Neidio i'r cynnwys

Baled am drychineb gwaith glo Dinas y Cymer, Pontypridd, 1844

Oddi ar Wicidestun
Can newydd—yn rhoddi hanes y modd dychrynllyd y taniodd y damp, yn ngwaith Glo Dinas Y Cymer, gerllaw Pontypridd.1844

gan Richard Hughes (baledwr)

CAN NEWYDD,

YN RHODDI HANES

Y MODD DYCHRYNLLYD

Y TANIODD Y DAMP,

YN NGWAITH GLO DINAS Y CYMER,

Gerllaw Pontypridd,

Lle ca'dd Deuddeg o Golliers eu Diwedd,

AC AMRYW ERAILL EU CLWYFO,

Ar Ddydd Llun, y 1af o Ionawr, 1844.

Enwau ac Oedran y rhai a ga'dd eu diwedd.

Thomas Rowlands 51, a'i ddau fab, John Rawland 14.
David Rowland 9. Gadawodd wraig a phedwar o blant.
Thomas Morris 48, a'i ddau fab, Willian Morris 17,
Lemis Morris 12. Gailapdd wraig a thri o blant.
David Job 33, Gadawodd wraig a thri o blant.
William Harris 20.
David Phillip 22
Edward Powell 21
Thomas Leytham 17
David Morgan 14.


Cenir ar "Bryniau'r Iwerddon."

1
Neshewch y Gymry mwynion trwy'r De a'r Gogledd dir,
I wrando trist alariad sydd ganiad lawn o gur
Yn awr er poen a thrallod trwy'r ardal hynod hon
Er loes i galon dyner, a braw i lawer bron,


2.
Trwm newydd sydd yn tramwy yn nechre'r flwyddyn hon,
Mae llawer iawn mewn galar—Morganwg oll o'r bron:
Rhyw erchyll boen a thrallod sy'n dyfod nos a dydd;
Trwy Bontypridd a'r Dainas mae pawb a'u bron yn brudd.

3.
Er hyn mae trefn rhagluniaeth uwchlaw pob deall dyn,
Am ddyben doeth damweinia' ni wyr ond Duw ei hun;
Er bod hwy weithian'n chwerwedd a thrymedd yma a thraw,
Yr Arglwydd sy'n teyrnasu, mae'r cyfan yn el law.

4.
Ow! ow! hen angeu ingol echryslon boen a chri,
Ca'dd lawer brofi archoll oer ddyrnod genyt ti:
Rhoist faith esgoriaeth buan, hyll brofiad llawer bron,
Chwanegaist at ein poenau ya nechrea'r flwyddyn hon.

5.
Sef mil wyth cant o flwyddi, chwe saith mlwydd gyda dwy
Oedd oedran Crist yr Arglwydd, ca'dd deuddeg farwol glwy
Dydd Llun y cynta' o Ionawr, er galar dirfawr bwys,
Aeth rhai'n i'w gwaith yn gywrain, fel Colliers dewrion dwys.

6.
Ond erbyn myned yno, er galar traethu 'rwyf,
Y Damp ya fuan daniodd—i lawer rhoddodd glwyf
Y tân yn gwau trwy'r celloedd, aruthrol drwg ei hynt,
Gan chwythu glo yn ddarnau ac attal ffordd y gwynt.

7.
Fe glywyd twrf dychrynllyd gan bawb dros bellder maith,
Arswydus oedd yr olwg with edrych tua'r gwaith;
Sgrechfeydd y gwragedd ydoedd yn adsain trwy'r holl gwm,
Roedd pawb mewa aeth a thristwch a'u calon fel y plwm.

8.
Ar ol i'r tan ehedeg, y sulphur codi wnaeth,
A deuddeg o eneidiau a ddaliwyd yno'n gaeth;
Gwnaeth rhai'n eu dirfawr ymdrech i ddianc maes i gyd,
Ond Brenin Dychryniadau ddaeth atynt yn ei lid.


9.
Caw'd llawer iawn o honynt yn gorwedd yn'r un man
O! olwg (pwy all draethu) arswydus ddaeth i'w rhan;
Y plant yn wylo dagrau ger bron y tadau'n llu,
A phawb yn ngafael angau,—pwy draetha fel y bu?

10.
Fe losgodd rhai o honynt yn nghanol fflamiau tân,
A'r lleill yn mogi fyny a chwedi altro'u gran,
Yn ddeuddeg celain farwol o dan y ddaear ddu:
Pwy galon sydd na thodda wrth glywed fel y bu?

11.
Yr olwg gafwyd arnynt yn nghelloedd daear lawr,
Fu'n agos a llewygu y rhai sy'n fyw yn awr:
Un rhyfedd yw rhaglunineth, neu olwyn arfaeth Duw,
Trwy dân a mogi hefyd mae'n symud dynolryw.

12.
Y gwyr y borau hwnw yn gado'u gwragedd mwyn,
Ychydig a feddyliwyd f'ai angau yn'eu dwyn;
A gadael gwych rieni wnaeth dirion feibion dwys:
Maent oll yn gwybod heddyw fod angau'n beth o bwys.

13
Ond cyn y nos er dychryn cyfarfu rhai a loes,
Roedd llawer yn gyrff marwol a therfyn ar eu hoes,
A rhai ag esgyrn briwllyd, a da cael bod yn fyw:
Ansicr ydyw'n hamser, does neb a'i gwyr ond Duw,

14.
Y chweched dydd o Ionawr y cawd eu cyrff i gyd,
Ac yn y dyddiau hyny rawd i'r tragwyddol fyd;
Roedd ysgrechfeydd feddylid o fewn y level lo
Pan yn rhyfela'g angau—pwy ddyn anghofia'r tro?

15.
Pwy ddyn all ddirnad meddwl rhai ddaeth i'r lan yn fyw,
Am gael y waredigaeth trwy ddoeth drugaredd Duw:
Rwyf fel pe bawn yn meddwl fy mod yn clywed llef,
"Rwy'n diolch am fy mywy i Awdwr da'r a nef."

16.
Does dim ond tristwch calon trwy'r Dinas Cymar gu,
Och'naeidio dwys ar achwyn a glywaf ym mhob ty

Y wraig ar ol ei phriod sy'n llefain yn ddiwad.
A'r plant yn dorcalonus gwnant ofyn am eu tad.

17.
Mae yno wragedd gweddwon a calon dan eu cur.
Mewn galar mawr ac alaeth, a hiraeth dyddiau hir
Rhydd wiwlon blant amddifaid ochenaid oer a chwyn
Mae'n mamau'n drwm eu calon ar ol eu meibion mwyn.

18.
Roedd tri o'r dynion diwyd ga'dd ddyrnod angau du
Yn berchen wragedd gweddaidd, rhai llonwedd yn mhob llu
Gadawsant blant amddifad yn ddigon oer eu cwyn,
Yn gyflym gwelsant golled ar ol eu tadau mwyn

19.
Aeth naw o fechgyn ifainc i'r trag'wyddoldeb mawr,
Yn mlodau dyddiau diddan y torwyd hwynt i lawr
Man tadau rhain'au mamau bob dydd mewn galar days,
A'u brodyr a'u chwiorydd mewn hiraeth pena pwys

20.
"Does neb all ddirnad cyflwr y gwragedd mwynion mad,
Eu mheddwl am eu priod a'r plant ar ol eu tad:
Ond Duw a fyddo'n gysur i'r weddw ag i'r tlawd,
Ac hefyd i'r amddifad fe fydd yn dad a brawd

21,
Boed Duw i bawb o dylwyth y meirwon oll i gyd
Yn brysur amddiffynnydd tra bo'nt yn hyn o fyd,
A dyga hwynt i'th foli, a hyn heb unrhyw boen,
Nol hyny hwy gant ganu, Hosana byth i'r Oen

22
O byddwn bawb yn barod pan ddel y ddyrnad ddwys,
Pryd hyn bydd rhaid i ninnau fynd dan y genfedd gwys
Ansicr ydyw'n hamser, molianwn Grist yn ben
Ac yn ni gawn foli yr Arglwydd byth. Amen.

Richard Hughes, a'i cant,



Argraffwyd gan Williams a Jones, Merthyr

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.