Arglwydd, gad im dawel orffwys
| ← Pam y caiff bwystfilod rheibus | Arglwydd, gad im dawel orffwys gan William Ambrose (Emrys) |
Arglwydd Iesu, llanw d' Eglwys → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |

340[1] "Gorffwysfaoedd llonydd."
87. 87. D.
1 ARGLWYDD, gad im dawel orffwys
Dan gysgodau'r palmwydd clyd,
Lle yr eistedd pererinion
Ar eu ffordd i'r nefol fyd;
Lle'r adroddant dy ffyddlondeb
Iddynt yn yr anial cras,
Nes anghofio'u cyfyngderau
Wrth foliannu nerth dy ras.
2 O! mor hoff yw cwmni'r brodyr
Sydd â'u hŵyneb tua'r wlad,
Heb un tafod yn gwenieithio—
Heb un fron yn meithrin brad:
Gwlith y nefoedd ar eu profiad,
Atsain hyder yn eu hiaith;
Teimlant hiraeth am eu cartref,
Carant sôn am ben eu taith.
3 Arglwydd, dal ni nes mynd adref,
Nid yw'r llwybyr eto'n faith;
Gwened heulwen ar ein henaid,
Wrth nesáu at ben y daith;
Doed y nefol awel dyner
I'n cyfarfod yn y glyn,
Nes in deimlo'n traed yn sengi
Ar uchelder Seion fryn.
—William Ambrose (Emrys)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 340, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930