Neidio i'r cynnwys

Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain/Awdl gan Dafydd Owen, y Gaer Wen

Oddi ar Wicidestun
Awdl gan Gruffydd Williams, Braich Talog Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain

gan Cymdeithas y Gwyneddigion

Testyn y flwyddyn 1804

AWDL

AR YR UN TESTYN GAN ELIWLOD:


GWNA WEN yn egnïawl,loew wisgi
Felysgerdd hiraethawl,
I ORONWY ŵr unawl,
Gynt o Fôn à gant wiw fawl.

Awdurol goffadwriaetho urddas
I arddwr Barddoniaeth;
Addurn ei Areithyddiaeth,
Oedd ffrwd o gynghanedd ffraeth.

Diwyd ydoedd yn deawr,o'i fynwes,
Wiw feini tra gwerthfawr ;
O'i law wen yn loew ei wawr,
Mewn munud daeth maen mynawr.

Ei genedl á ddigonoddalmariau,
Amêr-wawd á huliodd;
Mêl a Gwin llawn rhîn yn rhodd
O'i fronau á gyfranodd.

Ffynon o werthfawr hoff enainteilwaith
Ni welwyd ei chymaint;
Tarddodd o hon (bron er braint)
Loew foroedd o lifeiriaint.

Pum mwy addysg pe meddwn,gwiw rinwedd,
Goronwy mynegwn;
Ei fawl haeddawl cyhoeddwn,
Ar hyd yr holl-fyd mawr hwn.

Drwy'r ddoniawl dra hardd Ynysgwiw arddel
Ei gerddi yr ydys;
Coelbrenau (lampau di lys)
I dori dadlau dyrys.

Telyn oedd yn ein talaith,a'i mesur,
A'i musig yn berffaith:
Ei gerddi gleiniawg urddwaith,
Blawd aur ynt, blodau yr iaith.

Pybyr abl iawn eryr bri blaenoriaeth,
Un dewri gyrhaedd hynod ragorwaith
Disglair, a dewis gadair dysgeidiaeth,
Campau a rhinweddau 'r awenyddiaeth.

Traethai Goronwy, trwy waith gwyrenig,
Am newidiadau mwya' nodedig:
Gwyddai gylchoedd y bydoedd gwibiedig,
A llewych y rhodau llacharedig.


A thynged daiar galed, a'i dirgeloedd,
Y naturiaethau hynota' a'r ieithoedd,
Rheolau 'r lleuad; yr haul a'r holl luoedd,
Creaduriaid gloewon crwydredig leoedd.

Tra hanesiol fu am y teyrnasoedd,
A'u treigliadau, eu tir, a'u goludoedd;
Mewn gwin odlau per am hen genedloedd,
D'wedai eu gwychion odidog achoedd.

Mwyn gain wawdydd, mynegai 'n odiaeth.
Am y derwyddon a eu medryddiaeth,
A'u haddas godiad i wiw ddysgeidiaeth,
Gan hoew nofio uwch eigion hynafiaeth.

Hanesydd a phrydydd ffraeth,
Gloew ddifeinydd celfydd coeth,
Gwiw a myg weinidog maeth,
Y dwyfol air disglair doeth.

A gwiw gain addurn gogoneddus,
F' eiliai lawenaf fawl haelionus.
O ei ddwys galon ddiesgeulus,
I Dduw nefolaidd yn ofalus.

Ei ganiadau gwiw a hynodol,
Enwawg o synwyr yn gysonol,
Ynt gyflawn o feriawn anfarwol,
A dewr hediadau awdurdodol.


Eiliai GORONWY liwgar enwawg,
Odlau digoll diwael hedegawg,
Yn ail i ARTHUR ddonio! wyrthiaw
Neu'n ail LLYWARCH Hén alluawg.

Celfydd dafodrydd fydrwawd,lais anwyl,
A seiniodd a'i dafawd;
Yn ddifai eiliai folawd
Oddwyfol sylweddol wawd.

Ffrwyth rhywiog osglog á gesglir,odiaeth
Dda oruchafiaeth á ddyrchefir;
Gwin melys á ganmolir—G'ronwy ffraeth
A'i wir ofyddiaeth á ryfeddir.

Iaith Gomer a'i theg emau,o bob iaith
Tra bu byw yn orau,
Hon á garodd, enwog eiriau,
A'i godidog wiw gydiadau,
A'i choronog iach hoew rnau,
Ei theg ruddyn coeth a'i gwreiddian,
Ei phrif oludoedd a'i pher flodau—cain
Wir gywrain ragorau.

Elfen ei awen loew fenywaidd,
Lon eres oleu wen risialaidd,
Oedd gwau sain foddog iesin feddaidd,
Bêr a dewisol baradwysaidd.

Ei gywir wresawg awenloew emog
Dychlamai drwy'r wybren,

Seiniai, chwibanai uwch ben,
Fel ëos nefol lawen.

Asgenawl ydd esgynaiyn ffrochwyllt,
Hoff wreichion gwasgarai,
Heb len drwy'r wybren yr ai,
Ar Gerub hi ragorai.

Yn ei gân deg o'r lana'
Cair bryn goruwch dyffryn da,
A maenol gerllaw mynydd,
Weithiau 'n fôr maith iawn hi fydd.

O gu lem wiw golomen,gem aur dêg,
Cymmer daith trwy'r wybren,
Manol chwilia, fy meinwen,
Am ail y Bardd hardd a hên.

Trwy ddyffryn tiredd Affrig—heb arddel
Ond beirddion dysgedig,
Gwaelawd Asia dda heb ddig,
Cwm Ewrop ac Amerig.

Ydwyf wedi dewr ymholi 'n daer am haeledd,
Ond er teithio, neu er chwilio 'n hir, a choledd.

Ni chair cydmar i'r bardd llafar,
Ar y ddaiar i'w orddiwes:
Nid oes elfydd i'r awenydd,
O ymenydd hoew a mynwes.

Bro Gwalia odidog bêr glodadwy
Trwy ei hardaloedd tra rhed Elwy,
Tra llef dwfr—dwfn, tra llifo Dyfrdwy
Trwy oesawg genedl, tra sio Conwy,
Ni chair, ofnir meddir mwyysblennydd,
Wiw liwgar awenydd, ail GORONWY.

Rhagorol seren olau huan mawr,
Yn mysg y planedau;
Cedrwydden aeg wen yn gwau,
Y' nghanol y canghenau.—

O! lân wen gân yn gwenu,
Yn canlyn mae dychryn du,
Clwyf saeth? och clywaf ei si,
A chyllaeth yn archolli.

Pôr da hynod geirwir, Prydeiniaid á garodd,
Ond trwy naws ymadaw o'n teyrnas symudodd,
Tros Atlantic i Dir Americ draw moriodd;
Goruwch eigion Neifion ewyngroch, gwiw nofiodd,
I wlâd y Gorllewin loew dêg ŵr y llywiodd,
Trwy odiaeth Ragluniaeth ar y tir dieithr glaniodd.

Cymru flin ar fin mawr for,
Galarus ei gwael oror.
Ei Haul hoff araul à ffodd,
O'r golwg draw e giliodd,
Machludodd a rhodd aur hîn,
Iarll hoewaidd i'r Gorllewin.

O! Gronwy dêg o ran dysg,
Gwel dir dy Dad yn wlad lesg,
Cymru flin acw mor floesg
A'i Barddoniaeth mewn gwaeth gwisg.

Tir Môn glau mewn trwm iawn glwyf;
Duoer nych o'th fyn'd ar nawf;
Yn gaeth hi wnaeth yn ei nwyf,
Wyneb prudd am ei maen prawf.

Diammeu o'i fyn'd ymaith,hynt wallus,
Tywyllwyd ein talaith;
O ddiffyg ei dda effaith,
Gwywo, marweiddio mae'r iaith

Pan giliodd huan golaue ddrysodd
Yr iesin blanedau;
Yr wybren eglurwen glau
Wnai ollwng ei chanwyllau.

I'r urddedig dorf ddysgedig, loew Wyneddig,
Lawen addas,

Ei brif odlau fyddent flodau eu da gyrddau,
Wiwdeg urddas.

Ond er gofwy du safadwy dwys ofidiant,
Yn deimladwy am Oronwy y merwinant.

O'i wir abl nodded rai blynyddau,
Enrhyg á yrodd yn rhagorau,
O wresog oludog eiliadau
Bywiol, adref o'i wiw belydrau.

Ond er's dyddiau a ni'n dristeiddiol,
Mud yw'r hyddysg ŵr ymadroddol;
Ei eirioes hanes, mae 'n resynol,
Yma ni feddwn, y'm anfoddol.

A'i gwyll du sy'n gallu dal,
Y gwresog loew-lamp grisial?.

A'i tymest o wynt damwainadeiniawg,
Fu'n dwyn GRONWY OWAIN,
Tra'r ym ni heb si ei sain,
Mor wywedig yn Mhrydain?

O Fardd! am dano gwae fi
Fy nygiad i fynegi.

Am Oronwy Owain trwm yw'r newydd,
Sy gredadwy, goeliadwy drwy'r gwledydd;
Y gair du 'n benaf á gredwn beunydd,
Heddyw marwol ydyw'r mawr wyliedydd.

Weithion fy nharo wnaethost,"
O glywed hyn ceis glwy' tost.

Y fynwes gan riddfanauoer iawn yw,
A'r wyneb yn ddagrau,
Trwy iâs dost yr wy'n tristhâu,
Merwino mae fy mronau.

Am farw Gronwy, wr myfyrgar union,
Mawr o goddiant ir holl Gymreigyddion;
Y mae eu cenhedl yn drom eu cwynion,
A duoer yw alaeth daiarolion,
Gwlyb o'u dagrau yw 'r Glob dew-gron—gan gaeth
Gûr hir, a chyllaeth, a geirw archollion.

Wedi huno'n hynodawl,a darfod
Ei yrfa ddaiarawl,
O fro'r gwg aeth fry i'r gwawl,
O rhoddes grêd gyrhaeddawl.

I noddfa Awenyddfawrei thannau,
Aeth enaid y cantawr;
Rhoed harddwch ei lwch i lawr,
Tir Americ, trom orawr.

Mewn cauedig gell gloedig,lle egredig,yn llygradwy
Yn mhriddellawg waelod beidiawg bedd graianawg—bydd Goronwy

Nes dêl yr awr (naws dawel wyrenig)
I nôl ei ddyweddi anwyl ddiddig,
A'i air i'w chyfodi 'n dderchafedig:
Yn Sion eglwyslon glau,
Yn anwyl caffer ninnau,
Yn gyflawn o'r ddawn bêr ddoeth,
Adeiniawg a di annoeth,
Newydd felyslon AWEN,
I wau emynau: AMEN.
—ELIWLOD:

Sef Dafydd Owen, y Gaer Wen, plwyf Llan Ystumdwy.

Nodiadau

[golygu]