Arglwydd Dduw teuluoedd Israel
Gwedd
| ← | Arglwydd Dduw teuluoedd Israel gan John Thomas Job |
Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
717[1] Cofia'n Teuluoedd
87.87. 47.
1 ARGLWYDD Dduw teuluoedd Israel,
Rho i ninnau'r fendith fawr:
A goleua'n holl drigfannau
A goleuni'r nefol wawr:
O! llewyrched
Golau'r nef drwy dir ein gwlad.
2 Dyro fwynder ar yr aelwyd,
Purdeb a ffyddlondeb llawn;
Adfer yno'r sanctaidd allor
A fu'n llosgi'n ddisglair iawn:
Na ddiffodded
Arni byth mo'r dwyfol dân.
3 Aed gweddïau'r saint i fyny,
Hwyr a bore'n ebyrth byw:
A'u ffenestri fo'n agored
Tua Salem, dinas Duw.
Dan dy fendith
Cadw'n gwlad o oes i oes.
—John Thomas Job
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 717, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930