Neidio i'r cynnwys

Athrylith Ceiriog/Pennod 6

Oddi ar Wicidestun
Pennod 5 Athrylith Ceiriog

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

Pennod 7

Pennod 6.

Y MAE y syniad ar led mai Burns a grëodd ganeuon yr Alban: "Ond," medd un o'i edmygwyr mwyaf calonog, "byddai yn llawer nes i'r gwirionedd i ddweyd mai caneuon yr Alban a greasant Burns, ac mai ynddo ef y cyrhaeddasant eu huchelnod. Ganwyd ef ar awr hapus i fardd-gerddor cenedlaethol: tu cefn iddo yr oedd canrifoedd o ganu, ac anadlodd awyr o beroriaeth o'i febyd."[1] Byddai sylw cyffelyb yr un mor wir am Ceiriog. "Hen alawon" ei wlad oeddent yr afonydd gloywon, llyfndeg, lle y cafodd ei ganeuon le i hafaidd-nofio. Heb yr hen alawon byddai amryw o'i ganeuon yn debyg i gychod nwyfus yn gorwedd yn segur ar y glanau, a'u hestyll yn hollti yn ngwres yr haul. Y mae y gwirionedd cyflawn, fel arfer, yn ddyblyg: ar un llaw, i alawon poblogaidd Cymru greu caneuon Ceiriog; ac ar y llaw arall, i ganeuon Ceiriog roddi ail-fywyd i'r hen alawon Cymreig.

I'r neb a adwaenai Ceiriog nid oes eisiau siarad am ei hoffder o gerddoriaeth ei wlad. Yr oedd, fel y sylwa Llew Llwyfo, yn fwy o gerdd-garwr nag o gerddor: gwyddai fwy am "gerddoriaeth natur" a "cherddoriaeth y galon" nag a wyddai am gerddoriaeth fel celfyddyd.[2] Yr oedd ei ysbryd fel telyn fyth-furmurol wedi ei chrogi ar gangau yr ywen uwchben yr oesau gynt, ac awelon araf y cynfyd yn cyffwrdd â'r tanau hyfrydsain foreu a hwyr. Yr oedd o hyd yn "hymio rhyw hen dôn" wrtho ei hun, nes yr oedd wedi deall ei chyfrinach gysegredig. Nid oes un esboniad fel esboniad serch—esboniad y galon gariadus mewn cydymdeimlad pur. Wedi syrthio mewn cariad â'r alaw, wedi ei henill mewn ystyr yn eiddo iddo ei hun, y dechreuai ysgrifenu geiriau iddi.

Cerddi Cymru sydd yn byw
Trwy'r blynyddau yn ein clyw:
Sibrwd ein halawon gynt
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen dônau pur ein gwlad:
****
Ac mae clust y Cymro'n gwneud
I'r gre'digaeth oll eu dweyd.

"Sibrwd ein halawon gynt" wnaeth yntau, nes dysgu gwlad i'w canu.

Byddai yn ormod disgwyl iddo lwyddo bob tro: ond nid yw'r eithriadau prin yn gwneud mwy na dangos cryfder ei lwyddiant. Pa fodd y gollyngodd linellau fel hyn o'i afael ar Godiad yr Haul, nis gallwn ddeall:—

Gwêl, gwêl! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele'r Haul trwy gwmwl rhudd
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I'w wydd adar a ddônt,
Dreigiau'r Nos o'i olwg a ffont.
Pwy dd'wed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y môr yn gochfor gwaed,
A'r ddaear dry o dan ei draed.'[3]


Nid oes dim, yn holl arweddau Natur, mor ryfeddol ddidwrf â chodiad a machludiad haul. Beth wnaeth i'r bardd ddefnyddio geiriau a brawddegau mor drystfawr? Y mae dwndwr yr "hollti" a'r "tywallt," dreigiau'r nos ar ffô, gwychedd y "gwyn-freichiau," a'r "cochfor gwaed," yn annaturioli'r olygfa sanctaidd. Nid yr un geiriau sydd ganddo i'r alaw yn y Songs of Wales: y mae y rhai hyny mor brydferth ag ydyw y rhai uchod o anferth. Mor esmwyth ac mor ddirwystr yw llif y llinellau hyn:—

Haul, haul, araul ei rudd,
A gwawl boreuawl dwyfawl Dydd,
Mae'n d'od, mae'n d'od yn goch ei liw,
Shecinah sanctaidd Anian yw,
Yn troi trwy ymherodraeth Duw!
Mil o sêr o'i gylch
Sy'n canu megys adar mân;
Toddant yn ei wyneb
Ac ymguddiant ar wahân:
Try'r wylaidd loer o'i ŵydd yn awr,—
Mae'n d'od, mae n d'od ar donau'r wawr
Fel Llong o'r Tragwyddoldeb mawr!

Y mae urddasolrwydd gwir athrylith yn y ddwy linell olaf y maent yn rhy fawr i fod yn drystfawr.

Camsyniad mynych wrth ysgrifenu cân yw gosod ynddi ormod o feddwl, neu feddwl rhy ddyeithr. Barnwn i Ceiriog syrthio unwaith neu ddwy i'r camsyniad hwn; ond yma eto y mae prinder yr eithriadau yn dangos mor fawr oedd ei lwyddiant. Diamheu mai amryfusedd oedd iddo roddi geiriau mor gyfriniol i alaw mor hedegog ag "Ar hyd y Nos." Wrth ddilyn seiniau chwareugar a symudiadau sionc yr alaw, nid oes hamdden na thuedd i feddwl fod "amrantau'r sêr" yn dywedyd mai

Goleu arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch.


Y mae y syniad yn creu cynhwrf o ofyniadau dyrys yn y meddwl: ac y mae hyny yn dinystrio'r gân—fel cân. Mwy cynefin a mwy dymunol yw genym fyned at Islwyn i ddysgu cyfrinachau ysbrydol y nos;—ac nid mewn cân ddèl ar alaw adnabyddus y cymer efe arno i'n dysgu, ond mewn mesurau ufudd, rhyddfreiniol—ambell waith heb odl na mesur—fel syrthiad seren yn sydyn o'r nwyfre, fel awelon amlsain yr hwyr yn ngwyrddlesni y goedwig.

Dichon fod yr un bai yn ei eiriau ar "Serch Hudol;" yn enwedig y llinellau hyn:

Serch hudol yw
Pob peth sy'n byw,
Yn y nef a daear Duw:
O'r haul sy'n llosgi fry—
I'r pryfyn tân yr hwn a roed,
I rodio'r clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybr troed
Syn arwain i dy dŷ.

Fel syniad barddonol a chrefyddol, y mae yr uchod yn hollol ddidramgwydd; ond nid yn ddigon llithrig mewn cân—yn enwedig pan yw yr alaw yn llawn o nwyf pryderus serch ieuanc.

Ail-ddywedwn yr hyn a ddywedasom eisoes, ein bod yn nodi yr eithriadau hyn am mai eithriadau ydynt. Byddai rhoddi engreiphtiau o'i hapusrwydd —o gydnawsedd geiriau âg ysbryd yr alaw—yn gofyn i ni roddi bron yr oll o'i ganeuon. Gellid dangos, mewn engraipht ar ol engraipht, fel y mae y gân a'r alaw ar adegau yn llwyr doddi i'w gilydd. Ymfoddloner ar ychydig ddewision.

Yn yr alaw a elwir "Codiad yr Hedydd" ceir y frawddeg ganlynol, a'i eiriau yntau yn y frawddeg:

Ynnes at Ddydd, yn nes at Dduw, Ify-nufel e-fe.

Y mae peroriaeth y cerddor a chân y bardd yn esgyn gyda'u gilydd—fel ar aden esmwyth, fyth ieuanc yr ehedydd—yn esgyn yn ddewrgalon i fynu (ar y nodyn E), nes ymgolli mewn Dydd a Duw.

Yr un modd yn y frawddeg adnabyddus o "Ryfelgyrch Gwŷr Harlech

(a) Ar i'r dewr-ion ddod i DAR-OUn waith et-o'nun
(b) An ni-byniaeth sydd yn GAL-WAr ei dewr-afddyn.
(c) We-le fan-er Gwal ia'i FY-NU—RHYDD-ID AIFF AHI!
(d) Dyn-a'rfan lle plyg ei glin-iau—Ar-glwydd ca-dwhi!

O'r pedair engraipht uchod, y mae y dair flaenaf yn hapus yn mhob ystyr—y drydedd yn neillduol felly. Y mae y geiriau taro—galw—fynu ar y nodau esgynol (D: G), fel swn goruchafiaeth ynddynt eu hunain; a theimlir yn ddios fod rhyddid yn "myn'd â hi." Ond, fel y mae'r " calla'n colli weithiau:" nis gallai dim fod yn fwy anhapus na'r "plygu gliniau" yn y bedwaredd engraipht—ar yr un nodau herfeiddiol. Nid yw gwyleidd-dra addoli yn agos i'r fath frawddeg rwysgfawr.

O ran tynerwch perorol a barddonol, nis gwn am ddim i ragori ar ddiweddglo "Ymdaith y Mwnc:"—

Ac iaith ei gyn dad-au yniach ac ynfyw

Y mae y geiriau—"iach ac yn fyw"—yn cario effaith wefreiddiol ar yr F ddisgynol a'r D unsain.

Pe gofynid am gynrychiolaeth o awen Ceiriog mewn tair cân, dewisem "Yr Eneth Ddall," "Y March a'r Gwddw Brith," a "Morfa Rhuddlan." Yr ydym yn dewis y gyntaf am ei symlrwydd a'i Phrudd-dynerwch yr ail am ei dyeithredd, y swn rhamantus, fel adlais hen Fabinogi odidog sydd ynddi; a'r olaf am ei grymusder awenyddol. mae annhraethol boen mewn llinell fel hon—

Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion!

Y mae ei dwysder mor aruthr: pwy all ei chanu? hyd yn nod ar alaw pruddglwyfus "Morfa Rhuddlan?"

Nodiadau

[golygu]
  1. Shairp's Aspects of Poetry, 198—'99
  2. Y Geninen, vi. 76.
  3. O gywreinrwydd, dyfynwn yma linellau o eiddo y prif-fardd Gaelig Ossian yn darlunio codiad haul:
    Tha tonnan a' briseadh 's a' falbh,
    Gu domhail fo'n garbh eagal féin,,
    Tad a' cluinntinn thu 'g eirigh le fuaim,
    O thalla nan stuadh, a ghrian.
    Yn Gymreig fel hyn:—
    Y tonnau ymddrylliant ac ymgiliant,
    Gan dyru yn eu dirfawr ofn,
    Fel y'th glywant yn codi gyda sŵn
    O ystafell y dòn, O! Huan.
    Paham y dywedai'r bardd fod yr haul "yn codi gyda sŵn?" pha gyfathrach feddyliol oedd rhyngddo a'r bardd Cymreig yn hyn?