Neidio i'r cynnwys

Arglwydd Iesu, llanw d' Eglwys

Oddi ar Wicidestun
← Arglwydd, gad im dawel orffwys Arglwydd Iesu, llanw d' Eglwys

gan William Pari Huws

Mi glywais lef, llef tyrfa fawr →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

341[1] Yr Eglwys i Ddangos Crist
87. 87. D.

 
1 ARGLWYDD Iesu, llanw d' Eglwys
Â'th Lân Ysbryd Di dy Hun,
Fel y gwasanaetho'r nefoedd
Trwy roi'i llaw i achub dyn:
Dysg i'w llygaid allu canfod,
Dan drueni dyn, ei fri;
Dysg i'w dwylaw estyn iddo
Win ac olew Calfari.

2 Llifed cariad pen Calfaria
Drwy dy Eglwys ato ef:
A'th diriondeb Di dy Hunan
Glywo'r truan yn ei llef:
Dysg hi i ofni byw yn esmwyth,
Gan anghofio'r byd, a'i loes;
Nertha hi i dosturio wrtho,
A rhoi'i hysgwydd dan ei groes.

—William Pari Huws


Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 341, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930