo ymaith i ba le bynnag y mynnwn fynd. Am beth amser ni fedrwn ateb gair iddo; ond gan ei fod wedi fy nghymryd yn ei freichiau, cydiais yn dyn ynddo neu buaswn wedi syrthio ar lawr, a chofleidiais ef fel fy ngwaredwr a chydlawenhasom â'n gilydd.
Wedi i ni ymddiddan am ysbaid, dywedodd y capten wrthyf ei fod wedi dod ag ychydig luniaeth i mi; ac ar hynny gwaeddodd yn uchel ar y cwch a pharodd i'w wŷr ddwyn i'r lan y pethau oedd ganddynt i'r llywydd; ac yn wir, yr oedd yn fath anrheg â phe buaswn yn rhywun nad oedd i fynd ymaith gyda hwy, ond yn un oedd i aros ar yr ynys a hwythau i fynd hebof. I ddechrau, yr oedd wedi dod â chistan o boteli yn llawn gwirodydd ardderchog, chwe photel fawr o win Madeira (y poteli'n dal dau chwart yr un), dau bwys o dybaco ardderchog, deuddeg darn iawn o gig eidion, a chwe darn o gig mochyn, cydaid o bys, a thua chan pwys o fisgedi. Dug i mi hefyd lond bocs o siwgr, Ilond bocs o flawd, cydaid o lemwnau, a digonedd o bethau eraill. Ond heblaw y rhain, daeth â phethau oedd filwaith fwy defnyddiol i mi, sef, chwe chrys newydd glân, chwe chrafat da iawn, dau bâr o fenyg, un pâr o esgidiau, het, ac un pâr o hosanau, a siwt dda o'i ddillad ei hun nad oedd wedi gwisgo ond ychydig iawn arni; mewn gair, fe'm dilladodd o'm pen i'm traed. Yr oedd yn anrheg garedig a dymunol iawn, ond ni fu dim byd erioed mor annymunol, mor chwithig, ac mor anesmwyth ag ydoedd i mi wisgo'r fath ddillad ar y cyntaf.
Yna dechreuasom ymgynghori beth i'w wneud â'r carcharorion a oedd gennym, yn enwedig dau ohonynt; dywedai'r capten eu bod y fath ddyhirod fel nad oedd dim bodloni arnynt, ac os cymerai hwynt ymaith y byddai'n rhaid eu rhoi mewn hualau fel drwg weithredwyr, a gwelwn fod. y capten yn bryderus iawn ynglŷn â'r peth.
"Wel," meddwn i, fe anfonaf amdanynt, ac fe siaradaf â hwynt. Felly fe anfonais Friday a dau arall i'r ogof i nôl y pump (wedi eu rhwymo fel yr oeddynt), a'u dwyn i'm hafoty, a'u cadw yno hyd nes y cyrhaeddwn i.
Ymhen ychydig amser euthum yno, wedi fy ngwisgo yn fy nillad newydd. Perais ddwyn y dynion i'm gŵydd, a dywedais wrthynt fy mod wedi cael hanes cyflawn o'u hymddygiad ysgeler tuag at y capten, fod y llong wedi ei dal yn ôl fy nghyfarwyddyd i, ac y gwelent yn y man fod y capten newydd wedi derbyn ei wobr am ei ysgelerder, ac y gwelent ef yn hongian ar fraich un o'r iardiau; ac ynglŷn â hwynt, yr oedd arnaf eisiau gwybod beth oedd ganddynt i'w ddweud yn erbyn i mi eu dienyddio hwythau fel môrladron.
Atebodd un ohonynt dros y gweddill nad oedd ganddynt ddim ond hyn i'w ddweud, sef, bod y capten wedi addo eu bywydau iddynt pan ddaliwyd hwynt, ac yr oeddynt yn erfyn yn ostyngedig am drugaredd. Dywedais wrthynt na wyddwn i ddim pa drugaredd i'w rhoddi iddynt; fy mod i a'm holl wŷr wedi penderfynu gadael yr ynys a mynd gyda'r capten i Loegr, ac na chymerai'r capten mohonynt hwy i Loegr ond yn unig fel carcharorion mewn hualau, a chanlyniad hynny, fel y gwyddent, fyddai'r crocbren; ac ni wyddwn i beth oedd y gorau iddynt os na ddymunent gymryd eu siawns ar yr ynys. Ymddangosent yn ddiolchgar iawn, a dywedasant mai gwell o lawer oedd ganddynt fentro aros yno na chymryd eu cludo i Loegr i'w crogi.
Felly gollyngais hwynt yn rhydd, a gorchmynnais iddynt fynd o'r neilltu i'r coed, ac y gadawn i arfau iddynt a thaclau saethu, a chyfarwyddiadau iddynt sut i fyw yno os mynnent. Yna rhoddais hanes y lle iddynt, a dangosais iddynt fy amddiffynfeydd, sut y byddwn yn gwneud fy mara, yn plannu fy ŷd, ac yn trin fy ngrawnwin. Gadewais fy arfau tân iddynt, sef, pum mwsged, tri llawddryll, a thri chleddyf. Rhoddais ddisgrifiad iddynt o'r dull y byddwn yn trin y geifr, a chyfarwyddiadau i'w godro a'u pesgi, ac i wneud ymenyn a chaws. A dywedais wrthynt y cawn gan y capten adael dwy faril o bowdwr gwn yn ychwaneg, a hadau gerddi; rhoddais iddynt hefyd y cydaid pŷs a ddygasai'r capten i mi i'w bwyta, a pheri iddynt gofio eu hau.
Wedi gwneud hyn i gyd, gadewais hwynt drannoeth ac euthum ar fwrdd y llong. Paratoesom i hwylio ar unwaith, ond ni chodasom angor y noson honno. Yn gynnar fore trannoeth, nofiodd dau o'r pum dyn at ochr y llong; a chan gwyno'n druenus oherwydd y tri arall, erfyniasant am i ni eu cymryd i'r llong, er mwyn Duw, gan y llofruddid hwy; ac ymbiliasant ar y capten i'w cymryd hyd yn oed pe bai'n eu crogi yn y fan. Cymerai'r capten arno nad oedd ganddo ef ddim awdurdod ar wahan i mi. Ond wedi peth anhawster, cymerwyd hwynt ar y bwrdd, a rhywbryd wedyn chwipiwyd hwynt yn iawn a phiclwyd[1] hwynt; ac wedi hynny buont yn greaduriaid hollol onest a thawel.
Ymhen peth amser gyrrwyd y cwch i'r lan, gan fod y llanw i fyny, gyda'r pethau a addawsid i'r dynion, a chan i mi eiriol, parodd y capten ychwanegu eu cistiau dillad hefyd; a chymerasant hwy, ac yr oeddynt yn ddiolchgar iawn amdanynt. Calonogais hwy hefyd trwy ddweud wrthynt, os cawn i gyfle i yrru rhyw long i'w cymryd i mewn, nad anghofiwn i mohonynt.
Pan ffarweliais â'r ynys hon, cymerais gyda mi i'r llong, fel creiriau,—y cap mawr o groengafr a wnaethwn, fy ambarèl, a'm parrot; hefyd nid anghofiais gymryd yr arian y cyfeirias ato o'r blaen, yr hwn oedd wedi bod gennyf cyhyd yn hollol ddiddefnydd nes ei fod wedi rhydu neu lwydo, a phrin y gellid ei gymryd fel arian nes rhwbio a thrin tipyn arno; ac felly hefyd, yr arian a gawsom yn yr hen long Ysbaenig.
Ac fel hyn y gadewais yr ynys, y 19eg o Ragfyr yn y flwyddyn 1686, wedi bod arni am wyth mlynedd ar hugain, dau fis, a phedwar diwrnod ar bymtheg, gan gael fy ngwaredu o'm hail gaethiwed ar yr un dydd o'r mis ag y dihengais gyntaf yn y barco-longo o fysg Mwriaid Sallee.
Yn y llestr hwn, wedi mordaith hir, cyrhaeddais Loegr, yr 11eg o Fehefin, yn y flwyddyn 1687, wedi bod bymtheng mlynedd ar hugain oddi cartref.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Arferid arllwys dŵr hallt ar friwiau'r troseddwyr ar ôl eu chwipio.