Beddau'r Proffwydi (drama)/Act 2
| ← Act 1 | Beddau'r Proffwydi (drama) gan William John Gruffydd (1881-1954) |
Act 3 → |
YR AIL ACT.
(Parlwr tŷ capel Siloh, tuag wyth o'r gloch ar noson waith. Yn y cefn, ar y llaw chwith, ffenestr fach heb na gorchudd na dim arall arni. Ychydig yn nes i'r dde na'r canol y mae'r drws sy'n arwain i'r capel, a'r drws arall sy'n arwain i'r ty ar yr ochr chwith,—dyma hefyd y ffordd allan. Ar yr ochr dde, tân mawr, a phump neu chwech o gadeiriau breichiau plaen a chaledion o flaen y tân. I'r chwith iddynt, bwrdd ysgwâr a gorchudd coch arno, ac ar hynny y mae Beibl mawr, llyfr hymnau a llyfrau cyfrifon. Rhwng y bwrdd a'r drws allan, y mae mainc neu ddwy o ffawydd melyn; yn wir, ffawydd melyn yw'r holl goed sydd yma. Ar y pared, astell a thyrrau o lyfrau'r ysgol blant arni—llyfrau gleision mewn amlen bapur, a'r cwbl yn ddrylliog; pentar o Destamentau a chloch fechan. Ar y mur, lluniau pregethwyr mewn ffram fawr dan y teitl "Cenhadon Hedd." Map o wlad Canaan; poster yn hysbysu'r "Athrofa," cyhoeddiad enwadol; a modulator. Yr argraff a roir arnoch gan y cwbl yw rhywbeth rhwng ysgoldy, llys bach yr ustusiaid a waiting—room mewn gorsaf. Lamp fawr yn crogi o'r nen, a maneg wedi ei chlymu ynddi.
Dafydd Dafis yn eistedd yn fyfyrgar o flaen y tân. O'r capel daw swn gwan y dôn olaf cyn gorffen y seiat:—
Dy dang-nefedd. Dy dang-ne—fedd,
Dy-ro ini yn bar-haus.
Y Drws allan yn agor, a Huw Bennet yn dyfod i fewn gan sychu ei draed yn ofalus, a chwythu allan ei fochau. Tyn ei het a'i gôt, a chymer bibell glai hir o'r gongl, a'i llenwi à "baco'r achos" sydd ar astell uwch ben y tân. Wrth wneuthur hyn, y mae'n siarad â Dafydd Dafis.)
HUW BENNET. Hylo! sut 'rydech chi heno, Dafydd Dafis? Ydi'r teulu acw yn weddol gynnoch chi?
DAFYDD DAFIS. Wel, ydyn, am wn i, ond mae'r wraig acw'n cwyno hefo'r asma yn ofnatsan iawn. Wn i ddim beth i neud;—mae hi'n mygu'n lân.
HUW BENNET. Twt, twt; aros gormod i fewn rydech chi, yn y twll myglyd acw. Mi fyddai yn synnu atoch chi na fasech chi'n retirio bellach, a chitha wedi gwneud cymint o brês. Tasa'r Gelli acw yn talu hanner cystal i mi a'r siop i chi, welsa neb ol yr un o nhraed i yn y tir byth wedyn.
DAFYDD DAFIS. Wyddoch chi ddim am dani hi, Bennet bach,—ddim. Rydech chi'n siarad fel het, ydech byth o'r fan yma. . . . Sut mae nhw yn y Gelli?
HUW BENNET. Symol iawn yden ni i gyd. Mae Lowri acw yn beichio crio ddydd a nos yn ddidor deryn; welis i'r fath beth erioed. . . . Does fawr iawn o lun arna inna chwaith.
DAFYDD DAFIS. Tewch, da chi; beth ydi'r mater? Dydech chi ddim wedi cael colled tua'r Gelli acw?
HUW BENNET. Hy! colled wir!—dyna chi bobl y siopa bob amser yr un fath;—fedrwch chi feddwl am ddim ond colli ac ennill. Wyddoch chi beth, Dafydd Dafis—(yn codi)—dydw i'n hitio dim hynna—(yn clecian ei fysedd)—faint o golledion gaiff fy mhoced i—does genni ddim plant i boeni yn i cylch—os peidia'r amgylchiadau a brifo nghalon i, a f'ysbryd i. Ryden ni gyd wedi cael dyrnod go drom, goelia i, bawb yn yr ardal yma.
DAFYDD DAFIS. At beth yr ydech chi'n cyfeirio, Huw Bennet?
HUW BENNET. Ond wyddoch chi'n iawn gystal a finna i beth yr yden ni fel swyddogion yn cyfarfod yma heno: dyna'r clwy sydd arna i, os oes arnoch chi eisio gwbod.
DAFYDD DAFIS. Diar annwyl, fydda i byth yn gadael i bethau amherthynasol fel yna y mhoeni i. Mae'n rhaid ini fel swyddogion neud yn dyledswydd, waeth pa mor atgas fo hynny.
HUW BENNET. Nid yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd heno,—dydi hynny nag yma nag acw yn y ngolwg i— nid dyna sy'n fy mhoeni i gymint, ond meddwl am y diodde y mae Robert William a'i deulu diniwed wedi gael, a meddwl am Emrys, y creadur gwirion iddo fo. Wyddoch chi be',—rydw i wedi gorfod codi gefn nos, yn methu cysgu gan gwilydd wrth feddwl am danyn nhw—y fi, Huw Bennet y Gelli, sy wedi dwyn mwy o ffesants nag a welodd Emrys Williams erioed, a nhraed yn rhydd yn fy nhŷ fy hun, a fy ngherdded yn sicr yn Seion, ag Emrys Williams, un o'r proffwydi hynny fydd yr Arglwydd yn eu gyrru mor anamal, yn y carchar cyffredin—(crescendo)—yn y jêl fel lleidr, a thacla'r llys a'r carchar yn hel i hen facha aflan hyd—ddo,—a hynny am ddim, ac i ddim pwrpas. (Yn cerdded o gwmpas.) Fyddwch chi'n rhegi weithia, Dafydd Dafis? Na fyddwch o ran hynny, mi wranta . . . ond rydw i newydd ffeindio fod hen eiria ddysgis i'n ifanc yn dwad yn ol i mi—a diolch i Dduw am danyn nhw hefyd!
DAFYDD DAFIS. Hisht! tewch, tewch, ddyn! Beth tasa rhywun yn ych clywed chi?
HUW BENNET. Waeth gen i, waeth gen i. mae hen deulu gonest yn rhoi'r gair gore i bawb ac yn talu'i ffordd heb fod arnyn nhw ddim i neb yn i haeddu oddiar law y wlad? Rhoi'r mab yn y jêl hefo'r lladron a'r puteiniaid? . . .
(Drws y capel yn agoryd. Swn traed rhai yn mynd allan, a'r gweinidog, William Prichard a Mr. Humphreys yr Ysgol yn dyfod i fewn. Pawb yn nodio y naill ar y llall. Distawrwydd. Ochenaid ddislaw. Symud cadair. Trwst traed.)
AZARIAH EVANS. Welis i monoch chi yn y seiat, ers tro, Dafydd Dafis?
DAFYDD DAFIS. Wel, naddo—methu'n glir a gadael y siop. Mae'r hogyn acw mor ddiymddiried, a'r arian mor brin.
AZARIAH EVANS. Lle'r oeddech chi heno, Huw Bennet?
HUW BENNET. Dim blas i ddwad yno, Mr. Evans.
AZARIAH EVANS. Wel, ie; mi allai'ch deall chi'n iawn. Does gen inna fawr iawn o flas ychwaith, ond yr oedd yno fwy nag arfer heno. Mae rhai pobol, os gwelan nhw rywun wedi troi'r drol, yn rhedeg o bob man i gweld hi ar lawr.
MR. HUMPHREYS. Mr. Evans! fyddai hi ddim gwell ini fynd at waith y cyfarfod: mae hi'n mynd yn hwyr, a gore pa gyntaf i neud gwaith diflas, meddai un o awduron y Saeson, "Do an unpleasant task at once."
(Pawb yn eistedd o gwmpas y bwrdd, Mr. Evans a'i gefn i'r ffenestr, a Mr. Humphreys hefo llyfr cofnodion wrth ei ochr.)
AZARIAH EVANS I. Annwyl frodyr,—prin mae rhaid imi ddeud hanes yr helynt yma wrthoch chi. . . y—y. . . gwyddoch o i gyd gystal a minna. . . os nad gwell. Wel. . . fel hyn y mae petha . . . 'rydech chi'n gweld. . . mae'r ddisgyblaeth eglwysig, os ydech chi'n deall,—hynny yw, os ydw i'n gneud y mater yn glir i chi. . . rhaid i chi gofio fod y ddisgyblaeth, yn gofyn inni—mewn ffordd o siarad— (yn torri i lawr)—Mr. Humphreys, busnes i ddyn fel chi ydi hwn,—gwnewch chi o. (Yn eistedd i lawr.)
HUW BENNET (yng nghlust y gweinidog). Mi gneith yr hen sgŵl o wrth fodd i galon. . . mêl ar i fysedd o ydi peth fel hyn.
MR. HUMPHREYS (mewn llais cras awdurdodol, ac yn siarad trwy'i drwyn). Wel, gan fod Mr. Evans wedi bod mor garedig a rhoi'r mater yn fy llaw i, mi wna i fy ngore i gyfleu'r peth o'ch blaen yn hollol gydwybodol heb droi i'r dde na'r aswy. Gwyddoch fod rheolau'n disgyblaeth ni yma yn yn rhwymo ni i ddisgyblu unrhyw un a dorro gyfraith y wlad. Yn awr, dyma'r cwestiwn sydd i'w benderfynu—beth yw torri cyfraith gwlad, ac yn ail, pwy sydd i ddweyd fod y gyfraith wedi ei thorri? Ai'r eglwys sydd i ddweyd ynte'r llys gwladol? Wel, 'does ond un ateb i'r cwestiwn yna—y llys gwladol wrth gwrs, gan mai cyfraith wladol ydi'r gyfraith. Yn awr, y mae Emrys Williams, y Sgellog, wedi ei gael yn euog o dorri'r gyfraith, ac wedi ei roi am dair wythnos yng ngharchar Tre'rcaerau. (Huw Bennet yn tynnu ei ffunen: y Gweinidog yn rhoi ei ben i lawr.) Felly, yr wyf fi'n dal ei bod yn unol â'n cyfansoddiad ni fel enwad ag eglwys i dorri o allan o freintiau'r eglwys. Ni fydd unrhyw gyngor arall a rown i'r eglwys yn unol â'n hamodau a'n haddunedau fel blaenoriaid.
(Yn eistedd i lawr, gan edrych am gymeradwyaeth o'r naill i'r llall, dyn yn leicio clywed swn ei lais ei hun.)
HUW BENNET. Rhoswch chi funud, Mr. Humphreys. Nid rhoi'r mater yn gydwybodol," chwedl chithau", ydi peth fel yna, ond rhoi'r ochr ddua yn erbyn Emrys. Mae yna ochr arall i'r cwestiwn. Hwyrach na fedra i mo'i brofio o, ond mi rydw i'n dweud wrthoch chi—(yn taro'r bwrdd)—fod Emrys y Sgellog wedi diodde anghyfiawnder melltigedig. Beth sydd i ddisgwyl pan fo dim ond meistriaid tir ar y fainc? Wel, rwan, y syniad i am yr eglwys ydi y dylai hi unioni pob cam y mae'r wladwriaeth yn i wneud, ac nid i ddyblu o. . . .
MR. HUMPHREYS. Twt, twt! ych mympwy chi'ch hun ydi peth felna. Wyddoch chi ddim fel mae John Stuart Mill yn deud.
HUW BENNET. Stiwart be ddeudsoch chi?
MR. HUMPHREYS. Stuart Mill, yr athronydd enwog.
HUW BENNET. Beth waeth gen i beth mae'r Sais y felltith yn i ddeud. . . heblaw mod i'n gwbod i fod o, pwy bynnag oedd o neu ydi o, ar ochr y sgweier, fel pob Sais, a phob sgwl hefyd o ran hynny, Wyddoch chi be? 'does gen i ddim cydwybod o gwbl fel sydd gynnoch chi. . . . Dydi'r Gelli acw, frodyr, ddim yn godro digon o wartheg i fforddio cadw cydwybod fel un Mr. Humphreys, ond mae gen innau yn fy nghyfansoddiad rywbeth sy'n gneud yn lle cydwybod—rywbeth sy'n brifo, brifo, ddydd a nos, pan fydd cam yn cael ei wneud â'r gwan. Wel, heb siarad ychwaneg na hollti blew, rydw i fel un yn cynnig yn bod ni'n gadael y mater yn y fan y mae o... a chyn hir, mi rydw i yn mynd i hel enwau i gael anerchiad a thysteb iddo fo..
WILLIAM PRICHARD. Oes rhywun wedi bod yn siarad hefog o?
AZARIAH EVANS. Do, mi fum i, ond soniais i air am i helbul o, wrth gwrs. Fedrwn i ddim, wir. 'Roedd y syniad fod un o ddynion ifanc goleua'r wlad yma— dyn wedi cael manteision addysg penna'r oes, dyn sydd yn mynd i'n helpu ni i ymladd yn erbyn anwybodaeth a drygioni; . . . roedd meddwl fod hogyn fel yna wedi bod yn y carchar cyffredin yn Nhre'rcaerau yn y ngyrru i o ngho.
DAFYDD DAFIS. Ie.—'r ffordd galed," chwedl yr hen lyfr ffordd y troseddwr sydd galed."
HUW BENNET. Hogyn wedi i fagu yn annwyl ac yn ofalus gan i dad a'i fam a'i nain.... (Yn torri i wylo.)
MR. HUMPHREYS. Twt, twt! Sentiment noeth— dydech chi'n ddim ond lwmp o deimlad, Huw Bennet.
WILLIAM PRICHARD. Eh? Ydi o'n ymddangos yn edifeiriol, eh? Eh?
MR. HUMPHREYS. Nag ydi. Mae o mor ffroenuchel ag erioed.
HUW BENNET. Beth sydd eisio iddo fo fod yn edifeiriol? Wnaeth yr hogyn ddim drwg.
AZARIAH EVANS. Naddo.
WILLIAM PRICHARD (hen ddyn bach cneclyd teneu). Wel, chi wyddoch i gyd na fydda i byth yn gwthio fy syniadau ar neb, ond rhaid i mi ddeud y mod i'n cyd-weld â Mr. Humphreys yma, ynte? . . . "BALCHTER O FLAEN CWYMP," ynte? meddai'r hen bobol. Eh? Felly y gwelis i hi erioed. Roedd o'n deud wrthon ni yn yn gwyneba yn bod ni'n gul ac yn rhagfarnllyd, am yn bod ni'n gwrthod rhuthro i neud y petha mawr yr oedd o am neud. Ond dyna my lord wedi bod yn y jel,—a ninnau'n dal yn ein parch o hyd.
HUW BENNET. Parch gythraul!—dyna chi yn y ngyrru i i dyngu mewn tŷ capel. Dyma'n ffordd ni yng Nghymru bob amser, ffordd William Prichard y London. Os bydd dyn i fyny, pob help iddo i fynd yn uwch, i edrych a gawn NI rywbeth gynno fo; os bydd y dyn ar lawr, sathrwch, sathrwch ar i ben o! (Yn gafael yn ei het.) Waeth imi fynd adre ddim,—mi wela mai i ddiarddel o newch chi.
DAFYDD DAFIS. Rhoswch funud, Huw Bennet, peidiwch a bod mor frysiog, a da chitha, cedwch tipyn gwell rheolaeth ar ych tafod. Mae pobol y Sgellog yn gwsmeriaid da yn y siop acw, a mae nhw'n rhoi'n haelionus at yr achos hefyd,—fynnwn i mo'u digio nhw er dim.
HUW BENNET. Hy! mi wela y gall Demas helpu'r diniwed weithia,—ond i chi ddeall cwlwm i bwrs o.
AZARIAH EVANS. Mae'n hawdd iawn canfod nad ydech chi'n unfryd ar y cwestiwn yma. Os ydw i'n deall yn iawn, dydi Huw Bennet yn meddwl dim llai o Emrys wedi iddo fod yn y carchar. Mae Mr. Humphreys am fynd ar ol i gydwybod, a waeth peidio siarad dim pellach hefo fo.
MR. HUMPHREYS. Na waeth ddim.
AZARIAH EVANS. Ac wrth gwrs, mae'i gydwybod o ar ochr y sgweier a'r ustusiaid; mae William Prichard yn gweld cyfle i dorri tipin ar grib annuwiol y balch— a 'dydi Dafydd Dafis ddim wedi gorffen adio'r sym eto. Felly, ryden ni'n rhannol iawn ar y mater.
MR. HUMPHREYS. Rhannol? Beth ydi'ch barn gydwybodol chi, Mr. Evans?
AZARIAH EVANS. Mi ddeuda wrthoch chi mor blaen ag y medra i. Rydw i'n mynd yn hen ddyn, ag mae'n nyddiau goreu i wedi pasio ers tro. Mi fum i'n arfer meddwl, fel pob pregethwr arall, mai'r gwaith gora fedran ni wneud i Grist a'n gwlad oedd byw yn ddiargyhoedd oddiwrth y byd, a rhoi esiampl o fywyd pur a glân a di-fai i'r wlad. . . . Mi dreies i wneud hynny—chi wyddoch na fum i fawr o bregethwr erioed . . . ond rydw inna'n dechreu blino ar fyw fel deryn mewn cage.
MR. HUMPHREYS. Rydw i'n gobeithio nad ydech chi wedi newid ych barn ar bynciau mor hanfodol.
AZARIAH EVANS. Wel do, welwch chi, yr ydw i wedi newid tipyn ar fy marn yn ddiweddar yma. (Yn codi ac yn cerdded at y tan.) Pa gamp ydi byw yn barchus i mi? Wyddoch chi i bod hi'n haws imi fyw yn sobor ac yn barchus na byw fel arall? . . . Aha! . . . Pe baswn i yn oed Emrys Williams, ac yn gwybod yr hyn wn i heddyw, nid byw yn barchus a phlesio mympwyon hen ferched a ffyliaid fyddai ngwaith i, yr wy'n siwr. Frodyr annwyl, fuom i erioed yng ngharchar fel Emrys, a wn i ddim a ddylwn i fod yn neilltuol o falch o hynny ai peidio. Mae William Prichard yn taflu mai dyn wedi methu ydi Emrys . . . nage wir, ond i chi roi i gyfle iddo, a does gan neb i gyfle yng Nghymru os na bo fo'n aelod crefyddol . . . . Ond dyma i chi hen ddyn wedi . . . methu. (Yn pwyntio ato'i hun.)
HUW BENNET. Tewch a chyboli wir, Mr. Evans . . . . Llawer gwaith y deudodd Emrys wrtha i mai chi roes fwya o help iddo o bawb.
MR. HUMPHREYS (yn wawdlyd). Cyhuddiad go ddifrifol yn erbyn gweinidog yr efengyl ydi deud i fod o'n helpu pobol i garchar!
HUW BENNET. Tomos Wmffra, mae dy galon di wedi pydru oddi fewn iti ers blynyddoedd . . . pah! Dafydd Dafis, ar ych pleidlais chi y mae pethau'n dibynnu; er mwyn hen bobol garedig y Sgellog, newch chi bleidleisio i gadw Emrys ym mreintiau'r Eglwys?
WILLIAM PRICHARD. Wyddwn i ddim fod cael aelodaeth yn yr Eglwys yn gymint yn i olwg o. Pa wahaniaeth wna hynny iddo fo?
HUW BENNET. Hyn. Mae'r hogyn druan wedi torri i galon, ag mae i fam o yn deud mai disgyn i iselder a dibrisio'i hunan neith o os digwydd rhywbeth yn bellach iddo fo. Tasan ni'n medru cael yr eglwys i ddangos i chydymdeimlad, mi fasa hynny yn i roi ar i draed eto.
DAFYDD DAFIS. Wel, does genni ddim yn erbyn yr hogyn.
(Curo wrth y drws. Robert ac Elin William yn dyfod i fewn yn gynhyrfus, a Robert William yn rhuthro ymlaen at y bwrdd.)
ROBERT WILLIAM. Maddeuwch imi am ddwad yma —fydda i byth yn trwblo llawer arnoch chi, ond rydw i wedi perswadio Emrys, ar ol llawer iawn o grefu, i ddwad yma i ddeud gair o'i blaid i hun, os ceith o.
AZARIAH EVANS. Caiff, wrth gwrs, Robert William. Ewch i eiste munud, ych dau, i'r capel tra byddwn ni'n gorffen rhyw bwnc bach sy o dan sylw.
ROBERT WILLIAM. O gymdogion annwyl! ffrynds, ffrynds! Nid dwad yma i ofyn cyfiawnder rydw i, ond i ofyn trugaredd! Nid dwad yma i amddiffyn Emrys, ond i ofyn am gymwynas ar ych llaw chi. Huw Bennet, dwad wrthyn nhw na fu nag na grwgnach erioed i neb yn y Sgellog: dwad wrthyn nhw mai fi, a nhad o mlaen i, sydd wedi codi gefn nos i nol y doctor at bawb yn y pentre: dwad wrthyn nhw na fu neb erioed ar y ngofyn i a mynd adre'n waglaw . . .
ELIN WILLIAM. A deudwch chitha, Mr. Evans, yr hyn wyddoch chi am Emrys a'i weledigaethau—rydech chi'n i ddeall o. . . . Oh, fedrwch chi feddwl, frodyr, am i ddwylo o, dwylo cryfion i wneud petha a chynnil i lunio byd newydd, fedrwch chi feddwl am danyn nhw'n pigo ocwm?. . . neu'r meddyliau fu'n ceisio cynllunio Cymru newydd yn hedeg yn wyllt hyd y wlad, a'r meddyliwr i hun rhwng pedwar mur carchar y sir . . . A! (Yn torri i wylo.)
HUW BENNET. Peidiwch a styrbio'ch hunain, wir, cyn bod raid, gymdogion. Ewch i'r capel am funud, da chitha. (Yn agor drws y capel. Y ddau yn mynd allan i'r capel.) (Wrth y lleill.) Rydech chi i gyd yn gweld sut mae petha. Pa raid sydd arna i i siarad dim mwy? Mi alla inna ddeud fel Mr. Evans—mi a fum ieuanc, ac yr wyf yn awr yn hen—ond welis i mo'r cyfiawn na'i blant yn cardota'u bara, naddo wir, nag yn cardota trugaredd ychwaith. Dafydd Dafis, ydech chi'n fodlon i neud fel yr ydw i yn gofyn? Os ydech chi, ni fyddwn yn dri yn erbyn dau.
DAFYDD DAFIS. Waeth gen i, waeth gen i—ond peidiwch rhoi'r pwysa i gyd arna i.
(Y drws allan yn agoryd, a John Vaughan yr Hafod yn dod i fewn gydag Agnes.)
HUW BENNET. Dowch i fewn, Mr. Vaughan, a chitha, Miss Vaughan. Dyma ddau, mi wranta, sydd o blaid Emrys. pe basa gennyn nhw fot . . . ag mi fydd gan Mr. Vaughan föt yng nghyfarfod y swyddogion cyn hir, mi wranta.
VAUGHAN. Eistedd yn y fan yna, Agnes. Esgusodwch fi am dorri ar ych cyngor chi,—mae genni neges arbennig i'w rhoi i chi.
HUW BENNET. I bwy?
VAUGHAN. I chi fel swyddogion, a mae'n dda iawn genni fy mod i wedi medru'ch dal chi cyn i chi fynd adre. Mi wela mai trin achos mab y Sgellog yr ydech chi, ag rydw i'n deall hefyd fod Huw Bennet, fel arfer, yn cymryd gormod yn ganiataol.
WILLIAM PRICHARD. Ie, mab y Sgellog sy dan sylw, hi—hi! Beth sydd gynnoch chi i ddeud am dano fo, Mr. Vaughan?
VAUGHAN (yn dyfod at y bwrdd). Wel, mi fu'r sgweier acw heddiw am oria, fel bydd o'n arfer bob wythnos,— chi wyddoch yn bod ni'n hen ffrindia, a mi ddeudodd i fod o wedi penderfynu lladd dau beth sy'n uchel i penna yn yr ardal yma,—sef poachio, ac yn fwy na dim, y syniada gwylltion newyddion y mae agitators a phobol benboeth yn i hau hyd y wlad yma. Dyna'i ddyledswydd o i Dduw a dyn, medda fo.
HUW BENNET. Y syrffed rhagrithiol,—beth mae dyn fel y fo yn sôn am ddyledswydd?—y burgun sala i gymeriad yn y wlad yma i gyd.
VAUGHAN. Rhoswch chi funud, Huw Bennet, mi fydd genni damaid i chitha hefyd toc. Rwan, am yr Emrys yna,—mae arna i eisio gwbod beth ydech chi am neud â fo; mi gewch weld fod y peth yn bwysig.
(Y drws yn agoryd yn araf. Emrys yn sefyll wrth y drws, yn syn ac yn welw, tra fo Vaughan yn siarad, fel dyn yn cerdded yn ei gwsg. Nid oes neb wedi ei weld elo.)
Yn awr, Dafydd Dafis, yn lle bydd y Plâs yn prynu'r groceries i gyd?
DAFYDD DAFIS. Wel, yn y siop acw bron i gyd.
VAUGHAN. Pwy fydd yn gwneud dillad pobol y Plâs, William Pritchard?
WILLIAM PRICHARD. Y ni yn y London House acw bob amser; wyddon ni'n iawn faint o badding i roi ar i sgwydda fo, a'i dad o o'i flaen, hi—hi!
HUW BENNET. Ydech chi'n mynd yn ocsiwniar yn ych hen ddyddiau, Mr. Vaughan? . . . (Yn troi ac yn gweld Emrys.) Hylo! Emrys, y machgen, tyrd i fewn. Mae'n dda iawn genni dy weld ti. (Emrys yn nodio o bell ar Miss Vaughan,ac yn dyfod ymlaen at y bwrdd.)
EMRYS. Oddiwrth Herod at Caiaphas.
WILLIAM PRICHARD. Eh? beth ydech chi'n ddeud? Emrys. Oddiwrth Herod at Caiaphas. Mi cafwyd fi'n euog yn llys Herod, ondo? Eh, Mr. Humphreys, 'rydech chi'n ddyn doeth ac yn cofio petha. Tair wythnos a llafur caled, ynte?
Mr HUMPHREYS. Faswn i ddim yn ymffrostio yn y peth, y machgen i, taswn i chi.
EMRYS. Ha, ha! ymffrostio, medda fo!. Roeddwn i'n meddwl gofyn i chi beth fyddan nhw'n neud hefo ocwm, Mr. Humphreys. 'Rydw i yn ych cofio chi'n deud wrthon ni yn yr ysgol ystalwm, ond fedrwn i yn fy myw gofio, pan oeddwn i yn i bigo fo i beth 'roedd o'n da. . . . Ond hitiwch befo, ewch chi'n mlaen hefo'r Sanhedrim, o henuriaid y bobl!
(Cynnwrf wrth y drws. Ann yn rhuthro i fewn yn wyllt.)
ANN (yn rhedeg at Mr. Evans). Rydw i wedi clywed cwbl o'r hanes . . . morwyn y Plâs wedi deud wrtha . . . mae'r sgweier wedi gyrru Mr. Vaughan yma i geisio gynnoch chi orffen dinistr Emrys . . . mae o wedi penderfynu i gael o dan draed. Mr. Evans, 'rydw i'n erfyn arnoch chi fadda iddo fo, a pheidio a gwrando ar y sgweier . . . . Wyr Emrys ddim y mod i wedi dwad yma . . . . (yn troi yn sydyn ac yn gweld Emrys: yn rhoi'i dwylo ar ei hwyneb.)
EMRYS. Ann, Ann, beth ydi'r mater arnoch chi? I beth rydech chi'n cynhyrfu'ch hun fel hun? Well i chi fynd adra . . . fedrwch chi neud dim.
AZARIAH EVANS. Ewch drwy'r drws yna i'r capel, ngeneth i, mae'ch mistar a'ch meistres yna yn barod.
(Ann yn myned, a'i dwylo ar ei hwyneb.)
VAUGHAN. Wel, ar ol y pantomime yna, hwyrach y cai fynd ymlaen rwan . . . (Wrth Emrys). Rhoswch yma i glywed—does arna i mo'ch ofn chi. (Emrys yn eistedd i lawr.)
EMRYS. Rydech chi'n mynd yn foel ofnatsan, Mr. Vaughan. Mae arna i ofn nad ydi port wine y Plâs ddim yn digymod â'ch natur chi. . . . Y gout ddaw nesa, gewch chi weld.
VAUGHAN. Hitia ti befo fy moelni i . . . ddei di byth yn foel os torri'r gwallt yn fyr sy'n cadw'r moelni draw . . . y county crop wyddost, 'ngwas i. Wel, dyma ddeudodd y sgweier, y bydd o'n disgwyl i Eglwys Siloh wneud ei dyledswydd yn y mater, sef helpu'r wlad a'r ustusiaid i weinyddu'r gyfraith . . . mae o'n dibynnu arnoch chi i gyd. Wel,
Emrys (yn cyfrif wrtho'i hun). Un, dau . . . dau ddyn, ag un, dau . . . dau siopwr . . . a sgwl. mae cael dau ddyn allan o bump yn o dda.
HUW BENNET. Taw, Emrys, hefo dy lol. (Wrth Vaughan.) Dydw i ddim yn ych deall chi. Beth ydech chi'n feddwl? . . . siaradwch ych meddw! mor blaen a 'dasech chi o flaen tân y Red Lion.
VAUGHAN (yn anwybyddu Huw Bennet). Yn awr, y mae'r sgweier heb dalu ei addewid eto. . .
AZARIAH EVANS. Pa addewid?
VAUGHAN. O, dydech chi ddim yn gwybod? (Wrth Agnes.) Mi ddylet fod wedi deud wrtho, Agnes . . . Mi addawodd y sgweier i Agnes gan punt i dynnu'r ddyled sy ar y capel yma i lawr, . . . ac mae arna i eisio i chi gofio bod o heb i thalu hi eto . . . ond i fod o'n fodlon gneud yfory nesa.
DAFYDD DAFIS. Da iawn, wir,—campus, Miss Vaughan.
AZARIAH EVANS. Pa bryd y cawsoch chi'r addewid?
AGNES. O, rhyw wythnos neu ddwy'n ol.
HUW BENNET. Oedd Emrys yn y carchar yr amser honno?
AGNES. Oedd, am wn i—ond dydw i ddim yn siwr.
HUW BENNET. Wel, wir: feddylis i 'rioed fod yn bosib cynnig breib i Eglwys Dduw mor blaen a dirodres a hynna.
EMRYS. Dear me,—mae'r pris yn codi yn y farchnad ond ydi o, Mr. Vaughan? Deg darn ar hugain oedd pris y Meistr ystalwm . . . yrwan, dyma'r gwas bach yn werth cant! Does gan y sgweier fawr syniad am brynu a gwerthu, nag oes, Dafydd Dafis?
DAFYDD DAFIS. Wn i ddim am hynny, ond dyma'r newydd gora gês i fel Trysorydd yr Eglwys yma ers talwm iawn. Rhoswch chi, Mr. Humphreys, dyma ni'n medru tynnu'r ddyled i lawr i drichant, ynte?
MR. HUMPHREYS. Ie—a phedair punt yn y flwyddyn yn llai o log.
VAUGHAN. Peth arall hefyd, Huw Bennet. Mae o am edrych y bydd i holl ffermydd o yn cael i gosod i bobol onest y pen tymor nesa . . . pobol yn fodlon gneud eu dyledswydd.
'HUW BENNET. O aie, bygwth fy nhroi i o'r Gelli? . . . Ewch i ddeud wrth y burgun aflan y caiff o fynd â'i ffermydd gydag o i golledigaeth . . . (yn cerdded o gwmpas) . . . gwas y neidr!
VAUGHAN (yn paratoi i fynd allan). Wel, gnewch chi fel fynnoch chi——dyna fi wedi deud sut y mae pethau.
DAFYDD DAFIS. Wel, mae'n amlwg na fedr yr un ohonon ni forddio ffraeo hefo'r gwr bonheddig 'Rydw i'n cynnig yn bod ni . . .
EMRYS (yn codi'n wyllt). Rhoswch! (Distawrwydd —yn newid ei don.) Fydda dim gwell i chi fargeinio tipin bach, i edrych gewch chi ddeugant?
WILLIAM PRICHARD. Ydech chi'n barod i syrthio ar ych bai, eh? os buasen ni'n madda?
EMRYS. Pwy ydech chi yn i olygu i fadda i mi? ag am beth?
HUW BENNET. Yr eglwys sydd i fadda iti, machgen i . . . paid a bod mor wyllt a diamynedd, Emrys bach.
EMRYS. Madda beth?
DAFYDD DAFIS. Y carchar a'r gwarth, wrth gwrs.
EMRYS. Dafydd Dafis . . . faint o dywod sydd mewn pwys o siwgwr coch? Ar ol i chi ateb y cwestiwn, mi gewch ddeud wrtha i faint o grefydd sydd mewn cheque canpunt.
DAFYDD DAFIS. Dyma hi—fel yr oeddwn i'n ofni mor galed ag erioed!
EMRYS. Ydw,—a chewch chi byth edifeirwch am hyn oddiwrtha i—does gen i ddim i edifarhau o'i blegid. Mi fuasa fy meddwl i o Eglwys Siloh yn codi tipin . . . tasa chi'n medru pwyso gwarth carchar fel pwyso siwgwr, Dafydd Dafis . . . a chitha'n medru gneud i'ch cydwybod wneud tro caredig ambell dro, Mr. Hum— phreys . . . Ond i beth yr ydw i'n siarad . . . rydech chi i gyd wedi gneud ych meddwl i fyny. Huw Bennet, rydech chi'n dal i gredu yna i, yn dydech chi, 'r hên law?
HUW BENNET. Ydw, machgen i.
EMRYS. Wel, gobeithio y cewch chi fyw'n hir i wasanaethu yn . . . y sêt fawr yma. Os gwelwch chi rywun yn dechra breuddwydio, rhybuddiwch nhw'n erbyn cymryd ffesants oddiar y wal. Os na wrandawan nhw arnoch chi, deudwch wrthyn nhw mai Warder Rhif. 17 ydi'r caredica o ddigon, ond deall i ffordd o. . .
MR. HUMPHREYS. Mae'n mynd yn hwyr rydw i'n eilio cynnig Dafydd Dafis i ofyn i'r eglwys ddisgyblu
(Ann yn rhuthro i mewn: Elin a Robert William y tu ol iddi.)
ANN. Fedra i ddim peidio a chlywed . . . . O cymrwch bwyll. Edrychwch arno fo yn y fan yna . . . ydi o'n debig i ddyn drwg?
EMRYS. Tewch, tewch, Ann. Fedrwch chi neud dim i f'helpu i!
ANN. Mr. Evans, mi wyddoch chi am dana i a nheulu yn ddigon da—mi ges i fy magu'n dda ac yn annwyl nes i nhad gael i ladd yn y chwarel—chwarel y sgweier,—nes i mam druan fynd dan draed y ddiod, a ngadael inna'n waeth nag amddifad. Mr. Vaughan, wyddoch chi lle dysgodd mam yfed?
VAUGHAN. Twt-twt—dos adre; 'rwyt ti'n mynd yr un ffordd a dy fam, faswn i'n meddwl . . .
ANN. Mi ddeuda wrthoch chi, Mr. Vaughan.. Wrth fynd i'r Plâs i wnio, pan oedd hi'n wraig weddw ydech chi'n cofio'r sgweier a chitha'n cael hwyl wrth i gneud hi'n feddw a'i gweld hi'n ymlusgo adre drwy'r eira? y greadures dlawd! Dyna un enaid yrsoch chi a'r sgweier i uffern o'ch blaen . . . ac oh, dyma chi yn helpu'r sgweier yn i waith aflan i yrru enaid arall ar goll eto . . . . Na wnewch byth, mi rhwystra i chi, . . . yn enw'r nefoedd!
WILLIAM PRICHARD. Taw! siarad yn barchus wrth dy well, y ffolog iti.
ANN. Mi fum i ar fy nglinia o flaen y ngwell—o flaen y sgweier—fis yn ol yn erfyn arno drugarhau wrth Emrys—do, yn y lludw a'r clai o'i flaen o—yn erfyn arno fadda i Emrys, er fy mwyn i, er mwyn merch y ddynes feddw fydda'r sgweier a Mr. Vaughan yn i chael i'r tŷ i neud sport iddyn nhw, pan fydda'r llwynogod yn brin,—ac mi troes fi dros y drws, a bygwth y cŵn ar f'ol i. 'Rydw i'n dod yma eto ar yr un neges, at flaenoriaid y bobl—y chi, Wiliam Prichard, dorrodd mam o'r seiat
WILLIAM PRICHARD. Ie, ond rwyt ti'n bryderus iawn ynghylch mab dy feistr, y ngeneth i. Beth ydi'r mater, eh? Mae na ryw reswm, hi, hi!
ANN. Oes: 'rydw i wedi byw a meddwl llawer. Dwy ar hugain fydda i G'lan Gaea nesaf, ond 'rydw i wedi byw llawer mwy na hynny mewn cyni, a diodde, a gwarth. Mi wn i beth ydi colli pob gola, a thywyllu pob ffordd: mi wn i am lyn cysgod angau a'r rhai sy'n cerdded drwyddo; mi wn i beth ydi gwaeddi'r nos am y bore, a'r bore am y nos—am hynny, 'rydw i'n erfyn arnoch chi gadw un arall . . . rhag mynd at y mwyafrif.
WILLIAM PRICHARD. Wel, mae'n rhaid i mi fynd adre, beth bynnag. Mae o wedi i gynnig a'i eilio yn bod ni'n diarddel Emrys Williams. Os ydi rhywun yn meddwl fod gan y sgweier rywbeth i neud â'r peth, mae o'n methu, a chan fod teulu'r Sgellog wedi mynnu dod yma i gael brifo'u teimlada, arnyn nhw mae'r bai. Rydw i'n gofyn i chi roi'r peth i bleidlais, Mr. Evans.
AZARIAH EVANS. Wel, pawb o blaid? (William Prichard, Dafydd Dafis, a Mr. Humphreys yn codi dwylo.) Yn erbyn? (Huw Bennet a'r Gweinidog yn codi dwylo.) Wel, dyna hi felly . . . . Mae o i'w ddiarddel; does gen i ddim mwy i ddeud . . . heblaw hyn. Yr ydw i'n dymuno ymddiswyddo o'r eglwys yma, ac yn mynd oddiyma.
WILLIAM PRICHARD. I ble, hi—hi?
AZARIAH EVANS. I siarad hefo pobol y tafarna a'r cloddia, y publicanod a'r pechaduriaid . . . ond Duw a f'helpo i, . . . rydw i'n rhy hen, rhy hen . . . Wel, nos da . . . (Wrth Emrys.) Mi ddo i'r Sgellog yfory.
HUW BENNET. Rydw inna'n dwad hefo chi—at y publicanod. (Yn gafael yn ei het ac yn mynd allan.)
EMRYS (ar eu hol). Cofiwch gadw'ch blâs, beth bynnag . . . "Chwychwi yw halen y ddaear." (Pawb arall yn symud allan. Emrys yn cysuro'i rieni, ac yn gwthio Ann allan gyda hwy.) Miss Vaughan!
AGNES. Wel? (Yn dod yn ol.)
EMRYS. Yr ydech chi'n cofio beth ddeudis i wrthoch chi fis neu ddau yn ol,—a be ddywedsoch chitha wrtha inna. Wel rydech chi wedi bod yn bur ddieithr i mi byth er hynny—a mae hynny'n ddigon naturiol. Hwyrach ych bod chi'n synnu fy mod i'n cymryd yr holl gywilydd sydd wedi disgyn arna i mor ddidaro, a mod i medru cadw nhempar hefo'ch tad. . . .. Wel, mae pob angor wedi gollwng ond un, ond mae hwnnw'n dal hyd yn hyn. Y chi fedr ddweud, a neb arall, sut y mae hi i fod.
AGNES. Dydw i ddim yn ych deall chi, Mr. Williams. Mae'n rhaid imi fynd,—mae Pa-pa 'n disgwyl.
EMRYS. Ydech chi'n cofio beth ddeudis i wrthych chi'r noson cyn i'r plisman ddwad i'r Sgellog?
AGNES. Ydw.
EMRYS. A'r hyn ddeudsoch chithau wrtha inna?
AGNES. Ydw.
EMRYS Wel?
AGNES. Mae popeth fel yna drosodd, wrth gwrs. Mi ddylech chi wybod hynny . . . (yn cychwyn allan) . . . pan aethoch chi i'r carchar. (Exit.)
(Emrys yn eistedd i lawr yn sydyn. Ann yn dyfod yn ol.)
ANN. Emrys!
Emrys. Wel?
ANN. Dydech chi ddim am adael i hyn wneud dim gwahaniaeth i chi, ydech chi?
EMRYS (yn taro'r bwrdd). Ydw! Os ydyn nhw am y ngyrru i'r cythraul . . . mi âi
ANN (yn gafael yn ei law). Dydw i ddim ond morwyn ych tad a'ch mam . . . merch dynes feddw . . . wedi fy magu ar y plwy . . . ond gwrandewch air genni!
EMRYS. Fedrwch chi ddeud wrtha i be fedra i neud eto!
ANN (yn betrusgar). Na fedra.
EMRYS. Wel, mi fedra i . . . . (Yn myned allan.) . . . Ha, ha! . . . (I'w glywed y tu allan.) . . . Ha, ha!
(Ann yn rhoi'i phen ar y bwrdd ac yn wylo.)
LLEN.