Baled am bechod William Evan, Trefddyn (1737)/Penillion ystyriol rhagorol
| ← Baled am bechod William Evan, Trefddyn (1737) | Baled am bechod William Evan, Trefddyn (1737) gan William Evan, Trefddyn |
Pedwar pennill Newydd yn dangos rhan o da Arferion Pobloedd 1735 → |
Penillion ystyriol rhagorol yn dangos nad oes ag na fy ag na fydd dim waeth na phechod, pob meddwl gair a gweithred croes i Ewyllys Duw a elwyr yn bechod.
Deuter. 28. Levit. 26
Os dewch yn nes yr holl gwmpeini,
Chwi gewch glywed Addysg genni,
Mewn Cynghanedd a scrythyre,
Fel a ddysgodd Duw i mine.
2 Rhoes fy amcan an holl feddwl,
ddychymig hyn o gwbwl,
A chyd chwilio trwy gydwybod,
Pwy ddrygioni sydd mewn pechod.
3 Dywaid llawer wrth draws amcan
Nad yw pechod ond peth bychan
Nid yw câl y sarph ond blewyn
Dug y bigad fywyd chwippyn.
4 Rhaff yw pechod sydd yn llusgo,
Pob drygioni lle bo'n trigo,
Haint a newyn plag a rhyfel,
Sydd yn canlyn gwas y cythrel.
5 Digio Duw mae'r bai Esgymyn,
A throir wyneb glân oddiwrthyn,
Stoppi glustie rhag ym gwrando,
Y mae pechod brwnt swthero.
6 Ni bysse neb yn gwisgo dillad,
On bysse bechod or dechreuad,
Na thrallodion ar ddyn byw,
On bysse bechu'n erbyn Duw.
7 Ni bysse hau ni bysse heinar,
Ni bysse rhaid llafurio 'r ddaiar
Na bwytta bara'n chwys y talcen,
On bysse bechod brwnt Anghymen.
8 Ni bysse Achos Adeiliadu,
O ni bysse y dynion bechu,
Nag un clô ar ddrws neu brennol,
O ni bysse'r pechod marwol.
9 Ni bysse ddim ond gwir ym ddwedyd,
Heb Anudoniaeth yn y hollfyd,
Nag un Jaith ond un ym ddiddan,
Oni bysse'r pechod Aflan.
10 Ni bysse ddiawl ni bysse beene,
Ni bysse uffern na diale,
Ni bysse Losgfa tân tragwyddol,
Oni bysse'r pechod marwol.
11 Digio Duw bodloni satan,
Y mae pechod fawr a bychan,
Twyllo dynion wrth degane,
Werthu'r nef y brynu poene,
12 Tost oedd dial trwm oedd distruw,
Bu 'n y cynfyd gan a Dilyw,
Gynt ar ddynion a nifeilod
Hwnnw ddaeth yn achos pechod.
13 O pwy chwipe annwyl blentyn,
Ond y beche yn ei erbyn,
Duw ni chosbe ddyn a thrallod,
Oni bau achofion pechod.
14 Achos pechod mae pob battel,
Pechod sydd yn tynnu rhyfel,
Nid oes drwg ir wlad yn dyfod.
Ond y sydd yn acho pechod.
15 Os yw'r wlad yn ofni Rhyfel,
Treisio'u meddiant lladd y cenel,
Gadawn bechod tra fom Buw.
Cawn heddwch dyn a chariad Duw,
16 O gwnau ddaioni ym mhob amcan,
Da fydd hynny y ti dy hunan,
Os dilynu ddrwg yn ddyfal,
Ty di a'th hun a ddwg y dial.
17 Gwasanaetha Dduw o Eitha'd allu,
A gad bechod i newynu,
Cau ddedwyddwch dan'd' ofergod,
Os ymrhoi di adel pechod.
18 Dwyn y deyrnas dwyn y goron,
Oddiar Frenhinoedd mawrion,
Y wna pechod Chwip ar frys,
Os cae barch tŷ fewn ir llus,
19 bwrw cedyrn at bonddigion,
Tu hwnt ir drws oi teie mawrion
Y wna pechod lle bo'n 'tifedd
A throi trigfa'n anghyfannedd.
20 Gwerthwys llawer ei meddiane,
A thref tadath ei hen deide,
Waith byw'n afer yn ei pechod,
Au hiliogaeth heb un cwsgod,
21 Llosgwyd miliodd am ei beie,
Crogwyd myrddiwn o fyrddiwne,
Cafodd cannodd ei llabyddio,
Achos pechod ei condemnio.
22. Er ei Dduw trwy wir ddoethineb
Wneuthur pob peth mewn ffyddlondeb,
?tifarodd Duw er hynny,
Wneuthur dyn am iddo bechu,
23 Ci cynddiriog ar gyndaredd,
Gyllt wenwynllyd dyn ei ddannedd,
Corph a cholyn llym yn gwarchod,
Sy'n gwenwyno dyn yw pechod.
24 Mil o farre fydd yn barro
Purth y nef Rhag myned yno
Allwydde'n dacloi'r drws uffernol,
Yw'r gwrthnebus bechod marwol.
25 Y mae'r maen or mun yu llefain
As trawst yntef yn cyd ochain,
Ddydd a nos ynghlustie'r drindod
Arr Dduw ddial camwedd pechod.
26 Fe orf y'r mammau trwy wylofain,
Lladd a bwytta i plant ei hunain
A'r Tad ei Fab o hir newyndod
Dim fyw'n ddibris yn ei ei pechod.
27 Drwg iw Satan au dduchellion,
Drwg yw'r gwenwon ladde ddynion
Drwg yw'r ferth ar holl wiberod
Ond oes dim mor ddrwg a phechod.
28 Trwm yw'r anhap trwm yw'r aflwydd
Trwm yw'r cwilydd trwm yw'r gwradwydd
Trwm yw'r Dial fydd yn dyfod,
Trwm y sawl fy'n pechu'n wastod.
29 Nid oes achos wrth swyddogion
Nag un carchar bollt na chyffion,
Nag un cerydd trwy'r awdurdod,
Duw y sydd er cosbi pechod.
30 O Pwy wnele yn wyllylgar,
Y peth wype fydde'n difar,
Nid oes dyn or byd a becho,
Na ddel hynny'n 'tifar iddo.
31 Yr hwn nad elo yn etifar
Am ei bechod ar y ddaear,
Fe fydd hwnnw mhwll uffernol,
Au difeirwch yn dragwyddol.
32 Pe Dioddefyd dan dy losgi,
Llew dy ddryllio dwr dy foddi
Neu dy Rhwygo Rhyng bwystfilod,
Etto'er hynny gochel bechod,
33 Pe na chilut cymmer addysg,
Rhag y trwst ar cerig cenllusg,
Etto'er hynny cila i gysgod,
Rhag y cas wrthnebus bechod.
34 Pe dioddefyd hyn o drwbwl,
Sarph au cholyn bigoth sowdwl,
Ag nas ofnit unrhyw drallod,
Gochel cila Rhag y pechod.
35 Y mae'r Tad ar mab ar Ysbryd,
Ar angelica Sanctaidd hefyd,
Ar Efengyl ou phregethu,
fydd yn Annog peidio pechu.
36 Y Rhai fy'n uffern yn y poeni,
Am ei pechod au drygioni,
Un't yn dymuno a gwyllyssu,
bob crision beidio pechu.
37 Fellu'n Nefoedd au hangelion,
A phwll uffern au drigolion,
Sydd yn gwrafyn dyn i bechu,
Nid oes ond Satan yn gwllyssu.
38, Nid oes dim ag attal dyn,
Y fynd ir nef at Dduw ei hyn,
Na dim yn damno y uffern issod,
Ond y cas echr ydys bechod.
39 Ni bysse'n Rhaid yr Jesu farw,
Doddef drosom loeson chwerw,
I'n Rhyddhau or poen tragwyddol,
Oni bysse'r pechod Marwol.
40 O gan hynny heddyw heno,
Tifarwn am aeth heibio,
Trwy'r ail berfon yn y Drindod,
Ni gawn fadde'r diffaith bechod.
41 Nef yr hwn au cano'n gofus,
Af i rhai gwrandawo 'n barchus;
A llle dwede'r sawl au clywo,
Af yr hwn au gwnaethe i drigo
William Evan o blwyf Trefethin yn
Sir Fynwy au Canodd
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.