Neidio i'r cynnwys

Athrylith Ceiriog (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Athrylith Ceiriog (testun cyfansawdd)

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Athrylith Ceiriog
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Ceiriog Hughes
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Howell Elvet Lewis (Elfed)
ar Wicipedia



ATHRYLITH

JOHN CEIRIOG HUGHES



GAN Y

PARCH. H. ELFED LEWIS,

LLUNDAIN



LIVERPOOL:

CYHOEDDWYD GAN ISAAC FOULKES, 8, PARADISE STREET.

1899.

Y TRAITHAWD canlynol a enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1888; a chyhoeddir ef yn awr trwy gyd-ddealltwriaeth & Phwyllgor yr Eisteddfod.—Y CYHOEDDWR.

Ni amcanwyd i'r Traithawd hwn fod yn "GOFIANT CEIRIOG." Y mae Monography LLYFRBRYF wedi gwneuthur hyny yn afreidiol,—a gwae ni na byddai cof-ysgrif gyffelyb ar bob llenor Cymreig o nod. Ni cheir yma ond cymaint o nodion cofanol ag oeddynt yn egluro bywyd llenyddol a chymeriad y bardd—YR AWDWR.

AMSERONI CEIRIOG a rhai o'i Gyfoeswyr.

CEIRIOG —1832—87
Ab Ithel—1811—62
Alaw Goch—1811—63
Brinley Richard—1817—85
Caledfryn—1801—69
Clwydfardd—1800—94
Creuddynfab—1814—'69
Cynddelw—1812—275
Dewi Arfon—1833—69
Eben Fardd—1802—'62
Edwards, Roger—1811—'86
Emrys—1813—'73
Gee, Thomas—1815—'98
Glan Alun—1811—'66
Glasynys —1828—'70
Golyddan—1840—'62
Gwalchmai—1804—'97
Ieuan Gwyllt—1823—'77
Hiraethog, Gwilym—1802—'83
Ioan Arfon—1828—'81
Ioan Emlyn—1818—'73
Iorwerth Glan Aled—1819—'67
Islwyn—1832—'78
Llew Tegai—1814—'64
Mynyddog—1833—'77
Nicander—1809—'74
Owain Alaw—1821—'83
Risiart Ddu o Wynedd—1836—'69
Robin Ddu Eryri—1804—'92
S. R. —1800—'85
Talhaiarn—1810—'69
Tanymarian—1822—'85
Trebor Mai—1850—'77
Tudno— . . . –'95 [1]
Wynne, Miss Edith—1843—'97


ATHRYLITH CEIRIOG

(TRAETHAWD BEIRNIADOL).

Music and sweet poetry agree,
As they must needs, the sister and the brother.
*****
One god is god of both, as poets feign;
One knight loves both, and both in thee remain.
—Shakspere.

Pennod 1.

YN un o'i lythyrau dyddorus at Edward Richard of Ystradmeurig, sylwa Lewis Morris ar brinder a thlodi awenyddol "caneuon" Cymreig. Sonia am Huw Morus fel tad y dosbarth arbenig hwn o farddoniaeth delynegol. Dywed:-"Ni fu genym erioed gân dda cyn ei amser ef, nac un ar ei ol (a welais i) yn gydradd âg ef; ac wrth ystyried na dderbyniodd addysg haelionus, ychydig o nghoethedd sydd yn ei iaith,—fel pe byddai Natur wedi ei fwriadu i fod iddi yn anwylyd-eos."[2].

Y mae yn syn mai dyma'r ffaith. Pan gofir fod yr elfen delynegol mor rymus ac mor aml-bresenol mewn barddoniaeth Gymreig, naturiol yw holi paham mae y "caneuon" mor brin, ac mor ddiweddar yn ymddangos?

Y mae y gofyniad yn arwain yr efrydydd llenyddol ar unwaith i ganol ystyriaethau dyrys ac anorphen. Y mae hanesiaeth yn dwyn ei thystiolaeth ddiamwys fod yr urdd farddol yn cael ei chydnabod a'i hanrhydeddu yn nghyfundrefn offeiriadol y Derwyddon. Os oedd beirdd Cymreig yn amser Cæsar, pa le mae eu barddoniaeth? Os bu telyn y bardd yn tanio eneidiau dewraf Frythoniaid ar gâd-faesydd yr oesau—amser hir cyn i'r Normaniaid adael cad-faes Senlac yn orchfygwyr—pa beth ddaeth o'u rhyfelgan? Y mae gofyniadau o'r fath, fel llewyrch mellten ar for ystormus, yn lled-awgrymu faint yw llenyddiaeth golledig y Cymry. Adroddwyr, ac nid ysgrifenwyr, oedd ein beirdd boreuol; ac y mae cynyrch eu hawen wedi diflanu fel cân ehedydd ar foreu Mehefin gan' mlynedd yn ol.

Y mae yr hen alawon Cymreig wedi colli y geiriau a roddodd enw iddynt ar y cyntaf. Mor ddifyr—ac mor ofer—yw ceisio dy falu beth allasai fod y geiriau gwreiddiol i "Ymdrech Gwyr Harlech." neu "Serch Hudol," neu "Blygiad y Bedol Fach?" Pa fardd a chwareuodd ei delyn o dan ganghau "Llwyn Onn," neu yn ngoleuni hudolus "Toriad y Dydd?" ac yn mha gymanfa Dderwyddol y clywyd gyntaf nodau nwyfus "Hob y deri dando?" Nid yw hyn eto ond profi mor ychydig a wyddom am lenyddiaeth golledig y Cymry.

Ar lafar gwlad ceir heddyw aml i benill di-berchen, na ŵyr neb ei oedran na'i haniad. Cyfeiria Ceiriog at un ohonynt yn Y Bardd a'r Cerddor, yn ei ddull nodweddiadol ei hun: "Dyma ddarn o hen bill y byddaf yn dotio wrth ben ei ysgafnder soniarus—

Mae genyf ebol me'yn
Yn myn'd yn bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed."


Mewn mwy nag un o Border Ballads yr Alban ceir yr un dychymyg: cydmarer—

For he is golden shod before, And he is golden shod behind.

Creadau llenyddol y Celt yw y baledau hyn. Ai gormod yw meddwl fod y penill Cymreig a'r penill Albanaidd yn tarddu o'r un ffynonell henafol? mai aralleiriad ydynt o ryw benill annghofiedig fu unwaith yn feddiant cyffredin y Celt.

Meddylier eilwaith am y Penillion geir mewn casgliadau hynafiaethol fel Cymru Fu, neu Geinion Llenyddiaeth Gymreig. Y mae rhai ohonynt mewn gwirionedd yn geinion: y mae lliw athrylith arnynt. O ba le y daethant? Pa awdwr annghofiedig a'u canodd ?

Y mae gofyniadau fel hyn yn ein tueddu i ragdybied fod aml i fardd cân wedi bod yn Nghymru, a'i waith wedi goroesi ei enw. Er hyny, nid gwrthddweyd sylw Lewis Morris yr ydym, yn gymaint ag ychwanegu ato, fel na wnaer cam â theulu'r "annghofus dir."

Pennod 2.

DEFNYDDIR y gair Cân—Caneuon fynychaf mewn ystyr gyffredinol, i ddynodi darn o farddoniaeth. o unrhyw fath. Ond yn y traethawd presenol cyfyngir y gair i'w ystyr gysefin, i ddynodi dosran arbenig o farddoniaeth delynegol. Y mae y gair Seisnig "Song" yr un mor ddiafael: dyna'r rheswm fod llenorion Seisnig yn defnyddio gair o'r Ffrancaeg —"Chanson"—pan y maent yn son am ddarn o farddoniaeth wedi ei gyfaddasu at ddybenion cerddorol.

Y Gân yn ddiau yw cyntafanedig yr awen. Un o'r efelychiadau symlaf o beroriaeth natur ydyw,—heb falchder ymadrodd, heb uchelgais gelfyddydol, heb blethiad dyrys meddylddrychau. Y mae yn ysgafndroed a dihoced; fel murmur y gornant ar boreu o wanwyn—fel awel yr haf rhwng dail y dderwen—fel y wenol yn cadw ei "gwisg yn lân a chryno," er mor wisgi ac esgeulus fyddo'i ehediad. Cyneddf benodol y Gân ydyw ei bod yn fyw gan yni cerddorol, pa mor ddiofal bynag yr ydys wedi ei chynllunio y mae sain ei phenillion yn tueddu yn barhaus i droi yn ganu fel aderyn wrth redeg yn gyflym yn troi yn ddiarwybod braidd i hed fan. Y mae Caneuon ar unwaith, os yn Ganeuon dilys, yn hawlio perthynas à cherddoriaeth; ac os nad oes alawon yn barod iddynt, dilynant y meddwl i bobman, "gan guro amser i ddim" yn y dychymyg.[3]

Y mae Ceiriog wedi ysgrifenu yn fanwl a threfnus ar gyneddfau a swyddogaeth y Gân yn y Bardd a'r Cerddor: a phrin y mae eisiau ychwanegu dim at ei nodiadau. Ymddengys i mi fod ei awgrymiadau yn nghylch defnyddio "ychydig o Gynghanedd os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth "—yn nghylch "perseinedd y llinellau," a'r angenrheidrwydd am gyflead dillyn o'r llafariaid a'r cydseiniaid yn nghylch peidio gwthio "gormod o ddrychfeddyliau" i'r llinellau sydd i'w canu—ac yn nghylch "cadw'r pethau goreu yn olaf "—fod yr holl awgrymiadau hyn mor bwrpasol ag ydynt gywir. Ac wrth fanylu ar ei gynyrchion, ceir gweled ei fod nid yn unig yn hyddysg yn neddfau y Gân, ond hefyd yn fedrus i droi ei ddysgeidiaeth i amcanion ymarferol. Yr esboniad goreu ar ei awgrymiadau yw ei ganeuon ei hun.

Pennod 3.

CYN myned yn mhellach, y mae yn angenrheidiol aros enyd i olrhain y dylanwadau llenyddol fuont yn creu yr awydd a'r dalent yn meirdd yr oes ddiweddaf i ganu Caneuon. Nid oes damwain yn myd llenyddiaeth, fwy nag yn nghylchoedd eraill Rhagluniaeth Ddwyfol. Y mae mantell un cyfnod llenyddol yn disgyn ar gyfnod arall, newydd; ac y mae yn naturiol i orchest gyntaf y cyfnod newydd fod o'r un ansawdd a gorchest olaf yr hen gyfnod. Hollti yr Iorddonen oedd gwaith diweddaf mantell Elias; a gwaith cyntaf y fantell yn llaw Eliseus oedd hollti yr un afon. Arwrgerdd Dante oedd llais olaf crefydd y Canol-oesau, fel cân yr alarch wrth farw: arwrgerdd Milton oedd llais cyntaf duwinyddiaeth y cyfnod newydd.

Tua diwedd y ganrif ddiweddaf bu deffroad egniol yn mhlith llengarwyr Cymreig. Cyn y deffroad, yr oedd ein barddoniaeth foreuol yn drysor annghofiedig; a chwedloniaeth hudolus y Mabinogion mor anhysbys bron a gorphwysfan Arthur Fawr yn ogof Craig-y-Dinas. Ond wedi y deffroad, daeth llenorion ein gwlad i edmygu gwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd; a thryw hyny i gymdeithasu â symlrwydd a morwyndod Anian. Pa ddychymyg diwylliedig all gerdded cadfaes y Gododin yn nghwmni Aneurin, heb ddyfod i hoffi ieithwedd loyw, ddiaddurn y bardd? Pwy all wrando gyda Gwalchmai ar "fawr lafar adar" "chathl foddawg coed" neu wylio

Gwylain yn gware ar wely lliant,
Lleithrion eu pluawr,

—heb ddysgu bod yn gariadus at hyfrydedd a pheroriaeth Anian? Ac yn fyw byth, pwy all rodio meusydd gwanwynol y Mabinogion, neu ddilyn. darfelydd ramantus Dafydd ab Gwilym, heb i'w enaid ymgolli yn swyngyfaredd Anian? Diau mai ein llenyddiaeth foreuol fu un o'r dylanwadau mwyaf grymus i ysbrydoli barddoniaeth delynegol y ganrif bresenol.

Pan ysgrifenodd Lewis Morris ei gân i" Forwynion glân Meirionydd," dechreuodd gyfnod newydd o Ganeuon Cenedlaethol. Ychydig o ddim ond seiniau sychlyd a geir yn ngharolau Dafydd Jones, o Drefriw, a'r frawdoliaeth ddi-awen hono. Y mae y casgliad a gyhoeddwyd dan yr enw coeg-falch, Blodeugerdd Cymru, yn gofadail anfarwol i athrylith crachfeirdd. Gellid tybied mai gwaith yr oes oedd hela cydseiniaid, er mwyn gwneud llinellau doniol fel hyn—

Y liwgar olygus, gais seren gysurur,
Lon heini lân hoenus, a dawnus ar dw'.

Onid ydyw yn seingar?—ac yn feddal?

Y mae yr un trachwant am swn cynghaneddol yn blino Huw Morus a Twm o'r Nant—y maent yn foddlon i aberthu natur a synwyr ond iddynt gael y dinc ogoneddus. Yn hyn y mae Lewis Morris yn dangos dylanwad y cyfnod newydd. Nid yw yn gwrthod ychydig gynghanedd, "os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth." Ond yn ei ganu ef, yr ymgais gyntaf yw bod yn naturiol. Yr oedd ei gydnabyddiaeth â llenyddiaeth henafol ein cenedl wedi ei ddysgu i hoffi y syml, y nwyfns, a'r cryf.

Tra yr oedd Lewis Morris yn y Gogledd yn arwain y gwrthgiliad llenyddol o dir sychlyd y segurwyr cynghaneddol, yr oedd symudiad gyfochrog yn myned yn mlaen yn y Deheudir. Ni allasai caneuon tyner Wil Hopcyn, a bugeilgerddi Edward Richards—gyda'i "chediadau ysgafn a mirain, mor hoyw ag awel y rhosdir "—ni allasent lai nag enyn hoffder newydd at symlrwydd Anian. A phwy all fesur dylanwad yr Emynydd o Bantycelyn yn y cyfeiriad hwn? Siaradai ei emynau aith y werin, a chyrhaeddant galon y werin fel gwlith y nos yn disgyn ar y blodeu.

Fel hyn yr oedd cydgasgliad o ddylanwadau, yn enwedig tua diwedd y ganrif, yn arwain yr awen Gymreig i ddysgu canu ei thelyneg ar fin y nant fynyddig, dan gysgod murmurol y goedwig, ac ar ben y bryniau llonydd.

Ond heblaw y dylanwadau brodorol fuont yn addfedu y gyneddf delynegol yn ein gwlad, rhaid hefyd nodi y dylanwadau tramor—yn enwedig o ddwy ffynonell: Robert Burns yn yr Alban, a Béranger yn Ffrainc. Ganwyd y blaenaf ar lanau'r Doon, yn 1759; a'r olaf yn Paris yn 1780. "Yr oedd y ddau," medd Dr. Charles Mackay,[4] "yn fawr ac yn boblogaidd; a dylanwadodd y ddau yn ddwfn ar feddyliau cu cydwladwyr. * * * Yr oedd y ddau yn wladgarwyr, ac ysbrydolwyd hwynt gan adgof am wrhydri eu gwlad yn y gorphenol. Bron na ellir dweyd fod gorsedd ymherodrol Ffrainc yn gorphwys ar ysgwyddau Béranger, y fath oedd poblogrwydd ei ganeuon yn mhlith y werin a'r miloedd. Er mwyn boddloni y teimlad cenedlaethol pan fu farw, gorfu i'r "unben mwyaf mawreddog a lywiodd Ffrainc erioed" drefnu gos—gordd o gan' mil o wyr arfog i ddilyn ei arch. Nid cedd y bardd wedi codi byddin, nac wedi tynu cledd—dim ond wedi canu!

Am Burns—afraid yw siarad. Caiff Carlyle ei fesur yn ei iaith rymus, dymhestlog: "Pa le bynag y siaredir tafodiaith Seisnig, dechreuir deall, trwy arolygiaeth bersonol hwn a'r llall, mai un o'r Sacsoniaid mwyaf ystyrgar yn y ddeunawfed ganrif oedd gwladwr yn swydd Ayr o'r enw Robert Burns. * * * Darn o graig Harz, a'i syflaen yn nyfnderau y byd;—craig, ond fod ynddi ffynonau o diriondeb byw! Yr oedd rhuthrwynt gwyllt o nwyd a gallu yn cysgu yn dawel yno; a'r fath beroriaeth nefolaidd yn ei chalon. Diffuantrwydd garw pendefigaidd; cartrefol, gwladaidd, gonest; symledd didwyll cryfder; gyda'i fellt—dân, gyda'i dosturi gwlithog-dyner!"[5]

Bu ei awen yn ddeffroad cenedlaethol i'r Alban: ymdaenodd y dòn frwd i Loegr, i Ffrainc, ac i'r Almaen, heb annghofio "Cymru fechan, dlawd."

Wrth ddweyd fod Burns a Béranger wedi dylanwadu ar feirdd a barddoniaeth Gymreig, camsynied fyddai tybied mai yr hyn a feddylir yw fod ein beirdd wedi darllen eu cynyrchion. Y dylanwad a olygir yma yn benodol yw y brwdfrydedd cyfrin sydd yn cael ei drosglwyddo yn y byd llenyddol—mor dawel, mor guddiedig, mor ysbrydol ag adfywiad y gwanwyn. Ni chlywir llaw yn gweithio, na throed yn cerdded, nac aden yn ysgwyd yn y dolydd ac ar y llechwedd: ond yn ddwyfol ddistaw daw meillion Mai yn lle oerni Chwefror. Y mae pob bardd mawr, newydd, yn creu yni o'r fath: cerdda ei ysbryd yn mhellach na'i waith.

Ond yn y pwnc dan sylw, bu Béranger, ac yn enwedig Burns, yn adnabyddus i'n Beirdd yn uniongyrchol trwy eu gweithiau. Dywed Llyfrbryf fod Talhaiarn yn hollol gydnabyddus â chaneuon Béranger. Ac yn "Nyddiaduron Eben Fardd," o dan Tachwedd 28, 1858, ceir y cofnodiad canlynol:

ANFON barddoniaeth Ffrengig Béranger i fy anwyl James (sef i'w fab).[6]

Dengys hyn oll fod darllen ar Béranger wedi bod unwaith yn Nghymru.

Yr ydym yn awr mewn safle i dynu ein casgliadau fod y gyneddf a'r awydd i ysgrifenu caneuon Cymreig wedi eu hysbrydoli gan gydnab—yddiaeth â llenyddiaeth hynafol ein gwlad, a thrwy hyny â symledd Anian; ac fod y symudiad hwn wedi ei adgyfnerthu gan ddylanwadau tramor i ryw raddau. Un o blant, ac hefyd un o arweinwyr, y symudiad hwn oedd Ceiriog. Y mae hwn yn wirionedd ac yn egwyddor gyffredinol—fod plentyn athrylithgar pob symudiad mawr yn dyfod yn y diwedd i reoli y symudiad.

Ychydig o fudd sydd mewn prisiadau llenyddol. Y mae dweyd fod un athrylith yn fwy nag athrylith arall, yn dangos mwy o fympwy nag o farn. Pa le y saif Ceiriog, o'i gydmaru â Burns a Béranger, ni'm dawr. Nid oedd mor wreiddiol a Burns, act nid oedd mor danllyd a Béranger. Ond nid yw ei lyfnder a'i lendid yntau gan un o'r ddau. Dyfyrwch i Bérangor oedd goganu diweirdeb, a gwneud duw o serch halogedig. Nid yw Burns mor wynebgaled; ond, a dweyd y lleiaf, gwyddai yntau'r gofid o gysegru pechod. Ar y tir hwn, beth bynag, y mae Ceiriog yn "anrhydeddusach na'i frodyr." Nid yn fostfawr drahaus y dywedir hyn,. ond mewn diolchgarwch gwylaidd.

Pennod 4.

YN y flwyddyn 1564, ganwyd Shakspere yn swydd Warwick, ar lan yr Avon; yn swydd Warwick, ac ar lan yr Avon hefyd, yn mhen tua dwy ganrif ar ol hyny ganwyd bardd arall—Walter Savage Landor. Yn holl gylch llenyddiaeth Seisnig ni fu dau mor debyg o ran teithi eu meddwl, na dau mor fedrus i ddarllen cyfrinachau y natur ddynol. Wrth sylwi ar hyn, gofyna un beirniad llygadgraff —"Beth sydd yn awyr Warwick i gynyrchu y fath ddynion ?" Yn yr un teimlad y canodd Landor ei hun:

I drank of Avon too, a dangerous draught,
That roused within the feverish thirst of song.

Dyddorol yw sylwi hefyd fod amryw o emynwyr goreu Cymru wedi eu magu yn yr un ardal yn Nyffryn Tywy—Dafydd Jones o Gaio, Morgan Rhys, a Williams, Pantycelyn;[7] ac awdwr "O fryniau Caersalem ceir gweled" mewn cymydogaeth gyfagos, Beth sydd yn y dyffryn tlws-dawel hwnw ymgeleddu awen y Salmydd? ac ai dychymyg rhy nwyfus sydd yn sibrwd fod golygfeydd Dyffryn Tywy yn meddu llawer o debygolrwydd i ddyffryn Bethlehem a'r bryniau o'i amgylch, lle y dysgodd "peraidd ganiedydd Israel" edrych ar y nefoedd i ganmol gwaith bysedd yr Iôr? Nid myntumio, ond awgrymu, wnawn yn hyn o beth.

Y mae arbenigrwydd dylanwadau natur ar feddwl y bardd yn un o gyfrinachau y byd ysprydol. Gallwn ddyfalu ac awgrymu, ond nis gallwn roddi dadganiad sicr. Beth sydd yn nyfroedd yr Avon, neu yn nyffryn Tywy, nis gwyddom: ond dyna'r ffeithiau. Y mae yr un dirgelwch anianyddol yn ein cyfarfod wrth olrhain y dylanwadau fuont yn darparu awen Ceiriog i ganu caneuon ei wlad. Yn y dyffryn lle y ganwyd Huw Morus yn 1622, y ganwyd ac y magwyd Ceiriog ddwy ganrif yn ddiweddarach. Y mae Llyfrbryf a Llew Llwyfo yn manylu ar olygfeydd ardal ei enedigaeth. Dywed yr olaf "mai ychydig gymoedd sydd yn Nghymru lle y gall y llygad mewn can lleied o gylch, gael trem ar gymaint o amrywiaeth ffurfiau mewn golygfeydd, o'r gwyllt i'r prydferth, o'r mawreddog i'r swynol, o'r ' echrys ac uchrol ochrau ysgythrawg' i'r 'parthoedd ardaloedd deiliawg"[8] Tueddir un i ddywedyd fod y cwm bychan rhamantus, o dan gysgod y Berwyn, yn ddelweddiad prydferth o awen y ddau fardd. Nid arwrol yw awen Huw Morus na Cheiriog: nid oes ganddi olygfeydd llydain i'w dadlenu, nac uchelderau bythwynion yn codi uwchlaw'r cymylau i orphwys dan lasliw tragwyddol y nef. Ehediadau bychain, tyner, yw ehediadau awen y ddau; yn llawn o dlysni cartrefol, yn llawn o agosrwydd a hyfrydedd Anian. Gweddiodd Ceiriog am fod fel nant y mynydd, ac "fel yr awel efo'r grug": cafodd ei weddi ei hateb i'w awen.

Nant y mynydd groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O, na bawn i fel y nant!

Grug y mynydd yn eu blodeu,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg—
O na bawn fel 'deryn bach!

Dyna farddoniaeth Ceiriog: y mae ei feddyliau yn rhedeg mor loyw ac mor fywiog a'r nant fynyddig; y maent mor ddirodres ac mor anwyl i bawb a'r grug yn eu blodeu; ac y maent mor ddirwystr a'r aderyn yn awel y gwanwyn.

Heblaw agweddau naturiol ardal ei febyd, yr oedd iddi hefyd ei chofianau hanesyddol. Gan fod blaen Dyffryn Ceiriog yn rhedeg i diriogaeth Lloegr, bu yma lawer brwydr waedlyd yn ystod yr ymrafael hir rhwng y Saeson a'r Cymry. Tra y mae y rhan fwyaf o'r brwydrau hyny wedi myned yn annghof, y mae un frwydr yn aros eto ar gôf a chadw. Brwydr Maes Crogen oedd hono; lle yr enillodd Owen Gwynedd fuddugoliaeth benderfynol ar Harri II., yn 1165. Diau i'r hanes gael ei adrodd lawer gwaith i Ceiriog yn ei faboed, yn nghydag aml draddodiad cynhyrfus am gampau milwrol ei gyndeidiau. Y mae yspryd yr oesau gynt yn fyw yn ei ganeuon, ond fod dialgarwch yr ysbryd hwnw wedi ei liniaru gan deimlad mwy dynol yr oesau diweddar.

Y mae ei farddoniaeth wedi ei phrydferthu yn fynych âg adlewyrchiadau tyner o olygfeydd a phrofiadau boreu oes. Y mae Burns wedi ysgrifenu ei gofiant yn ei ganeuon—a chofiant gofidus ddigon ydyw y mae creithiau ei fywyd yn aros yno byth. Wrth ddodi y geiriau canlynol yn ngenau y ferch ieuanc dwylledig ar lanau'r Doon,—

Wi' lightsome heart I pu'd a rose,
Fu' sweet upon its thorny tree:
But my fause lover stole my rose,
And, ah! he left the thorn wi' me;—

yr oedd yn adrodd ei hanes torcalonus ei hun. Tynodd yntau y rhosyn gwaharddedig; a dihunodd un diwrnod â dim ond draen chwerw yn ei law. Bywyd mwy tawel fu bywyd Ceiriog; ac mewn canlyniad tawel yw y profiadau cofianol a geir yn ei ganeuon, oddieithr pan rodia ei awen yn alarus ar faes y gwaed.

Pe byddai eisiau rhywbeth i brofi mor agos at ei galon oedd adgofion boreu oes, y mae y prawf wedi ei gael yn y ffaith fod y lle cyntaf yn ei lyfr cyntaf wedi ei roddi i gartref ei ieuenctyd. "Wrth dalcen y tŷ," medd Llyfrbryf, "rhed afonig fechan ar hyd ymyl y ffordd sydd yn arwain i fynu i'r wlad; ac ar fin y ffrwd hono y mae'r Gareg Wen'" sydd wedi rhoddi enw i'r gân. Wrth gofio hyn, y mae y penill syml hwn yn enill dyddordeb newydd:—

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan
Lle syrthia dros y dibyn bàn,
A choed afalau ar y làn,
Yn edrych ar y lli.


Ac yno cawn ddifyr ddilyn y llanc diofalon ar foreu o wanwyn, wedi'r cawodydd maethlon, yn crogi" pin plygedig " yn fâch wrth edau lin,—i fod yn ddiau yn fwy o ddigrifwch nac o alanas i'r pysgod. Ac er i lwybr bywyd ei arwain ar grwydriadau pell—

Wyf wrth y Gareg Wen o hyd,
A'r nant sydd yn fy nghlyw.

Credwn mai teimlad dwfn sydd yn siarad yn y geiriau, ac nid dychymyg chwareus. Yr oedd dyfroedd y gornant wedi bedyddio ei awen ieuanc, a chysgodau heulog bryniau Berwyn wedi dyfod i gartrefu yn ei feddwl. Nis gallodd dwndwr y dref na thrafferthion bywyd yru murmur y nant o'i enaid. I ddangos mai dwysder teimlad sydd yn canu, y mae yn y ddau benil olaf yn cysegru adgof mebyd yn ymyl ei fedd ei hun:—

'Rol gado "gwlad y cystudd mawr,"
Os byw fy enw haner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
Ond Bardd y Gareg Wen.

Os y gornant a'r "gareg wen" sydd yn sirioli ei gân gyntaf, yn ei lyfr cyntaf, ni raid troi ond ychydig ddalenau cyn ei gael yn dringo llethrau'r Berwyn yn nghwmni Owain Wyn. Mor rhydd oddiwrth fydolrwydd yw ei awen, ac mor ysgafn y cerdda ar hyd y bryniau:—

Weithiau tan y creigiau certh,
Yn nghanol y mynyddoedd,
Dim i'w wel'd ond creigiau serth,
A thyner lesni'r nefoedd;
Yna dringo pen y bryn,
Hyd risiau craig ddaneddog;
Gwel'd y nant, y cwm, a'r glyn,
Y ddol, y gors, a'r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau—
Bedd yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o'n tadau.


Ni ellir byth dalu yr awen am ddarlun mor swynol. Ond, o ran hyny, nid oes arni eisiau tâl; y mae ei naturioldeb ei hun yn ei thalu. Ar ol deugain gauaf brigwyn," arweinir ni eilwaith "ryw noson ddystaw oer" dros y Berwyn, i glywed Owain Wyn arall yn canu:

Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd yn nghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
Wyliant uwch eu penau'n fud.

Ac ar ddiwedd y gân, y mae y bardd yn ei hwyl yn tori allan, "Mynyddau'r hen Ferwyn i mi!"

Un o deithi yr athrylith Geltig yw anwyldeb at Natur yn ei hagweddau lleol, yn hytrach nag yn ei hymddangosiadau cyffredinol. Yn marddoniaeth Groeg cyffredinolrwydd Natur a adlewyrchir fynychaf—yr haul, y nos, y wawr, yr wybren. Ond mwy dymunol i awen y Celt yw gwylio yr haul, y wawr, a'r nos ar fryn neu fro gynefin.

Nos dywell yn dystewi—caddug
Yn cuddio'r Eryri,

medd Gwallter Mechain.

Lliw eiry cynar pen Aran,

medd Hywel ap Einion, bardd—gariad Myfanwy, yn ei awdl iddi,

Ar uchaf gopa Berwyn bàn
Dydd newydd rodd ei droed,

medd Ceiriog.


Gellir dilyn yr un elfen yn ngherddi yr holl gymrodoriaeth Geltig. Yn ei ddarlithiau ar a barddoniaeth Ucheldiroedd yr Alban, geilw y diweddar Brifathraw Shairp sylw fwy nag unwaith at hyn. Wrth son am Donacha Ban neu Oran—a elwir yn aml yn Burns yr Ucheldiroedd a'i gân adnabyddus i "Ben Doran," dywed y Prifathraw—"Y mae y bardd gyda'r manylder mwyaf cariadus, yn sylwi ar nodweddion amrywiol ac agweddau byth-newidiol y mynydd, yr hwn a gerid ganddo fel pe byddai yn greadur byw ac yn gyfaill."[9]. Daw yr un teimlad ardalgar i'r golwg yn un o'r caneuon hynaf yn nhafodiaith y Gael—y gân ar alar Deirdre.[10] Gorfodid Deirdre trwy drais i adael gwlad ei serch: ac y mae y gân wedi ei gosod yn ei genau i draethu gofid ei chalon wrth gefnu ar un glyn ar ol y llall—Glyn Massan, gyda'i "lysiau uchel a'i ganghenau teg"—Glyn Etive, "lle codwyd fy nghartief boreuol: hardd yw ei goed pan gyfyd yr haul "—Glyn Urchay—Glendaruadh, "mwyn yw llais y gog ar y ganghen grymedig "—a Draighen: "anwyl yw Draighen a'i draeth soniarus, anwyl yw llif ei ddyfroedd dros y tywod gloyw"

Eto, i groesi am enyd i diriogaeth Geltig arall, wrth sylwi ar ganeuon un o chanseurs poblogaidd Ffrainc oedd wedi ei eni yn Llydaw, dywed cyfieithydd hyddysg mai y teimlad amlycaf sydd yn rhedeg trwy ei ganeuon yw yr hiraeth a deimlir gan wladwr, wedi dyfod i fyw i'r dref, am fwynderau ei gartref genedigol; ac mai y cartref hwnw bron yn ddyeithriad ydyw Llydaw."

Y Celt yn Ucheldiroedd yr Alban—y Celt yn Llydaw—y Celt yn Ngwalia: yr un ydynt i garu. golygfeydd mebyd, i edmygu Anian yn ei phrydferthwch lleol. Donacha Ban wrth droed Ben Doran, a Cheiriog wrth odreu'r Berwyn—yr un gwlith cysegredig sydd yn disgyn ar awen y ddau.

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt:
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megys cynt.

Tra parhao awen y Celt, erys cân ar y bryniau.

Pennod 5.

YN nechreu y flwyddyn 1849, gadawodd Ceiriog gartref ei rieni a gwlad ei serch, er mwyn "dysgu byw" yn Manceinion; ac yno y bu am yn agos i ugain mlynedd. Dyma ddylanwad gwahanol iawn i ddylanwad y Berwyn a dyffryn Ceiriog ac ysbrydoliaeth Huw Morus. Dichon na ddaethai mor hoff o symledd a hudoliaeth Natur, onibai iddo fod mor hir o olwg y bryniau. Nid wrth syllu yn ngwyneb y prydferth y mae y bardd yn breuddwydio ei freuddwydion goreu; ond wrth ddal y prydferth yn ngoleuni dwys-dyner Adgof. Mewn adfyfyrdod y tynai Wordsworth ei ddarluniau rhyfedd o olygfeydd mynydd-lynau Cumbria. A diau i'r un ddeddf reoli dychymyg Ceiriog:

Ffurfafen bell yw mebyd oes—

meddai yn nghân y "Gareg Wen:" ac am ei bod mor bell, yr oedd mor swynol, mor swyngyfareddol. Yn mynwes hiraeth y mae yr Awen wedi breuddwydio lawer gwaith, ac ar wefus hiraeth y clywodd hi gyntaf lawer mabinogi ddyddanus.

Bu aros cyhyd yn ninas Manceinion yn foddion i lydanu profiadau bywyd iddo. Daeth i ganol cymrodoriaeth lenyddol Gymreig. "Yn eu mysg," medd Llyfrbryf, "yr oedd Creuddynfab, R. J. Derfel, Pedr Mostyn, Idris Fychan, Parch O. Jones (Meudwy Môn), Mr. J. Francis (Mesuronydd), Gwilym Elen, Tanad, ac eraill." I ddyn ieuanc llengar yr oedd cymdeithion a dysgawdwyr o'r fath yn bobpeth braidd: a phwy all ddweyd ei ddyled iddynt?

Pan gychwynwyd Baner Cymru yn 1857, daeth ef yn fuan i gysylltiad â hi fel gohebydd. Yn hyn o beth, y mae sylwadau Llyfrbryf, mi dybiaf, yn tueddu i fod yn gamarweiniol. Am rai blynyddau ni wnaeth ond gyru ambell gofnod o Fanceinion yn nghylch symudiadau Cymreig. Wrth chwilio ôl-rifynau y Faner ni welsom ei fod wedi cael safle fel "Gohebydd Manchester," yn benodol iddo'i hun, hyd Ionawr 20, 1864.

Am y rhan fwyaf o'r gohebiaethau hyn, cofnodion. ydynt o helyntion Cymreig y ddinas (y "dref," y pryd hwnw). Y mae ambell un ohonynt yn nodweddiadol iawn; fel y dengys y dyfyniad canlynol o hanes cyfarfod llenyddol, a roddir yn y rhifyn am Hydref 13. 1858—cyfarfod yn mha un y chwareuid yr hen delyn Gymreig, ac y darllenwyd Rhiangerdd Fuddugol Llangollen:—

GAN fod y delyn a gweinidogion crefyddol y dref ar yr un esgyn—lawr, crewyd ychydig syndod mewn rhai conglau culion o'r dref. Barnai rhai bodau a breswylient yr heolydd hyny fod y byd crefyddol ar gael ei hyrddio i anfri tragwyddol gan y delyn. Y mae yn dda genyf hysbysu, modd bynag, na chymerodd dim damwain le; ond fe gymodwyd â'r delyn yn lew. Credaf fod yr hen offeryn gwladol i esgyn eto i'w fri cyntefig yn bur a dihalog oddiwrth yr awyr ddrygsawrus yn mha un y chwareuodd ei alawon yn ystod y blynyddoedd diweddaf—ac yr ydym yn hyderu y daw yr oes ddyfodol gyda gwell chwaeth i gyffwrdd ar ei thanau soniarus.

Yn olynol ceir darn o gân a ddarllenwyd i'r delyn yn y cyfarfod, o waith Ceiriog ei hun. Y mae dau ddyfyniad yn ddigon i ddangos fod Ceiriog yn y gân:

Fel dŵr y nant yn gloewi ei hun
Mewn murmur-gerdd—'run fath mae dyn
Mewn miwsig yn ymburo.
****
Yn sŵn y bagpipe grâs ei nâd
Fe gofia'r Scotchman am ei wlad,
Ei fam, a'i dad, a'i deulu;
Gadewch i'r Nigger fyn'd o'i go',
A dawnsio hefyd os myn o
Wrth ryngu ar ei hoff banjo:
Oes neb mor ddwbwl ddwl na âd
I Gymro hefyd, hoff o'i wlad,
Gael tôn ar delyn Cymru!

Wedi iddo gael ei urddo yn "Ohebydd Manchester," yr oedd ei gofnodion wythnosol, o angenrheidrwydd, yn fwy cyffredinol: ac o gymaint a hyny yn llai nodweddiadol. Yn gyfochrog âg ef yn ystod y blynyddau hyny yr oedd llythyrau Y GOHEBYDD. Ni welodd Cymru erioed ohebydd fel hwnw; ac y mae troi o'i ohebiaethau ef, hyd yn nod i ohebiaethau llenor fel Ceiriog, yn annyoddefol o ddiflas.

Yn wir, colled i Ceiriog fu ei lenyddiaeth newyddiadurol. Prin y gall un llenor droi yn newyddiadurwr (journalist), heb beryglu ei lenoriaeth. Gwaith un yw creu difyrwch undydd, neu ddefnydd siarad am wythnos; ond gwaith y llall yw creu pleser oes —ie, oesau. Priodol i un fod yn ysgafn, yn lleol; i ddilyn helynt y fynud, i siarad iaith gyffredin y dydd rhaid i'r llall fod yn bwysig hyd yn nod yn ei ddifyrwch, rhaid iddo godi uwchlaw helyntion cymydogaeth; rhaid iddo ddilyn helynt anfarwol Amser; rhaid iddo siarad yr iaith sydd yn gynefin i bob oes. Pan y mae y llenor yn cyffwrdd â phethau lleol a therfynol, y mae yn rhoddi iddynt agwedd ddifesur. Ysgrifenodd Milton bamphled ar ryddid y wasg—Areopagitica—ar gyfer ei oes: ond gwaith llenor ydoedd; ac y mae y pamphled hwnw heddyw yn anrhydeddus mewn llenyddiaeth Seisnig.

Gwn fod mwy nag un farn yn nghylch cynyrchion newyddiadurol Ceiriog—yn enwedig y gyfran ohonynt sydd wedi eu henwi yn ol Meurig Grynswth. Eu bod yn fywiog ac yn finiog, ni ddymunwn wrth-ddywedyd. Ond creadigaethau undydd oeddent; ac fel y cyfryw, dylent fod wedi eu cadw o'i lyfrau. Pa fardd Seisnig a freuddwydiai am lusgo y fath dryblith i lyfrau o'i farddoniaeth?

Ac yn yr agwedd hon y meiddiwn gyhoeddi fod yr elfen newyddiadurol wedi gwneuthur mwy of niwed nac o les i awen Ceiriog. Y mae ansoddau ei feddwl, dan amgylchiadau ffafriol, mor ddillyn ac mor dyner nes yw yn boenus ei weled ar lwybrau llai clodfawr.

Cydmarer, er engraipht, ei gerdd dychan i "Tom Bowdwr," â'i rialtwch prydyddol ar "Evan Benwan." Y mae difyrwch yn y ddwy, a llawer o watwareg. Ond gwaith llenor, a gwatwareg llenor, sydd yn y duchangerdd i'r herwheliwr: gohebiaeth newyddiadurol yw yr ail, heb ynddi fawr ddim o'r llenor. Cydmarer drachefn ddigrif-chwareu y clecwragedd "Pobol Tŷ Nesaf"—â'r hanesgerdd gyffrous ar "Garnfradwyr ein Gwlad "; a gwelir yn eglurach fyth y gwahaniaeth hanfodol rhwng llenyddiaeth. goethedig a newyddiaduriaeth. Nid Ceiriog yw y cyntaf, ac nid efe yw yr olaf, a dorodd dros derfynau breintiedig y llenor, ac a aeth ar gyfeiliorn yn mysg rhithiau haner-llenyddol y dydd. Y mae yr anfarwol yn rhy fawrfrydig i wisgo lliw diwrnod bychan, buan.

Pennod 6.

Y MAE y syniad ar led mai Burns a grëodd ganeuon yr Alban: "Ond," medd un o'i edmygwyr mwyaf calonog, "byddai yn llawer nes i'r gwirionedd i ddweyd mai caneuon yr Alban a greasant Burns, ac mai ynddo ef y cyrhaeddasant eu huchelnod. Ganwyd ef ar awr hapus i fardd-gerddor cenedlaethol: tu cefn iddo yr oedd canrifoedd o ganu, ac anadlodd awyr o beroriaeth o'i febyd."[11] Byddai sylw cyffelyb yr un mor wir am Ceiriog. "Hen alawon" ei wlad oeddent yr afonydd gloywon, llyfndeg, lle y cafodd ei ganeuon le i hafaidd-nofio. Heb yr hen alawon byddai amryw o'i ganeuon yn debyg i gychod nwyfus yn gorwedd yn segur ar y glanau, a'u hestyll yn hollti yn ngwres yr haul. Y mae y gwirionedd cyflawn, fel arfer, yn ddyblyg: ar un llaw, i alawon poblogaidd Cymru greu caneuon Ceiriog; ac ar y llaw arall, i ganeuon Ceiriog roddi ail-fywyd i'r hen alawon Cymreig.

I'r neb a adwaenai Ceiriog nid oes eisiau siarad am ei hoffder o gerddoriaeth ei wlad. Yr oedd, fel y sylwa Llew Llwyfo, yn fwy o gerdd-garwr nag o gerddor: gwyddai fwy am "gerddoriaeth natur" a "cherddoriaeth y galon" nag a wyddai am gerddoriaeth fel celfyddyd.[12] Yr oedd ei ysbryd fel telyn fyth-furmurol wedi ei chrogi ar gangau yr ywen uwchben yr oesau gynt, ac awelon araf y cynfyd yn cyffwrdd â'r tanau hyfrydsain foreu a hwyr. Yr oedd o hyd yn "hymio rhyw hen dôn" wrtho ei hun, nes yr oedd wedi deall ei chyfrinach gysegredig. Nid oes un esboniad fel esboniad serch—esboniad y galon gariadus mewn cydymdeimlad pur. Wedi syrthio mewn cariad â'r alaw, wedi ei henill mewn ystyr yn eiddo iddo ei hun, y dechreuai ysgrifenu geiriau iddi.

Cerddi Cymru sydd yn byw
Trwy'r blynyddau yn ein clyw:
Sibrwd ein halawon gynt
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen dônau pur ein gwlad:
****
Ac mae clust y Cymro'n gwneud
I'r gre'digaeth oll eu dweyd.

"Sibrwd ein halawon gynt" wnaeth yntau, nes dysgu gwlad i'w canu.

Byddai yn ormod disgwyl iddo lwyddo bob tro: ond nid yw'r eithriadau prin yn gwneud mwy na dangos cryfder ei lwyddiant. Pa fodd y gollyngodd linellau fel hyn o'i afael ar Godiad yr Haul, nis gallwn ddeall:—

Gwêl, gwêl! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele'r Haul trwy gwmwl rhudd
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I'w wydd adar a ddônt,
Dreigiau'r Nos o'i olwg a ffont.
Pwy dd'wed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y môr yn gochfor gwaed,
A'r ddaear dry o dan ei draed.'[13]


Nid oes dim, yn holl arweddau Natur, mor ryfeddol ddidwrf â chodiad a machludiad haul. Beth wnaeth i'r bardd ddefnyddio geiriau a brawddegau mor drystfawr? Y mae dwndwr yr "hollti" a'r "tywallt," dreigiau'r nos ar ffô, gwychedd y "gwyn-freichiau," a'r "cochfor gwaed," yn annaturioli'r olygfa sanctaidd. Nid yr un geiriau sydd ganddo i'r alaw yn y Songs of Wales: y mae y rhai hyny mor brydferth ag ydyw y rhai uchod o anferth. Mor esmwyth ac mor ddirwystr yw llif y llinellau hyn:—

Haul, haul, araul ei rudd,
A gwawl boreuawl dwyfawl Dydd,
Mae'n d'od, mae'n d'od yn goch ei liw,
Shecinah sanctaidd Anian yw,
Yn troi trwy ymherodraeth Duw!
Mil o sêr o'i gylch
Sy'n canu megys adar mân;
Toddant yn ei wyneb
Ac ymguddiant ar wahân:
Try'r wylaidd loer o'i ŵydd yn awr,—
Mae'n d'od, mae n d'od ar donau'r wawr
Fel Llong o'r Tragwyddoldeb mawr!

Y mae urddasolrwydd gwir athrylith yn y ddwy linell olaf y maent yn rhy fawr i fod yn drystfawr.

Camsyniad mynych wrth ysgrifenu cân yw gosod ynddi ormod o feddwl, neu feddwl rhy ddyeithr. Barnwn i Ceiriog syrthio unwaith neu ddwy i'r camsyniad hwn; ond yma eto y mae prinder yr eithriadau yn dangos mor fawr oedd ei lwyddiant. Diamheu mai amryfusedd oedd iddo roddi geiriau mor gyfriniol i alaw mor hedegog ag "Ar hyd y Nos." Wrth ddilyn seiniau chwareugar a symudiadau sionc yr alaw, nid oes hamdden na thuedd i feddwl fod "amrantau'r sêr" yn dywedyd mai

Goleu arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch.


Y mae y syniad yn creu cynhwrf o ofyniadau dyrys yn y meddwl: ac y mae hyny yn dinystrio'r gân—fel cân. Mwy cynefin a mwy dymunol yw genym fyned at Islwyn i ddysgu cyfrinachau ysbrydol y nos;—ac nid mewn cân ddèl ar alaw adnabyddus y cymer efe arno i'n dysgu, ond mewn mesurau ufudd, rhyddfreiniol—ambell waith heb odl na mesur—fel syrthiad seren yn sydyn o'r nwyfre, fel awelon amlsain yr hwyr yn ngwyrddlesni y goedwig.

Dichon fod yr un bai yn ei eiriau ar "Serch Hudol;" yn enwedig y llinellau hyn:

Serch hudol yw
Pob peth sy'n byw,
Yn y nef a daear Duw:
O'r haul sy'n llosgi fry—
I'r pryfyn tân yr hwn a roed,
I rodio'r clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybr troed
Syn arwain i dy dŷ.

Fel syniad barddonol a chrefyddol, y mae yr uchod yn hollol ddidramgwydd; ond nid yn ddigon llithrig mewn cân—yn enwedig pan yw yr alaw yn llawn o nwyf pryderus serch ieuanc.

Ail-ddywedwn yr hyn a ddywedasom eisoes, ein bod yn nodi yr eithriadau hyn am mai eithriadau ydynt. Byddai rhoddi engreiphtiau o'i hapusrwydd —o gydnawsedd geiriau âg ysbryd yr alaw—yn gofyn i ni roddi bron yr oll o'i ganeuon. Gellid dangos, mewn engraipht ar ol engraipht, fel y mae y gân a'r alaw ar adegau yn llwyr doddi i'w gilydd. Ymfoddloner ar ychydig ddewision.

Yn yr alaw a elwir "Codiad yr Hedydd" ceir y frawddeg ganlynol, a'i eiriau yntau yn y frawddeg:

Ynnes at Ddydd, yn nes at Dduw, Ify-nufel e-fe.

Y mae peroriaeth y cerddor a chân y bardd yn esgyn gyda'u gilydd—fel ar aden esmwyth, fyth ieuanc yr ehedydd—yn esgyn yn ddewrgalon i fynu (ar y nodyn E), nes ymgolli mewn Dydd a Duw.

Yr un modd yn y frawddeg adnabyddus o "Ryfelgyrch Gwŷr Harlech

(a) Ar i'r dewr-ion ddod i DAR-OUn waith et-o'nun
(b) An ni-byniaeth sydd yn GAL-WAr ei dewr-afddyn.
(c) We-le fan-er Gwal ia'i FY-NU—RHYDD-ID AIFF AHI!
(d) Dyn-a'rfan lle plyg ei glin-iau—Ar-glwydd ca-dwhi!

O'r pedair engraipht uchod, y mae y dair flaenaf yn hapus yn mhob ystyr—y drydedd yn neillduol felly. Y mae y geiriau taro—galw—fynu ar y nodau esgynol (D: G), fel swn goruchafiaeth ynddynt eu hunain; a theimlir yn ddios fod rhyddid yn "myn'd â hi." Ond, fel y mae'r " calla'n colli weithiau:" nis gallai dim fod yn fwy anhapus na'r "plygu gliniau" yn y bedwaredd engraipht—ar yr un nodau herfeiddiol. Nid yw gwyleidd-dra addoli yn agos i'r fath frawddeg rwysgfawr.

O ran tynerwch perorol a barddonol, nis gwn am ddim i ragori ar ddiweddglo "Ymdaith y Mwnc:"—

Ac iaith ei gyn dad-au yniach ac ynfyw

Y mae y geiriau—"iach ac yn fyw"—yn cario effaith wefreiddiol ar yr F ddisgynol a'r D unsain.

Pe gofynid am gynrychiolaeth o awen Ceiriog mewn tair cân, dewisem "Yr Eneth Ddall," "Y March a'r Gwddw Brith," a "Morfa Rhuddlan." Yr ydym yn dewis y gyntaf am ei symlrwydd a'i Phrudd-dynerwch yr ail am ei dyeithredd, y swn rhamantus, fel adlais hen Fabinogi odidog sydd ynddi; a'r olaf am ei grymusder awenyddol. mae annhraethol boen mewn llinell fel hon—

Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion!

Y mae ei dwysder mor aruthr: pwy all ei chanu? hyd yn nod ar alaw pruddglwyfus "Morfa Rhuddlan?"

Pennod 7.

Y MAE y sylwadau ar gyfaddasder ei eiriau i'r beroriaeth yn ein harwain yn naturiol i wneud dau neu dri o nodiadau yn fwy cyffredinol ar saernïaeth ei ganeuon a'r rhanau eraill o'i farddoniaeth.

Fel cynghaneddwr, yr oedd yn esmwyth yn hytrach na chryf. Yn ei englynion i'r "Daran," er engraipht, esmwythder yn fwy na chryfder y llinellau isod sydd yn ein swyno:—

A Hwnw ddaeth ei hunan
I'n byd du mewn enbyd dân.
I lef Iôn mae elfenau
Nefoedd oll yn ufuddhau.

A phob pig trwy'r goedwig gân
I'r Duw a yrai'r daran.

Gellid yn hawdd ddethol tusw o gwpledau yr un mor hapus o "Gywydd Llanidloes;" ond gwna hyn y tro:

Onid hoff ar ddiwrnod ha',
Adar yn eisteddfoda!
Ac ar hîndeg yn gwrando
Onid hardd gweld 'deryn tô!
Rhyw grwtyn byr o gritig,
Yw ef yn nghyngerdd y wig.
****
Clec o gyffyrddiad y clo,
I'r buandroed ry'r bendro.


Ysgrifenodd Ceiriog awdl ar y "Môr" ar gyfer Eisteddfod Caerlleon, 1866, ac un arall ar "Elen Llwyddawg" ar gyfer Eisteddfod Gwrecsam, 1876. Da iddo na adawodd i'r gynghanedd fyned â'i fryd yn ormodol. Nid am nad yw ei awdlau yn dangos llawer o bertrwydd ac o yni; ond nid ydynt yn hawlio iddo y safle yn mysg cynghaneddwyr ag y mae ei delynegion yn hawlio iddo yn mysg beirdd. Gwelsom ddigon o awdlau gan feirdd ailraddol, ydynt lawn mor ddeheuig ac mor rymus a'i ddwy awdl ef. Yn sicr, nid yw yn nemawr o anmharch i'r ddau gadeirfardd i ddweyd fod Ceiriog wedi cael ei guro ganddynt, nid am eu bod yn well beirdd nag ef, ond am eu bod yn rhagorach cynghaneddwyr. Yr oedd awen Ceiriog mor hoff o un llwybr, ac mor gartrefol ar hwnw, fel y teimlai yn ddyeithr allan o'i hamgylchoedd arferol. Ei swyddogaeth gysegredig hi oedd gweini yn nheml cerddoriaeth. Canai yno, am na allai beidio: canai ar gynghanedd wrth orchymyn.

Felly dywedwn nad cynghaneddwr swyddogol o urdd Dafydd ab Edmwnd oedd Ceiriog. Damweiniol, mewn ystyr, oedd cynghanedd i'w waith arbenig; ac fel peth damweiniol yr edrychai yntau arni. Defnyddiai hi yn ddoeth ac yn rhyddfrydig yn ei ganeuon; ac y mae hyn yn dyfnhau eu Cymreigrwydd, heb wanychu eu syniadaeth.

Nis gwn am engraipht bertach o'i ddawn ar nyddu llinellau cynghaneddol na'i ddyri ar "Tan y Tant:"

Iaith fy mam, 'rwyf fi am
Ganu dy geinion,
Canu heirdd geinciau beirdd
Gwalia o galon:
Cadw gwyl, gyda hwyl
Deilwng o'r delyn:
Dyma'r tant—plant fy mhlant
Ddaliant i'w ddilyn.


Tewyn gwyn tán y gerdd,
Enyn dy hunan;
A bydd byw yn mhob bwth,
Palas a chaban;
Yn dy rym a dy wrês
Drygfyd ni thrigfan;
Llwm yw'r tŷ lle mae'r tân
Wedi myn'd allan.

Dyna ddawnsio go dda, a'r llinyn mor fyr!

Nid yw y pwnc mor bwysig ag i hawlio rhagor o drafodaeth. Teimlem fod angen cyfeirio at hyn, am fod tuedd mewn barddoniaeth Gymreig ddiweddar i ddiystyru perseinedd wrth ryfela â'r gynghanedd freintiedig. Y mae y Celt mor dueddol o redeg i eithafion, fel y mae eisiau ei adgofio yn barhaus o'r pethau da sydd ar ganol y ffordd.

Y mae Ceiriog wedi llithro ambell waith i'r bai o ddiweddu llinell yn wan:—

Peidiwch a sôn am farw,
Peidiwch a meddwl am'
I ch plentyn fyw—


Ai Esgob Ely, ynte Norfolk sy'n
Ysgyrnygu—ynte Iarll Bohun


Suo mae awelon
Hwyrddydd haf ym mysg
Coedydd.

Aroglai flodeu'r ddaear,
Ond nis adwaenai'r fún
Mo wên yr haul.

Wrth ganu, diau fod brychau distadl o'r fath yn gwneud peth niwed. Ond pan gofiom mai Shakspere yw y pechadur mwyaf mewn diweddebau egwan, gwelir fod ychydig droseddiadau Ceiriog mewn cwmni anrhydeddus.

Fel yr ydys wedi sylwi yn ein nodiadau ar gyfaddasder ei eiriau i'r alawon, yr oedd ganddo fedr neillduol i ddeall teithi mesur. Prin y credwn iddo wneud un camsyniad pwysig ond yn chwareu- gerdd "Syr Rhys ap Tomos." Yr ydym wedi methu yn lân cael na threfn na pheroriaeth o'r mesur di-odl yn yr ail a'r drydedd ran o'r gerdd. Er engraipht—

O Leuad, leuad wen! ychydig ŵyr
Y sawl edrycho ar dy wyneb crwn,
Yn absenoldeb goleuni r haul,
Y golygfeydd amrywiol weli di,
Wrth wylio trosom gyda'th fyrddiwn sêr!
Ti a welaist ornest rhwng tad a thad,
Ac oer-dywynaist ar eu cleddyfau hwy,
Pan gyd-ollyngent ddefnynau gwaed.

Y mae tair o gyhydeddau gwahanol yn y dyfyniad uchod—y draws, y wen, a'r laes. Ac hyd yn nod mewn llinellau gogyhyd, y mae y corfaniad mor anystwyth ac mor wamal, nes na wneir dim ohono yn nhafol y beirdd. Feallai mai cynyg rhywbeth newydd yr oedd y bardd, ac i'r cynyg am unwaith fradychu ei gelfyddyd. Y mae bron bod yn ddeddf yn y byd barddonol i fardd—yn enwedig os bydd yn hyfedr ar fesurau—wneud rhyw gynyg, a methu, fel pe byddai am unwaith yn gorweithio ei dalent, nes ei hanafu. Yn mhlith y beirdd Seisnig diweddar saif Tennyson a Longfellow fel y ddau arwr mydrol y mae amlder a pherseinedd eu mesurau bron yn ddiddiwedd. Ond gwyddant hwythau yn brofiadol beth yw cynyg a methu. Gall yr aden fwyaf grymus hedfan unwaith yn rhy falch.

Feallai mai am fod Ceiriog yn naturiol mor gelfydd, y methodd wrth dreio mesur mor ddi—ffurf. Y mae yr hwn sydd yn arfer ei hun i reolau a ffurfiau yn fwy rhydd ynddynt nag hebddynt y mae ei gadwyn yn dyfod yn rhan o'i gryfder. Y mae Ceiriog yn mhob man yn profi ei hoffder o saerniaeth ddillyn. Nis gwn am un prif—fardd Cym—reig—oddieithr Islwyn, fe ddichon—wedi gwneud cymaint o ddefnydd o'r odl ddwysill, a Cheiriog: a hyny yn fwyaf penodol yn yr Oriau Eraill. Er engraipht, yn "Syr Rhys ap Tomos," ceir y bardd fel yn dial arno ei hun am fod yn rhy afreolus mewn un rhan o'r gerdd, trwy fod yn orgywrain mewn rhan arall. Y mae'r ail benill o "Gadlef Morganwg" yn cadw'r odl yn ddwysill drwyddo, lle mae'r gair terfynol yn fwy nag unsill. Dyma'r terfynebau:—caledu, lledu; baner, haner; dreigiau, creigiau.

Ni bydd Sais i'w goffa
Rhyngom a Chlawdd Offa—
meddai yn "Y Gadlef Gymreig."
Cyfodwyd blaidd, yw'r ddo!ef,
Mae'r corgwn ar ei ol ef,
A'r gwaedgwn ar ei ol ef—

meddai, yn yr hel-gân" Mae Bleiddiad yn y Llwyn," gan ddilyn tric bychan deheuig o eiddo'r beirdd Seisnig. Ond fel gyda'r gynghanedd, felly gyda'r odl ddwysill; defnyddir hi yn ddamweiniol ac o wirfodd, yn hytrach nag yn orfodol. Y mae yn ddyddorol i sylwi hefyd, mai yn ei dri llyfr diweddaraf y ceir hi amlaf: sef yr Oriau Ereill, Oriau'r Haf, a'r Oriau Olaf. Y mae gan hyny yn debygol mai yn ddiweddar yn ei oes y syrthiodd mewn cariad â hi; ac iddi ddyfod, fel pobpeth a gerir yn hwyr, yn ffurfiaeth (mannerism) ganddo. Sylwer ar rai o'r odlau chwareus a geir yn yr Oriau Olaf:—

Digrif, digrif, onide? dau fab brenin
Yn rhoi halen yn eu tê, ac yn bwyta—bwyta cenin?
Pysgodyn aur wyf fi, a buan cei fi
Ond taflu pluen arian ar làn yr afon Teifi.
Er taflu coch-y-bonddu,
A gwybed Aberhonddu.

Yn wir, prin y mae cân heb un neu ddau gynyg ar odl ddwysill: tra y ceir rhai caneuon—megys "Evan Benwan yn Eisteddfod Lerpwl," "Ni bu Marw Un," "Wyres Fach Ned Puw," "Y Tŷ ar y Bont," yn ei chadw yn ofalus o'r dechreu i'r diwedd. Yn mugeileg "Merch y Llyn" hefyd, eithriad yw peidio ei chael.

Hwy gymodwyd, hwy gymodwyd,
Yn niwedd oes;
Ail briodwyd, ail briodwyd—
Dwylaw'n groes!

Mewn mydryddiaeth Seisnig y mae yr odl ddwysill yn anhebgorol, gan mai tuedd yr iaith yw diystyru a rhedeg dros y sill olaf mewn gair amlsill.

Like a poet hidden
In the light of thought,
Singing hymns unbidden

Beth pe darllenid y drydedd linell—Singing hymns of heaven? Byddai yn hollol ddiwerth fel odliad, er fod y sillau terfynol yn odli. Y mae y Gymraeg yn fwy caredig wrth ddiweddu ei geiriau: ac nid oes iddi raid wrth odlau dwysill.

Pennod 8.

GWIN, a Serch, a Chlod—yn ol hen ddywediad barddonol—yw cylch testynau y Gân. Y mae lliw yr Oesau Tywyll ar y dywediad: a diau fod iddo haniad paganaidd. Rhagarwydda sefyllfa gymdeithasol pan oedd dirwest a'r awen yn gwrthod siarad â'u gilydd, pan oedd segurdod yn annghlod i'r cledd. Ond gall athrylith dori gormes hen arfer, pa mor gyndyn bynag y bo; ac y mae athrylith wedi llwyddo i eangu cylch testynol y Gân. Pan ganodd Burns mor ddeheuig am werth pob dyn byw—

A man's a man for a' that.

gwyddai nad oedd yn canu am win, na serch, na chlod. Mewn llythyr at gyfaill o lenor,[14] gwnaeth ymddiheurawd gostyngedig dros yr annghyfreithlondeb hwn, trwy awgrymu "gan nad oedd ar destyn Cân, mai nid Cân ydoedd!" Yr oedd hyny yr un fath a phe byddai i'r môr wneud ymddiheurawd i Gwyddno Garanhir ar ol gorlifo Cantref y. gwaelod, mai nid y diluw oedd hwnw. Y mae "Ochenaid Gwyddno" yn profi ei fod yn ddigon o ddiluw iddo ef! Tra yr oedd y bardd yn esgus gwneud esgusawd, yr oedd swyn a grymusder y gân yn dwyn deddf newydd i mewn i gylch testynau Caneuon. Rhaid i'r bardd ddilyn y byd ambell waith. Ac y mae agweddau cymdeithas wareiddiedig heddyw yn newid swyddogaeth y Gân.

Gwna y tro i ddilyn yr hen ddywediad, ond ei esbonio yn rhyddfrydig, ac ychwanegu ato lle bydd eisiau.

Gan hyny dechreuir gyda'r "Gwin "—difyrwch bwyta ac yfed, cwmniaeth lawen, a chwedleuaeth ysmala. Yn ngenau Béranger yr oedd canu i'r gwin yn faswedd difrifol, damniol. Pa haerllugrwydd a aeth erioed tu hwnt i'r ddwy linell gableddus?—

Le verre en main, gaiement je me confie
Au Dieu des bonnes gens!

Dal ei gwpan meddwol yn ei law, i yfed iechyd da ei enaid anfarwol, wrth ei "ysgafn—ymddiried i Dduw pobl dda!"

O'r fath awyr flamllyd afiach, y mae yn ddiangfa i un gael troi i gyfeillach Burns; ac y mae hyny yn dweyd llawer. Y mae y Gwin yn ei gân yntau; a gofidus yw gorfod ychwanegu fod melldith cyfeddach wedi dinystrio ei fywyd. Ond wedi'r cwbl, y mae yn rhyw gysur i gofio mai nid canmol yfed er mwyn yfed y mae. Swyn y cwpan i'w awen oedd y gyfeillach lawen, y difyrwch, a'r arabedd pert o amgylch y cwpan. Gwelir hyn ar unwaith yn ei gân hoffus i'r "hen amser gynt"—Auld Lang Syne—cân sydd yn nghalon yr Albanwr yn mhob cwr o'r byd, yn ei hyfryd adgofio o fwynderau diniwed boreu oes, pan y cerddai yn droednoeth trwy arianlif nant y mynydd, pan redai "lawer troedfedd flinderus ar hyd y llechweddau gan dynu "llygaid y dydd." Nid y cwpan meddwol sydd wedi rhoddi ei eneiniad halogedig i'r gân; ond y gwlith sydd ar y blodeu yn ngwanwyn oes—dyna ydyw ei heneiniad.

Os ydyw yn gwella o Béranger i Burns, y mae yn gwella drachefn o Burns i Ceiriog. Gwir nad yw yntau wedi cadw y gyfeddach yn llwyr o'i ganeuon. Prin, feallai, y gellid disgwyl hyny, pan gofiom deimlad yr urdd farddol Gymreig at ddirwest bum' mlynedd ar hugain yn ol, ac yn ddiweddarach hefyd. Ar y pwnc hwn yr oedd barn foesol Ceiriog yn siarad yn fwy clir na rhai o'i ganeuon. Yn y Bardd a'r Cerddor dywed (t.d. 32, 33):—

TESTYNAU rhagorol i ganu arnynt yw gwin a mêdd, cwnini difyrus, a digrifwch y dafarn. Y mae amser wedi bod yn Nghymru pan oedd mawl ir cwrw, a cherddi anogol i ddiota, yn hollol gydredol âg ysbryd yr oes. Y mae y cyfnod hwnw, fel llawer o bethau eraill, wedi myned heibio—ac am byth gobeithio. * * * * Y mae adeg prydyddiaeth y dafarn, fel duwinyddiaeth dderwyddol, wedi cyrhaedd pen pellaf ei bodolaeth. * * * Y ris isaf y gellir sangu arni heb gael ein hwtio ydyw cân ddigrifol, ddiddrwg—ddidda. Y mae yn golled mewn rhyw ystyr i'r bardd a'r cerddor fod y maes Bachanyddol wedi cael ei gau i fynu; ond y mae yr enill mewn golygiad foesol yn llawer mwy, a meusydd toreithiog newyddion yn ymagor i'r awen, yn lle y winllan gauedig a gymerwyd oddi arni.

Nis gallai sylwadau fod yn decach ac yn fwy pendant na'r dyfyniadau uchod. Ond yr oedd ystyfnigrwydd yr awen yn drech na barn foesol y bardd; a gormod iddi hi oedd myned heibio heb ganu cân i "Dafarniaeth"

Fe dyf yr haidd o hyd, o hyd,
Yn Ngwyndud ac yn Ngwent:
Fe dyf yr hops dan flodeu llon,
Ar faesydd ceinion Kent.
****
Gwnaiff amser hefyd wella'r bîr,
Ei wneud o'n glir a hên,
A dangos wneir, o flwydd i flwydd,
Ynfydrwydd Cyfraith Maine."
****
Gwna'r siwgwr rum, gwna ceirch y gin,
Ceir brandy a champagne;
A llosga'r tán i ferwi'r brag,
Er gwaetha' Cyfraith Maine.

Pa ddyn ieuanc a all ganu y fath benillion heb deimlo swyn y cwpan meddwol? Yn ymyl ei gân i dafarniaeth ceir cân fechan ddestlus i Gymedroldeb:

Bum yn gwrando ar ddirwestwr,
Bum yn gwrando ar dafarnwr;
Rho'wch i'r cyntaf lân ffynonau,
Rho'wch i'r olaf lawn farilau,
Cymedroldeb rho'wch i minau.


Mewn achos fel hwn, y drwg yw fod y bardd mor bob-ochrog yn ei syniadau moesol. Os mai tafarniaeth sydd iawn, caner mawl tafarniaeth; os mai cymedroldeb sydd iawn, caner mawl cymedroldeb; ac os mai dirwestiaeth sydd iawn, caner mawl dirwestiaeth. Ond y mae yn beryglus o ryddfrydig i ganu mawl y tri. Y mae defnyddio yr Enw Sanctaidd mewn math o chwareuaeth foesol fel hyn yn ymylu ar haerllugrwydd. Duw a chymedroldeb,—

Mae cymdeithas fel yr eigion,
Yn ymburo mewn dadleuon:
Trwy eithafau'r byd meddyliol,
Mae doethineb yr Anfeidrol
Yn cynhyrfu yn ei ganol.

Ac yna, Duw a dirwest,—

A laeswn ni ddwylaw cyn cael goruchafiaeth,
Na, gweithiwn yn ddewr, a gweddiwn ar Dduw;
A'r Arglwydd a etyb yn nhrefn ei Ragluniaeth
"Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw."

Os meddylir ein bod yn gwneud defnydd rhy sarug o'r safon foesol, nid oes genym ond ateb fod moesoldeb barddonol yn rhy werthfawr i'w fradychu—hyd yn nod â chusan.

Dyddan yw cofio, wedi'r cwbl, mai ei ganeuon dirwestol yw y rhai mwyaf poblogaidd. Y mae seiniau cynhyrfus "Datod mae rhwymau" ac "A laeswn ni ddwylaw" wedi bod yn rhyfelgan ar hyd llawer cwm yn Nghymru. Ac y mae y gerdd dyner—"Roes i mo'm Cariad heibio "—wedi dwyn. yr elfen dirion i mewn i blith syniadau dirwestol;—elfen a gollir yn rhy aml yn ngwres brwdfrydedd eithafol.

Wrth ddarllen y caneuon hyn teimlir ar unwaith mai barddoniaeth ydynt, ac nid pregethau bychain wedi eu troi ar fydr. Gwir fod angerdd ei ddychymyg wedi gorweithio (ac mewn canlyniad wedi gwanychu) un neu ddau o'i syniadau: megys

am—

Lidiart y fynwent a'i 'sgrech ar ei hechel
Wrth dderbyn y meddwon i 'stafell y bedd!—

ac eilwaith,

Mae'r blodeu sy'n tyfu ar feddrod y meddwyn
Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw.

Ond ar y llaw arall ceir yn y caniadau hyn ddychymyg mor naturiol a'r ffynon fechan loyw gerllaw'r tŷ,

Mysg glaswellt, brwyn, a dail;

a'i dafnau yn disgyn tros y ceryg mwsoglyd,

I chwareu yn yr haul.

Dyma ffrwd fechan mor glir a gwlith y boreu—

Os oer a chymylog yw'r diwrnod,
Os crinwyd pob deilen fach werdd;
Mae haf ar ein hachos yn dyfod,
O! cadwn yn ysbryd y gerdd.

Ac eto:

Llifwch allan, ddyfroedd byw,
I gadw lili'r dŵr yn fyw,
A'i blodau'n wyn o hyd. * * * *}
Dirwest anwyl, tyf i fri,
Hardd lili wen y dŵr wyt ti.
A cher pob bwth yn Nghymru wen,
O cyfod di dy ben.

Ond o'r gyfres ddirwestol, y gân fwyaf barddonol yn ddibetrus yw yr un a enwir "Ar ddôl pendefig." Y mae yn hono ddychymyg byw; ac y mae y diweddglo mor rymus ag yw o gynhyrfus. Dodwn y ddau benill yn gyfan: y mae pob llinell mor darawiadol.

Ar ddôl pendefig, heidden wen
Ymgrymai'i phen yn hawddgar;
'Roedd cnwd ohonynt ar y cae,
Fel tonau hyd y ddaear:
A cher y fan, ar fin rhyw lyn,
'Roedd gwenith gwyn yn gwenu:
Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau,
Y cnydau prydferth hyny.

Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,
Ei fendith ar y maesydd:
A dyn a godai gyda'r wawr
I dori lawr y cynydd.
Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth,
A rhuo wnaeth i'r nefoedd:—
"Fod un yn myn'd er bendith dyn,
Ar llall i ddamnio miloedd."

Afraid gwneud rhagor na chyfeirio at ganeuon eraill yn perthyn i'r dosbarth hwn: megys "Pobl y Potes, a Phobl y Llymru," a'i ddireidi addysgiadol:

Mae pobol y potes yn meddwl o hyd
Am bobol y llymru sy'n brafied eu byd;
A phobol y llymru, a haerant o hyd,
Fod potes yn curo'r holl fwydydd i gyd;—

"Ar noson Galangauaf," gyda bwyta afalau a'r tori cnau a'r "ystraeon am ysbrydion;" neu, drachefn, ei ganig dwt ar "O! na chaem Hwyl"—

Am gwrdd â rhai
Syn gallu mwynhau
Y noson bresenol yn ddedwydd;
A gwel'd pob un
Yn gynes gytûn,
Wrth siarad Cymraeg efo'u gilydd.


Pennod 9.

Os yw yr esgynfa focsol o Béranger i Ceiriog ychydig yn amheus yn Nghaneuon y Gwin, y mae yn y Caneuon Serch yn ddigamsyniad. Yn nghaneuon Béranger nid yw Serch ond nwyd afiach, heb na gwyleidd-dra na chydwybod; ei ddifyrwch oedd gwawdio priodas a phob cysegredigrwydd mewn cyfeillachau cariadus, tra yr oedd yn ei hwyl yn canu am anlladrwydd ac anudoniaeth Serch. Gwnaeth Burns lawer i buro Caneuon Serch yr Alban; ond methodd ddianc heb adael mewn ambell gân awgrymiadau ydynt bobpeth ond glanwaith a gwylaidd. Ar y llaw arall, nis gwn am linell yn Nghaneuon Serch Ceiriog ag y dylid ei chadw o olwg un galon ieuanc ddiniwed. Y mae yn canu fel priod ac fel tad ar ei aelwyd: gall y plant fwynhau pobpeth heb gael eu dolurio. gan ddim.

I feddwl Ceiriog yr oedd Serch mor iachus ag awel y mynydd, ac mor loyw a ffrwd y ffynon.

Ni chredaf fyth fod dyn
Yn berchen calon iach,
Os na fydd ef yn un
Eill garu tipyn bach.

Yr oedd Serch yn rhy ddrud ac yn rhy ysbrydol i gael ei brynu gan arian, neu ei bwyso gan reswm: cariad yw cariad—dyna ddiwedd pob barddoniaeth a phob athroniaeth.

Ond cael dwy galon bur yn nghyd
Yw'r unig gamp er hyn i gyd.

Y mae ei gân ar "Beth yw Cariad?" mor llawn of bertrwydd ag o ddireidi nwyfus. Yr athronydd yn troi i garu wrth ofyn y cwestiwn ac yn colli yr ateb, y mynach myfyrgar yn myned i ysgrifenu traithawd ac yn cofio am lances—

A llosgodd ei bapyr cyn deall ei bwnc!—

y prydydd yn methu dweyd dim ond

Mai gwlith ydyw cariad, o Eden wen foreu,
Yr hwn gan yr haul ni chymerwyd i'r nef:—

a'r doethawr sychlyd yn cashau y beirdd, ac yn troi i brydyddu ei hun wrth "ffurfio deffiniad dysgedig o gariad!" Dyna ddigrif-chwareu gamsyniadau —ond mai camsyniadau priodol iawn. ydynt.

Y mae ei farddoniaeth Serch yn cyffwrdd â holl gyfnodau'r oes. Nid yw wedi annghofio carwriaeth plant; yn "Syr Rhys ap Tomos," ceir Rhys ac Efa yn edliw yn ddifyr i'w gilydd deimladau mebyd cynar:—

Treuliasom oriau yn ngwres yr haf,
Yn casglu meillion a llygaid dydd;
Crwydrasom ganwaith ar nawniau teg
Hyd fin yr afon.

A phan ddywed Rhys am yr adeg yn ei hanes pan oedd cariad ieuanc ofnus—felus yn peri iddo ei dilyn o fewn lled cae a rhedeg adref rhag ofn iddi ei weled, onid yw ateb Efa yn faleisus o dyner?—

Tydi yn rhedeg rhag fy ngweled i!
A thithau beunydd yn rhedeg ar fy ol,
Gan ddwyn oddiarnaf fy nheganau hof,
Er mwyn it' dranoeth eu dychwelyd hwy!

Dyna garu plant.

Am ddarlun o ddeffroadau mwy difrifol Serch i ba le yr awn ond i riangerdd "Myfanwy Fychan?" Y mae cân Hywel ar y beithynen yn llawn o freuddwydiaeth wanwynol y galon; y mae y bardd —yn ol arfer pob carwrfardd o ddechreuad llenyddiaeth yn darllen pobpeth yn ngoleuni y "llygaid duon hardd" sydd wedi ei ddyrysu. Y mae yn ei gweled hi yn y meillion, y briallu, a'r rhosynau—yn yr heulwen a'r sêrgân; ac er mor gariadus yw y seren hwyrol rhwng glâs y nef a glâs y môr,

I fenaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti!

Anwylach, perffeithiach wyt ti!

Yn ei afradlonedd anfeidrol a hollol ddiangenrhaid, y mae yn barod i fathru llawryf anfarwoldeb—"os na chawn i di!"—yn debyg, gellid tybied, i Orpheus gynt yn gadael y "copâau gwynion" a'r lle yn mhlith y duwiau er mwyn ei gariad ferch Eurydice. Y mae y bardd hefyd yn llawn o ofergoeliaeth serch gwyryfol, yn credu yn ei galon

fod ysbryd eill sibrwd â thi—
Eill dd'wedyd y cwbl i ti!

Ac nid yw Myfanwy nemawr nes yn mlaen mewn bydolrwydd. Y mae gwiriondeb y bardd yn ei gwirioni hithau; a'i chalon yn myned i deimlo yn lled drafferthus. Wrth ddarllen y gân, y mae yn ceisio gwneud "nodiadau ar ymyl y ddalen": ond fel mewn rhai esboniadau eraill, nid ydynt yn fawr o gymhorth i ddeall y testyn.

Disgynodd ei llygaid drachefn
Arna bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,"—
A churodd ei chalon yn gynt.
"Mi droellet fy ngwallt—
O, mi wnaet! wyt hynod garedig," medd hi,
A phe bawn yn suo i'th glust, mi dd'wedwn
Mai gwallgof wyt ti;
Mi hoffet. gael cusan, mi wnaet
Ond cymer di'n araf, fy ffrynd,"—
Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—
Ond O!'roedd ei chalon yn myn'd!

'Roedd wedi breuddwydio dair gwaith,
Heb feddwl doi'r breuddwyd i ben,
Fod un o g'lomenod ei thad
Yn nythu yn agen y pren—
Heb gymar yn agen y pren!

Dyna garu rhywbeth-ar-bymtheg oed.

Yn mugeilgân "Alun Mabon," ceir amlinelliad manylach a chyflawnach o fwynderau a threialon Serch. Ceir yr un athroniaeth ynddi ag a geir yn mhenill agoriadol "Myfanwy Fychan," yn datgan nad yw dyn yn ddyn nes teimlo beth yw cariad. Wedi siarad am holl rediad natur i osgoi yr unigol, dywed:

Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,
A'i enaid fel yn huno,
Nes daw rhyw lygad fel yr haul
I wenu cariad arno.

Addfedodd dyn erioed yn iawn
Ar gangen fawr dynoliaeth:
Os bydd ei wedd heb wrido 'n goch,
Yn ngŵydd ei anwyl eneth

Y mae Alun yn cofio'r adeg ar Menna pan oedd

—plentynrwydd tyner llon
Yn dirion ar ei dwyrudd;

ond y pryd hwnw nid oedd iddo ddim ynddi—

Ddim mwy na rhywun arall.

Cofia adeg yn nes yn mlaen pan ddaeth Menna yn "boenau iddo beunydd"; yn llanw ei ddyddiau â myfyrion, a'i nosweithiau â breuddwydion. Ac adeg dipyn yn nes yn mlaen oedd hono, pan ddilynodd Menna i'r mynydd mewn brys pryderus, a'i anadl yn ei ddwrn:—

Hi o'r diwedd oddiweddais,
Ac O! mi deimlais, ac mi dd'wedais
Farddoniaeth dlysach mewn un munyd
Na dim a genais yn fy mywyd,
Wrth roddi cangen fedwen ferth
Yn nwylaw fy anwylyd.


Gorchwyl go ddrud yw "dweyd barddoniaeth mor dlws"—o dan yr amgylchiadau; ac nid ydys yn synu dim i ddarllen mai drud a fu hi i Alun Mabon. Wythnosau terfysglyd o obeithio ac ofni, o ganu ac ocheneidio—dyna fu y canlyniad, fel arfer! Pa mor debyg oedd yn ei ymarweddiad i ddarlun Shakespere o'r "carwr cywir," gadewir ni i ddyfalu. Ni ddywedir yn bendant fod "ei foch yn gul," ei lygad yn llwydlas a suddedig," a'i "ysbrydoldeb uwchlaw amheuaeth"; ni sonir chwaith fod ei "hosan yn ddi-ardys," ei "esgid heb un carai," a "phobpeth yn ei gylch yn amlygu annghyfanedd-dra esgeulus."[15] Rhaid cymeryd y pethau hyn yn ganiataol. Digon i ni yw cael gwybod iddo freuddwydio am locust melynddu " yn ymlusgo dros ddail y fedwen; ac iddo gael esboniad chwerw o'r weledigaeth pan aeth cyfaill dichellgar i siarad â Menna drosto ei hun. Eiddigedd, blinder calon, gobeithio yn erbyn gobaith, dyna adnodau dyrys pennod y caru. Ac mor swynol y mae yr awdwr yn cyd-amseru gwanwyn yn y coed â deffroad gobaith newydd yn nghalon Alun—

Eis o dan fy nghoeden fedwen
Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ôl y gyllell
Lle torasid cangen Men.
Gwnaeth adgofion im' ofidio
Na buasai r gainc yn wyw;
Ond canfyddais gangen ievanc
Yn y toriad hwnw'n byw.

Ac i wneud y cyd—darawiad yn fwy rhamantus fyth, ar ganghen ei fedwen y clywodd Alun aderyn y gwanwyn yn canu gyntaf y tymhor hwnw:—

Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren:
Ac yno 'roedd y gwcw,
Yn canu uwch fy mhen!

Yn fuan wedi hyny, ar lesni gwanwynol serch Alun a Menna disgynodd swn "clychau Aberdyfi," ac aeth Menna Rhen yn Menna Mabon. Dyna garu. priodasol.

Ond nid yw y bardd yn gorphen canu lle y maet y ffug—chwedlau breintiedig yn arfer tori i fynu—a hwy a fuont fyw yn ddedwydd byth ar ol hyny." Rhaid cael dychymyg hynaws a didrwst i weled barddoniaeth dawel y bywyd priodasol. Un o ragorfreintiau mwyaf cysegredig y bardd yw cadw'r byd rhag dibrisio y cynefin a'r cyffredin.

Ah, dearest Wife, a fresh—lit fire
Sends forth to heaven great shows of fume,
And watchers far away admire;
But when the flames their power assume,
The more they burn the less they show,
The clouds no longer smirch the sky,
And then the flames intensest glow
When far—off watchers think they die.[16]

Y mae Ceiriog wedi canu am y tân yn dechreu cyneu; wrth ddarlunio'r fflamau cyntaf, nid yw wedi annghofio'r mwg ychwaith! Ond gwell na hyny; nid yw wedi diystyru'r tân distaw, cynhes, ar ol i'r mwg ddiflanu, ar ol i'r fflam enynol droi yn farwor byw. Enw ar un o'i ganeuon yw "Gwres Hen Farwor;" ac anmhosibl penderfynu beth yw yr elfen fwyaf brydweddol yn y gân—pa un ai ei thynerwch pruddglwyfus, neu ffyddlondeb tangnefeddus y galon:—

'Rwyf wedi colli'm cariad
At rai o bethau'r byd;
Ond para 'rwyf i garu
Dy enw di o hyd.
Er mwyn ein hen gyfeillach,
Pan oeddyt gref ac iach,
O Magi, Magi anwyl,
'Rwy'n gyru penill bach.


Yn nechreu ei riangerdd ar "Catrin Tudur" (buddugol yn Eisteddfod Bangor, 1874), ceir y bardd yn arwain ei awen trwy arholiad difyr:

Flodeuog wlad y traserch mawr,
Gwlad deg y llwyni gwyrddion,
Y fro lle chwery heulog wawr,
Trwy ganol ei chysgodion!
A feiddiaf fi, ar ol goroesi
Fy nghalon ifanc, eto'th groesi?

Na: nid oedd y bardd wedi "goroesi'r galon ieuanc." Ieuengrwydd ei galon oedd yn cadw ei awen rhag colli ei chydymdeimlad â serch yr aelwyd briodasol; ac ac yn ei hyfforddi i ganu llinellau mor dirion a'r rhai hyn yn y gân, "Mae Jane ein Merch":—

Ond caru'r y'm er hyny
Hardda'r wedd, hardda r wên,
Fel po meina'r elo rên;
Cryfaf serch, serch yr hen;
Lawr i'r bedd fe deithia Jane,
Ond serch, ond serch a deithia i fynu.

Yn y cysylltiad hwn y mae yn bleser digymysg genym gyfeirio at y gàn olaf a ysgrifenodd ein bardd. Y mae yr amgylchiadau mor brudd—dyner ac mor nodweddiadol, fel y maent yn werth eu cadw byth mewn cof. Yr oedd wedi addaw geiriau deuawd i Mr David Jenkins, Mus. Bac., ar y testyn "Un a dau." Y mae yn debyg mai wrth deithio ar y Manchester & Milford Railway y cyfansoddodd hi. Ond gadawer i'w lythyr ddweyd yr hanes yn ei eiriau ei hun—oddieithr eu bod yn gyfieithedig o'r Saesneg:

CAERSWS,
Mai 10, 1886

ANWYL MR. JENKINS,
Methais ysgrifenu dim i'm boddio ar un "Un a Dau." Cerdded ar y gofyn y oedd hi nes i mi gyrhaedd y raddeg uwchaf ar y M. & M. Rly. Yna newidiais y testyn (mae hyn yn llythyrenol wir) i "Wrth fyned ar i lawr." Yr wyf yn amgau copi i chwi. Y mae y llinellau, mi dybiaf, yn rheolaidd yn eu hafreoleidd—dra, ac y mae y mesur fel efe ei hunan, am ddim wn i yn amgen. Darllenodd fy hen wraig y gân wrthi ei hun, a chefais hi â'r dagrau mawrion yn ei hen lygaid anwyl (my old woman read it on the sly, and I found big tears in her dear old eyes).

Yr eiddoch yn wir,
JOHN CEIRIOG HUGHES.

Bendith ar ei ben am fod yn werth y fath ddagrau o lygaid yr hon welodd fwyaf ohono; ac arosed y gân yn ei chalon Hithau, Fel y gwlith ar rosyn olaf yr ardd,—hyd yr ail gyfarfyddiad! Er ei bod bellach wedi ei chyhoeddi yn yr Oriau Olaf, y mae yn ormod o broFedigaeth i beidio ei chadw yma.

Fe—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
Heb deimlo'm traed o danwy,
Y'm ni yn Hidio fawr
Fy hen, hen wraig, Myfanwy:
Y Ddau—Os hen yw Gwener a'r Lleuad wen,
Maet eto mor oleuon,
Newydd y ddaear a newydd y nen,
A newydd hên ganeuon.
Hi—TeitHiasom dros y byd yn bell
Fe—(On'do Fe'n awr?)
Hi—A gwelsom lawer 'storom hell,
Fe—(On'do Fe'n awr?)
Y Ddau—Ond gwei'd yr y'm y byd yn well,
Wrth fyned ar i lawr.

Y Ddau—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
I fachlud uchelderau,
Yn mlaen o hyd mae gwawr
Yr hen, hen, hen amserau!
Fe—Mae'th olwg wedi rhyw ballu braidd,
Wrth ddarllen dy beithinen;
Ond nes i'r nefoedd nag ydoedd y gwraidd,
Yw blodau dy geninen!
Hi—Ond nid Fel cynt fydd Cymru fydd,
Fe—(On'de Fe'n awr?)
Hi—O fachlud oes rym ni, trwy ffydd,
Fe—(On'de Fe n awr?)
Y Ddau—Yn diolch gweled gwawr y dydd,
Wrth fyned ar i lawr.


Fe—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
Pan griaf neu pan ganwy',
'Rwyt ti'n dy le bob awr,
Fy hen, hen wraig, Myfanwy.
Oddiar y brif-ffordd gul, gul, at Dduw
Bu pechod yn fy nhynu;
Diolch mae f'enaid dy fod ti yn fyw
I ddal fy mhen i fynu!

Hi—Ni wnaethom ni ddim byd i dd'od,
Fe—(Ai do fe'n awr?)
Hi—O'r trag wyddoldeb fu i Fod,
Fe—(Ai do fe'n awr?)
Y Ddau—Ond ni ill dau fu'n troi y rhod
I fyned ar i lawr.

Fe—Wrth fyned ar i lawr, yn benwyn ar i lawr,
Mae'n werth i'w roi ar goffa,
Nid fan 'roedd gynt yn awr
Y saif hen, hen Glawdd Offa.
O dir y dwyrain i dir y de
Mae'r gwynt yn fwy caredig,

Y Ddau—Nid oes llys, llanerch, na Llan yn un lle
I'r oll yn waharddedig:
Na, gwelwn Gymru yn fwy clyd,
(On'de fe'n awr?)
Yr hen Gymraeg yn fyw o hyd,
(On'de fe'n awr?)
Ac Arthur arall yn ei gryd
Wrth fyned ar i lawr.

Y mae yn y gân gyd-grynhoad dedwydd o'r teimladau dyfnaf a gloywaf yn enaid y bardd. Y mae yr "hen ganeuon" yn cadw byth heb fyned yn hen, a'r "hen Gymraeg yn fyw o hyd." Ac mor felus ar wefus henafgwr yw y syniad ieuanc mai myned yn well y mae'r byd. Anaml iawn y mae yr awen wedi rhodio allan yn nghysgod yr hwyrddydd olaf, ac wedi pellweled y wawr ddyfodol yn gwynu y cymylau porphoraidd o amgylch machlud haul. Dyma Obaith, yn sicr, oedd wedi drachtio o'r ffynonau sydd yn tarddu ar fryniau Duw. Ond mwynach na'r Gobaith yw ireidd-der ei serch at ei "hen, hen wraig, Myfanwy,"—a'r blodeu yn nes i'r nefoedd na'r gwraidd. Yn ol y penill a ddyfynasom yn barod, yr oedd yr aelwyd briodasol yn gynes gan y marwor byw pan syrthiodd arni gysgod llaith y bedd.[17] Yr oedd yno "angel yn y tŷ"—yn ei lle bob awr yn dal ei ben i fynu!

Wrth daflu cipdrem gyffredinol dros ei ganeuon Serch, nis gallwn gofio am un profiad carwriaethol wedi ei adael allan. Yn ei gân ar "Garu'r Lleuad " ceir adlewyrchiad o'r hen garu Cymreig (nad yw mor ddianfoes ag y gellid dymuno):—

Mi godais inau'm cariad
Wrth guro brig y tô;

a'r ymddiddan trafferthus, edliw hen gariadau a chusanu,

O amgylch tân o fawn.

Yn "Nedi" Jones, y mae y bardd mewn haner cellwair yn trin y pwnc dyryslyd o ymddibyniaeth Serch ar gyflwr y llogell:—

Oes mwy na theirpunt yn y mis
Yn myn'd i gadw gwraig?

A phrin y mae eisiau ychwanegu i awen frwdfrydig ac mor unochrog benderfynu yn fuddug—oliaethus o blaid Serch—

'Does neb yn gwybod pa sawl punt
Yw teirpunt, lle bo cariad!

Y mae ein bardd wedi cofio am helynt y llythyr caru sydd wedi " tori ei gyhoeddiad," yn ei gân "P'le 'rwyt ti, Marged Morgan?"

Gyra lythyr bach yn union,
Pe bai ond papyr gwyn!


Yn "Y Fodrwy Briodasol" (o Eisteddfodol goffadwriaeth) yr adeg a ddewisodd y bardd yw y noson cyn priodi:

Cyn myn'd at yr allor yfory gâd imi
A'th fys ei chysegru wrth fyn'd hyd y ddôl.

Ac yn "Paham mae Dei mor hir yn d'od?" pryder merch ieuanc foreuddydd ei phriodas sydd yn cael ei ddarlunio mor hapus. Yn y modd hwn. y mae y bardd wedi tramwy dros "wlad y traserch mawr," ar ei hyd ac ar ei lled.

Ond y mae Serch arall: ac nid arall ychwaith; ond cangheniad arall o'r un pren gwyrddlas, anfarwol. Hwn yw serch yr aelwyd—serch plant at eu rhieni, a rhieni at eu plant.

Tybed fod unrhyw fardd mewn unrhyw wlad wedi canu mwy am blant na Cheiriog? Y mae wedi plygu ei ben yn bryderus gyda'r fam ieuanc uwchben cryd ei chyntafanedig; y mae wedi canu hwian—gerdd i faban-dywysog; gwnaeth rywbeth er mwyn cadw hwiangerddi Cymru rhag difancoll. Y mae wedi canu mor nwyfus a phlentyn am Lisi Fluelin yn deirblwydd oed:—

Mae'n dda genyf ganfod y plant yn cael diwrnod,
I chwareu'n blithdraphlith yn un a chytûn:
A chadw penblwyddyn Miss Lisi Fluelin,
Er mwyn yr hen amser bûm blentyn fy hun.

Mae Lisi bach yn deirblwydd oed;
Yn deirblwydd oed, yn deirblwydd oed:
Sirioli mae'r tân,
Wrth glywed y gân;
A dawnsio mae'r gadair a'r stôl dri throed,
Oblegyd fod Lisi'n deirblwydd oed.

Nid calon fach all deimlo'r fath fwynhad a'r fath hwyl wrth feddwl am chwareuon y plant. A pha fireinder dihalog sydd yn nodweddu y fath ganeuon a'r Fenyw fach a'r Bibl mawr," neu "Yr Eneth Ddall," neu "Ddrws y Nefoedd." Y maent fel bröydd cysegredig—fel rhyw feusydd yn ngwlad yr addewid lle bu angelion yn cerdded.

Bydd dyner wrth y plentyn bach,
Fel tôn ar dyner dant:
'Does dim ond cariad Iesu Grist
Yn fwy na chariad plant.

Gyda'r fath athroniaeth hynaws yn goleuo ei feddyliau, pa ryfedd ei fod mor ofalus rhag cymylu dim o lendid a swyn plentyndod? Nid annghofiodd "fod eu hangelion hwy yn y nefoedd."

Os bu awen y bardd yn dyner wrth blant, bu yr un mor dyner wrth famau. Yn wir y mae y bardd Cymreig wedi bod erioed yn garedig wrth y fam. Yn nghanol cythrwfl a chelanedd y Gododin, ni annghofiodd y bardd ofid y mamau gartref—

Seinyessit y gleddyf ym pen mammeu!

Os nad oes llawer o awenyddiaeth, y mae digon o deimlad da yn nghân Dafydd Ddu Eryri i "Fy Mam." Ond y mae awenyddiaeth gyda theimlad da yn nghaneuon Ceiriog i'r fam. Y mae wedi gofalu—yn "Y Ferch o'r Scêr"—roddi y goron harddaf iddi hi:—

Cariad sydd fel pren canghenog
Pwy na chara Dduw a dyn!
Canghen fechan or-flodeuog
Ydyw cariad mab a mûn.
O! 'rwy'n diolch ar fy ngliniau
Am y cariad pur, di ball:
Cariad chwaer sy'n cuddio beiau—
Cariad mam sy'n caru'r dall!

Ac onid Ceiriog ysgrifenodd, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon"? Y mae calon y fam yn hono yn curo byth—yn curo yn anfarwol.

Yn araf i safle'r gerbydres gerllaw
Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;
waelod ei chalon disgynodd y braw
Pan welai y fan oedd raid cychwyn—

Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi'n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hyny yn sibrwd fel hyn,—
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Erys y geiriau yn ffurfafen bywyd fel seren newydd, anniflan nid oes un gallu moesol gwaharddiadol cryfach o fewn i gylch cydwybod:—

Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I'm hatal ar ffordd annuwiolion,
Annhraethol rymusach yw awgrym fy mam,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.'

Dyna dlysni serch—dyna rymusder awen,

Pennod 10.

Bu y delyn Gymreig am ganrifoedd hirion heb hamdden i nemawr ddim ond Rhyfel a Chlod. Ond wedi i'r genedl golli ei hannibyniaeth, rhaid fu i'r delyn ddysgu cerddoriaeth arall, fwy tawel, fwy caruaidd. O'r dydd hwnw yn mlaen ni chafodd y delyn fawr o hwyl i enyn yspryd rhyfel a chanmol y gloyw gledd,—oddieithr am dymhor byr, pan fflachiodd dewrder Owen Glyndwr fel goleuni gwib-seren ar wyneb ffurfafen ei wlad.

Old times were changed, old manners gone!

A phwy a fynai alarnadu ar eu hol? Mwy cyd-naws â gwareiddiad oesau diweddar yw dalen werdd yr olewydden nag edyn creulawn y ddraig goch; ac y mae trydar yr ysguthan yn y glasgoed, a phenill yr ehedydd " yn llunio cerdd uwch ben llwyn cyll," wedi dyfod yn fwy cynefin na llais y gigfran uwchben celanedd dynoliaeth. Y mae clod y darganfyddwr a'r iachawdwr dyngarol wedi cysgodi clod y rhyfelwr am byth.

T'rewch, t'rewch y tant,
T'rewch. t'rewch y tant,
Canwch gerddi hen ein gwlad:
Nid yn sŵn catrodau,
Nid yn sŵn cleddyfau,
Nid yn nherfysg maes y gâd.
Hedd sydd yn teyrnasu dros ein hynys rydd,
Cerddi milwrol eto'n aros sydd;
Ond mae'r telynau tan yr olew-wydd
Eto'n cofio cerddi'r wlad.

Diau mai dyna'r egwyddor oedd yn rheoli awen Ceiriog yn ei holl ehediadau milwrol. Nid llais ei galon sydd yn ei ryfelgerddi, ond adsain bellenig o'r oesau fu. Pan ar ei oreu yn canmol gwrhydri'r cledd, y mae fel rhyw lais cyfrin yn dweyd ei fod yn canu mor hwyliog am fod y cledd yn crogi yn segur ar y mur!

Adsain o'r oesau fu sydd yn y rhyfelgan fawreddog, "Corn y Gâd." Y mae y llinellau fel sŵn rhyfel o bell; bron na chlywn yr ergyd marwol yn cael ei daro, a rhuthr y frwydr yn diaspedain o glogwyn i glogwyn fel twrf rhaiadrau lawer:—

Corn y Gâd!
Dyna ganiad corn arswydlon.
Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw'i ddynion;
Corn y rhyfel hollta'r nefoedd,
Tery arswyd trwy'r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y cymoedd
Corn y Gâd.

Yn yr un ysbryd yr ysgrifenwyd "Cadlef Morganwg," yn "Syr Rhys ap Tomos," er nad yw yr aceniad mor gydnerth rymus.

I'w atal yn mlaen
'Dyw mynydd ond maen
Adewir mewn llwch ar ei ol.
Corn y gâd ydyw miwsig yr awel,
Heddyw gwledd gydag Arthur yw Rhyfel,
Yn galw ar fynydd a dôl.

Wel sefwch yn hyf gyda'ch Dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd
I godi'r hen wlad yn ei hol!

Rhuthrgyrch byddin gyfan mewn brwydr derfynol sydd yn adseinio trwy farddoniaeth "Corn y Gâd;" ond rhuthriadau sydyn, drylliog, rhyw ysgarmes ragbarotoawl sydd yn tyrddu trwy "Gadlef Morganwg."

Yn ei chwedl-gân athrist—"I Blas Gogerddan" —y mae y bardd wedi rhoddi y mynegiant mwyaf beiddgar i'r ysbryd milwrol. Yn hono y mae serch mam yn cael ei aberthu yn ddi-drugaredd i greulondeb Rhyfel—fel y bu mamau gynt yn gwneuthur i'w plant "fyned trwy y tân i Moloch." Y mae mwy o ysbryd arwyr Scandinavia, a yfent erchyllderau gwaedlyd fel yfed gwin—y mae mwy o ffyrnigrwydd Odin a Sigurd a Gudrun nag sydd o fawrfrydigrwydd Arthur a'i farchogion yn y gân. Swyddogaeth y bardd yw adlewyrchu holl agweddau bywyd: ac fel bardd yn taflu goleu ei lamp ar ddychrynfeydd Rhyfel y gosododd Ceiriog y fam mewn cyfwng mor ofnadwy ag i orfod siarad a dyoddef fel hyn:—

Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It' golli'th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorph y dewr
Na derbyn bachgen llwfr.

****
Daeth ef yn ol i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, "O fy mab! fy mab!
O maddeu im', O Dduw!

Ond hawdd canfod mai allan o'i elfen gynhenid yr oedd y bardd yn canu fel hyn. Llawer mwy hoff ganddo yw lliniaru pob echryslonrwydd â rhyw seiniau tyner, dyngarol. Yn nghanol galwadau cynhyrfus y "Gadlef Gymreig," mor dawel ac mor seinber y daw y penill hwn i fewn:—

Suo mae awelon
Hwyrddydd haf yn mysg
Coedydd gwlad heddychlon
Dyfrdwy, Wy ac Usg;
Adar ddedwydd hunant
Yn eu gwyrddion ddail;—
Mamau hoff gusanant
Feibion heb eu hail!

Nid yw'r bardd yn codi'r llen oddiar yr olygfa. ddilynol, i ddangos y mamau yn cusanu yr un gwefusau yn welw ac yn oer yn eu holaf gwsg! Drachefn, yn ei delyneg i'r "Milwr na Ddychwel," wedi i'r awen hedfan yn wylofus trwy "dymhestloedd magnelau" a thros "ufel raiadrau," clywir hi yn pyncio mor dyner a'r fwyalchen ar Faes Crogen, tra yn gadael i'w hadenydd orphwys uwchben y dyngarwch sydd yn cerdded yn ol troed Rhyfel:—

Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth,
Dy ddewredd, a th fedr milwrol:
Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth,
Fel arwr ar faes Cristionogol.

Ar wefus y milwr dolurus a gwan,
Y gwasget rawnsypiau tosturi:
A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran,
Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi.

Esmwythaist y clwyfus â balm oddi fry,
Pan ballai daearol feddygaeth;
A glyn cysgod angau oleuwyd i lu
Pan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth.

****
Pan ddaw y fath adeg—pan na fydd y byd
Yn agor cyfrolau rhyfeloedd:
Coffheir y gwir filwr, a'i enw o hyd
Fydd beraidd am fil o flynyddoedd.

Nid adsain yw y penillion uchod o deimlad a fu unwaith yn y byd ac sydd heddyw yn estronol: llais y galon ydynt, yn llawn o Gristionogaeth yr oes bresenol. Apostol heddwch yw y bardd, hyd yn nod ar faes y gelyn: yn gymaint felly nes yw yn galw ar yr hen Filwr dychweledig i wneud esgusawd drosto ei hun am chwareu'r delyn ar ol bod yn ngwasanaeth angau:

I'th erbyn, delyn heddwch,
Pechais i;
Ond eto mewn tawelwch
Wele ni.
Mae llaw a driniodd arfau,
Mae llaw was'naethodd angau,
Yn cyffwrdd gyda'th dànau
Anwyl di:

Os aeth o gôf dy chwarau
Torer hi.
Na, na, er ei chaledu
Gan y cledd,
Daw rhwng y bysedd hyny
Benill hedd.

Yn perthyn yn agos i ganeuon Rhyfel y mae caneuon Hela: ac ni fu dim erioed yn fwy nwyfus nag awen Ceiriog ar yr helfaes. Pa un ai hela'r hydd ("Uchel yw Bloedd yr Helgorn Mwyn"), ai hela'r ysgyfarnog,<ref<Ceir y gân hon gan yr awdwr mewn dwy ffurf (gwêl Oriau'r Haf, 8; a'r Songs of Wales, 60). Nid yw yr ysgyfarnog yn cael ei dal yn y naill na'r llall.</ref> ai hela'r blaidd ("Mae Bleiddiaid yn y Llwyn"), fyddo'r gamp, y mae yr heliwr yn fyw ynddi. Yn yr un dosbarth y mae y gân—" Ar Gefn fy Merlen ddu"—i gael ei gosod. Enw arall yr hen alaw yw "Trot y Gaseg;" ac y mae penill fel hwn yn trotian ohono ei hun:

Mae miwsig hen alawon
Yn sŵn dy bedwar troed:
'Rwy'n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed.
Tra'r afon ar y graian,
Yn hwian iddi 'hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynu uwch y tŷ,

A'm calon wirion inau
Yn crynu am y goreu
Wrth fyn'd ar loergan oleu
Ar gefn fy merlen ddu.

Ai gormod o hyfdra yw darogan fod y Rhyfelwr, fel arwr y beirdd, wedi colli ei le am byth? Cymharer ffrydlif gymdeithasol y ganrif bresenol â'r unfed ganrif ar bymtheg, "pan oedd Bess yn teyrnasu;" neu, o ran hyny, cymharer yr haner olaf â'r haner cyntaf o'r ganrif hon. Ar un llaw, canfyddir holl egnion anianyddol cenedloedd gwareiddiedig yn cael eu troi i gyfeiriad rhyfel a goruchafiaeth ymherodrol, a thalent lenyddol yr oes yn eu dilyn mewn edmygedd. Yn y fath sefyllfa, gwroniaeth yw bod dyn yn elyn dyn. Ond bellach y mae uchelgais y byd gwareiddiedig, er gwaethaf croesineb elfenau rhyfelgar, yn dringo Ilwybrau celfyddyd a diwylliant. Gorchest y dydd yw darostwng grymusderau Natur i wasanaeth dyn; a chystadleuaeth y cenedloedd yw symud annghyf—leusderau anianyddol bywyd. Pa le y mae y beirdd? Y mae ceidwadaeth redd fol y beirdd Seisnig yn eu hatal i ganu mawredd y cyfnod newydd mewn llais croyw. Y mae Tennyson, yn ei bryddest ar Locksley Hall, ac mewn rhai darnau eraill, wedi sefyll ar y trothwy gan daflu cipolwg i'r pellder sydd yn glasu gan y wawr. Gwelodd "weledigaeth y byd, a'r holl ryfeddod sydd i fod;" gwelodd fasnach yn llanw'r wybrenau, a llyngesoedd y gwledydd mewn cydymdrech yn "y glâs canolog;" clywodd sibrwd fyd—lydan. awel y dehau yn chwythu yn hafaidd, a banerau y bobloedd yn suddo yn y dymhestl daranau, nes i udgorn rhyfel ddystewi—

In the Parliament of man, the Federation of the world:—

ac yn ei frwdfrydedd galwodd ar ddynoliaeth i ymdaith yn mlaen, yn mlaen, ar hyd "llwybrau seingar cyfnewidiad "—

Better fifty years of Europe than a cycle of Cathay;—

ac mewn hyawdledd gorchfygol gweddiodd ar ei Oes, ei Fam-Oes:—

Rift the hills, and roll the waters, flash the lightnings, weigh the sun!

Dyna yni, a diwylliant, a gobaith, ac ysbryd yr Oes. Ond pa sawl un o'i gyfoesolion sydd wedi ei ddilyn? Nis gwn am un bardd o fri. A gwaeth na'r oll, y mae yntau, ysywaeth, wedi tynu ei eiriau tanbeidiol yn ol yn yr ail ran o'r bryddest, a gyhoeddodd yn ddiweddar—Locksley Hall: Fifty Years After. Y mae haner canrif wedi gwneud ei ddychymyg yn llesg; ac y mae rhyw bruddglwyfedd anobeithiol, fel cysgod oerllyd "yr ywen ddu ganghenog," yn tywyllu yr ail gân yn ddwfn, ddwfn.

Y mae yr awen Gymreig yn meddu'r gyneddf werthfawr o allu cyfaddasu ei hun i newydd—deb y byd. Nid yw cyfnewidiadau a gorchestion y bed—waredd ganrif ar bymtheg yn rhy aruthr iddi. Y mae wedi canu am yr Ager a'r Trydan, am y ceffyl tân a'r pellebyr. Y mae Dewi Wyn o Eifion wedi gwneud barddoniaeth ar y bont dros y Fenai. Ni ysgrifenodd Emrys ddim yn fwy hapus na'i englyn—ion i'r Gwefrhysbysai." Rhoddodd Hiraethog le amlwg a pharchus i ddamcaniaethau daeareg yn ei Emmanuel; ac ni chauodd ei ddrws yn erbyn y Gomed," ar ei hymdaith wyllt, ryfygus."

Yr ydym wedi gweled i Ceiriog wrthryfela yn erbyn Rhyfel. Canodd hefyd yn hyawdl am Gymanfa Masnach Rydd." Beth feddyliai prif-fardd Seisnig am farddoni i beth mor anfarddonol "so very modern, you know!"—a'r Trên? Ond dyma un o gaueuon hoywaf a mwyaf hwyliog Ceiriog yn croesawu "Brenin y Ffyrdd!" Ac nid cân wneud ydyw chwaith, ond barddoniaeth bardd. Ai nid "bardd yn ei awen" a ganodd linellau fel hyn?

Mae'n d'od, mae'n d'od, os pell yw'r mor,
Agos y dygwyd yr eigion gwyrdd:
Mae llongau'r môr yn dyfod at
Benau'r mynyddoedd trwy Deyrn y Ffyrdd.

Mae'r creigiau'n ffoi i'r pantle draw,
Bryniau a ŵyrant ar chwith a de:
A chwympa derw hyna'r byd,
Ar ei ddyfodiad mawreddus e'.

****
Chwi ddreigiau'r nos sy'n gorwedd dan
Odreu'r Eryri er's oesau fyrdd:
Fe draidd goleuni trwyddoch oll
Gyda "Phendragon " mawr Deyrn y Ffyrdd.
Mae'n dda genyf weled ei anadl gwyn,
Ar odreu'r mynydd a chopa'r bryn,
A chlywed ei chwiban yn galw'n ddi gryn—
Mynydd ar fynydd, a dyn at ddyn.

Gwn fod Brenin y Ffyrdd wedi pechu yn erbyn yr awen fwy nag unwaith, trwy anharddu golygfeydd gwyryfol ein gwlad; ac nid oes genyf fwy o gariad at Vandaliaeth haerllug, wancus, nag sydd genyf at gulni breuddwydiol. Barddoniaeth pob darganfyddiad newydd yw yr elfen ddynol—yr elfen gymdeithasol—sydd yn y peth newydd. Anhawdd gwella sylwadau y diweddar Esgob Fraser ar hyn dywed—"Nid oes genyf un dymuniad, fel Mr. Ruskin, i encilio i unigedd rhyw ddyffryn yn Westmoreland. Hoff genyf glywed ergyd trwm yr ager—forthwyl. Mae'n dda genyf fyw yn nghanol gwŷr a gwragedd ydynt yn ddibynol ar eu diwyd—rwydd am eu bara beunyddiol. Lle y caf foddlon—deb a theimlad caredig gan ddynion at eu gilydd, dyna fy nhipyn o awyr lâs; ac yr wyf am weled mwy a mwy ohono." Y mae "llafur ac ymdrech ddiddiwedd" dyn yn farddonol. Ryw ddiwrnod— dyweder, wedi i ddynion gael adenydd awyrol—dihuna rhyw awenydd hwyrdrwm i arwyrain "Brenin y Ffyrdd;" a dichon y bydd yn ei ddarlunio mor fanwl ac mor barchus ag y darluniodd Virgil y ceffyl pren a ddygwyd i mewn yn ddinystr i Gaerdroia—ceffyl oedd "ar gyffelybiaeth mynydd," ei ochrau wedi eu plethu â ffynidwydd, ac "ogofeydd enfawr" o'r tu fewn iddo, yn llawn o ddynion arfog. Y pryd hwnw y bydd cân Ceiriog yn destyn efrydiaeth yn y prif-ysgolion y maent heddyw yn pendrymu uwchben degau o bethau gwaelach, ond eu bod yn henach!

Pennod 11.

YN mysg caneuon goreu Ceiriog y mae hanesion a chwedlau wedi eu troi ar gân. Y mae "caneuon gwerin"—volkslieder—wedi eu hesgeuluso gan feirdd Cymreig hen a diweddar. Y mae hyn yn fwy rhyfedd pan gofier mai caneuon gwerin yw cyfoeth llenyddiaeth Llydaw; ac nad oes dim yn fwy swynol mewn llenyddiaeth chwedlonol Seisnig na Border Ballads yr Alban—cynyrchion diamheuol athrylith y Celt. Y mae ein Mabinogion, beth bynag, yn gwneud i fynu y golled yn anrhydeddus.

O bob caneuon, yr hanesiol a'r chwedlonol sydd yn goddef leiaf o'u llwytho â darluniau ac adfyfyrion. Yr hanes yw y farddoniaeth; ac y mae cuddio yr hanes âg addurniadau yn drosedd llenyddol. "Prif fai y darlun," meddai beirniad mewn celf wrth adolygu Andromache Syr F. Leighton, yw fod yma y fath nifer o frawddegau tlysion. Mewn celf, y mae yn bosibl cael gormod o beth da; ac y mae Andromache yn colli, trwy fod y dyddor- deb ar wasgar, beth o'r swyn a'r cryfder cyffrous sydd mewn darluniau mwy pendant." Gellid troi y sylwadau hyn i ddangos anhebgorion y Gân Chwedlonol:—bai ynddi yw gormod o "frawddegau tlysion" i wasgaru dyddordeb yr hanes; ei chryfder yw siarad yn syml, a cherdded yn hoenus heb droi ar y dde nac ar yr aswy.

Cymerer, o ganeuon chwedlonol Ceiriog, yr "Eneth Ddall" yn engraipht. Y mae yr addurn mor syml ac mor swynol a "llygaid y dydd;" ac y mae y feddyliaeth yn esmwyth ac adfywiol, fel arogl blodeu ar ol cawod yn yr hwyr. Y mae yr ychydig gynghanedd sydd ynddi—

Mo wên yr haul, a mwy na'r oll
Mo wên ei mam ei hun—

mor rhwydd ag anadlu. Beth allai fod yn fwy dirodres as yn fwy tyner na hyn:

Siaradai'r plant am gaeau,
A llwybrau ger y lli',
Ac am y blodeu tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi!

****
Mae'r plentyn wedi marw,—
Ar wely angau prudd,
Fe wênodd ar ei mam, gan ddweyd,
"Mi welaf doriad dydd!"

Y mae rhai o'r Caneuon yn y dosbarth yn cael eu cydnabod fel baledau ar unwaith. Balad yw "Y Telyniwr Dall" a "Llef o'r Tlotty," "Owen Glyndwr a Syr Laurence Berkrolles," "Y Ddafad Benllwyd "—ac, o ran hyny, amryw o ymfflamychiadau Syr Meurig. Prin y mae un ohonynt, fel balad, mor hapus a phethau goreu Jones, Glanygors —prif faledwr Cymru. Nid bardd mawr, o angenrheidrwydd, all ysgrifenu balad lwyddianus. Prin y mae un cyfansoddiad yn gofyn cyn lleied o ymwybyddiaeth lenorol. Wrth ganu balad dylai y bardd fod yn chwedleuwr o flaen dim—ac yn fardd heb yn wybod iddo ei hun. O holl gynyrchion baledol Ceiriog, y mae un yn rhagori cymaint nes sefyll allan yn eu plith fel Saul yn nghynadledd Israel. Hono yw "Mae John yn myn'd i Loegr." Nid oedd eisiau i'r awdwr ein hysbysu "mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi—ond fy mod yn dweyd fy mhrofiad oreu gallwn."

Nid y bardd swyddogol sydd ynddi—ond calon bachgen. Canwyd hi fel heb yn wybod i'r bardd, ond nid oes eisiau i'r bardd fod â chywilydd ei harddel. mae athrylith y galon yn aml yn enill buddugoliaeth, lle y mae athrylith y meddwl yn methu er taer geisio.

Baledau cysegredig y gellid galw amryw o'i ganeuon eraill; fel "Y Fenyw Fach a'r Beibl Mawr," "Y Baban Diwrnod Oed," "Lisi Fach," a "Drws y Nefoedd." Anhebgor cân gwerin yw fod y werin yn ei hoffi ac yn cymeryd meddiant ohoni. Y mae Cymru wedi gwneuthur caneuon cysegredig Ceiriog yn eiddo personol iddi ei hun.

Dosbarth arall eto o'i ganeuon chwedlonol yw y traddodiadol, gyda moeswers i ddiweddu y gân: megys "Ffynon Llanddwynen," "Ffynon Elian," a "Llys Enfys Afon," ac amryw eraill. Hoff waith Glasynys oedd diweddaru hen draddodiadau ac y mae y ddau fardd wedi cerdded yr un llwybr fwy nag unwaith. Heblaw fod y ddau wedi canu am Myfanwy Fychan," y mae y ddau wedi canu am Dafydd y Gareg Wen,"—fel hefyd y mae Syr Walter Scott wedi gwneud. Y mae y tair cân yn wahanol, ac yn rhagori mewn cyfeiriadau gwahanol. Y mae cân y bardd Albanaidd yn ddillyn ac yn ddiwylliedig; ond gwell genym gynyrchion y ddau fardd Cymreig, am eu bod yn fwy tyner, a swn ysbrydoliaeth yn fwy peraidd ynddynt. Pe gofynid pa un o'r ddwy gân Gymreig sydd well genym, atebem—y ddwy. Y mae mwy o flodeu'r dychymyg yn nghân Glasynys: mwy o'r cyfrin a'r pellswynol.

Fy nhelyn fy nhelyn! Ga'i nhelyn, fy mam?
Mae'r Angel yn dyfod yn araf ei gam!
Mae sŵn tragwyddoldeb yn boddi fy mryd,—
Mi ganaf fy marwnad wrth adael y byd.

****
Mi wela'r Golomen, O! gwelaf y ddwy:—
Hwy ddeuant im hebrwng i fynwent y plwy':
Gobeithio caf Delyn yn ninas yr hedd,—
A Thelyn i nodi man fechan fy medd!

Ond am dynerwch mor garuaidd a dagrau mam, rhaid troi at gân Ceiriog. Nid oes ynddi un ymdrech farddonol; ac am hyny y mae mor dlws.

"Hyd yma'r adduned, anwylyd, ond moes
Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes."

Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed
Ollyngodd alawon na chlywsid erioed;
'Roedd pob tant yn canu'i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.

Y mae caredigrwydd Ceiriog wedi ei arwain i ganu yn dyner ac yn aml am anafusion bywyd. Canodd y "Telyniwr Dall" wrth gychwyn ei yrfa lenyddol a thua'i diwedd canodd y "Telynor Ieuanc." Trueni yr hynafgwr a welai y bardd ieuanc, a thrueni y plentyn a welai ar derfyn arall bywyd. Onid hoffder at blant a gadwodd ei awen mor ieuanc a'i obaith mor glir? Y mae y telynor bychan amddifad hwn, a'i delyn mor wael a'i wisg, yn edrych, O! mor hardd yn ngoleuni cariadus yr awen! Y mae ganddo galon fechan yn llawn o gydymdeimlad; y mae yn aberthu pobpeth er mwyn ei chwaer na wêl byth mwy haf ar y ddaear:—

A chyn iddi gyrhaedd fy nhad a fy mam,
Mewn gwlad mae gwell telyn i'w chael,
I'm chwaer—anwyl chwaer, 'rwy'n canu fel hyn,
Am damaid, ar delyn mor wael.


Pennod 12.

Y MAE athrylith Ceiriog wedi rhoddi i'r Rhiangerdd[18] gymeriad a safle arbenig mewn llenyddiaeth Gymreig. Y mae yr enw yn henafol: gellid meddwl ei fod mor hen a Chynddelw Brydydd Mawr, os nad yn henach; gan mai titl un o ganeuon goreu y bardd hwnw ydyw "Rieingert Euq [Efa] verch Vadawc, m. Maredut." Ond y mae Rhiangerdd y ganrif bresenol yn newydd-beth llenyddol, o'i chymharu â Rhiangerdd y ddeuddegfed ganrif. Nid oes dim o'r elfen chwareyddol yn y rhiangerdd henafol; tra mai drama in monologue yw rhiangerdd gynefin yr oes hon.

Dedwydd fu croesaw y Rhiangerdd yn ei hymddangosiad diweddar Y mae ei symudiadau bywiog, ysgafndroed; ei chynllun syml a diymdrech; a'r lle a roddir ynddi i swyn ac agosrwydd Anianoll yn ei chyfaddasu i deithi yr Awen Gymreig. Nid yw y bardd brodorol hyd yn hyn. wedi dysgu gwneud chwareugerdd yn wir, nid yw yn meddu y dyfalbarhad meddyliol sydd anhebgor i'r fath orchwyl. Ond y mae y rhiangerdd yn nes ato; ac y mae ei symlrwydd yn cydymddwyn yn well â'i fywiogrwydd telynegol.

"Drama in monologue," meddem. Ac eto rhaid nodi y diffyg yn hyn o beth. Buasai Ceiriog a'i gydfeirdd rhiangerddol wedi gwneuthur yn well pe wedi cadw o'u blaen safonau clasurol. Os ffurf chwarëyddol ddewisir i riangerdd, cadwer y ffurf yn lân ac yn gryno: na ddangosed y bardd ei hun, ond gadawed i'r dramatis person esbonio eu hunain a'u hanes o'r dechreu i'r diwedd. Dylai fod rhywbeth annghyffredin i beri i'r bardd wthio ei hun i wyneb y darllenydd, pan y mae yn bwrpasol wedi dewis goruchwylwyr ar genadaeth ei awen. Y mae yn gofyn mwy o gelfyddyd i'r bardd guddio ei hun, ond y mae yr effaith hyfryd yn werth y gelfyddyd. Pe dilynid yr athrawiaeth hon, cadwai y bardd ei hun rhag amryfusedd arall ag y mae Ceiriog wedi syrthio iddo—sef cerdded i bob man er mwyn casglu pethau pert, heb gofio fod y fath grwydriadau yn datod unoliaeth y gerdd, ac yn gwanhau egni ei dadblygiant. Er mor ddifyr ydyw son am "deulu Trevor bob yr un" yn dyfod i edrych ar Myfanwy yn faban yn ei chryd, a'r ddadl fywiog fu yno i ba ochr o'r teulu yr oedd "ei gwyneb crwn," ei "gên fach gron," a'i "thrwyn bach main," yn perthyn: er mor ddifyr yw yr helynt, nid yw yn dal y cysylltiad lleiaf â charwriaeth Myfanwy a Hywel. Y mae llusgo yr ystori fel hyn ar draws llwyn a pherth yn sicr o anafu ei dillynder llenyddol. Mewn gwirionedd, nid yw rhiangerdd "Myfanwy Fychan" yn dechreu nes cyrhaedd y llinellau—

Gylch Dinas Brân y dyddiau gynt
'Roedd derw mawr yn lleddfu'r gwynt.

Onid yw hwn yn ddechreuad mwy bywiog, mwy cyffrous, mwy urddasol, na'r rhagymadrodd a rodd—wyd i mewn gan yr awdwr? Y mae y rhagymadrodd yn bert a difyrus;—nid ydys am dynu dim oddiwrth ei werth fel barddoniaeth. Ond nid oes mo'i eisiau: ac un gamp i'r llenor yw dysgu pa beth i adael allan. Y mae rhagymadrodd bychan, dedwydd, fel yn rhiangerdd "Catrin Tudur," yn llawer mwy dymunol; ac yn ateb yn well i safonau goreu llenyddiaeth.

I'r ystyriol, credaf na bydd y sylwadau hyn yn edrych yn orfeirniadol. Rhaid cofio fod Ceiriog wedi agor llwybr newydd gyda'i riangerddi: yr ydym ninau, sydd yn edrych ar ei lwybr, yn gallu edmygu ei wroldeb a'i nwyfusrwydd heb deimlo gorfodaeth i ddweyd fod ei gynlluniau yn berffaith yn mhob rhan.

Wrth gyferbynu "Myfanwy Fychan " â "Catrin Tudur," yr ydys yn cael golwg ddymunol ar ddadblygiad llenyddol Ceiriog. Swyn penaf y rhiangerdd foreuol yw ieuengrwydd diniwed yr awen. Yr awen ieuanc heb na phryder na blinder yn dringo llethrau y bryn ar foreu o Wanwyn, dan ganu: nid oes arno ofn dim:—y mae yn peryglus gerdded ar ymyl serth y clogwyn, heb ofni; y mae yn edrych i fynu i wybren Ebrill sydd yn lâs ac yn llwyd-oleu o orwel i orwel, heb ofni; y mae yn dewis llwybr lle mae lleiaf o ôl troed, neu yn tori ar draws pob llwybr i wneud llwybr anturus. iddi ei hun, heb ofni. Awen ieuanc ydyw, ac awen ieuanc yn gariad i gyd. Nid oes dim yn rhy galed iddi, na dim yn rhy dywyll. Nid yw yn cydnabod rheolaeth defodau cymdeithas na ffeithiau geirwon bywyd. Mor naturiol i awen mor ieuengaidd yw gweled merch ieuanc y pendefig urddasol yn myned o gastell ei thad wrthi ei hun i fwthyn y bardd yswil—ïe yn ymguddio mewn rhyw gongl o'r bwthyn am oriau er mwyn gwylio pryderon y gwr ieuanc! Ac yn wir, y mae yr ystori mor ddifyrus, fel nad ydym ninau wrth ei darllen yn cymeryd amser i gofio fod y cyfan yn anmhosibl! Pan yw y dychymyg wedi oeri, y mae beirniadaeth yn cael cyfle i ddweyd gair. Ond ai nid profiad pob un a ddarllenodd "Myfanwy Fychan" unwaith a thrachefn—ar awr rydd y ffansi—yw hyn: fod nwyf—iant yr awen ieuengaidd yn ein cario yn mlaen yn fuddugoliaethus, hyd nes tynu'r garfan yn ol, a gweled y ddwy galon gyfymyl," a

"Myfanwy" yn nghanol y gyntaf,
A "Hywel " yn nghanol y llall.


Y mae y "llygaid duon hardd" sydd "yn d'rysu'r bardd" yn ein dyrysu ninau am enyd—ac y mae y dyryswch yn felus, onid yw?

Erbyn cyrhaedd "Catrin Tudur," y mae yr awen wedi sobreiddio:—

And I could tell
What made your eyes a growing gloom of love,
As a warm South-wind sombres a March grove.

Wedi sobreiddio;—nid wedi gwanhau, nid wedi nychu. Y mae y bardd ei hun fel yn teimlo ei fod wedi "goroesi ei galon ifanc:" ydyw, y mae wedi gadael direidi hoffus boreu oes, i fod yn gallach, yn arafach, yn ddyfnach.

ddyfnach. Nid yw yr ystori "Catrin Tudur" mor sionc ac mor ffansiol a charwriaeth Myfanwy; ond y mae yr adeiladwaith yn gryfach ac yn fwy celfydd. Meddyliaf na ddaw rhiangerdd ei henoed byth mor boblogaidd a rhiangerdd ei faboed: ond serch hyny, yr wyf yn sicr fod mwy ynddi—mwy o feddylfrydedd, o gywreinrwydd, ac o hunan feddiant.

Y mae "tywyllni cynyddol serch "—dysgeidiaeth yr awen wedi darllen y byd a'i wersi—mewn llinellau o'r fath a ganlyn. Gwlad serch:—

Y wlad mae gormod gwres yn iach
I'w merched ac i'w meibion,
Y wlad mae awel glaiar fach
Yn lladd ei holl drigolion.

Rhan o ddarlun y frenhines:—

Tecach ei dwylaw na blodeu mân
Gwyn lysiau'r llinos mewn dyfroedd glân;
Disglaer ei llygaid fel golwg gwalch,
A threiddiol gan ostyngeiddrwydd balch.

Yr amser goreu i garu:—

Pan ddisgyn geiriau serch fel grawn
I'r dyfnder a'u hegina'n iawn,
Nid yn yr hwyr na'r boreu,

Ond pa fo pleser ar y rudd
Ac yn y fynwes ofid cudd,
Dyna yw'r amser goreu.

Ni ysgrifenodd Ceiriog ddim mwy gorphenedig na'i linellau ar freuddwydion yn y gerdd hon. Tra y maent yn ein hadgofio o'r ddarlith ddigrif ar y Frenhines Mab yn Romeo and Juliet, nid oes ynddynt ddim tebyg i efelychiad. Cymharer y ddau ddyfyniad a ganlyn:—

Her waggon—spokes made of long spinners' legs;
The cover, of the wings of grasshoppers;
The traces, of the smallest spider's web;
The collars, of the moonshine's watery beams;
Her whip, of cricket's bone; the lash, of film.


Mae athronwyr eraill * * * *
Yn d'wedyd fod Breuddwydion yn fath o fodau mân,
O oleu-leuad caled, heb arnynt flew na gwlân,
Na phluf, nac unrhyw orchudd, oddigerth math o wê—
A wnant o waith pryf copyn.


Gwelir mai gan y prif—fardd Seisnig y mae y darlun manwl, cyflawn; ond mewn ehediadau ffansïol y mae y bardd Cymreig lawn mor hoyw:—

Dechreu'sant hwy eu gyrfa yn niwedd Amser mawr,
A ninau o'r pen arall a'u cwrddwn hwynt yn awr;
Gan newid ein newyddion sydd genym mewn ystôr,
Tra'n croesi eigion Amser fel llongau ar y môr;
A d'wedir fod eu clociau yn ardal Hud a Rhith,
Fel mae'n rhesymol iddynt, bob un yn troi o chwith.


Chwerthin y mae Shakspere yn mhob ymadrodd am ben direidi ei frenhines wamal; ond y mae Ceiriog unwaith neu ddwy yn codi ei law i sychu ei lygad:—

Gwna'r llall ei ffordd i r fynwent, a dug eich plentyn gwyn,
Gladdasoch er's blynyddau yn mhriddell oer y glyn,
I gydied am eich gwddwf â'i freichiau gwynion bach,
Gan edrych trwy eich llygad fel pe bai'n fyw ac iach!


Ac er mai y dernyn ar Freuddwydion yw y dernyn goreu yn y gerdd, y mae yn oreu yn mysg darnau da eraill. Deil y rhiangerdd hon yn dda i'w darllen lawer gwaith; a chan fod ei chynlluniad yn well nag un gerdd arall o eiddo Ceiriog—er nad yn berffaith—y mae hyny yn ei gwneud yn destyn. da i feirdd ieuainc i'w astudio.

Mor bell ag y mae y cynlluniad yn myned, nid yw Ceiriog wedi gwahaniaethu nemawr rhwng rhiangerdd a bugeilgerdd. Dywedais mai un coll yn nghelfyddydwaith ei riangerddi yw ei fod yn cymeryd oddiar y dramatis persona yr hawl i adrodd yr holl hanes eu hunain. Rhaid i mi eto ddangos ei fod yn ei fugeilgerddi wedi gadael safon—au llenorol.

Y mae bugeilgerddi Theocritus a Virgil wedi eu cyfansoddi ar y dull ymddyddanol; ac y mae Edward Richards wedi eu dilyn yn ei ddwy fugeil—gerdd yntau. Ai nid gwell fyddai cadw titlau Ilen—yddol yn barchus? Os rhiangerdd, naill ai gadawer i'r cymeriadau gael yr hanes oll i'w dwylaw eu hunain, gan ei adrodd mewn unawdau trefnus; neu gadawer i'r bardd ei adrodd drostynt o'r dechreu i'r diwedd. Y mae Gwen Mr. Lewis Morris, a Victories of Love Mr. Coventry Patmore yn engreiphtiau o'r dull cyntaf; a cheir engreiphtiau godidog o'r dull olaf yn mhlith caneuon gwerin Llydaw, a Border Ballads yr Alban. Ond os bugeilgerdd, rhodder cyfle i ddau neu fwy o gymeriadau weithio allan destyn y gân mewn cydymddyddan. Wrth eiriol fel hyn dros gadw safonau llenoriaeth yn fwy clir, yr wyf yn sicr mai bendith i'n barddoniaeth gartrefol a ddeilliai o'u hystyried a'u cadw. Y mae profiadau drud oesoedd dirif cerdd y tu cefn i'r safonau hyn.

Wrth ddweyd nad yw Ceiriog wedi gwahaniaethu nemawr rhwng bugeilgerdd a rhiangerdd, o ran cynlluniad, gellir yn awr fyned gam yn mhellach a dweyd mai rhiangerddi, i bob amcan llenyddol, yw "Owain Wyn" ac "Alun Mabon." Y "rhian" yn ngherdd "Owain Wyn" yw Olwen: ei serch hi yw bywyd y rhan gyntaf o'r gerdd; ac onid ei bedd hi yw canolbwynt yr ail ran? Pan yw Owain y mab—yn dychwelyd yn ol o'i grwydriadau pellenig:—

Tros un o drumiau Berwyn,
Ryw noson ddistaw oer,—

yr olwg ar fedd ei fam sydd yn dihuno'r teimladau dyfnaf. Y mae yn "myned heibio i ddrws ei gartref" er mwyn cyrhaedd y fynwent.

A threulio'r noson hono
Ar fedd ei fam wnaeth ef,
Nes suddo'r seren foreu
I eigion gwyn y nêf.

A beth yw diwedd y gân ond bedd Olwen:—

Yn awr wrth ochr Olwen
Yn mynwent fach y plwy',
O dan yr un dywarchen
Y cydorweddant hwy.

Hawdd fyddai dadleu yr un fath dros ystyried cerdd" Alun Mabon" fel rhiangerdd Menna. Beth a enillir wrth feirniadaeth fel hyn? Clirder a gweddeidd-dra llenorol.

Wedi'r cyfan, pe gelwid y rhosyn yn ysgallen, aroglai yr un mor felus. Yr un modd am farddoniaeth bugeilgerddi Ceiriog. Os gwnaeth ychydig gamsynied yn y cynlluniad, y mae swyn yr awen yn aros ynddynt, yn aros fel hyfrydedd natur rhwng y bryniau tawel.

Nid oes llawer o ystori yn "Alun Mabon:" diflas ddigon yw gosod ffrae rhwng gwr a gwraig yn ganolfan cerdd. Pa mor foddhaol ac mor bleserus bynag fyddo ffraeon yr aelwyd, prin y maent yn werth canu am danynt. Byddai awgrym yn ddigon, heb ddyfynu holl araith Mrs. Mabon; dylai awdwr fod yn ddigon hoff o greadau ei ddychymyg i beidio eu gwneud yn chwerthinllyd.

Ond os nad oes llawer o ystori yn "Alun Mabon," y mae yn y gân lawer o'r farddoniaeth oreu a ysgrifenodd Ceiriog. Y mae naturioldeb yn llanw pob llinell—hyd yn nod y ffrae! Dyna fywyd syml, diaddurn, dymunol!" fel y blodyn bychan ar y grug," yn blaguro ac yn gwywo ar y mynydd. Ar lwybrau natur y mae yn cerdded, yn "gorwedd efo'r hwyr ac yn codi efo'r wawr," a

"dail y coed yw'r llyfr
Sy'n dod â'r haf i ni."

Gan natur y mae yn cael ei lythyron serch i'w hanfon i Menna—y "ganghen fedwen ferth." Y mae ganddo lygad i weled y pren yn dechreu glasu," pan yw natur hen yn troi yn ieuanc yn y gwanwyn; a chlust i glywed "cwcw gynta'r tymor"

A ganai yn y coed
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gynta' 'rioed.

Ac wedi bod yn afiach yn hir yn ei wely, mor felus yw teimlo yr heulwen ar ei wyneb drachefn ryw foreu,

Ac awel o'r mynydd, ac awel o'r môr.

Llwybrau natur i'w cerdded, geiriau natur i'w darllen, a chwmni natur yn y bedd—dyna farddoniaeth "Alun Mabon." Os nad yw mor rwysgfawr a Myfanwy Fychan," nac mor hunanfeddianol a "Chatrin Tudur," y mae ynddi orphwysfeydd tawel i'r meddwl wedi blino yn mhob man arall.

Come, read to me some poem,
Some simple and heartfelt lay,
That shall soothe this restless feeling,
And banish the thoughts of day.

Dyna genhadaeth syml "Alun Mabon," fel llawer o ganeuon bychain Ceiriog. Deuant yn ol ir meddwl drachefn a thrachefn mor ddiymhongar ac mor agos at y teimlad nes tawelu twrf dychymygion lawer.

Yn ymyl y tair cerdd uchod y mae hanes—gân "Syr Rhys ap Tomos" yn lled eiddil a difywyd. Y mae yr ystori yn rhy wasgarog; ac eithriad yw cael ynddi farddoniaeth afaelgar, heblaw yn y ddwy gân "Erddygan Win Burgundi" a "Chadlef Morganwg." Y mae yn dechreu ei hanes yn rhy bell yn ol er mwyn y digrifwch am garu plentynaidd Rhys ac Efa; ac nid oes un testyn arwrol grymus yn rhedeg trwy y gân i roddi unoliaeth iddi. Prin y gellid cael gwell arwr Cymreig na Syr Rhys: ond ymddengys i mi fod Ceiriog wedi rhwymo ei awen wrth gerbyd araf yr hanesydd, yn lle gadael iddi wneud llwybrau awyrol i'w hadenydd euraidd.

Cyn tewi son am y Rhiangerddi a'r Bugeilgerddi, dylid gwneud cyfeiriad at gerddi eraill o eiddo Ceiriog ar gyffelyb ddull: sef "Gwarchae Harlech," "Tywysog Cymru," a "Merch y Llyn." Y mae yn anhawdd beirniadu y cyfansoddiadau hyn, gan fod y bardd i raddau yn aberthu ei hun i'r cerddor ynddynt. Digon yw dweyd eu bod wedi eu hysgrifenu yn ofalus, ac fod "Merch y Llyn" yn enwedig yn dangos fod y bardd yn cadw ei ddychymyg yn rhydd. Wrth basio, anhawdd peidio dadgan gofid i Ceiriog gyhoeddi dim o'i farddoniaeth Seisnig. Y mae Oriau'r Haf—lle y ceir "Cantata Gwarchae Harlech "—wedi ei britho—â phethau Seisnig. Ni wnaeth awdwr erioed fwy o gamsynied: ac ni ellid gwneud mwy o annghyfiawnder âg athrylith y bardd na dangos y pethau hyn i lenor Seisnig, a dweyd—"Dyna engraipht o Ceiriog!"

Ai nid dyddorol, wrth gymharu yr holl gerddi hyn, yw sylwi ar rai o hoffderau dychymyg y bardd? Yn ei ail adroddiadau ohono ei hun y daw hyn i'r golwg. Y mae yn dechreu "Myfanwy Fychan" a "Syr Rhys ap Tomos" yn ymyl y cryd; ac fel y bu "caru plant" rhwng Rhys ac Efa, y bu Alun a Menna yn dechreu edrych ar eu gilydd yn lled gynar. Arthur, "fel rhyw angel bychan," fu yn gwneud cymod rhwng Alun a Menna: a'r plant fu yn ychwanegu pennod newydd at hen draddodiad "Merch y Llyn," trwy enill eu tad a'u mam yn ol at eu gilydd. Y mae breuddwyd bron bod yn un o'r cymeriadau yn "Myfanwy Fychan," yn "Alun Mabon," ac yn "Nghatrin Tudur." A oedd yn credu mewn breuddwydion? Nid oes eisiau gofyn a oedd yn credu yn y plant.

Pennod 13.

ANSAWDD ragorol ar athrylith Ceiriog yw lledneisrwydd teimlad. Y mae yn ofalus, fel rheol, i beidio gorweithio y poenus, y prudd, a'r ofnadwy. Nid yw yr awen Gymreig mor ddifeius yn hyn ag y gellid ddymuno: yn wir, tueddir ni i feddwl ei fod yn wendid cynhenid i athrylith y Celt. Ai aml orthrech, a dyoddefaint, a chyflafan sydd wedi ei wneud yn rhy gynefin â'r brawychus? Ei duedd—fryd naturiol yw hoffi yr hyfryd, y disglair, a'r llon; ond fod rhyw ddylanwad o'r tu allan wedi gweithio elfen arall, annghydnaws, i fewn i'w natur, nes yw bellach yn wendid cynhenid.

Swyddogaeth y bardd yw creu cydymdeimlad â thrueni bywyd. Rhaid iddo wneud gofid yn swynol. Ond pan yw yn tynu y llen yn ol yn rhy eofn oddiar wyneb gwelw gofid, y mae y prydferthwch trist yn cael niwed a cham. Y mae darnau o "Ddinystr Jerusalem" gan Eben Fardd yn annyoddefol o erchyll. Yr ydym yn colli pob cydymdeimlad, ac yn chwilio am ffordd i ddianc o'r "ffieidd-dra annghyfaneddol." Gwaith yr hanesydd yw manylu; gwaith y bardd yw awgrymu.

Yn hyn y mae Ceiriog yn rhagori mewn modd arbenig. Y mae ei awen wedi rhodio lawer gwaith trwy gysgodion galarus y bedd; ond y mae yr heulwen ar ei haden a blodeu gwynion gobaith yn ei llaw. Y mae wedi hedfan dros feusydd rhyfel, ac wedi gwrando ochenaid olaf y clwyfedig yn marw; ond goleu byd arall oedd yn ei llygad wrth adael y fan. Y mae wedi penlinio ar yr oer-lawr, lle yr oedd gofid yn methu siarad, ac hyd yn nod yno y mae ei thrymder wedi troi yn salm o hedd.

Sylwa Llyfrbryf yn darawiadol iawn ar yr elfen hon yn ei farddoniaeth, wrth son am ei gân i Faes Crogen.[19] Wrth ofyn "paham y dewisodd Ceiriog fesur mor wisgi a'r Fwyalchen' i ganu am y fath drychineb, a phaham y dug aderyn mor yswil a diniwed i'r gân o gwbl; mai aderyn mwy a hyfach —y gigfran waedlyd, fuasai cydymaith goreu maes y gyflafan?"—dywed mewn atebiad mai un o neillduolion awen y bardd oedd "lliniaru yr echryslawn a'r aruthr gyda'r tlws a'r tyner," fel y mae Natur ei hun yn llareiddio ochrau y graig arw â'r mwswg.

Cymerer yn engraipht ei gân ar "Longau Madog." Y mae y fath dywyllwch annhreiddiadwy yn amdoi'r traddodiad ag a wnai i ryw Edgar Allan Poe droi'r diweddglo yn anuyoddefol o frawychus. Ond mor ddifyr yw Ceiriog—fel pe na wnaethent ddim. ond croesi'r Fenai!

Wele'n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
'Rol blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"

Canent newydd gán yn nghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd—
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno'i hun.

Yn y gân i'r "Llythyrgod" a enillodd y wobr yn Eisteddfod Caernarfon, 1862, y mae yr un mor ofalus i guddio y lleddf a'r galarus. Y mae ei "lythyrau" bron yn annaturiol o ddedwydd: llythyr caru i ferch ieuanc:—

I ddweyd, fy nghalon anwyl,
Fy mod yn fyw ac iach:
Mae haul fy oes yn codi!—

Llythyr i'r "weddw isel dlawd," yn cynwys papur pum' punt oddiwrth ei brawd: llythyr i'r wraig foneddig oedd heb glywed er's blwyddyn oddiwrth ei phriod oedd ar y môr——pob peth yn dda: llythyr oddiwrth y bachgen drwg yn y rhyfel:—

Yn anerch yn ei ddechreu,
Fy anwyl fam a thad!"—

llythyr i'r bachgen bach mewn ysgol yn Nghaerludd, yn dwyn "chwerthin at ei galon:" llythyr oddiwrth y gweithiwr oedd wedi gorfod gadael ei deulu i chwilio am waith, gyda "thamaid" ynddo i'r wraig a'r plant: yn sicr rhyw lythyrgod ryfedd oedd hono! Ond y mae un eithriad ynddi; a beth allasai fod yn fwy nodweddiadol?

Eisteddai bardd meudwyaidd,
Oedd wedi gyru cân
I'r Steddfod Genedlaethol,
Gan fygu wrth y tân;
Gan fwmian ac ymarfer
Yn y gynghanedd gaeth:—
Ca'dd yntau bapyr newydd,
I ddweyd mai colli wnaeth![20]


Wrth ei ddilyn ar lwybrau mwy difrifol a phruddglwyfus, y mae lledneisrwydd ei awen yn dyfod yn fwy amlwg ac yn fwy prydferth bob cam. Yn ei farwnad fechan i "Etifedd Nanhoron," yr hwn a laddwyd yn ystod y nos o flaen Sebastopol, y mae y bardd fel yn defnyddio'r nos i ddirgelu yr echyllderau gwaedlyd: dim ond y lloer sydd yn cael edrych ar yr olygfa ac ar fynwes oer "ein Cadben." Ac nid yw hithau yn cael edrych ond "trwy hollt yn y cwmwl" rhag iddi weled ormod o ofid! A dagrau y golchir gruddiau y gwron; a rhaid ei gladdu yn nistawrwydd pryderus y nos, cyn i swn y frwydr ail ddechreu:—

Tra gwlith ar y ddaear a niwl yn y nen,
A chyn i'r cyflegrau ymddeffro;
Fel milwr Prydeinig gogwyddodd ei ben
I'r bedd anrhydeddus wnaed iddo!

Wrth adrodd chwedl "Y Telyniwr Dall," ar ol ein harwain i dybied bron fod pen wedi ei wneud ar yr hen wr a'i delyn gan ddau "fofrudd du," diwedda'r chwedl gyda'r troad sydyn hwn:—

Wrth ddwyn i ben fy nghaniad fèr,
Os chwedl bruddaidd yw—
I gael ei delyn yn ei hol,
Bu'r hen delyniwr fyw!—

ac nid yn unig bu fyw, ond chwareuodd ei delyn o dŷ i dŷ "yn fwynach nag erioed!"

Onid yr un lled neisrwydd yr un hoffder at gadw'r gofidus yn haner cudd—sydd yn ymddangos. yn hollol annisgwyliadwy yn y gân fywiog ar "Hela 'Scyfarnog?" Y mae yn foreu rhewllyd gloyw—y mae swn y milgwn yn cerdded yn soniarus rhwng y bryniau y mae'r "talihoian" yn adsain yn glir dros y fro—dyma'r gwta fechan ar ei thraed!

Neidia, rheda,
Dyna drofa —
Ar ei hol pob milgi âd:—


dyna ail gynyg arni: ond ddaliwyd mo honi! Dyna gamp y bardd yn gadael tynged y fach yn anmhenderfynol:—

Dyna hi yn rhydd i'r mynydd,
Heibio'r cŵn a thros y clawdd!

Yn lle fod y teimlad hwn yn gwanhau wrth adael rhandir "y galon ifanc," ymddengys ei fod yn cryfhau. Y mae lliw gwynaf gobaith ar yr Oriau Olaf —fel llewyrch hawddgar dydd hafaidd ar goed a meusydd Hydref. Yn y gân fechan, ddillyn, Gwraig y Llong a Merch y Fellten," ofnus a phruddaidd yw y darlun yn y penill cyntaf:—

Er pan aeth ar ei daith
Aeth deufis yn bedwar, a phedwar yn saith;
Mae'r lloer ar fy wyneb yn edrych yn brudd,
A'r gwynt swnia'n euog wrth basio fy nôr,
Fel pe baent yn gwybod, ac ofn arnynt ddweyd
Fod fy ngŵr yn y nefoedd a'i long ar y môr!

Ond y rhagolygfa, yn y darlun, sydd wedi ei lliwio yn dywyll, er mwyn dyfnhau y dyddordeb yn ymddangosiad "meich fach y Fellten" gyda'r llythyr trydanol:—

Mae'm llong wedi suddo, ond byw ydwyf fi—
Disgwylia fi adref rhwng haner ac un.'

Pruddglwyfus hefyd yw agoriad ei gân dyner ar "Goed yr Hydref." Tueddir ni i ddweyd am farddoniaeth y gân, fel y dywed ef am y coed:—

O mor brydferth! O mor brudd!

Nid nant y mynydd yn llifo'n loyw—nid cân y gwcw newydd groesi'r môr—nid rhwysgfawr swn y gwynt yn y derw mawr gylch Dinas Brân—nid lliw y sanctaidd wawr yn goleuo creigiau Berwyn—nid prydferthion ieuainc natur sydd yn cael llwyrfryd ei awen bellach. Ond y mae difrifwch a llesgedd natur yn brydferth i'r awen sydd yn ngolwg y 'dyffryn tywyll, garw."

Goed yr Hydref, ni bu enfys
Yn ymblethu gyda'r wawr,
Gyda lliwiau mor fawreddus
A'ch pelydrau chwi yn awr
Sut na welem hyd y dyffryn
Gôr adeiniog ar ei hynt?
Sut na chlywem un aderyn—
Un o'r mil a ganai gynt?

Dyna olwg Hydref y tuallan, a dyma'r adlewyrchiad o fewn y meddwl:—

Goed yr Hydref! dyna gwestiwn
I fy awen fud fy hun,
Nid oes ganddi gân na byrdwn
Anthem newydd—nac oes un;
Penau'n britho, brigau'n gwywo,
Gwarau crwm a gwelw wedd,
Sydd o'm hamgylch yn prysuro
Tua gauaf oer y bedd,

Dyna'r diwedd? Na, nid dyna'r diwedd i ddychymyg gobeithiol Ceiriog. Y mae yn codi ei lygad oddiar bennod yr Hydref, i gael golwg un-waith eto ar y "Gwanwyn mawr yn dod cyn hir," a gwyrddni dail ar frigau llwydion. Y mae yr awen yn cadw yn llednais hyd y tywyll ddyffryn.

Mor gryf oedd ei deimlad dros ddiweddiadau hapus, fel y mynodd ychwanegu ôl-ysgrif ei ddychymyg ei hun at draddodiad "Merch y Llyn." Yn ol y traddodiad y mae y ferch hono yn diflanu am byth. o ganol ei phriod a'i phlant, yn achos y "tri ergyd." Ond myn Ceiriog i ail gymodiad ac ail briodas gymeryd lle. Pa eisiau prawf mwy o'i frwdfrydedd yn mhlaid y llon a'r hyfryd?

Yn hyn yr oedd Ceiriog yn iawn. Diau mai rhandir y bardd yw yr awgrymiadol yn hytrach na'r dyhysbyddol. Efe sydd i amddiffyn cysegredigrwydd gofid; ac i gadw'r llèn dros ffenestri trueni dynol pan y mae llygad rhy haerllug am edrych i fewn. Ar adegau, gorfodir hyd yn nod y bardd i adrodd y gwir yn noeth. Yn mhlith caneuon Ceiriog, ceir un gân fechan sydd yn coffhau hanes John Evans o'r Waenfawr—" cenadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol * * yr hwn a ymgymerodd â'r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion. Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â'r dwymyn, a bu farw yn mhell o'i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig." Nid oes modd cuddio yr elfen dorcalonus o'r fath hanes: yn unig gellir liniaru ychydig ohoni. I raddau y mae y bardd wedi llwyddo yn hyn; ond prin mor bell ag y gellid disgwyl. Dar—lunia'r cenadwr ieuanc wedi syrthio i gysgu yn nghaban y coediwr (ai fel hyny, tybed, y bu ein Goronwy fawr o Fôn farw?), ac yn breuddwydio ei freuddwyd fel arfer:—

Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un:
Deffrodd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
"Pa le mae'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"

Dyna'r oll. Beth yn rhagor ellid ddweyd?—gofyna rhywun. Pobpeth. Pa le y mae yr agwedd ysbrydol o'r hanes? yn enwedig pan gofir fod Ceiriog wedi defnyddio'r ysbrydol mor aml er mwyn ysgoi gorbrudd-der y daearol a'r presenol— un oedd wedi cael "meddyliau am y nefoedd" ar lawer dalen gudd yn nghyfrolau natur—i un oedd wedi clywed ymdaith ddi-dwrf haulfydoedd yn "teithio tuag adref"—i un oedd wedi gweled "drws y nefoedd" yn gil-agored,—hawdd iawn fyddai tynu'r lleni yn ol am foment oddiar gyfrinachau dihalog y byd a ddaw, i ddangos y cenadwr ieuanc yn deall gwasanaeth y Groes yn well yn ngoleu gwyneb Duw. Yr oedd alaw "Llwyn Onn". mesur y gân—yn gwneud y fath derfyniad dedwydd yn hollol weddaidd: oblegyd, fel y dywed y bardd ei hun, "fe gân yr alaw hon yn brudd ac yn llawen." Buasai y trawsgyweiriad barddonol o unigedd torcalonus y caban yn y coed i gymdeithas folianus yr ardderchog luoedd," yn gwneud y gân a'r gwirionedd yn gyflawn.

Pennod 14.

WRTH olrhain teithi amrywiol awen Ceiriog, gwelir yn eglur mai nid damweiniol ac achlysurol oedd ei ledneisrwydd; ond ei fod yn tarddu o ffynonellau bywiol o dynerwch. Prin y gallai un bardd fod yn fwy tyner wrth ddoluriau y galon. Yr oedd ei law fel llaw mam wrth gyffwrdd â'r blodeu oeddent wedi eu hysigo gan y gwynt, wedi eu curo gan y gwlaw. Ceir engreiphtiau o hyn mewn amryw ddyfyniadau ydynt yn barod wedi eu rhoddi; ond gan mai tiriondeb teimlad yw un o nodweddion amlycaf ei awen, y mae yn hawlio adran ar wahan.

Feallai nad yw yn addawol iawn i ddechreu gyda "sain anhynod." Ond anturiwn wneud hyny, trwy enwi "Ceffyl yr Hen Bregethwr." Y mae yn y gân hono lawer o bethau annymunol i chwaeth ddillyn —gormod o'r manwl, a rhy fach o'r awgrymiadol. Ond diau mai ballad y bwriedid hi i fod, ac felly rhaid myned drosti yn ysgafn. Beth bynag am hyny, y mae yn llawn o dynerwch, haner difyrus, haner difrifol. Prin y gwyddom pa un ai i chwerthin yn ddystaw ac yn araf, neu i—beidio chwerthin. Yr hen geffyl ffyddlon, diniwed! pwy all ei feio os oedd yn meddwl dipyn yn gythryblus am y soeg,

Tra'i feistar ar ei gyfrwy
Yn dwfn astudio Groeg?—

pwy na theimla dros ei galedi yn gorfod gwneud ei gartref lawer noson mewn tai lled annghyfanedd ac mewn cwmni digon anmharchus? pwy na edmyga ei ffyddlondeb hunanymwadol?—

Rhag tori cyhoeddiadau.
Fe dorodd ef ei hun!—

ac os oedd ei wybodaeth o'r Seisnig dipyn yn gul, pa Ddic-Sion-Dafydd sydd mor galon—galed ag edrych yn waeth arno am hyny?—

Nis gwyddai air a Seisneg,
Oddigerth Heit a Ho:
Ond ŵyr o ddim, mae'r clawdd yn dyst,
Am Heit na Ho ddim mwy na llo,
Ar ol i Angau yn ei glust
Ddweyd "Jee—Comhoder Wo!"

Chwerthin, neu beth? Nis gwn i. Bu farw heb neb yn agos i dosturio wrtho—

Ei ffarier ef yn angau
Oedd coeden ar y clawdd.

Ac y mae y bardd wedi cario ein cydymdeimlad yn ddigon pell—er gwaethaf ei ddigrifwch—i ni feddwl am rywbeth mwy na difyrwch yn y ddwy linell:—

Cyrhaeddodd ben ei daith, ac aeth
Lle'r aiff ceffylau da!

Y mae tiriondeb at fudaniaid direswm Natur yn llinell wen yn marddoniaeth y Celt. Y mae yn llareiddio dychymygiaeth serenog y Mabinogion; y mae mor amlwg yn nghywyddau serch Dafydd ap Gwilym ag yn arwrgerdd a chaneuon Hiraethog. Os mai ychydig yw y mynegiadau o'r teimlad hwn yn ngweithiau Ceiriog, y mae yr ychydig yn hollol yn ei le. Yn "Nghywydd Llanidloes"—er fod yr heliwr yn bresenol yn y bardd—ceir sylwadau pert, caredig, ar amryw o'r adar: fel y fronfraith, y fwyalchen, robyn goch, a siglen y gwys:—

Un fedr wrando ac edrych
Yn lled graff yw llwyd y gwyrch:
Chwaith nid yw'r dryw mor druan,
Ei wedd a'i gorph na fedd gân.

Clywodd y bardd gŵyn "yr aderyn caeth "—

Mae'r 'deryn yn fyw, a Rhyddid yn anwyl,
Gan adar y nef, a dynion y llawr:
Mae'r awyr yn lâs, a 'deryn yn ymyl,
Yn disgwyl ei frawd ir goedwig yn awr.

Ond y peth mwyaf swynol a wnaeth yn hyn oedd esbonio teimlad yr eneth fach yn y gân ar " Fugeil—io'r Gwenith Gwyn:

Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodeu'n dryfrith:
I gadw'r adar bach i ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.
Rhoi ganiatad i'r 'deryn tô,
A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach—
A dyna deimlad plentyn.

Y gorchwyl anhawddaf, wrth ddilyn y bardd i diriogaeth ddynol, yw, nid casglu engreiphtiau, ond dethol. Gan ein bod eisoes wedi son am ei serch at blentyndod, a'i ddarluniau prydferth o gariad mam a thad, a'i frwdfrydedd o blaid y teimlad dynol, y mae y gwaith i raddau wedi ei wneud. Er mwyn ei wneud yn fwy cyflawn, dangosir yma ei dyner—wch mewn darnau neillduol yn hytrach nag mewn egwyddorion cyffredinol.

Nid oedd neb yn rhy dlawd nac yn rhy eiddil a thruenus i gael ei gydymdeimlad, o'r telynor dall crwydrol i'r cadfridog clwyfedig ar faes y frwydr, o'r eneth fechan ddall i'r fam ieuanc yn marw. Mor dlws y mae yn dwyn "Arthur bach "i fewn yn mugeilgerdd " Alun Mabon," yn y llythyr ysgrifenodd Alun at Menna pan oedd hi wedi ei adael:

O! na chaet glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu'r nos,
Ai ruddiau bychain fel y rhos,
Yn wylo am ei fami.

A breichiau bychain y plentyn sydd yn cael gwneud yr ail gyfamodiad, pan oedd Menna wedi dychwelyd gyda'r bwriad o dori'r undeb am byth.

Cymerodd Arthur afael
Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
Fe'n hailgymododd ni.

Dyna dynerwch a dyna naturioldeb.

Y mae tynerwch a darfelydd yn ngweddi Ap Einion, pan oedd newyn yn ei orchfygu yn Nghastell Harlech:—

Mae lleithder yn y cwmwl llwyd,
A dwfr yn rhedeg draw:
Ond nid oes heddyw neb a gŵyd
Ddyferyn ar fy llaw.
O! doed y gigfran gyda bwyd,
A'r cwmwl gyda gwlaw!

Ac y mae cyfuniad o'r un elfenau yn y darluniad of fedd annghofiedig Llewelyn:—

Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A 'deryn y mynydd yn 'nabod y bedd.

Y fath diriondeb brawdol sydd yn ei ddychymyg am "Freuddwyd y Bardd," yn eistedd yn ei gadair, yn hen ac unig ar ei aelwyd weddw! ac mor natur—iol yw swn "hen glychau Llanarmon" yn y trydydd penill, un o adgofion personol ardal y "Gareg Wen!"—

Fe welodd ei hun yn priodi
Genethig anwylaf y wlad:
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu'n ei alw fe'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu
Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd—
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd!

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun:
Breuddwydiodd hen deimlad y galon
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod pobpeth yn hyfryd a hardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd!

Y mae awen y bardd wedi eistedd yn aml dan gysgod yr ywen yn nghwmni'r beddau, ac y mae rhai o'i seiniau melusaf wedi eu canu yn ymyl yr anfarwol len sydd yn cuddio'r byd a ddaw. Dyma eiriau toddedig "Y Fam Ieuanc," wrth farw a gadael ei baban bychan ar ol:—

"Fy nghyfaill bychan newydd
'Rwyf fi yn myn'd i'r nef:
'Rwy'n myned at yr Iesu,
Hen gyfaill ydyw Ef!"
Bu farw, ac hi wywodd
Fel blod yn ar y dail,
Gan ddweyd, "Fy machgen anwyl!"
Ac "Iesu!' bob yn ail.

Yn y gân ar "Flodeu'r Bedd" ceir mynegiant prydferth o'r caredigrwydd Cymreig tuag at gôf y marw—caredigrwydd sydd fel yn sibrwd yn y fynwent obaith yr adgyfodiad gwell!

'Does eisiau 'run gareg i ddangos y fan
Y gorphwys fy nghariad yn mynwent y Llan:
O'r dydd rhoed hi yno i huno mewn hedd,
Mae blodeu tragwyddol yn byw ar ei bedd.


Blodeu—a blodeu anwyldeb ei awen yntau yw y cysuron a'r gobeithion gwanwynol sydd yn blaguro ar ei holl ganeuon am ofid, ac angau, a'r bedd. Y mae gwlith y nef arnynt.

Yr agwedd uwchaf ar Dynerwch ydyw y teimlad o "barchedig ofn" yn mhresenoldeb dihalog yr Anweledig. Dyma'r tynerwch sydd yn llanw barddoniaeth y Bibl, ac yn rhoddi y fath syniad aruchel o ddwyfoldeb Natur. Yn emyn y Salmydd ac yn mhryddest y Bardd-Brophwyd ceir tywyniadau dyeithr, digwmwl, nad ydynt ddim o'r ddaear isod. Gwelir y bryniau yn llosgi yn dryloyw heb eu difa o dan olwynion fflamllyd cerbyd yr Iôr: gwelir y môr yn gostegu twrf ei dònau, ac yn llyfnhau gwyneb y glas-ddwfn dan edrychiad y llygad tragwyddol: clywir y gwyrdd-ddail Libanus, a'r blodeu yn nyffryn Saron, yn "curo eu dwylaw" wrth weled y Brenin yn ei rodfeydd. Yr un tynerwch santaidd sydd yn ngweddi yr emynydd Cymreig:—

O na b'ai gwellt y ddaear
Yn delyn aur bob un,
I ganu i'r Hwn a anwyd
I'r byd i brynu dyn!

Dyma'r teimlad hefyd sydd yn tywynu yn hyfryd yn y fath emyn-gân ag "O, na bawn yn seren," neu "Ar hyd y dolydd eang;" neu "Tuag adre'," neu Meddyliau am y nefoedd." Dymuniad ysbrydol sydd yn y weddi am fod "yn seren fach wen "

Mi dd'wedwn am ddyfnder,
A hyd, lled, ac uchder,
Eangder y nef, a harddwch y byd!

Ar y dolydd a'r llechweddau darllenai y llythyrenau euraidd sydd yn gwneud i fynu enw yr Arglwydd—

Pa beth yw'r greadigaeth oll
Ond Bibl arall Duw?


Gwelodd lwybr pob haul a seren, pob ffrydlif fach ac afon fawr, pob awel a phob cwmwl, yn cyfeirio i'r Ddinas lle mae holl ffyrdd y cread yn cyd—gyfarfod. Gwelodd

Gwelodd "feddyliau am y nefoedd" wedi eu hau fel goleuni'r wawrddydd ar dir a môr, ar lwybrau'r mellt a gorphwysfanau'r eryr, ar losg—feydd yr anial a gwyrddlesni tawel y goedwig.

Pennod 15.

Dwy ffrwd yn tarddu o'r un ffynon ydyw tynerwch ac arabedd—dagrau a gweniadau. Ar y deigryn dyfnaf y mae pelydrau araf o lawenydd yn sobr ddisgleirio; ac ar y wên fwyaf heulog y mae lleithder dagrau yn lled-aros. Gellid disgwyl, gan hyny, i'r bardd tyner fod yn fardd ffraeth; i'r telynor sydd yn ein dysgu i wylo ein dysgu hefyd i chwerthin. Dichon, beth bynag, i'r ffrwd o dynerwch fod yn gryfach ac yn loywach na'r ffrwd o arabedd: neu gall yr arabedd fod yn fwy bywiog na'r tynerwch. Gan fod y ddwy ffrwd yn ffrydiau cyfansawdd—yn gynyrch amryw gyneddfau a theimladau—y maent yn cyfnewid yn fuan o dan gyfnewidiad amgylch—iadau. Y ffrwd sydd heddyw yn rhedeg yn gul a blinedig yn sychder haf, fydd yfory yn llifo dros ei cheulanau gan y cawodydd taranau.

Fynychaf y mae arabedd Ceiriog yn ymddangos. ar ddull "ffraethineb Gwyddelig:" dweyd pethau hollol afresymol yn hollol naturiol. I egluro yr hyn olygir, cymerer yr engreiphtiau hyn; yr un gyntaf yn rhoddi teimlad y bardd mewn " gwely o Gymru:"—

Mewn gwely a gefais gan mam,
Dych'mygaf fy hunan yn cysgu;
Ond wed'yn fe drof ar fy nghefn,
Ac yna mi fyddaf yn Nghymru.

Ar fawn dolydd Ceiriog mae 'm pen
A'm traed a gyrhaeddant Lanarmon;
Ac un o bob ochr im' mae
Moel Sarffle, a Phen Ceryg Gwynion!

Petruso fel yna 'rwyf fi
Pwy ydwyf, beth ydwyf yr awrhon?—
Pa un wyf, ai Ceiriog y bardd,
Ai ynte yr hen Geiriog afon?

Eto, mewn darluniad o allu tybiedig serch:—

Draw yn Ffrainc mae'r ferch wy'n garu—
Pe bai'r môr yn sychu 'fynu:
Mi a foriwn fel aderyn,
Yn ddirwystr, trwy yr awyr, draw at rywun.

Beth pe bai hi yn y lleuad
Fel y Dyn sydd yno'n wastad?
Ni chai cariad byth ei guro
Mynwn ddefnydd rhyw adenydd i fyn'd yno.

Y mae y syniadau uchod mor eithafol o afresymol, nes bod bron yn rhesymol: felly y mae eithafion yn cyfarfod. Derbynir hwynt fel afresymoldeb yn ceisio siarad yn naturiol: a difyrir ni gan y gwrthuni.

Ond offeryn peryglus i'w ddefnyddio yw y gwrthun—the grotesque. Y mae mor ddilun, mor wamal, mor annghymesur, nes yw yr hwn a'i harfera mewn perygl parhaus o warthruddo ei hun; neu, o'r hyn lleiaf, wneud ei hunan yn wawd. Fan gofir fod etifeddion athrylith—fel Shakspere a Victor Hugo—wedi eu hanafu a'u gwanychu wrth ei arfer, nid oes eisiau tystiolaeth arall i enbydrwydd llenyddol y gwrthun.

Nid yw Ceiriog chwaith wedi dianc yn groeniach. A ydyw "Eisteddfod Fawr Genedlaethol Cyrn y Bwch, 1865," yn llenyddiaeth? Os ydyw, y mae yn rhaid i feirniadaeth roddi ei gweinidogaeth i fynu. Ond credaf na ddewisai Ceiriog i ni edrych ar y fath gynyrchion ond fel "creadau undydd." Darllenwn y tudalen cyntaf gyda rhyw faint o ddigrifwch; ond y mae y drychfeddwl yn cael ei orweithio, ac yn troi yn ddiflas. Peth poenus iawn yw methu chwerthin, pan y disgwylir i ni wneud hyny. Y mae y sylwadau yr un mor darawiadol o berthynas i'r rhigymau ar "Ddyddiau Mawr Taffi."

Dwfr poeth a chambren,
Gwellt, gwrých, a blew:
A phawb yn rhyfeddu
Fod y mochyn mor dew.

Wel—" a phawb yn rhyfeddu" hefyd fod prif ganeuwr Cymru wedi trafferthu cymaint i ysgrifenu a chyhoeddi y fath wagsawrwydd. Y mae arabedd y llenor yn urddasol; ond nid urddasol peth fel hyn. "Elfen beryglus i'w chymeryd mewn llaw yw y gwrthun (the grotesque)," meddai Deon Church, "er fod iddi ei lle fel un o offerynau effeithiolrwydd barddonol." Methodd Ceiriog—mewn cwmni anrhydeddus, er hyny!—gofio bob amser roddi ei "le" i'r gwrthun, a'i gadw yno.

Fel engraipht o gynyg mwy hapus yn nhiriogaeth yr afresymol, gellid enwi "Swyddfa'r Gwlaw." Dyna gân a'i harabedd yn cydweddu âg urddas y llenor. Gwyddom mai ffugchwedl yw, a'i bod yn odidog o anmhosibl! Ond nid yw hyn yn ein blino wrth ei ddarllen: y mae deheurwydd y bardd yn peri i ni feddwl am foment na fu erioed beth mwy naturiol na threfnu'r gwlaw mewn cynadledd ar ben mynydd. Ac y mae y dadleniad yn hynod bert. Wedi i'r Derwydd benderfynu rhoi "tri mis o heulwen," a chloi drws ei dŷ, dyna'r drafodaeth yn dechreu:—

Sef dyn y felin ddw'r
Yn d od ar ei hynt, a
Dyn y felin wynt
Yn dod am y cynta'.

Ar ol y rhai hyn,
Yn dod ar eu siwrne,
Hyd waelod y glyn
'Roedd ustus a thwrne;
A deugain neu chwaneg,
O ffermwyr yn rhedeg,
A'u gwynt yn eu dyrnau.

Neges y twrne oedd cospi'r hen Gaw
Am dori' gytundeb â phobl y gwlaw;
A neges yr ustus oedd dweyd mor annhêg
Oedd hyn â'r cwsmeriaid oedd eisiau hin deg.

Ac y mae y trawsgyweiriad annisgwyliadwy i'r di-frifol yn niwedd y gân yn effeithiol a chryf.

Medrai Ceiriog oganu yn llym. Y mae ei duchangerddi ar "Lawrence Lowe " a "Tom Bowdwr" yn profi—heblaw fod cyflawnder o benillion gwasgaredig yn profi yr un peth—nad oedd nemawr un o feiau a ffol—bethau cymdeithas wedi dianc ei sylw. Pa un sydd fwyaf dirmygus yn "Lawrence Lowe "—ai yr arwr diegwyddor yn ei greulonder cuddiedig, ei ragrith cyfrwys, a chylch truenus bychandra ei enaid—neu y masnachwyr a'u tylwythau, mor eiddil o flaen pob rhith o fawredd, mor orhoff o addoli ffugiaeth o urddasolrwydd? Y mae y gân fel cledd deufin yn clwyfo ar y naill law a'r llall.

Y mae "Tom Bowdwr" yn llawn ergydion gwatwarus, ac yn aml yn taro yr hoel fel y dylid ei tharo.

Mae arwrgerddi, meddyn' nhw,
Yn dechreu yn y canol,
Ac yn diweddu mewn ystorm
Mewn cwr o'r wasg wythnosol;
Mae awdlau a phryddestau mawr
Yn gynta'n galw'r awen:
Ac fel dallhuan hono ddaw,
Ac yna tyr ei haden.

Yr un mor frathog yw ei nodion ar wagedd achyddiaeth ar y plant yn newynu tra'r cŵn yn mwynhau bywyd bras—am anwybodaeth gwirfoddol Tom o gyfiawnder a gonestrwydd:—

Ni wyddai ef am ddeddfau'r nef
Na deddfau'r greadigaeth,
Ac nid oedd chwaith yn hidio dim
Am ddod o'i anwybodaeth.

Y mae yn hollol nodweddiadol o'i diriondeb dynol i droi cyn y diwedd i dosturio wrth ei arwr, a gwneud dyn newydd ohono; ac mor nodweddiadol a hyny i ddwyn llais y plentyn i ymyl y bedd:—

Aeth at y bedd a d'wedodd "Mam,
Mae tada genym eto!
Cyfodwch mam, mae nhad yn ol,
A ninau wrth eich beddrod:"—

a pha le mae'r watwareg?

Pennod 16.

Y MAE gan Ceiriog ddosbarth o ganeuon ydynt yn profi fod gan y bardd ddarfelydd hedegog ac eofn. O'r fath hyn ydyw "Amser yn Enwi ei Blant," "Cyfoedion Cofadwy," "Cymanfa Masnach Rydd," a'r cyffelyb. Y mae awenyddiaeth y cerddi hyn mor wlithog ac mor beraidd nes peri i ni ofidio na fyddai y bardd wedi canu yn amlach ar y tant hwn. "Breuddwydion y bardd ydynt:" os creffir, gwelir ei fod yn dra hoff o freuddwydion—breuddwydion cwsg ac effro. Yn ei riangerdd gyntaf ceir Myfanwy yn breuddwydio; ac yn ei riangerdd olaf y mae ganddo ddernyn tlws ar freuddwydion—yr hwn sydd wedi ei ddyfynu gan Llyfrbryf.

Gormod o rialtwch sydd yn ei ddychymyg am "Amser yn Enwi ei Blant." Dylai yr arabedd gerdded yn fwy gweddaidd, yn lle bod fel plentyn direidus yn rhedeg ar ol iâr fach yr haf. Am syniadau geirdarddiadol y gân—gwell eu gadael heb un gair, gan mai cellwair yn ddiau yr oedd y bardd.

A'r olaf o'r deuddeg
A enwyd ar antur;
I'r flwyddyn ddilynol
Efe oedd y Rhagfur!

"Ar antur"—bid sicr: ac "ar antur" yr oedd Ceiriog yn cynyg y fath esboniadau doniol.

Y mae breuddwyd Masnach Rydd yn dwyn agwedd arall, fwy trefnus. Hapus iawn yw y syniad am "hen lestri mawr Trafalgar" yn sefyll ar y blaen i longau'r byd, fel arwydd fod rhyfel wedi darfod. A dyma ddychymyg pert:—

Ar hyn mi welwn gastell
Yn codi yn y dŵr!
A Nefydd Fawr Naf Neifion
Oedd ar ei uchaf dŵr.

Ymgrymai'r haul i wrando,
Ar lleuad syllai' lawr:—
Hawddamor, longau'r moroedd,
Ysgydwch ddwylaw'n awr.

Ac y mae y terfyniad trallodus—" O Dduw, ai breuddwyd oedd!"—yn dweyd y cwbl oedd i'w ddweyd:—

Y lleuad giliodd ymaith,
A gwelwn wawr y dydd:
Ond nid oedd y llongau ar ganol y môr,
Ac nid oedd Masnach Rydd!

O ran hoenusrwydd y darfelydd saif "Glan Alun" a'r "Cyfoedion Cofadwy" yn uwchaf oll. Ni fu nemawr ddarlunydd barddonol yn fwy medrus gyda'i "gysgodion a'i lewyrchion" na Cheiriog yn y ddwy gân uchod. Mor ddirodres yr egyr y gân gyntaf: prin y mae ynddi awgrym o'r golled a'r gofid mawr. Y mae Glan Alun mor hoyw ag arfer yn ystafell y bardd—yn goleuo preswylfa'r llyfrau gyda'i "onest wên;" y mae yr ymgom mor gartrefol, mor naturiol. Ac y mae yr awgrymiadau o alar mor swynol yn eu murmuron dystaw—fel anadliad breuddwydiol yr hwyrnos ar ddail y ffawydden.

Chwarddasom lawer, a thaflasom wawd
Ar ffug-alaru am y brawd a'r brawd:—
Glan Alun anwyl, 'rwy heno'n dlawd!

Tylotach wy'n teimlo, beth bynag a'm gỳr:
Trist-drymach, unicach, a'm calon a dỳr:
Glan Alun, fy nghyfaill, mae rhywbeth yn fyr!

Ond annghofir y lleddf-ddaroganiad gwylaidd gan mor frwd yw y gyfeillach yn nghanol y llyfrau. Mor ddeheuig y mae hanes bywyd Glan Alun yn cael ei adrodd wrthym—a ninau fel heb wybod mai bywgraphiad y marw ydyw! A phan gyrhaeddir y dadleniad, y mae y sydynrwydd yn cael ei liniaru gan ledneisrwydd arferol Ceiriog:—

Paham y twyllaf fi fy hun!
Myfi, myfi yw'r unig un,
Heblaw aderyn bychan llon,
Sydd yn y 'stafell ddistaw hon!

Presenoldeb yr "aderyn bychan llon:"—pwy ond Ceiriog feddyliasai am goffhau hyn?

Er fod lliw annheilwng y gyfeddach ar y "Cyf—oedion Cofadwy," nis gall anafu ei newydd-der barddonol. Yr un lledneisrwydd cynhwynol sydd yma eto yn cadw y bardd rhag gwneud y du yn rhy ddu. Yr ydym fel wedi ein trosglwyddo yn sydyn i oes y Mabinogion, pan glywir y "cnoc bach ar y drws," a phan welir " ysbryd rhyw ferch ar y palmant:"

Mae ei gwisg fel yr amdo a i gwyneb yn gudd,
Ac nis gall dyn marwol ei gweled


Ac mor naturiol yw ymadawiad Iorwerth Glan Glan Aled, "mewn syndod, petrusder, a braw," gan gymeryd ei ffon gydag ef—fel pe bai'r ffordd yn arw ac yn mhell, ac yntau yn wan! Un ergyd cyfriniol wrth y drws yn cael ei ddilyn gan ergyd arall, a'r cwmni yn lleihau bob tro: Talhaiarn yn myned cyn i'r genad ei alw—y fath awgrym dorcalonus!—

A sound, as of a muffled bell!

Dim ond Glasynys a'r bardd ar ol, yn dyfod yn awr i deimlo eu hunigedd:—

E alwyd Glasynys o'r diwedd.

Y wawrddydd wèn a esboniodd

Mai merch Brenin Angau, ac nid Prinses Clod
Oedd wedi myn'd gyda'm cyfeillion!

Ond nid yn unig mewn darnau cyfain y mae Ceiriog yn profi nerth ei ddarfelydd. Y mae ei farddoniaeth yn llawn o'r cyferbyniadau medrus hyny sydd yn arddangos y llygad craff—y llygad all alw holl ranau yr olygfa o'i flaen ar unwaith, ac a gydia bellderau â'u gilydd mewn amrantiad. Yn ei gân i'r "Lili Lon" ceir cyffyrddiadau bychain esmwyth fel hyn:—

Yn yr haf y lili wena
Yna'r gauaf oer a'i gwywa:
Ond mae Lili'r Bryniau'n ddedwydd
Haf a gauaf fel eu gilydd

Ambell waith rhuthra ei awen trwy randir yr ofnadwy, fel yn ei ddarluniad o frwydr "Marwolaeth Picton:"—

Mae gynau'n cynhesu,
A dynion yn oeri!

neu yn fwy tawel fel hyn (" Mab y Plas Gwyn "):—

A gwrid ei ieuenctyd yn fyw ar ei wedd,
Ond dwylaw Marwolaeth o Cano.

Bryd arall yn ngwlad gwanwyn a serch, y mae yn gweled rhyfeddodau fel hyn:——

Ei gwddf oedd fel y lili wen,
A nos o wallt oedd ar ei phen:

neu ddarlun mewn lliwiau fel hyn:—

Lili y dyfroedd a gymerth i'w bron,
Fantell ysgarlad ar wyneb y dòn.

Y mae ganddo gân fechan—"Ti sy'n rhoi, O, nefol Dad "—yn yr Oriau Olaf, wedi ei chyfansoddi bron yn gyfangwbl ar gyferbyniadau; a rhai ohonynt yn dra effeithiol. Meddylier am y syniad hwn o garedigrwydd Duw yn rhoddi cwsg i'r afiach yn ei boen, a gorphwysfa i'r enaid blin yn mynwes Iesu:

Ti sy'n rhoi, O! Nefol Dad,
Falm i gysgu yn mhob clefyd.

****
Draw ar fynwes Mab y Dyn
Y mae melus, melus hun!

A thrachefn, mewn cyfeiriad arall:—

Eist at un a'th garodd fwyaf,
Byw yn unig allem ni,
Tros y bychan sydd yn huno;
Ond aeth ef at Iesu Grist
'R Hwn fu farw hefyd trosto.

Ac yn derfyn ar yr oll, hwn—y tyneraf o syniadau ysbrydol:—

Ddoe dan ddwylaw angau trist,
Heddyw'n mreichiau Iesu Grist.

Yn lle bod yr Oriau Olaf yn dangos y darfelydd wedi llesghau, y mae rhai o'r caneuon mor brydferth a dim a ysgrifenodd. Y mae "Neithor Adda" yn rhy drwsgl: nid cân llenor mohoni, ond—Wedi gadael hono a rhigwm "Evan Benwan," yr ydym yn dyfod i lwybrau mwy dyogel. Nid oes ond hawddgarwch y dychymyg yn disgleirio trwy y fath ganeuon a Gwraig y Llong a Merch y Fellten," "Ni bu farw un," Priodas yr Asgell Fraith," ac "Wrth rodio un Prydnawn." Y maent oll yn hedfan dros ffiniau y materol; ond y maent mor naturiol a llewyrch yr haul rhwng glasgoed, neu oleu y lloer ar y werdd-dòn. Ac ni fu ei ddychymyg yn fwy ysgafn—galon erioed nag yn rhai o'r caneuon hyn. Y mae yr adar yn "Mhriodas yr Asgell Fraith" yn adar mor òd o ddynol; pa un ai

Gwas y Gog i'r briodas hon
Yn colli diwrnod gwaith,—

neu "Aderyn y Tô yn myn'd o'i go'," wrth ddweyd "lwc dda! lwc dda!"—neu'r Dryw

yn hwmian un, dau, tri,
A phedwar, pump, chwech, saith.

Mewn teimlad arall y mae y dychymyg yn canu "Ni bu Marw Un." Yn y gân fechan, gelfydd hono, y mae y bardd yn rhoddi mynegiant dedwydd i ystyr gyfrin anfarwoldeb llenyddol. Y mae bywyd ac awen y bardd a'r cerddor yn aros mewn dylanwad anweledig yn nheithi cenedl—yn aros ar ol i'r enw fyned yn ddim ond adgof bell.

Er fod genym faen-gofebau,
Er fod genym alarebau,
Yn ein plith mae'r hen wynebau—
Ni bu marw un.

Nac oes, nid oes arnynt feini,
Ond mae angel ifanc heini
Arnynt yn tragwyddol weini—
Ni bu marw un.


Y mae yntau bellach wedi ymuno â'r "anweledig gôr," ond mor felus yw adlais ei delyn yn ngherdd ein gwlad!

"Ti nid wyt, fy Chwaer," yw teitl un o ganeuon ei gyfrol olaf: ac y mae tlysni ysbrydol y gân yn arwain y meddwl yn agos iawn i'r llèn sydd dros ddisgleirdeb y byd anfarwol. Darlunia yr enethig hoff wedi rhodio rhyw ddiwrnod ar làn yr Afon Ddistaw, pan ddaeth "cwch ysblenydd" yn rhy agos ati.

Hwyliau sidan gwyn oedd ganddo,
Gynau gwynion wisgai r criw;
'Roedd dyeithriaid arno'n rhwyfo,
Ac angylion wrth y llyw.

Cymerasant yn ddystaw ar y bwrdd yr hon oedd wedi cerdded yn rhy agos i'r làn; ac yn y goleuni y diflanodd y cwmni disglaer. Pa le yr oedd hi ni wyddai y bardd; ond os oedd rhywun yn y nefoedd yn son mwy am Iesu na'r llall dyna lle y ceid hi! Awel yr Afon sydd yn murmur trwy y gân—ac eto, nid yr afon ddu, dymhestlog, ag sydd mor fynych yn ngolwg yr emynydd Cymreig; ond afon yn llifo yn araf, ddigynhwrf; a'r blodeu gwelw ar y làn yn cusanu'r tònau; a phren y bywyd yn taflu ei gysgod dihalog dros ei dyfroedd rhyfedd.

Pennod 17.

I ADAEL tiriogaeth y beirniad llenyddol am enyd, cymerwn gipdrem ar addysg Ceiriog mewn moes a chrefydd.

Gydag ychydig eithriadau, nid oes dim yn ngweithiau Ceiriog i ddolurio moesoldeb na gwarthruddo crefydd. Buasai yn dda genym pe gellid taflu mantell hud—fel "llen Arthur yn Nghernyw dros ei ogan ar S.R., fel na welid y gan byth ond hyny. Y mae yn greulawn o annheg at un o ddewrion yr oes.

Ond, fel rheol ceir ef yn gadarn o blaid y gwan a'r diniwed. Y mae ei ganeuon goreu yn dysgu y cydymdeimlad mwyaf caruaidd at yr amddifad, y weddw, y tlawd, a'r anffodus. Canodd "Tom Bowdwr" er mwyn dyrchafu gonestrwydd; canodd yn aml ar ran y tafod glân a'r gair didwyll. Dysgodd wŷr a gwragedd i annghofio beiau, a meithrin rhinweddau eu gilydd. Dysgodd y fam i weled delw angylion y nefoedd yn ngwyneb ei phlentyn; dysgodd y plentyn i edrych yn ol yn llygad ei fam, i weled yno adlewyrchiad o oleuni llariaidd y Cariad Tragwyddol. Dysgodd feibion a merched i rodio yn yr ardd rhwng blodau serch, ac i ofalu rhag y twyll a all ddamnio dau enaid.

Dysgodd wersi crefyddol a theimladau duwiolfrydig. Darllenodd santeiddrwydd y Tragwyddol ar lesni'r nef ac ar brydferthion y ddaear. Gwelodd hudoliaeth ysbrydol gweddi mam a thad ar yr aelwyd. Ni annghofiodd ragorfraint yr Ysgol Sul: a phwy ddywedodd air mwy tyner am y "Beibl mawr?" neu am y weddi daer, yn mhryddest Jona?

O weddi daer! tramwyfa wyt,
I lu o engyl deithio I lawr i'r dyfnder at y gwan
I roi ei hedyn drosto.

Safodd yn fynych yn ymyl y bedd, a gwelodd. oleuni pell anfarwoldeb yn disgleirio rhwng canghenau wylofus yr ywen: edrychodd i lawr—

Mae blodeu tragwyddol yn byw ar y bedd.

Ehediad aruchel darfelydd ydyw diweddglo y gerdd fechan—" Pa le mae fy nhad?" Y mae un o'r syniadau mwyaf treiddgar yn yr oll o'i farddoniaeth wedi ei gyfleu mewn llinellau mor dlws a hyny.

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried ir nefoedd mae'r weddw a'i phlant,
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wâd
Fod byd anweledig os collodd ei dad.


Y mae y syniad yn ymddangos i mi yn hollol newydd. Gwelais rywbeth cyffelyb iddo yn un o benillion y bardd Ellmynaidd Goethe: lle y dywedir fod yr hwn na fwytaodd ei fara gyda dagrau, yr hwn na eisteddodd ar ei wely gan wylo trwy gydol y nos ofidus—fod hwn heb eto ddyfod i adnabod y galluoedd Anfarwol.[21] Gofid fel cyfrwng datguddiad—gofid yn lledsymud y llen oddiar ffenestri y tragwyddolfyd—dyna destyn y ddau. Y mae yr Ellmyn, fel arfer, yn fwy cyffredinol, yn fwy arddansoddol (abstract) yn ei syniadaeth. Ond gan y bardd Cymreig y mae y tynerwch, y mireinder; ganddo ef y mae yr hyfrydlais lleddf sydd yn siglo ei aden i fro bellaf yr enaid.

Pennod 18.

Y MAE yn rhy gynar i geisio olrhain dylanwad Ceiriog ar lenyddiaeth ei wlad ac ar ddiwylliant ei genedl. Ac eto nid teg ei adael heb ychydig nodiadau.

Naturioldeb yw nodwedd amlycaf ei waith: ac y mae naturioldeb yn ddylanwad nad yw byth allan o'i dymhor yn llenyddiaeth unrhyw wlad.

Y mae hyn yn wir mewn ystyr neillduol am farddoniaeth Gymreig. Tuedd barhaus y gynghanedd yw meithrin ieithwedd addurniadol a meddyliaeth gymysglyd. Y mae eisiau rhyw allu fel Ceiriog yn dystiolaeth fyw i ddangos mor swynol yw'r syml. Nid yw yn hawdd bod yn syml; ond cymerodd Ceiriog boen i fod yn ddirodres ac yn ddillyn. Wrth fod yn syml nid aeth yn benrhydd. Y mae yn werth i'r cynghaneddwr ei efrydu er mwyn dysgu cyfrinach meddyliaeth glir: y mae yn werth i'r hwn sydd well ganddo'r mesur rhydd ei efrydu er mwyn dysgu perseinedd, a hoenusrwydd, a chelfyddgarwch.

Gwnaeth Ceiriog wasanaeth annhraethol i'w oes wrth ei harwain i gymdeithas agosach â Chymru Fu. I'r werin a'r miloedd rhaid i gasgliad hynafol Myfyr fod byth yn drysor cudd: ond yn nghwmni geiriau Ceiriog y mae hen alawon ein gwlad yn dwyn yn ol i ni deimlad cenedlaethol oesau gynt. "Ni bu marw un." Pa le mae telynor y Gododin? neu gymmrodoriaeth ddiwyd Gruffydd ab Cynan? neu ddiwygwyr pybyr Eisteddfod Caerwys? Y mae yr ysbryd a siglodd eu henaid i'w cerdd yn anfarwol; a phwy ŵyr nad oes rhai o'u seiniau hwy ar led gwlad heddyw yn nghaneuon ein bardd? Y mae eu hysbrydoliaeth yn aros, mor brydferth ag erioed; y mae yn corphori ei hun mewn ffurfiau newyddion yn barhaus. Y mae yn newid, ond yr un ydyw; y mae yn llenwi meddyliau lawer, ond y mae unoliaeth gyfrin yn dwyn yr oll i un dyben, i un gwaith.

Braint y bardd yw breuddwydio yr oes ar ei ol Os cododd Ceiriog y llèn lwydoer oddiar Gymru Fu, safodd hefyd yn y ffenestr ddeheuol i weled gobeithion Cymru Fydd. Pa faint o'r cyffroad presenol sydd wedi ei raglewyrchu yn ei farddoniaeth ef? Pan ganodd ef ei gynghor dedwydd—"Siaradwch y ddwy "—oni ragflaenodd y symudiad sydd ar droed i wneud plant Cymru yn Saeson heb iddynt beidio bod yn Gymry? Y mae pob diwygiad yn farddoniaeth cyn bod yn ffaith. Y mae Heddyw yn troi breuddwydion gloywon Ddoe yn weithredoedd byw. Onid ydyw felly gyda chaneuon gwladgarol Ceiriog? Os mai ar dònau ei freuddwydion ei hun y nofiai ei lestr ar ddechreu ei oes lenyddol, cyn cyrhaedd ei diwedd yr oedd yn nofio ar donau y llanw gwladgarol sydd yn cryfhau yn Nghymru bob dydd. Yn ei gyfrol olaf y canodd fel hyn:—

Os ydwyt gan henaint â'th goryn yn wyn,
Mae'th wlad eto'n ifanc a'i braich yn cryfhau:
Os croni'n y bryniau bu dyfroedd ei dawn,
Mae foru yn d'wedyd—"Gwneir pobpeth yn iawn!

Ac yn ei gân olaf y dywedodd fod—

Arthur arall yn ei gryd,
Wrth fyned ar i lawr.

Y mae Cymru'n holi—Beth ddaw o'r Arthur hwn?

CYNWYSIAD.

DARLUNIAU
AMSERONI

PENNOD I.
Absenoldeb Caneuon yn Llenyddiaeth gynar Cymru.—Awgrym—iadau am lenyddiaeth Cymru Fu.—Geiriau gwreiddiol alawon poblogaidd

PENNOD II.
Ystyr fanylaf y term, Cân.—Tarddiad a swyddogaeth y Gân.—Nodiadau Ceiriog ar y Gân...

PENNOD III.
Tarddiad llenyddol y Gân yn Nghymru'r oes ddiweddaf.—Y De—ffroad yn y 18fed ganrif.—"Naturioldeb tryloyw" y Cynfeirdd a'r Mabinogion.—Lewis Morris a'i gyfoeswyr.—Symudiad cyfochrog yn y Dehcudir.—Dylanwadau llenyddol tramor.—Béranger. —Burns.—Dylanwad cyfrin symudiadau llenyddol grymus.—Béranger a Burns yn Nghymru.—Oferedd prisiadau llenyddol

PENNOD IV.
Dylanwad amgylchoedd naturiol boreu oes.—Shakspere a Landor wedi eu geni ar lan yr Avon.—Emynwyr Dyffryn Towy.—Dyffryn Ceiriog: ei ddau ganeuwr.—Argraph Dyffryn Ceiriog ar farddoniaeth y ddau.—Dameg ar ansawdd farddonol Ceiriog.—Gweddillion traddodiadol yn Nyffryn Ceiriog.—Cofiant Burns yn ei ganeuon.—Adgofion Ceiriog am ei febyd. —Gorhoffedd yr Athrylith Geltaidd at le.—Cydmariaethau: Gaelaidd a Llydawaidd

PENNOD V.
Gadael Cartref.—Cymrodoriaeth lenyddol yn Manchester.—Ei gysylltiad â Baner ac Amserau Cymru.—Gohebiaeth nodwedd—iadol. Newyddiaduriaeth yn annghyfeillgar i ffurfiau uchaf llên.—Gohebiaeth Syr Meurig Grynswth


PENNOD VI.
Alawon Cenedlaethol: eu dylanwad ar ysgrifenwyr Caneuon.—Hoffder Ceiriog o'r Gân —Rhaid i'r Gan wrth ffurf naturiol.—Methiant, a llwyddiant.—Gormod meddwl yn gamgymeriad. Cyfrinedd. Yr ieuad prydferth. Engreiphtiau.. —Tair Cân ddewisol....

PENNOD VII
Ffurfiau barddonol.—Cynghanedd. —Diweddebau egwan. —Meth—iant mydryddol: ei ragoriaeth, arferol.—Cwmni da.—Yr odl ddwy—sill

PENNOD VIII.
Testyn y Gân.—Burns yn gwneud chwyldroad.—Caneuon yfed.—Cywirder syniad moesol Ceiriog ar hyn.—Yn anffyddlon i'r syniad.—Y "sain anhynod."—Poblogrwydd ei Ganeuon Dirwest.—Caneuon eraill o'r un drâs.

PENNOD IX.
Caneuon serch.—Yr esgynfa foesol.—Trwy holl dymhorau einioes. —Cariadbwnc Myfanwy Fychan.—Alun Mabon. Shakspere yn tynu llun y "carwr cywir."—Caru ar ol priodi.—"Yr Angel yn y Ty."—Henaint.—Cân olaf y bardd.—Amryw brof—iadau Serch yn cael eu hadlewyrchu yn ei ganeuon. rhieni. Plant. —Y Fam —Caneuon

PENNOD X.
Rhyfel.—Adsain, yn hytrach na llef bersonol.—Ei deimlad dynol.—Caneuon Hela.—Ysbryd yr oes.—Ceidwad—aeth beirdd Seisnig." Locksley Hall," ddwywaith.—Perth—ynas barddoniaeth â gwyddoniaeth ddiweddar.—Brenin y Ffyrdd.—Yr elfen farddonol mewn bywyd cyffredin

PENNOD XI.
Caneuon Gwerin: Volkslieder.—Un pwnc i fod mewn Chwedl—gân."Yr Eneth Ddall."—Baledau.—Baledau Cysegredig.—Traddodiadau ar Gân.—Glasynys a Cheiriog

PENNOD XII.
Y Rhiangerdd a'r Fugeilgerdd


PENNOD XIII. Lledneisrwydd teimlad.—Ymdrin â thrueni yn awenyddol.—"Llongau Madog." Y Llythyrgod."—Ar faes y frwydr.—"Hela'r Ysgyfarnog."—Diweddglo.

PENNOD XIV. Geltaidd.—"Breuddwyd y Tiriondeb.—Anifeiliaid.—Nodwedd Bardd"; ei acen bersonol.—Ffurf uchaf Tiriondeb yw gwylaidd barch at yr Anfeidrol

PENNOD XV. Arabedd.—Ffraethineb Gwyddelig.—Y gwrthun yn arf peryglus. —Swyddfa'r Gwlaw.—Gwawdiaeth

PENNOD XVI. Darfelydd. —"Breuddwyd Masnach Rydd." Dwy Gân arbenig

Moesol a Chrefyddol. Awgrym sy'n ddatguddiad. —Penill Goethe

PENNOD XVIII. Ei ddylanwad gwasanaethgar </poem>


LLYFRYDDIAETH CEIRIOG (Bibliography).

1.—ORIAU'R HWYR: Rhuthyn, 1860. Argraphiad Newydd: Wrexham, 1872.
2.—ORIAU'R BORE: Rhuthyn, 1862. Ail Argraphiad: Wrexham.
3.—CANT O GANEUON: Wrexham, 1853.
4.—Y BARDD A'R CERDDOR: Wrexham, 1864.
5.—GEMAU'R ADRODDWR: Wrexham, 1865.
6.—AWDL Y MOR: Treffynon, 1866.
7.—ORIAU EREILL: Wrexham, 1868.
8.—ORIAU'R HAF: Wrexham, 1870.
9.—YR ORIAU OLAF: Liverpool, 1888.





Nodiadau

[golygu]
  1. (28 Ebrill 1844 – 8 Mai 1895)
  2. Y Cymmrodor, i. 148; et passim
  3. Victorian Poets, E. C. Stedman, 101.
  4. The Nineteenth Century, vii., 484: "Burns and Béranger."
  5. Heroes and Hero-Worship, chap. v. 175.
  6. Gwel Y Traethodydd, am Ion. 1888, 58. Pan ystyriom grefyddolder Eben Fardd ac anweddaidd-dra difloesgni llawer o ganeuon Béranger, yr oedd hon yn rodd anmwys.
  7. Yn yr un ardal yr ysgrifenodd Ficer Pritchard "Canwyll y Cymry"; ac y mae llawer o'i benillion bron bod yn emynau.
  8. Y Geninen, v 149.
  9. Aspects of Poetry, 298; s. v. Modern Gaelic Bards
  10. Yr oedd Ceiriog wedi syrthio mewn cariad â'r gân hon; gwel Y Bardd a'r Cerddor, 115, 116.
  11. Shairp's Aspects of Poetry, 198—'99
  12. Y Geninen, vi. 76.
  13. O gywreinrwydd, dyfynwn yma linellau o eiddo y prif-fardd Gaelig Ossian yn darlunio codiad haul:
    Tha tonnan a' briseadh 's a' falbh,
    Gu domhail fo'n garbh eagal féin,,
    Tad a' cluinntinn thu 'g eirigh le fuaim,
    O thalla nan stuadh, a ghrian.
    Yn Gymreig fel hyn:—
    Y tonnau ymddrylliant ac ymgiliant,
    Gan dyru yn eu dirfawr ofn,
    Fel y'th glywant yn codi gyda sŵn
    O ystafell y dòn, O! Huan.
    Paham y dywedai'r bardd fod yr haul "yn codi gyda sŵn?" pha gyfathrach feddyliol oedd rhyngddo a'r bardd Cymreig yn hyn?
  14. The Works of Burns: Letter Ixix.; vol. iii. 134.
  15. Ymadroddion cellweirus Rosalind: As you Like it, Act iii., Scene 2.
  16. The Epilogue from The Angel in the House—Coventry Patmore
  17. Y penill a ddyfynwyd (tud. 266) o chwedl delyneg Coventry Patmore—"The Angel in the House."
  18. Rhieingerdd
  19. Bywgraffiad Ceiriog, 13, 14.
  20. Dywedai y beirniaid (Eben Fardd, Cynddelw ac Ioan Emlyn): —
    "Y mae llawnder, difyrwch a bywiogrwydd darluniadol Pen-nant' yn rhyw haner cam o flaen Burns" (y nesaf ato).
    —Yr Eisteddfod, i. 265.
  21. Wer nei sein Brod mit Thranen ass,
    Wer nicht die Kummervollen Nachte
    Auf seinem Bette weinend sass,
    Der kennt euch nicht, ihr himmlischen Machte.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.