Neidio i'r cynnwys

Arglwydd y bydoedd fry

Oddi ar Wicidestun
Mi bellach goda' i maes Arglwydd y bydoedd fry

gan Isaac Watts


wedi'i gyfieithu gan Dafydd Jones o Gaeo
Os rhaid goddef ar fy nhaith

335[1] Hiraeth am Dŷ Dduw
66. 66. 88.

1 ARGLWYDD y bydoedd fry,
Mor deg a hawddgar yw
Trigfan dy gariad cu,
Daearol deml fy Nuw:
Boed tynfa f'enaid tua'th dŷ,
Fy Nuw, i weld dy ŵyneb cu.

2 Hoff gan aderyn to
Gael yno i'w gywion le;
A'r wennol, ar ei thro,
Hiraetha am ei thre';
Mae hiraeth f'enaid i'r un faint
Am gael preswylio 'mhlith y saint.

3 Cael treulio sanctaidd ddydd
Lle byddo Duw a'i saint,
Llawenydd gwell a rydd
Na mil mewn bydol fraint:
Gwell yw cael cadw'r drws o hyd
Lle dêl fy Nuw na phlasau'r byd.
 
—Isaac Watts,
Cyf—Dafydd Jones o Gaeo



336[2] Aros yn y Tŷ
74. 74. D.

OS rhaid goddef ar fy nhaith
Dywydd garw,
Cadw f'ysbryd yn dy waith
Hyd fy marw:
Yn y babell gyda'r arch
Boed fy nyddiau;
Cadw yn fy enaid barch
I'th gyfreithiau.

—John Hughes, Pontrobert


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 335, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 336, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930