Beddau'r Proffwydi (drama)/Act 4
| ← Act 3 | Beddau'r Proffwydi (drama) gan William John Gruffydd (1881-1954) |
→ |
Y BEDWAREDD ACT.
(Cegin y Sgellog fawr, fel yn Act I., tuag wyth o'r gloch y nos. Y mae'r Setl wedi ei gwthio'n ol, a lleithig yn ei lle, a Robert William yn gorwedd arni. Y mae Elin William yn dyfod i fewn o'r ty llaeth y mae'r ddau wedi heneiddio llawer, a'u bywiogrwydd wedi darfod bron i gyd. Y mae Elin William yn trefnu'r cwrlid sydd tros ei gâr, ac yn eistedd yn ddislaw o flaen y tân).
ROBERT WILLIAM. Mae o'n ddigon hir yn dwad, ond ydi o? Tuag wyth o'r gloch ddeudodd o y bydda fo yma.
ELIN WILLIAM (yn edrych ar y cloc). O mi ddaw toc . . . . Dyn clên iawn ydi o, medda pawb. Piti na fasa fo'n stiwart ers talwm.
ROBERT WILLIAM. Piti na fasa'r hen sgweier wedi marw, ydech chi'n feddwl. Mae pob stiwart, welwch chi, yn newid i liw i siwtio'i fistar. Mi fasa hyd yn oed yr hen Jackson yn eitha dyn, tasa i fistar o'n debig i rywbeth . . . . Glywsoch chi rywun yn deud sut y mae Huw Bennet, deudwch?
ELIN WILLIAM. Mae o'n codi allan rwan, medda nhw, ond roedd Lowri Bennet yn deud mai digon gwanllyd ydi o o hyd.
ROBERT WILLIAM. Ydi o wedi toi i wair eto?
ELIN WILLIAM. Ydi.
ROBERT WILLIAM. Wel, wel . . . cha i doi'r un das byth eto yn y Sgellog beth bynnag. Ychydig feddylis i y basan ni'n mynd heb ddim, fel hyn, wedi i ni gynhilo ar hyd yn hoes . . . Elin!
ELIN WILLIAM. Wel?
ROBERT WILLIAM. Mi freuddwydis i'r pnawn yma, fy mod i yn i weld o . . . Emrys, pan oeddwn ni'n cysgu'n y fan yma ar y mhen fy hunan.
ELIN WILLIAM (yn wylo). Mi fydda i yn i weld o bob nos bron . . . . Heblaw mod i'n cael breuddwydio am dano fo, mi faswn i wedi marw ers blynyddoedd.
ROBERT WILLIAM. Wel, wel: waeth i ni beidio a styrbio'n hunain yn sôn am dano fo; . . . mae popeth wedi mynd yn ddigon main arnon ni.
(Distawrwydd. Cnoc wrth y drws. Elin William yn codi).
ELIN WILLIAM. Dyna Mr. Wynne wedi dwad. (Yn agor y drws.) Bobol annwyl! Huw Bennet! Sut daru chi fedru cerdded mor bell?
HUW BENNET (yn dyfod i mewn ar ddwy ffon). Wel, gymdogion, sut mae hi yma heno?
ROBERT WILLIAM. Hylo, Huw Bennet, sut rwyt ti ers talwm . . . . Mae'n dda genni dy weld ti. Rwyt ti'n mendio o mlaen i eto. Tyrd yma. (Y ddau yn ysgwyd llaw.)
ELIN WILLIAM. Steddwch yn y fan yna, Huw Bennet. Rydech chi wedi blino, mi wranta.
HUW BENNET (yn eistedd). Wel, tawn i'n llwgu'r munud ma . . . toes dim golwg dyn sal arnat ti, nag oes wir. Mi fyddi di o gwmpas dy betha ymhell o mlaen i eto, gei di weld.
ROBERT WILLIAM. Na, weldi, does dim feder y ngwella i bellach. . . . Mae hi wedi mynd yn rhy ddiweddar. Ond wyddost ti beth? mi fydda i'n meddwl weithia, cawn i weld Emrys yn sefyll ar y llawr yna, yn wych neu'n wael, yn dda neu'n ddrwg, . . . y medrwn i neidio gyn uched a'r distia yna. Medrwn, myn fendi!
HUW BENNET. Wel, wel . . . pwy wyr? Ond i ddeud y gwir wrthyt ti, mi ddylet gael hwsmon yma i d'helpu, gan na fedri di fynd o gwmpas dy hunan. Rydw i wedi sylwi fod y gwrychoedd yna wrth y gadlas yn fler ofnatsan las. Mi yrra i Twm y gwas acw i daclu tipin yma fory.
ELIN WILLIAM. Diolch i chi'r un fath, Huw Bennet, ond waeth i chi beidio ddim. Ryden ni wedi gyrru am Mr. Wynne y Stiwart i ddwad yma; mi addawodd fod yma erbyn wyth.
HUW BENNET. Wynne y stiwart newydd? I beth? . . . i ddeud wrtho fo lle mae'r hen sgweier wedi mynd?
ROBERT WILLIAM. Nage . . . . Wn i mo hynny, er gwaethed dyn oedd y sgweier. . . . Hwyrach fod y Brenin mawr wedi cael lle hyd yn oed i'r sgweier yn un o'r llawer o drigfannau sydd yn i dŷ.
HUW BENNET (yn codi). Nag ydi, myn gafr i!. os nag oes gan y Brenin mawr gytiau moch yn i drigfannau, ag os nad ydi popeth ddysgis i yn yr Ysgol Sul yn ffwlbri . . . "Lle nad â i fewn ddim aflan na halogedig." Mi elli di fod yn ddigon tawel dy feddwl, Robert, na weli di mo dy drwblo eto gan y sgweier, yr ochor yma na'r ochor arall . . . Ond dywed i mi, beth sydd arnat ti eisio hefo Mr. Wynne?
ROBERT WILLIAM (yn rhoi'i ben i lawr yn ddistaw). Rhoi'r Sgellog yma i fyny.
HUW BENNET. Rhoi'r Sgellog i fyny? (Mewn llais isel.) Beth ydi'r mater?
ROBERT WILLIAM. Rydw i, fel y gweli di, wedi mynd yn rhy wael i ffarmio byth eto . . . rydw i wedi colli pob deleit yn y ffarm yma. Wyddost ti faint o arian sy genni at y rhent nesa? Elin, dowch â'r jwg i lawr.
ELIN WILLIAM (yn mynd at y dressel ac yn tywallt arian o'r jwg ar y bwrdd). Dyma nhw, Huw Bennet, pedair punt a saith a dima . . . i dalu hanner canpunt o rent.
(Distawrwydd mawr am hir amser).
HUW BENNET (yn sydyn). Faint ydi gwerth y stoc yma a'r dodrefn?
ROBERT WILLIAM. Does fawr gwerth yn y stoc: ryden ni wedi gorfod madal â phopeth o ddim gwerth . . . does yma ddim gwerth trichant rhwng y cwbw. Mae'n rhaid i ni roi ocsiwn ar y cwbwl . . . hen betha y nhad a nhaid a f'hen daid o mlaen i.
HUW BENNET. Rwan, gymdogion, newch chi addo wrtha i gadw'ch cegau'n ynghaead am bum munud? Mae arna i eisio sgwennu. Inc, Elin William, a phwt o gwilsyn.
(Elin William yn dyfod ag inc a chwilsyn oddiar y dressel).
(Huw Bennet yn tynnu cheque-book o'i boced ac yn ysgrifennu).
HUW BENNET. Be newch chi âg ocsiwn, deudwch? Ocsiwn wir! Os ydi trichant yn ddigon gen ti, mi bryna i'r stoc i gyd rhag trafferth . . . dyna cheque i ti am danyn nhw. (Yn estyn cheque i Robert William. )
ROBERT WILLIAM (yn edrych yn hir ar y cheque). Hm! ddaru mi rioed feddwl y basat ti'n fy mhrynu i allan, Huw Bennet, naddo wir . . . . Pa bryd y mae arnat ti eisio cymryd meddiant?
HUW BENNET. Heno!
ELIN WILLIAM. Heno?
HUW BENNET. Ie . . . wrth gwrs, y chi fydd yn aros yma fel o'r blaen, dim ond mai f'enw i fydd ar y stoc.
ROBERT WILLIAM. Huw Bennet, 'r hen gyfaill, rydyn ni'n fwy diolchgar iti na medra i byth ddangos: rwyt ti wedi bod erioed y cyfaill a'r cymydog gora gafodd neb. Ond a deud y gwir wrthyt ti, fedrwn i byth dalu log iti . . . ond dydyn ni yn methu talu'r rhent?
HUW BENNET. Aros funud: gwna bwt o bapur yn deud mai fi pia'r stoc.
ROBERT WILLIAM. Wel, gan dy fod ti am fynnu'n gwthio ni i drybini hefo'r ffarm yma eto, mi sgwenna i o. (Yn ysgrifennu.) Dyma fo. Neith o'r tro, dwad, heb stamp?
HUW BENNET (yn edrych ar y papur, ac yn ei roi ar y bwrdd). Oes gen ti faco yma?
ROBERT WILLIAM.—Oes yn tad, dyma fo; helpa dy hunan.
(Huw Bennet yn llenwi ei bibell, ac wedi gorffen, yn gwneud spill o'r papur ac yn goleu'i bibell gydag ef).
ROBERT WILLIAM. Huw, beth wyt ti'n neud?
ELIN WILLIAM. Beth sy arnoch chi, Huw Bennet? Ydech chi o'ch co?
HUW BENNET (yn codi). Rydw i'n mynd adra rwan i gael tipin o hwyl yn deud yr hanes wrth Lowri . . . . Wyt ti'n cofio nhaid, yr hen Robin Bennet y Gelli? Wel, mi gafodd yr hen begor arian, fel y gwyddost ti, reit siwr, ar ol yr hen berson, rhyw fil neu ddwy; ac er mwyn dangos i'r hen Dwm Cadi, ewyrth i William Prichard y London, faint oedd o'n feddwl o'i arian, mi daniodd i getyn hefo papur pumpunt ym mharlwr y Red Lion. Rydw i wedi bod ar hyd fy oes yn ysu am wneud yr un peth, a phedaswn i'n arfer mynd i'r Red Lion, mi faswn wedi gwneud ers talwm. Ond dyma fy nghyfle i wedi dwad, a rwan, dyma fi wedi offrymu tipin bach o aberth hen wr—(yn tynnu ei het)—i'r Arglwydd— hen wr wedi bod yn llawer rhy grintachlyd a chybyddlyd ar hyd i oes . . . . Nos dawch, a pheidiwch gadael imi glywed byth eto am danoch chi'n gadael y Sgellog na dim lol o'r fath.
(Curo wrth y drws: Elin William yn agor, Mr. Wynne yn dyfod i mewn).
WYNNE. Sut rydech chi yma i gyd heno? Ydech chi'n o lew, Mrs. Williams? Ydech chitha'n mendio, Robert William? Sut mae Sgweier y Gelli heno?
ELIN WILLIAM. Mae Huw Bennet yn dechra colli'i synhwyra, Mr. Wynne! (Huw Bennet yn cau ei ddwrn ar Elin William, ac yn sisial, "Dim gair o'ch pen.") Steddwch i lawr wrth y tân, Mr. Wynne.
WYNNE. Wel, rydw i'n clywed fod arnoch chi eisio rhoi'r Sgellog yma i fyny.
ROBERT WILLIAM Felly roedden ni'n meddwl pan ddaru mi yrru am danoch chi, syr.
WYNNE. Wyddoch chi faint sy ers pan mae'ch teulu chi yma, Robert William?
ROBERT WILLIAM. Na wn i wir, heblaw fod yna hen garreg fedd wrth ffenestr y llan, ag enw rhyw William Cadwalad o'r Sgellog Fawr arni, . . . wedi i gladdu yn y flwyddyn mil a chwe chant a deugain.
WYNNE. Rydech chi yma'n mhell cyn hynny. Rydw i'n meddwl mai tyfu o'r ddaear ddaruch chi tuag amser y diliw . . . . Ag rydech chi'n mynd i madael, felly?
HUW BENNET. Nag ydyn.
WYNNE. Nag ydyn? Beth ydech chi'n feddwl, Huw Bennet?
HUW BENNET. Mae nhw'n mynd i aros yma bellach.
ROBERT WILLIAM. Fi fydd y dwytha o'r hen deulu, . . pan ai odd ma . . . does gen i neb ar f'ol.
WYNNE (ynghlust Huw Bennet). Ewch i eistedd i'r fan yna, Huw Bennet, a pheidiwch a deud gair o'ch pen nes cewch chi ganiatad. (Huw Bennet yn eistedd wrth y bwrdd mawr.)
WYNNE (yn codi, ac yn hamddenol). Wel, mae'n wir ddrwg genni glywed ych bod chi wedi newid ych meddwl. Wel, ydi wir, MAE'N ddrwg genni. Y gwir plaen i chi ydi hyn. Rydw i wedi gosod y Sgellog ar gyfer y tymor nesa i denant newydd.
ROBERT WILLIAM. Gosod y Sgellog?
ELIN WILLIAM. Wedi gosod yn cartre ni?
WYNNE. Ie, a fedra i ddim tynnu'n ol . . . mae'r fargen wedi ei tharo.
ELIN WILLIAM. O, Mr. Wynne, rydech chi'n galed. Fedrwch chi ddim gneud rhywbeth i ddadwneud y peth, deudwch? Cofiwch gymint ddaru ni ddiodde ar law'r sgweier, a'r hen stiwart o'ch blaen chi . . . . A chitha yn yr ysgol hefo fo . . . hefo Emrys.
WYNNE. Oeddwn, Mrs. Williams; a chan ych bod chi'n sôn am ysgol, rhaid i mi gyfadde mai hogyn oedd yn yr ysgol hefo mi ydi'r tenant newydd. Mi ddylech fod yn falch i roi'r lle i fyny iddo fo . . . mi wneith i'r Sgellog flodeuo fel gardd Saror, a mi wneith y wlad yma'n well o'i gwmpas hefyd. Mi fydd yn dda i'r pentre yma a'r ardal gael un dyn i'ch tynnu chi o'r gors yr ydech chi wedi mynd iddi hi
ROBERT WILLIAM. Mr. Wynne, mi glywis i siarad fel yna o'r blaen, flynyddoedd yn ol, a dydw i'n beio dim arnoch chi,—rydech chi'n ifanc eto, ac heb golli'ch ffydd. Ond os dyn fel yna ydi o, mae yna ddigon o dorwyr beddau yng Nghymru ac yn yr ardal yma, i gael İle i'w roi ar unwaith . . . . Cofiwch y proffwydi a'r tadau . . . y rhai a aeth o'ch blaen chi . . .
ELIN WILLIAM. Wel, wel, roeddwn ni wedi meddwl mynd odd ma . . . ond (yn wylo)—yrwan, dyma ni'n cael yn hel. Arnon ni roedd y bai, wrth gwrs, yn sôn am y peth, ond
HUW BENNET. Bedi'r joc, Mr. Wynne? Mae gynnoch chi ffordd ryfedd iawn i fwynhau'ch hun ar hirnos gaea, mae'n rhaid imi ddeud yn blaen wrthoch chi.
WYNNE. Rydw io ddifri, Huw Bennet, a rhag i chi fynd i ddim petrustod pellach, hwyrach y byddai'n well i chi weld y tenant newydd. Mae o wedi cyrraedd yma er y pnawn, y fo a'i wraig, a mi peris i nhw aros yn y Sgellog Bach, nes galwn i arnyn nhw. Fydda i ddim munud.
(Wynne yn mynd allan.)
ROBERT WILLIAM. Wel, dyma hi ar ben, Huw Bennet. Peidiwch a chrio, Elin; mi fedran dalu cheque Huw Bennet yn ol, beth bynnag arall fedrwn ni dalu.
HUW BENNET. Cheque bybeth? Cadwch o; nid y fi pia fo. Mi fydd yn dda i chi wrtho fo eto, mae arna i ofn.
(Distawrwydd mawr.)
MALI OWEN (o'r llofft). Mae hi wedi taro pedwar. Ydi fara llaeth o yn barod?
ROBERT WILLIAM. Mae mam druan wedi colli arni hunan yn lân . . . mae hi wedi anghofio'r cwbwl o'r pymtheng mlynedd dwytha. Meddwl am Emrys yn hogyn bach y mae hi drwy'r dydd.
(Drws yn agor. Wynne yn dyfod i mewn a dau ddieithr—gŵr a gwraig gydag ef. Gorchudd trwm ar wyneb y wraig, a'r gŵr a'i got fawr a'i choler wedi ei chodi).
(Llais Mali Owen yn gwaeddi'n uchel).
WYNNE. Dyma nhw'r tenantiaid newydd. Rydw i wedi siarad hefo nhw, a mi gewch chware teg gynnyn nhw, mi wn. Mae gynnyn nhw ddigon o arian i'ch prynu chi a'r Gelli hefo'i gilydd, Huw Bennet, er cymin o hen grafwr ydech chi.
HUW BENNET. Wel, bendith ar i clonna nhw . . . os caiff yr hen bobol yma chware teg gennyn nhw.
ROBERT WILLIAM. Sais ydech chi, syr, ynte Cymro?
Y GWR. Cymro—o Canada.
ROBERT WILLIAM (yn taflu'r blanced oddi arno, ac yn neidio i dynnu coler y dyn i lawr). Yr Arglwydd mawr! Emrys!
ELIN WILLIAM. Eh? Emrys annwyl! mi ddoist o'r diwedd!
(Huw Bennet yn taflu'i ddwyffon i fyny, ac yn hoblian dros y llawr).
HUW BENNET. Hwre! Bendigedig!! Pwy ddeudodd fod yr Arglwydd yn anghofio'r cyfiawn?
EMRYS. Mam annwyl!—(yn cofleidio'i fam)—a nhad —(a'i law ar ei ysgwydd)—a Huw Bennet. Does dim eisio croeso i mi . . . edrychwch ar hon.
ELIN WILLIAM. Ann, fel mae byw fi! (Yn ei chofleidio.)
ROBERT WILLIAM. Wel, byth o'r fan ma . . . sut rwyt ti, Ann?—a thi ydi'i wraig o, aie?
EMRYS. Rydw i wedi dwad yma i edrych ar ych hola chi, am byth bythoedd . . . brecwast yn ych gwelâu bob dydd, a braster y wlad i chi, a heddwch yn ych hen ddyddiau. Ydech chi'n cofio'r noson honno, pan ddaeth y plisman a'r cipar yma?
ELIN WILLIAM. Ydw.
EMRYS. Wel, breuddwyd yng nghorff y nos neithiwr oedd hynny a dim arall . . . ac yr yden ni i gyd wedi bod yn cysgu er hynny. Rydw i wedi dwad i ail ddechra . . . ar y gwaith mawr.
HUW BENNET. Beth ydi o, machgen i?
EMRYS. Gafael yn nau gorn yr arad, a dysgu i Lanfesach dorri cwys unionach ar wyneb y tir . . . dyna i gyd.
WYNNE. Deudwch wrthyn nhw pwy a'ch dysgodd chi, Emrys.
EMRYS (yn gafael yn llaw Ann). Dyma hi,—dyma'r proffwyd. Hi tynnodd fi o'r pridd tew a'r clai tomlyd. Dyma i chi ddyniolaeth wedi diodde, ac wedi concro . . . ac yn awr yn medru dysgu pawb.
ANN. Tewch, Emrys . . . lle baswn i heblaw chi? Yn y workws y cafodd o hyd i mi. Sut y medrwn i ddysgu neb?
EMRYS. Ie, yn y fan honno y dois i o hyd i fy ngwraig. O medrwch, mi fedrwch chi'n dysgu ni i gyd, Ann. . . am ych bod chi'n deall. Huw Bennet, 'r hen gyfaill annwyl, deudwch wrtha i sut ddyn oedd yr hen sgweier?
HUW BENNET. Dyn melltigedig—dyn drwg o'r top i'r gwaelod.
EMRYS. Nage wir, yr hen Rodd Mam, rydech chi'n methu, ydech wir. Mae Ann yma'n mynd i ddileu'r gair BAI allan o'r geiriadur, ac yn mynd i roi'r TOSTURIO yn ei le . . . . Mae hi wedi nysgu i i dosturio wrth ddynion fel y sgweier.
ANN. Ie, Huw Bennet, mae yna rywun wedi bod yn anrheithio eneidiau yn yr hen fyd yma, er y dechra . . . a phobol fel y sgweier oedd nesa i'r ergydion hwyrach. Ond cofiwch chi, rhai fel chi a nhad a mam gorchfygith o yn y diwedd.
EMRYS. Ie, . . . rydw i wedi dysgu hynny tra buon ni yn Canada yn brwydro yn erbyn holl bwerau natur . . . ac hefo rhai fel chi rydw i am fyw bellach.. yn cadw drws yn Seion.
(Drws yn agor. Mali Owen yn dyfod i mewn. Pawb yn codi mewn dychryn).
MALI OWEN. O, mi ddoist adre, Emrys bach, o'r ysgol? Wyt ti am fynd i'r seiat heno?
EMRYS. Ydw, nain.
MALI OWEN (yn estyn afal). Dyma afol i ti am ddysgu dy adnod. Dywad hi, ngwas i, er mwyn i dy nain i chlywed hi.
EMRYS (yn sefyll ar ganol y llawr). "Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear."
LLEN.