Anturiaethau Robinson Crusoe (testun cyfansawdd)
← | Anturiaethau Robinson Crusoe (testun cyfansawdd) gan Daniel Defoe wedi'i gyfieithu gan William Rowlands, Porthmadog |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Anturiaethau Robinson Crusoe |


I
Geraint
oddiwrth ei frawd
Euros
Nadolig 1929.[1]

(Wyneb-ddalen).
Fe'm synnwyd wrth weld golau tân ar y traeth.
(Gwel tud. 148).
Bywyd ac Anturiaethau
Robinson Crusoe
(Gwaith DANIEL DEFOE.)
RHAN I.
Wedi ei drosi i'r Gymraeg gan
WILLIAM ROWLANDS, M.A.,
Prifathro Ysgol Sir Porthmadog.

CAERDYDD:
GWASG PRIFYSGOL CYMRU.
1928
ARGRAFFWYD YM MHRYDAIN FAWR GAN HUGH EVANS A'I FEIBION,
SWYDDFA'R "BRYTHON," 356, 358 A 360 STANLEY ROAD, LERPWL.
RHAGAIR.
GANWYD Daniel Defoe tua'r flwyddyn 1661, ym mhlwyf St. Giles, Cripplegate, Llundain; a bu farw ym mis Ebrill 1731. Dechreuodd ei yrfa fel masnachwr, ond fel llenor ac ysgrifennwr storïau rhamantus yr enwogodd ei hun. Ysgrifennodd hefyd amryw bamffledi ar bynciau crefyddol a gwleidyddol ei oes, a rhwng 1704-1715 cyhoedd- odd gylchgrawn o'r enw Review. Unwaith dedfrydwyd ef i sefyll yn y pilori am ysgrifennu pamffled yn erbyn y Sentars, ond gan fod y werin o'i du gollyngwyd ef yn rhydd ymhen tridiau, a charcharwyd ef yng ngharchar Newgate am yn agos i ddwy flynedd. Rhyddhawyd ef trwy ddylanwad Robert Harley, Iarll Rhydychen, a bu wedyn yng ngwasanaeth y llywodraeth fel golygydd papurau ac erthyglau gwleidyddol.
O'i holl lyfrau y ddau pwysicaf yw Robinson Crusoe a The Journal of the Plague Year, sef, ffug hanes y pla mawr yn Llundain yn 1665. Yn 1719 y cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o Robinson Crusoe, a byth er hynny y mae wedi bod mewn bri mawr, ac wedi ei gyfieithu i amryw ieithoedd. Gyda stori Crusoe torrodd Defoe dir newydd ym maes llenyddiaeth Saesneg. Yr oedd y math hwn o ffug chwedl yn beth hollol newydd yn llên y Saeson yn nechrau'r ddeunawfed ganrif, ac ystyrir Defoe felly yn un o sylfaenwyr y nofel Saesneg. Seiliodd Defoe ei stori ar hanes bywyd llongwr o'r enw Alexander Selkirk. Hwyliasai Selkirk gyda Dampier i'r Gorllewin yn 1703, ac yn 1704 gadawyd ef gan ei gym- deithion ar ynys Juan Fernandez, lle y treuliodd tua phedair blynedd a hanner. Yn 1709 achubwyd ef, a dychwelodd i Loegr, a dywedir i Defoe ymweled ag ef ym Mryste. Ond er bod y stori wedi ei seilio ar hanes Selkirk, nid oes ynddi odid ddim nad yw'n gynnyrch dychymyg byw Defoe ei hun.
Pur hir-wyntog ac aml-eiriog ei arddull ydoedd Defoe. Defnyddiai iaith syml; ac iaith syml llongwyr cyffredin ydyw eiddo Crusoe. Yr oedd yn hoff iawn o ailadrodd a chrwydro yn ei ddisgrifiadau ; ac er mwyn gwneud i'w stori ymddangos yn wir rhoddai bob math o fanylion ynglŷn â'r digwyddiadau mwyaf cyffredin. Y mae amryw byd o'i frawddegau mor aml-eiriog a chwmpasog, fel mai peth anodd iawn oedd eu cyfleu yn y Gymraeg heb eu cwtogi, a chymerais gryn lawer o ryddid yn y cyfeiriad hwn. Yr hyn a ofynnwyd i mi ei wneuthur gan Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ydoedd darparu cyfieithiad newydd o Robinson Crusoe yn y Gymraeg, a rhoddwyd rhyddid i mi dalfyrru a chwtogi fel y mynnwn. Ymdrechais ei wneud yn ddarllenadwy i blant Cymru, ac ar yr un pryd ceisiais gadw blas arddull Defoe ei hun. Gallaf ddweud fel Huw Lewys ar ddiwedd ei annerch i'r Perl Mewn Adfyd (1595)," oni chanlynais fy awdur air yngair, na feddwl wneuthur o honof ar fai; canys weithieu (yr wyf yn cyfaddef) mi a rois lai, weithiau eraill, mi a rois fwy nac sydd yn y llyfr Saesonaeg, ond cofia beth a ddywaid y Bardd lladin non verbum reddere verbo, curabit fidus interpres."
Cyfieithais o argraffiad Gwasg Rhydychen yn The World's Classics, gan gymharu hwnnw ag argraffiad Ward, Lock & Co. a Blackie & Son. Nid yw'r stori fel yr ysgrifennwyd hi gan Defoe wedi ei rhannu'n benodau; ond er mwyn hwylustod i'r ysgolion tybiais mai gwell fyddai gwneuthur hynny, a rhennais y Rhan Gyntaf yn ddeg ar hugain o benodau.
Dymunaf ddiolch i'r Athro Henry Lewis, Abertawe, am ei garedigrwydd yn darllen drwy'r Llsgr, ac am amryw awgrymiadau ynglŷn â'r cyfieithiad, a hefyd i Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru am ei gyhoeddi.
WILLIAM ROWLANDS
- Medi 15 fed, 1928.
CYNNWYS
I Teulu Robinson,—dianc oddi cartref er gwaethaf ei rieni
II Yr antur gyntaf,—ei brofiad ar y môr,—mordaith i Guinea
III Ei gaethiwed yn Sallee,—dianc gyda Xury, cyrraedd y Brazils
IV Sefydlu yn y Brazils,—mynd ar fordaith arall,—llongddrylliad
V Robinson yn ei ganfod ei hun ar ynys unig,—cael stoc o bethau
o'r llong,—codi ei breswylfod
VI Ei gartref,—unigrwydd,—myfyrdodau cysurlawn
VII Dull Robinson o gyfrif amser,—anawsterau yn codi trwy ddiffyg
arfau,—trefnu ei gartref
VIII Y Dyddlyfr,—manylion ynglŷn â'i fywyd,—daeargryn
IX Robinson yn cael ychwaneg o daclau o'r hen long,—afiechyd a thrallod
X Ei adferiad,—cael cysur wrth ddarllen yr ysgrythurau,—mynd ar daith
i ganol yr ynys,codi ei hafoty
XI Robinson yn mynd ar daith i ysbio'r ynys
XII Dychwelyd adref,—llwyddo i drin y tir
XIII Gwneud llestri pridd,—dyfais i grasu bara
XIV Bwriadu dianc o'r ynys,—gwneud canŵ,—methiant ei gynllun,—bodloni
ar ei gyflwr,gwneud gwisg newydd iddo ei hun
XV Gwneud canŵ llai a cheisio morio ynddo o amgylch yr ynys,—mewn perygl
ar y môr,—dychwelyd adref
XVI Magu diadell o eifr,—ei ddyddlyfr,—ei ddull o fyw,—llwyddo fwyfwy
XVII Gweld ôl troed ar y tywod,—ofni'r gwaethaf,—darparu i'w amddiffyn ei hun
XVIII Robinson yn darganfod bod canibaliaid wedi ymweled â'r ynys,
—gwneud cynlluniau i'w amddiffyn ei hun ac i ladd yr anwariaid
XIX Robinson yn darganfod ogof, lle y caiff loches rhag yr anwariaid
XX Yr anwariaid yn ymweled â'r ynys drachefn,— Robinson yn eu gweld
yn dawnsio,―gweld darnau o long ar y creigiau
XXI Mynd i'r darn llong a chael llawer o bethau ohoni,—meddwl gadael yr ynys
XXII Robinson yn achub un o'r carcharorion oddi ar yr anwariaid,— ei fedyddio'n
Friday,—yntau yn dod yn was iddo
XXIII Robinson yn dysgu Friday ac yn ei wareiddio,—ceisio rhoi syniad iddo
am Gristnogaeth
XXIV Robinson a Friday yn gwneud canŵ i'w cludo i wlad Friday,—haid o
anwariaid yn glanio ac yn rhwystro'r cynllun
XXV Rhyddhau Ysbaenwr o afael yr anwariaid,—Friday yn canfod ei dad,
—gwneud lle i'r ddau
VIXXVI Croesawu'r ymwelwyr newydd,—anfon y ddau i waredu'r
Sbaenwyr eraill,—llong Brydeinig yn angori wrth yr ynys
VIIXXVII Robinson yn gwaredu'r capten a'i gyfeillion,—cynorthwyo'r
capten i orchfygu'r gwrthryfelwyr
XXVIII Robinson yn adrodd ei hanes wrth y capten,—ceisio ennill
y llong yn ôl oddiar y gwrthryfelwyr
XXIX Dyfeisio cynllun i ddal y gwrthryfelwyr,—mynd i'r llong,
—lladd y capten gwrthryfelgar ac amryw o'i wŷr
XXX Y capten yn ennill y llong yn ôl,—Robinson yn gadael yr
ynys ac yn cyrraedd Lloegr
RHESTR O'R DARLUNIAU
"Fe'm synnwyd wrth weld golau tân ar y traeth "
(wyneb—ddalen)
"Bu rhaid i ni ildio, a dygwyd ni i gyd yn garcharorion i Sallee"
"Ni fedrwn ymryddhau o'r tonnau"
"Llywiais fy rafft orau y medrwn er mwyn cadw yng nghanol y ffrwd"
"Credaf mai dyma'r gwn cyntaf a daniasid yno er creadigaeth y byd
"Y pethau rhyfedd, di-lun, hyll a wneuthum
"Wrth i mi edrych ymhellach i mewn gwelwn ddau lygad mawr disglair
"Yr oeddynt yn dawnsio i gyd o amgylch y tân "
"Gadawsant hwy yma wedi eu rhwymo "
PENNOD I.
TEULU ROBINSON—DIANC ODDI CARTREF ER GWAETHAF EI RIENI.
FE'm ganed yn y flwyddyn 1632, yn ninas Caerefrog, o deulu da, er nad o'r ardal honno, canys tramorwr o Fremen ydoedd fy nhad, a sefydlodd i ddechrau yn Hull. Gwnaeth ef eiddo da trwy fasnachu, ac wedi iddo adael ei fasnach, aeth i fyw wedyn i Gaerefrog, lle y priodasai fy mam. Gelwid ei pherthnasau hi yn Robinson, teulu da iawn yn yr ardal honno, oddiwrth y sawl y galwyd fi yn Robinson Kreutzner; ond, yn ôl llygriad cyffredin geiriau yn Lloegr, gelwir ni yn awr, ac yn wir, fe'n galwn ein hunain, ac fe ysgrifennwn ein henw yn Crusoe, ac felly y geilw fy nghymdeithion fi bob amser.
Yr oedd gennyf ddau frawd hŷn na mi, un ohonynt yn lefftenant-cyrnol mewn catrawd Seisnig o wŷr traed yn Fflandyrs, ac a laddwyd mewn brwydr yn erbyn yr Ysbaenwyr ger Dunkirk; beth a ddaeth o'm hail frawd ni wybûm i erioed, mwy nag y gwyddai fy nhad a'm mam beth a ddaethai ohonof fi.
Gan mai'r trydydd mab yn y teulu oeddwn, a heb fy nghodi mewn crefft yn y byd, llanwyd fy mhen yn gynnar iawn â meddyliau crwydredig. Rhoddasai fy nhad gyfran dda o addysg i mi, cyn belled ag yr â addysg cartref ac ysgol râd yn y wlad, gan fy mwriadu gogyfer â'r gyfraith. Ond ni wnâi dim y tro gennyf fi ond mynd i'r môr, a hynny yn erbyn ewyllys fy nhad ac er gwaethaf holl erfyniadau ac anogaethau fy mam a chyfeillion eraill.
Rhoddodd fy nhad gynghorion dwys ac ardderchog i mi rhag y peth a ragwelai ef oedd fy mwriad. Galwodd fi un bore i'w ystafell, ac ymresymodd â mi yn frwd iawn ar y pwnc hwn. Gofynnodd i mi pa resymau, oddieithr rhyw dueddfryd i grwydro, oedd gennyf dros adael tŷ fy nhad a'm bro enedigol. Dywedodd wrthyf mai gwŷr anobeithiol eu hamgylchiadau ar y naill law, neu uwchraddol eu hamgylchiadau ar y llaw arall, fyddai'n anturio ar led; fod y pethau hyn un ai ymhell uwchlaw i mi, neu ymhell islaw i mi; mai'r sefyllfa ganol mewn bywyd oedd yr eiddof fi, ac yr oedd ef trwy brofiad maith wedi darganfod mai dyma'r sefyllfa orau yn y byd. Dywedodd wrthyf y gallwn farnu hapusrwydd sefyllfa hon â'r un peth hwn, sef, mai dyma'r sefyllfa mewn bywyd y cenfigennai pawb wrthi; fod brenhinoedd wedi gofidio lawer tro oherwydd canlyniadau truenus eu geni i bethau gwych, ac wedi dymuno eu gosod yn y canol rhwng y ddau eithaf, rhwng y gwael a'r gwych; fod y gŵr doeth wedi dwyn tystiolaeth i hyn fel safon deg gwir hapusrwydd, pan weddïodd am iddo beidio â chael na thlodi na chyfoeth.
Parodd i mi sylwi y rhennid trallodion bywyd rhwng rhan uchaf a rhan isaf dynolryw; ond mai i'r sefyllfa ganol yr oedd y lleiaf o drychinebau, ac nad ydoedd yn agored i gymaint o gyfnewidiadau â rhan uchaf neu ran isaf dynolryw. Nid oeddynt yn agored ychwaith i gymaint o afiechydon ac o anesmwythyd, na chorff na meddwl, â'r rhai sy'n dwyn afiechydon arnynt eu hunain trwy ganlyniadau naturiol eu dull o fyw; bod sefyllfa ganol bywyd yn gyfaddas i bob math o rinweddau a phob math o fwyniannau; bod heddwch a llawnder yn llawforynion y sefyllfa ganol; bod dirwest, cymedrolder, tawelwch, iechyd, cyfeillach, pob digrifwch hyfryd, a phob pleser dymunol, yn fendithion sy'n perthyn i sefyllfa ganol bywyd; mai dyma'r ffordd yr âi dynion drwy'r byd yn dawel ac yn esmwyth, ac ohono yn gysurus.
Wedyn, pwysodd arnaf yn ddwys, ac yn y modd mwyaf serchog, i beidio ag ymruthro i helbulon yr oedd Natur a'r sefyllfa mewn bywyd y ganed fi iddi fel pe wedi rhag ddarparu rhagddynt; nad oedd dim rhaid i mi chwilio am fy nhamaid; y gwnâi ef ei orau drosof; ac os na fyddwn i'n esmwyth a hapus yn y byd, rhaid mai fy nhynged neu fy mai i yn unig a rwystrai hynny; ac na fyddai ganddo ef ddim i ateb drosto, gan iddo wneuthur ei ddyletswydd trwy fy rhybuddio rhag pethau y gwyddai ef a fyddai er niwed i mi. Ac yn ben ar bopeth, dywedodd wrthyf fod fy mrawd hynaf gennyf yn esiampl, i'r hwn yr oedd ef wedi rhoddi cynghorion yr un mor ddwys, i'w gadw rhag mynd i ryfeloedd yr Iseldiroedd, ond ni lwyddodd, gan i chwantau ieuenctid ei gymell i ffoi i'r fyddin, lle y lladdwyd ef; ac er iddo ddywedyd na wnâi ef ddim peidio â gweddïo drosof, eto mentrai ddywedyd wrthyf, os cymerwn i'r cam ffôl hwn, na fendithiai Duw mohonof; ac fe gawn hamdden ar ôl hyn i fyfyrio amdanaf fy hun yn esgeuluso ei gyngor ef pan na fyddai neb, efallai, i gynorthwyo yn fy adferiad.
Sylwais yn y rhan olaf o'i araith fod y dagrau yn llifo i lawr ei ruddiau, yn enwedig pan soniai am fy mrawd oedd wedi ei ladd; a phan soniai y cawn i hamdden i edifarhau, heb neb i'm cynorthwyo, yr oedd wedi ei gynhyrfu gymaint nes iddo dorri ar y sgwrs, a dywedodd wrthyf fod ei galon mor llawn na fedrai ddywedyd dim yn rhagor wrthyf.
Dylanwadodd yr araith hon yn fawr arnaf, a phenderfynais beidio â meddwl am fynd i ffwrdd mwyach, ond setlo gartref yn unol â dymuniad fy nhad. Ond gwae fi! gwisgodd ychydig ddyddiau y cwbl i ffwrdd, a rhag i'm tad grefu ychwaneg arnaf, ymhen ychydig wythnosau wedyn, penderfynais redeg i ffwrdd oddiwrtho yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, ni bûm mor fyrbwyll ag y bwriadwn ar y cyntaf, ond dywedais wrth fy mam fod fy mryd gymaint ar weled y byd na allwn i byth gydio mewn dim gyda digon o benderfyniad i lynu wrtho, ac mai gwell fuasai i'm tad gydsynio â'm cais na'm gorfodi i fynd heb hynny; fy mod yn awr yn ddeunaw oed, a'i bod yn rhy ddiweddar i fynd yn brentis mewn crefft yn y byd, neu'n glerc twrnai; fy mod yn sicr os gwnawn hynny y byddwn yn siwr o redeg i ffwrdd oddiwrth fy meistr a mynd i'r môr; ac os gwnâi hi siarad â'm tad am iddo adael i mi fynd dim ond am un fordaith ar led, os down i adre'n ôl drachefn a heb gael blas ar hynny, nad awn i byth wedyn, ac fe addawn trwy ddwbl—ddiwydrwydd adennill yr amser a gollaswn.
Gyrrodd hyn fy mam yn gynddeiriog. Dywedodd wrthyf ei bod hi yn gwybod nad oedd ddiben yn y byd siarad â'm tad ar bwnc o'r fath; y gwyddai ef yn rhy dda beth oedd er fy lles i gydsynio â pheth a wnâi gymaint o niwed i mi; a'i bod hi'n synnu sut yr oeddwn yn medru meddwl am beth o'r fath ar ôl y fath sgwrs a gawswn gyda'm tad; ac mewn byr eiriau, os difethwn i fy hun nad oedd mo'r help amdanaf; ond fe allwn ddibynnu na chawn i byth mo'u cydsyniad hwy â hynny; ac o'i rhan hi, ni chawn i byth ddim dweud bod fy mam yn fodlon tra nad ydoedd fy nhad ddim.
Er i'm mam wrthod cymeradwyo'r peth i'm tad, eto, fel y clywais wedyn, fe adroddodd yr holl sgwrs wrtho, ac i'm tad ddywedyd wrthi gydag ochenaid, "Fe allai'r bachgen yna fod yn hapus petai'n aros gartref, ond os â i ffwrdd fe fydd yr adyn mwyaf truenus a anwyd erioed; ni allaf fi ddim cydsynio â'r peth o gwbl."
Aeth bron flwyddyn heibio wedi hyn cyn i mi dorri'n rhydd; ond rhyw ddiwrnod yn Hull, lle yr awn yn achlysurol, ac un o'm cyfeillion yn mynd ar y môr i Lundain yn llong ei dad, ac yn fy annog i fynd gyda hwynt, nid ymgynghorais ddim pellach â'm tad na'm mam, na hyd yn oed anfon gair atynt am y peth; ond gan adael iddynt glywed amdano fel y digwyddai iddynt, heb ofyn bendith na Duw na'm tad, heb ystyried nac amgylchiadau na chanlyniadau, ar y cyntaf o Fedi, 1651, euthum ar fwrdd llong oedd yn rhwym am Lundain.
PENNOD II.
YR ANTUR GYNTAF—EI BROFIAD AR Y MÔR—MORDAITH I GUINEA.
CREDAF na bu i anffodion yr un anturiwr ieuanc ddechrau ynghynt na pharhau yn hwy na'r eiddof fi. Cyn gynted â bod y llong allan o Hymyr, dechreuodd y gwynt chwythu, a'r tonnau godi yn y modd mwyaf dychrynllyd; a chan nad oeddwn wedi bod ar y môr erioed o'r blaen, yr oeddwn yn sâl ofnadwy, ac yr oedd ofn arswydus arnaf. Dechreuais feddwl yn ddifrifol yn awr ar y peth a wnaethwn; ac mor gyfiawn ydoedd barn y Nefoedd arnaf am fy anfadrwydd yn gadael tŷ fy nhad ac yn esgeuluso fy nyletswydd. Yn awr daeth cynghorion fy rhieni, dagrau fy nhad ac erfyniadau fy mam, yn fyw i'm cof, a chyhuddodd fy nghydwybod fi o ddirmygu cynghorion, ac anghofio fy nyletswydd i Dduw ac i'm tad.
Yn ystod yr amser hwn gwaethygodd y storm a chododd y môr yn uchel iawn, er nad oedd yn ddim wrth y peth a welais ar ol hyn; ond yr oedd yn ddigon i effeithio arnaf y pryd hwnnw, a minnau heb fod ond llongwr ifanc, a heb erioed wybod dim byd am y peth. Disgwyliwn i bob ton ein llyncu, a phob tro y disgynnai'r llong i gafn neu bant y môr, fel y tybiwn i, ofnwn na chodem byth wedyn; ac yn yr ing meddwl hwn addunedais a phenderfynais, os gwelai Duw yn dda achub fy mywyd y fordaith hon, os byth y cawn fy nhroed ar dir sych drachefn; yr awn adre'n syth at fy nhad, fe dderbyniwn ei gyngor ef, ac ni ruthrwn byth mwyach i'r fath drueni â hyn. Yn awr fe welwn yn eglur werth ei sylwadau ar sefyllfa ganol bywyd, mor esmwyth, mor gysurus yr oedd ef wedi byw ar hyd ei oes, heb erioed fod yn agored i stormydd ar y môr, na helbulon ar y lan; ac megis afradlon gwir edifeiriol, penderfynais ddychwelyd adref at fy nhad.
Parhaodd y meddyliau dwys hyn cyhyd ag y parhaodd y storm, ac yn wir am beth amser wedyn; ond drannoeth gostegodd y gwynt a thawelodd y môr, a dechreuais gynefino ag ef. Fodd bynnag yr oeddwn yn lled brudd y diwrnod hwnnw, a thipyn o glefyd y môr arnaf o hyd; ond at y nos fe gliriodd y tywydd, yr oedd y gwynt wedi llwyr ostegu, daeth yn fin nos hynod o braf; aeth yr haul i lawr yn berffaith glir, a chododd felly fore trannoeth; a chydag ychydig neu ddim gwynt, a môr llyfn, gyda'r haul yn tywynnu arno, yr oedd yr olygfa, i'm tyb i, yr hyfrytaf a welswn erioed.
Yr oeddwn wedi cysgu yn dda yn y nos, a chan nad oedd clefyd y môr arnaf yn awr, yr oeddwn yn lled siriol, yn edrych mewn syndod ar y môr oedd mor arw ac ofnadwy y diwrnod cynt, ac yn gallu bod mor dawel a hyfryd mewn cyn lleied o amser wedyn. Mewn gair, gan fod wyneb y môr wedi dyfod yn esmwyth drachefn ac yn hollol dawel trwy i'r storm honno ostegu, fe lwyr anghofiais yr addunedau a'r addewidion a wnaethwn yn fy nghyni, ac ymhen pum niwrnod neu chwech yr oeddwn wedi cael goruchafiaeth mor llwyr ar fy nghydwybod ag y gall yr un llanc ifanc ddymuno amdani.
Y chweched diwrnod i ni fod ar y môr, daethom i Yarmouth Roads; gan i'r gwynt ddal yn groes a'r tywydd yn dawel, nid oeddem wedi symud ymlaen ond ychydig er adeg y storm. Yma bu rhaid i ni fwrw angor, ac yma y buom, gan fod y gwynt yn parhau yn groes, sef, yn y de-orllewin am saith niwrnod neu wyth. Ni buasem, fodd bynnag, wedi angori yma cyhyd, ond buasem wedi mynd i fyny'r afon gyda'r teit, oni bai fod y gwynt yn chwythu'n rhy ffres; ac wedi i ni orwedd yma bedwar diwrnod neu bump, chwythai yn galed iawn. Beth bynnag, gan yr ystyrrid y Roads cystal â phorthladd, yr angorfa yn dda, a'n taclau ninnau yn ddigon cryf, yr oedd ein dynion yn hollol ddidaro heb ofn perygl arnynt o gwbl, ond treuliasant yr amser i orffwyso a'u difyrru eu hunain yn null y môr. Ond yr wythfed dydd yn y bore, cryfhaodd y gwynt, ac yr oedd y dwylo i gyd ar waith gennym i wneud popeth yn ddiogel ac yn dyn, er mwyn i'r llong forio mor esmwyth ag oedd bosibl. Erbyn y prynhawn cododd y môr yn uchel anghyffredin, a nofiai'r llong â'i fforcasl dan ddŵr, a thybiem unwaith neu ddwy fod yr angor wedi dyfod adref; ar hyn gorchmynnodd ein meistr roddi'r prif angor allan, fel y moriem gyda dau angor ymlaen, a'r rhaffau wedi eu troi allan i'r pen gorau arnynt.
Erbyn hyn chwythai storm ddychrynllyd, ac yn awr gwelwn ofn a braw yn wynebau hyd yn oed y llongwyr eu hunain. Clywn y meistr, wrth fynd yn ôl a blaen i'r caban yn f'ymyl yn dweud yn dawel wrtho'i hunan droeon: Arglwydd, bydd drugarog wrthym, fe'n collir i gyd, fe'n difethir i gyd.
Yr oedd arnaf ofn arswydus yn awr; codais o'm caban ac edrychais allan. Ond ni welais erioed olygfa mor erchyll; codai'r môr yn fynyddoedd, a thorrai drosom bob rhyw dri munud neu bedwar; pan fedrwn edrych o'm cwmpas, ni fedrwn weld dim ond cyfyngder o'n deutu. Gwelem fod dwy long a foriai yn ein hymyl wedi torri y mastiau wrth y bwrdd, gan eu bod yn drwmlwythog; a gwaeddai'r dynion fod llong a foriai ryw filltir o'n blaenau wedi suddo.
Ynghanol y nos, gwaeddodd un o'r dynion a aethai i lawr o bwrpas i weld, ei bod yn gollwng dŵr i mewn; dywedodd un arall fod pedair troedfedd o ddŵr yn yr howld. Yna galwyd yr holl ddwylo i'r pwmp. Ar y gair hwnnw, llesmeiriodd fy nghalon ynof, fel y tybiwn i, a syrthiais wysg fy nghefn ar ymyl fy ngwely lle'r eisteddwn, i'r caban. Sut bynnag, deffrôdd y dynion fi, a dywedasant wrthyf y gallwn i bympio cystal â rhywun arall, ac ar hynny codais ac euthum at y pwmp. Tra'r oedd hyn ar waith, gan i'r meistr weld llongau glo bychain, oedd yn methu dal y storm, yn llithro allan i'r môr, gorchmynnodd danio gwn fel arwydd o gyfyngder. Yr oeddwn i, a minnau heb wybod beth yn y byd oedd ystyr hynny, wedi fy synnu gymaint nes i mi dybio bod y llong wedi torri, neu fod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd. Mewn gair, yr oeddwn wedi fy synnu gymaint, nes i mi syrthio i lawr mewn llewyg. Gan fod hyn yn adeg yr oedd yn rhaid i bob un feddwl am ei einioes ei hun, nid oedd waeth gan neb amdanaf fi; ond neidiodd dyn arall at y pwmp, a chan fy ngwthio i o'r neilĺtu â'i droed, gadawodd i mi orwedd, gan dybio fy mod wedi marw; ac ni ddeuthum ataf fy hun am hir iawn.
Daliasom ati i weithio; ond gan fod y dŵr yn cynyddu yn yr howld, yr oedd yn amlwg mai suddo a wnâi'r llong; ac er i'r storm ddechrau gostegu ychydig, eto gan nad oedd ddichon iddi nofio hyd oni allem gyrraedd porthladd, daliodd y meistr i danio gynnau am help, a mentrodd goleulong oedd wedi dal i forio o'n blaenau, yrru cwch i'n cynorthwyo. Gyda'r enbydrwydd mwyaf y daeth y cwch atom, ond amhosibl oedd i ni fynd ar y bwrdd, nac i'r cwch ddal wrth ochr y llong. O'r diwedd, trwy i'r dynion rwyfo yn galed a mentro eu bywydau i'n hachub ni, taflodd ein dynion ni raff iddynt dros y starn a bwi wrthi, ac wedi llafur ac enbydrwydd mawr cawsant afael arni, a thynasom hwy yn dyn o dan ein starn, ac aethom i gyd i'r cwch. Nid oedd dim diben iddynt hwy na ninnau, wedi i ni fynd i'r cwch, feddwl am gyrraedd eu llong hwy, felly cytunodd pawb i adael iddo yrru, a dim ond ei dynnu i mewn mor agos ag y medrem i'r traeth; ac addawodd ein meistr iddynt, os dryllid y cwch ar y lan, y gwnâi ef iawn am dano i'w meistr; felly fe aeth ein cwch i ffwrdd tua'r gogledd, ar osgo am y lan bron cyn belled â Winterton Ness.
Nid oeddem nemor fwy na chwarter awr o'n llong na welem hi'n suddo, ac yna deëllais am y tro cyntaf beth oedd ystyr llong yn suddo yn y môr. Rhaid i mi gydnabod mai prin y medrwn godi fy llygaid pan ddywedodd y morwyr wrthyf ei bod yn suddo. Yr oedd fy nghalon fel petai'n farw ynof, o ran â dychryn, o ran ag arswyd a'r meddyliau am y pethau oedd eto o'm blaen.
Tra'r oeddem yn y cyflwr hwn, a'r dynion eto'n gweithio wrth y rhwyfau i ddyfod â'r cwch at y lan (pan fedrem weld y lan wrth i'r cwch ddringo'r tonnau) gwelem lawer o bobl yn rhedeg ar hyd y traeth i'n cynorthwyo pan ddelem yn agos. Ond yn araf y cyrchem at y lan; ac ni lwyddasom i gyrraedd y lan, nes wedi i ni fynd heibio i oleudy Winterton, cilia gallt y môr tua'r gorllewin i gyfeiriad Cromer, ac felly torrai'r tir ychydig ar rym y gwynt. Yma aethom i mewn, a chyraeddasom y lan yn ddiogel, a cherddasom wedyn i Yarmouth, lle y derbyniwyd ni gyda chryn lawer o diriondeb gan ynadon y dref, yn ogystal â'r gwahanol fasnachwyr a pherchenogion llongau, a rhoddwyd digon o arian i ni i'n cludo un ai i Lundain neu yn ol i Hull, fel y gwelem ni yn orau.
Petasai gennyf ddigon o synnwyr yn awr i ddychwelyd i Hull, a phetaswn i wedi mynd adref, buaswn yn hapus; a buasai fy nhad (arwyddlun o ddameg ein Gwaredwr bendigedig) wedi lladd y llo pasgedig i mi, canys ar ôl clywed bod y llong yr euthum i ffwrdd ynddi wedi torri'n rhydd yn Yarmouth Roads, bu'n hir iawn cyn derbyn yr un sicrwydd nad oeddwn wedi boddi. Ond amdanaf fi, gan fod gennyf arian yn fy mhoced, teithiais i Lundain drwy'r tir, ac yno yn ogystal ag ar y ffordd, bu aml ymdrech rhyngof a mi fy hun pa gwrs mewn bywyd a gymerwn, a pha un a awn i adref, ai ynteu mynd i'r môr.
Gyda golwg ar fynd adref, trawodd i'm meddwl ar unwaith fel y chwerddid am fy mhen gan y cymdogion, ac y byddai arnaf gywilydd gweld, nid yn unig fy nhad a'm mam, ond pawb arall hyd yn oed. Ac oddiar hynny yr wyf wedi sylwi yn aml, yn enwedig ar bobl ieuanc, nad oes arnynt ddim cywilydd pechu, ac eto y mae arnynt gywilydd edifarhau; dim cywilydd o'r weithred y dylid yn deg eu cyfrif yn ffyliaid o'i herwydd, ond cywilydd o'r dychwelyd, yr unig beth a bair iddynt gael eu cyfrif yn ddynion doeth.
Yn y cyflwr hwn y bûm, fodd bynnag, am beth amser, yn ansicr pa ffordd i'w chymryd, a pha gwrs o fywyd i'w arwain. Daliwn yn hynod anewyllysgar i fynd adref; a chan i mi aros am ysbaid, treuliodd yr atgof am y cyni y bûm ynddo ymaith, nes o'r diwedd rhoddais heibio feddwl am y peth, ac euthum ar fwrdd llong oedd yn rhwym am arfordir Affrica, neu, fel y dywed ein llongwyr yn gyffredin,—mordaith i Guinea.
Yn gyntaf oll, digwyddais daro ar gwmni pur dda yn Llundain, peth nad yw yn digwydd yn aml i lanciau ifainc penrhydd ac annoeth fel fi. Deuthum yn gydnabyddus â meistr llong oedd wedi bod ar ororau Guinea, a chan iddo fod yn llwyddiannus iawn yno, yr oedd â'i fryd ar fynd yno drachefn, ac yn fy nghlywed i'n dweud fod arnaf awydd gweled y byd, dywedodd wrthyf os awn i am fordaith gydag ef na chostiai hi ddim i mi; cawn gydfwyta ag ef a bod yn gydymaith iddo; ac os medrwn i ddwyn rhywbeth gyda mi, cawn bob mantais oddiwrtho a ganiatâi'r fasnach ac efallai y cawn i dipyn o gefnogaeth.
Derbyniais y cynnig; a chan ddechrau cyfeillgarwch tyn â'r capten, euthum gydag ef am y fordaith, gan fynd â chyfran fechan gyda mi, canys yr oedd gennyf werth tua 40 mewn teganau a manion y dywedasai'r capten wrthyf am eu prynu. Yr oeddwn wedi casglu'r £40 hyn trwy gymorth rhai o'm perthnasau yr oeddwn wedi bod yn gohebu â hwynt, y rhai oedd wedi cael gan fy nhad, neu fy mam o leiaf, 'rwy'n credu, gyfrannu cymaint â hynny beth bynnag at fy antur gyntaf. Dyma'r unig fordaith y gallaf ddweud iddi fod yn llwyddiant yn fy holl anturiaethau, ac y mae arnaf ddyled am hynny i gywirdeb a gonestrwydd fy nghyfaill, y capten. Dano ef hefyd y cefais ddigonedd o wybodaeth am fesuroniaeth a rheolau morwriaeth; dysgais sut i gadw cyfrif o gwrs y llong, ac, mewn byr eiriau, i ddeall rhai pethau yr oedd yn rhaid i longwr eu deall. Canys gan ei fod ef yn cymryd diddordeb i'm hyfforddi, cymerwn innau ddiddordeb i ddysgu, ac, mewn gair, gwnaeth y fordaith hon fi yn llongwr yn ogystal â masnachwr; canys deuthum â phum pwys a naw owns o lwch aur gyda mi, oedd yn rhoddi bron £300 i mi yn Llundain, ac fe'm llanwodd hyn i â'r syniadau uchelgeisiol hynny sydd ar ôl hynny wedi fy llwyr ddifetha,
Eto, hyd yn oed ar y fordaith hon yr oedd i mi fy anffodion hefyd, yn arbennig, fy mod yn sâl yn barhaus, wedi fy mwrw mewn twymyn enbyd oherwydd gwres llethol yr hinsawdd, gan fod ein prif fasnach ar yr arfordir, o ledred 15° i'r Gogledd hyd yn oed i linell y cyhydedd ei hun.
PENNOD III.
EI GAETHIWED YN SALLEE—DIANC GYDA XURY—CYRRAEDD BRAZIL.
YR oeddwn yn awr wedi fy sefydlu fy hun fel un o fasnachwyr Guinea; a chan i'm cyfaill farw yn fuan wedi iddo gyrraedd, penderfynais fynd ar yr un fordaith drachefn, ac fe hwyliais allan yn yr un llong gyda'r un oedd yn fêt iddo ar y fordaith gyntaf, a'r un oedd yn awr yn llywydd y llong. Dyma'r fordaith fwyaf annedwydd a wnaeth neb erioed, canys er nad euthum â llawn canpunt gyda mi o'r cyfoeth oeddwn newydd ei ennill, gan i mi adael £200 ar ôl gyda gweddw fy nghyfaill, eto syrthiais i brofedigaethau ofnadwy ar y fordaith hon; a dyma'r gyntaf, sef—wrth i'r llong hwylio'i chwrs tuag Ynysoedd Canary, neu yn hytrach rhwng yr ynysoedd hynny ac arfordir Affrica, daeth un o fôr—ladron Twrci o Sallee ar ei gwarthaf yng nglas y bore, gan ein hymlid ar lawn hwyliau. Cludasom ninnau hefyd gymaint o liain ag a ledai'r iardiau, neu a gariai ein mastiau, er mwyn mynd yn glir; ond wrth weld bod y môr-leidr yn ennill arnom, ac y byddai'n sicr o'n dal ymhen ychydig oriau, paratoesom ymladd,—deg o ynnau gan ein llong ni a deunaw gan yr herwlong. Tua thri yn y prynhawn fe'n daliodd ni; a chan iddi atal ei chwrs mewn amryfusedd, bron ar draws ein chwarter, yn lle ar draws ein starn fel y bwriadai, troesom wyth o'n gynnau ar yr ochr honno, gan fwrw ergydion arni a wnaeth iddi gilio i ffwrdd drachefn wedi iddi ateb ein tân ni a thywallt i mewn ei mân ergydion gan yn agos i 200 o wŷr oedd ar ei bwrdd. Sut bynnag, ni chyffyrddwyd â'r un o'n dynion ni. Paratôdd i ymosod arnom drachefn, a ninnau i'n hamddiffyn ein hunain; ond gan gyrchu arnom ar ein chwarter arall y tro nesaf, rhoddodd drigain o ddynion ar ein deciau, y rhai a ddechreuodd ar unwaith dorri a darnio ein deciau a'n rigin. Fodd bynnag, i dorri'n fyr y darn pruddaidd hwn o'n stori, gan fod ein llong wedi ei handwyo, a thri o'n dynion wedi eu lladd ac wyth wedi eu clwyfo, bu rhaid i ni ildio, a dygwyd ni i gyd yn garcharorion i Sallee, porthladd yn perthyn i'r Mwriaid.
Nid oedd y driniaeth a gefais yno mor arswydus ag yr ofnwn ar y cyntaf, ac ni chludwyd mohonof i fyny i'r wlad i lys yr ymherawdr, fel y gwnaed â'r gweddill o'n gwŷr; ond cadwyd fi gan gapten yr herwlong fel ei briod wobr ei hun, a gwnaed fi'n gaethwas iddo, gan fy mod yn ifanc ac yn sionc ac yn ateb ei ddiben ef.
Gan fod fy meistr newydd wedi mynd â mi adref i'w dŷ, gobeithiwn y cymerai fi gydag ef pan âi i'r môr eto, gan gredu mai ei dynged yntau rywbryd neu'i gilydd fyddai ei ddal gan un o longau rhyfel yr Ysbaen neu Portugal; ac yna fe'm gollyngid innau yn rhydd. Ond amddifadwyd fi o'r gobaith hwn yn fuan iawn; canys pan aeth ef i'r môr, gadawodd fi ar y lan i ofalu am ei ardd fechan, ac i wneud caledwaith arferol

Bu rhaid i ni ildio, a dygwyd ni i gyd yn garcharorion i Sallee.
(Gwel tud. 16).
caethweision o amgylch ei dŷ; a phan ddaeth adre'n ôl drachefn o'i fordaith, gorchmynnodd i mi orwedd yn y caban i edrych ar ôl y llong.
Yma ni feddyliais am ddim ond am ddianc, a pha ddull a gymerwn i gyflawni hynny, ond ni welwn ffordd o gwbl a fyddai'n debyg o lwyddo. Ac am ddwy flynedd, er i mi fod wrth fy modd yn aml yn dychmygu'r peth, eto ni chefais ddim calondid o gwbl i wneud hynny.
Ymhen tua dwy flynedd digwyddodd amgylchiad hynod, a ddaeth â'r hen syniad o geisio ennill fy rhyddid i'm pen drachefn. Arferai fy noddwr yn gyson, unwaith neu ddwy yr wythnos, weithiau yn amlach os byddai'r tywydd yn braf, fynd allan i bysgota i'r angorfa yng nghwch bach y llong. Ai â fi a Maresco ieuanc gydag ef bob amser i rwyfo'r cwch, a chan fy mod yn ddeheig iawn i ddal pysgod anfonai fi weithiau gyda Mŵr (un o'i geraint) a'r llanc y Maresco, fel y galwent ef, i ddal dysglaid o bysgod iddo.
Un tro, a ninnau yn mynd i bysgota ar fore hollol dawel, digwyddodd niwl godi mor dew nes i ni golli golwg ar y lan er nad oeddem hanner milltir oddiyno; a chan rwyfo heb wybod i ble na pha ffordd, llafuriasom drwy'r dydd a thrwy'r nos wedyn, a phan ddaeth y bore gwelsom ein bod wedi tynnu allan i'r môr yn lle tynnu at y lan, a'n bod o leiaf ddwy filltir o'r lan. Sut bynnag, daethom i mewn yn lled dda wedyn, er gyda chryn lawer o lafur, a pheth perygl, gan i'r gwynt ddechrau chwythu yn lled ffres yn y bore; ond yr oedd arnom newyn anghyffredin i gyd.
Ond, wedi ei rybuddio gan yr aflwydd hwn, penderfynodd ein noddwr gymryd mwy o ofal ohono'i hun yn y dyfodol, a chan fod cwch hir ein llong Seisnig ni ganddo, penderfynodd nad âi i bysgota byth mwy heb gwmpawd a rhyw gymaint o fwyd. Felly gorchmynnodd i saer ei long (yntau yn gaethwas o Sais) godi caban bychan ynghanol y cwch, gyda lle i sefyll y tu ôl iddo i lywio ac i dynnu'r Main Sheet i mewn, a lle o'r tu blaen i un neu ddau o'r dwylo sefyll a thrin yr hwyliau.
Aem allan i bysgota yn fynych gyda'r cwch hwn, a chan fy mod i yn hynod ddeheig i ddal pysgod iddo, nid âi byth hebof. Digwyddodd ei fod wedi trefnu mynd allan yn y cwch hwn, un ai am bleser neu bysgod, gyda dau neu dri Mŵr o beth bri yn y lle hwnnw, y rhai yr oedd wedi darparu'n eithriadol ar eu cyfer; ac felly wedi anfon arlwy mwy nag arfer ar fwrdd y cwch dros y nos; ac wedi gorchymyn i mi ddarparu tri dryll, gyda phowdr a haels, oedd ar fwrdd ei long ef, gan eu bod yn bwriadu cael tipyn o sbort wrth hela yn ogystal â physgota.
Cefais bopeth yn barod fel yr oedd ef wedi fy nghyfarwyddo, a disgwyl bore trannoeth gyda'r cwch wedi ei olchi'n lân, gyda'i luman a'i faneri allan, a phopeth wedi ei drefnu gogyfer â'i wŷr gwâdd. Yn y man, daeth fy noddwr ar y bwrdd ar ei ben ei hun, a dweud wrthyf nad oedd ei westeion am fynd, oherwydd rhyw helynt oedd wedi digwydd, a gorchmynnodd i mi fynd allan fel arfer gyda'r cwch a dal pysgod iddynt, gan fod ei gyfeillion i swperu yn ei dŷ ef; a gorchmynnodd i mi, cyn gynted ag y byddai gennyf bysgod, ddyfod â hwynt adref i'w dŷ ef.
Y foment hon daeth fy syniadau blaenorol am waredigaeth i'm meddwl, gan y gwelwn yn awr fy mod yn debyg o gael llong fechan i mi fy hun; ac wedi i'm meistr fynd, ymbaratoais nid am y gorchwyl o bysgota ond am fordaith; er na wyddwn i ddim, ac na wneuthum hyd yn oed ystyried, i ble yr hwyliwn, gan fod rhywle, i gael mynd ymaith o'r lle hwnnw, yn ffordd i mi.
Fy ystryw cyntaf oedd cymryd arnaf sôn wrth y Mŵr am gael rhywbeth yn fwyd i ni ar y bwrdd; canys dywedais wrtho na fyddai wiw i ni fwyta bwyd ein noddwr. Dywedodd yntau fod hynny'n wir; felly daeth â basgedaid fawr o ryw fath o fara caled, a thair costrelaid o ddŵr croyw i'r cwch. Gwyddwn ymhle yr oedd cistan boteli fy noddwr, a chludais hwynt i'r cwch tra'r oedd y Mŵr ar y lan, fel petasent yno o'r blaen i'n meistr. Cludais hefyd delpyn mawr o gŵyr melyn i'r cwch, gyda pharselaid o linyn neu edau, bwyall, llif, a morthwyl; a bu'r cwbl o wasanaeth mawr i ni wedyn, yr enwedig y cŵyr i wneud canhwyllau. Cynigiais dric arall arno hefyd, a daeth iddo yn ddigon diniwed. Ei enw oedd Ismael, a alwant hwy yn Muli neu Moeli; gan hynny, gelwais arno: "Moeli," meddwn i, y mae gynnau ein meistr ar fwrdd y cwch; a fedri di gael tipyn o bowdwr a haels? Efallai y lladdwn ni ambell ylfinir i ni ein hunain, oherwydd mi wn ei fod yn cadw'r taclau saethu yn y llong."
Medraf," eb yntau, "fe ddof â pheth, daeth â phwrs lledr mawr oedd yn cynnwys tua phwys a hanner o bowdwr, neu fwy; ac un arall â haels, ac ynddo bum pwys neu chwech, a rhai bwledi; a rhoddodd y cwbl yn y cwch. Yr un pryd yr oeddwn innau wedi cael hyd i bowdwr fy meistr yn y caban mawr, ac â hwn llenwais un o'r poteli mawr yn y gistan oedd bron yn wag, gan arllwys y peth oedd ynddi i un arall; ac wedi paratoi felly bopeth oedd yn angenrheidiol, hwyliasom allan o'r borth i bysgota. Gwyddai'r castell sydd ar geg y porthladd pwy oeddem, ac ni chymerth sylw ohonom; ac nid oeddem dros filltir o'r borth cyn i ni dynnu ein hwyl i mewn, ac eistedd i lawr i bysgota. Chwythai'r gwynt o'r Gogledd Ddwyrain, yn groes i'm dymuniad i, canys petasai yn chwythu o'r de buaswn yn siwr o daro ar arfordir Sbaen, a 'chyrraedd Bae Cadiz fan leiaf; ond yr oeddwn wedi penderfynu, o ble bynnag y chwythai, y buaswn yn mynd o'r lle arswydus yr oeddwn ynddo, a gadael y gweddill i Ffawd.
Wedi i ni fod yn pysgota am beth amser heb ddal dim (canys pan fyddai gennyf bysgod ar fy mach ni thynnwn mohonynt i fyny, rhag iddo eu gweld) dywedais wrth y Mŵr, "Ni wna hyn mo'r tro; rhaid i ni sefyll ymhellach allan." Heb feddwl dim drwg, cytunodd yntau, a chan ei fod ymlaen y cwch cododd yr hwyliau; a chan mai fi oedd wrth y llyw rhedais y cwch allan tua milltir ymhellach, ac yna arafu ei gwrs fel petawn am bysgota. Yna, gan roddi'r llyw i'r bachgen, euthum ymlaen i'r lle yr oedd y Mŵr, a chan gymryd arnaf wyro am rywbeth y tu ôl iddo, cydiais ynddo yn ddiarwybod iddo gyda'm braich am ei wasg, a theflais ef yn glir dros y bwrdd i'r môr. Cododd ar unwaith, gan y nofiai fel corcyn, a gwaeddodd arnaf; erfyniodd am gael dyfod i mewn; dywedodd wrthyf yr âi ef gyda mi dros y byd i gyd. Nofiai mor gryf ar ôl y cwch fel y buasai wedi fy nal yn lled fuan, gan nad oedd ond ychydig o wynt; ar hynny euthum i'r caban, a chan estyn un o'r gynnau, trois ef ato, a dywedais wrtho nad oeddwn i wedi gwneud dim niwed iddo, ac os byddai'n ddistaw na wnawn i ddim byd iddo. Ond," meddwn i, "rwyt ti'n nofio'n ddigon da i gyrraedd y lan, ac mae'r môr yn dawel; gwna dy ffordd i'r lan orau y medri, ac ni wnaf fi ddim niwed i ti; ond os doi di'n agos i'r cwch mi saethaf di drwy dy ben, gan fy mod wedi penderfynu cael fy rhyddid." Felly trôdd yn ei ôl a nofiodd am y lan, ac nid wyf yn amau na chyrhaeddodd yn ddiogel gan ei fod yn nofiwr ardderchog.
Buaswn yn ddigon bodlon mynd â'r Mŵr hwn gyda mi, a boddi'r bachgen, ond ni ellid mentro ymddiried ynddo. Wedi iddo ef fynd, trois at y bachgen, a alwent hwy yn Xury, a dywedais wrtho: Xury, os byddi di'n ffyddlon i mi fe'th wnaf yn ddyn mawr, ond os na thynni di dy law dros dy wyneb i fod yn ffyddlon i mi (sef yw hynny, tyngu trwy Fahomet a barf ei dad), rhaid i mi dy daflu dithau i'r môr hefyd." Gwenodd y bachgen yn fy wyneb, a siaradodd mor ddiniwed fel na fedrwn mo'i ddrwg-dybio; thyngodd y byddai'n ffyddlon i mi, ac yr âi gyda mi dros y byd i gyd.
Tra'r oeddwn yng ngolwg y Mŵr, deliais allan yn syth i'r môr gyda'r cwch, gan dynnu braidd i'r gwynt, er mwyn iddynt feddwl fy mod wedi mynd i gyfeiriad genau'r culfor (fel yn wir y gellid tybio y gwnâi unrhyw un yn ei synhwyrau); canys pwy fyth a fuasai'n tybio ein bod wedi hwylio i'r deau, i'r glannau gwir farbaraidd, lle byddai cenhedloedd cyfain o ddynion duon yn sicr o'n hamgylchynu â'u badau, a'n difetha ni; lle na fedrem lanio o gwbl heb gael ein difa gan fwystfilod rheibus, neu anwariaid mwy di-drugaredd fyth.
Ond cyn gynted ag y dechreuodd dywyllu ym min nos, newidiais fy nghwrs, a hwyliais i'r deddwyrain, gan gyfeirio fy nghwrs ychydig i'r dwyrain, er mwyn i mi gadw wrth y lan; a chydag awel o wynt teg, a môr esmwyth tawel, hwyliais cyn belled, nes erbyn tri o'r gloch prynhawn drannoeth, pan ddeuthum i olwg y tir, credaf nad oeddwn i ddim llai na chant a hanner o filltiroedd i ddeau Sallee; ymhell tu draw i diriogaethau Ymherawdr Morocco, neu yn wir unrhyw frenin arall yn y cyffiniau, gan na welsom bobl o gwbl.
Eto yr oedd arnaf gymaint o ofn y Mwriaid, a chawswn y fath fraw arswydus rhag syrthio i'w dwylo, na wnawn i ddim aros, na mynd i'r lan, na bwrw angor (a'r gwynt yn dal yn deg) nes i mi hwylio felly am bum niwrnod; ac yna, gan i'r gwynt droi i'r deau, bernais os oedd rhai o'u llongau yn fy ymlid, y rhoent hwythau'r gorau iddi hefyd yn awr; felly mentrais gyrchu at y tir, ac angorais yng ngenau afon fechan; ond ni wyddwn pa un ydoedd, na pha le yr oedd; na pha ledred, pa wlad, pa genhedloedd, na pha afon. Ni welais ac ni ddymunwn weld pobl o gwbl; y prif beth yr oedd arnaf ei eisiau oedd dŵr croyw. Daethom i'r gilfach hon ym min nos, gan benderfynu nofio i'r lan cyn gynted ag y tywyllai, a chwilio'r wlad; ond cyn gynted â'i bod yn hollol dywyll, clywem oernadau creaduriaid gwylltion yn cyfarth, yn rhuo, ac yn udo (na wyddem ni o ba fathau) nes bod y bachgen druan bron â marw gan ofn, ac erfyniodd arnaf beidio â mynd i'r lan tan y dydd.
"Wel, Xury," meddwn innau, "felly 'd âf fi ddim; ond efallai y gwelwn ni ddynion yn y dydd a fydd cynddrwg i ni â'r llewod yna."
"Yna mi rown y gwn saethu iddyn nhw," ebe Xury, dan chwerthin, a gneud iddyn nhw redeg i ffwrdd."
Fodd bynnag, yr oeddwn yn falch o weld y bachgen mor llon, a rhoddais lymaid iddo (o gistan boteli ein noddwr) i'w sirioli. Wedi'r cwbl, yr oedd cyngor Xury yn un da, a chymerais ef; bwriasom ein hangor bychan ac arosasom yn llonydd drwy'r nos. Dywedaf "yn llonydd," gan na chysgasom ddim; canys ymhen dwyawr neu dair gwelem greaduriaid mawr anferth (ni wyddem beth i'w galw) yn dyfod i lawr i'r traeth ac yn rhedeg i'r dŵr, yn ymdreiglo ac yn ymolchi er mwyn y pleser o ymoeri; a gwnaent y fath oernadau ac ysgrechiadau erchyll, na chlywais i yn wir erioed mo'u bath.
Yr oedd ofn dychrynllyd ar Xury, ac yn wir felly finnau hefyd; ond yr oedd arnom fwy o ofn fyth pan glywsom un o'r creaduriaid anferth hyn yn nofio at ein cwch; ni fedrem ei weld, ond clywem wrth ei chwythu ei fod yn fwystfil anferth a ffyrnig. Dywedodd Xury mai llew ydoedd, a gallai fod am ddim byd a wyddwn i; ond gwaeddai Xury druan arnaf i godi'r angor a rhwyfo ymaith.
"Na, Xury," meddwn i, "gallwn ollwng ein rhaff â bwi arni, a mynd allan i'r môr; ni fedrant mo'n dilyn ymhell."
Nid cynt y dywedais hynny nag y gwelwn y creadur o fewn dau hyd rhwyf, ac fe'm dychrynodd braidd. Fodd bynnag, cerddais yn syth at ddrws y caban, a chan godi fy ngwn, teniais arno; ar hynny trôdd yn ôl ar unwaith, a nofiodd i'r lan drachefn.
Ond amhosibl yw disgrifio'r oernadau, a'r gweiddi a'r ysgrechian erchyll a ddyrchafwyd,ar fin y traeth yn ogystal ag yn uwch i fyny yn y wlad, wrth sŵn neu ergyd y gwn,—peth na chlywsai'r creaduriaid hynny mohono erioed o'r blaen, mi dybiaf. Argyhoeddodd hyn fi nad oedd wiw i ni fynd i'r lan yn y nos ar y glannau hyn; a sut i fentro i'r lan yn y dydd oedd gwestiwn arall eto; canys buasai syrthio i ddwylo rhai o'r anwariaid, cynddrwg â syrthio i grafangau'r llewod a'r teigrod; o leiaf, yr oedd arnom gymaint o ofn y perygl hwnnw.
Bid a fynno, rhaid oedd i ni fynd i'r lan rywle neu'i gilydd am ddŵr, gan nad oedd gennym yr un peint ar ôl yn y cwch. Dywedodd Xury os gadawn i iddo fynd i'r lan gydag un o'r costrelau, y chwiliai ef a oedd yno ddŵr, a dôi â pheth i mi. Gofynnais iddo paham yr oedd ef am fynd? Paham na allwn i fynd ac yntau aros yn y cwch? Atebodd y bachgen gyda'r fath anwyldeb, nes peri i mi ei garu fyth wedyn. Meddai, Os dynion gwyllt yn dod, nhw bwyta fi, a chi mynd i ffwrdd.' Wel, Xury," meddwn innau, "fe awn ein dau; ac os daw'r dynion gwylltion fe'u lladdwn nhw, chân' nhw ddim bwyta'r un ohonom ni."
Felly rhoddais ddarn o fara caled i Xury i'w fwyta a dracht o gistan boteli ein noddwr y soniais amdani o'r blaen; a thynasom y cwch cyn nesed i'r lan ag y tybiem ni oedd yn briodol, ac aethom drwy'r dŵr i'r lan, heb ddim yn ein dwylo ond ein harfau, a dwy gostrel am ddŵr. Nid oeddwn yn caru mynd o olwg y cwch, gan ofn i fadau ag anwariaid ynddynt ddyfod i lawr yr afon; ond gan i'r bachgen weld lle isel tua milltir i fyny'r wlad, crwydrodd ato; ac yn y man gwelwn ef yn dyfod dan redeg ataf. Tybiwn y dilynid ef gan un o'r anwariaid, neu fod rhyw fwystfil gwyllt wedi ei ddychrynu, a rhedais ymlaen ato i'w gynorthwyo; ond pan ddeuthum yn nes ato, gwelwn rywbeth yn hongian dros ei ysgwydd, ryw greadur yr oedd ef wedi ei saethu, tebyg i ysgyfarnog, ond o liw gwahanol, a choesau hwy. Fodd bynnag, yr oeddem yn falch iawn ohono, ac yr oedd yn gig da iawn; ond deuai Xury druan gyda'r fath lawenydd i ddweud wrthyf ei fod wedi darganfod dŵr da, a heb weld dim dynion gwylltion.
Ond gwelsom wedyn nad oedd dim rhaid i ni boeni cymaint am ddŵr, canys ychydig yn uwch i fyny'r gilfach lle'r oeddem, canfuom fod y dŵr yn groyw pan fai'r llanw allan; felly llanwasom ein costrelau, a gwnaethom wledd o'r ysgyfarnog a laddasom, a pharatoesom fynd i ffwrdd, gan nad oeddem wedi gweld ôl traed yr un creadur o ddyn yn y rhan honno o'r wlad.
Gan i mi fod ar un fordaith i'r glannau hyn o'r blaen, gwyddwn yn eithaf da fod ynysoedd Canaries ac ynysoedd Cape de Verde heb fod nepell o'r arfordir. Ond gan nad oedd gennyf offerynnau i gael gwybod ymha ledred yr oeddem, a chan na wyddwn yn iawn ymha ledred yr oeddynt hwy, ni wyddwn ymha le i edrych amdanynt, na pha bryd i sefyll allan i'r môr i'w cyfeiriad, onidê gallaswn fod wedi taro ar rai o'r ynysoedd hyn yn awr. Ond gobeithiwn os daliwn wrth yr arfordir hwn nes i mi ddyfod i'r rhan lle'r oedd y Saeson yn masnachu, y gwelwn i rai o'u llongau hwy a'n cynorthwyai ac a'n derbyniai i mewn.
Yn ôl fy nghyfri gorau i, rhaid mai'r tir rhwng tiriogaethau Ymherawdr Morocco a'r dynion duon, ydoedd y lle yr oeddwn ynddo yn awr, lle sy'n aros yn ddiffaith a heb breswylwyr, heblaw'r bwystfilod gwylltion; gan fod y negroaid wedi troi cefn arno a mynd ymhellach i'r deau rhag ofn y Mwriaid, a'r Mwriaid heb ei ystyried yn werth i'w gyfanheddu, oherwydd ei ddiffrwythdra; ac yn wir, y naill a'r llall yn ei adael oherwydd y nifer aruthrol o deigrod, llewod, llewpartiaid, a chreaduriaid gwylltion eraill sy'n llechu yno.
Unwaith neu ddwy yn ystod y dydd tybiwn fy mod yn gweld Pico Teneriffe, sef copa Mynydd Teneriffe yn y Canaries, ac yr oedd arnaf awydd mawr mentro allan, gan obeithio cyrraedd yno; ond wedi cynnig ddwywaith, fe'm gyrrwyd i mewn eilwaith gan wyntoedd croesion, a'r môr hefyd yn codi'n rhy uchel i'm llong fach i; felly penderfynais ddilyn fy nghynllun cyntaf, a chadw wrth y lan.
Wedi aros yma am ychydig, daliasom i hwylio i'r deau am ddeng niwrnod neu ddeuddeg, gan fyw yn gynnil iawn ar ein hymborth a oedd yn dechrau mynd yn brinnach brinnach, a pheidio â mynd i'r lan yn amlach nag oedd raid am ddŵr croyw. Fy mwriad yn hyn o beth oedd cyrraedd yr afon Gambia neu Senegal,—hynny yw, rhywle o amgylch Cape de Verde—lle y gobeithiwn gyfarfod â rhyw long Ewropeaidd; ac os na wnawn i hynny, ni wyddwn pa gwrs i'w gymryd, heblaw chwilio am yr ynysoedd neu farw yno ymhlith y dynion duon. Gwyddwn fod holl longau Ewrop a hwyliai un ai i lannau Guinea neu i Frazil, neu i India'r Dwyrain, yn cyrraedd y penrhyn hwn neu'r ynysoedd hynny.
Wedi i mi ddilyn y bwriad hwn am tua deng niwrnod yn hwy, fel y dywedais, gwelwn fod y tir yn gyfannedd, ac mewn dau neu dri o leoedd, wrth i ni hwylio heibio, gwelem bobl yn sefyll ar y traeth i edrych arnom; gallem weld hefyd eu bod yn hollol ddu, ac yn noethlymun. Bu arnaf awydd mynd i'r lan atynt unwaith; ond dywedodd Xury wrthyf, "Peidio mynd, peidio mynd." Fodd bynnag, tynnais yn nes i'r lan er mwyn i mi allu siarad â hwy; a gwelwn eu bod yn rhedeg hyd y traeth wrth fy ochr am ffordd bell. Sylwais nad oedd ganddynt ddim arfau yn eu dwylo, oddieithr un oedd â ffon fain hir ganddo, a dywedai Xury mai gwaywffon ydoedd, ac y medrent anelu'n dda â hwy dros ffordd bell. Felly cedwais draw, ond siaredais â hwynt drwy arwyddion cystal ag y medrwn, ac yn enwedig gwneud arwyddion am rywbeth i'w fwyta. Gwnaethant amnaid arnaf i stopio fy nghwch, ac fe aent hwythau i nôl cig i mi. Ar hyn gollyngais flaen fy hwyl i lawr, ac arhosais, a rhedodd dau ohonynt i fyny i'r wlad, ac ymhen llai na hanner awr daethant yn ôl, a dwyn dau ddarn o gig wedi ei sychu ac ŷd gyda hwynt, y cyfryw ag sy'n gynnyrch eu gwlad hwy; ond ni wyddem ni beth oedd na'r naill na'r llall. Fodd bynnag, yr oeddem yn fodlon i'w dderbyn; ond sut i ddyfod ato oedd ein dadl nesaf, canys nid oeddwn i am fentro i'r lan atynt hwy, ac yr oedd arnynt hwythau gymaint o'n hofn ninnau; ond cymerasant ffordd ddiogel i bawb ohonom, gan iddynt ddyfod ag ef i'r traeth a'i roi ar lawr a mynd ymaith, a sefyll ymhell i ffwrdd nes i ni ei nôl ar y bwrdd, ac yna daethant yn agos atom drachefn.
Gwnaethom arwyddion diolch iddynt, gan nad oedd gennym ddim i'w roi'n dâl iddynt. Ond daeth cyfle y munud hwnnw i'w boddhau yn anghyffredin; canys tra'r oeddem yn aros wrth y lan, daeth dau greadur enfawr, y naill yn dilyn y llall yn ffyrnig iawn, o'r mynyddoedd tua'r môr; a gwelem fod ar y bobl ofn arswydus, yn enwedig y merched. Ni ffôdd y gŵr â'r waywffon neu'r bicell rhagddynt, ond fe wnaeth y gweddill. Fodd bynnag, gan i'r ddau greadur redeg ar eu hunion i'r dŵr, nid ymddangosent fel pe baent am gynnig disgyn ar ddim un o'r negroaid, ond ymdrochasant yn y môr a nofiasant o amgylch fel pe baent wedi dyfod yno i'w mwynhau eu hunain. O'r diwedd, dechreuodd un ohonynt ddyfod yn nes i'n cwch ni nag y disgwyliem ar y cyntaf; ond yr oeddwn yn barod amdano, gan fy mod wedi rhoi ergyd yn fy ngwn gyda'r brys mwyaf, a pheri i Xury roi ergydion yn y ddau arall. Cyn gynted ag y daeth yn weddol o fewn fy nghyrraedd, teniais a saethais ef yn union yn ei ben; suddodd i lawr ar unwaith i'r dŵr, ond cododd mewn munud a neidiodd i fyny ac i lawr fel pe bai'n ymladd am ei fywyd, ac felly, yn wir, yr oedd. Unionodd am y lan ar unwaith; ond rhwng y clwyf a oedd yn niwed angheuol iddo, a'r dŵr yn ei dagu, bu farw ychydig cyn iddo gyrraedd y lan.
Amhosibl yw disgrifio syndod y creaduriaid truain hyn at sŵn a thân fy ngwn i; yr oedd rhai ohonynt bron marw gan ofn, a syrthiasant i lawr fel yn farw gan ddim ond arswyd. Ond pan welsant y creadur wedi marw ac wedi suddo yn y dŵr, a'm bod innau yn gwneud arwyddion arnynt i ddyfod i'r traeth codasant eu calonnau a daethant i'r traeth, a dechreuasant chwilio am y creadur. Deuthum o hyd iddo trwy fod ei waed yn ystaenio'r dŵr, a thrwy gymorth rhaff a deflais am dano, a'i rhoi i'r negroaid i'w thynnu, llusgasant ef i'r traeth, a gwelsant mai llewpart hynod iawn ydoedd, ac ysmotiau arno; a chodai'r negroaid eu dwylo mewn edmygedd wrth ystyried â pha beth yr oeddwn wedi ei ladd.
Wedi ei ddychrynu gan fflach y tân a sŵn y gwn, nofiodd y creadur arall i'r lan, a rhedodd ar ei union i'r mynyddoedd o'r lle y daethent; ac o'r pellter hwnnw ni allwn wybod beth ydoedd. Sylwais yn fuan fod y negroaid am fwyta cig y creadur hwn, ac yr oeddwn yn fodlon iddynt ei gael fel ffafr gennyf; a phan wneuthum arwyddion arnynt y gallent ei gael yr oeddent yn ddiolchgar dros ben am dano. Dechreuasant weithio arno ar unwaith; ac er nad oedd ganddynt yr un gyllell, eto, gyda darn o bren miniog, tynasant ei groen cyn gynted, ac yn gynt o lawer, nag y medrem ni â chyllell. Cynigiasant beth o'r cig i mi, yr hyn a wrthodais; ond gwneuthum arwyddion am y croen, a rhoesant ef i mi yn barod iawn, a daethant â chryn lawer yn rhagor o fwyd i mi. Yna gwneuthum arwyddion arnynt am ddŵr, a deliais allan un o'm costrelau iddynt, gan ei throi â'i gwaelod i fyny i ddangos ei bod yn wag a bod arnaf eisiau ei llenwi. Galwasant yn ddioed ar rai o'u cyfeillion, a daeth dwy wraig yno gan ddwyn llestr pridd mawr, wedi ei grasu yn yr haul mae'n debyg. Rhoesant hwn ar lawr i mi fel o'r blaen, ac anfonais Xury i'r lan gyda'm costrelau, a llanwodd y tair.
Yr oedd gennyf yn awr wreiddiau, ac ŷd o ryw fath, a dŵr; a chan adael y negroaid cyfeillgar, euthum ymlaen am tuag un dydd ar ddeg arall, heb gynnig mynd yn agos i'r lan, hyd nes y gwelwn tir yn rhedeg allan ymhell i'r môr, pellter o tua phedair neu bum milltir o'm blaen; a chan fod y môr yn dawel iawn, cedwais allan ymhell er mwyn cyrraedd y pwynt hwn. O'r diwedd, wrth fynd heibio i'r trwyn, tua dwy filltir o'r tir, gwelwn dir yn eglur ar yr ochr arall yng nghyfeiriad y môr; yna cesglais mai hwn ydoedd Cape de Verde, ac mai y rheini oedd yr ynysoedd a elwir oherwydd hynny yn Ynysoedd Cape de Verde. Fodd bynnag, yr oeddynt ymhell iawn, ac ni wyddwn yn iawn beth oedd orau i mi ei wneud, canys pe'm delid gan awel o wynt efallai na chyrhaeddwn i mo'r naill na'r llall.
Yng nghanol y benbleth hon, gan fy mod yn drist iawn, cerddais i'r caban ac eisteddais i lawr, a gadael Xury wrth y llyw; ac yn sydyn dyma'r bachgen yn gweiddi, Meistr, meistr, llong â hwyliau arni!" ac 'roedd y bachgen druan allan o'i bwyll gan ofn, yn meddwl mai un o longau ei feistr ydoedd, wedi ei gyrru ar ein holau, a minnau'n gwybod ein bod wedi mynd yn ddigon pell o'u gafael. Neidiais allan o'r caban a gwelwn ar unwaith, nid yn unig y llong, ond beth ydoedd, sef, mai llong Bortugeaidd ydoedd, ac, fel y tybiwn i, yn rhwym i lannau Guinea am negroaid.
Hyd yn oed â hwyliau llawn, gwelwn na fedrwn ddyfod i'w ffordd, a byddent wedi mynd heibio cyn y gallwn wneud yr un arwydd iddynt; ond wedi i mi gasglu pob cerpyn oedd gennyf, ac yn dechrau digalonni, gwelsant fi, mae'n debyg, gyda'u sbienddrychau, ac mai cwch Ewropeaidd ydoedd, yn perthyn fel y tybient hwy, i ryw long oedd wedi colli, a rhoesant lai o hwyliau er mwyn i mi eu dal, ac ymhen tua theirawr deuthum atynt.
Gofynasant i mi beth oeddwn, mewn Portugaeg, Ysbaeneg a Ffrangeg, ond ni ddeallwn ddim arnynt. O'r diwedd galwodd llongwr Ysgotaidd arnaf, ac atebais ef mai Sais oeddwn, a'm bod wedi dianc o gaethiwed oddiar y Mwriaid yn Sallee. Yna parasant i mi ddyfod ar y bwrdd, ac yn garedig iawn cymerasant fi a'm celfi i gyd i mewn.
Yr oedd yn llawenydd anhraethol i mi fy mod wedi fy ngwaredu fel hyn o'r cyflwr truenus ac anobeithiol yr oeddwn ynddo; ac yn ddioed cynigiais bopeth oedd gennyf i gapten y llong fel tâl am fy ngwaredigaeth. Ond bu'n ddigon hael i ddweud wrthyf na chymerai ef ddim byd gennyf, ond fe drosglwyddid i mi bopeth oedd gennyf pan gyrhaeddwn y Brazils.

Ni fedrwn ymryddhau o'r tonnau.
(Gwel tud. 42).
PENNOD IV.
SEFYDLU YN Y BRAZILS—MYND AR FORDAITH ARALL—LLONGDDRYLLIAD.
GORCHMYNNODD y capten nad oedd neb i gyffwrdd â dim byd oedd gennyf; yna cymerodd y cwbl i'w feddiant ei hun, a rhoddodd restr gyflawn i mi ohonynt, fel y cawn hwynt yn ôl,—hyd yn oed fy nhair costrel bridd.
Gyda golwg ar fy nghwch, yr oedd yn un da iawn, a gwelodd yntau hynny, a dywedodd wrthyf y buasai yn ei brynu; a gofynnodd i mi faint oedd arnaf ei eisiau am dano. Dywedais wrtho ei fod wedi bod mor haelfrydig wrthyf ym mhopeth na fedrwn i ddim cynnig rhoi pris yn y byd ar y cwch ond ei adael yn gyfangwbl iddo ef. Ar hynny dywedodd wrthyf y rhoddai ef i mi bedwar ugain o ddarnau wyth am dano ym Mrazil. Cynigiodd i mi hefyd drigain o ddarnau wyth[2] yn rhagor am fy machgen Xury, ac yr oedd yn ddrwg gennyf eu cymryd; nid am nad oeddwn yn fodlon i'r capten ei gael, ond yr oedd yn anodd iawn gennyf werthu rhyddid y bachgen a'm cynorthwyasai mor ffyddlon i ennill fy rhyddid fy hun. Fodd bynnag, pan ddywedais fy rheswm wrtho, cyfaddefai ei fod yn deg, a chynigiodd i mi y buasai'n ymrwymo i ryddhau'r bachgen ymhen deng mlynedd os deuai'n Gristion. Ar hyn, a Xury yntau yn dweud ei fod yn fodlon mynd ato, gadewais i'r capten ei gael.
Cawsom fordaith dda iawn i Frazil, a chyraeddasom Fae de Todos los Santos, neu Fae'r Holl Seintiau, ymhen tua dau ddiwrnod ar hugain wedyn. Ac yn awr yr oeddwn unwaith eto wedi fy ngwaredu o un o'r cyflyrau mwyaf truenus mewn bywyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ystyried beth i'w wneud nesaf â mi fy hun.
Ni allaf fyth gofio digon am ymddygiad haelfrydig y capten tuag ataf. Ni chymerai ddim gennyf am fy nghludo; rhoddodd ugain ducat[3] i mi am groen y llewpart a deugain am groen y llew oedd gennyf yn y cwch, a pharodd drosglwyddo popeth oedd yn y cwch i mi ar unwaith; a'r pethau yr oeddwn yn barod i'w gwerthu fe'u prynodd, megis y gistan boteli, dau o'm gynnau, a darn o'r telpyn cŵyr melyn, gan fy mod wedi gwneud canhwyllau o'r gweddill; mewn gair, gwneuthum tua 220 o ddarnau wyth o'm cargo gyd, ac â'r stoc hon fe euthum i'r lan yn y Brazils.
Nid oeddwn wedi bod yno yn hir iawn cyn dyfod i adnabod teulu rhyw ŵr da ac onest, a chanddo ingeino fel y galwant hwy hi, sef yw hynny, planhigfa a thy siwgr. Bûm yn byw gydag ef am beth amser, ac felly deuthum yn gyfarwydd â'r dull o blannu a gwneuthur siwgr; ac wrth weld mor dda yr oedd y planwyr yn byw, ac fel yr ymgyfoethogent yn gyflym, penderfynais os medrwn gael trwydded i sefydlu yno, y trown innau'n blannwr yn eu plith, gan benderfynu yn y cyfamser geisio darganfod ffordd y gellid anfon i mi yr arian a adawswn yn Llundain. I'r diben hwn, wedi derbyn math o lythyr rhyddfreiniad prynais gymaint o dir heb ei drin ag a gyrhaeddai fy arian, a lluniais gynllun i'm planhigfa a'm preswylfod.
Yr oedd gennyf gymydog, Portugead o Lisbon, ond â'i rieni'n Saeson, a'i enw Wells, ac mewn amgylchiadau tebyg iawn i minnau. Galwaf ef yn gymydog am fod ei blanhigfa y nesaf at fy un i, ac yr oeddem yn gyfeillgar iawn â'n gilydd. Nid oedd fy stoc i ond isel, fel yr eiddo yntau, a phlanasom er mwyn y bwyd yn fwy na dim arall am tua dwy flynedd. Fodd bynnag, dechreuasom fynd ar gynnydd, a dechreuodd ein tir ddyfod i drefn; a'r drydedd flwyddyn planhasom dybaco, a darparodd pob un ohonom ddarn mawr o dir i blannu cyrs y flwyddyn wedyn. Ond yr oedd arnom eisiau help ein dau; a chanfyddwn yn awr, yn fwy nag o'r blaen, fy mod wedi gwneud camgymeriad wrth ymadael â'm bachgen Xury.
Yr oeddwn wedi gwneud trefniadau ynglŷn â'r blanhigfa i ryw raddau, cyn i'm cyfaill caredig, y capten, ddychwelyd; canys bu'r llong yno am dri mis bron. Pan ddywedais wrtho am y stoc fechan a adawswn ar ôl yn Llundain, rhoddodd i mi'r cyngor caredig a ganlyn: "Os rhowch chwi lythyrau i mi, a gorchymyn i'r person y mae eich arian ganddi yn Llundain anfon eich eiddo i Lisbon, i bersonau a nodir gennyf fi, ac mewn nwyddau priodol i'r wlad hon, dygaf y pethau i chwi pan ddychwelaf, os Duw a'i myn. Ond ni chynghorwn i chwi yrru am ddim ond canpunt, sef hanner eich stoc, ac os daw yn ddiogel, gellwch yrru am y gweddill yn yr un modd."
Yr oedd hwn yn gyngor mor dda, fel yr argyhoeddwyd fi mai dyma'r cwrs gorau i'w gymryd; felly darperais lythyrau i'r foneddiges y gadawswn fy arian gyda hi. A phan ddaeth y capten onest hwn i Lisbon, darganfu ffordd, drwy rai o'r masnachwyr Seisnig oedd yno, i yrru drosodd nid yr archeb yn unig, ond hefyd adroddiad cyflawn o'm hanes i fasnachwr yn Llundain, yr hwn a'i hadroddodd yn llawn iddi hithau. Ar hynny, gyrrodd hithau, nid yn unig yr arian, ond anfonodd hefyd o'i phoced ei hun anrheg hael i'r capten am ei diriondeb a'i garedigrwydd tuag ataf. Ac wedi i'r masnachwr yn Llundain brynu gwerth canpunt o nwyddau, y cyfryw ag yr ysgrifenasai'r capten amdanynt, anfonodd hwynt ar eu hunion iddo i Lisbon, a dug yntau'r cwbl yn ddiogel i mi i'r Brazils.
Pan gyrhaeddodd y cargo hwn, tybiwn fy mod wedi gwneud fy ffortiwn. Heblaw hyn, yr oedd y capten wedi dyfod â gwas i mi, ac ni chymerai ddim cydnabyddiaeth amdano, oddieithr ychydig dybaco. Ac nid dyna'r cwbl, ond gan fod fy nwyddau yn bethau hynod werthfawr yn y wlad honno, llwyddais i'w gwerthu er mantais fawr i mi; a gallaf ddweud i mi dderbyn mwy na'u gwerth bedair gwaith, ac yr oeddwn yn awr ymhell tuhwnt i'm cymydog druan, hynny yw, ynglŷn â chynnydd fy mhlanhigfa; canys y peth cyntaf a wneuthum ydoedd prynu caethwas o negro, a gwas Ewropeaidd hefyd, sef, un arall heblaw'r un a ddug y capten i mi o Lisbon.
Wedi byw am bedair blynedd bron yn y Brazils, a dechrau ffynnu a llwyddo yn lled dda ar fy mhlanhigfa, yr oeddwn nid yn unig wedi dysgu'r iaith, ond wedi ennill cydnabod a chyfeillgarwch ymhlith fy nghyd-blanwyr yn ogystal ag ymysg y masnachwyr yn St. Salvador ein porthladd ni, ac yn fy ymddiddanion â hwynt yr oeddwn yn fynych wedi adrodd yr hanes wrthynt am fy nwy fordaith i lannau Guinea, y dull o fasnachu â'r negroaid yno, ac mor hawdd oedd prynu ar y glannau am ryw fân bethau,—megis gleiniau, teganau, cyllyll, sisyrnau, bwyeill, darnau o wydr, a phethau o'r fath, nid yn unig lwch aur, grawn Guinea, dannedd cawrfilod, etc., ond negroaid i wasanaethu'r Brazils yn niferoedd mawrion.
Gwrandawent yn astud iawn bob amser ar fy areithiau ar y pennau hyn, ond yn arbennig ar y rhan honno oedd yn sôn am brynu negroaid, masnach na wneid mohoni i raddau mawr y pryd hwnnw, ond cyn belled ag y gwneid hi, dygasid hi ymlaen trwy assiento, neu ganiatâd brenhinoedd Ysbaen a Phortugal; fel na phrynid ond ychydig Negroaid, a'r rheini yn eithafol o ddrud.
Wedi bod yng nghwmni rhai masnachwyr a phlanwyr o'm cydnabod, a siarad yn frwd anghyffredin am y pethau hynny, digwyddodd tri ohonynt ddyfod ataf fore trannoeth, a dywedasant wrthyf eu bod wedi bod yn meddwl yn ddwys am y peth y soniaswn amdano wrthynt y noson cynt, ac yr oeddynt wedi dyfod i wneud cynnig cyfrinachol i mi. Ac ar ol fy rhybuddio i gadw'r gyfrinach, dywedasant wrthyf fod arnynt awydd trefnu llong i fynd i Guinea; fod ganddynt hwythau i gyd blanigfeydd fel finnau, ac nad oedd dim yn cyfyngu mwy arnynt na'r angen am weision; ond gan ei bod yn fasnach na ellid parhau ynddi oherwydd na allent werthu'r negroaid ar goedd ar ôl dyfod adref, felly nid oeddynt am wneud dim ond un fordaith, a dwyn y negroaid i'r lan yn ddirgel a'u rhannu ymysg eu planigfeydd eu hunain; ac mewn gair, y cwestiwn oedd, a awn i yn y llong fel goruchwyliwr iddynt i drefnu'r rhan fasnachol ar lannau Guinea; a chynigient i mi y cawn innau ran gyfartal o'r Negroaid heb i mi gyfrannu dim at y stoc.
Ni fedrwn wrthod y cynnig hwn mwy nag y medrwn wrthwynebu fy nhueddiadau cyntaf grwydro pan wrthodais gynghorion da fy nhad. Mewn gair, dywedais y byddai'n dda o galon gennyf fynd, os ymgymerent hwy â gofalu am fy mhlanhigfa yn fy absenoldeb, a'i gwerthu yn ôl fy nghyfarwyddyd i os awn i ar goll. Ymrwymodd y cwbl i wneuthur hyn, a gwneuthum innau ewyllys ffurfiol yn trefnu ynglŷn â'm planhigfa a'm heiddo os byddwn farw; gan wneuthur capten y llong a achubasai fy mywyd yn unig etifedd i mi; ond gan ei rwymo i werthu fy mhethau fel y gorchmynnwn i yn fy ewyllys; hanner yr elw i fod yn eiddo iddo ef, a'r llall i'w yrru mewn llong i Loegr.
Wedi paratoi'r llong a threfnu'r cargo, a phopeth wedi ei wneud megis trwy gytundeb gan fy mhartneriaid yn y fordaith, euthum ar y bwrdd ar awr ddrwg eto, y cyntaf o Fedi, 1659, wyth mlynedd i'r dydd yr euthum oddi wrth fy nhad a'm mam yn Hull, er mwyn actio'r gwrthryfelwr yn erbyn eu hawdurdod hwy, a'r ffŵl er fy lles fy hun.
Tua 120 tunnell ydoedd llwyth ein llong; cariai chwe gwn a phedwar ar ddeg o ddynion, heblaw'r meistr, ei fachgen, a minnau. Y diwrnod yr euthum ar y bwrdd, hwyliasom ymaith gan ddal i'r gogledd ar hyd y glannau. Cawsom dywydd da iawn, ond ei bod yn boeth anghyffredin ar hyd ein harfordir ni hyd nes y daethom i olwg Cape St. Augustino, lle y collasom olwg ar y tir wrth ddal allan i'r môr a hwylio fel pe baem yn rhwym am Ynys Fernando de Noronha. Ar y cwrs yma aethom dros y Llinell ymhen tua deuddeng niwrnod, ac yr oeddem 7 gradd a 22 munud yn lledred y gogledd, pan ddaeth tornado neu gorwynt dychrynllyd ar ein gwarthaf yn hollol ddiarwybod i ni. Dechreuodd o'r de-ddwyrain, trôdd wedyn i'r gogledd-orllewin, ac yna arhosodd yn y gogledd-ddwyrain, o'r lle y chwythodd mewn modd mor arswydus ag na allem wneud dim am ddeuddeng niwrnod ond gyrru, a chan redeg i ffwrdd o'i flaen, gadael iddo ein cludo lle y mynnai ffawd a chynddaredd y gwyntoedd; ac yn ystod y deuddeng niwrnod hyn, nid rhaid i mi ddim dweud fy mod yn disgwyl cael fy llyncu beunydd, ac yn wir nid oedd neb yn y llong yn disgwyl yr achubid eu bywydau.
Yn yr helynt hwn, bu farw un o'n dynion drwy'r dwymyn, a golchwyd dros y bwrdd un dyn a'r bachgen. Tua'r deuddegfed dydd, wedi i'r tywydd liniaru ychydig, archwiliodd y meistr orau y medrai a chanfu ei fod tuag un radd ar ddeg yn lledred y gogledd, ond ei fod tua dwy radd ar hugain yn fwy i'r gorllewin o Cape St. Augustino. Canfu felly ei fod wedi cyrraedd arfordir Guiana, neu ogleddbarth Brazil, tu draw i afon Amazon, i gyfeiriad afon Orinoco a elwir yn gyffredin Yr Afon Fawr; a dechreuodd ymgynghori â mi ar ba gwrs i'w gymryd, gan fod y llong yn gollwng dŵr ac wedi ei niweidio yn bur ddrwg, ac yr oedd am fynd yn ôl ar ei union i lannau Brazil.
Gwrthwynebwn hynny yn bendant; ac wrth edrych dros siartiau glannau America gydag ef, barnasom nad oedd yr un wlad gyfannedd i ni i gyrchu amdani nes dyfod i gylch Ynysoedd Carribee ac felly penderfynasom sefyll allan i gyfeiriad Barbadoes. Wrth gadw allan i'r môr, osgoi tynfa Bae Mexico gobeithiem gyrraedd yno wedi hwylio am tua phymtheng niwrnod, gan na fedrem byth wneud y fordaith i arfordir Affrica heb rywfaint o gymorth i'r llong yn ogystal ag ni ein hunain.
Gyda'r bwriad hwn newidiasom ein cwrs, a hwyliasom i'r Gogledd-Orllewin, er mwyn cyrraedd rhai o'r Ynysoedd Seisnig, lle y disgwyliwn ymwared; ond a ninnau yn lledred 12 gradd 18 munud, daeth ail storm ar ein gwarthaf a'n cludodd tua'r gorllewin gyda'r un angerdd, ac fe'n gyrrodd cyn belled oddiwrth bob trafnidaeth ddynol, fel yr oeddem mewn perygl cael ein difa gan anwariaid yn hytrach na dychwelyd byth i'n gwlad ein hun, hyd yn oed pe gwaredid ein bywydau rhag y môr.
Yn yr helynt hwn, a'r gwynt eto yn chwythu yn lled gryf, yn gynnar yn y bore dyma un o'n dynion yn gweiddi "Tir!" a chyn gynted â'n bod wedi rhedeg allan o'r caban gan ddisgwyl gweld ymhle yn y byd yr oeddem, dyma'r llong yn taro ar y tywod, ac mewn munud dyna'r môr yn torri drosti yn y fath fodd nes peri i ni i gyd feddwl ei bod wedi darfod amdanom ar unwaith; ac fe'n gyrrwyd i gyd i'n llochesau i ymguddio rhag ewyn a throchion y môr.
Gan fod y llong wedi taro ar y tywod, ac wedi glynu gormod i ni i feddwl ei chael ymaith, yr oeddem mewn cyflwr difrifol iawn, ac nid oedd dim i'w wneud ond ceisio achub ein bywydau orau y medrem. Yr oedd gennym gwch wrth starn ychydig cyn y storm, ond fe'i torrwyd ddechrau trwy iddo guro yn erbyn llyw'r llong, ac wedyn torrodd yn rhydd, ac un ai fe suddodd neu ynteu fe'i gyrrwyd allan i'r môr, fel nad oedd dim gobaith amdano. Yr oedd gennym gwch arall ar y bwrdd, ond yr oedd yn amheus a ellid ei gael allan i'r môr. Fodd bynnag nid oedd dim amser i amau, gan y tybiem y torrai'r llong yn ddarnau bob munud, a dywedai rhywrai ei bod eisoes wedi torri.
Yn yr helbul hwn, cydiodd mêt y llong yn y cwch, a chyda help y gweddill o'r dynion, taflasant ef dros ochr y llong; a chan fynd iddo i gyd, gollyngasom ef yn rhydd, ac fe'n bwriasom ein hunain (un ar ddeg mewn nifer) ar drugaredd Duw a'r môr gwyllt. Canys er bod y storm wedi gostegu cryn lawer, eto codai'r môr yn uchel ddychrynllyd ar y traeth, a gellid yn hawdd ei alw den wild zee, fel y geilw'r Isalmaenwyr y môr mewn storm.
Wedi i ni rwyfo, neu yrru yn hytrach, tua milltir a hanner, cododd ton gynddeiriog, fel mynydd, o'r tu ôl i ni, ac fe'n trawodd gyda'r fath gynddaredd nes dymchwelyd y cwch ar unwaith, a chan ein gwahanu oddiwrth y cwch yn ogystal ag oddiwrth ein gilydd, ni roddodd i ni bron ddigon o amser i ddweud "O Dduw," canys fe'n llyncwyd oll mewn munud.
Ni all dim ddisgrifio'r dryswch meddwl a deimlwn pan suddais i'r dŵr; canys er y gallwn nofio yn lled dda, eto ni fedrwn ymryddhau o'r tonnau er mwyn cael fy anadl, nes i'r don honno wedi iddi fy ngyrru, neu fy nghario yn hytrach, fynd yn ôl, a'm gadael ar dir sych bron, eithr yn hanner marw gan y dŵr yr oeddwn wedi ei lyncu. Yr oedd gennyf ddigon o barodrwydd meddwl yn ogystal ag o anadl ar ôl, fel, wrth fy ngweld fy hun yn nes i'r tir mawr nag y disgwyliwn, y codais ar fy nhraed a cheisiais gyrchu i'r tir cyn gynted ag y medrwn cyn i don arall ddychwelyd a'm codi eilwaith. Ond gwelais yn bur fuan mai amhosibl oedd ei hosgoi; canys gwelwn y môr yn fy nilyn cyn uched â bryn mawr, ac mor ffyrnig â gelyn nad oedd gennyf na modd na nerth i ymladd yn ei erbyn. Fy ngwaith i oedd dal fy anadl, a'm codi fy hunan ar y dŵr os medrwn; a'm pryder pennaf yn awr oedd y byddai i'r don wrth iddi fy nghludo ymhell tua'r lan pan ddeuai ymlaen, fy nghludo'n ôl drachefn pan giliai i gyfeiriad y môr.
Bu i'r don a ddaeth ar fy ngwarthaf drachefn fy nghladdu ar unwaith tuag ugain neu ddeg troedfedd ar hugain yn ei chrombil, ac fe'm clywn fy hun yn cael fy nghario gyda grym a chyflymdra aruthrol tua'r lan am ffordd bell; ond deliais fy anadl, a cheisiais nofio ymlaen gyda'm holl nerth. Yr oeddwn bron a hollti wrth ddal fy ngwynt, pan glywn fy mhen a'm dwylo yn saethu ymlaen dros wyneb y dŵr, ac er na fedrwn fy nal fy hun felly am ddau eiliad, eto cefais beth anadl a dewrder newydd. Fe'm gorchuddiwyd eilwaith â dŵr am gryn amser, ond nid yn rhy hir i mi fedru dal; ac wrth weld y dŵr yn dechrau cilio, gwthiais ymlaen yn erbyn y tonnau a theimlwn y tir â'm traed drachefn. Sefais yn llonydd am ychydig funudau i ennill fy anadl nes i'r dŵr gilio oddiwrthyf, yna sodlais hi a rhedais gyda hynny o nerth oedd gennyf i gyfeiriad y lan. Ond ni wnâi hyn ychwaith fy ngwaredu rhag cynddaredd y môr a ymarllwysai arnaf unwaith yn rhagor, ac fe'm codwyd ddwywaith drachefn gan y tonnau, ac fe'm cludwyd ymlaen fel cynt, gan fod y traeth yn lled wastaď.
Bu'r tro olaf o'r ddau bron yn angau i mi; gan i'r môr fy nhaflu yn erbyn darn o graig, a hynny gyda'r fath rym nes fy ngwneud yn hurt ac yn hollol ddiymadferth i'm gwaredu fy hun; a chan i'r ergyd wrth daro fy ystlys a'm mynwes guro'r anadl bron i gyd o'm corff; a phe buasai wedi dychwelyd ar unwaith, buaswn wedi fy nhagu yn y dŵr. Ond dadebrais ychydig cyn i'r tonnau ddychwelyd, ac wrth weld y cuddid fi eto â'r dŵr, penderfynais ddal gafael mewn darn o graig, a dal fy anadl felly os medrwn, nes i'r don gilio. Gan nad oedd y tonnau cyfuwch ag oeddynt ar y cyntaf, deliais fy ngafael nes i'r don dawelu, ac yna cymerais râs arall, a'm dug mor agos i'r lan, fel na wnaeth y don nesaf mo'm llyncu nes fy nghludo ymaith; a'r râs nesaf a gymerais, cyrhaeddais y tir mawr, lle y dringais fyny allt y môr ac eisteddais ar y glaswellt, yn rhydd o bob perygl ac yn hollol glir o afael y dŵr.
Yr oeddwn yn awr yn ddiogel ar y lan, a dechreuais edrych i fyny a diolch i Dduw fod fy mywyd wedi ei arbed er nad oedd ond ychydig obaith am hynny ychydig funudau ynghynt. Cerddais o amgylch ar hyd y traeth, gan godi fy nwylo a gwneud miloedd o ystumiau ac ysgogiadau na fedraf eu disgrifio, a meddwl am fy holl gymdeithion oedd wedi boddi heb ddim enaid wedi ei achub heblaw fi; canys, gyda golwg arnynt hwy, ni welais mohonynt wedyn na'r un arwydd ohonynt, dim ond tair o'u hetiau, un cap, a dwy esgid heb fod yn gymheiriaid.
Yna dechreuais edrych o'm cwmpas i weld ymha fath le yr oeddwn, a beth oedd i'w wneud nesaf, a gwelwn fy mod wedi cael gwaredigaeth ofnadwy, canys yr oeddwn yn wlyb, heb ddim dillad i'w newid, na dim byd i'w fwyta nac i'w yfed i'm cysuro; ni welwn ychwaith ddim rhagolygon o'm blaen heblaw marw o newyn neu fy nifa gan fwystfilod rheibus; a'r peth oedd yn peri trallod arbennig i mi oedd, nad oedd gennyf yr un arf i hela a lladd rhyw greadur yn gynhaliaeth i mi, neu i'm hamddiffyn fy hun rhag un o'r creaduriaid a fynnai fy lladd yn fwyd. Mewn gair, nid oedd gennyf ddim byd ond cyllell, pibell, ac ychydig dybaco mewn blwch. Dyma'r unig ddarpariaeth oedd gennyf, a pharodd hyn boen meddwl arswydus i mi, fel y rhedwn oddi amgylch fel gwallgofddyn am beth amser. Ac wrth i'r nos ddynesu, gyda chalon drom, dechreuais feddwl beth fyddai fy nhynged os oedd bwystfilod rheibus yn y wlad honno. Yr unig ymwared a ymgynigiai ei hun i'm meddwl ar y pryd oedd dringo i goeden frigog dew a dyfai yn fy ymyl, lle y penderfynais gysgu drwy'r nos. Cerddais tua milltir o'r traeth i edrych a gawn i ddŵr croyw i'w yfed, ac er llawenydd i mi fe gefais beth; ac wedi yfed a rhoi ychydig dybaco yn fy ngheg i dorri fy newyn, euthum at y goeden, a chan ddringo iddi ceisiais fy ngosod fy hun fel na syrthiwn pe digwyddwn gysgu, ac wedi torri math o bastwn byr i'm hamddiffyn fy hun, yno y lletyais; a chan fy mod wedi blino yn anghyffredin, cysgais yn drwm ac mor gysurus mi gredaf ag y gwnâi nemor neb yn y cyflwr yr oeddwn i ynddo.
PENNOD V.
ROBINSON YN EI GANFOD EI HUN AR YNYS UNIG—CAEL STOC O
BETHAU O'R LLONG—CODI EI BRESWYLFOD.
PAN ddeffroais yr oedd yn ddydd golau, y tywydd yn glir, a'r storm wedi gostegu, fel nad oedd y môr ddim yn terfysgu ac yn ymchwyddo fel o'r blaen. Ond y peth a'm synnodd fwyaf ydoedd y llong wedi ei chodi yn y nos gan ymchwydd y llanw o'r tywod lle y gorweddai, ac wedi ei gyrru bron cyn belled â'r graig y cyfeiriais ati ar y cyntaf lle yr anafwyd fi drwy fy lluchio yn ei herbyn. Gan fod hyn tua milltir o'r lle yr oeddwn i, a'r llong yn ymddangos yn ei sefyll hyd yn hyn, caraswn fod ar y bwrdd er mwyn cael rhai pethau yr oedd eu hangen arnaf.
Pan ddeuthum i lawr o'm llety yn y goeden, edrychais o'm hamgylch drachefn, a'r peth cyntaf a welais oedd y cwch a orweddai fel y taflasai'r gwynt a'r môr ef ar y tir, tua dwy filltir ar y dde i mi. Cerddais cyn belled ag y medrwn ar hyd y traeth i geisio cyrraedd ato, ond gwelwn fod gwddf o ddŵr tua hanner milltir o led rhyngof a'r cwch; felly euthum yn ol, gan fy mod â'm bryd yn fwy ar gyrraedd y llong lle y gobeithiwn ddyfod o hyd i rywbeth at fy nghynhaliaeth.
Ychydig wedi canol dydd, gwelwn fod y môr yn dawel iawn, a bod y trai'n ddigon pell allan i mi fedru dyfod o fewn chwarter milltir i'r llong; ac yma adnewyddwyd fy ngalar, gan y gwelwn yn eglur y buasem yn ddiogel i gyd pe buasem wedi aros ar y bwrdd, ac ni fuaswn innau mor anffodus â bod wedi fy ngadael yn hollol amddifad o bob cysur a chwmni fel yr oeddwn yn awr. Tynnodd hyn ddagrau o'm llygaid drachefn; ond gan mai ychydig iawn o ollyngdod oedd yn hynny, penderfynais fynd i'r llong, os oedd yn bosibl; felly tynnais fy nillad (gan fod y tywydd yn boeth i'r eithaf) ac euthum i'r dŵr. Ond pan ddeuthum at y llong, yr oedd yn anos fyth gwybod sut i fynd ar y bwrdd, canys gan ei bod ar lawr, ac yn uchel o'r dŵr, nid oedd dim o fewn fy nghyrraedd i mi gael gafael ynddo. Nofiais o'i hamgylch ddwywaith, a'r ail dro gwelwn bwt bach o raff yn hongian i lawr wrth y cadwyni blaen mor isel fel y llwyddais gydio ynddo gyda chryn lawer o anhawster, a thrwy gymorth y rhaff honno euthum i fyny i fforcasl y llong. Yma gwelwn fod y llong wedi ei tholcio, a bod cryn lawer o ddŵr yn yr howld, ond ei bod yn gorwedd ar ochr banc o dywod caled nes yr oedd ei starn wedi ei godi'n uchel ar y banc, a'i phen yn isel bron i'r dŵr. Felly yr oedd ei chwarter i gyd yn rhydd, ac yr oedd popeth oedd yn y rhan honno yn sych; oblegid gellwch fod yn sicr mai fy ngwaith cyntaf oedd chwilio ac edrych beth oedd wedi ei ddifetha a beth oedd yn rhydd. A chanfûm i ddechrau fod hynny o fwyd oedd yn y llong yn sych a heb ei gyffwrdd gan y dŵr; a chan fy mod yn chwannog iawn i fwyta euthum i'r lle cadw bara a llenwais fy mhocedi â chacennau, a'u bwyta wrth fynd am bethau eraill, gan nad oedd gennyf ddim amser i'w golli. Cefais dipyn o rum hefyd yn y caban mawr, a chymerais lymaid da ohono i godi f'ysbryd at yr hyn oedd o'm blaen. Yn awr nid oedd arnaf eisiau dim byd ond cwch i'm helpu fy hun â llawer o bethau y byddai arnaf angen mawr amdanynt.
Ofer ydoedd eistedd i lawr yn llonydd a chwenychu peth na ellid mo'i gael, a deffrôdd y cyfyngder hwn fy ymdrech. Yr oedd gennym yn y llong amryw iardiau sbâr, a dau neu dri darn mawr o bren, a brigyn mast neu ddau. Penderfynais ddechrau gweithio â'r rhain, a theflais gymaint ag a allwn ohonynt dros y bwrdd, gan rwymo pob un â rhaff rhag iddynt redeg ymaith. Wedi gwneud hyn euthum i lawr hyd ochr y llong, a chan eu tynnu ataf, clymais bedwar ohonynt ynghyd wrth y ddau ben cystal ag y medrwn, ar ffurf rafft; ac wedi gosod dau neu dri dernyn o blanc ar eu traws, gwelwn y medrwn gerdded arni yn lled dda, ond na allai hi ddim dal llawer o bwysau, gan fod y darnau yn rhy ysgafn. Felly euthum ati i weithio, a chyda llif y saer torrais frigyn mast yn dri hyd, ac ychwanegais hwynt at fy rafft gyda chryn lawer o lafur a phoen.
Yr oedd fy rafft yn ddigon cref yn awr i ddal unrhyw bwysau rhesymol. Yn gyntaf dodais arni yr holl blanciau neu'r ystyllod a allwn eu cael, ac wedi ystyried yn fanwl beth oedd arnaf eisiau fwyaf, euthum â thair cist llongwr oedd wedi eu hagor a'u gwacáu gennyf, a gollyngais hwynt i lawr ar fy rafft. Llenwais y gyntaf ohonynt â bwyd, sef, bara, reis, tri chosyn, pum

Llywiais fy rafft orau y medrwn er mwyn cadw yng nghanol y ffrwd.
darn o gig gafr wedi ei sychu, ac ychydig weddill o ŷd Ewrop a gadwasid gennym i'r ieir a ddygasem ar y môr gyda ni, ond lladdwyd yr ieir. Yr oedd yno haidd a gwenith yn gymysg, ond er dirfawr siom i mi, gwelais wedyn fod y llygod mawr un ai wedi ei fwyta neu ei ddifetha i gyd. Am y gwirodydd, cefais amryw boteli oedd yn perthyn i'n capten. Dodais y rhain o'r neilltu gyda'i gilydd, gan nad oedd dim angen eu dodi yn y gist, na dim lle iddynt. Tra'r oeddwn yn gwneud hyn, gwelwn y llanw'n dechrau llifo, er yn dawel iawn; a chefais y siom o weld fy nghôt, fy nghrys, a'm gwasgod, a adawswn ar y traeth, yn nofio ymaith; parthed fy nghlôs, nad oedd yn ddim ond İliain ac yn agored yn ei benliniau, yr oeddwn wedi nofio ynddo, ac yn fy 'sanau. Beth bynnag, parodd hyn i mi chwilota am ddillad, a chefais ddigon ohonynt, ond ni chymerais ddim mwy nag yr oedd eu hangen arnaf ar y pryd, canys yr oedd yno bethau eraill yr oeddwn â'm llygaid arnynt, megis arfau i'w defnyddio ar y lan; ac wedi chwilio hir y deuthum o hyd i gist y saer, oedd yn gaffaeliad defnyddiol iawn i mi, ac yn fwy gwerthfawr o lawer nag a fuasai llwyth Ilong o aur y pryd hwnnw. Cefais hi i lawr i'm rafft yn ei chrynswth fel yr oedd, heb golli dim amser i edrych iddi, gan y gwyddwn beth a gynhwysai.
Fy mhryder nesaf oedd ynghylch taclau saethu ac arfau; yr oedd dau dryll lled dda yn y caban mawr, a dau bistol; sicrheais y rhain gyntaf, gyda chyrn powdwr a chwdyn bychan o haels, a dau hen gleddyf rhydlyd. Gwyddwn fod tair baril o bowdwr yn y llong, ond ni wyddwn ymha le y cedwid hwynt; ond wedi cryn lawer o chwilio, cefais hwynt, dwy yn sych iawn a'r drydedd wedi gwlychu; euthum â'r ddwy hynny ar fy rafft gyda'r arfau. Ac yn awr tybiwn fy mod yn bur llwythog, a dechreuais feddwl sut yr awn i'r lan gyda hwynt, gan nad oedd gennyf na hwyl, na rhwyf, na llyw; a buasai llond cap o wynt yn dymchwelyd fy llongwriaeth i gyd. Ond wedi cael hyd i ddau neu dri darn o rwyf cedd yn perthyn i'r cwch, heblaw'r arfau oedd yn y gist, dwy lif, bwyall, a morthwyl, gwthiais fy llwyth i'r môr. Am tua milltir aeth y rafft yn bur dda, a gobeithiwn gael cilfach neu afon yno a wnâi borthladd i mi i lanio gyda'm cargo.
Fel y dychmygwn, felly yr oedd; o'm blaen gwelwn agen fechan yn agor i'r tir a ffrwd gref y llanw yn rhedeg iddi; a llywiais fy rafft orau y medrwn er mwyn cadw yng nghanol y ffrwd. O'r diwedd cyrhaeddais enau afon fechan, a thir o'i deutu, a llanw cryf yn rhedeg i fyny. Edrychais ar y ddwy ochr am le i fynd i'r lan, canys nid oeddwn am gael fy ngyrru yn rhy bell i fyny'r afon, gan obeithio rywbryd weld llong ar y môr; ac oherwydd hynny penderfynais fy ngosod fy hun mor agos i'r lan ag y medrwn.
O'r diwedd, gwelais ogof fechan ar draeth deau'r gilfach, a thrwy lawer o boen ac anhawster llywiais fy rafft iddi, ac wrth daro'r gwaelod â'm rhwyf gwthiais hi i mewn ar ei hunion. Y cwbl a fedrwn ei wneud yn awr oedd aros nes y byddai'r llanw yn ei fan uchaf, a chadw'r rafft â'm rhwyf fel angor i ddal ei hochr yn dyn wrth y lan, yn ymyl darn o dir gwastad y disgwyliwn i'r dŵr lifo drosto; ac fe wnaeth hefyd. Cyn gynted ag y cefais ddigon o ddŵr (canys tynnai fy rafft tua throedfedd o ddŵr) gwthiais hi ymlaen ar y darn tir gwastad hwnnw, ac yno angorais hi trwy wthio'r ddau ddarn rhwyf i'r ddaear; un ar y naill ochr wrth un pen, ac un ar yr ochr arall wrth y pen arall; ac felly yr arhosais nes i'r dŵr dreio ymaith, a gadael fy rafft a'm cargo i gyd yn ddiogel ar y lan.
Fy ngorchwyl nesaf oedd bwrw golwg ar y wlad a chwilio am le cyfaddas i'm preswylfod, a lle i ddodi fy nhaclau i'w diogelu rhag beth bynnag a allai ddigwydd. Ni wyddwn eto ymha le yr oeddwn; pa un ai ar y cyfandir ai ar ynys; pa un ai cyfannedd ai anghyfannedd; pa un ai mewn perygl oddi wrth fwystfilod gwylltion ai peidio. Heb fod dros filltir oddi wrthyf yr oedd bryn a godai yn syth ac yn uchel iawn, ac a ymddangosai yn uwch na bryniau eraill a redai fel crib ohono i gyfeiriad y gogledd. Tynnais allan un o'r gynnau, a phistol, a chorn powdwr, ac wedi fy arfogi fel hyn, teithiais i archwilio i ben y bryn hwnnw. Oddi yno, wedi i mi gyrraedd y gopa trwy lafur ac anhawster mawr, gwelais fy nhynged er gofid mawr i mi, sef, fy mod mewn ynys wedi ei hamgylchu ymhob cyfeiriad â'r môr; dim tir i'w weld, oddieithr creigiau oedd ymhell iawn i ffwrdd, a dwy ynys fechan tua thair milltir i'r gorllewin.
Canfûm hefyd fod yr ynys yr oeddwn ynddi yn ddiffaith, ac yr oedd gennyf resymau da dros gredu ei bod yn anghyfannedd, ar wahan i'r bwystfilod gwylltion, na welais fodd bynnag yr un ohonynt; eto gwelais ddigon o adar, ond ni wyddwn pa fathau, ac wedi i mi eu lladd ni fedrwn ddweud beth oedd yn gymwys i'w fwyta abeth nad oedd. Wrth i mi ddyfod yn ol, saethais aderyn mawr a welais yn eistedd ar goeden ar gwr coedwig fawr. Credaf mai dyma'r gwn cyntaf a daniasid yno er creadigaeth y byd. Nid cynt y taniaswn nag y cododd o bob rhan o'r goedwig aneirif luoedd o adar o bob math, yn ysgrechian yn drystfawr a phob un yn gweiddi yn ei sain arferol ei hun; ond heb fod un ohonynt o'r math a adwaenwn i. Parthed y creadur a leddais, tybiwn mai math o hebog ydoedd, gan fod ei liw a'i big yn debyg iddo, ond nid oedd ganddo ewinedd neu grafangau mwy na'r cyffredin. Ysglyfaeth oedd ei gig, ac nid oedd yn werth dim.
Meddyliwn yn awr y gallwn gael llawer o bethau yn ychwaneg o'r llong a fyddai yn ddefnyddiol iawn i mi, ac yn enwedig rhai o'r rhaffau a'r hwyliau; a phenderfynais wneud mordaith arall i'r llong, os medrwn. Gan y gwyddwn y byddai'r storm gyntaf a chwythai yn sicr o'i thorri'n ddarnau, penderfynais roddi popeth arall heibio hyd nes y cawn bopeth a allwn allan o'r llong. Yna gelwais gyngor, hynny ydyw, yn fy meddwl fy hun, pa un a gymerwn i'r rafft yn ôl, ond ymddangosai hyn yn anymarferol; felly penderfynais fynd fel o'r blaen pan fyddai'r llanw allan, a gwneuthur hynny; ond tynnais fy nillad cyn mynd o'm caban, ac nid oedd gennyf ddim amdanaf ond crys brith a phâr o drors lliain, a phâr o hen 'sgidiau am fy nhraed.
Euthum ar fwrdd y llong fel o'r blaen, a pharatoais rafft arall, ac wedi cael profiad gyda'r gyntaf, ni wneuthum mo hon mor lletchwith, na'i llwytho mor drwm; eto deuthum ag amryw bethau defnyddiol iawn oddiyno; er enghraifft, yn ystorfa'r saer cefais ddau gydaid neu dri o hoelion ac ysbigau, sgriw—jac mawr, dwsin neu ddau o fwyeill, ac yn anad dim, y peth hynod ddefnyddiol hwnnw a elwir yn faen Îlifo. Sicrheais y rhain i gyd, ynghyd ag amryw bethau yn perthyn i'r gynnwr, yn enwedig dau neu dri throsol haearn mawr, a dwy faril o fwledi mwsged, saith mwsged a dryll arall, ynghyd ag ychydig ychwaneg o bowdwr, a chydaid mawr o haels mân. Heblaw'r pethau hyn, euthum â chymaint ag a fedrwn eu cael o ddillad y dynion, hwyl flaen, hamoc, a dillad gwely; ac a'r rhain llwythais yr ail rafft, a chludais hwynt yn ddiogel i'r lan, er cysur mawr i mi.
Wedi cael fy ail lwyth i'r lan, euthum ati i wneud pabell fechan gyda'r hwyliau a pholion a doraswn i'r pwrpas hwnnw; ac i'r babell hon euthum â phopeth a fuasai'n difetha un ai yn y glaw neu yn yr haul; a phentyrrais y cistiau a'r casgiau gweigion i gyd mewn cylch o amgylch y babell, i'w hamddiffyn rhag ymosodiad disymwth un ai oddi wrth ddyn neu fwystfil.
Wedi i mi wneud hyn, caeais ddrws y babell gydag ystyllod o'r tu mewn, a chist wag wedi ei gosod ar ei phen o'r tu allan; a chan dannu un o'r gwlâu ar lawr a gosod fy nau bistol wrth fy mhen a'm gwn wrth fy ochr, euthum i'm gwely am y tro cyntaf, a chysgais yn dawel iawn drwy'r nos, gan fy mod yn flinedig ac yn swrth iawn; canys nid oeddwn wedi cysgu ond ychydig y noson cynt, ac yr oeddwn wedi gweithio yn galed iawn drwy'r dydd i nôl y pethau hynny o'r llong yn ogystal ag i'w dwyn i'r lan.
Yn awr yr oedd gennyf yr ystordy mwyaf o unrhyw fath a ddarparwyd erioed i un dyn, mi gredaf; eto nid oeddwn yn fodlon, canys tra'r oedd y llong yn ei sefyll tybiwn y dylwn gael popeth a fedrwn ohoni. Gan hynny, bob dydd ar ddŵr isel, euthum ar y bwrdd, a deuthum â rhywbeth neu'i gilydd oddiyno; ond, yn arbennig, y trydydd tro yr euthum, cludais ymaith gymaint ag a fedrwn o'r rigin, a hefyd gymaint ag a allwn eu cael o fân raffau a llinynnau, gyda darn sgwâr o gynfas i drwsio'r hwyliau, a baril o bowdwr gwn gwlyb. Mewn gair, deuthum â'r hwyliau i gyd; a drwg oedd gennyf orfod eu torri'n ddarnau, a dwyn cymaint ag a fedrwn ar y tro, gan nad oeddynt mwyach ddefnydd yn y byd fel hwyliau, dim ond fel cynfas yn unig.
Ond wedi i mi wneud pum mordaith neu chwech fel hyn, ac yn tybio nad oedd i mi ddim ychwaneg i'w ddisgwyl o'r llong a oedd yn werth cyffwrdd ynddo, y peth a'm cysurodd yn fwy fyth ydoedd darganfod hogsied fawr o fara, a thair casgen o wirodydd, bocs o siwgr, a baril o flawd ardderchog. Gwagiais yr hogsied fara yn fuan iawn, a lapiais hwynt bob yn barsel mewn darnau o'r hwyliau a doraswn; ac, mewn gair, cefais y rhain hefyd yn ddiogel i'r lan.
Yr oeddwn yn awr wedi bod dri diwrnod ar ddeg ar y lan, ac wedi bod un waith ar ddeg ar fwrdd y llong; ac yr oeddwn wedi cludo oddi yno gymaint ag a ellid ei ddisgwyl i un pâr o ddwylo ei ddwyn; a chredaf yn wir, pe bai'r tywydd braf wedi dal, y buaswn wedi dyfod â'r llong i gyd oddi yno bob yn ddarn. Ond wrth i mi baratoi i fynd iddi y deuddegfed tro, gwelwn fod y gwynt yn dechrau codi. Fodd bynnag, ar ddŵr isel euthum ar y bwrdd, ac er y tybiwn fy mod wedi chwilota'r caban mor llwyr na cheid dim byd ychwaneg, eto darganfûm gwpwrdd â drors ynddo, ac yn un ohonynt cefais ddau ellyn neu dri, un siswrn mawr, a deg neu ddwsin o gyllyll a ffyrc; mewn un arall, cefais werth tuag un bunt ar bymtheg mewn arian, rhai darnau arian Ewrop, rhai Brazil, rhai darnau wyth, rhai aur, a rhai arian.
Gwenais wrth weld yr arian. "O'r achlod!" meddwn yn uchel, "i beth 'r wyt ti'n dda? 'Dwyt ti'n werth dim i mi, na, ddim i'th godi oddiar lawr; y mae un o'r cyllyll hyn yn werth y pentwr hwn i gyd. 'Does gennyf fi bwrpas yn y byd i ti; aros lle'r wyt ti a dos i'r gwaelod fel creadur nad yw ei fywyd ddim yn werth i'w achub." Fodd bynnag, wedi ail feddwl, euthum ag ef ymaith; a chan lapio'r cwbl mewn darn o gynfas, dechreuais feddwl am wneud rafft arall; ond pan oeddwn yn paratoi hyn, gwelwn yr awyr yn cymylu, a'r gwynt yn dechrau codi, ac mewn chwarter awr chwythai'n ffres o'r lan. Felly gollyngais fy hun i'r dŵr, a nofiais ar draws y sianel oedd rhwng y llong a'r traeth, a hynny trwy lawer o anhawster, canys cododd y gwynt yn gyflym iawn, a chyn ei bod yn ben llanw yr oedd yn chwythu storm.
Ond yr oeddwn i wedi cyrraedd adref i'm pabell fechan, ac yn hollol ddiogel gyda'm cyfoeth o'm cylch. Chwythodd yn galed iawn drwy'r noson honno, ac yn y bore, pan edrychais allan, wele, nid oedd dim golwg ar y llong! Yr oeddwn yn synnu tipyn, ond ymfodlonais wrth feddwl nad oeddwn wedi colli dim amser i gael popeth ohoni a fyddai'n ddefnyddiol i mi, ac yn wir nid oedd dim ar ôl ynddi a fedrwn ei ddwyn oddi yno pe buaswn wedi cael rhagor o amser.
Yn awr yr oedd pob meddwl oedd ynof ar waith i'm diogelu fy hun rhag anwariaid neu fwystfilod gwylltion, os oedd rhai yn yr ynys; a bûm yn meddwl llawer am gynllun i wneud hyn, a sut gartref i'w wneud; pa un a wnawn i ogof i mi fy hun yn y ddaear, ai pabell ar y ddaear; ac, yn fyr, penderfynais ar y ddau, ac nid amhriodol fyddai rhoi hanes y cynllun a disgrifiad ohonynt.
PENNOD VI.
EI GARTREF UNIGRWYDD—MYFYRDODAU CYSURLAWN.
CANFÛM yn fuan nad oedd hwn ddim yn lle i mi gartrefu ynddo, yn enwedig gan ei fod ar dir corsog isel wrth y môr, a chredwn na fyddai'n iach; yn fwyaf arbennig, gan nad oedd yno ddim dŵr croyw yn ei ymyl. Felly penderfynais gael llecyn iachach a mwy cyfleus.
Bûm yn ystyried amryw bethau ynglŷn â'm sefyllfa. Yng nghyntaf, iechyd a dŵr croyw y soniais gynnau amdanynt. Yn ail, cysgod rhag gwres yr haul. Yn drydydd, diogelwch rhag creaduriaid rheibus, un ai dynion neu fwystfilod. Yn bedwerydd, golygfa i'r môr, fel os anfonai Duw long i'r golwg na chollwn i'r un fantais am ymwared.
Wrth chwilio am le priodol i hyn, deuthum o hyd i wastadedd bychan ar ochr bryn, a'i wyneb yng nghyfeiriad y gwastatir cyn sythed â phared tŷ, fel na fedrai dim byd ddisgyn arnaf o'r top. Ar ochr y graig hon yr oedd pant, wedi treulio ychydig i mewn, fel genau neu ddrws ogof; ond nid oedd yno yr un ogof iawn na ffordd i'r graig o gwbl.
Ar wastad y llannerch, yn union o flaen y pant hwn, penderfynais osod fy mhabell. Nid oedd y gwastadedd hwn dros gan lath o led, a thua chyhyd ddwywaith, ac yr oedd fel lawnt o flaen fy nrws; ac yn ei ben draw disgynnai'n anwastad bob ffordd i lawr i'r gwastadeddau ger glan y môr. Yr oedd ar ochr y Gogledd—Orllewin i'r bryn; fel y'm cysgodid rhag y gwres bob dydd hyd nes y deuai'r haul i'r De—Orllewin, sy'n agos i'r machlud yn y gwledydd hynny.
Cyn codi fy mhabell, tynnais hanner cylch o flaen y pant, rhyw ddecllath o led o'r graig, ac ugain lath mewn tryfesur o'i ddechrau i'w ddiwedd. Yn yr hanner cylch hwn gosodais ddwy res o ystanciau cryfion gan eu gyrru i'r ddaear nes bod y pen tewaf tua phum troedfedd a hanner o'r ddaear ac yn flaenfain ar y top. Nid oedd dim mwy na chwe modfedd rhwng y ddwy res.
Yna cymerais y darnau rhaffau a doraswn yn y llong, a gosodais hwynt yn rhesi y naill ar y llall tufewn i'r cylch rhwng y ddwyres ystanciau hyn; ac yr oedd y clawdd hwn mor gryf fel na allai na dyn na bwystfil fynd i mewn trwyddo na throsto. Costiodd hyn lawer o amser a llafur i mi, yn enwedig i dorri'r polion yn y coed, eu cludo i'r lle, a'u gyrru i'r ddaear. Nid drws oedd y fynedfa iddo, ond ysgol fechan i fynd dros y top; a phan fyddwn i mewn, codwn yr ysgol ar fy ôl, a thrwy hynny yr oeddwn wedi fy nghau i mewn yn hollol, a chysgwn yn dawel drwy'r nos.
I'r gaer neu'r amddiffynfa hon, gyda llafur diderfyn, cludais fy holl gyfoeth, fy holl ymborth, y taclau saethu, a'r trysorau y rhoddwyd eu hanes uchod; a gwneuthum babell fawr ddwbl i'm diogelu rhag y glawogydd, hynny yw, un babell fechan o'r tu mewn, a phabell fwy uwch ei phen, a gorchuddiais yr uchaf â tharpowlin mawr. I'r babell hon euthum â'm bwyd i gyd, a phopeth a ddifethid gan y gwlybaniaeth.
Wedi i mi wneud hyn, dechreuais weithio fy ffordd i'r graig; a chan gludo drwy fy mhabell y pridd a'r cerrig a gloddiais allan, pentyrrais hwynt y tu mewn i'm caer nes codi'r llawr y tu mewn tua throedfedd a hanner; ac fel hyn y gwneuthum ogof yn union y tu cefn i'm pabell, a wasanaethai fel seler i'm tŷ. Costiodd i mi lawer o lafur ac amryw ddyddiau cyn perffeithio'r pethau hyn i gyd. Ond gorffennais y cwbl ymhen rhyw bythefnos; a rhennais fy mhowdwr yn rhyw gant o barseli. Rhoddais y faril oedd wedi gwlychu yn fy ogof newydd, a chuddiais y gweddill mewn tyllau yn y creigiau rhag ofn iddo wlychu, gan sylwi'n ofalus iawn ymha le dodwn ef.
Yn ystod yr amser hyn, awn allan gyda'm gwn unwaith o leiaf bob dydd, i'm mwynhau fy hun yn ogystal ag i weld a fedrwn i saethu rhywbeth gwerth ei fwyta. Y tro cyntaf yr euthum allan gwelais yn fuan fod geifr yn yr ynys; ond yr oeddynt mor swil, mor graff, ac mor gyflymdroed, fel mai'r peth anhawsaf yn y byd oedd mynd yn agos atynt. Un diwrnod lleddais afr a chanddi fyn bychan yn sugno, a pharodd hyn ofid mawr i mi; ond pan ddisgynnodd yr hen afr, safodd y myn yn farw—lonydd wrth ei hochr nes i mi fynd i'w chodi; ac nid hynny yn unig, ond pan gludais yr hen afr ymaith ar fy ysgwyddau, dilynodd y myn fi hyd at fy amddiffynfa. Ar hynny, rhoddais y famog i lawr, a chymerais y myn yn fy mreichiau, a chludais ef dros y clawdd gan ddisgwyl ei ddofi; ond ni wnâi fwyta dim, ac oherwydd hynny gorfu i mi ei ladd, a'i fwyta fy hunan. Rhoddodd y ddau hyn ddigon o gig i mi am amser maith, gan mai bwyta'n brin a wnawn, a chynilo fy mwyd, yn enwedig fy mara, gymaint fyth ag a fedrwn.
Ac yn awr gan fy mod ar fin rhoddi hanes golygfa brudd o fywyd tawel, y fath, efallai, na chlywyd am ei debyg yn y byd erioed o'r blaen, fe ddechreuaf o'r dechrau, ac fe'i dilynaf yn ei drefn. Yn ol fy nghyfrif i, y 30 o Fedi ydoedd pan osodais fy nhroed gyntaf ar yr ynys erchyll hon, pan oedd yr haul bron yn hollol uwch fy mhen; canys trwy sylwi, barnwn fy mod yn lledred 9° 22' ar y gogledd i'r llinell.
PENNOD VII.
DULL ROBINSON O GYFRIF AMSER—ANAWSTERAU YN CODI
TRWY DDIFFYG ARFAU—TREFNU EI GARTREF.
WEDI i mi fod yno am tua deng niwrnod neu ddeuddeg, trawodd i'm meddwl collwn fy nghyfrif ar amser trwy ddiffyg llyfrau a phin ac inc, ac yr anghofiwn hyd yn oed y Sabathau oddiwrth ddyddiau gwaith; ond i ochelyd hyn, fe'i torrais â'm cyllell mewn prif lythrennau ar bostyn mawr; a chan wneud croes fawr ohono, gosodais ef i fyny ar y traeth lle y gleniais gyntaf, fel hyn:
"Gleniais yma ar y 30 0 Fedi, 1659."
Ar ochrau'r postyn sgwâr hwn torrais fwlch â'm cyllell bob dydd, a'r seithfed bwlch bob tro gyhyd arall â'r gweddill, a phob dydd cyntaf o'r mis gyhyd arall â'r un hir hwnnw; ac fel hyn y cedwais fy nghalendr.
Wedi hyn, ymhlith pethau eraill a gludaswn o'r llong, deuthum ar draws amryw bethau defnyddiol i mi, megis, pin ysgrifennu, inc, a phapur, tri chwmpawd neu bedwar, siartiau, a İlyfrau morwriaeth. Hefyd, deuthum o hyd i dri Beibl ardderchog, llyfrau Portugaeg, ac yn eu mysg ddau neu dri o lyfrau gweddi Pabaidd, ac amryw lyfrau eraill. A rhaid i mi beidio ag anghofio hefyd fod gennym gi a dwy gath yn y llong; canys cludais y ddwy gath gyda mi; ac am y ci, neidiodd ohono'i hun o'r llong, a nofiodd i'r lan ataf y diwrnod ar ôl i mi lanio gyda'm llwyth cyntaf, a bu'n was ffyddlon i mi am lawer o flynyddoedd. Ni bu arnaf eisiau dim byd a allai ef ei nôl i mi, na chwmpeini a allai ef ei roddi i mi; dim ond eisiau iddo siarad â mi oedd arnaf, ond ni allai wneud hynny. Fel y sylwais o'r blaen, cefais hyd i bin sgrifennu, inc, a phapur, a chedwais hwynt yn ofalus; a thra parhaodd fy inc cedwais bethau'n fanwl iawn, ond wedi i hwnnw ddarfod ni allwn, gan na fedrwn ddyfeisio ffordd i wneud inc o gwbl.
Ac atgofiodd hyn fi fod arnaf eisiau amryw bethau, er gwaethaf popeth a gasglaswn ynghyd; ac ymysg y rhain, inc oedd un peth, a hefyd rhaw a chaib i gloddio neu symud y pridd, nodwyddau, pinnau, ac edau. Yr oedd diffyg arfau fel hyn yn peri bod pob gwaith a wnawn yn drwm iawn; ac aeth blwyddyn bron heibio cyn i mi orffen y clawdd o amgylch fy nhrigfan. Gwaith araf iawn oedd torri a darparu'r polion neu'r ystanciau yn y coed, ac arafach fyth oedd eu cludo adref; fel y treuliwn weithiau ddau ddiwrnod yn torri a chludo adref un o'r pyst hynny, a thrydydd diwrnod yn ei bwyo i'r ddaear. Ond pa raid oedd i mi ymboeni ynghylch meithder dim byd a wnawn a chennyf innau ddigonedd o amser i'w wneud? Ac nid oedd gennyf yr un gorchwyl arall, petasai hwnnw drosodd, oddieithr crwydro'r ynys i chwilio am fwyd; peth a wnawn fwy neu lai bob dydd. Ac yn awr gan fy mod yn dechrau dygymod â'm sefyllfa, ac wedi rhoddi heibio syllu i'r môr i edrych a welwn i long, dechreuais drefnu fy ffordd o fyw, a gwneud pethau cyn hawsed i mi ag y medrwn. Yr wyf eisoes wedi disgrifio fy nghartref, sef pabell o dan ochr craig, wedi ei hamgylchu â gwrych cadarn o byst a rhaffau; ond gallwn yn hytrach ei alw yn glawdd yn awr, gan i mi godi math o glawdd tywyrch yn ei erbyn, tua dwy droedfedd o drwch o'r tu allan; ac ymhen peth amser codais drawstiau arno â'u gogwydd i'r graig, a thoais ef â changau coed, ac unrhyw beth a fedrwn ei gael, i gadw'r glaw allan, a oedd yn ofnadwy ar rai adegau o'r flwyddyn.
Sylwais eisoes sut y cludais fy nghelfi i gyd i'r amddiffynfa hon ac i'r ogof a wneuthum y tu cefn iddi. Ond rhaid i mi sylwi hefyd mai pentwr cymysg o daclau oedd hwn ar y cyntaf, a chan nad oedd trefn yn y byd arnynt aent â'm lle i gyd; nid oedd gennyf ddim lle i droi. Felly ymroddais ati i helaethu fy ogof ac i weithio ymhellach i'r ddaear, gan mai craig rydd dywodog ydoedd, ac yn ildio'n rhwydd i'm llafur. Gweithiais ymlaen i'r dde i mewn i'r graig; ac yna, gan droi i'r dde drachefn, gweithiais allan, a gwneuthum ddrws i mi allu dyfod oddiyno yr ochr allan i'm gwrych neu'r amddiffynfa. Rhoddodd hyn i mi fath o ddrws cefn i'm pabell a'm hystordy, a digon o le i ystorio fy mhethau.
Ac yn awr dechreuais wneud y pethau yr oedd arnaf fwyaf o'u hangen, yn enwedig cadair a bwrdd; canys heb y rhain ni allwn fwynhau'r ychydig gysuron oedd gennyf yn y byd. Ni fedrwn nac ysgrifennu na bwyta heb ddim bwrdd; felly euthum ati i weithio. Nid oeddwn wedi bod yn trin yr un erfyn erioed yn fy mywyd; ac eto mewn amser, trwy lafur, ymdrech, a dyfais, canfûm o'r diwedd nad oedd arnaf eisiau dim na fedrwn ei wneud, yn enwedig petasai gennyf arfau. Sut bynnag, gwneuthum ddigonedd o bethau, hyd yn oed heb ddim arfau; a rhai heb arfau amgenach na neddau a bwyall. Mae'n wir y cymerai amser a llafur aruthrol i mi wneud astell neu fwrdd, ond nid oedd na'm hamser na'm llafur yn werth ond ychydig, ac felly nid oedd waeth i mi eu defnyddio'r naill ffordd mwy na'r llall. Ond fel y sylwais uchod, gwneuthum fwrdd a chadair i ddechrau; sef, o'r darnau byrion o ystyllod a ddygais ar y rafft o'r llong. Yna fe wneuthum silffoedd mawr, troedfedd a hanner o led, y naill uwchben y llall ar hyd un ochr i'r ogof i ddal fy arfau, hoelion, a haearn; mewn gair, i gadw popeth yn eu llefydd ar wahan, fel y down o hyd iddynt yn hawdd. Pwyais ddarnau wyneb y graig i hongian fy ngynnau a phopeth a ellid ei hongian; ac yr oedd popeth gennyf wrth law mor hwylus fel yr oedd yn bleser mawr i mi weld fy holl bethau mewn cystal trefn, ac yn enwedig gweld gennyf ystôr mor fawr o bethau angenrheidiol.
A dyma'r adeg y dechreuais gadw dyddlyfr o waith pob dydd; canys ar y cyntaf yr oedd gormod o frys arnaf, a'm meddwl yn rhy gyffrous; a buasai fy nyddlyfr hefyd yn orlawn o bethau diflas. Ond wedi i mi drefnu fy nodrefn a'm

Credaf mai dyma'r gwn cyntaf a daniasid yno er creadigaeth y byd.
cartref, gwneud bwrdd a chadair, a gwneud popeth o'm cylch cyn hardded ag y medrwn, dechreuais gadw fy nyddlyfr; a rhoddaf gopi ohono yma cyhyd ag y parhaodd; canys gan nad oedd gennyf ddim rhagor o inc, bu raid i mi roi'r gorau iddo.
PENNOD VIII.
Y DYDDLYFR—MANYLION YNGLŶN Â'I FYWYD—DAEARGRYN.
MEDI 30, 1659.—Myfi, Robinson Crusoe, dlawd a thruenus, wedi fy llongddryllio yn ystod ystorm ddychrynllyd yn y bae, a ddeuthum i'r lan ar yr ynys ddigalon ac annedwydd hon, a alwyd gennyf yn Ynys Anobaith; y gweddill o griw'r llong wedi boddi, a minnau ymron â marw.
Hydref 1.—Yn y bore, er mawr syndod i mi. gwelais fod y llong wedi nofio ar ben llanw, ac yr oedd wedi ei gyrru i'r lan drachefn yn nes o lawer i'r ynys. Os gostegai'r gwynt, gobeithiwn fynd ar y bwrdd i gael tipyn o fwyd ac angenrheidiau ohoni. Treuliais ran helaeth o'r diwrnod hwn yn ymboeni am y pethau hyn; ond o'r diwedd, wrth weld y llong bron yn sych, euthum ar hyd y tywod cyn nesed iddi ag y medrwn, ac yna nofiais iddi. Y diwrnod hwn daliodd i fwrw glaw, er nad oedd dim gwynt o gwbl.
O Hydref 1 i'r 24.—Treuliwyd y dyddiau hyn i gyd ar amryw fordeithiau i gael popeth a fedrwn o'r llong, a deuthum â hwynt i'r lan gyda phob llanw ar rafftiau. Llawer o law y dyddiau hyn hefyd, er gydag ysbeidiau o dywydd teg; ond ymddengys mai dyma'r tymor glawog.
Hydref 25.—Bu'n bwrw glaw drwy'r nos a thrwy'r dydd, gydag ambell awel o wynt; yn ystod yr amser hwn maluriwyd y llong yn ddarnau (gan fod y gwynt yn chwythu'n beth cryfach na chynt), ac nid oedd mwyach i'w gweld,—dim ond darnau ohoni; a hynny ddim ond ar ddŵr isel. Treuliais y diwrnod hwn i roddi'r pethau yr oeddwn wedi eu hachub dan do, ac i'w diogelu rhag ofn i'r glaw eu difetha.
Hydref 26.—Cerddais o amgylch y traeth bron drwy'r dydd i chwilio am le i osod fy mhreswylfod. Tua min nos penderfynais ar fan priodol o dan graig.
Hydref 26—30.—Gweithiais yn galed iawn i gludo fy holl bethau i'm cartref newydd, er ei bod yn bwrw glaw yn drwm iawn yn ystod rhan o'r amser.
Yr 31.—Yn y bore, euthum allan i'r ynys gyda'm gwn, i edrych am fwyd, ac i archwilio'r wlad; a phan leddais afr, dilynodd ei myn fi adref, a lleddais hwnnw wedyn, gan na fwytâi.
Tach. 1.—Gosodais fy mhabell o dan graig, ac arhosais yno am y noson gyntaf; gan ei gwneud gymaint ag a allwn, gyda physt wedi eu gyrru i'r ddaear i hongian fy hamoc arnynt.
Tach. 2.—Gosodais fy nghistiau a'm hestyll i fyny, a'r darnau coed oedd yn fy rafftiau, ac â'r rhain gwneuthum glawdd o'm hamgylch, ychydig y tu mewn i'r lle yr oeddwn wedi ei farcio i'm hamddiffynfa.
Tach. 3.—Euthum allan gyda'm gwn, a saethais ddau aderyn tebyg i hwyaid a oedd yn fwyd da iawn. Yn y prynhawn mynd ati i wneud bwrdd.
Tach. 4.—Bore heddiw dechreuais drefnu fy mhrydiau gweithio, mynd allan gyda'm gwn, amser cysgu, ac amser i'm difyrru fy hunan; sef,—bob bore awn am dro gyda'm gwn am ddwyawr neu dair os na fyddai'n bwrw glaw; yna gweithio tan tuag un ar ddeg o'r gloch; yna bwyta'r hyn oedd gennyf i fyw arno; ac o ddeuddeg tan ddau gorweddwn i lawr i gysgu, gan fod y tywydd yn hynod o boeth; ac yna mynd i weithio drachefn yn yr hwyr.
Tach. 5.—Heddiw mynd allan gyda'm gwn a'm ci, a lladd cath wyllt; ei chroen yn bur esmwyth ond ei chig yn werth dim.
Tach. 6.—Wedi bod am dro'r bore, euthum ati i weithio drachefn ar fy mwrdd, a gorffennais ef, er nad oedd wrth fy modd.
Tach. 7-12.—Yn awr dechreuodd setlo'n dywydd braf. Gwneud cadair, ac wedi llawer o helynt cael siâp gweddol arni, ond nid wrth fy modd; a hyd yn oed wrth ei gwneud, tynnais hi'n ddarnau droeon.
Tach. 13.—Bwrw glaw heddiw; adfywio llawer arnaf, a chlaearu'r ddaear; ond daeth â mellt a tharanau dychrynllyd i'w ganlyn a'm dychrynodd yn ofnadwy, gan ofni am fy mhowdwr. Cyn gynted ag yr aeth drosodd, penderfynais rannu fy stoc o bowdwr yn gymaint ag a fedrwn o fân barseli, rhag iddo fod mewn dim perygl.
Tach. 14-16.—Gwneud blychau bychain i ddal pwys neu ddeubwys o bowdwr.
Tach. 17.—Y dydd hwn dechreuais durio i'r graig tu cefn i'm pabell.
Sylwer.—Yr oedd arnaf eisiau tri pheth yn arbennig at y gwaith hwn, sef, caib, rhaw, a berfa neu fasged; felly rhoddais heibio i weithio, a dechrau ystyried sut i gyflenwi'r diffyg, a gwneud ychydig arfau i mi fy hun.
Tach. 18.—Drannoeth, wrth chwilio'r coedwigoedd, cefais hyd i goeden o'r pren hwnnw a elwir yn y Brazils yn goeden haearn, oherwydd ei chaledwch anghyffredin; trwy ddirfawr lafur, a thrwy ddifetha fy mwyall bron, torrais ddarn ohoni, a deuthum ag ef adref gyda chryn lawer o anhawster, gan ei fod yn drwm dros ben. Gweithiais ef bob yn dipyn i ffurf rhaw, a gwasanaethodd yn eithaf i'm dibenion i.
Tach. 23.—Gan i'm gwaith arall aros yn yr unfan oherwydd fy mod yn gwneud yr arfau hyn, pan orffennwyd hwynt euthum ymlaen, gan weithio bob dydd yn ôl fel y caniatâi fy nerth ac amser. Bûm ddeunaw diwrnod cyfan yn lledu ac yn dyfnhau fy ogof er mwyn iddi ddal fy nwyddau'n hwylus.
Rhag. 10.—Tybiwn yn awr fod fy ogof neu fy naeargell wedi ei gorffen, pan yn ddisymwth syrthiodd llawer o bridd o'r top, ac yr oedd cymaint ohono ar un ochr nes fy nychrynu, ac nid heb reswm ychwaith, canys petaswn i dano ni fuasai arnaf byth eisiau torrwr beddau. Wedi'r trychineb hwn, yr oedd gennyf gryn lawer o waith i'w ail—wneud, gan fod yn rhaid i mi gario'r pridd rhydd allan; a pheth oedd yn bwysicach fyth, yr oedd yn rhaid i mi roddi pyst i gynnal y nenfwd, er mwyn bod yn sicr na ddisgynnai dim rhagor.
Rhag. 11.—Y diwrnod hwn euthum i weithio arno, a gosodais ddau bost yn syth i'r top, gyda dau ddernyn o ystyllen ar draws uwchben pob postyn; gorffennais hyn drannoeth; a chan osod rhagor o byst gydag ystyllod, ymhen tuag wythnos yr oeddwn wedi diogelu'r to, a chan fod y pyst yn rhesi, gwasanaethent yn lle parwydydd i rannu fy nhŷ.
Rhag. 17. O'r diwrnod hwn i'r ugeinfed gosodais silffoedd, a phwyais hoelion i'r pyst i hongian popeth a ellid ei hongian; ac yn awr yr oeddwn yn dechrau cael trefn ar bethau o'r tu mewn.
Rhag 20.—Cludais bopeth i'r ogof, a dechreuais ddodrefnu fy nhŷ, a gosodais ddarnau o ystyllod i fyny fel tresal i ddal fy mwyd; hefyd fe wneuthum fwrdd arall.
Rhag. 24. Glaw mawr drwy'r nos a thrwy'r dydd; dim cyffro o'r fan.
Rhag. 25.—Glaw drwy'r dydd.
Rhag. 26.—Dim glaw, a'r ddaear yn oerach o lawer na chynt, ac yn hyfrytach.
Rhag. 27.—Lladd gafr ieuanc, a chloffi un arall, fel y llwyddais i'w dal, ac arweiniais hi adref wrth linyn. Wedi ei chael adref, rhwymais ei choes, yr hon oedd wedi ei thorri.
N.B.—Cymerais gymaint o ofal drosti fel y bu fyw, a thyfodd ei choes yn iawn a chyn gryfed ag erioed, a daeth yn ddof, a phorai ar y llannerch wrth fy nrws, a gwrthodai symud oddiyno.
Rhag. 28, 29, 30.—Gwres mawr a dim awel; dim mynd allan o gwbl, oddieithr ym min nos am fwyd. Treuliais yr amser hwn i drefnu fy mhethau o dan do.
Ionawr 1.—Poeth iawn o hyd, ond euthum allan gyda'm gwn hwyr a bore, a gorwedd yn dawel ganol dydd. Heno, wrth fynd ymhellach i'r dyffrynnoedd sydd tua chanol yr ynys, gwelais fod yno ddigon o eifr, er eu bod yn hynod swil ac anodd mynd atynt; fodd bynnag, penderfynais ddod â'm ci i'w hela.
Ion. 2.—Mynd allan gyda'r ci, a'i yrru ar ôl y geifr; ond yr oeddwn wedi camsynied, canys troesant i gyd ar y ci, a gwyddai ei berygl yn rhy dda, gan na ddeuai'n agos atynt.
Ion. 3.—Dechreuais ar fy nghlawdd neu fy mur; a Rhag ofn i rywun ymosod arnaf, penderfynais ei wneud yn drwchus iawn a chryf.
N.B.—Gan fod y clawdd wedi ei ddisgrifio eisoes, digon yw sylwi na fûm i ddim llai o amser nag o Ion. 3ydd i Ebrill 14eg yn gweithio arno, er nad ydoedd dros bedair llath ar hugain o hyd.
Yn ystod yr amser hwn, awn am dro i'r coed am helwriaeth bob dydd, pan ganiatâi'r glaw i mi, a gwneuthum amryw ddarganfyddiadau ar y teithiau hyn o rywbeth neu'i gilydd a fyddai o fantais i mi; yn neilltuol, deuthum ar draws math o golomennod gwylltion a nythai, nid fel ysguthanod mewn coeden, ond yn hytrach fel colomennod dof yn nhyllau'r creigiau. A chan gymryd rhai o'r cywion, ceisiais eu dofi, ac fe wneuthum hynny; ond pan aethant yn hŷn ehedodd y cwbl i ffwrdd; efallai o ddiffyg eu bwydo ar y cyntaf, gan nad oedd gennyf ddim i'w roddi iddynt. Fodd bynnag, deuwn o hyd i'w nythod yn fynych, a chawn rai o'r cywion oedd yn gig da iawn.
Yng nghanol fy helyntion i gyd, wrth chwilota fy mhethau, digwyddais ddyfod ar draws cwdyn bychan oedd wedi ei lenwi ag ŷd i fwydo ieir, nid ar y fordaith hon, ond cyn hyn, mae'n debyg, pan ddaeth y llong o Lisbon. Yr oedd yr ychydig weddill o ŷd a fuasai yn y cwdyn wedi ei ddifa gan lygod mawr, ac ni welais ddim byd yn y cwdyn ond us a llwch; a chan fy mod yn awyddus i gael cwdyn at amcan arall, ysgydwais yr ŷd ohono ar y naill du i'm hamddiffynfa o dan y graig. Ychydig cyn y glawogydd mawrion, y soniwyd amdanynt gynnau, y teflais y stwff yma i ffwrdd, heb gymaint â chofio fy mod wedi taflu dim byd yno. Ond ymhen tua mis wedyn, gwelais ryw ychydig egin gleision yn tarddu o'r ddaear, ac fe synnais yn fawr, pan welais, ymhen ychydig amser, tua deg neu ddeuddeg tywysen yn dyfod allan, a'r rheini yn haidd glas perffaith, o'r un fath â haidd Ewrop neu haidd Lloegr.
Ar y cyntaf tybiwn mai gwir gynhyrchion Rhagluniaeth i'm cynnal oedd y rhain, a heb amau bod yno ychwaneg yn y lle, euthum dros y darn hwnnw o'r ynys lle y buaswn o'r blaen, gan chwilio ymhob congl a than bob craig am ychwaneg ohono; ond ni fedrwn gael dim. O'r diwedd trawodd i'm meddwl fy mod wedi ysgwyd cwdyn bwyd ieir yn y fan honno, a dechreuodd y syndod ddarfod, a rhaid i mi gyfaddef i'm diolchgarwch duwiol i Ragluniaeth Duw ddechrau lleihau hefyd, wedi darganfod nad oedd hyn yn ddim byd ond peth cyffredin.
Cesglais y tywysennau hyn yn eu hadeg, sef tua diwedd Mehefin; a chan gadw pob yden, penderfynais eu hau i gyd drachefn, gan obeithio amser gael digon i'm cyflenwi â bara. Ond ni fedrais ganiatáu i mi fy hun y gronyn lleiaf o'r ŷd hwn i'w fwyta tan y bedwaredd flwyddyn, a dim ond yn gynnil iawn hyd yn oed yr adeg honno, canys collais y cwbl a heuais y tymor cyntaf trwy beidio â sylwi ar yr adeg briodol, gan i mi ei hau ychydig cyn y tymor sych, fel na ddaeth allan o gwbl, o leiaf ddim fel y buasai'n dod.
Heblaw'r haidd hwn, yr oedd yno hefyd ugain neu ddeg ar hugain o goesau reis a gedwais gyda'r un gofal, a'r un diben neu'r un pwrpas oedd iddynt hwythau, sef, gwneud bara i mi, neu yn hytrach fwyd; gan i mi ddarganfod ffordd i'w goginio heb ei grasu, er i mi wneud hynny hefyd ymhen amser, ond rhaid dychwelyd at fy nyddlyfr.
Gweithiais yn galed anghyffredin am y tri neu'r pedwar mis hyn i orffen fy nghlawdd; ac ar y pedwerydd ar ddeg o Ebrill caeais ef fyny, gan ddyfeisio ffordd i mewn, nid trwy ddrws, ond dros y clawdd gydag ysgol, fel na byddai yno yr un arwydd y tu allan i'm trigfa.
Ebrill 16.—Gorffennais yr ysgol; felly euthum fyny gyda'r ysgol i'r top, ac yna tynnais hi i fyny ar fy ôl, a gollyngais hi i lawr o'r tu mewn. Yr oedd hwn yn lle caeëdig hollol gennyf, canys yr oedd gennyf ddigon o le o'r tu mewn, ac ni allai dim ddod ataf o'r tu allan, oni byddai iddo yng nghyntaf ddringo'r wal.
Y diwrnod cyntaf un wedi gorffen y mur hwn, dymchwelwyd fy llafur bron i gyd ar unwaith, a minnau bron wedi fy lladd. Dyma fel y bu: a minnau'n brysur y tu mewn, o'r tu cefn i'm pabell, bron yng ngenau'r ogof, dychrynwyd fi'n ofnadwy gan ysgytiad daeargryn. Yn ddisymwth hollol, gwelwn y ddaear yn disgyn i lawr o ben yr ogof ac oddiar ymyl yr allt uwch fy mhen, a dau o'r pyst yr oeddwn wedi eu gosod yn yr ogof yn cracio yn y modd mwyaf ofnadwy. A Rhag ofn i mi gael fy nghladdu yno, rhedais ymlaen at fy ysgol, a thros y wal â mi, Rhag ofn i ddarnau o'r allt rowlio i lawr ar fy nghefn.
Fe'm brawychwyd gymaint gan y peth ei hun (gan nad oeddwn wedi clywed y fath beth erioed, nac wedi siarad â neb oedd wedi clywed) nes yr oeddwn fel un marw neu un wedi ei syfrdanu, a gwnaeth ysgogiad y ddaear fy stumog yn sal, fel un â chlwy'r môr arno; ond deffrôdd sŵn y graig yn syrthio fi, gan fy llenwi â braw, ac ni feddyliwn am ddim ar y pryd ond am yr allt yn disgyn ar fy mhabell a'm holl gelfi, a chladdu'r cwbl ar unwaith, a pharodd hyn i'm holl enaid ymollwng am yr ail dro.
Wedi i'r trydydd ysgytiad fynd heibio, ac ni chlywais ddim rhagor am beth amser,—dech reuais ymwroli; eto nid oedd digon o galon gennyf i fynd dros fy nghlawdd drachefn, Rhag ofn i mi gael fy nghladdu'n fyw; ond eisteddais yn llonydd ar y ddaear, yn ddigalon a phruddaidd iawn, heb wybod beth i'w wneud.
Tra'r oeddwn yn eistedd fel hyn, gwelwn yr awyr yn tywyllu ac yn cymylu fel petai am fwrw glaw. Yn fuan wedyn cododd y gwynt bob ychydig, fel ymhen llai na hanner awr yr oedd yn chwythu tymestl ddychrynllyd. Daliodd fel hyn am tua theirawr, ac yna dechreuodd ostegu; ac ymhen dwyawr wedyn yr oedd yn hollol dawel, a dechreuodd fwrw glaw yn drwm iawn. Bu'n bwrw drwy'r nos a bron drwy'r dydd drannoeth, fel na allwn symud o'r fan.
Yn awr dechreuais feddwl beth oedd orau i'w wneud; gan gasglu nad oedd wiw i mi fyw mewn ogof os oedd yr ynys yn agored i ddaeargrynfâu, ond rhaid oedd ystyried codi cwt bychan mewn lle agored y gallwn ei amgylchu â mur, a thrwy hynny fy niogelu fy hun Rhag bwystfilod neu ddynion gwylltion; canys os arhoswn lle'r oeddwn fe'm cleddid yn fyw rywbryd neu'i gilydd.
Treuliais y ddau ddiwrnod nesaf, sef y 19 a'r 20 o Ebrill yn trefnu lle a'r ffordd i symud fy nhrigfa. Penderfynais yr awn ati i weithio ar unwaith i godi mur gyda physt, rhaffau, etc., mewn cylch fel cynt, a gosod fy mhabell yn y canol wedi i mi orffen; ond y mentrwn aros lle'r oeddwn hyd nes y byddai'n barod, ac yn addas i symud iddi. Yr 21ain oedd hyn.
Ebrill 22.—Bore trannoeth dechreuais feddwl am ffordd i roddi'r penderfyniad hwn ar waith, ond yr oeddwn mewn helynt ddirfawr ynglŷn â'm harfau. Yr oedd gennyf dair bwyall fawr, a digon o rai bychain, ond trwy fynych dorri coed ceinciog caled, yr oeddynt i gyd yn ddi—fin ac yn llawn bylchau; ac er bod gennyf faen llifo ni allwn ei droi i lifo fy arfau. O'r diwedd, dyfeisiais olwyn â llinyn wrthi i'w throi gyda'm troed, er mwyn i mi gael fy nwylo'n rhydd. Costiodd y peiriant hwn lawn wythnos o waith i mi i'w berffeithio.
Ebrill 28, 29.—Treuliais y ddau ddiwrnod hyn i gyd i lifo fy arfau, a'r peiriant i droi'r maen yn gweithio'n dda iawn.
Ebrill 30.—Wedi i mi sylwi bod fy mara wedi mynd yn bur isel ers tro, bwriais olwg arno'n awr, a chyfyngais fy hunan i un fisgeden y dydd, yr hyn a wnaeth fy nghalon yn drom iawn.
PENNOD IX.
ROBINSON YN CAEL YCHWANEG O DACLAU O'R HEN LONG—AFIECHYD A THRALLOD.
MAI 1.—Yn y bore, wrth edrych i gyfeiriad y môr, a'r llanw'n isel, gwelwn rywbeth mwy na'r cyffredin yn gorwedd ar y traeth, ac edrychai fel casgen. Pan ddeuthum ato, cefais faril fechan a dau neu dri dernyn o'r llong, wedi eu gyrru i'r lan gan y dymestĺ; ac wrth edrych i gyfeiriad y darn llong, tybiwn ei bod yn gorwedd yn uwch o'r dŵr nag yr arferai Archwiliais y faril, a gwelais yn fuan mai barilaid o bowdwr—gwn ydoedd, ond yr oedd wedi gwlychu, ac yr oedd y powdwr wedi caledu fel carreg; sut bynnag, rowliais hi ymhellach i'r lan, ac euthum ymlaen ar hyd y tywod cyn nesed ag y medrwn i'r darn llong i edrych am ychwaneg.
Pan ddeuthum i lawr at y llong, gwelais ei bod wedi ei symud yn rhyfedd. Yr oedd y fforcasl, a gladdesid mewn tywod o'r blaen, wedi ei godi i fyny o leiaf chwe throedfedd, a'r starn wedi ei dorri'n ddarnau ac wedi ei ysgaru oddi wrth y gweddill gan rym y môr, ac wedi ei fwrw ar y naill ochr, a'r tywod wedi cael ei luchio mor uchel ar yr ochr nesaf i'r starn, fel y gallwn gerdded ati'n awr pan oedd y llanw allan.
Parodd hyn i mi newid fy syniadau yn llwyr ynglŷn â'r cynllun o symud fy nhrigfan; a bûm yn brysur anghyffredin, yn enwedig y diwrnod hwnnw, yn chwilio a allwn ganfod ffordd i'r llong; ond gwelais na allwn ddisgwyl dim o'r fath, gan fod y tu mewn i'r llong wedi ei dagu'n llwyr â thywod. Fodd bynnag, penderfynais dynnu'n ddarnau o'r llong bopeth a allwn, gan gredu y byddai popeth a allwn ei gael ohoni o ryw ddefnydd i mi.
Mai 3—Dechreuais â'm llif, a thorrais ddarn o drawst drwodd, ac wedi i mi ei dorri drwodd, cliriais y tywod ymaith gystal ag y medrwn o'r ochr uchaf, ond gan i'r llanw ddyfod i mewn bu raid i mi roi'r gorau iddi am y tro.
Mai 4.—Euthum i bysgota, ond ni ddeliais yr un pysgodyn y gallwn fentro ei fwyta, nes yr oeddwn wedi blino ar fy sbort; pan oeddwn ar roi'r gorau iddi, deliais ddolffin ieuanc. Yr oeddwn wedi gwneud lein hir o edau raff, ond nid oedd gennyf ddim bachau; eto daliwn ddigon o bysgod yn aml,—gymaint ag a fedrwn eu bwyta; sychwn y rhain i gyd yn yr haul, a bwytawn hwynt yn sych.
Mai 24.—Bob dydd, hyd at y dydd hwn, gweithiais ar yr hen long, a chyda llafur caled tynnais gymaint o bethau'n rhydd â'r trosol, fel gyda'r llanw nesaf nofiodd amryw gasgiau ohoni, a dwy gist llongwr. Ond gan fod y gwynt yn chwythu o'r tir, ni ddaeth dim i'r lan y diwrnod hwnnw ond darnau o goed, a hogsied a chig moch Brazil ynddi, ond yr oedd y dŵr hallt a'r tywod wedi ei ddifetha.
Dilynais y gwaith hwn bob dydd hyd y 15 o Fehefin, ag eithrio'r amser angenrheidiol i gael bwyd; a threfnwn i hynny ddigwydd pan fyddai'r llanw i fyny, fel y byddwn yn barod wedi i'r trai fynd allan. Ac erbyn hyn yr oeddwn wedi cael digon o goed, a phlanciau, a haearn i adeiladu cwch helaeth, petaswn yn gwybod sut; hefyd yr oeddwn wedi cael, o dro i dro mewn mân ddarnau, bron ganpwys o blwm.
Mehefin 16.—Wrth fynd i lawr i lan y môr, cefais hyd i grwban mawr. Dyma'r cyntaf a welswn, ac ymddengys mai fy anffawd i oedd hynny, ac nid bai'r lle na phrinder, canys pe digwyddaswn fod yr ochr arall i'r ynys, gallaswn fod wedi cael cannoedd ohonynt bob dydd, fel y gwelais wedyn, ond hwyrach y buaswn wedi talu'n ddigon drud amdanynt.
Meh. 17.—Treuliais hwn i goginio'r crwban. Cefais drigain o wyau ynddo; ac i mi, yr adeg honno, yr oedd ei gig y mwyaf blasus a'r mwyaf dymunol a brofaswn yn fy mywyd, gan nad oeddwn wedi cael dim cig heblaw cig geifr ac adar, er pan leniais yn y lle arswydus hwn.
Meh. 18.—Bwrw glaw drwy'r dydd, a minnau'n aros i mewn. Tybiwn yr adeg hon fod y glaw i'w glywed yn oer, ac yr oeddwn braidd yn rhynllyd, peth anghyffredin yn y rhan honno.
Meh. 19.—Gwael iawn, a rhynllyd fel petasai'r tywydd yn oer.
Meh. 20.—Dim gorffwys drwy'r nos; poenau ofnadwy yn fy mhen, ac mewn twymyn.
Meh. 21.—Gwael iawn; wedi dychrynu bron hyd farw oherwydd ofnau am fy nghyflwr truenus o fod yn sâl a heb gymorth; gweddio ar Dduw am y tro cyntaf er adeg y storm tu allan i Hull; ond prin y gwyddwn beth a ddywedwn, gan fod fy meddwl yn ddryslyd iawn.
Meh. 22.—Ychydig yn well, ond ofn salwch arnaf yn arswydus.
Meh. 23.—Gwael iawn eto; oer a rhynllyd, ac wedyn cur dychrynllyd yn fy mhen.
Meh. 24.—Gwell o lawer.
Meh.25.—Cryndod ofnadwy';' mewn ffit am'saith awr; ffit oer a phoeth; chwysu'n ysgafn ar ei hôl. Meh. 26.—Gwell; a chan nad oedd gennyf ddim bwyd i'w fwyta, mynd gyda'r gwn, ond fy nghlywed fy hun yn wan iawn. Fodd bynnag, lleddais afr, a chyda llawer o drafferth deuthum â hi adref, a rhostio peth ohoni, a bwyta. Caraswn ei stiwio a gwneud cawl, ond nid oedd crochan gennyf.
Meh. 27. Y cryd mor ofnadwy eto fel y gorweddais ar fy ngwely drwy'r dydd, heb na bwyta nac yfed. Yr oeddwn bron â marw gan syched, ond mor wan, fel nad oedd gennyf mo'r nerth i sefyll, nac i estyn dŵr i'w yfed. Gweddïo ar Dduw eto, ond yr oeddwn yn benysgafn; a phan nad oeddwn, yr oeddwn mor ddwl fel na wyddwn beth i'w wneud; dim ond gorwedd a gweiddi,
Arglwydd, edrych arnaf! Arglwydd, tosturia wrthyf! Arglwydd, bydd drugarog wrthyf!" Mae'n debyg na wneuthum ddim arall am ddwyawr neu dair, hyd nes y cysgais wedi i'r wasgfa fynd heibio, ac ni ddeffroais nes ei bod ymhell i'r nos.
Pan ddeffroais, yr oeddwn wedi fy adfywio'n fawr, ond yn wan ac yn sychedig anghyffredin. Fodd bynnag, gan nad oedd gennyf ddim dŵr yn fy nhrigfan, gorfu i mi orwedd tan y bore, ac euthum i gysgu drachefn.
Yn fy nghwsg breuddwydiais, a gwelwn ŵr yn disgyn o gwmwl du mawr mewn fflam dân, a chanddo waywffon hir yn ei law i'm lladd. A chlywais ryw lais erchyll yn dywedyd wrthyf: Gan nad yw'r pethau hyn i gyd ddim wedi dy arwain i edifeirwch, yn awr ti a fyddi farw." Ac ar y geiriau hyn tybiwn ei fod yn codi'r waywffon oedd yn ei law i'm lladd.
Och fi! Nid oedd gennyf ddim gwybodaeth ddiwinyddol; yr oedd yr hyn a gawswn trwy addysg dda fy nhad wedi ei dreulio allan gan wyth mlynedd o annuwioldeb ar y môr, ac ymddiddan cyson â rhai oedd fel finnau yn annuwiol a chableddus i'r eithaf. Nid wyf yn cofio, yn ystod yr amser hwnnw i gyd, fod ynof yr un meddwl oedd gymaint ag yn tueddu i edrych i fyny tuag at Dduw, na thuag i mewn i ystyried fy ffyrdd; ond yr oedd rhyw ddylni enaid, heb ddymuno dim da, a heb ymwybod â'r drwg, wedi fy llwyr orchfygu; ac yr oeddwn yn bopeth y gellid disgwyl i'r creadur mwyaf annuwiol, caled, a difeddwl ymysg llongwyr cyffredin fod, heb feddu'r syniad lleiaf am ofn Duw mewn perygl nac am ddiolchgarwch i Dduw mewn gwaredigaethau.
Mae'n wir, pan leniais yma gyntaf, a gweld holl griw fy llong wedi boddi, a minnau wedi fy achub, fy mod yn synnu â math o berlewyg a gorfoledd enaid a allasai, gyda chymorth gras Duw, fod wedi troi'n wir ddiolchgarwch; ond diweddodd lle y dechreuodd, mewn hwyl o lawenydd yn unig; dim byd ond math o lawenydd cyffredin fel y bydd gan forwyr wedi eu dwyn i'r lan yn ddiogel o longddrylliad, ac a anghofir ganddynt bron cyn gynted ag y bo drosodd; ac yr oedd gweddill fy oes innau felly. Hyd yn oed y ddaeargryn, er na allai dim byd fod yn fwy ofnadwy yn ei natur, na dim ddangos y Gallu anweledig yn fwy uniongyrchol, eto nid cynt yr oedd y braw cyntaf drosodd nag y diflannodd yr argraff a wnaethai hefyd.
Ond yn awr, pan ddechreuais fod yn sâl, a phan ddechreuodd fy ysbrydoedd suddo dan faich afiechyd cryf, a Natur wedi diffygio gan rym y clefyd, dechreuodd fy nghydwybod, a fuasai yng nghwsg cyhyd, ddihuno, a dechreuais edliw i mi fy hun orffennol fy mywyd.
"Yn awr," meddwn yn uchel, "y mae geiriau fy nhad wedi dod i ben; y mae cyfiawnder Duw wedi fy nal, ac nid oes gennyf neb i'm cynorthwyo nac i wrando arnaf. Trois yn glustfyddar i lais Rhagluniaeth a'm gosodasai'n drugarog mewn sefyllfa bywyd lle y gallaswn fod yn hapus ac yn esmwyth, ond ni welwn mo hynny fy hunan, ac ni fynnwn wybod gan fy rhieni fendith oedd yn hynny. Gadewais hwynt i alaru uwchben fy ffolineb, ac yn awr fe'm gadewir innau i alaru oherwydd canlyniadau hynny. Gwrthodais eu help a'u cynhorthwy, ac yn awr y mae gennyf anawsterau i'w gorchfygu, a heb ddim cynhorthwy, dim cysur, dim cyngor."
Yna llefais allan: "Arglwydd, bydd yn gymorth i mi, canys yr wyf mewn cyfyngder."
Dyma'r weddi gyntaf, os yw yn iawn i mi ei galw felly, a wnaethwn ers blynyddoedd. Ond dychwelaf at fy nyddlyfr.
PENNOD X.
EI ADFERIAD—CAEL CYSUR WRTH DDARLLEN YR YSGRYTHURAU—MYND AR DAITH I GANOL YR YNYS—CODI EI HAFOTY.
MEHEFIN 28.—Gan fy mod wedi fy iacháu ryw ychydig drwy'r cwsg a gawswn, a'r ffit wedi cilio'n llwyr, codais; eto tybiwn y buasai ffit o'r cryd yn dod eilwaith drannoeth, a dyma'r amser i mi gael rhywbeth i'm hadfywio ac i'm cynnal pan fyddwn yn sâl. A'r peth cyntaf a wneuthum oedd llenwi costrel fawr â dŵr, a'i gosod ar y bwrdd yng nghyrraedd fy ngwely; ac i dynnu ymaith ias y dŵr, rhoddais tua chwarter peint o rum ynddo a chymysgais hwynt ynghyd. Yna cymerais ddarn o gig gafr, a rhostiais ef ar y marwor, ond ni allwn fwyta ond ychydig iawn. Cerddais o amgylch, ond yr oeddwn yn wan iawn, ac yn brudd a digalon iawn oherwydd fy nghyflwr truenus, ac yn arswydo rhag i'r clefyd fy aildaro drannoeth. Yn y nos gwneuthum swper o dri ŵy crwban a rostiais yn y lludw; a dyma'r pryd cyntaf i mi ofyn bendith Duw arno, hyd y gallwn gofio, yn fy mywyd.
Yn awr, gan fod ofn i'm hanhwyldeb ddychwelyd yn peri arswyd i mi, trawodd i'm meddwl na chymer y Brasiliaid ddim ffisig heblaw eu tybaco at bob anhwyldeb bron; ac yr oedd gennyf rolyn o dybaco wedi ei sychu'n iawn yn un o'r cistiau, a pheth hefyd oedd yn las a heb sychu'n llwyr.
Fe'm harweiniwyd gan y Nefoedd yn ddiamau; canys yn y gist hon cefais feddyginiaeth at Gorff ac enaid. Agorais y gist a chefais y peth yr oeddwn yn edrych amdano, sef, y tybaco; a chan mai yno yr oedd yr ychydig lyfrau oedd gennyf, tynnais allan un o'r Beiblau y soniais amdanynt o'r blaen nad oeddwn hyd yn hyn wedi cael na hamdden na thuedd i edrych arnynt.
Ni wyddwn pa ddefnydd i'w wneud o'r tybaco at fy afiechyd, na pha un a oedd daioni ynddo ai peidio; ond gwneuthum amryw arbrofion gydag ef. I ddechrau, cymerais ddarn o ddeilen a chnoais hi yn fy ngheg yr hyn â'm pensyfrdanodd bron ar y cyntaf, gan fod y tybaco'n las ac yn gryf, a minnau heb gynefino ag ef. Yna mwydais beth am awr neu ddwy mewn rum, a phenderfynu cymryd dogn ohono wrth fynd i orwedd. Ac yn olaf, llosgais beth ar badell lo, a dal fy nhrwyn yn glos uwchben ei fwg gyhyd ag y medrwn ei ddioddef.
Yn ystod yr amser hwn cydiais yn y Beibl, a dechreuais ddarllen, a dim ond agor y llyfr ar ddamwain, y geiriau cyntaf a'm trawodd oedd y rhain: "Galw arnaf fi yn nydd trallod; mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi." Yr oedd y geiriau hyn yn addas iawn i'm hachos i, a gwnaethant argraff ar fy meddwl yr adeg y darllenais hwynt, er nad cymaint ag a wnaethant wedi hynny.
Yr oedd yn hwyrhau yn awr, ac yr oedd y tybaco wedi effeithio cymaint ar fy mhen nes fy mod bron â chysgu; felly gadewais fy lamp i losgi yn yr ogof rhag ofn y buasai arnaf eisiau rhywbeth yn y nos, ac euthum i'm gwely. Ond cyn i mi orwedd i lawr, gwneuthum beth na wnaethwn mohono erioed yn fy mywyd: penliniais, a gweddïais ar Dduw i gyflawni'r addewid i mi, sef, os galwn arno Ef yn nydd trallod, y gwaredai Ef fi. Pan oedd fy ngweddi ddrylliog ac amherffaith drosodd, yfais y rum yr oeddwn wedi mwydo'r tybaco ynddo, ac euthum i'm gwely ar unwaith. Yn fuan, cododd y rum i'm pen yn ofnadwy; ond syrthiais i drymgwsg, ac ni ddeffroais mwyach, nes ei bod, yn ôl yr haul, tua thri o'r gloch brynhawn trannoeth. Yn wir, 'rwy'n credu i mi gysgu drwy'r dydd drannoeth a'r noson wedyn, a than dri y dydd dilynol, onid e ni wn sut y bu i mi golli diwrnod yn fy nghyfrif o ddyddiau'r wythnos, fel yr ymddangosai ymhen rhai blynyddoedd wedyn i mi' ei wneud. Beth bynnag am hynny, pan ddeffroais yr oeddwn wedi fy adfywio yn anghyffredin; a phan godais, yr oeddwn yn gryfach nag oeddwn y diwrnod cynt, a'm stumog yn well gan fod arnaf eisiau bwyd, a deliais ati i wella. Y 29 oedd hyn.
Y 30 euthum allan gyda'm gwn, ond nid oeddwn am deithio'n rhy bell. Lleddais un neu ddau o adar môr, a deuthum â hwynt adref, ond nid oedd arnaf fawr o awydd eu bwyta, a bwyteais ychwaneg o wyau'r crwban, oedd yn dda iawn. Y noswaith hon cymerais beth o'r feddyginiaeth drachefn, sef, tybaco mewn rum; ond ni chymerais gymaint â'r tro o'r blaen, ac ni chnoais ddim o'r ddeilen, na dal fy mhen uwchben y mwg. Fodd bynnag, nid oeddwn lawn cystal drannoeth (sef Gorffennaf 1) ag y gobeithiwn y buaswn, gan i mi gael tipyn o gryndod, ond dim llawer.
Gorff. 2.—Cymerais y feddyginiaeth drachefn, bob un o'r tair ffordd, a'm dogni fy hun ag ef fel ar y dechrau, ac yfed cymaint ddwywaith.
Gorff. 3.—Cael gwared o'r cryd am byth, er na enillais fy nerth yn llawn am rai wythnosau wedyn. Euthum ar fy ngliniau a diolchais yn uchel i Dduw am fy adferiad o'm clefyd.
Gorff. 4.—Yn y bore cymerais y Beibl, a chan ddechrau yn y Testament Newydd, dechreuais ei ddarllen o ddifrif. Ni fu'n hir wedi i mi afael yn y gwaith hwn o ddifrif na ddwysbigwyd fy nghalon gan ddrygioni fy mywyd yn y gorffennol. Yn fy meddwl rhedai'r geiriau," Nid yw'r pethau hyn i gyd wedi dy arwain i edifeirwch." Erfyniwn yn daer ar Dduw am roddi i mi edifeirwch; a'r diwrnod hwnnw wrth ddarllen yr Ysgrythur deuthum at y geiriau hyn: "Dyrchefir Ef yn Dywysog ac yn Iachawdwr i roddi edifeirwch a maddeuant pechodau." Teflais y llyfr i lawr, a chan ddyrchafu fy nghalon yn ogystal â'm dwylo i'r nefoedd, mewn rhyw lesmair o lawenydd, gwaeddais yn uchel: "Iesu Fab Dafydd! Iesu, Ti Dywysog ac Iachawdwr Dyrchafedig, dyro i mi edifeirwch!"
Dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd y gallaf ddweud i mi weddïo yng ngwir ystyr y geiriau, gan i mi weddio yn awr gydag ymdeimlad o'm cyflwr a chennyf olwg wir ysgrythurol ar obaith wedi ei seilio ar anogaeth Gair Duw; ac o'r pryd hwn, gallaf ddweud i mi ddechrau gobeithio y gwrandawai Duw arnaf.
O'r 4ydd o Orffennaf i'r 14eg, bum cerdded o yn amgylch a'm gwn yn fy llaw, ryw ychydig ar y tro, fel gŵr yn adennill ei nerth ar ôl ffit o afiechyd.
Yr oeddwn yn awr wedi bod dros ddeng mis yn yr ynys annedwydd hon, a chredwn yn sicr nad oedd yr un bod dynol erioed wedi gosod troed ar y lle. Gan fy mod yn awr wedi llwyr ddiogelu fy nhrigfan, i'm tyb i, yr oedd arnaf awydd mawr darganfod yr ynys yn fwy cyflawn, a gweld pa gynnyrch arall a fedrwn ei gael na wyddwn eto ddim amdano.
Ar y 15fed o Orffennaf y dechreuais wneud archwiliad manylach o'r ynys ei hun. Euthum i fyny'r gilfach yn gyntaf, lle y deuthum â'r rafftiau i'r lan. Wedi i mi fynd i fyny tua dwy filltir, gwelwn nad oedd y llanw yn llifo'n ddim uwch, ac nad ydoedd yn ddim byd mwy na ffrwd fechan o ddŵr rhedegog, ac yr oedd yn groyw ac yn dda iawn, ond gan mai'r tymor sych ydoedd hwn, nid oedd nemor ddim dŵr mewn rhai darnau ohoni, o leiaf, dim digon i redeg yn fath yn y byd o lif ag y gellid ei weld.
Ar lannau'r nant hon cefais amryw Savannas hyfryd, neu ddolydd llyfn a gwastad, wedi eu gorchuddio â gwellt; ac ar y darnau codi ohonynt, yn nesaf at y tiroedd uchaf, lle nad oedd y dŵr byth yn llifo drosodd, cefais gryn lawer o dybaco glas yn tyfu'n gyrs mawr cryfion anghyffredin. Yr oedd yno amryw blanhigion eraill hefyd, na wyddwn i ddim amdanynt, ac iddynt rinweddau arbennig efallai, na fedrwn i mo'u darganfod. Chwiliais am wreiddyn y cassava, y bydd yr Indiaid yn y parthau hyn yn gwneud eu bara ohono, ond ni fedrwn gael dim. Gwelais brennau aloes mawrion, ond nid oeddwn yn eu deall ar y pryd. Gwelais amryw gorsennau siwgr, ond yn wyllt, ac o ddiffyg triniaeth yn amherffaith. Bodlonais ar y darganfyddiadau hyn am y tro, a dychwelais, gan fyfyrio pa gwrs a gymerwn i wybod rhinwedd a lles y ffrwythau a'r planhigion a ddarganfyddwn, ond methu â chyrraedd yr un casgliad, gan i mi gymryd cyn lleied o sylw tra'r oeddwn yn y Brazils fel na wyddwn ond ychydig am brennau'r maes, o leiaf, ychydig iawn o ddim a fyddai o fudd yn y byd i mi'n awr yn fy nghyfyngder.
Trannoeth,—yr 16eg,—euthum i fyny'r un ffordd drachefn, ac wedi mynd beth ymhellach nag yr aethwn y diwrnod cynt, gwelwn y nant a'r Savannas yn dechrau darfod, a'r wlad yn dyfod yn fwy coediog nag o'r blaen. Yn y rhan hon cefais wahanol ffrwythau, ac yn arbennig, cefais ddigonedd o felonau ar lawr a grawnwin ar y coed. Yn wir, yr oedd y gwinwydd wedi gorchuddio'r coed, ac yr oedd sypiau'r grawnwin yn awr ar eu gorau, yn aeddfed a pheraidd iawn. Yr oedd hyn yn ddarganfyddiad rhyfedd, ac yr oeddwn yn falch iawn ohonynt; ond rhybuddid fi gan fy mhrofiad i fwyta'n brin ohonynt, gan gofio, pan oeddwn ar y lan yn Barbary, fod bwyta grawnwin wedi lladd amryw Saeson oedd yn gaethion yno. Ond gwneuthum ddefnydd ardderchog o'r grawnwin, sef, eu sychu yn yr haul, a'u cadw fel y cedwir grawnwin wedi eu sychu neu resin, a thybiwn y byddent cyn iached ac mor ddymunol i'w bwyta, pan na fyddai grawnwin i'w cael.
Gwelais yma hefyd ddigonedd o goed coco, oraens, lemwn, a choed citron, ond y cwbl yn wyllt, ac nid oedd dim ond ychydig iawn ohonynt yn dwyn ffrwyth, o leiaf ddim ar y pryd. Yr oedd gennyf yn awr ddigon o waith casglu a chludo adref; a phenderfynais grynhoi ystôr o ffrwythau gogyfer â'r tymor gwlyb oedd ar ddyfod. Felly wedi treulio tridiau ar y daith hon, deuthum adref; ac wedi dychwelyd, meddyliwn gyda phleser mawr am ffrwythlondeb y dyffryn hwnnw, a hyfrydwch y safle; y diogelwch rhag ystormydd ar yr ochr honno; y dŵr a'r coed, a barnwn fod y lle yr oeddwn wedi gosod fy nhrigfan ynddo y darn gwaethaf o'r wlad o ddigon. Ar y cyfan, dechreuais ystyried symud fy nhrigfan ac edrych am le yr un mor ddiogel â'r man yr oeddwn ynddo'n awr, os yn bosibl, yn y rhan ffrwythlon a dymunol o'r ynys.
Yr oeddwn wedi ymserchu cymaint yn y lle, fel y treuliais lawer o'm hamser yno yn ystod gweddill mis Gorffennaf; ac er i mi, ar ôl ailystyried benderfynu peidio â symud, eto codais yno fath o hafoty bychan, a chodais wrych cadarn o'i amgylch, a hwnnw'n glawdd dyblyg cyn uched ag y medrwn gyrraedd, gyda physt cryfion ynddo, a phrysgwydd rhyngddynt. Ac yma yr arhoswn yn hollol ddiogel, weithiau am ddwy noson neu dair gyda'i gilydd, gan fynd iddo bob amser gydag ysgol, fel cynt. Bûm wrth y gwaith hwn tan ddechrau Awst.
Tua dechrau Awst, fel y dywedais, yr oeddwn wedi gorffen fy hafoty, a dechrau fy mwynhau fy hun. Y 3ydd o Awst, gwelais fod y grawnwin a grogaswn i fyny yn berffaith sych, a dechreuais eu tynnu i lawr oddiar y coed; a da iawn oedd i mi wneud hynny, gan y buasai'r glawogydd a fu ar ôl hynny wedi eu difetha, a buaswn wedi colli y rhan orau o'm bwyd gaeaf, gan fod gennyf dros ddau gan swp ohonynt. Nid cynt yr oeddwn wedi eu tynnu i lawr, ac wedi cludo y rhan fwyaf ohonynt adref i'm hogof, nag y dechreuodd fwrw glaw; ac o'r pryd hwn, sef y 14ydd o Awst, bu'n bwrw fwy neu lai bob dydd tan ganol Hydref, ac weithiau mor ofnadwy fel na fedrwn symud o'm hogof am amryw ddyddiau.
Yr adeg hon, fe'm synnwyd yn fawr gan ychwanegiad yn fy nheulu. Yr oeddwn wedi bod yn bryderus oherwydd colli un o'm cathod a ddiangasai oddiwrthyf, neu fel y tybiwn i, a oedd wedi marw, ac ni chlywais ddim mwy am dani, nes, er syndod i mi, iddi ddyfod adref tua diwedd Awst gyda thair cath fach. Yr oedd hyn yn rhyfeddach fyth i mi, canys, er fy mod wedi lladd cath wyllt â'm gwn, eto tybiwn ei bod yn fath hollol wahanol i'n cathod Ewropeaidd ni, ond yr oedd y cathod bach yn frid tai yr un fath â'r hen un; a chan mai dwy gath fenyw oedd fy rhai i, tybiwn ei fod yn beth rhyfedd iawn. Ond o'r tair cath hyn, fe'm blinwyd gymaint gan gathod wedyn nes y bu raid i mi eu lladd fel bwystfilod gwylltion, a'u gyrru allan o'm tŷ gymaint ag oedd yn bosibl.
O'r 14 0 Awst i'r 26, glaw dibaid, fel na allwn i ddim cyffro, ac yr oeddwn yn ofalus iawn yn awr i beidio â gwlychu llawer. Yn y carchar hwn, dechreuodd fynd yn gyfyng arnaf am fwyd, ond gan fentro allan ddwywaith lleddais afr un diwrnod, a'r diwrnod olaf, sef y 26, cefais grwban mawr oedd yn amheuthun i mi. Dyma fel y trefnid fy mwyd yn awr: bwytawn swp o resin i'm brecwast, darn o gig gafr neu'r crwban wedi ei rostio i'm cinio, a dau neu dri wy crwban i'm swper.
Yn ystod y caethiwed hwn, gweithiwn ddwyawr neu dair bob dydd i helaethu fy ogof, ac yn raddol gyrrais hi ymlaen ar un ochr nes y deuthum allan o'r bryn, a gwneuthum ddrws neu ffordd ohoni a ddeuai y tu hwnt i'm clawdd, a felly deuwn i mewn ac allan y ffordd hon.
Medi 30.—Yr oeddwn yn awr wedi cyrraedd pen blwydd annedwydd dydd y glanio. Cyfrifais y bylchau yn fy mhostyn, a gwelais i mi fod ar y lan am dri chant a thrigain a phump o ddyddiau. Cedwais hwn yn ddydd o ympryd dwys, gan ei neilltuo i ymarfer crefyddol, ac ymgrymu ar lawr gyda'r gostyngeiddrwydd mwyaf difrifol, cyffesu fy mhechodau i Dduw, cydnabod Ei farnedigaethau cyfiawn arnaf, a gweddïo arno Ef i gymryd trugaredd arnaf trwy Iesu Grist; chan nad oeddwn wedi profi'r mymryn lleiaf o fwyd am ddeuddeng awr, hyd yn oed tan fachlud haul, bwyteais fisgeden y pryd hwnnw a swp o rawnwin, ac euthum i'm gwely, gan orffen y diwrnod fel y dechreuais ef.
Trwy'r amser hyn i gyd nid oeddwn wedi cadw'r un Dydd Saboth, canys, gan nad oedd gennyf ar y cyntaf yr un syniad am grefydd yn fy meddwl, ymhen peth amser, yr oeddwn wedi esgeuluso gwahaniaethu'r wythnosau, trwy wneud bwlch hwy nag arfer am y Dydd Saboth, a felly ni wyddwn yn iawn beth oedd dim un dydd. Ond yn awr, wedi i mi gyfrif y dyddiau, gwelwn fy mod wedi treulio blwyddyn yno, a rhennais hi'n wythnosau, gan neilltuo pob seithfed dydd yn Saboth; er i mi ganfod ar y diwedd fy mod wedi colli diwrnod neu ddau yn fy nghyfrif. Ymhen ychydig wedyn dechreuodd fy inc ballu gennyf, a bodlonais i'w ddefnyddio'n brinnach, heb ysgrifennu dim i lawr ond digwyddiadau mwyaf nodedig fy mywyd.
Yn awr yr oedd y tymor glawog a'r tymor sych yn dechrau ymddangos yn rheolaidd i mi, a dysgais eu rhannu fel y gallwn felly ddarparu ar eu cyfer. Soniais eisoes fy mod wedi cadw ychydig dywysennau haidd a reis, ac yn awr tybiwn ei bod yn amser priodol i'w hau ar ôl y glawogydd. Felly cloddiais ddarn o dir orau y medrwn gyda'm rhaw bren, a heuais fy ngrawn.
Tra'r oedd yr ŷd yn tyfu, gwneuthum ddarganfyddiad bychan a fu o ddefnydd i mi wedyn. Cyn gynted ag yr oedd y glawogydd drosodd, ac i'r tywydd ddechrau setlo, a hynny tua mis Tachwedd, ymwelais â'm hafoty yn y wlad, ac er na fuaswn yno ers rhai misoedd, eto cefais bopeth yn union fel y gadawswn hwynt. Yr oedd y cylch neu'r clawdd dyblyg a wnaethwn, nid yn unig yn gadarn a chyfan, ond yr oedd y pyst a doraswn oddiar rai o'r coed a dyfai o amgylch wedi blaguro i gyd, a changau hirion wedi tyfu arnynt. Yr oeddwn wedi synnu (ac eto wrth fy modd yn gweld y coed ifainc yn tyfu), a thociais hwynt, gan eu troi i fyny er mwyn iddynt dyfu mor debyg i'w gilydd ag oedd yn bosibl. Ac y mae'n anhygoel bron brydferthed y tyfasant ymhen tair blynedd, canys er bod y clawdd yn ffurfio cylch tua phum llath ar hugain o dryfesur, eto cuddiodd y coed ef yn fuan, ac yr oedd yn gysgod perffaith, yn ddigon i lechu dano trwy gydol y tymor sych.
Parodd hyn i mi benderfynu torri ychwaneg o stanciau, a gwneuthur clawdd fel hwn o amgylch fy nhrigfan gyntaf, a gwneuthum hynny; a chan osod y coed neu'r stanciau mewn rhes ddyblyg, tuag wyth lath o bellter oddiwrth y clawdd cyntaf, tyfasant yn union deg; ac ar y cyntaf yr oeddynt yn gysgod gwych i'm preswylfa, ac wedyn buont yn amddiffyn hefyd, fel y dangosaf eto.
PENNOD XI.
ROBINSON YN MYND AR DAITH I YSBÏO'R YNYS.
CANFÛM yn awr y gellid rhannu tymhorau'r flwyddyn yn gyffredin, nid yn haf a gaeaf fel yn Ewrop, ond yn dymhorau glawog a thymhorau sych; fel hyn gan mwyaf:
Hanner Chwefror | Glawog, gan fod yr haul y pryd hwnnw un ai ar Linell y Cyhydedd, neu yn agos iddi. |
Mawrth | |
Hanner Ebrill |
Hanner Ebrill | Sych, gan fod yr haul pryd hwnnw ar y Gogledd i'r Llinell. |
Mai | |
Mehefin | |
Gorffennaf | |
Hanner Awst |
Hanner Awst | Glawog, gan fod yr haul wedi dychwelyd yr adeg honno. |
Medi | |
Hanner Hydref |
Hanner Hydref' | Sych, gan fod yr haul y pryd hwnnw ar y deau i'r Llinell. |
Tachwedd | |
Rhagfyr | |
Ionawr | |
Hanner Chwefror |
Daliai'r tymhorau glawog weithiau'n hwy ac weithiau'n fyrrach, fel y digwyddai'r gwyntoedd chwythu; ond dyma fel y sylwais arni at ei gilydd. Wedi i mi ganfod trwy brofiad y canlyniadau niweidiol o fod allan yn y glaw, gofelais am ddarbod fy ymborth ymlaen llaw, fel na fyddai dim rhaid i mi fynd allan; ac eisteddwn i mewn gymaint ag oedd yn bosibl yn ystod y misoedd gwlybion. Yr oedd gennyf ddigon i'w wneud, gan fod arnaf eisiau amryw bethau nad oedd modd i mi eu cael ond trwy lafur caled ac ymroddiad cyson, yn arbennig, cynigiais amryw ffyrdd ar wneud basged, ond yr oedd yr holl frigau a fedrwn gael i'r pwrpas mor frau fel nad oeddynt dda i ddim. Ond un diwrnod trawodd i'm meddwl y buasai brigau'r goeden y toraswn y stanciau ohoni cyn wytned â helyg, a phenderfynais roi cynnig arnynt. A thrannoeth euthum i'm tŷ yn y wlad, fel y galwn ef, ac wedi torri rhai o'r brigau lleiaf, gwelwn eu bod i'r pwrpas; a'r tro nesaf, euthum yno gyda bwyall a thorri llawer ohonynt, gan fod yno ddigonedd. Dodais y rhain i sychu wrth y clawdd, a phan oeddynt yn barod i'w defnyddio cludais hwynt i'm hogof; ac yma yn ystod y tymor nesaf, bum wrthi orau y medrwn yn gwneud basgedi i gario pridd, a hefyd i gludo neu gadw unrhyw beth yn ôl fel y byddai angen arnaf. Ac er nad oeddwn yn eu gorffen yn hardd iawn, eto gwnawn hwynt yn ddigon buddiol i'm pwrpas i.
Soniais o'r blaen fod arnaf awydd mawr gweld yr ynys i gyd; ac yn awr, penderfynais deithio ar ei thraws i'r ochr arall, a chan gymryd fy ngwn, bwyall, a'm ci, a llawer mwy o bowdwr a haels nag arfer, gyda dwy deisen galed a swp mawr o resin, cychwynnais ar fy nhaith. Wedi i mi fynd heibio i'r dyffryn lle y safai fy hafoty, deuthum i olwg y môr yn y gorllewin, a chan ei bod yn ddiwrnod clir gwelwn dir yn eglur, ond ni fedrwn ddweud pa un ai ynys ai cyfandir ydoedd; ond codai'n uchel iawn gan ymestyn o'r gorllewin i'r De—Orllewin yn y pellter; yn fy marn i, nid oedd ddim llai na phymtheg i ugain milltir o ffordd.
Ni wyddwn pa ran o'r byd a allai hwn fod, heblaw fy mod yn gwybod ei fod yn rhyw ran o'r America, a barnwn yn sicr ei fod yn agos i diriogaethau'r Ysbaen, ac anwariaid efallai yn byw yno; a phe buaswn wedi glanio yno buaswn mewn cyflwr gwaeth nag yr oeddwn ynddo'n awr. Bodlonais felly ar drefn Rhagluniaeth, a dechreuais gredu ei bod yn trefnu popeth er gwell. Felly cerddais ymlaen yn hamddenol, a chefais fod yr ochr hon i'r ynys, lle yr oeddwn yn awr, yn hyfrytach o lawer na'm hochr i,—y Savannas neu'r dolydd teg, wedi eu haddurno â blodau a glaswellt, ac yn llawn coedwigoedd hyfryd.
Gwelais lawer parrot yno, a buaswn yn falch o fod wedi dal un i'w gadw'n ddof a'i ddysgu i siarad â mi. Ac ar ôl cymryd cryn drafferth, fe ddeliais barrot ifanc, gan i mi ei daro i lawr â'm ffon; ac wedi i mi ei gael, deuthum ag ef adref; ond ni fedrais ei ddysgu i siarad am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, o'r diwedd dysgais ef i'm galw wrth fy enw.
Cefais hwyl anghyffredin ar y daith hon. Ar y gwastadeddau cefais ysgyfarnogod, fel y tybiwn i, a llwynogod; ond yr oedd gwahaniaeth mawr

Y pethau rhyfedd, di-lun, hyll a wneuthum.
(Gwel tud. 107).
rhyngddynt a rhai eraill a welswn, ac ni allwn feddwl am eu bwyta er i mi ladd amryw; ond nid oedd dim rhaid i mi fentro hynny, gan nad oedd dim prinder bwyd arnaf, a hwnnw'n beth da iawn hefyd, yn enwedig y tri math hyn, sef geifr, colomennod, a chrwban.
Cyn gynted ag y deuthum i lan y môr, fe'm synnwyd wrth weld fy mod wedi bwrw fy nghoelbren ar yr ochr waethaf i'r ynys, canys yma yr oedd y traeth wedi ei orchuddio â chrwbanod di—rif, tra ar yr ochr arall, nid oeddwn wedi canfod dim ond tri mewn blwyddyn a hanner. Yr oedd yma hefyd nifer diderfyn o adar o bob math; rhai yr oeddwn wedi eu gweld o'r blaen, a rhai na welswn erioed mohonynt, ac ni wyddwn mo'u henwau, heblaw y rhai a elwir yn adar pengwyn.
'Rwy'n cyfaddef fod yr ochr hon i'r wlad yn hyfrytach o lawer na'r eiddof fi, eto, nid oedd ynof duedd leiaf i symud. Fodd bynnag, teithiais ar hyd glan y môr i'r dwyrain, tua deuddeng milltir mae'n debyg, ac yna gan osod polyn mawr ar y traeth yn arwydd, penderfynais fynd adref drachefn, ac y cymerwn y daith nesaf i'r ochr arall i'r ynys, ar du'r dwyrain i'm trigfan, ac felly ar gylch nes dyfod i'r polyn drachefn.
PENNOD XII.
DYCHWELYD ADREF—LLWYDDO I DRIN Y TIR.
DYCHWELAIS ar hyd ffordd arall, gan dybio y medrwn yn hawdd gadw'r ynys i gyd gymaint yn fy ngolwg, fel na fethwn gael hyd i'm cartref cyntaf wrth edrych ar y wlad. Ond gwelais fy mod yn camsynied, canys wedi i mi ddyfod tua dwy filltir neu dair, gwelwn fy mod wedi disgyn i ddyffryn mawr, ond yr oedd wedi ei amgylchu â bryniau a'r rheini wedi eu gorchuddio â choed, fel na fedrwn weld fy ffordd ond yn ôl cyfarwyddyd yr haul, a dim hyd yn oed felly, oni bai fy mod yn gwybod yn iawn beth oedd safle'r haul yr adeg honno o'r dydd. Ac yn anffodus hefyd, digwyddodd fod y tywydd yn niwlog am dridiau neu bedwar tra'r oeddwn yn y dyffryn hwn; a chan na fedrwn weld yr haul, crwydrais o gwmpas yn bur anghysurus, ac o'r diwedd bu raid i mi gyrchu am y traeth, edrych am fy mholyn, a dychwelyd y ffordd yr aethwn; ac yna bob yn dipyn trois tuag adref, a'r tywydd yn hynod o boeth, a'm gwn, y taclau saethu, y fwyall, a phethau eraill yn drwm iawn. Ar y daith hon, cododd fy nghi fyn gafr ifanc a chydiodd ynddo; a chan redeg ato i afael ynddo deliais ef, ac achubais ef yn fyw oddiar y ci. Yr oedd arnaf awydd garw mynd ag ef adref os medrwn, canys yr oeddwn wedi bod yn meddwl droeon oni byddai'n bosibl cael myn neu ddau a chodi brid o eifr dofion i'm cyflenwi â bwyd pan fyddai fy mhowdr a'm haels wedi gorffen i gyd. Gwneuthum goler i'r creadur bach yma, ac arweiniais ef wrth linyn, er gyda chryn drafferth, nes y deuthum i'm hafoty, ac yno caeais ef i mewn a gadewais ef, canys yr oeddwn yn wyllt am fynd adref, a minnau wedi bod oddi yno am dros fis.
Ni allaf fynegi mor falch oeddwn o ddyfod yn ôl i'm hen gaban, a chysgu ar fy ngwely hamoc. Wedi taith o grwydro fel hyn, yr oedd popeth yno mor gysurus, fel y penderfynais nad awn i byth ymhell oddiyno wedyn, tra byddwn ar yr ynys. Arhosais yma am wythnos i orffwyso ar ôl fy nhaith hir, a threuliais y rhan fwyaf o'r amser gyda'r gorchwyl pwysig o wneud caets i'm Poli, a ddechreuodd yn awr fod yn fwy dof, ac yn gyfeillgar iawn â mi. Yna dechreuais feddwl am y myn gafr druan a gaeaswn i mewn, a phenderfynais fynd i'w nôl adref, neu fynd i roi bwyd iddo. Felly fe euthum, a chefais ef lle y gadawswn ef, ond bron â marw o eisiau bwyd. Euthum i dorri cangau o'r coed ac unrhyw frigau a allwn gael, ac wedi i mi ei fwydo rhwymais ef fel o'r blaen i'w dywys ymaith, ond yr oedd mor ddof trwy fod arno eisiau bwyd, fel nad oedd angen i mi ei rwymo, canys dilynai fi fel ci. A chan fy mod yn ei fwydo'n gyson, daeth mor annwyl, mor fwyn, ac mor hoffus, fel yr oedd yntau hefyd o'r pryd hwnnw yn un o'm creaduriaid dof, ac ni'm gadawai fyth wedyn.
Yr oedd tymor glawog Cyhydedd yr Hydref wedi dyfod yn awr, a chedwais y 30 o Fedi mewn dull crefyddol fel o'r blaen, gan ei fod yn ben blwydd fy nglanio ar yr ynys, ac yr oeddwn wedi bod yno yn awr am ddwy flynedd. Diolchais yn ostyngedig a chynnes fod Duw wedi gweld yn dda dangos i mi y gallaswn fod yn hapusach yn y cyflwr unig hwn nag a fuaswn yng nghanol rhyddid cymdeithas ac ymysg pleserau'r byd.
Dyma'r adeg y dechreuais deimlo gymaint hapusach ydoedd y bywyd a arweiniwn yn awr na'r bywyd drwg, melltigedig, atgas a arweiniwn yng ngorffennol fy mywyd. Cyn hyn, pan awn allan, un ai i hela neu i weld y wlad, byddai ing fy enaid oherwydd fy nghyflwr yn torri drosof yn sydyn a byddai fy nghalon megis yn marw ynof, wrth feddwl am y coedwigoedd, y mynyddoedd, a'r diffeithleoedd yr oeddwn ynddynt, a minnau'n garcharor wedi fy nghloi i fyny â barrau tragwyddol a bolltau'r eigion, mewn diffeithwch anghyfannedd, heb ymwared. Weithiau trawai fi yng nghanol fy ngwaith, ac fe eisteddwn i lawr ar unwaith gan ochneidio, ac edrych ar y ddaear am awr neu ddwy.
Ond yn awr, darllenwn Air Duw bob dydd, a chymhwyswn ei holl gysuron i'm cyflwr presennol. Un bore, a minnau'n drist iawn, agorais y Beibl ar y geiriau hyn: "Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith"; ac ar unwaith fe'm trawodd mai i mi yr oedd y geiriau hyn. O'r foment hon penderfynais ei bod yn bosibl i mi fod yn hapusach yn y cyflwr unig a diymgeledd hwn, nag a fuaswn mewn unrhyw gyflwr arall yn y byd, ac â'r meddwl hwn mynnwn roddi diolch i Dduw am iddo fy nwyn i'r fangre hon.
Ac fel hyn y dechreuais fy nhrydedd flwyddyn; ac er nad ydwyf wedi blino'r darllenydd gyda chyfrif mor fanwl o'm gorchwylion y flwyddyn hon â'r gyntaf, eto anfynych iawn y byddwn yn segur, gan fy mod wedi rhannu fy amser yn gyson yn ôl y gorchwylion dyddiol oedd o'm blaen; megis, yn gyntaf, fy nyletswydd tuag at Dduw a darllen yr Ysgrythurau, gan roddi peth amser iddynt deirgwaith bob dydd; yn ail, mynd allan gyda'm gwn am fwyd yr hyn a gymerai i mi'n gyffredin deirawr bob bore, pan na fyddai'n bwrw glaw; yn drydydd, trin, halltu, cadw, a choginio'r peth fyddwn wedi ei ladd yn ymborth i mi; hefyd, ganol dydd pan oedd yr haul yn ei anterth yr oedd angerdd y gwres yn ormod i mi symud, fel na ellid disgwyl i mi weithio ond am ryw bedair awr yn yr hwyr; gydag eithrio, y byddwn weithiau yn newid fy oriau hela a gweithio, a mynd i weithio yn y bore, ac allan gyda'm gwn yn y prynhawn.
At yr amser byr a roddid i waith, dymunwn ychwanegu bod fy ngwaith yn llafurfawr anghyffredin; cymerai popeth a wnawn oriau o'm hamser, trwy ddiffyg arfau, diffyg help, a diffyg medr; er enghraifft, bûm ddau ddiwrnod a deugain yn gwneud ystyllen yr oedd arnaf ei heisiau yn silff hir yn fy ogof; a buasai dau lifiwr, gyda'u harfau a'u march llifio, yn torri chwech ohonynt o'r un goeden mewn hanner diwrnod.
Dyma fy helynt i: yr oedd y goeden oedd i'w thorri yn un fawr, gan fod yr ystyllen i fod yn un lydan. Bum am dridiau yn torri'r goeden, a dau arall yn torri'r cangau i'w gwneud yn un coedyn. Trwy ddarnio a naddu anghyffredin, teneuais ei dwy ochr yn asglodion nes yr oedd yn ddigon ysgafn i'w symud; yna troais hi, a gwneuthum un ochr iddi yn llyfn ac yn wastad fel bwrdd, a chan droi'r ochr honno yn isaf, torrais yr ochr arall nes cael y planc tua thair modfedd o drwch ac yn llyfn o'r ddeutu. Gall unrhyw un farnu faint fy nhrafferth ar waith o'r fath; ond dug llafur ac amynedd fi drwy hwnnw a llawer o bethau eraill. Šoniaf am hyn yn arbennig i ddangos y rheswm dros i mi golli cymaint o amser gyda chyn lleied o waith.
Yn awr, ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, yr oeddwn yn disgwyl fy nghnwd o haidd a reis. Nid oedd y tir oeddwn wedi ei drin iddynt yn fawr; canys fel y sylwais nid oedd gennyf dros hanner pecaid o had. Ond yr oedd fy nghnwd yn argoeli'n dda; pryd yn ddisymwth y gwelwn fod perygl i mi golli'r cwbl eto trwy elynion o amryw fathau yr oedd bron yn amhosibl eu cadw oddiwrtho; megis, y geifr a'r creaduriaid gwylltion a alwn i yn ysgyfarnogod, y rhai, wedi profi melyster yr egin a orweddai ynddo nos a dydd, gan ei bori mor gwta fel na châi ddim amser i dyfu'n wellt.
Ni welwn yr un feddyginiaeth tuag at hyn, heblaw cau o'i amgylch â chlawdd; a gwneuthum hynny gyda chryn lawer o drafferth. Fodd bynnag, gan nad oedd fy nhir âr ond lled fychan, llwyddais i'w gau'n gyfan gwbl ymhen tair wythnos, a chan saethu rhai o'r creaduriaid yn ystod y dydd, rhoddwn fy nghi i'w warchod yn y nos, gan ei rwymo wrth ystanc yn yr adwy lle y safai dan gyfarth drwy'r nos. Ac ymhen ychydig amser, gadawodd y gelynion y fan, a thyfodd yr ŷd yn gryf a dechreuodd aeddfedu yn gyflym.
Ond megis y'm difethodd y bwystfilod fi o'r blaen pan oedd fy ŷd yn egino, felly hefyd yr oedd yr adar yn debyg o'm difetha'n awr pan ydoedd yn dywysennau. Canys wrth fynd heibio i'r lle i weld sut yr oedd yn ffynnu, gwelwn fy mymryn cnwd wedi ei amgylchu ag adar a safai fel pe'n aros nes y byddwn i wedi mynd. Gollyngais ergyd i'w canol ar unwaith, gan fod fy ngwn gennyf gyda mi'n wastad. Nid cynt y teniais nag y cododd cwmwl bychan o adar na welswn mohonynt o gwbl, o ganol yr ŷd ei hunan. Teniais drachefn, a lleddais dri ohonynt. Codais hwynt i fyny, a thrinais hwynt fel y byddwn ni yn trin carnlladron yn Lloegr, sef, eu crogi mewn cadwyni yn ddychryn i eraill. Anodd dychmygu i hyn gael y fath effaith ag a gafodd; canys nid yn unig fe beidiodd yr adar â dod i'r ŷd, ond fe ymadawsant â'r rhan honno o'r ynys yn llwyr; ac ni welwn fyth aderyn yn agos i'r lle tra bu'r bwganod brain yn crogi yn y fan honno. Yr oeddwn yn falch iawn o hyn; a thua diwedd Rhagfyr, ail gynhaea'r flwyddyn i ni, medais fy nghnwd.
Yr oeddwn mewn tipyn o helynt ynglŷn â phladur neu gryman i'w dorri, a'r unig beth a fedrwn ei wneud oedd llunio un orau y medrwn o un o'r bidogau a gawswn yn y llong. Beth bynnag, gan mai bychan oedd fy nghnwd cyntaf, ni chefais drafferth fawr i'w dorri. Yn fyr, medais ef yn fy ffordd fy hun, gan na thorrais ddim ond y tywysennau, a chludais hwynt ymaith mewn basged fawr a wnaethwn, a rhwbiais hwynt rhwng fy nwylo. Ac ar ddiwedd fy nghynhaeaf, allan o'm hanner pecaid o had, cefais fod gennyf bron ddau fwysel[4] o reis, a thros ddau fwysel a hanner o haidd; hynny yw, yn ôl fy nghyfrif i, gan nad oedd gennyf ddim byd i'w fesur.
Fodd bynnag, yr oedd hyn yn galondid mawr i mi, a rhagwelwn, ymhen amser, y rhyngai fodd i Dduw roddi bara i mi. Ac eto yr oeddwn mewn penbleth drachefn gan na wyddwn sut i falu neu wneud blawd o'r ŷd, nac yn wir sut i'w lanhau a'i nithio; nac ychwaith, pe gwnelid blawd ohono, sut i wneud bara ohono; a phe bawn yn gwybod sut i wneud hwnnw, eto ni wyddwn sut i'w grasu. Ond er mwyn sicrhau cyflenwad cyson, penderfynais beidio â phrofi dim o'r cnwd hwn, ond ei gadw'n hadyd i gyd erbyn y tymor wedyn; ac yn y cyfamser, defnyddio fy holl feddwl a'm horiau llafur i berffeithio'r gwaith mawr hwn o gael ŷd a bara i mi fy hun.
Gellid dywedyd yn wir fy mod yn awr yn gweithio am fy mara. Y mae'n rhyfedd y gymysgfa anarferol o fân bethau sy'n angenrheidiol i wneud bara. Parai hyn ddigalondid beunyddiol i mi, hyd yn oed wedi i mi gael y dyrnaid cyntaf o hadyd. I ddechrau, nid oedd aradr gennyf i droi'r tir, na rhaw i'w balu. Wel, gorchfygais hyn trwy wneud rhaw bren fel y sylwais o'r blaen; ac er iddi gostio dyddiau lawer i mi i'w gwneud, eto o ddiffyg haearn, nid yn unig fe dreuliodd ynghynt, ond fe wnaeth fy ngwaith yn galetach.
Wedi hau'r ŷd, nid oedd gennyf og, ond bu raid i mi fynd drosto fy hunan a thynnu brigyn coeden mawr trwm drosto i'w grafu, yn hytrach na'i gribinio neu ei lyfnu. Wedi iddo dyfu, fel y sylwais eisoes, yr oedd eisiau amryw bethau i'w fedi, i'w drin a'i gario adref, ei ddyrnu, ei wahanu oddiwrth yr us, a'i gadw. Yna yr oedd arnaf eisiau melin i'w falu, gograu i'w drin, burum a halen i wneud bara ohono, a ffwrn i'w grasu; ac eto fe wneuthum heb y pethau hyn i gyd, a bu'r ŷd yn gysur ac yn fantais amhrisiadwy i mi. A chan i mi benderfynu peidio â defnyddio dim o'r ŷd i wneud bara nes y byddai gennyf ychwaneg wrth law, am y chwe mis nesaf gallwn ymroi'n gyfan gwbl, trwy lafur a dyfais, i ddarparu offerynnau priodol er gwneud yr ŷd yn addas i'm gwasanaeth, pan gawn i ef.
PENNOD XIII
GWNEUD LLESTRI PRIDD—DYFAIS I GRASU BARA.
OND yn awr yr oedd yn rhaid i mi ddarparu mwy o dir, gan fod gennyf ddigon o had i hau dros acer o ddaear. Cyn i mi wneud hyn, bum wrthi am wythnos o leiaf yn gwneud rhaw, ac un wael ydoedd wedi i mi ei gorffen, a chymaint arall o lafur i weithio gyda hi. Beth bynnag, heuais fy had mewn dau ddarn mawr o dir gwastad, cyn nesed i'm tŷ ag y medrwn yn ôl fy nhyb i, a chaeais o'u hamgylch â chlawdd da. Cymerodd y gwaith hwn dri mis llawn i mi, gan fod rhan fawr o'r amser hwnnw yn y tymor gwlyb pan na fedrwn fynd allan.
Pan fyddai'n bwrw glaw, byddwn yn gweithio i mewn; a phob amser, tra byddwn wrth fy ngwaith byddwn yn fy mwynhau fy hunan wrth siarad gyda'r parrot; ac fe'i dysgais yn fuan i wybod ei enw ei hun, ac o'r diwedd i weiddi "Pol" yn uchel, a dyma'r gair cyntaf erioed a glywais ei siarad yn yr ynys o ben neb ond fy mhen fy hun. Nid gwaith i mi oedd hwn felly, ond cymorth i'm gwaith. Yr oeddwn wedi bod yn astudio'n hir, trwy ryw ffordd neu'i gilydd, sut i wneud llestri pridd. Ag ystyried gwres yr hinsawdd, nid oeddwn yn amau, pe medrwn gael hyd i glai, na fedrwn i wneud rhyw fath o lestr a fyddai'n ddigon caled a chryf i ddal cydio ynddo, wedi iddo sychu yn yr haul; a chan fod angen hyn wrth baratoi ŷd, blawd, etc., sef, y peth yr oeddwn ynglŷn ag ef yn awr, penderfynais wneud rhai mor fawr ag y medrwn i ddal unrhyw beth a roddid ynddynt.
Buasai'r darllenydd yn gresynu drosof neu yn chwerthin am fy mhen pe soniwn am y ffyrdd lletchwith a gymerais i godi'r past yma; y pethau rhyfedd, di-lun, hyll a wneuthum; pa sawl un a gwympodd i mewn a pha sawl un a gwympodd allan, gan nad oedd y clai ddim digon caled i ddal ei bwysau ei hun; pa sawl un a graciodd oherwydd gwres gordanbaid yr haul; a pha sawl un a syrthiodd yn ddarnau trwy ddim ond ei symud, cyn iddynt sychu yn ogystal ag wedi hynny; ac mewn gair, wedi llafurio'n galed i gael y clai, i'w godi, i'w dymheru, i'w gludo adref, a'i weithio, ni allwn wneud dim mwy na dau beth pridd mawr hyll (ni fedraf eu galw'n llestri) mewn tua dau fis o lafur. Fodd bynnag, gan i'r haul grasu'r ddau hyn yn sych ac yn galed iawn, codais hwynt yn hynod ofalus, a gosodais hwynt mewn dwy fasged wiail fawr a wnaethwn o bwrpas iddynt rhag iddynt dorri; a chan fod ychydig o le rhwng y llestr a'r fasged, gwthiais ei lond o wellt reis a haidd; a thybiwn y gwnâi y ddau yma i ddal fy ŷd, ac efallai'r blawd.
Er i mi fethu cymaint gyda'm cynllun i wneud llestri mawrion, eto gwneuthum amryw bethau llai gyda chryn lwyddiant; megis potiau bach crwn, dysglau bas, ystenau, a mân grochanau; a chrasai gwres yr haul hwynt yn bur galed. Ond ni wnâi y rhain i gyd ateb fy niben, sef, cael pot pridd i ddal peth gwlyb a diodde'r tân,— peth na wnâi'r un o'r rhain. Ymhen peth amser, a minnau wedi gwneud tân lled fawr i goginio fy nghig, pan euthum i'w ddiffodd wedi i mi orffen ag ef, digwyddais gael dernyn o un o'm llestri pridd yn y tân, wedi llosgi cyn galeted â charreg, a chyn goched â theilsen. Yr oeddwn wedi synnu ei weld; a dywedais wrthyf fy hun y gellid yn ddiau cael ganddynt losgi'n gyfan os llosgent yn ddarnau.
Parodd hyn i mi ystyried sut i daclu fy nhân a gwneud iddo losgi ychydig botiau. Nid oedd gennyf syniad am odyn; ond gosodais dri phicyn bychan a dau bot neu dri yn bentwr, y naill ar ben y llall, a dodais goed tân o'u cwmpas, a thomen fawr o farwor o danynt. Teclais y tân â thanwydd newydd, o'r tu allan ac ar ei ben, hyd oni welwn y potiau o'r tu mewn yn wynias drwyddynt; a sylwais nad oeddynt ddim yn cracio o gwbl. Pan welais eu bod yn berffaith wynias, gadewais hwynt yn y gwres hwnnw am tua phum awr neu chwech, hyd oni welwn un ohonynt yn toddi neu yn rhedeg, gan i'r tywod oedd yn gymysg â'r clai doddi oherwydd tanbeidrwydd y gwres, a buasai wedi rhedeg yn wydr pe buaswn wedi dal ati; felly llaciais y tân yn raddol nes i'r potiau ddechrau colli'r lliw coch; a chan eu gwylio drwy'r nos, rhag ofn i mi adael i'r tân ddiffodd yn rhy gyflym, yn y bore yr oedd gennyf dri phicyn da iawn, a dau bot arall wedi llosgi cyn galeted ag y gellid disgwyl, ac un o honynt wedi ei wydru'n berffaith, trwy i'r tywod redeg.
Fy ngorchwyl nesaf oedd cael morter garreg i friwo neu guro ŷd ynddi; canys ynglŷn â'r felin, nid oedd wiw meddwl cyrraedd y fath berffeithrwydd celfyddyd gydag un pâr o ddwylo. Ni wyddwn yn y byd sut i lenwi'r diffyg hwn; canys, o bob crefft ar y ddaear, yr oeddwn mor anghymwys fel naddwr cerrig â'r un; ac nid oedd arfau gennyf i fynd o'i chwmpas hi. Treuliais amryw ddyddiau yn chwilio am garreg fawr, yn ddigon mawr i'w chafnio; ond ni fedrwn gael un o gwbl heblaw'r rhai oedd yn y graig; ac yn wir nid oedd creigiau'r ynys yn ddigon caled, ond yr oeddynt i gyd yn gerrig tywod brau na ddalient bwysau pestl drom, na briwo'r ŷd heb iddynt ei lenwi â thywod. Felly, wedi colli llawer o amser yn edrych am garreg, rhoddais y gorau iddi, a phenderfynais chwilio am blocyn mawr o bren caled, yr hyn a gefais yn haws o lawer; ac wedi cael un cymaint ag a fedrwn ei symud, lluniais ef ar yr ochr allan a'm bwyall; ac yna trwy gymorth y tân a llafur diben-draw; gwneuthum gafn ynddo, fel y bydd Indiaid Brazil yn gwneud canŵ. Wedyn, gwneuthum bestl fawr drom o'r pren a elwir yn bren haearn; a gosodais y rhain o'r neilltu hyd oni chawn fy nghnwd ŷd nesaf, pryd y bwriadwn falu neu bwyo'r ŷd yn flawd i wneud bara.
Y pobi oedd y peth nesaf i'w ystyried, a sut y gwnawn i fara pan fyddai gennyf ŷd; canys, i ddechrau, nid oedd burum gennyf. A chan na ellid llenwi'r diffyg ni phryderais lawer yn ei gylch; ond ynglŷn â ffwrn, yr oeddwn mewn cryn benbleth. O'r diwedd dyfeisiais beth at hynny hefyd, sef hyn; gwneuthum lestri pridd llydain iawn, ond heb fod yn ddwfn, hynny yw, tua dwy droedfedd ar draws a heb fod dros naw modfedd o ddyfnder. Llosgais y rhain yn y tân fel y gwneuthum â'r lleill, a dodais hwynt o'r neilltu; a phan oedd arnaf eisiau pobi, gwneuthum dân mawr ar fy aelwyd yr oeddwn wedi ei phalmantu â theils sgwâr, wedi eu gwneud a'u llosgi gennyf fi fy hun. Wedi i'r tanwydd losgi'n ulw neu'n farwor, tynnais hwynt ymlaen ar yr aelwyd nes ei gorchuddio drosti, a gadewais hwynt yno nes yr oedd yr aelwyd yn boeth iawn; yna wedi ysgubo'r marwor ymaith i gyd, dodais fy nhorthau ar lawr, a chan eu gorchuddio â'r llestr pridd, tynnais y marwor dros y llestr amgylch ogylch i gadw'r gwres i mewn. Ac fel hyn, cystal ag yn y ffwrn orau yn y byd, crasais fy nhorthau haidd; ac ymhen ychydig, deuthum yn gogydd da yn y fargen, gan i mi wneud amryw deisennau i mi fy hun a phwdin reis; ond ni wneuthum ddim pastai, gan nad oedd gennyf ddim i'w roi ynddynt ond cig adar neu eifr.
Ac yn awr gan fod fy stoc o ŷd yn cynyddu, yr oedd arnaf wir angen codi ysguboriau mwy. Yr oedd arnaf eisiau lle i'w gadw, gan fod gennyf yn awr tuag ugain bwysel o haidd, a chymaint os nad mwy o reis. Hefyd penderfynais weld faint oedd yn ddigon i mi am flwyddyn gyfan, heb hau dim ond unwaith y flwyddyn.
Ar y cyfan, canfûm fod y deugain bwysel o haidd a reis yn fwy o lawer nag a fedrwn ei fwyta mewn blwyddyn, felly penderfynais hau yr un faint bob blwyddyn ag a wnaethwn y flwyddyn cynt, gan obeithio y gwnâi cymaint â hynny roddi imi ddigon o fara, etc.
PENNOD XIV.
BWRIADU DIANC O'R YNYS—GWNEUD CANŴ—METHIANT EI GYNLLUN—BODLONI AR EI GYFLWR—GWNEUD GWISG NEWYDD IDDO'I HUN.
TRWY gydol yr amser hyn, yn sicr i chwi yr oedd fy mryd yn fynych ar yr olwg a gawswn ar y tir o'r ochr arall i'r ynys, ac nid oeddwn heb ddymuno'n ddirgel bod ar y lan yno; gan ddychmygu (wrth fy mod yn gweld y tir mawr a gwlad gyfannedd) y gallwn ganfod rhyw ffordd neu ei gilydd i'm symud fy hun ymhellach, ac efallai o'r diwedd y cawn ryw gynllun i ddianc.
Yn awr yr oedd arnaf hiraeth am fy machgen Xury, a'r cwch hir a'r hwyl fel ysgwydd dafad arno, yr hwyliais ynddo dros fil o filltiroedd ar arfordir Affrica; ond yr oedd y cwbl yn ofer. Yna meddyliais am fynd i edrych ar gwch y llong a chwythasid i fyny ymhell ar y traeth yn y storm. Gorweddai bron lle'r ydoedd ar y dechrau, ond yr oedd wedi ei droi gan rym y tonnau a'r gwyntoedd, bron â'i waelod i fyny yn erbyn cefnen uchel o dywod bras; ond nid oedd dim dŵr o'i amgylch fel cynt. Pe buasai gennyf griw i'w adgyweirio a'i lansio i'r dŵr, buasai'r cwch yn gwneud y tro yn eithaf, a buaswn wedi mynd yn ôl i'r Brazils ynddo yn ddigon hawdd; ond dylaswn fod wedi rhagweld na fedrwn i mo'i droi a'i osod yn syth ar ei waelod mwy nag y medrwn symud yr ynys. Beth bynnag, euthum i'r coed, a thorrais drosolion a rowleri, a chludais hwynt at y cwch, a phenderfynu gwneud a allwn; gan awgrymu i mi fy hun, os medrwn ei droi ac adgyweirio'r niwed a gawsai, y byddai'n gwch pur dda ac y medrwn fentro i'r môr ynddo.
Nid arbedais unrhyw drafferth gyda'r gwaith ofer hwn, a threuliais, yr wyf yn credu, dair wythnos neu bedair arno. O'r diwedd, wrth weld mai amhosibl oedd i mi ei godi gyda'r ychydig nerth oedd gennyf, dechreuais gloddio'r tywod ymaith i dynnu dan ei seiliau a gwneud iddo syrthio i lawr, gan roddi darnau o goed i'w wthio a rhoi cyfeiriad iawn iddo yn y cwymp. Ond wedi i mi wneud hyn, ni fedrwn ei gyffro wedyn na mynd dano, a llai fyth ei symud ymlaen tua'r dŵr; a bu raid i mi roi'r gorau iddo.
O'r diwedd, dechreuais feddwl onid oedd yn bosibl i mi wneud canŵ, neu periagua, y cyfryw ag a wna brodorion y parthau hynny o foncyff coeden fawr. Tybiwn fod hyn nid yn unig yn bosibl, ond yn hawdd, ac yr oeddwn wrth fy modd wrth feddwl am ei wneud; ond nid oeddwn yn ystyried o gwbl bod angen dwylo i'w symud i'r dŵr ar ôl ei wneud.
Euthum i weithio ar y cwch hwn yn debycach o lawer i ffŵl nag y bu dyn erioed a chanddo unrhyw un o'i synhwyrau'n effro. Yr oeddwn wedi fy modloni fy hun ar fy nghynllun heb benderfynu a fedrwn ymgymryd ag ef ai peidio. Nid na ddaeth yr anhawster o lansio'r cwch yn fynych i'm pen; ond rhoddais derfyn ar fy ymholiadau i gyd â'r ateb ffôl hwn: "Gadewch i mi ei wneud gyntaf; mi wrantaf y caf ryw ffordd neu ei gilydd i'w symud pan orffennir ef."

Wrth i mi edrych ymhellach i mewn . . . gwelwn ddau lygad mawr disglair.
(gwel tud 143)
Yr oedd hwn yn gynllun hollol afresymol; ond euthum ati. Torrais gedrwydden; a phrin y credaf i Solomon erioed gael ei bath i adeiladu'r Deml yng Nghaersalem. Yr oedd yn bum troedfedd a deng modfedd o dryfesur yn y rhan isaf yn nesaf i'r bonyn, ac yn bedair troedfedd ac un fodfedd ar ddeg o drwch ym mhen dwy droedfedd ar hugain, lle yr âi'n llai, ac wedyn ymrannai'n frigau. Nid heb lafur di-ben-draw y torrais y goeden hon. Bûm ugain niwrnod yn ei darnio a'i naddu yn y bôn, a phedwar diwrnod ar ddeg yn torri ei changau a'i phen mawr caeadfrig. Wedyn, costiodd fis i mi i'w llunio a'i naddu i rywbeth ar ffurf gwaelod cwch, er mwyn iddo nofio'n unionsyth fel y dylai. Costiodd i mi bron dri mis yn ychwaneg i glirio'r tu mewn a'i weithio er mwyn gwneud cwch iawn ohono. Gwneuthum hyn heb ddim tân, gyda dim byd ond gordd a chŷn a grym llafur caled, nes i mi ei lunio yn periagua hardd, ac yn ddigon mawr i gario chwech ar hugain o ddynion, ac felly yn ddigon mawr i'm cario i a'm holl gelfi.
Ond methodd pob dyfais gennyf i'w gael i'r dŵr, er iddynt gostio llafur diderfyn i mi. Gorweddai tua chanllath o'r dŵr, a dim mwy; ond yr anhawster cyntaf oedd, mai gorifyny oedd i'r gilfach. Wel, i symud y rhwystr hwn, penderfynais durio wyneb y ddaear a gwneud goriwaered. Dechreuais hyn, a chostiodd lafur aruthrol i mi; ond wedi gweithio drwy hwn yr oeddwn bron yn yr un fan, gan na fedrwn i ddim cyffro'r canŵ mwy nag y medrwn i gyffro'r cwch arall.
Yna mesurais hyd y tir, a phenderfynais dorri doc neu gamlas i ddwyn y dŵr i fyny at y canŵ, gan na fedrwn i ddim dwyn y canŵ i lawr i'r dŵr. Wel, dechreuais y gwaith hwn; ac wedi cyfrif pa mor ddwfn yr oedd yn rhaid ei dorri, pa mor llydan, a sut i luchio'r stwff allan, gwelwn yn ôl y dwylo oedd gennyf, sef dim ond yr eiddof fy hun, y cymerai ddeng mlynedd neu ddeuddeg cyn y byddwn wedi ei gwplau, gan fod y traeth mor uchel nes bod ugain troedfedd o ddyfnder beth bynnag ar yr ochr uchaf; felly, o'r diwedd, er yn anewyllysgar iawn, rhoddais y cynnig hwn heibio hefyd.
Parodd hyn ofid calon i mi; ac yn awr, er yn rhy ddiweddar, gwelwn y ffolineb o ddechrau gwaith cyn i ni gyfri'r draul, a chyn i ni farnu'n iawn ein gallu i'w gwplau.
Ynghanol y gwaith hwn gorffennais fy mhedwaredd flwyddyn yn y fan hon, a chedwais fy mhen blwydd gyda'r un defosiwn, a chyda'r un faint o gysur ag o'r blaen; canys trwy ddyfal astudio gair Duw, a thrwy gymorth Ei ras Ef, enillais wybodaeth wahanol i'r hyn oedd gennyf o'r blaen. Edrychwn yn awr ar y byd fel rhywbeth pell nad oedd a fynnwn i ddim ag ef, na dim i'w ddisgwyl oddiwrtho, nac yn wir ddim i'w ddymuno yn ei gylch. Mewn gair, tybiwn ei fod yn ymddangos fel lle yr oeddwn wedi bod yn byw ynddo, ond fy mod wedi dod ohono; a da y gallwn ddweud, fel y tad Abraham wrth y gŵr goludog, Rhyngof fi a thi y sicrhawyd gagendor mawr. Treuliais ddyddiau cyfain i ddarlunio i mi fy hun â'r lliwiau mwyaf byw, sut y buaswn wedi ymddwyn pe buaswn heb gael dim byd o'r llong. Ni fuaswn wedi llwyddo hyd yn oed i gael bwyd, dim ond pysgod a chrwbanod, a buaswn wedi byw fel anwariad noeth. Pe lladdaswn afr neu aderyn trwy ryw ystryw, ni allaswn eu blingo na'u hagor mewn ffordd yn y byd, na gwahanu'r cig oddi wrth y croen a'r perfedd, ond buasai'n rhaid i mi ei gnoi â'm dannedd a'i dynnu'n ddarnau â'm crafangau, fel bwystfil.
Parodd y myfyrdodau hyn i mi ystyried daioni Rhagluniaeth tuag ataf, a bod yn ddiolchgar am fy nghyflwr presennol er gwaetha'i holl galedi a'i anffodion; ac ni allaf beidio â chymeradwyo hyn i ystyriaeth y rhai sy'n tueddu i ddweud yn eu hadfyd; A oes y fath ofid â'm gofid i?" Bydded iddynt ystyried pa faint gwaeth yw achosion rhai pobl, ac y gallasai eu hachos hwythau fod yn waeth hefyd, pe mynasai Rhagluniaeth.
Felly penderfynais, nid yn unig ymostwng i ewyllys Duw dan yr amgylchiadau presennol, ond diolch o galon am fy nghyflwr; ac na ddylwn i, a minnau hyd yma yn ddyn byw, ddim cwyno, gan nad oeddwn wedi derbyn cosb ddyladwy am fy mhechodau; fy mod yn mwynhau cymaint o drugareddau nad oedd gennyf reswm dros ddisgwyl amdanynt yn y fan honno; na ddylwn byth mwyach ofidio oherwydd fy nghyflwr, ond llawenhau a rhoddi diolch beunyddiol am fara beunyddiol; y dylwn ystyried fy mod wedi fy mhorthi trwy wyrth (gymaint hyd yn oed ag ydoedd porthi Elias gan y cigfrain); ac mai prin y medrwn enwi lle, mewn rhan anghyfannedd o'r byd, y gallaswn fod wedi fy mwrw arno er gwell mantais i mi; lle nad oedd ynddo fwystfilod rheibus i fygwth fy einioes, dim creaduriaid gwenwynig y gallwn ymborthi arnynt er niwed i mi, dim anwariaid i'm llofruddio a'm bwyta.
Yr oeddwn yn awr wedi bod yma gyhyd nes bod llawer o'r pethau a ddygaswn gyda mi o'r llong un ai wedi darfod yn llwyr, neu ynteu bron â threulio allan. Yr oedd fy nillad hefyd yn dechrau braenu yn anghyffredin. Gyda golwg ar ddillad lliain, bûm heb yr un am amser maith, dim ond rhyw grysau rhesog a gawswn yng nghistiau'r llongwyr eraill, ac yr oeddwn wedi eu cadw'n ofalus, gan na fedrwn ddioddef dim dillad arnaf yn aml heblaw crys; a bu'n help mawr i mi fod gennyf bron dri dwsin o grysau. Yr oeddwn wedi gwisgo allan hynny o wasgodau oedd gennyf, a'm gorchwyl yn awr oedd ceisio gwneud siacedi o'r cotiau mawr oedd gennyf ac unrhyw ddefnyddiau eraill. Felly dechreuais deilwra, neu yn hytrach fwnglera, gan i mi wneud gwaith gresynus ohono. Beth bynnag, llwyddais i wneud dwy neu dair gwasgod newydd, a gobeithiwn y parhaent i mi am amser maith.
Soniais i mi gadw crwyn y creaduriaid a leddais i gyd; ac yr oeddwn wedi eu crogi i fyny gan eu lledu â phriciau yn yr haul, a thrwy hynny yr oedd rhai ohonynt mor sych a chaled fel nad oeddynt dda i fawr ddim; ond bu'r lleill yn ddefnyddiol iawn i mi. Y peth cyntaf a wneuthum o'r rhain oedd cap mawr am fy mhen, gyda'r blew o'r tu allan i daflu'r glaw i ffwrdd, a gwneuthum hwn cystal fel y gwneuthum wedi hynny siwt o ddillad yn gyfan gwbl o'r crwyn; hynny yw, gwasgod a chlôs pen-glin, a'r ddau yn llac gan mai eu heisiau i'm cadw'n oer oedd yn hytrach nag yn gynnes. Rhaid i mi beidio ag anghofio cyfaddef eu bod wedi eu gwneud yn druenus, canys os saer gwael oeddwn, yr oeddwn yn waeth teiliwr. Fodd bynnag, yr oeddynt yn gyfryw ag y gwnawn y tro yn iawn â hwynt; a phan fyddwn allan, os digwyddai fwrw glaw, gan fod blew fy nghap a'm gwasgod o'r tu allan, fe'm cedwid yn hollol sych.
Wedi hyn treuliais amser mawr i wneud ambarél. Gwelswn wneud rhai yn y Brazils lle y maent yn ddefnyddiol iawn yn y gwres mawr a geir yno; a theimlwn y gwres gymaint bob tipyn yma, ac yn fwy hefyd, gan ei fod yn nes i'r cyhydedd. Bûm yn ymboeni llawer wrth ei ben; ond o'r diwedd, llwyddais i wneud un, gan ei orchuddio â chrwyn gyda'r blew i fyny; ac yn awr gallwn fynd allan yn y tywydd poethaf gyda gwell mantais nag a allwn o'r blaen yn y tywydd oeraf; a phan nad oedd ei eisiau arnaf gallwn ei gau a'i gario dan fy nghesail.
Ac fel hyn yr oeddwn yn byw yn hynod gysurus, a'm meddwl yn hollol dawel trwy ymddiried yn Ewyllys Duw ac ymdaflu'n gyfan gwbl ar drefn Ei Ragluniaeth Ef. Gwnâi hyn fy mywyd yn well na chymdeithasgar; canys pan ddechreuwn ofidio oherwydd diffyg ymgom, byddwn yn gofyn i mi fy hunan onid oedd ymgomio fel hyn â'm meddyliau fy hun (a hefyd mi obeithaf hyd yn oed â Duw Ei hun trwy saeth-weddïau) yn well na'r mwynhad pennaf o unrhyw gymdeithas ddynol yn y byd.
PENNOD XV.
GWNEUD CANŴ LLAI A CHEISIO MORIO YNDDO O AMGYLCH YR YNYS—MEWN PERYGL AR Y MÔR—DYCHWELYD ADREF.
NI allaf ddweud i ddim byd eithriadol ddigwydd i mi am bum mlynedd wedi hyn; bûm yn byw yn yr un rhych ac yn yr un fan yn hollol ag o'r blaen. Fy mhrif orchwyl ar wahan i'm gwaith blynyddol o blannu haidd a reis, a sychu resin, a mynd allan bob dydd gyda'm gwn ydoedd gwneud canŵ; ac o'r diwedd gorffennais ef, a thrwy dorri camlas iddo chwe throedfedd o led a phedair troedfedd o ddyfnder, deuthum ag ef i'r gilfach, bron hanner milltir o ffordd.
Fodd bynnag, er bod y periagua bychan wedi ei orffen, eto nid oedd ei faint yn ateb i'r bwriad oedd gennyf mewn golwg pan wneuthum y cyntaf, sef, mentro drosodd i'r terra firma, mewn lle oedd dros ddeugain milltir o led. Ond gan fod gennyf gwch, fy mwriad nesaf oedd rhoi tro o gylch yr ynys. I'r diben hwn, gwneuthum fast bychan i'm cwch, a hwyl fechan o ddarnau o hwyliau'r llong. Gosodais fy ambarél hefyd yn y starn, fel mast, i sefyll uwch fy mhen a chadw'r gwres oddi wrthyf.
Y 6ed o Dachwedd ydoedd, yn y chweched flwyddyn o'm teyrnasiad, neu fy nghaethiwed, os mynnwch, pan gychwynnais ar y fordaith hon, a chefais hi yn llawer hwy nag y tybiwn; canys er nad oedd yr ynys ei hun yn fawr iawn, eto pan ddeuthum i'r ochr ddwyreiniol iddi cefais yno haen o greigiau yn rhedeg allan am tua dwy filltir i'r môr, rhai yn uwch na'r dŵr, eraill o dano, a gwely o dywod tu draw i hynny yn gorwedd yn sych am tua hanner milltir arall, fel y bu raid i mi fynd ymhell allan i'r môr i redeg heibio i'r trwyn.
Pan welais hwynt gyntaf yr oeddwn am daflu'r antur i fyny a throi'n ôl, gan na wyddwn pa mor bell i'r môr y byddai'n rhaid i mi fynd, ac uwchlaw popeth, yn amau sut y medrwn ddychwelyd o gwbl; felly bwriais angor. Ac wedi i mi sicrhau fy nghwch, cymerais fy ngwn ac euthum i'r lan, gan ddringo i ben bryn lle y gwelwn y trwyn i gyd, a phenderfynais fentro.
Wrth i mi edrych ar y môr o'r bryn hwnnw, lle y safwn, gwelwn gerrynt cryf ofnadwy a redai i'r dwyrain ac a ddeuai hyd yn oed yn agos i'r trwyn; a chymerais fwy o sylw ohono gan i mi weld bod perygl pan ddeuwn iddo i mi gael fy nghario allan i'r môr gan ei rym, a methu cyrraedd yr ynys wedyn. Ac yn wir, oni bai i mi fynd ben y bryn hwn gyntaf, credaf mai felly y buasai; canys yr oedd yr un cerrynt ar yr ochr arall i'r ynys, ond ei fod yn rhedeg ym mhellach oddi wrthi, a gwelwn fod dŵr llonydd wrth y lan; felly nid oedd dim i mi i'w wneud ond dal i mewn o'r cerrynt cyntaf, a byddwn yn fuan mewn dŵr llonydd.
Arhosais yma, fodd bynnag, am ddau ddiwrnod, gan fod y gwynt yn chwythu'n ffres o'r De- ddwyrain; a thrwy fod hynny yn hollol groes i'r cerrynt, trochionnai'r môr yn arw ar y trwyn, fel nad oedd yn ddiogel i mi gadw yn rhy agos i'r lan, nac ychwaith fynd yn rhy bell allan oherwydd y cerrynt.
Y trydydd dydd, yn y bore, gan fod y gwynt wedi gostegu dros y nos, yr oedd y môr yn dawel, a mentrais hi. Ond cyn gynted ag y deuthum i'r trwyn, a minnau heb fod ond hyd fy nghwch o'r lan, dyma fi i ddyfnder arswydus, a llif fel cafn melin. Cludodd fy nghwch i'w ganlyn gyda'r fath rym fel na allwn ei gadw hyd yn oed ar ei ymyl, ond gwelwn ei fod yn fy nghipio ym mhellach bellach oddiwrth y dŵr llonydd oedd ar y llaw dde i mi. Nid oedd dim gwynt yn cyffro i'm helpu; a theimlwn yn awr nad oedd dim ond trengi yn fy aros; nid yn y môr, gan fod hwnnw'n ddigon tawel, ond marw o newyn. Mae'n wir fy mod wedi cael crwban ar y traeth, bron cymaint ag a fedrwn ei godi, ac yr oeddwn wedi ei daflu i'r cwch; ac yr oedd gennyf lond llestr pridd o ddŵr croyw.
Prin y gellir dychmygu fy mraw; wedi fy ngyrru o'm hynys annwyl i ganol yr eigion mawr, a heb obaith dychwelyd iddi mwyach. Fodd bynnag, gweithiais yn galed, nes bod fy nerth bron â phallu, a chedwais fy nghwch gymaint ag a fedrwn i'r gogledd. Yn y prynhawn, a'r haul yn ei anterth, tybiwn fy mod yn clywed awel o wynt i'm hwyneb yn codi o'r De-ddwyrain. Cododd hyn ychydig ar fy nghalon, yn enwedig ymhen rhyw hanner awr pan chwythai awel led gref. Erbyn hyn yr oeddwn ymhell ofnadwy o'r ynys, a phetasai cwmwl neu ychydig dawch wedi codi, buasai wedi darfod arnaf mewn ffordd arall hefyd; canys nid oedd cwmpawd gennyf yn y cwch, ac ni fuaswn byth yn gwybod sut i lywio i gyfeiriad yr ynys pe buaswn unwaith wedi colli golwg arni. Ond gan i'r tywydd bara'n glir, ymrois ati i godi'r mast eto a lledu'r hwyl, gan ddal i'r gogledd gymaint ag a allwn, er mwyn cadw o'r cerrynt.
Cyn gynted ag y codais y mast a'r hwyl, ac i'r cwch ddechrau symud, gwelwn oddiwrth loywder y dŵr fod rhyw gyfnewidiad yn y cerrynt yn agos; canys lle yr oedd y cerrynt yn gryf iawn, yr oedd y dŵr yn fudr, ond lle'r oedd y dŵr yn loyw, gwelwn y cerrynt yn lleihau, ac yn fuan, tua hanner milltir i'r dwyrain, gwelwn y môr yn torri ar greigiau.
Cludodd y llif hwn fi tua thair milltir ar fy ffordd yn ôl yn union i gyfeiriad yr ynys, ond tua chwe milltir yn fwy i'r gogledd nag a wnaethai'r cerrynt a'm cludodd i ffwrdd ar y cyntaf; fel pan ddeuthum yn agos i'r ynys y cefais fy hun ar du'r gogledd iddi, hynny yw, y pen arall i'r ynys, gyferbyn â'r un yr aethwn allan ohono. Fodd bynnag, gyda gwynt teg, ymhen tuag awr, cyrhaeddais o fewn milltir i'r traeth, a chan fod y dŵr yn y fan honno yn llonydd, deuthum yn fuan i'r lan.
Wedi dod i'r lan, syrthiais ar fy ngliniau, a diolchais i Dduw am iddo fy ngwaredu; ac wedi i mi fwyta ychydig o'r pethau oedd gennyf, tynnais fy nghwch i'r lan i gilfach fechan a welswn o dan ryw goed, a gorweddais i lawr i gysgu,— oherwydd fy mod wedi llwyr ddiffygio gan lafur a lludded y daith. Yr oeddwn yn awr mewn penbleth fawr sut i fynd adref gyda'm cwch. Yr oeddwn wedi bod mewn gormod o berygl i feddwl ei chynnig hi y ffordd yr euthum allan. Felly penderfynais chwilio am gilfach i'r gorllewin lle y gallwn adael fy nghwch. Ac wedi morio am tua thair milltir gyda'r lan deuthum i gilfach dda, lle y cefais borthladd cyfleus iawn i'm cwch, ac yno y gadewais ef.
Wedi cadw fy nghwch yn ddiogel, euthum i'r lan i edrych o'm cwmpas, a gweld lle'r oeddwn. Gwelwn yn fuan nad oeddwn ymhell o'r lle y buaswn ynddo o'r blaen pan deithiais ar fy nhraed i'r glannau hynny; a heb gymryd dim o'm cwch ond fy ngwn a'm hambarél, cychwynnais ar fy nhaith. Bu'r daith yn eithaf cysurus wedi'r fath fordaith ag a gawswn i, a chyrhaeddais fy hafoty erbyn min nos, lle y cefais bopeth fel y gadawswn i hwynt. Euthum dros y clawdd, a gorweddais yn y cysgod i orffwyso fy aelodau, gan fy mod wedi blino yn arw, a chysgais. Ond bernwch chwi, os gellwch, y syndod a gefais pan ddeffrowyd fi o'm cwsg gan lais yn fy ngalw wrth fy enw droeon: "Robin, Robin, Robin Crusoe, Robin Crusoe druan! Ble'r wyt ti, Robin Crusoe? Ble'r wyt ti? Ble buost ti?"
Cyn gynted ag yr agorais fy llygaid, gwelwn Pol yn eistedd ar ben y clawdd, a gwyddwn ar unwaith mai fo oedd wedi siarad â mi; canys mewn iaith gwynfanus felly yr arferwn i siarad ag ef, a'i ddysgu; ac yr oedd wedi ei dysgu mor berffaith fel yr eisteddai ar fy mys, a gosodai ei big yn dyn wrth fy wyneb, a gweiddi; "Robin Crusoe druan! Ble'r wyt ti?
Ble'r wyt ti? Ble buost ti? Sut y daethost ti yma?" a'r cyfryw bethau ag a ddysgaswn i iddo.
Wedi i mi ddal fy llaw allan a'i alw wrth ei enw—Pol—daeth y creadur cymdeithasgar ataf, ac eisteddodd ar fy mawd, fel yr arferai, a daliodd ati i siarad â mi, fel petai'n falch o'm gweld eto; ac euthum ag ef adref gyda mi.
Yr oeddwn yn awr wedi cael digon ar grwydro i'r môr am beth amser, ac yr oedd gennyf ddigon i'w wneud am rai dyddiau i fyfyrio ar y perygl y buaswn ynddo. Bodlonais i wneud y tro heb y cwch, er ei fod wedi costio misoedd o lafur i'w wneud, a llawer mwy na hynny i'w gael i'r môr. Ac fel hyn yr arhosais am yn agos i flwyddyn; a chan fod fy meddyliau yn hollol dawel ynglŷn â'm cyflwr, a minnau'n f'ymddiried fy hunan yn llwyr i drefn Rhagluniaeth, tybiwn fy mod yn byw yn hapus iawn ym mhopeth, ag eithrio cymdeithas.
Gwneuthum amryw bethau yn ystod y cyfnod hwn, ond nid wyf yn meddwl i mi fod yn falchach o ddim byd erioed nag oeddwn o allu gwneud pibell dybaco; ac er mai peth hyll a lletchwith ydoedd, a dim ond wedi ei llosgi'n goch fel y llestri pridd eraill, eto yr oedd yn galed a chryf, ac yn tynnu mwg. Rhoddodd gysur anghyffredin i mi, gan fy mod wedi arfer smocio bob amser.
PENNOD XVI.
MAGU DIADELL O EIFR—EI DDYDDLYFR—EI DDULL O FYW—LLWYDDO FWYFWY.
GAN fy mod bellach wedi byw yma am un mlynedd ar ddeg, a chan fod fy nhaclau saethu wedi mynd yn isel, ymrois ati i ddyfeisio rhyw ystryw i faglu a rhwydo'r geifr, er mwyn gweld a fedrwn i ddal rhai ohonynt yn fyw. I'r diben hwn gwneuthum groglathau i'w rhwystro, a chredaf y daliwyd hwy ynddynt fwy nag unwaith; ond nid oedd fy nhaclau'n ddigon da, a thorrid hwynt byth a beunydd. O'r diwedd torrais dyllau mawr yn y ddaear, mewn mannau y gwelswn y geifr yn pori, a thros y tyllau hyn gosodais glwydi a phwysau mawr arnynt; amryw droeon dodais dywysennau haidd a reis sych heb osod y trap, a gwelwn yn hawdd fod y geifr wedi bod i mewn ac wedi bwyta'r ŷd, canys gwelwn ôl eu traed.
O'r diwedd gosodais dri thrap yr un noson, ac wrth fynd yno fore trannoeth, cefais y cwbl lle'r oeddynt, ac eto yr oedd yr abwyd wedi ei fwyta. Yr oedd hyn yn beth digalon iawn. Fodd bynnag, newidiais fy nhrap, ac un bore cefais yn un ohonynt hen fwchgafr mawr, a thri myn yn un o'r lleill, un gwryw a dwy fenyw. Gyda golwg ar yr hen un, ni wyddwn beth i'w wneud ag ef; yr oedd mor ffyrnig fel na feiddiwn fynd i'r twll ato, hynny yw, mynd yno a'i ddwyn adre'n fyw. Gallaswn ei ladd, ond nid dyna oedd fy amcan; felly gollyngais ef, a rhedodd ymaith fel petai wedi ei ddychrynu allan o'i synhwyrau. Yna euthum at y tri myn, a chan eu cymryd bob yn un, rhwymais hwynt wrth ei gilydd â llinynnau, a chyda chryn lawer o drafferth deuthum â hwynt adref i gyd.
Aeth ysbaid lled dda heibio cyn iddynt fwyta dim; ond trwy luchio tipyn o ŷd glas iddynt, fe'u hudwyd, a dechreuasant ddofi. Ac yn awr gwelwn, os oeddwn am gael cig geifr, fod yn rhaid i mi fagu rhai dof, ac wedyn cawn hwynt efallai o amgylch fy nhŷ fel diadell o ddefaid. Ond wedyn trawodd i'm meddwl y byddai'n rhaid i mi gadw y rhai dofion oddiwrth y rhai gwylltion, neu fe âi'r cwbl yn wylltion wedi iddynt dyfu i fyny; a'r unig ffordd am dani oedd cael darn o dir wedi ei amgáu â chlawdd neu wrych, i'w cadw i mewn fel na allai y rhai fyddai o'r tu mewn ddim torri allan, na'r rhai o'r tu allan ddim torri i mewn.
Bûm wrthi am tua thri mis yn cau'r darn cyntaf; a hyd nes i mi ei orffen byddwn yn rhwymo'r tri myn yn y darn gorau ohono, a gwneud iddynt gynefino â phori yn fy ymyl; ac yn aml iawn byddwn yn mynd â thywysennau haidd iddynt neu ddyrnaid o reis, ac yn eu bwydo â'm llaw; ac wedi i mi orffen y cae a'u gollwng yn rhydd, dilynent fi yn ôl a blaen gan frefu ar fy ôl am ddyrnaid o ŷd.
Ymhen tua blwyddyn a hanner, yr oedd gennyf ddiadell o tua dwsin o eifr; ac ymhen dwy flynedd arall yr oedd gennyf dair a deugain, heblaw amryw a laddaswn yn fwyd i mi fy hun. Wedi hynny caeais bum darn o dir i'w bwydo ynddynt, gyda chutiau bychain iddynt, ac adwyau o'r naill gae i'r llall.
Yn awr, yr oedd gennyf nid yn unig gig geifr i'w fwyta pan fynnwn, ond llaeth hefyd; a chodais laethdy, ac weithiau cawn alwyn neu ddau o laeth y dydd. O'r diwedd, er nad oeddwn wedi godro buwch erioed, heb sôn am afr, na gweld neb yn gwneud nac ymenyn na chaws, eto, ar ôl amryw gynigion, llwyddais i wneud ymenyn a chaws, ac ni fûm heb ddim byth wedyn.
Buasai'n ddigon i beri i stoic wenu fy ngweld i a'm teulu bach yn eistedd i lawr i gael cinio. Dyna lle'r oedd fy mawrhydi yn dywysog ac yn arglwydd yr ynys i gyd. Yr oedd bywydau fy holl ddeiliaid yn gwbl dan fy awdurdod i. Gallwn grogi, dirdynnu, roddi rhyddid neu ei atal; a heb ddim un gwrthryfelwr ymysg fy holl ddeiliaid. A byddwn yn ciniawa fel brenin, ar fy mhen fy hun, a'm gweision yn fy ngwasanaethu. Pol yn unig a gâi gennad i siarad â mi, fel petasai ef yn ffafryn gennyf. Eisteddai fy nghi (oedd yn awr wedi mynd yn hen ac yn hollol hurt) wrth fy ochr ar y llaw dde, a'm dwy gath, un bob ochr i'r bwrdd, yn disgwyl tamaid o'm llaw yn awr ac yn y man.
Yr oedd golwg ddigon aflêr arnaf, ac wrth edrych arnaf fy hun, ni allwn beidio â gwenu wrth feddwl amdanaf fy hun yn teithio trwy Sir Gaerefrog yn y fath wisg. Yr oedd gennyf gap mawr uchel di—lun, wedi ei wneud o groen gafr, gyda chlust yn hongian y tu ôl i gadw'r haul oddi wrthyf yn ogystal â chadw'r glaw rhag rhedeg i lawr fy ngwar. Yr oedd gennyf siaced fer o groen gafr, a'r godre yn cyrraedd hyd tua chanol fy nghluniau, a chlôs pen—glin o'r un peth. Yr oedd y clôs wedi ei wneud o groen hen fwch gafr, a'i flew yn hongian i lawr mor bell ar y ddwy ochr nes yr oedd fel bandalŵn yn cyrraedd i ganol fy nghoesau. Nid oedd gennyf nac esgidiau na hosanau; ond yr oeddwn wedi gwneud pâr o ryw bethau (ni wn yn iawn beth i'w galw) fel gwintasau, i'w llithro am fy nghoesau, gyda chareiau ar bob ochr.
Gwisgwn wregys llydan o groen gafr wedi ei sychu, a'i dynnu at ei gilydd â dwy garrai o'r un peth, yn lle byclau; ac mewn rhyw fath o ddolen y ddwy ochr i'r rhain, yn lle cleddau a dagr, crogai llif fechan a bwyall, un ar y naill ochr a'r llall yr ochr arall. Yr oedd gennyf wregys arall hefyd, heb fod mor llydan, wedi ei glymu'r un fath, a grogai dros fy ysgwydd; ac ar ei flaen o dan fy mraich chwith, crogai dwy god, y ddwy wedi eu gwneud o groen gafr, gyda phowdr yn un ohonynt a haels yn y llall. Ar fy nghefn cariwn fy masged, fy ngwn ar fy ysgwydd, ac uwch fy mhen ambarél mawr hyll o groen gafr; ond wedi'r cwbl, dyma'r peth yr oedd mwyaf o'i angen arnaf yn nesaf at fy ngwn. Gyda golwg ar fy wyneb, nid oedd ei liw mor felynddu ag a ellid ei ddisgwyl gan ddyn na ofalai ddim amdano, ac un yn byw o fewn pedair gradd ar bymtheg i'r cyhydedd. Ar un adeg yr oeddwn wedi gadael i'm barf dyfu nes yr oedd tua chwarter llath o hyd; ond gan fod gennyf ddigonedd o sisyrnau ac ellynnod, yr oeddwn wedi ei thorri yn lled fyr, ag eithrio yr hyn a dyfai ar fy ngwefus uchaf; ac yr oeddwn wedi trin hwn yn bâr o fwstas Mahometanaidd mawr, y fath ag a wisgai'r Twrciaid yn Sallee. Am y mwstas hyn, ni ddywedaf eu bod yn ddigon mawr i mi hongian fy het arnynt, ond yr oedd eu maint a'u hyd yn aruthrol; ac yn Lloegr, buasid yn eu hystyried yn rhai dychrynllyd.
Fe ddeellwch fod gennyf yn awr ddwy ystâd yn yr ynys; un ydoedd fy nghaer fechan gyda'r mur o'i hamgylch, o dan y graig, gyda'r ogof o'r tu cefn. Ac erbyn hyn yr oedd y pyst yn y clawdd yn tyfu fel coed, ac yr oeddynt wedi lledu cymaint fel nad oedd dim golwg o gwbl ar fath yn y byd o drigfan y tu ôl iddynt.
Yn ymyl yr annedd hon o'm heiddo, ond ychydig ym mhellach i'r tir ac ar le is, yr oedd fy nau gae ŷd; a byddwn yn eu trin ac yn eu hau yn gyson, a rhoddent i mi eu cynhaeaf yn ei adeg; a phryd bynnag y byddai arnaf eisiau rhagor o ŷd, yr oedd gennyf ychwaneg o dir yn ymyl mor addas ag yntau.
Heblaw hyn, yr oedd gennyf dŷ yn y wlad; ac yn awr yr oedd gennyf ystad bur dda yn y fan honno hefyd. Yno yr oedd fy hafoty, fel y galwn i ef, a chadwn ef yn daclus; hynny yw, byddwn yn cadw'r clawdd oedd o'i amgylch yn ei uchder arferol, gyda'r ysgol yn ei sefyll yr ochr i mewn. Byddwn yn torri'r coed, er mwyn iddynt dyfu'n gryf ac ar led, a gwneud gwell cysgod. Ynghanol hwn, yr oedd fy mhabell, sef darn o hwyl wedi ei daenu ar bolion, ac nid oedd byth angen ei hadgyweirio na'i hadnewyddu.
Gerllaw yr oedd gennyf fy nghaeau i'm praidd, hynny yw, fy ngeifr. Yma hefyd y tyfai fy ngrawnwin, a chan mai arnynt hwy y dibynnwn am f'ystôr o resin at y gaeaf, byddwn yn eu cadw yn ofalus iawn. Gan fod hwn tua hanner y ffordd rhwng fy mhreswylfod arall a'r lle y cadwaswn fy nghwch, byddwn yn aros yma yn gyffredin ar y ffordd yno; canys awn yn fynych i weld fy nghwch, a chadwn bopeth oedd yn perthyn iddo yn daclus iawn.
PENNOD XVII.
GWELD ÔL TROED AR Y TYWOD—OFNI'R GWAETHAF —DARPARU I'W AMDDIFFYN EI HUN.
TUA chanol dydd, un diwrnod, a minnau yn mynd i gyfeiriad fy nghwch, synnwyd fi'n anghyffredin wrth weld ôl troed noeth dyn ar y traeth, a oedd i'w weld yn eglur iawn yn y tywod. Sefais fel un wedi ei syfrdanu neu fel petawn wedi gweld drychiolaeth. Gwrandewais, edrychais o'm hamgylch, ond ni allwn glywed dim byd na gweld dim byd. Euthum i dir codi i edrych ymhellach. Euthum i fyny'r traeth, ac i lawr y traeth, ond yr oedd i gyd yr un fath; ni fedrwn weld dim un ôl ond hwnnw. Euthum ato drachefn i weld a oedd rhagor yno, a rhag ofn nad oedd yn ddim byd mwy na'm dychymyg i; ond nid oedd dim lle i hynny, canys yno yr oedd ôl troed perffaith,—bysedd, sawdl, a phob rhan o droed. Sut y daeth yno, ni wyddwn i ddim, ac ni fedrwn ddychmygu o gwbl. Ac fel dyn wedi drysu'n hollol ac allan o'm pwyll, deuthum adref i'm hamddiffynfa, megis heb glywed y tir y troediwn arno, ond wedi fy nychrynu hyd yr eithaf, gan edrych yn ôl bob dau gam neu dri, camgymryd pob llwyn a choeden, a chan ddychmygu mai dyn ydoedd pob bonyn o bell.
Pan ddeuthum at fy nghastell (canys felly y galwn ef ar ôl hyn) ffoais iddo fel un a erlidid. Pa un ai mynd dros yr ysgol a wneuthum neu drwy'r twll yn y graig, a alwn i yn ddrws, ni allaf gofio; na, ac ni allwn gofio hyd yn oed fore trannoeth. Ni chysgais ddim y noson honno. Dychmygwn weithiau mai'r diafol ydoedd; canys sut y gallai unpeth arall ar ffurf dyn ddod i'r lle? Ble'r oedd y llestr a'i cludodd yno? Ble'r oedd yr ôl traed eraill? A sut yr oedd yn ddichonadwy i ddyn ddod yno? Ond tybiwn wedyn y gallasai'r diafol fod wedi darganfod digonedd o ffyrdd eraill i'm dychrynu heblaw drwy'r un ôl troed hwn, ac ymddangosai'r peth yn anghyson â dichellion y diafol. O'r diwedd, bernais mai rhai o'r anwariaid o'r tir mawr gyferbyn â mi oedd wedi crwydro dros y môr yn eu badau a glanio ar yr ynys, ond eu bod wedi mynd i ffwrdd drachefn, gan ei bod mor gas efallai ganddynt hwy aros yn yr ynys ddiffaith hon ag a fuasai gennyf innau eu derbyn.
Tra rhedai'r myfyrdodau hyn drwy fy meddwl, yr oeddwn yn ddiolchgar iawn nad oeddwn yn digwydd bod oddeutu'r lle yr adeg honno, ac nad oeddynt hwythau ddim wedi gweld fy nghwch. Yna daeth syniadau arswydus i'm meddwl ynglŷn â'u bod wedi darganfod fy nghwch, a bod pobl yma; ac os felly, fe fyddent yn sicr o ddychwelyd drachefn yn niferoedd mwy, ac fe'm llarpient.
Ac fel hyn fe ymlidiodd fy ofn bob gobaith crefyddol oedd ynof. Diflannodd pob hyder a feddwn gynt yn Nuw; a thybiwn yn awr mai fy rhan i oedd ymostwng a dioddef ei gosbedigaeth Ef, gan fy mod wedi pechu yn Ei erbyn. Yna meddyliais drachefn y gallai Duw, ag yntau nid yn unig yn gyfiawn, ond yn hollalluog, fy ngwaredu hefyd; ac os na welai Ef yn dda wneuthur hynny, fy nyletswydd i oedd ymostwng yn llwyr ac yn hollol i'w ewyllys Ef; ac ar y llaw arall, yr oedd yn ddyletswydd arnaf obeithio ynddo hefyd, gweddio arno, cadw Ei orchmynion a dilyn cyfarwyddiadau ei Drefn Ef.
Ynghanol y myfyrdodau a'r ofnau hyn, trawodd i'm meddwl un diwrnod nad oedd hyn yn ddim byd ond gwag ddychymyg o'm heiddo i, ac efallai nad oedd hwn yn ddim mwy nag ôl fy nhroed i fy hun pan ddeuthum i'r lan o'm cwch. Siriolodd hyn fi ychydig hefyd, a dechreuais fy mherswadio fy hun mai twyll oedd y cwbl, ac nad oedd yn ddim byd ond fy nhroed i fy hun. Dechreuais ymwroli yn awr, a mynd allan drachefn, gan nad oeddwn i ddim wedi cyffro o'm castell am dri diwrnod a thair noson, ac yr oeddwn yn mynd yn brin o fwyd. Gwyddwn hefyd fod eisiau godro'r geifr, ac yr oedd y creaduriaid druain mewn poen ac anghysur mawr; ac yn wir bu bron iddo andwyo rhai ohonynt, a'u hesbio.
A chan ymgalonogi, felly, trwy gredu nad oedd hwn yn ddim byd ond ôl un o'm traed i fy hun, dechreuais fynd allan drachefn, ac euthum i'm tŷ yn y wlad i odro fy ngeifr. Ond o weld fel yr ofnwn fynd yn fy mlaen, mor aml yr edrychwn yn ôl, mor barod oeddwn yn awr ac eilwaith i osod fy masged ar lawr a rhedeg am fy mywyd, buasai yn ddigon i beri i rywun feddwl yr afonyddid arnaf gan gydwybod euog, neu fy mod yn ddiweddar wedi fy nychrynu yn ofnadwy; ac felly, yn wir, yr oeddwn.
Beth bynnag, gan i mi fynd i lawr fel hyn am ddeuddydd neu dri, heb weld dim byd, dechreuais fod ychydig yn fwy eofn, a meddwl nad oedd dim byd yn y peth ond fy nychymyg i fy hun. Ond ni allwn fy mherswadio fy hunan yn llawn nes i mi fynd i lawr i'r traeth drachefn, a gweld yr ôl troed, a'i fesur wrth yr eiddof fy hun, a gweld a oedd tebygrwydd rhyngddynt, er mwyn bod yn sicr mai fy nhroed i ydoedd. Ond pan ddeuthum i'r lle; yn gyntaf, yr oedd yn amlwg i mi nad oedd ddichon i mi fod ar y traeth oddeutu'r fan honno pan oeddwn yn cadw fy nghwch; yn ail, pan euthum i fesur yr ôl â'm troed fy hun, gwelwn nad oedd fy nhraed i ddim cymaint o lawer. Llanwodd y ddau beth hyn fy mhen â dychmygion newyddion, a chrynwn gan annwyd fel un â'r cryd arno; a dychwelais adref wedi fy llenwi â'r syniad fod rhyw ddyn neu ddynion wedi glanio yno; neu ynteu fod yr ynys yn gyfannedd, ac efallai y deuid ar fy ngwarthaf heb yn wybod i mi; ac ni wyddwn pa gwrs i'w gymryd er diogelwch i mi.
O! y fath benderfyniadau chwerthinllyd a wna dynion pan feddiennir hwy gan ofn! Y peth cyntaf a awgrymais i mi fy hun ydoedd chwalu fy nghloddiau a throi fy holl braidd yn wyllt i'r coedwigoedd, rhag ofn i'r gelyn ddod ar eu traws ac yna cyrchu i'r ynys drachefn gyda'r bwriad o gael yr un anrhaith neu rywbeth tebyg; yna ceibio fy nau gae ŷd, rhag iddynt gael y fath rawn yno a chael eu hannog felly i fynychu'r ynys; yna distrywio fy hafoty a'm pabell rhag ofn iddynt weld olion yr un annedd yno, a chael eu cymell i edrych ymhellach er mwyn canfod y preswylwyr.
Y mae ofn perygl yn ddengmil mwy arswydus na'r perygl ei hun pan fo'n eglur i'r llygaid; ac y mae baich pryder yn fwy o lawer i ni na'r drwg y pryderwn yn ei gylch. Edrychwn, mi dybiwn, fel Saul, a gwynai nid yn unig fod y Philistiaid ar ei warthaf, ond. bod Duw wedi ei adael; canys ni cheisiais yn awr dawelu fy meddwl, trwy alw ar Dduw yn fy nghyfyngder, ac ymorffwys ar Ei Ragluniaeth Ef fel y gwnaethwn o'r blaen. Yn awr, dechreuais edifarhau yn arw fy mod wedi torri fy ogof mor fawr nes cael drws allan ohoni, a'r drws hwnnw tu draw i'r lle yr ymunai fy amddiffynfa â'r graig. Ac wedi ystyried y peth yn bwyllog, penderfynais wneud amddiffynfa arall, yr un modd â chynt—ar ddull hanner cylch, yn union lle yr oeddwn wedi plannu rhes ddwbl o goed tua deuddeng mlynedd cyn hynny. Yr oedd y coed hyn wedi eu plannu mor drwchus fel nad oedd eisiau ond ychydig bolion rhyngddynt na fyddai fy nghlawdd wedi ei orffen.
Yn clawdd nesaf allan yr oedd gennyf saith o dyllau bychain, digon mawr i mi roi fy mraich drwyddynt. Ar y tu mewn, lledais fy mur dros ddeg troedfedd o drwch trwy gludo pridd yn barhaus o'm hogof a'i osod wrth droed y clawdd a cherdded arno; a thrwy'r saith dwll llwyddais i osod y mwsgedi a gawswn o'r llong. Gosodais y rhain fel magnelau; a gallwn danio'r saith mewn dau funud o amser. Bûm am fisoedd lawer yn gorffen y mur hwn; ac eto ni'm teimlwn fy hun yn ddiogel nes ei gwpláu.
Pan orffennwyd hyn, gwthiais i'r ddaear frigau coed tebyg i helyg, am bellter mawr i bob cyfeiriad. Credaf fy mod wedi gosod yn agos i ugain mil ohonynt, gan adael lle gwag pur fawr rhyngddynt a'r clawdd, er mwyn i mi gael lle i weld gelynion, a rhag iddynt hwythau gael cysgod y coed ifainc pe ceisient ddod yn agos i'm clawdd.
Ymhen dwy flynedd o amser yr oedd gennyf lwyn o goed trwchus; ac ymhen pum mlynedd neu chwech yr oedd gennyf goedwig o flaen fy nghartref, yn tyfu mor aruthrol o drwchus a chadarn fel yr oedd yn annichon mynd trwyddi. Trefnais fynedfa i mi fy hunan i fynd yn ôl a blaen trwy osod dwy ysgol ar y graig; a phan dynnid yr ysgolion ymaith ni allai undyn byw ddod i lawr ataf heb iddo ei niweidio ei hun.
Pryderwn lawer hefyd ynghylch fy niadell fechan o eifr; ac wedi ystyriaeth hir, ni allwn feddwl ond am ddwy ffordd i'w hachub. Un ydoedd, chwilio am le cyfleus arall i dorri ogof o dan y ddaear, a'u gyrru hwynt iddi bob nos; a'r llall ydoedd, cau dau ddarn neu dri o dir ymhell oddiwrth ei gilydd lle y medrwn gadw tua hanner dwsin o eifr ifainc ymhob un; fel os digwyddai rhyw anffawd i'r praidd yn gyffredinol y medrwn fagu rhai drachefn heb fawr o drafferth ac mewn byr amser. Felly treuliais beth amser i chwilio am y rhannau mwyaf cudd o'r ynys, a threwais ar fan oedd mor neilltuedig ag a allwn ei ddymuno. Darn bychan o dir llaith ydoedd ynghanol coed trwchus, a bron yn dair acer; ac wedi ei amgylchu â choed fel nad oedd dim hanner cymaint o lafur i'w gau â'r darnau eraill oedd gennyf. Mewn llai na mis o amser, yr oeddwn wedi ei gau, a symudais ddeg o eifr ieuainc a dau fwch gafr i'r darn hwn.
Euthum drwy'r holl lafur hyn, yn unig am fod arnaf ofn oherwydd yr ôl troed a welswn; canys hyd yn hyn, ni welais yr un creadur o ddyn yn dod yn agos i'r ynys.
PENNOD XVIII.
ROBINSON YN DARGANFOD FOD CANIBALIAID WEDI YMWELED Â'R YNYS—GWNEUD CYNLLUNIAU I'W AMDDIFFYN EI HUN AC I LADD YR ANWARIAID.
WEDI i mi ddiogelu un rhan o'm praidd bychan, euthum dros yr holl ynys i chwilio am le cudd arall; ac wrth grwydro ymhellach at ben gorllewinol yr ynys nag a wnaethwn erioed o'r blaen, ac edrych allan i'r môr, tybiwn weld cwch ar y môr yn y pellter. Yr oeddwn wedi dod o hyd i sbienddrych neu ddau yn un o gistiau'r llongwyr, ond nid oedd gennyf ar y pryd; ac yr oedd hwn mor bell fel na wyddwn beth ydoedd, er i mi edrych arno hyd oni fethodd fy llygaid â dal i edrych arno yn hwy. Pa un ai cwch ydoedd ai peidio, ni wn i ddim; ond wrth i mi ddisgyn o'r bryn, ni welwn mohono mwyach, a gadewais iddo; ond penderfynais nad awn i ddim allan byth yn rhagor heb sbienddrych yn fy mhoced.
Pan ddeuthum i lawr i'r traeth, a hynny ar drwyn de-orllewin yr ynys, fe'm synnwyd ac fe'm dryswyd yn hollol; ac amhosibl ydyw i mi fynegi'r arswyd oedd arnaf wrth weld y traeth wedi ei orchuddio â phenglogau, dwylo, traed, ac esgyrn cyrff dynol; ac yn arbennig, fe sylwais ar le yr oedd tân wedi ei gynnau, a chylch wedi ei dorri yn y ddaear, lle mae'n debyg, yr eisteddasai'r dyhirod anwaraidd i'w gwleddoedd annynol ar gyrff eu cyd-greaduriaid.
Fe'm synnwyd gymaint gan yr olwg ar y pethau hyn, fel na thybiwn o gwbl fod dim perygl i mi oddi wrthynt am amser maith. Claddwyd fy holl ofnau yn y meddyliau am y fath gieidd-dra annynol ac uffernol, a'r arswyd oherwydd dirywiad y natur ddynol; ac er y clywswn am y peth yn aml, ni chawswn erioed olwg mor agos arno o'r blaen. Trois fy wyneb oddiwrth yr olygfa erchyll, a bûm bron â llewygu, ac ni fedrwn ddioddef aros yn y lle foment yn hwy; ond dringais y bryn drachefn cyn gynted ag y medrwn, a cherddais ymlaen i gyfeiriad fy mhreswylfod.
Pan ddeuthum allan o'r rhan honno o'r ynys, sefais yn llonydd am ychydig, fel pe bawn wedi fy syfrdanu; yna gan fy adfeddiannu fy hun, edrychais i fyny gyda holl angerdd fy enaid, a'm dagrau'n lli, a diolchais i Dduw am iddo osod fy rhan i ddechrau mewn cwr o'r byd lle yr oedd gwahaniaeth rhyngof a'r creaduriaid arswydus hyn. Ac mewn agwedd diolch fel hyn, euthum adref i'm castell, a theimlwn yn fwy tawel yn awr nag oeddwn o'r blaen. Gwyddwn fy mod yn awr wedi treulio deunaw mlynedd yma bron, ac ni welswn ôl traed creadur o ddyn erioed o'r blaen. Eto yr oedd ynof y fath atgasrwydd at y dyhirod anwaraidd y soniais amdanynt, fel yr oedd arnaf gymaint o ofn eu gweld â gweld y diafol ei hun, ac fe'm cyfyngais fy hunan i'm cylch fy hun am tua dwy flynedd wedi hyn. Ni wneuthum gymaint â mynd i edrych ar fy nghwch yn ystod yr amser hyn i gyd, ond dechreuais yn hytrach feddwl am wneud un arall; canys ni allwn feddwl rhoi cynnig arall ar nôl y cwch hwnnw, rhag ofn i mi gyfarfod â rhai o'r creaduriaid hyn ar y môr.
Fodd bynnag, dechreuodd amser dreulio ymaith fy anesmwythyd yn eu cylch; a dechreuais fyw yr un mor dawel ag o'r blaen; gyda'r gwahaniaeth hwn yn unig, fy mod yn fwy gochelgar, ac yn cadw fy llygaid yn fwy agored nag o'r blaen, rhag ofn y gwelid fi gan rai ohonynt, ac yn enwedig yr oeddwn yn fwy gochelgar wrth danio fy ngwn, rhag ofn i rai ohonynt, a hwythau ar yr ynys, ddigwydd ei glywed.
Fe gymerai gyfrol fwy na hon i mi osod i lawr yr holl ddichellion a luniais yn fy meddwl i ddistrywio'r creaduriaid hyn, neu o leiaf i'w dychrynu fel ag i'w rhwystro rhag dod yma byth mwy. Weithiau meddyliwn am dorri twll dan y lle y gwnaent dân arno, a rhoddi deubwys neu dri o bowdr—gwn ynddo a phan gyneuent hwy y tân fe daniai hwnnw a chwythu i fyny bopeth a fyddai'n agos iddo. Ond, yn y lle cyntaf, gan y byddai'n anodd iawn gennyf wastraffu cymaint â hynny o bowdr arnynt, a minnau heb fod yn sicr y taniai ar adeg arbennig; ac ar y gorau ni wnâi fawr fwy na lluchio'r tân o amgylch eu clustiau a'u dychrynu; felly rhoddais y peth o'r neilltu. Yna bwriadu gwneud cynllwyn a'm gosod fy hun mewn man cyfleus gyda'm tri gwn wedi eu llwytho, ac ynghanol eu gloddest gwaedlyd, saethu atynt, a byddwn yn sicr o ladd neu glwyfo dau neu dri ohonynt ar bob ergyd; ac yna rhuthro arnynt gyda'm tri phistol a'm cleddau, a diau gennyf petai yno ugain ohonynt y lladdwn i'r cwbl. Bu'r syniad hwn yn fy mhen am rai wythnosau; ac yr oeddwn mor llawn ohono fel y breuddwydiwn amdano, ac weithiau breuddwydiwn fy mod ar ollwng ergyd atynt yn fy nghwsg.
O'r diwedd, cefais le ar ochr y mynydd lle tybiwn y gallwn aros yn ddiogel nes y gwelwn eu cychod yn dyfod; a gallwn wedyn ymguddio heb iddynt fy ngweled yn y llwyni coed; ac yno gallwn eistedd a'u gwylio ac anelu at eu pennau pan fyddent mor agos at ei gilydd fel na allwn i ddim peidio â chlwyfo tri neu bedwar ohonynt ar yr ergyd gyntaf. Ac wedi i mi baratoi fy nghynllwyn fel hyn, awn am dro'n barhaus bob bore i ben y bryn i edrych a welwn i gychod ar y môr yn dynesu at yr ynys. Ond dechreuais flino ar y gwaith hwn, wedi i mi fod wrthi'n gwylio'n gyson am ddeufis neu dri, a gorfod dychwelyd bob tro heb ddarganfod dim byd; a dechreuais feddwl ar beth yr oeddwn am ymosod. Pa awdurdod a pha hawl oedd gennyf fi i gymryd arnaf fod yn farnwr a dienyddiwr ar y gwŷr hyn fel drwgweithredwyr, a'r Nefoedd wedi gweld yn dda eu gadael yn ddigerydd am gymaint o oesau.
Parodd yr ystyriaethau hyn i mi ymatal; a phob yn dipyn rhoddais fy nghynllun heibio, a barnwn yn awr mai camwri fyddai ymosod ar yr anwariaid; nad fy musnes i oedd ymyrryd â hwynt oni bai eu bod hwy yn ymosod arnaf fi gyntaf. Ar y cyfan, credwn mai fy musnes i oedd ymguddio rhagddynt, a pheidio â gadael yr arwydd lleiaf iddynt ddyfalu oddi wrth hynny fod yr un dyn byw ar yr ynys. A diolchais yn ostyngedig ar fy ngliniau i Dduw, am iddo fy ngwaredu rhag euogrwydd gwaed; gan erfyn arno Ef roddi amddiffyn Ei Ragluniaeth drosof, fel na syrthiwn i ddwylo'r barbariaid ac na osodwn innau mo'm dwylo arnynt hwythau, oni bai fy mod yn derbyn galwad y Nef i wneuthur hynny er mwyn amddiffyn fy einioes fy hun.
PENNOD XIX.
ROBINSON YN DARGANFOD OGOF, LLE Y CAIFF LOCHES RHAG YR ANWARIAID.
DELIAIS ati yn y dull hwnnw am yn agos i flwyddyn wedi hynny, ac nid euthum i fyny'r bryn o gwbl i weld a oedd rhai ohonynt yn y golwg. Ond fe symudais fy nghwch i ben dwyreiniol yr ynys a gadewais ef mewn cilfach lle y gwyddwn na ddeuai'r anwariaid yno ar gyfrif yn y byd. Ar wahan i hyn, cadwn o'r golwg yn fwy nag erioed, ac anfynych yr awn o'm cell oddieithr i odro fy ngeifr a gofalu am fy mhraidd yn y coed.
Y mae'n sicr nad oedd yr anwariaid hyn ddim yn cyrchu i'r ynys gyda'r bwriad o ddarganfod dim byd yno, ac felly ni fyddent byth yn crwydro o'r traeth. Ond fe roddodd y peryglon hyn a'r ofn parhaus oedd arnaf ben ar bob dyfais a chynllun o'm heiddo er sicrhau gwell cyfleusterau a hwylustod i mi yn y dyfodol. Yn awr gofalwn fwy am fy niogelwch nag am fy mwyd. Ni fynnwn guro hoelen na thorri darn o bren yn awr, rhag ofn y clywid y sŵn a wnawn; llawer llai y taniwn wn, am yr un rheswm; ac, yn anad dim, byddwn yn annioddefol o anesmwyth wrth wneud tân, rhag ofn i'r mwg fy mradychu, ac am y rheswm hwn symudais y rhan honno o'm gwaith yr oedd angen tân ynglŷn â hi, megis crasu potiau a phibelli, i'm lle newydd yn y coed. Yno, er cysur dirfawr i mi, darganfûm ogof naturiol yn y ddaear a âi i mewn am ffordd bell, a lle, mi dybiaf, na feiddiai'r un dyn anwar fyth fentro i mewn iddo; ac yn wir ni feiddiai'r un dyn arall oni bai ei fod fel fi â mwy o angen lloches ddiogel arno na dim.
Yr oedd genau'r twll hwn wrth odre craig fawr. Rhyw ddiwrnod, tra'r oeddwn yn torri coed yn y fan hon, sylwais fod yno ryw fath o le gwag tu cefn i gangen dew o brysgwydd isel. Yr oedd arnaf flys edrych i mewn iddo; ac wedi cyrraedd at ei enau gyda chryn lawer o anhawster, gwelwn ei fod yn lled fawr; hynny yw; yn ddigon mawr i mi sefyll yn syth ynddo, ac efallai un arall gyda mi. Ond rhaid i mi gydnabod fy mod wedi brysio allan ynghynt nag yr euthum i mewn; canys wrth i mi edrych ymhellach i mewn iddo, a'r lle yn hollol dywyll, gwelwn ddau lygad mawr disglair rhyw greadur a befriai fel dwy seren. A chan ymwroli, cydiais mewn ffagl fawr o'r tân, a rhuthrais i mewn drachefn â'r pren yn fflamio yn fy llaw. Nid oeddwn wedi mynd dros dri cham i mewn na ddychrynwyd fi bron gymaint ag o'r blaen; gan i mi glywed ochenaid uchel, megis gŵr mewn poen, a dilynwyd hi â sŵn drylliog, fel rhywun yn hanner torri geiriau, ac yna ochenaid ddofn drachefn. Cymerais gam yn ôl, ac fe'm tarawyd â'r fath syndod nes yr oedd chwys oer drosof; a phe buasai het am fy mhen nid wyf yn sicr na chodasai fy ngwallt hi i ffwrdd. Ond gan ymwroli drachefn gymaint ag a fedrwn, ac ymgalonogi rhyw ychydig wrth feddwl fod gallu a phresenoldeb Duw ymhobman, cerddais ymlaen drachefn, ac yng ngolau'r ffagl wrth ei dal ychydig uwch fy mhen, gwelwn yn gorwedd ar lawr hen fwch gafr mawr aruthrol, ar wneud ei ewyllys, ac yn ymladd am ei anadl; ac yn marw o henaint yn unig. Cyffroais ychydig arno i weld a allwn ei gael oddiyno, a cheisiodd symud, ond ni allai godi; a thrawodd i'm meddwl nad oedd waeth iddo orwedd yn y fan honno; canys os oedd wedi peri'r fath fraw i mi, byddai'n sicr o ddychrynu'r anwariaid os byddai rhywrai ohonynt mor eofn â dyfod i mewn yno tra byddai rhywfaint o fywyd ynddo.
Yn awr dechreuais edrych o amgylch, a gwelwn nad oedd yr ogof ddim ond bechan iawn. Efallai ei bod tua deuddeg troedfedd drosti, ond nid oedd ffurf yn y byd arni, na chrwn na sgwâr, gan nad oedd dim dwylo erioed wedi bod yn gweithio arni ond rhai Natur. Sylwais hefyd fod yno le yn ei phen draw a âi ymhellach i mewn, ond yr oedd mor isel fel yr oedd yn rhaid i mi grafangu ar fy mhenliniau a'm dwylo i fynd i mewn yno; a chan nad oedd cannwyll gennyf gadewais iddo am ychydig, ond penderfynais ddychwelyd drannoeth gyda chanhwyllau. A thrannoeth deuthum yno, a chennyf chwech o ganhwyllau mawrion, a wnaethwn fy hunan, canys gwnawn ganhwyllau da yn awr o wêr geifr. Wedi i mi fynd drwy'r lle cul, gwelwn fod y to yn codi'n uwch, bron ugain troedfedd, 'r wy'n credu. Ond ni welwyd erioed y fath olygfa odidog yn yr ynys, mi dybiaf, ag ydoedd gweld ochrau a tho yr ogof hon; adlewyrchai'r muriau gan mil o

Yr oeddynt yn dawnsio i gyd o amgylch y tân.
(Gwel tud. 158).
oleuadau arnaf o'm dwy gannwyll. Beth oedd yn y graig, pa un ai diemwnt, neu ryw feini gwerthfawr eraill, ai aur, ni wyddwn i ddim. Yr oedd y llawr yn sych a gwastad, a rhyw fath o raean mân arno, fel nad oedd yno yr un creadur ffiaidd na gwenwynig i'w weld; ac nid oedd yno ddim lleithder na gwlybaniaeth ar yr ochrau na'r to. Yr unig anhawster ydoedd y fynedfa iddi; ond gan ei bod yn gyfryw loches ag yr oedd arnaf ei heisiau, tybiwn mai hwylustod oedd hynny; yn wir, yr oeddwn yn falch o'r darganfyddiad, a phenderfynais, heb oedi dim, ddwyn y pethau y pryderwn fwyaf yn eu cylch i'r fan hon; yn enwedig fy ystorfa bowdr a'r arfau oedd gennyf dros ben, sef, dau ddryll adar, gan fod gennyf dri ohonynt i gyd, a thri mwsged, gan fod gennyf wyth o'r rheini.
Yn awr dychmygwn fy mod yn debyg i un o'r hen gewri hynny y dywedir eu bod yn byw mewn ogofau a thyllau yn y creigiau lle na allai neb ddod yn agos atynt; ac fe'm darbwyllais fy hunan, tra byddwn yma, hyd yn oed petai pum cant o anwariaid yn fy hela, na fedrent byth ddod o hyd i mi; neu, pe gwnelent hynny, ni feiddient ymosod arnaf yn y fan hon. Bu'r hen fwch gafr farw yng ngenau'r ogof, drannoeth wedi i mi ddarganfod y lle, ac yr oedd yn haws i mi o lawer dorri twll mawr yno, a'i daflu iddo a'i orchuddio â phridd, na'i lusgo allan; a chleddais ef yno, rhag peri tramgwydd i'm trwyn.
Yr oeddwn yn awr wedi byw am dair blynedd ar hugain ar yr ynys hon; ac yr oeddwn wedi cynefino cymaint â'r lle ac â'r dull o fyw, fel, petaswn i'n sicr na fuasai'r anwariaid ddim yn aflonyddu arnaf, y buaswn yn fodlon treulio gweddill fy oes yma, hyd yn oed tan y foment olaf, hyd nes y buaswn yn gorwedd i lawr a marw fel yr hen afr yn yr ogof. Yr oedd gennyf hefyd ychydig bethau i'm difyrru, a barai i'r amser fynd heibio yn fwy pleserus nag o'r blaen. Yn gyntaf, yr oeddwn wedi dysgu Pol i siarad; a gwnâi hynny mor groyw a chlir fel yr oedd yn hyfryd iawn i mi, a bu fyw gyda mi am chwe blynedd ar hugain. Bu fy nghi yn gydymaith difyr ac annwyl iawn i mi am ddim llai nag un mlynedd ar bymtheg o amser, a bu farw wedyn o ddim byd ond henaint. Gyda golwg ar fy nghathod, amlhaodd y rhain gymaint fel y bu rhaid i mi saethu amryw ohonynt rhag iddynt fy nifa i a phopeth oedd gennyf; ond, o'r diwedd, trwy eu gyrru ymaith oddiwrthyf yn barhaus, a pheidio â rhoi dim bwyd iddynt, rhedodd y cwbl yn wyllt i'r coed, oddieithr dwy neu dair o'm ffafriaid; ac yr oedd y rhain yn rhan o'm teulu. Heblaw y rhain, cadwn yn wastad ddau neu dri myn gafr a ddysgwn i fwyta o'm llaw; ac yr oedd gennyf ddau barrot arall a siaradai'n bur dda, a gwaeddent hwythau " Robin Crusoe," ond nid oedd yr un ohonynt fel y cyntaf. Yr oedd gennyf hefyd amryw o adar y môr na wn i mo'u henwau, y rhai a ddaliaswn ar y traeth, a thorri eu hadenydd; ac, fel y dywedais uchod, yr oeddwn yn dechrau bodloni ar y bywyd oedd gennyf pe gallesid ei ddiogelu oddi wrth ofn yr anwariaid.
Ond fel arall y trefnwyd iddi fod, ac nid peth o'i le fyddai i bawb a ddaw ar draws fy stori i, sylwi ar hyn; sef, mai y cyfrwng neu'r drws o ymwared, yn aml iawn, yng nghwrs ein bywyd, yw'r drwg a geisiwn ei ochelyd fwyaf, a'r un pan syrthiwn iddo yw'r mwyaf arswydus i ni; trwy hwnnw yn unig y gellir ein codi eilwaith o'r helynt y byddwn ynddo. Gallwn roddi amryw enghreifftiau o hyn yn ystod fy mywyd anesboniadwy i; ond ni fu'n hynotach mewn dim byd nag yn amgylchiadau blynyddoedd olaf fy mywyd unig yn yr ynys hon.
PENNOD XX.
YR ANWARIAID YN YMWELED Â'R YNYS DRACHEFN—ROBINSON YN EU GWELD YN DAWNSIO—GWELD DARNAU O LONG AR Y CREIGIAU.
YR oedd yn awr yn fis Rhagfyr yn fy nhrydedd fwyddyn ar hugain; a chan mai Cyhydedd y Deau ydoedd (ni allaf ei alw'n aeaf), dyma adeg fy nghynhaeaf i, a rhaid oedd i mi fod allan gryn lawer yn y meysydd. Wrth i mi fynd allan yn bur gynnar un bore, hyd yn oed cyn iddi dorri'r dydd yn iawn, fe'm synnwyd wrth weld golau tân ar y traeth, tua dwy filltir o bellter, oddi wrthyf, yng nghyfeiriad pen yr ynys lle yr oeddwn wedi sylwi i'r anwariaid fod yno o'r blaen.
Yr oeddwn wedi fy synnu'n ofnadwy gan yr olygfa, ac arhosais lle'r oeddwn, gan na feiddiwn fynd allan. Ac eto nid oedd dim heddwch i mi yno, gan yr ofnwn os digwyddai i'r anwariaid hyn, wrth grwydro drwy'r ynys, ddod ar draws fy ŷd neu ryw waith o'm heiddo, y casglent ar unwaith fod yno bobl, ac na orffwysent wedyn nes cael hyd i mi. Yn y cyfyngder hwn, euthum yn ôl ar fy union i'm castell, gan dynnu'r ysgol ar fy ôl a gwneud i bopeth o'r tu allan edrych mor wyllt a naturiol ag a fedrwn.
Yna paratoais i'm hamddiffyn fy hun. Llwythais fy holl fagnelau, fel y galwn i hwynt; sef, fy mwsgedi, a phob pistol a feddwn, a phenderfynais fy amddiffyn fy hun hyd yr anadl olaf, heb anghofio fy nghyflwyno fy hunan i'r Amddiffyn Dwyfol, a gweddio'n daer ar Dduw i'm gwaredu o ddwylo'r barbariaid. Ac yn y sefyllfa hon y bûm am tua dwy awr. Wedi eistedd ychydig yn hwy, gan synfyfyrio beth a wnawn, methais à dal dim rhagor, a chan osod fy ysgol yn erbyn yr ochr ar le gwastad, a'i thynnu ar fy ôl, a'i hailosod drachefn, dringais i ben y bryn; a chan dynnu allan fy sbienddrych, gorweddais ar fy nhor ar lawr, a dechrau edrych am y lle. Yn fuan gwelwn nad oedd dim llai na naw o anwariaid noethion yn eistedd o amgylch tân bychan, nid i ymdwymno, gan nad oedd angen hynny arnynt wrth fod y tywydd yn boeth dros ben, ond, mae'n debyg, i drin peth o'u hymborth barbaraidd o gig dynol a ddygasent gyda hwynt,—pa un ai'n fyw ai'n farw, ni wyddwn i ddim.
Yr oedd ganddynt ddau ganŵ wedi eu tynnu i fyny ar y traeth; a chan ei bod y pryd hwnnw yn amser trai, ymddangosent i mi fel pe baent yn aros am y llanw i fynd ymaith drachefn. Nid hawdd yw dychmygu'r dryswch a barodd yr olygfa hon i mi, yn enwedig wrth eu gweld yn dyfod fy ochr i i'r ynys, ac mor agos ataf hefyd. Ond pan ystyriais eu bod yn dyfod bob amser gyda'r trai, dechreuais ymdawelu, gan fy mod yn fodlon yn awr y gallwn fentro allan yn ddiogel yn ystod y llanw, os na fyddent ar y lan cyn hynny.
Megis y disgwyliwn, felly y profodd; canys cyn gynted ag y daeth y llanw, gwelwn hwynt i gyd yn cymryd cwch, ac yn rhwyfo ymaith. Fe ddylaswn sylwi iddynt fynd ati i ddawnsio am awr neu fwy cyn ymadael; a gallwn ganfod eu hystumiau a'u hysgogiadau a'm gwydrau gwelwn hefyd eu bod yn noeth lymun. Cyn gynted ag y gwelais eu bod wedi mynd, cymerais ddau wn ar fy ysgwyddau, a dau bistol wrth fy ngwregys, a'm cleddau ar fy ochr heb ddim gwain, ac euthum nerth fy nhraed i'r bryn lle y cawswn yr olwg gyntaf arnynt; a chyn gynted ag y cyrhaeddais yno, gwelwn fod tri chanŵ arall wedi bod yno; ac wrth edrych allan ymhellach, gwelwn y cwbl ar y môr gyda'i gilydd, yn mynd am y tir mawr. Golygfa arswydus oedd hon i mi, yn enwedig wrth i mi fynd i lawr i'r traeth a gweld olion yr erchyllwaith a adawsid ar ôl ganddynt; sef, y gwaed, yr esgyrn, a darnau o gnawd cyrff dynol a fwytasid gan y dyhirod hynny mewn difyrrwch a than chwarae.
Yr oedd yn amlwg i mi nad ymwelent â'r ynys yn aml; a threuliais flwyddyn a thri mis yno cyn gweled dim ychwaneg ohonynt. Ond yr oedd cynnwrf anghyffredin yn fy meddwl yn ystod y pymtheng mis hyn. Cysgwn yn anesmwyth, breuddwydiwn freuddwydion arswydus, ac yn fynych iawn neidiwn i fyny yn fy nghwsg yn ystod y nos.
Canol mis Mai ydoedd, ar yr unfed dydd ar bymtheg, 'rwy'n credu, yn ôl yr hen galendr pren oedd gennyf, pan chwythodd storm gref o wynt drwy'r dydd, gyda chryn lawer o fellt a tharanau; ac yr oedd yn noson front anghyffredin wedi hynny. Ni wn i ddim pa achlysur arbennig ydoedd, ond tra'r oeddwn yn darllen y Beibl, a minnau wedi fy llyncu gan feddyliau difrifol ynghylch fy nghyflwr presennol, fe'm synnwyd gan sŵn gwn, fel y tybiwn i, wedi ei danio ar y môr.
Parodd hyn syndod o natur hollol wahanol i ddim un a gawswn o'r blaen, gan i'r peth roi syniadau newydd hollol yn fy mhen. Codais ar frys gwyllt, ac mewn chwinciad, trewais fy ysgol ar ochr y graig, a chan ddringo ar hyd-ddi a'i thynnu ar fy ôl, cyrhaeddais ben y bryn yn union ar y funud y daeth fflach o dân a barodd i mi wrando am ergyd arall; ac ymhen hanner munud dyma fi'n ei chlywed; ac oddi wrth y sŵn gwyddwn iddi ddod o'r rhan honno o'r môr lle y gyrrwyd fi gyda'r lli yn fy nghwch.
Tybiais ar unwaith mai rhyw long mewn perygl oedd yno, a bod ganddynt gydymaith neu long arall yn gwmni, a'u bod yn tanio'r gynnau fel arwydd o gyfyngder, ac er mwyn cael help. Bûm yn ddigon pwyllog i feddwl, hyd yn oed os na fedrwn i eu helpu hwy, y gallent hwy efallai fy helpu i; felly cesglais ynghyd hynny o goed sychion a allwn eu cael, a chan wneud pentwr braf, dodais dân ynddo ar ben y bryn. Yr oedd y coed yn sychion, ac fe fflamiodd yn rhwydd, ac er bod y gwynt yn chwythu'n lled galed, llosgodd allan yn bur llwyr; ac yr oeddwn yn eithaf sicr os oedd yno'r fath beth â llong y byddent yn rhwym o'i weld, ac fe'i gwelsant yn ddiau; canys cyn gynted ag y fflamiodd fy nhân i fyny clywais wn arall, ac wedi hynny amryw o rai eraill, a'r cwbl o'r un cyfeiriad. Bûm yn trin fy nhân drwy'r nos nes i'r dydd dorri; a phan oedd yn ddydd golau, a'r awyr wedi clirio, gwelwn rywbeth ymhell allan yn y môr, yn union ar du'r dwyrain i'r ynys; ni allwn ddarganfod pa un ai hwyl ai corff llong ydoedd, na, ddim hyd yn oed â'm gwydrau; yr oedd y pellter gymaint, a'r tywydd hefyd braidd yn niwlog; o leiaf yr oedd felly allan yn y môr.
Edrychais arno'n fynych drwy'r diwrnod hwnnw a gwelais yn fuan nad oedd yn symud dim; felly cesglais mai llong wrth ei hangor ydoedd. A chan fy mod yn awyddus i wybod, cymerais fy ngwn yn fy llaw, a rhedais i gyfeiriad pen deau'r ynys, hyd at y creigiau lle gynt y'm cludwyd ymaith gyda'r lli; ac wedi cyrraedd yno, er gofid mawr i mi, gwelwn ddarn o long wedi ei fwrw yn y nos ar y creigiau cudd hynny a welswn pan oeddwn allan yn fy nghwch. Ymddengys fod y gwŷr hyn, pwy bynnag oeddynt, gan eu bod allan o'u cynefin, a chan fod y creigiau'n hollol dan ddŵr, wedi eu gyrru arnynt yn y nos, wrth fod y gwynt yn chwythu'n galed o'r Gogledd-ddwyrain. Os oeddynt wedi gweled yr ynys, mae'n rhaid eu bod wedi ceisio eu hachub eu hunain trwy gymorth eu cwch; ond gan eu bod wedi tanio gynnau am gynhorthwy, fe'm llanwyd â phob math o syniadau. Yn gyntaf, wedi iddynt weld fy ngolau i, dychmygwn eu bod wedi mynd i'r cwch, a cheisio cyrraedd y lan; bryd arall dychmygwn eu bod wedi colli eu cwch cyn hynny, drwy i'r môr olchi dros y llong. Ar adegau eraill tybiwn fod ganddynt long arall yn gwmni, a bod honno wedi eu codi. Weithiau dychmygwn eu bod i gyd wedi mynd allan i'r môr mewn cwch, a chan i'r llif y bûm i ynddo gynt eu cipio ymaith, eu bod wedi eu cludo allan i'r eigion mawr lle nad oedd dim yn eu haros ond trueni ac angau; ac erbyn hyn efallai eu bod yn trengi o newyn ac yn dechrau bwyta'i gilydd.
PENNOD XXI.
MYND I'R DARN LLONG A CHAEL LLAWER O BETHAU OHONI—MEDDWL GADAEL YR YNYS.
HYD at y flwyddyn olaf i mi ar yr ynys hon, ni wyddwn a oedd rhywun wedi ei achub o'r llong honno ai peidio; ac ni chefais ddim ond y gofid o ganfod corff bachgen wedi boddi yn dod i'r lan ar ben yr ynys oedd nesaf at y darn llong. Nid oedd ganddo ddim dillad amdano heblaw gwasgod llongwr, pâr o drors lliain, a chrys lliain glas; ond nid oedd dim byd i'm cyfarwyddo, hyd yn oed i ddyfalu i ba genedl y perthynai. Nid oedd ganddo ddim yn ei bocedi oddieithr dau ddarn wyth a phibell. Yr oedd yr olaf ddengwaith mwy gwerthfawr i mi na'r cyntaf.
Yr oedd yn dawel yn awr, ac yr oedd arnaf awydd mentro allan yn fy nghwch i'r darn llong hwn, heb amau dim na chawn rywbeth ynddi a fyddai o ddefnydd i mi. Ond nid hynny yn hollol a'm cymhellodd, yn gymaint â'r syniad y gallai fod rhyw greadur byw ar y bwrdd y gallwn nid yn unig achub ei fywyd, ond y gallwn, trwy achub y bywyd hwnnw, sirioli fy mywyd fy hunan yn fawr iawn. Glynodd y syniad hwn gymaint yn fy nghalon fel na allwn fod yn dawel na dydd na nos, ond rhaid oedd mentro yn fy nghwch i'r darn llong.
Yng ngrym yr argraff hon, brysiais yn ôl i'm castell; paratoais bopeth gogyfer â'm mordaith; ac wedi fy llwytho fy hunan â phopeth angenrheidiol, euthum â hwynt i'm cwch. A chan weddïo ar Dduw i'm harwain ar y fordaith, euthum allan; ac wrth rwyfo'r canŵ gyda'r lan, deuthum o'r diwedd i ben pellaf yr ynys ar yr ochr honno; sef, y Gogledd—ddwyrain. Ac wedi tynnu fy nghwch i gilfach fechan ar y traeth, euthum i eistedd ar ddarn o dir codi, yn bruddaidd ac yn bryderus iawn, rhwng ofn ac awydd, ynglŷn â'm mordaith. Ond tra'r oeddwn yn synfyfyrio, gwelwn fod y llif wedi troi, a bod y llanw'n dod i mewn; ac am rai oriau byddai'n annichon i mi fynd.
Bore trannoeth, penderfynais gychwyn gyda'r llif cyntaf. Deliais allan i'r môr ar y cyntaf, yn union i'r gogledd, a chludodd y llif fi gyda chyflymdra mawr i gyfeiriad y darn llong, ac mewn llai na dwyawr deuthum ati. Golygfa ddigalon ydoedd; llong o Sbaen yn ôl ei saerniaeth, wedi glynu ac wedi ei gwasgu'n dyn rhwng dwy graig. Yr oedd ei starn i gyd a'i chwarter ôl wedi ei falu'n yfflon gan y môr; a chan fod y fforcasl, a lynasai yn y creigiau, wedi rhedeg arnynt gyda'r fath rym, yr oedd y mast blaen a'r mast mawr wedi eu torri yn y bôn; ond yr oedd y bolsbryd yn gyfan, ac ymddangosai'r pen blaen yn gadarn. Wedi i mi ddod yn agos ati, daeth ci i'r golwg arni, ac wrth iddo fy ngweld i'n dod, cyfarthai a gwaeddai; a chyn gynted ag y gelwais arno, neidiodd i'r môr i ddod ataf, a chymerais ef i'r cwch; ond gwelwn ei fod bron â marw gan newyn a syched. Rhoddais dafell o'm bara iddo, a bwytaodd hi fel blaidd rheibus wedi bod yn trengi o newyn am bythefnos yn yr eira. Yna rhoddais ychydig ddŵr croyw i'r creadur druan, a phetawn wedi gadael iddo buasai wedi ei hollti ei hunan ag ef.
Wedyn euthum ar y bwrdd; ond y peth cyntaf a welais oedd dau ddyn wedi boddi yn y fforcasl, gyda'u breichiau'n dyn am ei gilydd. Heblaw'r ci, nid oedd yn y llong ddim byd â bywyd ynddo; na dim nwyddau hyd y gwelwn i ond a ddifethwyd gan y dŵr. Yr oedd yno gasgiau o wirod, pa un ai gwin ai brandi ni wyddwn i ddim; ond yr oeddynt yn rhy fawr i ymyrryd â hwynt. Gwelais amryw gistiau o eiddo'r llongwyr, a chefais ddwy ohonynt i'r cwch heb edrych beth oedd ynddynt. Yr oedd amryw fwsgedi yn y caban a chorn powdwr mawr, a thua phedwar pwys o bowdwr ynddo. Nid oedd arnaf eisiau'r mwsgedi a gadewais iddynt, ond cymerais y corn powdwr. Cymerais hefyd raw dân a gefail, yr oedd mawr angen arnaf amdanynt; a hefyd, dau degell pres bychan, pot efydd, a gradell; a chyda hyn o lwyth, a'r ci, deuthum oddiyno. A'r noson honno, ryw awr wedi nos, cyrhaeddais yr ynys drachefn, yn flinedig ac yn lluddedig neilltuol.
Cysgais y noson honno yn y cwch; a bore trannoeth penderfynais gadw'r pethau a gawswn yn fy ogof newydd. Wedi cael bwyd, cludais fy İlwyth i'r lan, a dechreuais chwilota ei gynnwys; ond ar y cyfan, ni chefais ar y fordaith hon ond ychydig iawn o ddim byd a oedd o ddefnydd i mi. Nid oedd yr arian a gawswn o fudd yn y byd i mi, ac fe'i rhoeswn i gyd am ddeubar neu dri o 'sgidiau a 'sanau Lloegr,—pethau yr oedd arnaf angen mawr amdanynt; ond yr oedd blynyddoedd er pan fuasai rhai am fy nhraed i.
Wedi i mi ddwyn popeth i'r lan a'u cadw yn ddiogel, a mynd â'm cwch i'w borthladd, cyrchais i'm hen gartref, lle y cefais bopeth yn ddiogel ac yn dawel. Gorffwysais yn awr, gan fyw yn yr hen ddull; dim ond fy mod yn fwy gwyliadwrus nag yr arferwn fod, ac nid awn allan gymaint.
Bum fyw yn y cyflwr hwn am ddwy flynedd arall bron, a'm pen yn llawn o syniadau a chynlluniau ar sut i ddianc o'r ynys; a chredaf yn wir, pe buasai'r cwch yr aethwn ynddo o Sallee gennyf yn awr, y buaswn wedi mentro i'r môr. Mae'n wir fod gennyf fwy o gyfoeth yn awr nag oedd gennyf o'r blaen, ond ni fedrwn wneud dim gwell defnydd ohono nag a wnâi Indiaid Periw cyn i'r Ysbaenwyr ddod yno.
Rhyw noswaith yn ystod y tymor glawog ym mis Mawrth, a'r bedwaredd flwyddyn ar hugain er pan oeddwn wedi gosod fy nhraed ar yr ynys unig hon, gorweddwn yn effro yn fy ngwely. Yr oedd fy iechyd yn iawn, a dim mwy o anesmwythdra meddwl arnaf nag arfer, ond ni allwn gau fy llygaid mewn modd yn y byd, hynny yw, i gysgu; na, dim un chwinciad drwy gydol y nos, dim ond fel a ganlyn:
Euthum drwy holl hanes fy mywyd, mewn crynodeb fel petai, hyd at fy nyfod i'r ynys hon, a hefyd y darn hwnnw o'm bywyd er pan ddeuthum i'r ynys. Wrth ystyried fy sefyllfa er yr adeg y deuthum yma, yr oeddwn yn cymharu fy amgylchiadau cysurus yn y blynyddoedd cyntaf â'r bywyd o bryder ac ofn a dreuliaswn fyth er pan welswn yr ôl troed ar y tywod.
Yna dechreuais feddwl yn ddifrifol am y peryglon y buaswn ynddynt am gymaint o flynyddoedd, yn enwedig y perygl o syrthio i ddwylo canibaliaid ac anwariaid na thybient ei fod yn ddim mwy o drosedd iddynt fy lladd a'm bwyta nag a wnawn innau gyda cholomen neu ylfinir.
O'r diwedd penderfynais mai'r unig ffordd i mi geisio dianc ydoedd trwy gael un o'r anwariaid yn eiddo i mi; ac, os yn bosibl, byddai hwnnw yn un o'r carcharorion a fyddai wedi ei gollfarnu i'w fwyta ganddynt hwy, ac wedi ei ddwyn yma i'w ladd. Ond codai'r anhawster hwn wedyn, sef, ei bod yn annichonadwy gwneud hyn heb ymosod ar fintai gyfan ohonynt a lladd y cwbl; ac arswydai fy nghalon wrth feddwl am dywallt cymaint â hynny o waed; hyd yn oed i'm gwaredu fy hun. Fodd bynnag, wedi llawer o ymddadlau, penderfynais gael un o'r anwariaid i'm dwylo, costied a gostio. A'r peth nesaf oedd dyfeisio sut i wneud hynny, ac yr oedd hyn yn wir yn beth anodd iawn. Nid oedd dim am dani ond eu gwylio pan ddeuent i'r lan, a gadael i'r gweddill gymryd eu siawns yn ôl fel y byddai'r cyfle.
PENNOD XXII.
ROBINSON YN ACHUB UN O'R CARCHARORION ODDI AR YR ANWARIAID—EI FEDYDDIO'N FRIDAY—YNTAU YN DOD YN WAS IDDO.
YMHEN tua blwyddyn a hanner, fe'm synnwyd yn gynnar un bore wrth weld dim llai na phum canŵ gyda'i gilydd ar y traeth ar fy ochr i i'r ynys, a'r bobl oedd ynddynt wedi glanio i gyd, ac allan o'm golwg. Yr oedd eu nifer yn torri ar draws fy nghynlluniau i gyd; canys wrth weld cymaint ohonynt,—a minnau'n gwybod eu bod yn dod bob amser yn bedwar neu chwech neu fwy weithiau mewn cwch—ni wyddwn beth i'w feddwl, na pha foddion a gymerwn i ymosod ar ugain neu ddeg ar hugain o ddynion ar fy mhen fy hun; felly arhosais yn llonydd yn fy nghastell mewn penbleth ac anghysur. Wedi aros gryn amser, a gwrando i edrych a wnaent ryw sŵn, o'r diwedd, gosodais fy ngynnau wrth droed fy ysgol, a dringais i ben y bryn fel arfer. Yma, gyda chymorth fy sbienddrych, gwelwn nad oedd yno ddim llai na deg ar hugain ohonynt, eu bod wedi cynnau tân, ac wedi bod yn trin cig. Sut yr oeddynt wedi ei goginio, ni wyddwn i mo hynny, na pha beth ydoedd, ond yr oeddynt yn dawnsio i gyd yn eu ffordd eu hunain o amgylch y tân.
Tra'r oeddwn yn edrych arnynt fel hyn, gwelwn lusgo dau adyn truan o'r cychod, lle, mae'n debyg, y gadawsid hwy; ac yn awr dygid hwy allan i'r lladdfa. Gwelwn un ohonynt yn syrthio ar unwaith, wedi ei daro i lawr, mae'n debyg, gyda phastwn neu gleddau pren, canys dyna eu ffordd hwy, a dau neu dri arall yn ei ddarnio ar unwaith i'w fwyta, tra gadewid y llall druan yn sefyll ar ei ben ei hun, nes byddent hwy yn barod iddo. Y funud honno, dyma'r creadur hwnnw druan, wrth ei weld ei hunan yn cael ychydig o ryddid, yn cychwyn ymaith oddi wrthynt ac yn rhedeg gyda chyflymdra anghredadwy ar hyd y tywod yn union tuag ataf fi, hynny yw, tua'r darn hwnnw o'r arfordir lle yr oedd fy nhrigfan i.
Yr oeddwn wedi dychrynu yn ofnadwy, y mae'n rhaid i mi gyfaddef, pan welais ef yn rhedeg i'm cyfeiriad i, ac yn enwedig pan welais yr holl lu yn ei ddilyn, fel y tybiwn i. Fodd bynnag, cododd fy ysbryd ychydig pan welais nad oedd dim mwy na thri dyn yn ei ddilyn; ac fe'm calonogwyd yn fwy fyth wrth ei weld yn eu trechu'n anghyffredin mewn rhedeg a'i fod yn ennill tir arnynt, ac os medrai ddal ati am hanner awr, gwelwn y câi yn glir â hwynt i gyd yn rhwydd.
Rhyngddynt a'm castell i, yr oedd y gilfach y cyfeiriais ati ar ddechrau fy stori lle y dadlwythais fy nghelfi o'r llong; a gwelwn y byddai yn rhaid iddo nofio dros hon neu fe'i delid druan yn y fan honno. Ond pan ddaeth y ffoadur yno, ni chymerth sylw ohoni, er bod y llanw i fyny y pryd hwnnw; ond gan blymio i mewn, nofiodd drwodd ar ryw ddeg strôc ar hugain, glaniodd, a rhedodd ymlaen gyda chyflymdra ac egni anghyffredin. Pan ddaeth y tri arall at y gilfach, gwelwn y medrai dau ohonynt nofio, ond ni fedrai'r trydydd, a chan edrych ar y lleill safodd yr ochr arall, ond nid aeth gam ymhellach, ac yn fuan aeth yn ei ôl yn dawel; ac fel y digwyddodd pethau dyna oedd y gorau iddo yn y pen draw.
Sylwais fod y ddau a nofiodd gyhyd ddwywaith yn croesi'r gilfach â'r sawl oedd yn ffoi rhagddynt. Tarawodd i'm meddwl yn awr mai dyma'r adeg i mi gael gwas, ac efallai gydymaith neu gynorthwywr, ac y gelwid arnaf yn eglur gan Ragluniaeth i achub bywyd y creadur hwn druan. Rhedais i lawr yr ysgolion ar unwaith, gyda'r brys mwyaf, i nôl fy nau wn, gan fod y ddau wrth droed yr ysgolion; a chan ddod i fyny drachefn yr un mor frysiog i ben y bryn, croesais i gyfeiriad y môr, a chan nad oedd gennyf ond ffordd fer ar oriwaered, gosodais fy hunan rhwng yr erlidwyr a'r erlidiedig, gan floeddio'n uchel ar y sawl oedd yn ffoi; yntau'n edrych yn ôl ac arno gymaint o'm hofn i ar y cyntaf ag oedd arno o'u hofn hwy; ond amneidiais â'm llaw arno i ddod yn ôl, ac yn y cyfamser euthum ymlaen yn araf at y ddau oedd yn dilyn, a chan ruthro ar unwaith ar y cyntaf trewais ef i lawr â bon fy nryll. Nid oeddwn am danio gan nad oeddwn am i'r gweddill glywed. Wedi taro hwn i lawr, safodd y llall a'i dilynai fel pe wedi ei ddychrynu, ac euthum ymlaen ato ar unwaith; ond wrth i mi fynd yn nes ato gwelwn fod ganddo fwa saeth, ac yr oedd yn ei ddarparu i saethu ataf; felly bu raid i mi saethu ato ef gyntaf, ac fe'i lleddais ar yr ergyd gyntaf.
Yr oedd y creadur gwyllt a ffoasai ond a safasai yn llonydd, er iddo weld ei ddau elyn wedi

Gadawsant hwy yma wedi eu rhwymo.
(Gwel tud, 215)
syrthio ac wedi eu lladd, fel y tybiai ef,—eto i gyd wedi ei ddychrynu gymaint gan y sŵn a'r tân o'm dryll i, fel y safodd yn farw—lonydd, ac ni symudodd nac yn ôl nac ymlaen, er y dangosai fwy o duedd i ffoi nag i ddod ymlaen. Gwaeddais arno drachefn, a gwneuthum arwyddion iddo ddod ymlaen, y rhai a ddeallai yn hawdd, a daeth ychydig bach; yna safodd drachefn, ac ymlaen ychydig wedyn, ac aros eilwaith; a gwelwn yna ei fod yn crynu wrth sefyll, fel pe y cymerasid yntau yn garcharor a'i fod yntau i'w ladd fel y gwnaed i'w ddau elyn. Amneidiais arno drachefn i ddyfod ataf, a gwneud pob arwydd y gallwn feddwl am dano i'w galonogi; a daeth yn nes nes gan benlinio bob rhyw ddeg cam neu ddeuddeg, yn arwydd o ddiolch am i mi achub ei fywyd. Gwenais arno, gan edrych yn siriol, ac amneidio arno i ddod yn nes eto. O'r diwedd daeth i'm hymyl, ac yna penliniodd drachefn, cusanodd y ddaear, a gosododd ei ben ar y ddaear, a chan gydio yn fy nhroed, dododd fy nhroed ar ei ben. Yr oedd hyn, mae'n debyg, yn golygu tyngu llw i fod yn gaethwas i mi am byth. Codais ef i fyny, a gwneud yn fawr ohono, a rhoddi pob cefnogaeth iddo. Ond yr oedd ychwaneg o waith i'w wneud eto; canys sylwais nad oedd y dyn gwyllt a darawswn ddim wedi ei ladd, a'i fod yn dechrau dod ato'i hun; felly dangosais iddo nad oedd hwnnw ddim wedi marw; ar hyn dywedodd ychydig eiriau wrthyf, ac er na ddeallwn mo honynt, eto tybiwn eu bod yn ddymunol i'w gwrando, gan mai dyma'r sŵn llais dynol cyntaf a glywswn, ag eithrio yr eiddof fy hun, ers dros bum mlynedd ar hugain. Ond nid oedd dim amser i fyfyrdodau o'r fath yn awr. Adfywiodd yr anwariad a darawsid i lawr ddigon i fedru eistedd ar y ddaear, a sylwais fod ar fy nyn i ofn; ond pan welais hynny, cyfeiriais fy ngwn arall at y dyn, fel petawn am ei saethu. Ar hyn gwnaeth fy nyn gwyllt i amnaid arnaf i roddi benthyg fy nghleddau iddo a grogai yn noeth mewn gwregys ar fy ochr, a gwneuthum hynny. Nid cynt y cafodd ef nag y rhedodd at ei elyn, ac ar un ergyd, torrodd ei ben i ffwrdd mor fedrus na allai'r un dienyddiwr yn yr Almaen wneud hynny'n gynt nac yn well. Wedi iddo wneud hyn, daeth ataf dan chwerthin yn arwydd o fuddugoliaeth, a daeth â'r cleddau i mi; a chyda llawer o ystumiau nad oeddwn i yn deall mohonynt, dododd ef ar lawr gyda phen y dyn gwyllt a laddasai yn union o'm blaen.
Ond y peth a'i synnai fwyaf ydoedd gwybod sut y lladdaswn i'r Indiad arall ac yntau mor bell; a chan bwyntio ato, gwnaeth arwyddion arnaf ganiatáu iddo fynd ato; a pherais iddo fynd, orau y medrwn i. Pan ddaeth ato, safodd yn syn, gan edrych arno a'i droi i ddechrau ar un ochr, yna'r llall, ac edrych ar y twll a wnaethai'r fwled. Yna cymerth ei fwa saeth a dychwelodd, a throais innau i fynd ymaith ac amneidiais arno i'm dilyn. Ar hyn arwyddodd yntau y dylai eu claddu â thywod rhag i'r gweddill eu gweld pe dilynent ni, a gwneuthum innau arwyddion arno i wneuthur hynny. Aeth at y gwaith, ac mewn munud yr oedd wedi crafu twll yn y tywod â'i ddwylo digon mawr i gladdu'r cyntaf ynddo, ac yna llusgodd ef iddo, a chuddiodd ef, a gwnaeth yr un peth â'r llall. Credaf ei fod wedi claddu'r ddau ymhen chwarter awr. Yna gan alw arno oddi yno, euthum ag ef, nid i'm castell, ond draw i'm hogof ar yr ochr bellaf i'r ynys. Yna rhoddais fara iddo a sypyn o resin i'w bwyta, a diod o ddŵr; ac wedi i mi adfywio tipyn arno amneidiais arno i fynd i orwedd i lawr a chysgu, gan ddangos lle iddo yr oeddwn wedi gosod gwellt reis a phlanced arno, lle y cysgwn fy hunan weithiau; a gorweddodd y creadur druan i lawr a chysgodd.
Yr oedd yn greadur glandeg, hardd, hollol luniaidd, gydag aelodau cryfion unionsyth, heb fod yn rhy fawr, yn dal a golygus, ac yn ôl fy marn i, tua chwech ar hugain oed. Yr oedd ganddo wynepryd digon dymunol,—nid rhyw olwg ffyrnig a sur, ond yr oedd rhywbeth gwrol anghyffredin yn ei wyneb, ac eto yr oedd holl fwynder a thynerwch Ewropeaidd yn ei wedd hefyd, yn enwedig pan wenai. Yr oedd ei wallt yn hir ac yn ddu, nid yn gyrliog fel gwlân; a chanddo dalcen mawr uchel, a rhyw hoen anghyffredin a chraffter pefriol yn ei lygaid. Nid oedd lliw ei groen yn hollol ddu, ond yr oedd yn felyn—ddu iawn; ac eto nid y melynddu hyll annymunol fel y Brasiliaid a'r Virginiaid a brodorion eraill America, ond yr oedd rhywbeth dymunol iawn ynddo, er nad yw'n hawdd iawn ei ddisgrifio. Yr oedd ei wyneb yn grwn ac yn dew, ei drwyn yn fychan ond nid yn fflat fel y negroaid, genau digon tlws, gwefusau teneuon, a'i ddannedd tlysion yn wastad a chyn wynned ag ifori.
Wedi iddo gysgu am tua hanner awr, dihunodd drachefn, a daeth allan o'r ogof ataf fi, gan fy mod i wedi bod yn godro'r geifr a gadwn yn y cae yn ymyl. Pan welodd fi, daeth ataf dan redeg, a gorwedd drachefn ar lawr gyda phob arwydd posibl o ostyngeiddrwydd a diolchgarwch, gan wneud llawer o ystumiau i ddangos hynny. O'r diwedd dododd ei ben yn fflat ar lawr yn union wrth fy nhroed, a gosododd fy nhroed arall ar ei ben fel y gwnaethai o'r blaen, ac wedi hyn gwnaeth bob math o arwydd gwrogaeth, gwasanaeth, ac ymostyngiad, er mwyn dangos i mi sut y gwasanaethai fi gyhyd ag y byddai byw. Deallwn ef mewn amryw bethau, a gadawn iddo wybod fy mod yn falch iawn ohono. Ymhen peth amser dechreuais siarad ag ef, a'i ddysgu yntau i siarad â mi, ac, yn gyntaf, cefais ganddo wybod mai ei enw fyddai FRIDAY, sef y dydd yr achubais ei fywyd. Dysgais ef hefyd i ddweud Meistr; ac yna rhoi gwybod iddo mai dyna fy enw i. Dysgais ef hefyd i ddweud IE a NAGE, ac i wybod eu hystyr. Rhoddais laeth iddo mewn llestr pridd, a gadael iddo fy ngweld i yn ei yfed o'i flaen, a mwydo fy mara ynddo; a rhoddais dafell o fara iddo yntau i wneud yr un fath, a chydsyniodd ar unwaith, a gwnaeth arwyddion ei fod yn gwneud lles mawr iddo.
Arhosais yno gydag ef drwy'r noson honno; ond cyn gynted ag y dyddiodd, amneidiais arno i ddod gyda mi, a gadewais iddo wybod y rhoddwn ddillad iddo, ac ymddangosai'n falch o hynny, canys yr oedd yn noeth lymun. Wrth i ni fynd heibio i'r fan y claddasai'r ddau ddyn ynddi dangosodd i mi y marciau a wnaethai i gael hyd iddynt wedyn, gan wneud arwyddion i mi y codai hwynt drachefn, a'u bwyta. Ar hyn cymerais arnaf fy mod yn ddig iawn; dangosais fy mod yn ffieiddio'r peth, ac amneidiais arno â'm llaw i ddod oddi yno, yr hyn a wnaeth ar unwaith. Yna arweiniais ef i ben y bryn i weld a oedd ei elynion wedi mynd; a chan dynnu allan fy sbienddrych, edrychais, a gwelais yn eglur y lle y buasent ynddo, ond dim golwg arnynt hwy na'u cychod; felly, yr oedd yn amlwg eu bod wedi mynd, a'u bod wedi gadael eu dau gydymaith ar ôl heb chwilio dim amdanynt.
Ond nid oeddwn yn fodlon ar y darganfyddiad hwn, ac euthum â Friday gyda mi, gan roi'r cleddau yn ei law a'r bwa saeth ar ei gefn, a gwneud iddo gario un gwn i mi, a chennyf innau ddau; ac ymaith â ni i'r fan y buasai'r creaduriaid hyn, gan fod arnaf awydd yn awr cael gwybodaeth lawnach yn eu cylch. Pan ddeuthum i'r lle, fferrodd fy ngwaed yn fy ngwythiennau a suddodd fy nghalon ynof gan erchylltra'r olygfa. Yn wir, yr oedd yn olygfa ddychrynllyd i mi beth bynnag, er nad oedd Friday yn malio dim. Yr oedd y lle wedi ei orchuddio ag esgyrn dynion, y ddaear wedi ei lliwio â'u gwaed, a darnau mawr o gig wedi eu gadael yma ac acw, wedi eu hanner bwyta, eu darnio, a'u llosgi, a holl arwyddion y wledd fuddugoliaethus a wnaethent yno, ar ôl ennill goruchafiaeth ar eu gelynion. Trwy arwyddion, rhoddodd Friday ar ddeall i mi eu bod wedi dwyn pedwar carcharor i wledda arnynt; bod tri ohonynt wedi eu bwyta ac mai yntau oedd y pedwerydd; bod brwydr fawr wedi bod rhyngddynt a'r brenin nesaf atynt, yr un yr oedd ef yn ddeiliad iddo, mae'n debyg, a'u bod wedi cymryd nifer mawr o garcharorion, a'r cwbl wedi eu cludo i wahanol fannau gan y rhai a'u daliasai mewn brwydr, er mwyn gwledda arnynt, megis y gwnaed yma gan y gweilch hyn.
Perais i Friday gasglu'r penglogau i gyd, yr esgyrn, y cig, a beth bynnag oedd yn weddill, a'u gosod yn bentwr ar ei gilydd, a gwneud tân mawr danynt, a'u llosgi'n lludw. Wedi i ni wneud hyn, aethom yn ôl i'n hogof; a'r peth cyntaf a wneuthum oedd darparu dillad i Friday, a gwisgais amdano yn weddol iawn am y tro, ac yr oedd wrth ei fodd o'i weld ei hun wedi ei wisgo bron cystal â'i feistr.
Trannoeth dechreuais feddwl ymha le y gwnawn lety iddo; ac er mwyn gwneud chware teg ag ef, a hefyd bod yn hollol esmwyth fy hunan, gwneuthum babell fechan iddo yn y lle agored oedd rhwng fy nau glawdd, a chan fod mynedfa oddi yno i'm hogof i, gwneuthum ddrws fel na allai Friday ddim dod ataf yn y nos heb wneud cryn lawer o sŵn wrth ddod drosodd; ac awn â'r arfau i gyd i mewn gyda mi bob nos.
Ond nid oedd dim angen gochelgarwch fel hyn arnaf; canys ni bu gan ddyn erioed was mwy ffyddlon, mwy annwyl, a mwy cywir nag a fu Friday i mi; yr oedd ei serchiadau i gyd wedi ymglymu ynof fi, fel eiddo plentyn yn ei dad, a diau gennyf yr aberthai ei fywyd i'm hachub i, ar unrhyw achlysur. Cefais ddigon o dystiolaethau a'm hargyhoeddodd yn fuan nad oedd dim rhaid i mi ragofalu dim ynghylch fy niogelwch o'i blegid ef. Yn wir yr oeddwn yn falch iawn o'm cydymaith newydd; a chymerais drafferth i ddysgu popeth iddo i'w wneud yn ddefnyddiol, yn ddeheuig, ac yn wasanaethgar, ond yn arbennig i wneud iddo siarad a'm deall innau pan siaradwn i. Ac yr oedd yn un o'r ysgolheigion parotaf a fu erioed; ac yr oedd mor llawen, mor hynod o ddiwyd, ac mor falch pan fedrai fy neall i, neu ynteu gael gennyf fi ei ddeall ef, fel y byddwn wrth fy modd yn siarad ag ef. Ac yn awr dechreuodd fy mywyd fod mor esmwyth, fel y dechreuais ddywedyd wrthyf fy hun,—petaswn i ddim ond yn ddiogel rhag ychwaneg o anwariaid na fyddai ddim gwaeth gennyf petawn i byth heb symud o'r lle tra byddwn i byw.
PENNOD XXIII.
ROBINSON YN DYSGU FRIDAY AC YN EI WAREIDDIO—CEISIO RHOI SYNIAD IDDO AM GRISTNOGAETH.
YMHEN deuddydd neu dri ar ôl i mi ddychwelyd i'm castell, er mwyn tynnu Friday oddi wrth ei ddull erchyll o ymborthi ac oddi wrth flas stumog canibal, tybiais y dylwn adael iddo brofi rhyw gig arall; felly euthum ag ef allan un bore i'r coed. Euthum gan fwriadu lladd myn o'm diadell fy hun; ond wrth i mi fynd gwelwn afr yn gorwedd mewn cysgod a dau fyn ieuanc yn ei hymyl. Cydiais yn Friday. " Aros," meddwn i, "saf yn llonydd," a gwneuthum arwyddion arno i beidio â symud. Ar unwaith codais fy ngwn, saethais, a lleddais fyn. Yr oedd y creadur druan wedi ei synnu'n fawr, arswydai a chrynai, ac yr oedd golwg mor frawychus arno fel y credwn y syrthiai ar lawr. Ni welodd ef mo'r myn y saethaswn ato, ac ni sylwodd fy mod wedi ei ladd, ond rhwygodd ei wasgod i weld a oedd ef ei hun wedi ei glwyfo, a thybiai fy mod i wedi penderfynu ei ladd; canys daeth ataf gan benlinio o'm blaen, a chan gofleidio fy ngliniau dywedodd 'amryw bethau na ddeallwn i mohonynt; ond gwelwn yn hawdd mai'r ystyr oedd erfyn arnaf beidio â'i ladd.
Yn fuan gwelais ffordd i'w ddarbwyllo na wnawn i ddim niwed iddo, a chan ei gymryd gerfydd ei law gwenais arno, a chan ddangos iddo'r myn a laddaswn amneidiais arno i redeg i'w nôl,—yr hyn a wnaeth. A thra'r oedd ef yn synnu ac yn edrych sut y lladdasid y creadur, llwythais fy ngwn drachefn. Yn y man, gwelwn aderyn mawr, tebyg i gudyll, yn eistedd ar goeden o fewn ergyd; ac er mwyn i Friday ddeall ychydig beth oeddwn am ei wneud, gelwais arno drachefn a dangosais yr aderyn iddo (parrot ydoedd, er y tybiwn i ar y cyntaf mai cudyll ydoedd); a chan bwyntio at y parrot, ac at fy ngwn, a'r ddaear o dan y parrot, gwneuthum iddo ddeall y saethwn yr aderyn a'i ladd. Felly teniais, a pherais iddo edrych, a gwelodd y parrot yn syrthio yn y fan. Safodd eto fel pe bai wedi cael braw, er gwaethaf popeth a ddywedaswn wrtho, a gwelwn ei fod wedi ei synnu'n fwy fyth gan na welsai mohonof yn rhoi dim byd yn y gwn; ond tybiai fod rhyw ystôr ryfedd o angau a dinistr yn y peth hwnnw a allai ladd dyn, anifail, aderyn, neu unrhyw beth arall ymhell neu yn agos; a chredaf pe gadawswn lonydd iddo yr addolasai fi a'm gwn. Am y gwn, ni wnâi gymaint â'i gyffwrdd am ddyddiau lawer wedi hyn; ond siaradai ac ymddiddanai ag ef pan fyddai ar ei ben ei hun; a gwnâi hynny, fel y cefais wybod ganddo wedyn, i ddeisyf arno beidio â'i ladd.
Ymhen ychydig amser gofynnais iddo drachefn redeg i nôl yr aderyn, a gwnaeth hynny. Yna euthum â'r myn gafr adref, a blingais ef, a thorrais ef yn ddarnau orau y medrwn. Yna berwais beth o'r cig a gwneuthum gawl ardderchog ohono. Ac wedi i mi fwyta peth, rhoddais beth iddo yntau, a hoffai ef yn fawr iawn; ond y peth a'i synnai fwyaf ydoedd fy ngweld i yn bwyta halen ynddo. Gwnaeth arwyddion i ddangos i mi nad oedd halen yn dda i'w fwyta, ac ni chymerai ef byth halen gyda'i gig na'i gawl.
Ar ôl i mi ei borthi fel hyn â chig wedi ei ferwi a chawl, penderfynais roi gwledd iddo drannoeth trwy rostio darn o'r myn gafr. Gwneuthum hyn trwy ei hongian o flaen y tân wrth linyn, gan osod dau bolyn i fyny, un o boptu, a rhwymo'r llinyn wrth bren croes ar y top; ac edmygai Friday hyn yn fawr. Ond pan ddaeth i brofi'r cig, cymerth gymaint o ffyrdd i ddweud wrthyf mor hoff oedd ohono, na allwn i ddim peidio â'i ddeall; ac o'r diwedd dywedodd wrthyf na fwytâi ef byth mwyach gig dyn, peth yr oeddwn yn falch iawn o'i glywed.
Trannoeth dodais ef i ddyrnu ŷd a'i nithio yn y dull y gwnawn i; a deallodd yn fuan sut i wneud hynny cystal â minnau, yn enwedig wedi iddo weld ystyr y peth, ac mai i wneud bara ohono yr oedd; canys wedi hynny gadewais iddo fy ngweld yn gwneud bara ac yn ei grasu hefyd; ac ymhen ychydig amser gallai Friday wneud y gwaith i mi i gyd, cystal ag y medrwn innau fy hunan. Yn awr dechreuais feddwl, gan fod gennyf ddau ben i'w bwydo yn lle un, y byddai'n rhaid i mi ddarparu rhagor o dir i'm cynhaeaf, a hau mwy o ŷd nag a arferwn; felly merciais ddarn mwy o dir, a dechreuais wneud clawdd fel o'r blaen, a bu Friday yntau'n gweithio arno yn ewyllysgar ac yn galed iawn.
Dyma'r flwyddyn ddifyrraf o'r bywyd a dreuliais yn y lle hwn. Dechreuodd Friday siarad yn lled dda a deall enw bron bopeth y galwn amdano a phob lle yr anfonwn ef iddo, ac ymgomiai lawer â mi. Deuai ei onestrwydd syml a diffuant yn fwy i'r amlwg bob dydd, a dechreuais ymserchu ynddo mewn gwirionedd, a chredaf y carai yntau finnau yn fwy nag y gallodd garu dim byd erioed o'r blaen.
Un tro yr oedd arnaf awydd gwybod a oedd arno rywfaint o hiraeth am ei wlad ei hun, a gofynnais iddo oni fyddai'r genedl yr oedd ef yn perthyn iddi yn gorchfygu mewn brwydr weithiau? Gwenodd yntau ac atebodd; Ie, ie, ni bob amser ymladd orau"; wrth hyn, meddyliai mai hwy a gâi'r gorau o'r frwydr; a chawsom y sgwrs a ganlyn:
Meistr: Chi fydd yn ymladd orau? Sut y cymerwyd ti'n garcharor ynteu, Friday?
Friday: Cenedl fi'n curo llawer er hynny.
Meistr: Curo sut? Os curodd dy genedl di hwy, sut y daliwyd di?
Friday: Nhw'n llawer mwy na cenedl fi yn lle yr oedd fi; nhw dal un, dau, tri, a fi. Cenedl fi curo nhw'n fawr yn lle acw, lle nad oedd fi; yno cenedl fi dal un, dau, mil mawr.
Meistr: Ond paham na fuasai dy ochr di yn dy achub di drachefn o ddwylo d'elynion?
Friday: Nhw rhedeg un, dau, tri a fi, a gwneud i ni fynd i'r canŵ; dim canŵ gan cenedl fi pryd hynny.
Meistr: Wel, Friday, a beth mae dy genedl di yn'i wneud gyda'r dynion a ddaliant? A fyddan nhw'n eu cario nhw ymaith a'u bwyta nhw, fel y gwnaeth y rhain?
Friday: Byddan, bydd cenedl fi'n bwyta dynion hefyd; bwyta nhw i gyd.
Meistr: I ble byddan nhw'n eu cario nhw?
Friday: Mynd i le arall, lle mae nhw'n meddwl.
Meistr: A fyddan nhw'n dod yma?
Friday: Byddan, byddan, nhw dod yma; nhw dod i le arall.
Meistr: A fuost ti yma gyda nhw?
Friday: Do, fi wedi bod yma. (Dengys i ochr Ogledd—Orllewinol yr ynys, yr hon oedd eu hochr hwy, mae'n debyg).
Wedi i mi gael yr ymgom hon ag ef, gofynnais iddo faint o ffordd oedd o'n hynys ni i'r lan, ac oni chollid y cychod weithiau. Dywedodd wrthyf nad oedd yno ddim perygl, ac na chollid yr un canŵ byth, ond fod yno lif a gwynt dipyn allan yn y môr, bob amser un ffordd yn y bore a'r ffordd arall yn y prynhawn. Deellais wedi hynny yr achosid hyn gan lwnc a llifiant afon fawr Oroonoko, yr afon yr oedd ein hynys ni yn ei haber, fel y canfûm wedyn; a'r tir a welwn i'r Gorllewin a'r Gogledd—Orllewin oedd ynys fawr Trinidad ar ben gogleddol genau'r afon. Gofynnais filoedd o gwestiynau i Friday am y wlad, y trigolion, y môr, yr arfordir, a pha genhedloedd oedd yn agos. Dywedodd bopeth a wyddai wrthyf gyda'r parodrwydd mwyaf. Gofynnais iddo enwau'r gwahanol genhedloedd o bobl o'i fath ef, ond ni allwn gael enw yn y byd ond Caribs; oddiwrth hyn deallwn yn hawdd mai'r Caribees oedd y rhain, a ddyry ein mapiau ar y darn hwnnw o America sy'n ymestyn o enau afon Oroonoko i Guiana, ac ymlaen i St. Martha. Dywedodd wrthyf y trigai, ymhell tu draw i'r lleuad, sef oedd hynny, machlud y lleuad, ddynion gwynion barfog fel fi; a'u bod wedi lladd llawer o ddynion; wrth hyn deallwn mai'r Sbaenwyr a olygai, y rhai yr oedd sôn am eu creulonderau yn America wedi ei ledaenu drwy'r wlad i gyd, ac a atgofid gan yr holl genhedloedd o dad i fab.
Gofynnais a allai ef ddweud wrthyf sut yr awn i o'r ynys hon a mynd i fysg y dynion gwynion hynny. Dywedodd wrthyf y gallwn fynd mewn dau ganŵ. Ni fedrwn ddeall beth a olygai, ac ni allwn gael ganddo ddisgrifio i mi beth a feddyliai wrth ddau ganŵ. O'r diwedd, gyda chryn lawer o drafferth, cefais ar ddeall ganddo y byddai'n rhaid mynd mewn cwch mawr, cymaint â dau ganŵ. Yr oeddwn yn cael blas anghyffredin ar y darn hwn o sgwrs Friday; ac o'r adeg hon yr oedd gennyf ryw hyder y cawn gyfle rywbryd neu'i gilydd i ddianc o'r fan hon, ac efallai y byddai'r anwariad hwn druan yn foddion i'm cynorthwyo.
Yn ystod yr amser maith yr oedd Friday wedi bod gyda mi, a chan ei fod yn awr yn fy neall, ni chollais mo'r cyfle i osod sylfaen gwybodaeth grefyddol yn ei feddwl; yn enwedig un tro, gofynnais iddo pwy a'i gwnaeth? Ni ddeallai'r creadur druan mohonof o gwbl, ond tybiai i mi ofyn pwy oedd ei dad. Cynigiais ffordd arall arni, a gofynnais iddo pwy a wnaeth y môr, y ddaear y cerddem arni, y bryniau a'r coed? Dywedodd wrthyf mai rhyw hen Benamwci oedd yn byw tu draw i bopeth. Ni allai ddisgrifio dim ar y person mawr hwn, oddieithr ei fod yn hen iawn, yn hŷn o lawer, meddai, na'r môr na'r tir, na'r lleuad na'r sêr. Gofynnais iddo wedyn, os yr hen greadur yma oedd wedi gwneud popeth, paham na fuasai popeth yn ei addoli? Edrychodd yn ddifrifol iawn, a chyda golwg hollol ddiniwed, meddai, "Y mae popeth yn dweud O wrtho Ef.”
Gofynnais iddo a âi'r bobl a fyddai'n marw yn y wlad hon ymaith i rywle? Meddai yntau: Ant, ânt i gyd at Benamwci." Yna gofynnais iddo a âi y rhai a fwytaent hwy yno hefyd? Dywedodd yntau, " Ant."
Oddi wrth y pethau hyn dechreuais ei hyfforddi i adnabod y gwir Dduw. Dywedais wrtho fod Creawdwr mawr popeth yn byw i fyny acw, gan ddangos i gyfeiriad y nefoedd; ei fod Ef yn llywodraethu'r byd gyda'r un gallu a'r un rhagluniaeth ag oedd ganddo yn ei wneud; ei fod Ef yn hollalluog, ac y gallai Ef wneud popeth er ein mwyn, rhoddi popeth i ni, a chymryd popeth oddi arnom; ac fel hyn yn raddol agorais ei lygaid. Gwrandawodd yn astud iawn, a derbyniodd gyda phleser mawr y syniad am Iesu Grist wedi ei anfon i'n gwaredu, a'n dull ni o weddïo ar Dduw ac yntau yn gallu ein clywed hyd yn oed yn y Nefoedd. Dywedodd wrthyf un diwrnod, os gallai ein Duw ni ein clywed i fyny tu hwnt i'r haul, ei fod yn sicr o fod yn Dduw mwy na'u Benamwci hwy, a drigai heb fod nepell oddi yma; ac eto ni allai glywed dim nes iddynt fynd ato i'r mynyddoedd uchel lle y trigai i siarad ag ef. Gofynnais iddo a fuasai ef yno erioed yn siarad ag ef? Atebodd, "Na." Ni fyddai'r gwŷr ieuainc byth yn mynd; nid âi neb yno ond yr hynafgwyr y rhai a alwai ef yn Oowokakee; sef yw hynny, fel yr eglurodd i mi, eu gwŷr crefyddol neu offeiriaid. Aent hwy i ddweud O (felly y galwai ef ddweud paderau), ac yna dychwelent, ac adroddent wrthynt beth a ddywedai Benamwci.
Ceisiais egluro'r ystryw hwn i Friday, a dywedais wrtho mai twyll ydoedd esgus yr hynafgwyr yn mynd i fyny'r mynyddoedd i ddweud O wrth eu duw Benamwci, ac os siaradent â rhywun yno mae'n rhaid mai ysbryd drwg ydoedd; yna cefais sgwrs hir ag ef am y diafol, am ei gymeriad gwreiddiol, ei wrthryfel yn erbyn Duw, ei elyniaeth tuag at ddyn, y rheswm am hynny, amdano'n ymsefydlu yn nhywyll leoedd y ddaear iddo gael ei addoli yn lle Duw ac fel Duw, a'r amryw ddichellion a ddefnyddiodd er llithio'r ddynoliaeth i ddinistr; y ffordd ddirgelaidd oedd ganddo at ein nwydau a'n serchiadau, ac o drefnu ei faglau gogyfer â'n tueddiadau, ac o beri i ni fod yn demtwyr hyd yn oed arnom ein hunain, a rhedeg i'n dinistr yn ôl ein mympwy ein hunain.
Wedi i mi fod yn dweud wrtho sut yr oedd y diafol yn elyn Duw yng nghalonnau dynion, a sut yr oedd yn ceisio dinistrio teyrnas Crist yn y byd a phethau felly:
"Wel," meddai Friday, "ond chi deud fod Duw mor fawr, mor gry', onid yw lawer mwy cry', mwy mawr na'r diafol?"
'Ydi, ydi, Friday," meddwn i, " y mae Duw yn gryfach na'r diafol; y mae Duw yn uwch na'r diafol, ac felly fe fyddwn yn gweddïo ar Dduw i'w fathru dan ein traed, a'n cynorthwyo i wrthsefyll ei demtasiynau a dofi ei bicellau tanllyd."
Ond," meddai drachefn, os ydi Duw yn fwy cry', yn fwy mawr na'r diafol, pam nad yw Duw yn lladd y diafol a rhwystro iddo wneud rhagor o ddrwg?"
Fe synnais yn anghyffredin at y cwestiwn hwn, ac ni wyddwn yn iawn beth i'w ddweud. Duw a ŵyr, yr oeddwn yn meddu mwy o ddidwylledd nag o wybodaeth yn y dulliau oedd gennyf ddysgu'r creadur hwn druan, a rhaid i mi gyfaddef fy mod wrth geisio ei oleuo ef wedi dysgu llawer o bethau fy hunan nad oeddwn wedi meddwl fawr yn eu cylch o'r blaen. A pha un bynnag a oedd y truan hwn rywfaint gwell o'm plegid i ai peidio, yr oedd gennyf resymau dros ddiolch iddo erioed ddod ataf; pwysai fy ngofid lai arnaf; daeth fy nghartref yn gysurus tu hwnt i mi; a phan ystyriais fy mod nid yn unig wedi fy nghyffroi i edrych i fyny i'r Nefoedd fy hunan, ond fy mod yn awr i'm gwneud yn offeryn yn llaw Rhagluniaeth i achub bywyd ac, am ddim a wyddwn i, enaid yr anwariad hwn druan, a'i arwain i wybodaeth iawn am grefydd, ac i adnabod Crist Iesu, yr hwn y mae bywyd tragwyddol ynddo. Pan ystyriais y pethau hyn i gyd, fe lifodd rhyw lawenydd cyfrin drwy fy holl enaid, a llawenychwn yn fynych fy mod erioed wedi fy nwyn i'r fan hon, a minnau'n aml wedi meddwl mai dyma'r trallod mwyaf ofnadwy a allasai byth ddigwydd i mi.
PENNOD XXIV.
ROBINSON A FRIDAY YN GWNEUD CANŴ I'W CLUDO I WLAD FRIDAY—HAID O ANWARIAID YN GLANIO AC YN RHWYSTRO'R CYNLLUN.
WEDI i Friday a minnau ddyfod i adnabod ein gilydd yn well, ac iddo ddyfod i ddeall bron bopeth a ddywedwn wrtho ac i siarad yn lled rwydd, mynegais iddo fy hanes fy hun, neu o leiaf hynny oedd yn ymwneud â'm dyfodiad i'r lle hwn;—sut yr oeddwn wedi byw yma, a pha hyd. Eglurais iddo gyfrinach y powdwr gwn a'r bwledi, a dysgais ef i saethu. Rhoddais gyllell iddo, ac yr oedd yn falch anghyffredin ohoni; gwneuthum wregys iddo gyda bwyall ynghrog wrtho yn lle bidog, yr hon oedd lawn cystal arf iddo ar rai achlysuron, ac yn llawer mwy defnyddiol ar adegau eraill.
Disgrifiais wlad Ewrop iddo, ac yn arbennig Lloegr, o'r lle y daethwn i;—sut yr oeddem ni'n byw, sut yr addolem Dduw, sut yr ymddygem at ein gilydd, a sut yr oeddem yn masnachu mewn llongau i bob rhan o'r byd. Adroddais hanes yr hen long wrtho, a dangosais iddo, mor agos ag y medrwn, y lle y gorweddai; ond yr oedd wedi ei malu yn ddarnau cyn hyn, ac wedi mynd.
Dangosais iddo'r darnau o'n cwch,—yr un a gollasom pan ddianghasom. Wrth weld y cwch hwn, safodd Friday yn syn am amser hir a heb ddweud dim. Gofynnais iddo am beth yr oedd yn meddwl. Ac o'r diwedd, meddai: Fi gweld llawer o cwch fel hwn yn dod i lle'n pobol ni." Nid oeddwn yn ei ddeall am gryn amser; ond o'r diwedd, rhoddodd ar ddeall i mi fod cwch tebyg i hwn wedi dod i'r lan yn y wlad yr oedd ef yn byw ynddi; hynny yw, fel yr eglurodd ef, yr oedd wedi ei yrru yno gan ddrycin.
Disgrifiodd Friday y cwch i mi'n bur dda; ond deëllais ef yn well pan ychwanegodd gyda brwdfrydedd: "Ydyn ni'n achub dynion gwyn rhag boddi."
Toc gofynnais iddo a fyddai dynion gwyn yn y cwch?
"Bydd," meddai, " bydd cwch yn llawn o dyn gwyn.
Gofynnais iddo pa sawl un. Rhifodd yntau ddau ar bymtheg ar ei fysedd. Yna gofynnais iddo beth a ddeuai ohonynt; dywedodd yntau, "Nhw'n byw, nhw'n aros gyda cenedl fi."
Rhoddodd hyn syniadau newydd yn fy mhen. Dychmygwn mai dyma'r dynion oedd wedi eu llongddryllio y tu allan i'm hynys i, fel y galwn hi'n awr; ac wedi i'r llong daro'r graig, eu bod wedi eu hachub eu hunain yn eu cwch, ac wedi glanio ar y traeth anial hwnnw ymysg yr anwariaid. Yna holais ef yn fanylach beth oedd wedi digwydd iddynt. Sicrhaodd yntau fi eu bod yn byw yno eto; eu bod yno ers tua phedair blynedd; a bod yr anwariaid yn gadael llonydd iddynt ac yn rhoi bwyd iddynt. Gofynnais iddo sut na fuasent yn eu lladd ac yn eu bwyta. Dywedodd yntau, "Na, nhw'n gwneud brawd â nhw." Yna ychwanegodd, Nhw ddim bwyta dynion ond pan mae nhw gwneud rhyfel ymladd," sef yw hynny, ni fyddant byth yn bwyta dynion ond y rhai fydd yn dod i ymladd â hwy ac a gymerir mewn brwydr.
Un diwrnod gofynnais iddo, " Friday, a fuasit ti yn hoffi bod yn dy wlad dy hun eto?"
Buaswn," meddai, "buaswn yn falch iawn o fod gyda cenedl fi."
"Beth wnait ti yno?" meddwn i,
"A fuasit ti'n troi 'n wyllt, a bwyta cig dynion eto?"
Edrychodd yn bryderus, a chan ysgwyd ei ben, dywedodd," Na, na; Friday dweud wrthyn nhw am fyw yn dda; gweddio ar Dduw; bwyta bara, cig anifeiliaid, llaeth, dim bwyta dynion eto."
Yna gofynnais iddo a âi ef yn ôl atynt? Gwenodd, a dywedodd na fedrai ef ddim nofio cyn belled. Dywedais wrtho y gwnawn i ganŵ iddo. Dywedodd yntau yr âi os awn i gydag ef.
"Fi fynd," meddwn i, "beth, fe'm bwytânt i os dof i yno?"
"Na, na," meddai, "fi gneud nhw beidio bwyta chi; fi gneud nhw caru chi llawer."
O'r adeg hon rhaid i mi gyfaddef fod arnaf awydd mentro drosodd; ac ymhen ychydig ddyddiau dywedais wrth Friday y rhown i gwch iddo i fynd adref at ei genedl ei hun. Nid atebodd yr un gair, ond edrychodd yn ddwys ac yn drist iawn. Gofynnais iddo beth oedd yn bod arno? Gofynnodd yntau, "Pam chi'n ddig gynddeiriog wrth Friday, beth mae fi wedi gneud?"
Gofynnais iddo beth oedd ef yn ei feddwl. Dywedais wrtho nad oeddwn i ddim yn ddig wrtho o gwbl.
"Dim yn ddig! Dim yn ddig!" meddai, gan ailadrodd y geiriau droeon.
"Pam anfon Friday adre'n ôl at cenedl fi?"
O"nd, Friday," meddwn i, "Oni ddywedaist ti yr hoffit ti fod yno?"
Ie, ie!" medd yntau, "eisiau ni'n dau fod yno; dim eisiau Friday yno, a dim meistr yno."
Mewn gair, ni fedrai feddwl am fynd yno hebof fi.
"Fi fynd yno, Friday!" meddwn i," beth wnaf fi yno?"
Trôdd arnaf yn sydyn ar hyn: "Chi gneud llawer iawn iawn o dda," medd ef, "chi dysgu dynion gwyllt i fod yn ddynion da, sobr, dof; chi dweud wrthyn nhw am nabod Duw, gweddïo Duw, a byw bywyd newydd."
"Och fi! Friday," meddwn i, "ni wyddost ti beth a ddywedi; nid wyf fi fy hunan ond dyn anwybodus.
"Ie, ie," ebe yntau, "chi dysgu fi da, chi dysgu nhw da."
"Na, na, Friday," meddwn innau, "fe gei di fynd hebof fi; gad lonydd i mi fyw yma ar fy mhen fy hun fel y gwnawn o'r blaen."
Edrychodd yn ddryslyd eto ar hynny; a chan redeg at un o'r bwyeill a wisgai, cydiodd ynddi ar frys, a rhoddodd hi i mi.
"Beth sydd eisiau i mi ei wneud â hon?" meddwn wrtho.
"Chi cymryd i ladd Friday," medd yntau.
"I beth mae'n rhaid i mi dy ladd di?" meddwn innau wedyn.
Atebodd ar unwaith: "I beth chi'n gyrru Friday i ffwrdd? Chi lladd Friday, dim gyrru Friday i ffwrdd." Dywedodd hyn mor ddifrifol, nes y gwelwn ddagrau yn codi i'w lygaid. Mewn gair, canfûm yn eglur ei fod wedi ymserchu cymaint ynof fel y dywedais wrtho'r pryd hwnnw, ac yn fynych wedyn, nad anfonwn i byth mohono i ffwrdd oddi wrthyf os oedd ef yn fodlon aros gyda mi.
Heb oedi dim rhagor euthum gyda Friday i chwilio am goeden gymwys i'w thorri i wneud periagua neu ganŵ. Yr oedd digon o goed yn yr ynys i godi llynges fechan; ond y peth pennaf yn fy ngolwg i oedd cael un mor agos i'r dŵr fel y medrem ei lansio wedi ei wneud, ac arbed y camgymeriad a wneuthum y tro cyntaf.
O'r diwedd trawodd Friday ar goeden, canys gwelais y gwyddai'n well o lawer na mi sut bren ydoedd y mwyaf cyfaddas. Mynnai Friday losgi'r cafn neu'r pant yn y goeden i wneud cwch ohoni, ond dangosais iddo sut i'w chafnio ag arfau; ac wedi tua mis o lafur caled gorffenasom ef. Ond ar ôl hyn, costiodd tua phythefnos o amser i ni ei symud i'r dŵr bob yn fodfedd ar roleri mawrion; ond wedi ei gael i mewn buasai'n cludo ugain o ddynion yn hawdd iawn.
Bûm am ddeufis bron yn taclu ac yn trefnu fy mast a'r hwyliau; ac yn anad dim, gosodais lyw o'r tu ôl iddo i'w lywio, er, yr wyf yn credu, i hwn gostio bron gymaint o lafur i mi a gwneud y cwch i gyd.
Pan ddechreuodd y tywydd fod yn sefydlog, yr oeddwn wrthi hi'n paratoi bob dydd am y fordaith, a'r peth cyntaf a wneuthum oedd gosod o'r neilltu swm arbennig o ymborth, sef, yr ystôr gogyfer â'n mordaith; a bwriadwn, ymhen wythnos neu bythefnos, agor y doc a lansio ein cwch. Yr oeddwn yn brysur un bore ar ryw orchwyl o'r fath, pan waeddais ar Friday, a gofyn iddo fynd i lan y môr i weld a allai gael hyd i grwban, peth a gaem yn gyffredin unwaith yr wythnos, er mwyn yr wyau yn ogystal â'r cig. Nid oedd fawr o amser er pan aethai Friday cyn iddo ddychwelyd dan redeg, a llamodd dros y clawdd, fel un heb glywed na'r tir na'r grisiau y dodai ei draed arnynt; a chyn i mi gael amser i siarad ag ef, gwaeddodd arnaf, " O feistr! meistr! O helynt! O ddrwg!"
"Beth sy'n bod, Friday?" meddwn i.
"O draw, fan acw," meddai, "un, dau, tri canŵ; un, dau, tri!"
Yn ôl ei ffordd ef o ddweud, deëllais fod yno chwech; ond, wedi olrhain, gwelais nad oedd yno ddim ond tri.
"Wel, Friday," meddwn i, "paid ag ofni!"
Fodd bynnag, sylwais fod y creadur druan wedi cael braw dychrynllyd; canys nid âi dim drwy ei ben ond eu bod wedi dod i chwilio amdano ef, ac y malent ef yn ddarnau a'i fwyta. Cysurais ef orau y medrwn, a dywedais wrtho fy mod innau mewn cymaint o berygl ag yntau, ac y bwytaent finnau hefyd.
"Ond, Friday," meddwn, "rhaid i ni ymladd â nhw. Fedri di ymladd, Friday?"
"Fi saethu," meddai, ond y mae wedi dod llawer nifer mawr."
"Dim gwahaniaeth am hynny," meddwn innau wedyn; "fe ddychryn ein gynnau y rhai a fethwn ladd.'
Felly gofynnais iddo a wnâi ef fy amddiffyn i, os gwnawn i ei amddiffyn ef, a sefyll wrth fy nghefn, a gwneud yn union fel y dywedwn i wrtho.
Eb yntau," Fi marw pan fyddwch chi'n dweud wrth fi am farw, mistr."
Yna euthum i nôl dogn iawn o rum iddo, ac wedi iddo ei yfed, rhoddais ddau ddryll iddo, a chymerais innau bedwar mwsged, a dau bistol. Crogais fy nghleddau, fel arfer, yn noeth ar fy ochr, a rhoddais ei fwyall i Friday.
Yna euthum i fyny i ochr y bryn i edrych beth a welwn; a chyda'm sbienddrych, gwelais fod yno un ar hugain o anwariaid, tri charcharor, a thri chanŵ; a'r unig fusnes oedd ganddynt, mae'n debyg, oedd gwneud ysbleddach o'r tri chorffyn hyn. Sylwais hefyd eu bod wedi glanio, nid yn y lle y gwnaethent pan ddihangodd Friday, ond yn nes i'm cilfach i, lle'r oedd y traeth yn isel a choedwig dew yn cyrraedd bron i lawr i'r môr.
Yna euthum yn ôl at Friday a dywedais wrtho fy mod yn benderfynol o fynd i lawr atynt, a'u lladd i gyd, a gofynnais iddo a safai ef wrth fy nghefn. Gan fod y rum wedi codi tipyn ar ei ysbryd, yr oedd yn bur siriol, a dywedodd wrthyf, fel o'r blaen, y byddai ef farw pan ofynnwn i iddo farw. Yna rhoddais un pistol i Friday i'w roddi yn ei wregys, a thri gwn ar ei ysgwydd; a chymerais innau un pistol a'r tri gwn arall fy hunan. Rhoddais botel fechan o rum yn fy mhoced, a chwdyn o bowdwr a bwledi i Friday, a rhybuddiais ef i gadw tu ôl i mi, ac i beidio â symud, na saethu, na gwneud dim byd nes i mi beri iddo, a pheidio â siarad yr un gair.
Euthum i mewn i'r coed; a chyda hynny o ochelgarwch a distawrwydd ag oedd yn bosibl, a Friday yn dilyn yn dyn wrth fy sodlau, teithiais nes y deuthum i odre'r coed, yr ochr nesaf iddynt hwy; dim ond bod un gongl i'r coed rhyngof fi a hwy. Yna gwaeddais yn ddistaw ar Friday, a chan ddangos coeden fawr iddo oedd yng nghongl y goedwig, perais iddo fynd at y goeden, a dod i ddweud wrthyf os medrai weld yn eglur oddi yno beth oeddynt yn ei wneud. Gwnaeth felly; a dychwelodd ataf ar unwaith, a dywedodd wrthyf y gellid eu gweld yn hawdd o'r fan honno; eu bod i gyd o gylch y tân yn bwyta cig un o'u carcharorion, a bod un arall yn gorwedd yn rhwym ar y tywod ychydig oddi wrthynt. Dyvedodd wrthyf hefyd nad un o'u cenedl hwy ydoedd hwn, ond un o'r dynion barfog y soniasai ef wrthyf amdanynt a ddaeth i'w gwlad hwy yn y cwch.
Arswydais drwof wrth iddo sôn am y dyn gwyn barfog; ac wedi mynd at y goeden, gwelwn yn eglur, â'm sbienddrych, ddyn gwyn yn gorwedd ar lan y môr, â'i ddwylo a'i draed wedi eu rhwymo â hesg neu ryw bethau tebyg i frwyn, ac mai Ewropeaid ydoedd, a bod dillad amdano.
Yr oedd yno goeden arall a phrysglwyn bychan tu draw iddi, tua chanllath yn nes atynt na'r lle yr oeddwn i, ac wrth fynd ychydig ar dro, gwelwn y gallwn fynd ati heb fy ngweld, ac yna byddwn o fewn hanner ergyd iddynt. Felly cedwais fy nhymer, er fy mod yn wir wedi cynddeiriogi yn ofnadwy; a chan fynd yn ôl ryw ugain cam, cedwais yng nghysgod y llwyni nes y deuthum at y goeden arall; ac yna deuthum i ychydig o dir codi a chefais olwg lawn arnynt, o tua phedwar ugain llath o bellter.
PENNOD XXV.
ROBINSON YN RHYDDHAU YSBAENWR O AFAEL YR ANWARIAID—FRIDAY YN CANFOD EI DAD—GWNEUD LLE I'R DDAU.
Nid oedd gennyf funud i'w golli yn awr, gan fod pedwar ar bymtheg o'r dyhirod yn eistedd ar lawr yn dwr gyda'i gilydd, ac yr oeddynt newydd yrru'r ddau arall i ladd y Cristion druan, a'i ddwyn efallai, bob yn aelod, at y tân; ac yr oeddynt yn gwyro i lawr i ddatod y rhwymau oddi am ei draed. Troais at Friday: "Yn awr, Friday," meddwn, gwna fel y gorchmynnaf i ti."
Dywedodd Friday y gwnâi.
"Felly, Friday," meddwn, " gwna yn union fel y gweli fi'n gwneud."
Yna dodais un mwsged ac un dryll ar lawr, a gwnaeth Friday yr un fath, a chyda'r mwsged arall anelais at yr anwariaid a pheri iddo yntau wneud yr un peth. Yna gofynnais iddo a oedd yn barod; dywedodd ei fod.
"Tania arnynt," meddwn i; a'r un funud fe deniais innau hefyd.
Anelodd Friday gymaint gwell na mi fel y lladdodd ef ddau ohonynt a chlwyfodd dri arall; ac fe leddais innau un, a chlwyfais ddau. Cawsant i gyd fraw dychrynllyd, a neidiodd pob un oedd heb ei anafu ar ei draed, ond ni wyddent ar unwaith pa ffordd i redeg, na pha ffordd i edrych, gan na wyddent o ba le y daethai eu dinistr. Cadwodd Friday ei lygaid yn dyn arnaf; teflais y mwsged i lawr a chydiais yn y dryll, a gwnaeth Friday yr un peth.
"Wyt ti'n barod, Friday?" meddwn i.
"Ydw," meddai yntau.
"Gollwng ynte," meddwn innau, "yn enw Duw!"
Ac ar hynny teniais drachefn ar y dyhirod, ac felly Friday; a chan mai ergydion mân oedd yn ein gynnau, ni welem ddim ond dau yn unig yn syrthio; ond clwyfwyd cynifer fel y rhedent o amgylch gan wichian a gweiddi fel creaduriaid cynddeiriog, yn waed diferol, ac amryw wedi eu clwyfo'n dost; a syrthiodd tri arall ohonynt yn lled fuan, er nid yn hollol farw.
"Yn awr, Friday," meddwn i, gan gydio yn y mwsged a oedd ag ergyd ynddo, "dilyn fi."
Ar hynny rhuthrais allan o'r coed, a Friday wrth fy sawdl. Cyn gynted ag y sylwais eu bod wedi fy ngweld, gwaeddais gymaint ag a fedrwn, a pherais i Friday wneud hynny hefyd; a chan redeg cyn gynted ag y medrwn, euthum ar fy union at yr adyn druan a orweddai ar y traeth, rhwng y lle yr eisteddent hwy a'r môr. Yr oedd y ddau gigydd a oedd ar ymosod arno wedi ei adael ac wedi ffoi mewn braw ofnadwy at ymyl y dŵr ac wedi neidio i ganŵ, a gwnaeth tri o'r lleill yr un peth. Trois at Friday a pherais iddo fynd ymlaen a thanio arnynt; deallodd fi ar unwaith, a chan redeg tua deugain llath i fod yn nes atynt, saethodd atynt, a thybiwn ei fod wedi eu lladd i gyd gan i mi eu gweld yn syrthio'n bentwr i'r cwch, er i mi weld dau ohonynt yn codi'n gyflym drachefn. Fodd bynnag, lladdodd ddau ohonynt, a chlwyfodd y trydydd fel y gorweddodd yng ngwaelod y cwch fel petai wedi marw.
Tra'r oedd Friday yn tanio arnynt, tynnais fy nghyllell a thorrais yr hesg a rwymai'r un oedd i'w ladd druan, a chan ryddhau ei ddwylo a'i draed, codais ef i fyny, a gofynnais iddo yn nhafodiaith y Portugeaid, beth ydoedd. Atebodd yn Lladin "Christianus "; ond yr oedd mor wan a llesg fel mai prin y medrai na sefyll na siarad. Tynnais fy mhotel o'm poced a rhoddais hi iddo, gan arwyddo arno i yfed, a gwnaeth yntau; a rhoddais damaid o fara iddo a bwytaodd ef. Yna gofynnais iddo un o ba wlad ydoedd; meddai yntau, "Espagniole"; a thrwy arwyddion ceisiodd ddangos i mi gymaint oedd ei ddyled i mi am ei waredu.
"Seignior," meddwn i, mewn hynny o Sbaeneg a oedd gennyf, " fe gawn siarad eto, ond rhaid i ni ymladd yn awr. Os oes rhywfaint o nerth ar ôl gennyt, cydia yn y pistol a'r cleddau hwn, a bwrw iddi hi."
Nid cynt yr oedd yr arfau yn ei ddwylo nag y rhuthrodd ar ei lofruddion fel peth cynddeiriog, a malodd ddau ohonynt yn ddarnau mewn eiliad. Fe gedwaisi fy ngwn yn fy llaw heb ei danio, gan fy mod wedi rhoi fy mhistol a'm cleddau i'r Sbaenwr. Felly gelwais ar Friday, a pherais iddo redeg at y goeden, o'r lle y taniasom gyntaf, i nôl y gynnau a daniasid, yr hyn a wnaeth gyda brys mawr, a chan roi fy mwsged iddo, eisteddais i lawr i ail-lenwi'r lleill, a pherais iddynt ddod ataf pan fyddai eisiau. Tra'r oeddwn i yn rhoi ergydion yn y gynnau, bu brwydr ffyrnig rhwng y Sbaenwr ac un o'r anwariaid a ymosododd arno gydag un o'u cleddyfau pren mawr. Ymladdasai'r Sbaenwr, er ei fod yn wan, â'r Indiad hwn am hir, ac yr oedd wedi ei glwyfo ddwywaith yn ei ben yn dost; ond gan fod yr anwariad yn greadur mor heini, yr oedd wedi ei fwrw i lawr, ac yr oedd yn troi fy nghleddau i o'i law, pan fu'r Sbaenwr yn ddigon call i ollwng y cleddau, er ei fod yn isaf, a thynnodd y pistol o'i wregys, saethodd yr anwar drwy ei ganol, a lladdodd ef yn y fan cyn i mi fedru mynd yn agos ato.
Gan fod Friday yn awr at ei ryddid, dilynodd y dyhirod oedd ar ffo heb yr un arf yn ei law ond ei fwyall; a chyda honno gorffennodd y tri a glwyfasid ar y cyntaf a chynifer o'r lleill ag a fedrai eu dal; ac aeth y Sbaenwr ar ôl dau arall gyda gwn a roddais i iddo, a chlwyfodd y ddau; ond gan na allai ef redeg dihangodd y ddau oddi arno i'r coed, lle y dilynodd Friday hwynt, gan ladd un ohonynt; ond yr oedd y llall yn rhy sionc, ac er ei fod wedi ei glwyfo, neidiodd i'r môr a nofiodd â'i holl egni at y rhai hynny a adawyd yn y canŵ,—a dyna'r cwbl a ddihangodd oddi arnom allan o'r un ar hugain. Y mae'r cyfrif i gyd fel hyn:
- 3 wedi eu lladd ar ein hergyd gyntaf o'r goeden.
- 2 wedi eu lladd ar yr ergyd nesaf.
- 2 wedi eu lladd gan Friday yn y cwch.
- 2 wedi eu lladd gan Friday o'r rhai a glwyfwyd gyntaf.
- 1 wedi ei ladd gan Friday yn y coed.
- 3 wedi eu lladd gan y Sbaenwr.
- 4 wedi eu lladd, a'u cael wedi marw o'u clwyfau yma ac acw, neu wedi eu lladd gan Friday wrth iddo eu hymlid.
- 4 wedi dianc yn y cwch, ac un o'r rheini wedi ei glwyfo, os nad wedi marw.
- 21 i gyd.
Ymdrechodd y rhai oedd yn y canŵ yn galed fynd allan o gyrraedd ergyd gwn; ac er i Friday saethu atynt ddwywaith neu dair, ni sylwais iddo daro yr un ohonynt. Mynnai Friday i mi gymryd canŵ a'u hymlid; ac yn wir, pryderwn innau ynglŷn â'u bod wedi dianc, rhag ofn wedi dwyn y newyddion adref i'w pobl y byddent yn dychwelyd efallai gyda dau gant neu dri o gychod. Felly cytunais i'w hymlid dros y môr, a neidiais i ganŵ, a pherais i Friday fy nilyn. Ond pan oeddwn yn y canŵ, synnais weld creadur tlawd arall yn gorwedd yno'n fyw, wedi ei rwymo draed a dwylo fel yr oedd y Sbaenwr, a bron â marw gan ofn, gan na wyddai beth oedd yn bod. Torrais ar unwaith yr hesg cyfrodedd yr oeddynt wedi ei glymu ag ef, ac yr oeddwn am ei helpu i godi; ond ni allai na sefyll na siarad, ond griddfanai'n druenus, gan gredu, mae'n debyg, na ollyngid mohono'n rhydd i ddim byd ond i'w ladd.
Pan ddaeth Friday ato, perais iddo siarad ag ef, a dweud wrtho am ei waredigaeth; a chan dynnu allan fy mhotel, gwneuthum iddo roi llymaid i'r creadur tlawd, yr hyn, ynghyda'r newyddion ei fod yn rhydd, a'i hadfywiodd, ac eisteddodd yn y cwch. Ond pan glywodd Friday ef yn siarad, ac iddo edrych yn ei wyneb, yr oedd yn ddigon i beri i neb golli dagrau wrth weld Friday yn ei gusanu, yn ei gofleidio, yn ei wasgu, yn crio, yn chwerthin, yn gweiddi, yn neidio, yn dawnsio, ac yn canu; yna'n cric drachefn, yn troi ei ddwylo, yn curo ei wyneb ei hun a'i ben; ac yna yn canu ac yn neidio oddi amgylch fel creadur gwallgo. Bu ysbaid cyn y medrais gael ganddo siarad â mi, neu ddweud wrthyf beth oedd yn bod; ond pan ddaeth ato ei hun ychydig, dywedodd wrthyf mai ei dad ydoedd.
Rhoddodd y peth hwn derfyn ar ein hymlid ar ôl y canŵ a'r anwariaid eraill a oedd yn awr wedi mynd bron o'r golwg; a da oedd i ni na wnaethom hynny, gan iddi chwythu mor galed ymhen dwyawr wedyn, a chyn iddynt allu mynd chwarter y ffordd, a daliodd i chwythu mor galed drwy'r nos, fel na thybiwn i'w cwch allu byw nac iddynt hwythau erioed gyrraedd i'w tir eu hun.
Ond rhaid dychwelyd at Friday. Yr oedd mor brysur gyda'i dad, fel na chlywn ar fy nghalon ei ddwyn oddi arno am beth amser. Ond pan dybiais y gallai ei adael am ychydig, gelwais arno ataf, a daeth dan neidio a chwerthin; ac yr oedd wrth ei fodd. Yna gofynnais iddo a roddasai ef rywfaint o fara i'w dad. Ysgydwodd ei ben, a dywedodd, " Dim; ci hyll bwyta cwbl i gyd i hun." Felly rhoddais dafell o fara iddo o gwdyn bychan a gariwn i'r pwrpas. Rhoddais lymaid iddo hefyd, ond ni phrofai mohono, ond aeth ag ef i'w dad. Yr oedd gennyf yn fy mhoced hefyd ddau sypyn neu dri o resin, a rhoddais ddyrnaid iddo i'w dad. Nid cynt y rhoddodd y rhain i'w dad nag y gwelwn i ef yn dod allan o'r cwch ac yn rhedeg ymaith, fel petai wedi ei reibio. Rhedai gyda'r fath gyflymdra, nes ei fod o'r golwg megis mewn eiliad, ac er i mi alw arno, a gweiddi ar ei ôl, nid oedd dim gwahaniaeth, ymaith yr aeth. Ac ymhen chwarter awr gwelwn ef yn dychwelyd drachefn, er nad mor gyflym ag yr aethai; ac wrth iddo ddod yn nes gwelwn fod ei gam yn arafach, gan fod ganddo rywbeth yn ei law.
Pan ddaeth ataf, gwelwn ei fod wedi bod adre'r holl ffordd i nôl llestr pridd i ddod â dŵr croyw i'w dad, a bod ganddo ddwy dorth o fara yn rhagor. Rhoddodd y bara i mi, ond aeth â'r dŵr i'w dad. Fodd bynnag, gan fy mod innau hefyd yn sychedig iawn, cymerais innau lymaid bach ohono. Adfywiodd y dŵr fwy ar ei dad na'r holl wirod a roeswn i iddo, gan ei fod ymron â llewygu gan syched.
Wedi i'w dad yfed, gelwais arno i wybod a oedd rhywfaint o ddŵr ar ôl. "Oes," meddai; a pherais iddo ei roi i'r Sbaenwr druan, yr oedd arno gymaint o'i eisiau â'i dad. Anfonais un o'r teisennau, a ddygasai Friday, i'r Sbaenwr hefyd, a oedd yn hynod egwan, ac a orffwysai ar lannerch las dan gysgod coeden; ac yr oedd ei aelodau yn lled stiff ac wedi chwyddo'n fawr gyda'r rhwymynnau geirwon y clymasid ef ynddynt. Pan welais ef yn eistedd i fyny ac yn yfed, ac yn cymryd y bara a dechrau bwyta, euthum ato; a rhoddais ddyrnaid o resin iddo. Edrychodd yn fy wyneb gyda hynny o arwyddion diolchgarwch ag a allai ymddangos mewn unrhyw wyneb; ond yr oedd mor wan fel na fedrai sefyll ar ei draed. Ceisiodd wneud hynny ddwywaith neu dair, ond methai'n lân, gan fod ei fferau wedi chwyddo cymaint ac mor boenus iddo; felly gorchmynnais iddo eistedd yn llonydd, a pherais i Friday rwbio ei fferau, a'u golchi â rum, megis y gwnaethai i'w dad.
Sylwais fod y creadur serchlawn, bob dau funud neu lai, yn ystod yr amser y bu yno, yn troi ei ben i weld a oedd ei dad yn yr un fan ac yn eistedd fel y gadawsai ef; ac o'r diwedd canfu nad oedd yn y golwg. Ar hynny, neidiodd i fyny, a heb ddweud yr un gair, llamodd ato gyda'r fath gyflymdra fel mai prin y gallai neb weld ei draed yn cyffwrdd â'r llawr wrth iddo fynd. Ond pan aeth yno, canfu nad oedd ddim ond wedi gorwedd i lawr i esmwytho ei aelodau, a daeth Friday yn ôl ataf yn union. Yna dywedais wrth y Sbaenwr am iddo adael i Friday ei helpu i godi, a'i arwain i'r cwch, ac yna y câi ei gario i'n cartref ni lle y gofalwn i amdano. Ond cymerodd Friday y Sbaenwr ar ei gefn, a chariodd ef i'r cwch a gosododd ef i lawr yn esmwyth ar ymyl y canŵ, gyda'i draed y tu mewn iddo, ac yna cododd ef i mewn, a gosododd ef wrth ochr ei dad; ac yna gwthiodd y cwch allan a rhwyfodd ef gyda'r lan ynghynt nag y medrwn i gerdded, er bod y gwynt yn chwythu'n lled galed hefyd. Ac aeth â'r ddau yn ddiogel i'r gilfach; a chan eu gadael hwy yn y cwch, rhedodd ymaith i nôl y canŵ arall; ac yr oedd hwnnw yn y gilfach bron cyn gynted ag y cyrhaeddais i ar hyd y tir. Yna aeth i helpu ein hymwelwyr newydd allan o'r cwch; ond ni fedrai na'r naill na'r llall ddim cerdded; ac ni wyddai Friday druan beth i'w wneud.
Gwaeddais ar Friday iddo beri iddynt eistedd i lawr ar y lan, ac iddo yntau ddod ataf fi. Yn fuan gwneuthum fath o ferfa law i'w dodi hwynt arni, a chariodd Friday a minnau rhyngom y ddau gyda'i gilydd. Ond wedi i ni eu cael i ymyl ein hamddiffynfa, yr oedd yn waeth arnom nag o'r blaen, gan mai annichon oedd eu cael drosodd. Felly euthum ati i weithio drachefn; ac ymhen tua dwyawr, gwnaeth Friday a minnau babell led dda, wedi ei thoi â hen hwyliau a brigau coed ar y rheini, a hynny ar y lle agored y tu allan i'r gwrych nesaf allan a rhwng hwnnw a'r llwyn coed ifainc a blanaswn; ac yma gwnaethom iddynt ddau wely o'r pethau oedd gennyf, sef, gwellt reis da, a phlancedi wedi eu gosod arno i orwedd arnynt, ac un arall drostynt ar bob gwely.
Yr oedd fy ynys yn awr wedi ei phoblogi, a thybiwn fy hunan yn gyfoethog mewn deiliaid; a llawenydd mawr i mi yn aml fyddai meddwl mor debyg i frenin yr edrychwn. I ddechrau, yr oedd y wlad i gyd yn eiddo cyfan gwbl i mi, fel yr oedd gennyf hawl arglwyddiaeth ddiamheuol. Yn ail, yr oedd fy mhobl yn berffaith ddarostyngedig i mi; yr oeddwn yn arglwydd ac yn ddeddfroddwr diamodol; yr oeddynt i gyd yn fy nyled am eu bywydau, ac yr oeddynt yn barod i'w dodi i lawr drosof, pe buasai galw am hynny. Yr oedd yn beth nodedig hefyd, nad oedd gennyf ddim ond tri o ddeiliaid, a'r rheini o dair crefydd wahanol; Protestant oedd fy ngwas Friday, Pagan a chanibal oedd ei dad, a Phabydd oedd y Sbaenwr. Fodd bynnag, caniatawn ryddid cydwybod drwy fy holl diriogaethau.
PENNOD XXVI.
CROESAWU'R YMWELWYR NEWYDD,—ANFON Y DDAU I WAREDU'R SBAENWYR ERAILL,—LLONG BRYDEINIG—YN ANGORI WRTH YR YNYS.
CYN gynted ag yr oeddwn wedi diogelu fy nau garcharor llesg, a rhoi cysgod a lle iddynt i orffwyso, dechreuais feddwl am wneud rhywbeth yn fwyd iddynt. A'r peth cyntaf a wneuthum ydoedd gorchymyn i Friday gymryd gafr flwydd i'w lladd. Wedi i mi dorri ei chwarter ôl a'i malu'n ddarnau mân, perais i Friday fynd ati i ferwi a stiwio dysglaid o gig a chawl iddynt, a rhoi haidd a reis yn y cawl hefyd; a chan i mi ei goginio allan, euthum ag ef i gyd i'r babell newydd; ac wedi gosod bwrdd iddynt yno, eisteddais i lawr a bwyteais fy nghinio fy hun gyda hwy, gan eu sirioli a'u calonogi orau y medrwn, a Friday yn gyfieithydd i mi, yn enwedig i'w dad, ac yn wir, i'r Sbaenwr hefyd, gan y siaradai'r Sbaenwr iaith yr anwariaid yn lled dda.
Yna dechreuais ymddiddan tipyn â'm dau ddeiliad newydd; ac i ddechrau, gwneuthum i Friday holi ei dad beth oedd ef yn ei feddwl o'r anwariaid yn dianc yn y canŵ, a pha un a allem ddisgwyl iddynt ddychwelyd gyda mwy o rym nag a allem ni ei wrthsefyll. Ei farn gyntaf oedd, na allai'r anwariaid yn y cwch byth fyw drwy'r storm a chwythai'r noson yr aethant i ffwrdd.
Ond gyda golwg ar yr hyn a wnaent os deuent yn ddiogel i'r lan, dywedodd na wyddai ef ddim. Ond ei farn ef oedd, eu bod wedi eu dychrynu mor ofnadwy gan y dull yr ymosodwyd arnynt, y sŵn a'r tân, fel y credai ef y dywedent wrth eu pobl eu bod wedi eu lladd i gyd gan fellt a tharanau, ac nid â dwylo dynion; ac mai dyna oedd Friday a minnau, sef, dau ysbryd o'r nef, neu gythreuliaid wedi dod i lawr i'w difetha, ac nid gwŷr ag arfau. Gwyddai hyn meddai, gan iddo eu clywed yn gweiddi felly ar ei gilydd, yn eu hiaith eu hunain. Fodd bynnag yr oedd arnaf ofn yn barhaus am amser maith, a gwyliwn yn wastad, myfi a'm holl fyddin; canys gan fod pedwar ohonom yn awr, buaswn yn mentro cant ohonynt mewn maes agored unrhyw adeg.
Ymhen peth amser, fodd bynnag, gan nad oedd yr un canŵ arall yn ymddangos, aeth yr ofn heibio, a dechreuais feddwl drachefn am gymryd mordaith i'r tir mawr; a sicrheid fi hefyd gan dad Friday y cawn i bob chware teg gan eu cenedl hwy petawn i'n mynd. Ond petrusais beth wedi i mi gael ymgom ddifrifol â'r Sbaenwr, a deall bod yno un-ar-bymtheg yn ychwaneg o'i gydwladwyr a Phortugeaid yn byw yn heddychol gyda'r anwariaid, ond yr oedd yn gyfyng iawn arnynt am angenrheidiau; ac, yn wir, am eu bywyd. Holais ef am holl fanylion eu mordaith, a chefais mai llong Ysbaenig ydoedd yn rhwym o Rio de la Plata i Havana, wedi cael gorchymyn i adael eu llwyth yno (sef crwyn ac arian gan mwyaf), a dychwelyd gyda hynny o nwyddau Ewropeaidd a fedrent eu cael yno; fod ganddynt chwe llongwr o Bortugal ar y bwrdd wedi eu cymryd o long arall; fod pump o'u dynion hwy wedi boddi pan gollwyd y llong, a bod y rhain wedi dianc trwy enbydrwydd a pheryglon di-rif, ac wedi cyrraedd, bron ar drengi, i lannau'r canibaliaid. Dywedodd wrthyf fod ganddynt rywfaint o arfau gyda hwy, ond nid oeddynt o ddefnydd yn y byd iddynt.
Gofynnais iddo a oeddynt wedi ffurfio rhyw gynllun o gwbl i ddianc oddi yno. Dywedodd eu bod wedi cael aml gydymgynghoriad ynglŷn â'r peth; ond gan nad oedd ganddynt na llong, nac arfau i godi un, na darpariaethau o fath yn y byd, terfynai pob cyngor o'r eiddynt mewn dagrau ac anobaith. Gofynnais iddo, sut tybed y buasent yn derbyn cynnig gennyf fi, a allai fod yn llwybr ymwared iddynt. Dywedais wrtho mai'r peth a ofnwn fwyaf oedd eu brad, ac iddynt fy ngham-drin os rhoddwn fy hunan yn eu dwylo. Dywedais wrtho mai peth annheg iawn fyddai i mi fod yn foddion i'w gwaredu ac iddynt hwythau wedyn fynd â mi'n garcharor i New Sbain; ac y buasai'n well gennyf gael fy mwyta'n fyw gan yr anwariaid na syrthio i grafangau di—drugaredd yr offeiriaid a'm dwyn i'r Chwil—lys.
Atebodd yntau fod eu cyflwr mor druenus, a'u bod hwythau'n gwybod hynny, fel y tybiai ef y buasent yn casau'r syniad o drin yn angharedig yr un dyn a fyddai'n gymorth i'w gwaredu; ac os mynnwn, fe âi ef atynt gyda'r hen ŵr, ac ymddiddan â hwy am y peth, a dychwelyd drachefn a dwyn eu hateb i mi; y gwnâi ef amodau â hwynt ar eu llw y byddent yn hollol dan fy arweiniad i fel llywydd a chapten arnynt; Ac y deuai ef â chytundeb oddi wrthynt wedi ei lofnodi ganddynt i'r perwyl hwnnw.
Wedi cael hyn o sicrwydd, penderfynais fentro eu cynorthwyo, os yn bosibl, ac anfon yr hen anwariad a'r Sbaenwr drosodd i wneud cyfamod â hwy. Ond wedi i ni gael popeth yn barod i fynd, cododd y Sbaenwr ei hun wrthwynebiad, ac yr oedd cymaint o synnwyr ynddo ar y naill law a didwylledd ar y llaw arall, fel na allwn ond bodloni iddo; ac yn ôl ei gyngor ef gohiriais y waredigaeth i'w gymdeithion am hanner blwyddyn o leiaf. Dyma'r ddadl: Yr oedd wedi bod gyda ni'n awr am fis, a minnau wedi gadael iddo weld sut yr oeddwn yn fy nghynnal fy hun, trwy gymorth Rhagluniaeth; a gwelodd mae'n amlwg y stoc o ŷd a reis a roeswn o'r neilltu; yr hyn, er ei fod yn fwy na digon i mi fy hun, nid oedd yn ddigon, heb lawer o gynildeb, i'm teulu, ac yntau yn awr wedi cynyddu'n bedwar; a llai fyth y byddai'n ddigon os deuai ei gydwladwyr drosodd, ac un-ar-bymtheg ohonynt yn fyw o hyd. Felly dywedodd wrthyf y credai ef mai doethach fyddai iddo ef a'r ddau arall drin ychwaneg o dir, ac aros am gynhaeaf arall er mwyn cael digon o ŷd i'w gydwladwyr pan ddeuent; canys gallai angen eu temtioi anghydweld a chredu nad oeddynt ddim ond wedi eu gwaredu allan o un anhawster i un arall.
"Gwyddoch," meddai, "i blant Israel, er iddynt lawenhau i ddechrau oherwydd y waredigaeth o'r Aifft, eto wrthryfela hyd yn oed yn erbyn Duw ei hun, yr un a'u gwaredodd, pan ddaeth chwant bwyd arnynt yn yr anialwch."
Yr oedd ei rybudd mor amserol a'i gyngor mor dda fel na allwn lai na bod yn fodlon iawn i'w gynnig. Felly aethom ati i gloddio ein pedwar; ac ymhen y mis, yr oedd gennym ddigon o dir wedi ei drin i hau dau fwysel ar hugain o haidd arno, ac un llestraid ar bymtheg o reis, sef, hynny o hadyd oedd gennym yn sbâr; yn wir, ni chadwasom ddigon o haidd yn fwyd i ni ein hunain am y chwe mis y byddai'n rhaid i ni ddisgwyl am ein cnwd; hynny ydyw, a chyfrif o'r adeg y rhoesom ein hadyd o'r neilltu i'w hau.
Yr un pryd llwyddais i ychwanegu at y ddiadell o eifr dofion a oedd gennyf. Ac i'r diben hwn, gwneuthum i Friday a'r Sbaenwr fynd allan un dydd, a minnau a Friday drannoeth; a thrwy'r cynllun hwn cawsom tuag ugain o fynnod ieuainc i'w magu gyda'r lleill. Casglasom hefyd swm mawr o rawnwin gan eu sychu yn yr haul; a'r rhain, gyda'n bara, ydoedd y rhan fwyaf o'n bwyd; ac yr oedd yn fwyd maethlon iawn hefyd.
Erbyn hyn yr oedd yn adeg cynhaeaf, ac yr oedd gennym gnwd da. Nid oedd mo'r cynnyrch mwyaf a welswn yn yr ynys, ond yr oedd yn ddigon i'n pwrpas ni; canys, allan o ddau fwysel ar hugain o haidd yr oeddem wedi cywain a dyrnu dros ddau gant ac ugain o fwyseli, a'r un fath ar gyfartaledd o reis. Yr oedd hyn yn ddigon o fwyd i ni tan y cynhaeaf nesaf, hyd yn oed petai'r un Sbaenwr ar bymtheg gyda ni.
Yn awr, gan fod gennyf ddigonedd o fwyd i'r holl wahoddedigion a ddisgwyliwn, rhoddais ganiatâd i'r Sbaenwr fynd drosodd i'r tir mawr i weld beth a allai wneud â'r rhai a adawsai ar ôl y no. Ac aeth ef a thad Friday allan mewn canŵ, un o'r rhai y cludwyd hwy ynddo yn garcharorion i'w bwyta gan yr anwariaid. Rhoddais fwsged iddynt bob un, a thuag wyth ergyd o bowdwr a phelennau, gan eu rhybuddio i beidio â'u defnyddio ond pan fyddai gwir angen. Rhoddais iddynt gyflawnder o fara a grawnwin wedi eu sychu, digon iddynt hwy am ddyddiau lawer, a digon i'r Sbaenwyr i gyd am tuag wyth niwrnod; a chan ddymuno mordaith dda iddynt, euthum i'w gweld yn cychwyn, gan gytuno â hwynt ynglŷn ag arwydd yr oeddynt i'w roddi wrth ddychwelyd, i mi eu hadnabod wrtho o bell, cyn iddynt ddod i'r lan.
Yr oeddwn wedi bod yn disgwyl amdanynt am ryw wyth niwrnod, pan ddigwyddodd peth rhyfedd ac annisgwyliadwy, na chlywyd efallai am ei debyg mewn hanes. Yr oeddwn yn cysgu'n drwm yn fy nghaban un bore, pan ddaeth fy ngwas Friday ataf dan redeg a gweiddi'n uchel, Mistir, mistir, mae nhw wedi dod, mae nhw wedi dod!"
Neidiais i fyny, a heb ystyried bod perygl o gwbl, euthum allan, cyn gynted ag y medrwn wisgo amdanaf, drwy'r llwyn coed, a oedd erbyn hyn wedi tyfu'n goedwig drwchus. Euthum heb fy arfau; ond fe'm synnwyd pan droais fy ngolwg i gyfeiriad y môr a gweld cwch tua milltir a hanner o ffordd yn hwylio am y lan, â hwyl ysgwydd dafad arno, fel y gelwir hi. Sylwais hefyd nad oeddynt yn dod o'r cyfeiriad lle'r oedd y traeth, ond o ben deau yr ynys. Ar hyn gelwais ar Friday i mewn; a pherais iddo gadw o'r golwg gan nad y rhain oedd y bobl a ddisgwyliem, a chan na wyddem eto pa un ai cyfeillion ai gelynion oeddynt. Yn y lle nesaf, euthum i nôl fy sbienddrych i edrych beth a allwn i ei wneud ohonynt; ac wedi tynnu'r ysgol allan, dringais i ben y mynydd fel y byddwn yn arfer gwneud. Prin yr oeddwn wedi gosod fy nhroed ar y bryn na welwn long wrth ei hangor tua dwy filltir a hanner oddi wrthyf i'r de—ddwyrain, ond nid oedd dros filltir a hanner o'r lan. I'm golwg i, yr oedd yn amlwg mai llong Brydeinig ydoedd, ac yr oedd y cwch yn debyg i gwch Prydeinig.
Ni allaf fynegi'r dryswch yr oeddwn ynddo; er bod fy llawenydd wrth weld llong a'm cydwladwyr fy hunan arni, y cyfryw na allaf mo'i ddisgrifio. Ond eto glynai rhyw amheuon dirgelaidd wrthyf, yn fy annog i fod ar fy ngwyliadwriaeth. I ddechrau, trawodd i'm meddwl pa fusnes a allai fod gan long Brydeinig yn y rhan honno o'r byd, gan nad dyma'r ffordd i unrhyw ran o'r byd nac o unrhyw ran lle'r oedd gan y Saeson drafnidiaeth; a gwyddwn nad oedd dim storm wedi eu gyrru yno; ac os Saeson oeddynt nid oedd yn debyg eu bod yma gydag unrhyw amcan da; ac mai gwell oedd i mi barhau fel yr oeddwn, na syrthio i ddwylo lladron a llofruddion.
Nid oeddwn wedi bod yn yr agwedd hon yn hir na welwn y cwch yn nesu at y lan, fel pe baent yn edrych am gilfach i lanio. Fodd bynnag, gan na ddaethant lawn digon pell, ni welsant mo'r gilfach fechan lle y gleniais i gynt gyda'r rafftiau, ond rhedasant y cwch i'r lan ar y traeth, tua hanner milltir oddi wrthyf,—peth ffodus iawn i mi; oni bai am hynny buasent wedi glanio wrth fy nrws, a buasent wedi fy mwrw allan o'm castell, ac efallai wedi f'ysbeilio o bopeth oedd gennyf.
Pan ddaethant i'r lan, yr oeddwn yn eithaf sicr mai Saeson oeddynt, o leiaf y rhan fwyaf ohonynt. Yr oedd yno un-ar-ddeg o ddynion i gyd, a gwelwn fod tri ohonynt heb arfau, a thybiwn eu bod wedi eu rhwymo; ac wedi i bedwar neu bump ohonynt neidio i'r lan cymerasant y tri hynny o'r cwch yn garcharorion. Gwelwn fod un o'r tri yn ymbil yn daer, mewn trallod ac anobaith; gwelwn fod y ddau arall yn codi eu dwylo weithiau ac ymddangosent mewn pryder mawr, ond nid i'r fath raddau a'r cyntaf.
Yr oeddwn wedi fy nrysu'n lân gan yr olygfa, ac ni wyddwn beth oedd ei hystyr. Gwaeddodd Friday arnaf yn Saesneg, gorau y medrai: "O Mistir! Chi welwch dynion Seisnig yn bwyta carcharor yr un fath â dynion gwyllt.'
"Beth, Friday," meddwn i, wyt ti'n meddwl ynte eu bod nhw am eu bwyta?"
"Ydyn," meddai Friday, "nhw am bwyta nhw."
"Na, na, Friday," meddwn innau, "y mae arnaf ofn yn wir eu bod am eu lladd, ond ti elli fod yn sicr na wnân 'nhw mo'u bwyta nhw."
Yn ystod yr amser hyn i gyd ni wyddwn yn iawn beth oedd yn bod, ond safwn dan grynu oherwydd erchylltra'r olygfa, a disgwyl bob munud iddynt ladd y tri charcharor. Unwaith gwelais un o'r gweilch yn codi twca mawr neu gleddau i daro un o'r dynion druain; a disgwyliwn ei weld yn syrthio bob munud; ac yr oedd hynny o waed oedd yn fy nghorff fel pe'n fferru yn fy ngwythiennau.
Wedi i mi weld y llongwyr hyfion yn cam—drin y tri dyn, sylwais arnynt yn rhedeg yma ac acw o amgylch y lle, fel pe bai arnynt eisiau gweld y wlad. Sylwais hefyd fod y tri arall at eu rhyddid i fynd i'r fan a fynnent; ond eisteddai'r tri gyda'i gilydd ar y ddaear, gan synfyfyrio; ac edrychent fel dynion mewn anobaith. Atgofiodd hyn fi o'r adeg y gleniais i yma, ac fel yr edrychwn o amgylch, ac fel y llechais yn y goeden drwy'r nos rhag ofn cael fy nifa gan fwystfilod gwylltion. Megis na wyddwn i ddim byd y noson honno am y cymorth oeddwn i'w dderbyn trwy i'r llong gael ei gyrru yn nês i'r lan gan y stormydd a'r llanw, felly hefyd ni wyddai'r tri hyn druain ddim byd am y waredigaeth a'r cymorth oedd mor sicr iddynt, ac mor agos atynt, a hwythau yn eu tybied eu hunain yn golledig ac mewn cyflwr anobeithiol.
PENNOD XXVII
ROBINSON YN GWAREDU'R CAPTEN A'I GYFEILLION—CYNORTHWYO'R CAPTEN I ORCHFYGU'R GWRTHRYFELWYR.
ADEG pen—llanw oedd hi pan laniodd y bobl hyn; a thra y buont hwy yn dadlau â'r carcharorion ac yn crwydro o amgylch i weld pa fath le yr oeddynt ynddo, buont yn ddigon diofal i aros nes yr oedd y dŵr wedi treio cryn lawer, a gadael eu cwch ar lawr. Yr oeddynt wedi gadael dau ddyn yn y cwch, a'r ddau, fel y sylwais wedyn, gan eu bod wedi yfed gormod o frandi, wedi syrthio i gysgu. Fodd bynnag, gan i un ohonynt ddeffro o flaen y llall, a gweld y cwch wedi glynu gormod iddo ef ei symud, gwaeddodd ar y gweddill, ac ar hynny daeth y cwbl at y cwch. Ond yr oedd ei lansio y tu hwnt i'w gallu, gan fod y cwch yn drwm iawn, a'r traeth yr ochr honno yn dywod meddal gwlyb. Yn y cyflwr hwn y gadawsant ef, ac aethant ymaith drachefn i'r wlad; a chlywais un ohonynt yn dweud yn uchel wrth y llall, wrth alw arnynt oddi wrth y cwch: "Gad lonydd iddo Jac, wnei di? fe nofia'r teit nesaf."
A rhoddodd hyn sicrwydd llawn i mi ynglŷn â'm prif ymholiad, sef, dynion o ba wlad oeddynt. Yn ystod yr amser hwn, cedwais fy hunan o'r golwg, heb feiddio symud o'm castell, dim pellach na'r lle y gwyliwn o ben y bryn. Gwyddwn na allai'r cwch ddim nofio am o leiaf ddeng awr, ac erbyn hynny byddai'n dywyll, a chawn fwy o ryddid i sylwi ar eu symudiadau a chlywed eu hymddiddanion. Yn y cyfamser, ymbaratoais am frwydr. Gorchmynnais i Friday hefyd gymryd baich o arfau. Cymerais i ddau ddryll, a rhoddais dri mwsged iddo yntau. Yn wir, yr oedd golwg ffyrnig anghyffredin arnaf fi. Yr oedd y gôt ddychrynllyd honno o groen gafr gennyf amdanaf, a'r cap mawr bondigrybwyll, cleddau noeth wrth fy ochr, dau bistol yn fy ngwregys, a gwn ar bob ysgwydd.
Fy nghynllun i, fel y dywedais uchod, oedd peidio â gwneud ymgais yn y byd nes iddi dywyllu. Ond tua dau o'r gloch, sef ym mhoethder y dydd, gwelwn eu bod i gyd wedi crwydro i'r coed, ac, fel y tybiwn i, wedi gorwedd i lawr i gysgu. Yr oedd y tri arall druain wedi eistedd dan gysgod coeden fawr tua chwarter milltir oddi wrthyf, ac, fel y tybiwn i, allan o olwg y gweddill. Ar hyn, penderfynais fy nangos fy hun iddynt, a chael gwybod rhywfaint o'u helynt. Ac ymlaen â mi ar unwaith, a Friday gryn bellter tu ôl i mi, yntau mor ofnadwy o arfog â minnau; ond nid edrychai lawn mor llygadrwth a bwganllyd â mi.
Deuthum mor agos atynt ag y medrwn yn ddiarwybod iddynt; ac yna, cyn i'r un ohonynt fy ngweld, gelwais arnynt yn uchel mewn Ysbaeneg: "Beth ydych chi, foneddigion?"
Neidiasant i fyny wrth y sŵn; ond yr oeddynt wedi drysu ddengwaith mwy pan welsant fi, a'r olwg arw oedd arnaf. Nid atebasant ddim byd, ond tybiwn i mi weld eu bod am ffoi oddiwrthyf, pan siaredais wrthynt yn Saesneg.
"Foneddigion," meddwn i, "peidiwch â rhyfeddu ataf; efallai bod gennych gyfaill yn eich ymyl, a chwithau heb ddisgwyl hynny."
"Y mae'n rhaid ei fod wedi ei anfon yn syth o'r nefoedd ynteu," meddai un ohonynt wrthyf yn drist, a chan dynnu ei het i mi yr un pryd, canys mae ein cyflwr ni tu hwnt i gymorth dyn.
"O'r nefoedd y daw pob cymorth, syr," meddwn i;
"ond a ellwch chwi roi dyn dieithr ar y ffordd i'ch cynorthwyo, gan eich bod yn ymddangos i mi mewn trallod dirfawr? Gwelais chwi pan laniasoch; a phan oeddech megis yn ymbil â'r bwystfilod a ddaeth gyda chwi, gwelais un ohonynt yn codi ei gleddau i'ch lladd."
Gyda'r dagrau yn rhedeg i lawr ei ruddiau, a chan grynu ac edrych fel un wedi ei syfrdanu, atebodd y dyn druan, "Ai â Duw ynteu â dyn yr wyf yn siarad? Ai dyn iawn ydyw, ai angel?”
Peidiwch ag ofni dim am hynny, syr," meddwn i, pe bai Duw wedi anfon angel i'ch cynorthwyo, buasai wedi ei wisgo yn well ac wedi ei arfogi'n wahanol i'r hyn ydwyf fi. Dyn wyf fi, Sais, a dymunaf eich helpu. Dim ond un gwas sydd gennyf; y mae gennym arfau a thaclau saethu; dywedwch yn rhydd wrthym, a allwn eich helpu? Beth yw eich helynt?"
Mae ein helynt ni, syr," meddai, " yn rhy hir i'w adrodd wrthych tra bo ein lleiddiaid mor agos; ond yn fyr, syr, myfi oedd capten y llong acw; y mae fy ngwŷr wedi gwrthryfela i'm herbyn; anodd oedd cael ganddynt beidio â'm lladd; o'r diwedd rhoesant fi ar y lan yn y lle diffaith hwn, a'r ddau ddyn hyn gyda mi, un yn fêt i mi, a'r llall yn deithiwr."
"Ble mae'r cynafon hynny, eich gelynion?" meddwn i. "A wyddoch chi ble maen nhw wedi mynd?"
"Dyna lle maen nhw, syr," meddai, gan ddangos llwyn o goed.
"Mae fy nghalon yn curo gan ofn eu bod wedi ein gweld, a'ch clywed chi'n siarad. Os ydynt, mae nhw'n siwr o'n lladd ni i gyd."
"A oes gynnau ganddyn nhw?" meddwn. Dywedodd nad oedd ganddynt ddim ond dau ddryll, a bod un wedi ei adael yn y cwch.
"Wel ynteu," meddwn i, "gadewch y gweddill i mi; gwelaf eu bod yn cysgu i gyd; peth hawdd yw lladd y cwbl; ond a gawn ni yn hytrach eu cymryd yn garcharorion?"
Dywedodd wrthyf fod yno ddau ddyhiryn gorffwyll yn eu mysg a phrin yr oedd yn ddiogel dangos dim trugaredd tuag atynt; ond os delid hwy, credai y dychwelai'r lleill i gyd at eu gwaith.
"Wel," meddwn i, "gadewch i ni fynd o'u golwg ac o'u clyw, rhag ofn iddynt ddeffro, a chawn benderfynu ymhellach."
Ac aethant yn ôl gyda mi yn ewyllysgar, nes i'r coed ein cuddio rhagddynt.
Edrychwch yma, syr," meddwn i, "os mentraf fi eich gwaredu, a ydych yn fodlon gwneud dwy amod â mi?"
Achubodd y blaen ar fy nghynigion, trwy ddweud y byddai ef a'r llong, os ceid hi'n ôl, yn gyfan gwbl o dan fy awdurdod a'm cyfarwyddydi; ac os na cheid y llong yn ôl, fe fyddai ef fyw a marw gyda mi i ba ran bynnag o'r byd y gyrrwn i ef; a dywedodd y ddau ddyn arall yr un peth.
"Wel," meddwn i, "dim ond dwy amod sydd gennyf:
1. Tra byddwch chwi'n aros ar yr ynys hon gyda mi, na bydd i chwi honni hawl i ddim awdurdod yma; ac os rhoddaf arfau yn eich dwylo y bydd i chwi ar bob achlysur eu rhoddi i fyny i mi, a pheidio â chreu rhagfarn yn fy erbyn i na'm heiddo ar yr ynys hon; a chymryd eich llywodraethu yn ôl fy ngorchmynion i.
2. Os enillir y llong yn ôl, y bydd i chwi fy nghludo i a'm cydymaith i Loegr, am ddim."
Rhoddodd i mi bob sicrwydd ag y gallai dyfais dyn ei roddi y buasai'n cydsynio â'r gofynion hollol resymol hyn; ac y buasai'n cydnabod ei fod yn fy nyled i am ei fywyd tra byddai byw.
"Wel, ynte," meddwn i, "dyma dri mwsged i chi, a phowdwr a phelennau; dywedwch wrthyf beth a feddyliwch chi a ddylid ei wneud."
Dywedodd wrthyf yn wylaidd iawn, fod yn anodd iawn ganddo eu lladd, os gallai beidio; ond fod y ddau hynny yn gynafon di-droi-yn-ôl, ac wedi bod yn achos yr holl wrthryfel ar y llong, ac os dihangent, fe'n difethid wedyn; canys fe aent i'r llong a dod â'r holl griw, a'n dinistrio i gyd.
Yng nghanol yr ymddiddan hwn, clywem rai ohonynt yn deffro, ac yn fuan wedyn gwelem ddau ohonynt ar eu traed. Gofynnais iddo ai un o'r rhain oedd arweinydd y gwrthryfel.
"Nage," meddai.
"Wel, ynte," meddwn innau, " gellwch adael iddynt ddianc; y mae Rhagluniaeth fel pe wedi eu deffro er mwyn iddynt eu hachub eu hunain. Yn awr, os dihanga'r lleill oddiarnoch, eich bai chwi ydyw."
Cymerodd yntau'r mwsged a roddaswn i iddo yn ei law, a phistol yn ei wregys, a'i ddau gydymaith gydag ef, a dryll gan bob un yn ei law. Wrth fynd ar y blaen gwnaeth y ddau ddyn ryw sŵn, a thrôdd un o'r morwyr oedd wedi deffro, a chan iddo eu gweld yn dyfod gwaeddodd ar y lleill; ond yr oedd yn rhy hwyr, canys y foment y gwaeddodd, taniodd y ddau. Yr oeddynt wedi anelu'r ergyd gystal at y dynion a adwaenent hwy, fel y lladdwyd un ohonynt yn y fan, a chlwyfwyd y llall yn ddrwg iawn; ond neidiodd ar ei draed gan weiddi ar y lleill am help. Ond gan fynd ymlaen ato, dywedodd y capten wrtho ei bod rhy hwyr i weiddi am help; ac ar hynny trawodd ef â bôn ei fwsged, fel na ddywedodd ddim byd pellach. Yr oedd tri'n ychwaneg yn y cwmni, ac un wedi ei glwyfo'n ysgafn. Erbyn hyn yr oeddwn i wedi cyrraedd; a phan welsant eu perygl, ac mai ofer oedd gwrthwynebu, erfyniasant am drugaredd. Dywedodd y capten y buasai ef yn arbed eu bywydau ond iddynt roddi sicrwydd iddo eu bod yn ffieiddio'r brad yr oeddynt yn euog ohono, a thyngu bod yn ffyddlon iddo ef i ennill y llong yn ôl, a'i dwyn wedyn i Jamaica, o'r lle y daethent. Rhoesant iddo bob arwyddion o ffyddlondeb, ac yr oedd yntau'n barod i'w credu ac arbed eu bywydau. Nid oeddwn innau yn erbyn hynny, ond gorfodais iddo eu rhwymo, draed a dwylo, tra byddent ar yr ynys.
Tra gwneid hyn, gyrrais Friday gyda'r mêt i'r cwch, gan orchymyn iddynt ei sicrhau a dwyn ymaith y rhwyfau a'r hwyl; a gwnaethant hynny. Yn y man, wedi clywed tanio'r gynnau, dychwelodd tri arall a grwydrasai oddiwrth y gweddill; ac wrth weld fod y capten a oedd gynt yn garcharor ganddynt yn awr yn orchfygwr, cymerasant hwythau eu rhwymo hefyd; ac felly yr oedd ein buddugoliaeth yn llwyr.
PENNOD XXVIII.
ROBINSON YN ADRODD EI HANES WRTH Y CAPTEN—CEISIO ENNILL Y LLONG YN ÔL ODDIAR Y GWRTHRYFELWYR.
YN awr aeth y capten a minnau i holi'r naill y llall ynghylch ein helyntion. Myfi a ddechreuodd gyntaf, a dywedais wrtho fy holl hanes, a gwrandawodd mewn syndod arnaf; yn enwedig ar y modd rhyfedd y'm cyflenwyd ag ymborth a thaclau saethu. Ond pan feddyliodd amdano ei hun, ac fel y'm cadwyd yno megis i achub ei fywyd ef, llifai'r dagrau i lawr ei wyneb, ac ni allai yngan gair yn rhagor.
Ar ddiwedd yr ymgom hon, euthum ag ef a'i ddau gydymaith i'm llety, gan eu harwain i mewn yr un ffordd ag yr euthum allan, lle y cawsant fwyd gennyf; a dangosais iddynt bob dyfais a wnaethwn yn ystod fy nhrigiant hir hir yn y fan honno. Yn anad dim, edmygai'r capten fy amddiffynfa, a pherffeithied yr oeddwn wedi cuddio fy lloches â llwyn o goed, a oedd erbyn hyn wedi dyfod yn goedwig fechan, gan ei bod wedi ei phlannu yn awr ers yn agos i ugain mlynedd. Dywedais wrtho mai dyma fy nghastell a'm plas, ond bod gennyf dŷ yn y wlad hefyd, fel y sydd gan y mwyafrif o dywysogion, ac y dangoswn i hwnnw iddo hefyd rywdro; ond ar hyn o bryd, ein busnes ni ydoedd ystyried sut i ennill y llong yn ôl. Cytunai â mi ynglŷn â hynny; ond dywedodd wrthyf na wyddai ef ddim yn y byd sut i fynd ynghylch y peth, gan fod eto chwech ar hugain o ddwylo ar y bwrdd; a chan eu bod oll yn y cynllwyn melltigedig, ac wedi fforffetio eu bywydau yn ôl y gyfraith, fe ddalient ati i'r pen yn eu gorffwylltra, gan wybod os gorchfygid hwy, y dygid hwy i'r crocbren, cyn gynted ag y deuent i Loegr, neu i un o'r trefedigaethau Seisnig; ac felly ni ellid ymosod arnynt â chyn lleied o nifer ag a oedd gennym ni.
Bûm yn myfyrio tipyn uwchben y peth a ddywedodd, a gwelwn ei fod yn gasgliad lled resymol, ac felly rhaid oedd penderfynu ar rywbeth rhag blaen. Ar hyn trawodd i'm meddwl y byddai criw'r llong yn y man yn sicr o ddod i'r lan mewn cwch arall i chwilio amdanynt; ac efallai y deuent yn arfog ac y byddent yn rhy gryf i ni.
Cyfaddefai fod hyn yn rhesymol.
Yna dywedais wrtho mai'r peth cyntaf a fyddai'n rhaid i ni ei wneud oedd torri twll yn y cwch a oedd ar y traeth, fel na allent ei ddwyn ymaith; a mynd â phopeth ohono, a'i adael yn y fath fodd na fyddai'n gymwys i'w nofio. Felly aethom i'r cwch, a mynd â'r arfau a phopeth arall a fedrem eu cael ohono. Wedi i ni gludo'r pethau hyn i gyd i'r lan, torasom dwll mawr yn ei waelod. Yn wir, ni thybiwn i y medrem byth ennill y llong; ond nid amheuwn, pe baent yn mynd ymaith heb y cwch, na allem ei wneud yn gymwys eto i'n cludo i'r ynysoedd gyferbyn, a galw am ein cyfeillion y Sbaenwyr ar ein ffordd; canys cofiwn am danynt o hyd.
Tra'r oeddem fel hyn yn paratoi ein cynlluniau, ac wedi tynnu'r cwch i fyny o afael y llanw; a heblaw hynny, wedi torri twll yn ei waelod rhy fawr i allu ei gau yn hawdd, ac yn eistedd i lawr i ystyried beth a wnaem, clywem y llong yn tanio gwn, a gwelem hi'n chwifio baner yn arwydd i'r cwch ddychwelyd. Ond ni symudodd yr un cwch; a thaniasant droeon, gan roddi arwyddion eraill i'r cwch. O'r diwedd, wedi i'r holl arwyddion a'r tanio brofi'n ddi-fudd, gwelem hwy (trwy gymorth fy sbienddrych i) yn tynnu cwch arall allan ac yn rhwyfo i gyfeiriad y lan; a gwelem, wrth iddynt nesau, nad oedd dim llai na deg o ddynion ynddo, a bod gynnau ganddynt.
Gan fod y llong tua dwy filltir o'r lan, cawsom olwg lawn arnynt yn dod, a threm glir hyd yn oed ar wynebau'r dynion; ac adwaenai'r capten bob cymeriad a oedd yn y cwch, a dywedai fod tri ohonynt yn hollol onest, ac yr oedd ef yn sicr mai'r lleill oedd wedi eu tynnu i'r cynllwyn. Ond gyda golwg ar y pen—badwr (yr hwn, mae'n debyg, oedd y prif swyddog yn eu plith), a'r gweddill i gyd, yr oeddynt mor ysgeler â neb o griw'r llong; ac yr oedd arno ofn arswydus y byddent yn rhy gryf i ni. Gwenais arno, a dywedais wrtho na ddylai ofn effeithio dim ar ddynion yn ein hamgylchiadau ni. Gan fod unrhyw gyflwr bron yn well na'r un yr oeddem ni ynddo, dylem ddisgwyl y byddai'r canlyniad, pa un ai angau ai einioes, yn sicr o fod yn waredigaeth.
Cyn gynted ag y gwelsom y cwch yn dod o'r llong, yr oeddem wedi meddwl am wahanu ein carcharorion; ac yn wir, yr oeddem wedi eu carcharu yn berffaith ddiogel. Gyrrais ddau (nad oedd y capten yn sicr iawn amdanynt) gyda Friday ac un o'r tri a ollyngasid yn rhydd i'm hogof, lle yr oeddynt yn ddigon pell. Gadawsant hwy yma wedi eu rhwymo, ond rhoddasant ddigon o fwyd iddynt; ac addo, os arhosent yno yn dawel, y gollyngid hwy yn rhydd ymhen diwrnod neu ddau; ond os ceisient ddianc dienyddid hwy heb ddim trugaredd.
Cafodd y carcharorion eraill well triniaeth. Rhwymwyd breichiau dau ohonynt, mae'n wir, gan na allai'r capten ddim ymddiried ynddynt; ond cymerwyd y ddau arall i'm gwasanaeth i ar gymeradwyaeth y capten, a hwythau yn ymrwymo i fyw a marw gyda ni; felly, rhwng y rhain a'r tri dyn onest, yr oedd saith ohonom wedi ein harfogi'n dda; ac nid amheuwn o gwbl na allem drin yn hwylus y deg oedd yn dod, ac ystyried i'r capten ddweud bod tri neu bedwar o ddynion onest yn eu plith hwythau hefyd.
Cyn gynted ag y daethant i'r fan lle y gorweddai eu cwch arall, rhedasant eu cwch hwy i'r traeth a daethant i gyd i'r lan, gan dynnu'r cwch ar eu holau. Wedi glanio, y peth cyntaf a wnaethant, oedd rhedeg i gyd at eu cwch arall; a hawdd gweld eu bod wedi eu synnu yn fawr wrth ei weld yn foel fel hyn, a thwll mawr yn ei waelod. Wedi bod yn meddwl tipyn wrth ben hyn, gwaeddasant â'u holl egni i geisio cael gan eu cymdeithion glywed; ond y cwbl i ddim diben. Yna daethant at ei gilydd mewn cylch, a thaniasant eu gynnau nes yr oedd y coed yn adseinio. Ond yr oeddem yn sicr na allai y rhai oedd yn yr ogof mo'u clywed, ac er i'r rhai oedd gyda ni glywed yn iawn, eto ni feiddient roi ateb iddynt.
Yr oedd hyn yn gymaint o syndod iddynt (fel y dywedasant wrthym wedyn) nes iddynt benderfynu mynd i'r llong drachefn a hysbysu bod y dynion wedi eu mwrdro i gyd, a'r cwch wedi ei dyllu. Yr oedd y capten wedi synnu'n aruthrol at hyn, ac yn credu yr hwylient ymaith ac y collai ef y llong eto; ond yn fuan fe'i dychrynwyd y ffordd arall.
Nid oedd fawr iawn o amser er pan aethant ymaith yn y cwch na welem ni hwy yn dod i'r lan drachefn; ond gyda'r gwahaniaeth hwn yn eu hymddygiad, sef, gadael tri dyn yn y cwch, a'r gweddill yn mynd i'r lan a mynd i fyny'r wlad i chwilio am eu cymdeithion. Yr oedd hyn yn siomedigaeth fawr i ni; ac ni wyddem yn awr beth i'w wneud, gan na fyddai dal y saith oedd ar y lan yn fantais yn y byd i ni os gadawem i'r cwch ddianc; oherwydd rhwyfent wedyn yn ôl i'r llong, a byddai'r gweddill yn sicr o hwylio ymaith, a chollem ninnau'r llong. Fodd bynnag, nid oedd dim i'w wneud ond aros a gweld beth a fyddai'r diwedd.
Daeth y seithwyr i'r lan, a gwthiodd y tri, a arhosodd ar ôl, y cwch bellter lled dda o'r lan, ac angori i ddisgwyl amdanynt fel yr oedd yn amhosibl i ni gyrraedd atynt yn y cwch. Cadwodd y rhai a ddaeth i'r lan gyda'i gilydd, gan gerdded tua phen y bryncyn yr oedd fy nhrigfan i dano; a gwelwn hwy yn eglur, er na welent hwy mohonom ni. Buasem yn falch iawn pe buasent wedi dod yn nes atom er mwyn i ni allu tanio arnynt;
neu ynteu pe baent wedi cadw ymhellach, er mwyn i ni fedru dod allan. Ond pan ddaethant i ael y bryn, lle y gallent weld ymhell iawn i'r dyffrynnoedd a'r coedwigoedd i'r gogledd—ddwyrain, gwaeddasant a bloeddiasant nes yr oeddynt wedi blino; a chan na fynnent fynd yn rhy bell o'r traeth, nac ychwaith oddi wrth ei gilydd, eisteddasant i lawr o dan goeden i ystyried y mater.
PENNOD XXIX.
ROBINSON YN DYFEISIO CYNLLUN I DDAL Y GWRTHRYFELWYR—MYND I'R LLONG—LLADD Y CAPTEN GWRTHRYFELGAR AC AMRYW O'I WŶR.
AROSASOM yn llonydd am ysbaid hir, heb wybod yn y byd mawr pa gwrs i'w gymryd. O'r diwedd, dywedais nad oedd dim byd i'w wneud, i'm tyb i, dan y nos; ac yna, os na ddychwelent i'r cwch, efallai y gwelem ffordd i fynd rhyngddynt a'r traeth, ac felly y medrem ddyfeisio rhyw ystryw i gael y rhai oedd yn y cwch i'r lan.
Buom yn aros yn hir iawn, er ein bod yn hynod ddiamynedd gan eisiau iddynt symud; ond, wedi hir ymgynghori, gwelem hwy yn codi i gyd ac yn cerdded tua'r môr. Cyn gynted ag y gwelais eu bod yn mynd i gyfeiriad y traeth, tybiais eu bod wedi rhoi'r gorau i chwilio am eu cymdeithion a'u bod am fynd yn ôl eto; ac yr oedd y capten, cyn gynted ag y dywedais fy syniadau wrtho, bron ag ymollwng gan ofn; ond yn fuan meddyliais am ystryw i'w dwyn yn ôl drachefn, yr hyn a wnaeth fy nhro i'r dim.
Gorchmynnais i Friday a'r mêt fynd drosodd i'r gilfach i gyfeiriad y gorllewin tua'r fan y glaniodd yr anwariaid pan achubwyd Friday; a chyn gynted ag y deuent i ychydig dir codi tua hanner milltir o ffordd, perais iddynt weiddi cyn uched ag y medrent ac aros nes gweled bod y morwyr wedi eu clywed, cyn gynted byth ag y clywent y morwyr yn eu hateb, yr oeddynt i ailweiddi drachefn, a chan gadw o'r golwg cymryd tro, ac ateb pan floeddiai'r lleill er mwyn eu tynnu cyn belled ag oedd bosibl i'r ynys ac i ganol y coed; ac yna dychwelyd ar dro ataf fi drachefn, yn ôl fel y cyfarwyddwn i hwynt.
Yr oeddynt ar fynd i mewn i'r cwch pan waeddodd Friday a'r mêt; ac yn y man clywsant hwy, a chan ateb, rhedasant ar hyd y traeth tua'r gorllewin; ond yn fuan, ataliwyd hwynt gan y gilfach lle'r oedd y dŵr i fyny yn rhwystro iddynt groesi, a galwasant ar y cwch i ddod i'w cludo drosodd, yn union fel y disgwyliwn. Wedi iddynt groesi, gan fod y cwch wedi mynd i fyny'r gilfach gryn ffordd ac mewn math o borthladd, cymerasant un o'r triwyr o'r cwch, gan adael dim ond dau ynddo a'i rwymo wrth fonyn coeden fechan ar y lan. Dyma'n hollol y peth a ddymunwn, ac ar unwaith euthum â'r gweddill gyda mi, a chan groesi'r gilfach heb iddynt ein gweld, daethom ar warthaf y ddau ddyn yn ddiarwybod iddynt. Yr oedd un ohonynt yn gorwedd ar y traeth, rhwng cysgu ac effro, ac yn dechrau ymysgwyd; ond rhuthrodd y capten arno a thrawodd ef i lawr, ac yna gwaeddodd ar yr un oedd yn y cwch i ildio, neu ei fod yn ddyn marw. Nid oedd angen ond ychydig o ddadlau i berswadio un dyn i ildio ac yntau'n gweld pump o ddynion ar ei warthaf; heblaw hyn, mae'n debyg fod hwn yn un o'r rhai nad oedd mor selog yn y gwrthryfel â'r gweddill o'r criw, ac felly perswadiwyd ef yn hawdd nid yn unig i ildio, ond hefyd i ymuno'n galonnog â ni.
Yn y cyfamser, llwyddodd Friday a'r mêt mor dda gyda'r gweddill nes eu tynnu, trwy weiddi ac ateb, o'r naill fryn i'r llall, ac o'r naill goedwig i'r llall, nes iddynt nid yn unig eu llwyr flino, ond hefyd eu gadael mewn lle yr oeddynt yn sicr na allent gyrraedd yn ôl i'r cwch oddiyno cyn iddi nosi; ac yn wir, yr oeddynt hwythau hefyd wedi blino yn anghyffredin erbyn iddynt ddod yn ôl atom ni.
Nid oedd gennym ddim i'w wneud yn awr ond eu gwylio yn y tywyllwch, a rhuthro arnynt er mwyn bod yn sicr o wneud pen arnynt. Aeth rhai oriau heibio cyn iddynt ddychwelyd i'r cwch, a chlywem y rhai blaenaf, ymhell cyn iddynt gyrraedd, yn galw ar y rhai oedd tu ôl i frysio, a chlywem hwythau'n ateb ac yn cwyno mor gloff a blinedig oeddynt, ac na allent ddod ddim cynt.
O'r diwedd, daethant cyn belled â'r cwch; ond amhosibl yw datgan y dryswch yr oeddynt ynddo pan gawsant y cwch ar lawr yn y gilfach a'r ddau ddyn wedi mynd. Gwaeddasant drachefn, a galwasant ar eu dau gydymaith wrth eu henwau lawer gwaith; ond dim ateb. Mynnai fy ngwŷr i ruthro arnynt ar unwaith yn y tywyllwch, ond nid oeddwn yn fodlon peryglu bywyd yr un o'm dynion i. Penderfynais aros i weld a ymwahanent; ac i wneud yn sicr ohonynt euthum â'm gosgordd yn nes, a gorchmynnais i Friday a'r capten ymlusgo ar eu crafangau ar hyd y ddaear, a mynd cyn nesed atynt ag y medrent cyn iddynt gynnig tanio.
Ni buont felly yn hir cyn i'r pen-badwr, sef arweinydd y gwrthryfel, gerdded ymlaen tuag atynt gyda dau arall o'r criw. Yr oedd y capten mor awyddus wrth weld y dyhiryn pennaf yn ei afael fel mai prin yr oedd ganddo ddigon o amynedd i adael iddo ddod yn ddigon agos ato i wneud yn siwr ohono, gan na chlywent ddim ond ei dafod o'r blaen. Ond pan ddaethant yn nes, gan godi ar eu traed, taniodd y capten a Friday atynt. Lladdwyd y pen—badwr yn y fan; saethwyd y dyn arall trwy ei Gorff, a syrthiodd yn ei ymyl, er na fu farw am awr neu ddwy wedyn; a gloywodd y trydydd hi.
Wedi clywed y tanio, euthum ymlaen ar unwaith gyda'm holl fyddin, yn cynnwys wyth o wŷr, sef, myfi yn gadfridog; Friday'n is—gadfridog; y capten a'i ddau ddyn, a thri o garcharorion rhyfel yr oeddem wedi ymddiried arfau iddynt. Daethom ar eu gwarthaf yn y tywyllwch, fel na fedrent weld ein nifer, a pherais i'r dyn a adawsent yn y cwch alw arnynt wrth eu henwau, i weld a ellid cael telerau ganddynt. Felly galwodd cyn uched ag y medrai ar un ohonynt: "Tom Smith! Tom Smith!"
Ac atebodd Tom Smith ar unwaith; Pwy sydd yna? Robinson?" Canys mae'n debyg ei fod yn adnabod y llais.
Atebodd y llall, "Ie, ie; er mwyn Duw, Tom Smith, rho dy arfau i lawr ac ildia, neu fe fyddwch i gyd yn ddynion marw'r funud yma."
"I bwy mae'n rhaid i mi ildio? Ble maen nhw?" ebe Smith drachefn.
"Dyma nhw," meddai, "dyma'n capten ni, a hanner cant o ddynion gydag o, wedi bod yn eich hela am ddwyawr; mae'r pen—badwr wedi ei ladd; Will Fry wedi ei glwyfo, a minnau'n garcharor; ac os na ildiwch chi, mae hi wedi darfod am danoch.'
"Wnân nhw arbed ein bywyd os ildiwn ni?" ebe Tom Smith.
"Fe af i ofyn, os gwnewch chi addo ildio," ebe Robinson.
Felly gofynnodd i'r capten, ac yna gwaeddodd y capten ei hun: 'Rwyt ti, Smith, yn 'nabod fy llais i; os rhoi di d'arfau i lawr ar unwaith, ac ildio, fe arbedir bywyd pawb ond Will Atkins."
Ar hyn gwaeddodd Will Atkins: "Er mwyn Duw capten, arbedwch fi; beth wnes i? Mae nhw i gyd wedi bod cynddrwg â minnau."
Ond mae'n debyg nad oedd hyn ddim yn wir, gan mai Will Atkins oedd y cyntaf i gydio yn y capten pan fu iddynt wrthryfela i ddechrau, a thrinodd ef yn giaidd trwy rwymo ei freichiau, a rhoi tafod drwg iddo. Fodd bynnag, dywedodd y capten wrtho fod yn rhaid iddo roi ei arfau i lawr, ac ymddiried yn nhrugaredd y llywydd; a myfi oedd hwnnw, canys galwai'r cwbl fi'n llywydd.
Mewn gair, dodasant eu harfau i lawr i gyd, ac ymbiliasant am eu bywyd; a gyrrais y dyn a fuasai'n siarad â hwy a dau arall i'w rhwymo i gyd. Yna cyrhaeddodd fy myddin gref o hanner cant o wŷr (nad oeddynt ond wyth i gyd), a chymryd meddiant ohonynt hwy a'r cwch; ond cedwais i ac un arall o'r golwg.
Ein gorchwyl nesaf oedd adgyweirio'r cwch a cheisio cael gafael ar y llong. Parthed y capten, gan iddo gael hamdden yn awr i ymddiddan â hwy, dangosodd iddynt mor anfad ac ysgeler oedd eu cynllwyn, ac y byddai'n sicr o'u harwain i drueni a helbul yn y diwedd, ac efallai i'r crocbren. Ymddangosai'r cwbl yn edifeiriol iawn, ac erfyniasant yn daer am eu bywydau. Ynglŷn â hynny, dywedodd yntau nad ei garcharorion ef mohonynt, eithr eiddo llywydd yr ynys, a'i fod yntau yn Sais; y gallai eu crogi i gyd os mynnai; ond mae'n debyg mai eu gyrru i gyd i Loegr a wnâi oddieithr Atkins, a'i fod ef i'w grogi fore trannoeth. Er mai ffug o'i eiddo ef oedd hyn i gyd; eto cafodd yr effaith a ddymunid. Syrthiodd Atkins ar ei liniau i erfyn ar y capten eiriol â'r llywydd am ei fywyd; ac erfyniodd y gweddill arno, er mwyn Duw, beidio â'u gyrru Loegr.
Trawodd i'm meddwl yn awr mai gwaith hawdd fyddai cael cymorth y creaduriaid hyn i ennill y llong yn ôl. Felly ciliais i'r tywyllwch oddi wrthynt, rhag ofn iddynt weld pa fath lywydd a oedd ganddynt, a gelwais ar y capten ataf. Pan elwais, megis o bell, gorchmynnwyd i un o'r dynion ailadrodd a dweud wrth y capten: Capten, mae'r llywydd yn galw arnoch," ac atebodd y capten yn y man, Dywedwch wrth ei Fawrhydi fy mod yn dod yn awr," a chredent i gyd fod y llywydd yn ymyl gyda hanner cant o’i wŷr.
Wedi i'r capten ddod ataf, dywedais wrtho fy nghynllun i gael gafael yn y llong; a hoffai ef yn ardderchog, a phenderfynasom roi cynnig arno fore trannoeth. Ond er mwyn bod yn sicr o lwyddo, dywedais wrtho y byddai'n rhaid i ni rannu'r carcharorion, ac anfon Atkins a dau arall o'r rhai gwaethaf, yn rhwym i'r ogof. Ymddiriedwyd hyn i Friday a'r ddau ddyn a ddaethai i'r lan gyda'r capten. Gorchmynnais fynd â'r lleill i'm hafoty; a chan ei fod wedi ei gau i mewn, a hwythau wedi eu rhwymo, yr oedd y lle'n eithaf diogel.
Trannoeth gyrrais y capten at y rhain i siarad â hwynt, a dweud wrthyf a ellid ymddiried ynddynt ai peidio i fynd ar fwrdd y llong. Soniodd wrthynt am y niwed a wnaed iddo ef, ac er bod y llywydd wedi arbed eu bywydau, eto os anfonid hwy i Loegr fe'u crogid i gyd yn sicr; ond os ymunent mewn ymgais deg i ennill y llong yn ôl, y câi ef gan y llywydd addo pardwn iddynt. Syrthiasant ar eu gliniau gerbron y capten, ac addawsant fod yn ffyddlon iddo hyd y diferyn olaf, ac yr aent gydag ef dros y byd i gyd; y buasent yn ei gydnabod fel tad iddynt cyhyd ag y byddent fyw.
"Wel," ebe'r capten, "rhaid i mi fynd i ddweud wrth y llywydd beth a ddywedwch, a gweld beth a allaf ei wneud i gael ganddo gydsynio a'r peth."
Fodd bynnag, er mwyn i ni fod yn hollol sicr, dywedais wrtho am fynd yn ôl drachefn a dewis pump ohonynt, a dweud wrthynt y cymerai ef y pump hynny yn gynorthwywyr iddo, ac y cadwai'r llywydd y ddau arall, a'r tri a anfonwyd yn garcharorion i'm hogof i, yn wystlon am ffyddlondeb y pump hynny; ac os byddent yn anffyddlon y crogid y gwystlon yn fyw mewn cadwynau ar y traeth.
Nid oedd dim anhawster i'r capten yn awr, ond darparu'r ddau gwch; gwnaeth yr un oedd yn deithiwr gydag ef yn gapten ar un cwch, a phedwar dyn gydag ef; ac aeth yntau, ei fêt, a phump arall yn y llall; a chyraeddasant at y llong tua hanner nos.
Cyn gynted ag y daethant o fewn galw i'r llong, gwnaeth i Robinson weiddi arnynt a dweud wrthynt eu bod wedi dyfod â'r dynion a'r cwch, ond iddynt fod yn hir iawn cyn cael hyd iddynt, a phethau felly; gan eu cadw i ymddiddan nes dod at ochr y llong. Yna aeth y capten a'r mêt i mewn gyntaf yn arfog, ac ar unwaith trawsant i lawr yr ail—fêt a'r saer gyda bonau eu mwsgedi, a safodd eu gwŷr yn ffyddlon iawn wrth eu cefnau. Daliasant y gweddill a oedd ar y deciau, a dechrau rhwymo'r hatsus i gadw'r lleill i lawr; a chan fynd i mewn dros y cadwyni blaen, sicrhaodd criw'r cwch arall y fforcasl, gan gymryd tri o ddynion yn garcharorion. Wedi gwneud hyn, gorchmynnodd y capten i'r mêt a thri o ddynion dorri i mewn i'r rowndws[5] lle'r oedd y capten newydd gwrthryfelgar gyda dau ddyn a bachgen, â gynnau ganddynt yn eu dwylo; phan holltodd y mêt y drws â throsol, taniodd y capten newydd a'i wŷr arnynt; torrwyd braich y mêt a chlwyfwyd dau ddyn, ond ni laddwyd neb. Fodd bynnag, gan weiddi am help, rhuthrodd y mêt i'r rowndws, ac â'i bistol saethodd y capten newydd drwy ei ben; ac ar hynny ildiodd y gweddill, a chymerwyd y llong heb golli dim rhagor o fywydau.
PENNOD XXX.
Y CAPTEN YN ENNILL Y LLONG YN ÔL—ROBINSON YN GADAEL YR YNYS AC YN CYRRAEDD LLOEGR.
CYN gynted ag y sicrhawyd y llong gorchmynnodd y capten danio saith gwn, sef yr arwydd y cytunasem arno er rhoddi rhybudd o'i lwyddiant i mi; ac yr oeddwn yn falch o'i glywed, gan fy mod wedi eistedd ar y traeth yn disgwyl amdano tan yn agos i ddau o'r gloch y bore. Wedi clywed yr arwydd yn eglur fel hyn, gorweddais i lawr; a chan mai diwrnod blinedig iawn i mi oedd hwn, cysgais yn drwm anghyffredin hyd nes y dychrynwyd fi gan sŵn gwn; a chan godi ar unwaith clywn ddyn yn galw arnaf wrth yr enw; " Llywydd, Llywydd!" ac yn y man adnabûm lais y capten. A phan ddringais i ben y bryn, dyna lle y safai, a chan ddangos i gyfeiriad y llong, cofleidiodd fi yn ei freichiau.
Fy annwyl gyfaill a'm gwaredwr," meddai, dyna'ch llong chi, gan mai chi piau hi i gyd, a ninnau hefyd, a phopeth sy'n perthyn iddi.
Codais fy ngolygon i gyfeiriad y llong, a dyna lle'r oedd hi ychydig dros hanner milltir o'r lan; canys codasent ei hangor cyn gynted â'u bod wedi ei meistroli; a chan fod y tywydd yn braf, yr oeddynt wedi ei hangori yng ngenau'r gilfach; a chan fod y llanw i fyny yr oedd y capten wedi dod yn y cwch bach, ac wedi glanio bron wrth fy nrws. Ar y cyntaf yr oeddwn bron ag ymollwng gan syndod, canys gwelwn fy ngwaredigaeth wedi ei gosod yn fy nwylo, a llong fawr yn barod i'm cludo ymaith i ba le bynnag y mynnwn fynd. Am beth amser ni fedrwn ateb gair iddo; ond gan ei fod wedi fy nghymryd yn ei freichiau, cydiais yn dyn ynddo neu buaswn wedi syrthio ar lawr, a chofleidiais ef fel fy ngwaredwr a chydlawenhasom â'n gilydd.
Wedi i ni ymddiddan am ysbaid, dywedodd y capten wrthyf ei fod wedi dod ag ychydig luniaeth i mi; ac ar hynny gwaeddodd yn uchel ar y cwch a pharodd i'w wŷr ddwyn i'r lan y pethau oedd ganddynt i'r llywydd; ac yn wir, yr oedd yn fath anrheg â phe buaswn yn rhywun nad oedd i fynd ymaith gyda hwy, ond yn un oedd i aros ar yr ynys a hwythau i fynd hebof. I ddechrau, yr oedd wedi dod â chistan o boteli yn llawn gwirodydd ardderchog, chwe photel fawr o win Madeira (y poteli'n dal dau chwart yr un), dau bwys o dybaco ardderchog, deuddeg darn iawn o gig eidion, a chwe darn o gig mochyn, cydaid o bys, a thua chan pwys o fisgedi. Dug i mi hefyd lond bocs o siwgr, Ilond bocs o flawd, cydaid o lemwnau, a digonedd o bethau eraill. Ond heblaw y rhain, daeth â phethau oedd filwaith fwy defnyddiol i mi, sef, chwe chrys newydd glân, chwe chrafat da iawn, dau bâr o fenyg, un pâr o esgidiau, het, ac un pâr o hosanau, a siwt dda o'i ddillad ei hun nad oedd wedi gwisgo ond ychydig iawn arni; mewn gair, fe'm dilladodd o'm pen i'm traed. Yr oedd yn anrheg garedig a dymunol iawn, ond ni fu dim byd erioed mor annymunol, mor chwithig, ac mor anesmwyth ag ydoedd i mi wisgo'r fath ddillad ar y cyntaf.
Yna dechreuasom ymgynghori beth i'w wneud â'r carcharorion a oedd gennym, yn enwedig dau ohonynt; dywedai'r capten eu bod y fath ddyhirod fel nad oedd dim bodloni arnynt, ac os cymerai hwynt ymaith y byddai'n rhaid eu rhoi mewn hualau fel drwg weithredwyr, a gwelwn fod. y capten yn bryderus iawn ynglŷn â'r peth.
"Wel," meddwn i, fe anfonaf amdanynt, ac fe siaradaf â hwynt. Felly fe anfonais Friday a dau arall i'r ogof i nôl y pump (wedi eu rhwymo fel yr oeddynt), a'u dwyn i'm hafoty, a'u cadw yno hyd nes y cyrhaeddwn i.
Ymhen ychydig amser euthum yno, wedi fy ngwisgo yn fy nillad newydd. Perais ddwyn y dynion i'm gŵydd, a dywedais wrthynt fy mod wedi cael hanes cyflawn o'u hymddygiad ysgeler tuag at y capten, fod y llong wedi ei dal yn ôl fy nghyfarwyddyd i, ac y gwelent yn y man fod y capten newydd wedi derbyn ei wobr am ei ysgelerder, ac y gwelent ef yn hongian ar fraich un o'r iardiau; ac ynglŷn â hwynt, yr oedd arnaf eisiau gwybod beth oedd ganddynt i'w ddweud yn erbyn i mi eu dienyddio hwythau fel môrladron.
Atebodd un ohonynt dros y gweddill nad oedd ganddynt ddim ond hyn i'w ddweud, sef, bod y capten wedi addo eu bywydau iddynt pan ddaliwyd hwynt, ac yr oeddynt yn erfyn yn ostyngedig am drugaredd. Dywedais wrthynt na wyddwn i ddim pa drugaredd i'w rhoddi iddynt; fy mod i a'm holl wŷr wedi penderfynu gadael yr ynys a mynd gyda'r capten i Loegr, ac na chymerai'r capten mohonynt hwy i Loegr ond yn unig fel carcharorion mewn hualau, a chanlyniad hynny, fel y gwyddent, fyddai'r crocbren; ac ni wyddwn i beth oedd y gorau iddynt os na ddymunent gymryd eu siawns ar yr ynys. Ymddangosent yn ddiolchgar iawn, a dywedasant mai gwell o lawer oedd ganddynt fentro aros yno na chymryd eu cludo i Loegr i'w crogi.
Felly gollyngais hwynt yn rhydd, a gorchmynnais iddynt fynd o'r neilltu i'r coed, ac y gadawn i arfau iddynt a thaclau saethu, a chyfarwyddiadau iddynt sut i fyw yno os mynnent. Yna rhoddais hanes y lle iddynt, a dangosais iddynt fy amddiffynfeydd, sut y byddwn yn gwneud fy mara, yn plannu fy ŷd, ac yn trin fy ngrawnwin. Gadewais fy arfau tân iddynt, sef, pum mwsged, tri llawddryll, a thri chleddyf. Rhoddais ddisgrifiad iddynt o'r dull y byddwn yn trin y geifr, a chyfarwyddiadau i'w godro a'u pesgi, ac i wneud ymenyn a chaws. A dywedais wrthynt y cawn gan y capten adael dwy faril o bowdwr gwn yn ychwaneg, a hadau gerddi; rhoddais iddynt hefyd y cydaid pŷs a ddygasai'r capten i mi i'w bwyta, a pheri iddynt gofio eu hau.
Wedi gwneud hyn i gyd, gadewais hwynt drannoeth ac euthum ar fwrdd y llong. Paratoesom i hwylio ar unwaith, ond ni chodasom angor y noson honno. Yn gynnar fore trannoeth, nofiodd dau o'r pum dyn at ochr y llong; a chan gwyno'n druenus oherwydd y tri arall, erfyniasant am i ni eu cymryd i'r llong, er mwyn Duw, gan y llofruddid hwy; ac ymbiliasant ar y capten i'w cymryd hyd yn oed pe bai'n eu crogi yn y fan. Cymerai'r capten arno nad oedd ganddo ef ddim awdurdod ar wahan i mi. Ond wedi peth anhawster, cymerwyd hwynt ar y bwrdd, a rhywbryd wedyn chwipiwyd hwynt yn iawn a phiclwyd[6] hwynt; ac wedi hynny buont yn greaduriaid hollol onest a thawel.
Ymhen peth amser gyrrwyd y cwch i'r lan, gan fod y llanw i fyny, gyda'r pethau a addawsid i'r dynion, a chan i mi eiriol, parodd y capten ychwanegu eu cistiau dillad hefyd; a chymerasant hwy, ac yr oeddynt yn ddiolchgar iawn amdanynt. Calonogais hwy hefyd trwy ddweud wrthynt, os cawn i gyfle i yrru rhyw long i'w cymryd i mewn, nad anghofiwn i mohonynt.
Pan ffarweliais â'r ynys hon, cymerais gyda mi i'r llong, fel creiriau,—y cap mawr o groengafr a wnaethwn, fy ambarèl, a'm parrot; hefyd nid anghofiais gymryd yr arian y cyfeirias ato o'r blaen, yr hwn oedd wedi bod gennyf cyhyd yn hollol ddiddefnydd nes ei fod wedi rhydu neu lwydo, a phrin y gellid ei gymryd fel arian nes rhwbio a thrin tipyn arno; ac felly hefyd, yr arian a gawsom yn yr hen long Ysbaenig.
Ac fel hyn y gadewais yr ynys, y 19eg o Ragfyr yn y flwyddyn 1686, wedi bod arni am wyth mlynedd ar hugain, dau fis, a phedwar diwrnod ar bymtheg, gan gael fy ngwaredu o'm hail gaethiwed ar yr un dydd o'r mis ag y dihengais gyntaf yn y barco-longo o fysg Mwriaid Sallee.
Yn y llestr hwn, wedi mordaith hir, cyrhaeddais Loegr, yr 11eg o Fehefin, yn y flwyddyn 1687, wedi bod bymtheng mlynedd ar hugain oddi cartref.

Nodiadau
[golygu]- ↑ I Geraint Bowen oddiwrth Euros Bowen
- ↑ Darnau arian a ddefnyddid yn Ysbaen.
- ↑ Hen ddarn aur tramor gwerth tua naw swllt,
- ↑ bushel yw'r gair a ddefnyddir; anodd cael gwell gair Cymraeg na bwysel.
- ↑ Y pryd hwnnw y caban uchel ymhen ôl y llong oedd ystafell y capten, a gelwid hi'n round—house, am fod ei phen yn grwn.
- ↑ Arferid arllwys dŵr hallt ar friwiau'r troseddwyr ar ôl eu chwipio.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.