Awn, bechaduriaid, at y dŵr
Gwedd
| ← Mae'r iechydwriaeth rad mor fawr | Awn, bechaduriaid, at y dŵr gan William Williams, Pantycelyn |
O! Dewch i'r dyfroedd, dyma'r dydd → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
290[1] Cyflawnder Gras.
M. C.
1 AWN, bechaduriaid, at y dŵr
A darddodd ar y bryn;
Ac ni gawn yfed fyth heb drai
O'r afon loyw hyn.
2 Mae yma drugareddau rhad,
I'r tlawd a'r llariaidd rai,
A rhyw fendithion maith yn stôr
Sy fythol yn parhau.
3 Ni flinwn ganu tra fôm byw
Yr oruchafiaeth hyn
Enillodd Iesu un prynhawn
Ar ben Calfaria fryn.
4 Fe welir myrdd, 'mhen gronyn bach,
O'r dwyrain ac o'r de,
Yn cydatseinio'n hyfryd am
Ei ryfedd gariad E'.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 290, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930