Beddau'r Proffwydi (drama, testun cyfansawdd)
| ← | Beddau'r Proffwydi (drama, testun cyfansawdd) gan William John Gruffydd (1881-1954) |
→ |
| I'w darllen act wrth act gweler Beddau'r Proffwydi (drama) |
BEDDAU'R
PROFFWYDI
DRAMA MEWN PEDAIR ACT
GAN
W. J. GRUFFYDD
CARDIFF:
The Educational Publishing Company, Ltd.
1913
Ceidw'r awdur bob hawl iddo'i hun.
Rhaid cael caniatâd yr awdur i chware'r ddrama hon.
Anfoner ceisiadau i W. J. Gruffydd, Coleg y Brifysgol, Caerdydd.
Drama ddychmygol yw BEDDAU'R PROFFWYDI.
Nid oes ynddi gyfeiriad at unrhyw berson na lle.
ROBERT WILLIAM, Gŵr y Sgellog Fawr.
EMRYS, Ei fab.
Y PARCH. AZARIAH EVANS, Gweinidog Siloh, Llanddyfi.
| HUW BENNET, Y Gelli |
Blaenoriaid Siloh, |
| DAFYDD DAFIS, Y Siop, | |
| MR. HUMPHREYS, Yr Ysgol, | |
| WILLIAM PRICHARD, London House, |
JOHN VAUGHAN, Gŵr yr Hafod.
ROBERTS. Plisman.
ALEXANDER MCLAGAN, Cipar.
ELIS PARRY, Meistr y Tloty yn Nhre'rcaerau.
JAMES WYNNE, Ystiward Tir.
TWM HUWS, Un o'r Tlodion yn y Tloty.
UN ARALL O'R TLODION.
PORTHOR Y TLOTY.
MALI WILLIAM (neu OWEN), Mam Robert William.
ELIN WILLIAM, Gwraig y Sgellog Fawr.
AGNES VAUGHAN, Merch yr Hafod.
ANN, Morwyn y Sgellog Fawr.
MARI. Morwyn y Tloty.
MEISTRES Y TLOTY,
AMRYW O DLODION.
Chwareuwyd BEDDAU'R PROFFWYDI gyntaf yn y Chwareudy Brenhinol, Caerdydd, ar y 12fed o Fawrth, 1913.
| ANN | — | Maggie Davies. |
| EMRYS | — | W. J. Gruffydd. |
| ELIN WILLIAM | — | Llywela Jones. |
| AGNES VAUGHAN | — | Lillian Evans. |
| MARI | — | Eunice Evans. |
| MALI OWEN | — | W. Edwards. |
| ROBERT WILLIAM | — | Richard Hughes. |
| HUW BENNET | — | Evan Hughes. |
| TWМ HUWS | — | Ernest Hughes. |
| WILLIAM PRICHARD | — | Cynolwyn Pugh. |
| DAFYDD DAFIS | — | Ivon Jones. |
| MR. HUMPHREYS | — | Harold Lewis. |
| Y PARCH. AZARIAH EVANS | — | William Jones. |
| JOHN VAUGHAN | — | Dan Jeffreys. |
| ROBERTS. | — | Jenkyn Williams. |
| JAMES WYNNE | — | Morgan Rees. |
| ELIS PARRY | — | James Davies. |
| ALEXANDER MCLAGAN | — | Martin Thomas. |
| UN O'R TLODION | — | Henry Lewis. |
| PORTHOR | — | M. T. Adams. |
ACT I.
Cegin y Sgellog Fawr, tuag 8 o'r gloch.
ACT II.
Parlwr ty capel Siloh, Llanddyfi.
ACT III.
Ystafell fwyta gyffredin y Tloty yn Nhre'rcaerau.
ACT IV.
Cegin y Sgellog Fawr, tuag 8 o'r gloch.
Y mae tua mis o amser rhwng yr Act Gyntaf a'r Ail Act;
Tua dwy flynedd rhwng yr Ail a'r Drydedd;
Tua phedair blynedd rhwng y Drydedd a'r Bedwaredd.
BEDDAU'R PROFFWYDI.
YR ACT GYNTAF.
[Cegin y Sgellog Fawr tuag wyth o'r gloch y nos yn nechreu nis Tachwedd, rhyw ugain mlynedd yn ol. Nid yw'r canhwyllau wedi eu goleu elo, ond teifl y tân wawr gynnes tros yr ystafell. Ar y llaw dde, y mae'r tân,—tân coed isel yn llosgi'n ffyrnig. Ar y llawr o'i gylch, ar y pentanau, ac yn crogi ar gadwyni, y mae crochanau a llestri o'r fath. Nid oes yma ffender o gwbl, heblaw'r hen Bero, y ci, sy'n gorwedd ar ei hyd ar yr aelwyd. Wrth y tân, ac yn ein hwynebu, y mae setl dderw drom, ac arni'n eistedd hen wraig, Mali Owen, yn gwau hosanau. Y mae'n amlwg bod ei dyddiau gweithio hi trosodd,y mae'i dwylo'n crynnu wrth drin y gweill. Mae ganddi gap gwyn—y "cap lasiau" hen ffasiwn—am ei phen, a barclod stwff tywyll o'i blaen. Teifl ambell olwg ar y tân, a dyry ei gwau i lawr yn aml ar ei harffed, a syll yn bendrist i'r flamau, fel pe bai'n gweled rhywbeth y tu draw iddynt. O flaen y tân, ac wrth law dde Mali Owen, y mae bwrdd crwn a lliain gwyn arno, yn barod at bryd. Y mae "bwrdd mawr" o flaen y ffenestr sy'n mhen draw yr ystafell, ac yslenau, dysglau, platiau, a chyllill yn dryblith arno. Ar ochr chwith y ffenestr y mae cwpwrdd tridarn, a phlatiau gleision ar y darn canol. Ar yr ochr chwith yn nes atom, y mae'r prif ddrws, yn arwain i ffrynt y ty; y mae drws arall y tu ol i'r setl yn agoryd i'r ty llaeth (neu'r briws) ac i ddrws y cefn. Troell bach yn y gongl wrth y drws chwith, a "Chloc wyth" ar y pared wrth ddrws y briws. Cadeiriau derw yma ac acw ar hyd yr ystafell. Ar y pared, darluniau o rai o'r hen bregethwyr, ac almanac neu ddau yn cymell bwyd gwartheg, gwrtaith esgyrn, a nwyddau o'r fath. Mewn byr eiriau, gellir dywedyd bod y gegin yr un fath a phob cegin arall yn Sir Gaernarfon—neu Sir Fynwy—yng nghartre'r amaethwyr hynny sy dipin cyfoethocach na thyddynwyr, ac eto heb ddyfod yn agos i ardderchowgrwydd ffermwyr mawr Sir Fôn a Bro Morgannwg.]
ROBERT WILLIAM (yn dyfod i mewn gyda lusern yr ystabl yn oleu yn ei law. Gŵr bychan bywiog ei ysgogiadau, pwyllog ei leferydd: hawdd ei gythryblu, ond yn anghofio'n fuan: yn siarad llawer, ond yn gallu cadw ei gyfrinach cystal ag ungwr). Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
MALI OWEN. Hitia befo. Rydw i'n hen gynhefin â bod yn unig, weldi; a mi fedra i weld llawn cymint yn y twilwch, am wn i wir,—a mwy.
ROBERT WILLIAM. Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg. (Yn galw.) Elin ! Elin!
ELIN WILLIAM. (o'r ty llaeth). Beth sydd eisio?
ROBERT WILLIAM. Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch. Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch.
MALI OWEN. W'yth o'r gloch! Wyth o'r gloch!
ROBERT WILLIAM. Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre. Mae hi wedi pendronni'n lân;—chafodd y moch yr un tamad o fwyd bore heddiw, mi gymra i fy llw,—a wyddoch chi beth, mam? roedd yna flas hir hel ar y menyn yr wythnos yma,—oedd fel mae byw fi;—y tro cynta erioed ar ol i Elin ddwad i'r Sgellog.
ELIN WILLIAM (yn dyfod i fewn gyda'r lamp). Tewch â rhuo, Robert, am y menyn yna o hyd. Mae llawer mwy o hir hel wedi bod arno ar ol i roi ar y bwrdd na chynt, ddyliwn i. Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain?
MALI OWEN. Mae'r golau'n rhy gry i mi bob amser, weldi. Rydw i jest a darfod hefog o.
ELIN WILLIAM. Peidiwch a chyboli wir, nain bach. Dydech chi ddim ond dechra byw eto. Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,-a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,-a chitha ddim blewyn gwaeth.
MALI OWEN. Amal gnoc, y ngeneth i, dyrr yr hen garreg . . Mae Emrys yn ymdroi'n hir iawn yn rhywle.
ELIN WILLIAM. Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau. Ond marciwch chi fod gynno fo rywbeth mawr ar i feddwl; mae o'n son o hyd y mynn o wneud i ol ar y wlad yma,—a fynta wedi cael cyfle mor ardderchog. Ag mae eisio rhywun i ail-bobi tipin ar yr hen wlad, rhywun i ddysgu tipin arni, rhywun i roi tipin o gryfdwr yn asgwrn i chefn hi, a gewch chi weld mai Emrys ydi'r dyn.
ROBERT WILLIAM. Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto. Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn.
MALI OWEN. Taw, Robert bach. Yr ydyn ni i gyd wedi bod yn cysgu'n rhy hir,—mae Elin yn iawn. . . . Yr hên a ŵyr, a mi leiciwn i cyn marw weld Emrys bach yn rhoi tro yng nghynffon y bobol yma sy'n yn cadw ni i lawr.
'ROBERT WILLIAM. Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol?
ELIN WILLIAM. Mi fasa Emrys yn gneud cystal prygethwr a'r un ohonyn nhw (yn pwyntio at y lluniau) o ran hynny. 'Does gen neb air i ddeud yn erbyn i gymeriad o, ond mae o'n deud y gneith o well gwaith y tu allan i'r pulpud.
ROBERT WILLIAM (yn datod ei esgidiau). Wel, nid meddwl y mae o heno; mi gymra i fy llw mai troi'i draed tua'r Hafod y mae o. (Yn tynnu ei got a'i rhoi ar ei fraich.) Ydech chi'n meddwl y gneith hi wraig iddo fo, Elin? (Yn cerdded tua'r ty llaeth.) Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian.
(Ann yn dyfod o'r ty llaeth, ac am eiliad yn aros i glywed aleb Elin William).
ELIN WILLIAM. Twt, twt!—mae'n rhy fuan iddo fo feddwl am briodi am flynyddoedd eto,—ac mae'r hên Vaughan, welwch chi, yn disgwyl rhywbeth gwell i Miss Agnes na mab i ffarmwr. . . . Ydech chi wedi gorffen, Ann?
ANN. Do, 'r cwbwl. Rydw i wedi tywallt llaeth heno i gyd i'r potia cadw.
ROBERT WILLIAM. Paid a chadw cymin arno fo'r tro yma, 'ngeneth i. Mae dy feistres wedi mopio wrth feddwl am Emrys, a mae rhyw bry yn dy gorun ditha, 'ddyliwn. (Yn myned i'r ty llaeth.)
MALI OWEN (yn syllu i'r tân).
"Un clefyd mewn dwy galon
Yrrodd lawer tŷ yn yfflon."
(Ann yn myned allan.) Mae Ann yn rhy ddistawi wneud morwyn dda, Elin. Mae hi cyn ddyfned a'r Llyn Du. Wyddost ti ar y ddaear beth sydd ar waelod y llyn,— faint o esgyrn pobl wedi boddi. . . . Mae Emrys yn hir iawn yn rhywle.
ELIN WILLIAM. Tewch wir, nain; rydech chi'a 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o. (Yn edrych drwy'r ffenestr.) Mae hi'n dywydd garw heno, a mae nhw'n deud fod peth wmbreth o ryw hen boachers o'r dre o gwmpas y wlad. Mae'r sgweier wedi addo ar i beth mawr ynta mai'i cosbi hyd eitha'r gyfraith gân nhw. Mae o o'i go las am i fod o'n methu a'i dal nhw. (Mali Owen yn ochneidio.) Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch?
MALI OWEN. Gweld petha rhyfedd yn y tân yma. 'Dwyt ti ddim yn meddwl y bydd yr hen Vaughan yn fodlon i Emrys gael Agnes, wyt ti?
ELIN WILLIAM. Waeth gen i o gwbw—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi. Does genni ddim golwg o gwbwl ar y teulu, cribddeilwyr a chrintachod ydyn nhw o hil gerdd. Ond mae Robert wedi cymryd rhyw chwilen yn i ben am fod yna arian yn yr Hafod, ag mae o'n meddwl
ROBERT WILLIAM (o'r ty llaeth). Rydw i yn ych clywed chi, Elin William. Tasa fo'n i chael hi, fasa ddim rhaid iddo fo weithio'r un cnoc byth,—mae na le siort ora iddo fo roi'i het ar yr hoel. Peidiwch ag ymyrraeth â'r hogyn; gadwch lonydd iddo fo.
ELIN WILLIAM (yn codi ei llais). Gadael llonydd iddo fo wir! Gadael llonydd iddo fo! Os medra i 'i gadw fo rhag syrthio i ddwylo'r Ismaeliaid, mi wna hynny, mi ellwch chi fod yn ddigon siwr. Ymyrraeth wir? Gan bwy mae'r hawl i ymyrraeth os nad gen i? Pwy fu'n cynhilo pob dima i yrru o i'r coleg, pan oedd i dad o'n grwgnach fel costog bob dydd? Pwy fu'n mynd i'r capel bob Sul yn llwm ag yn dlawd er mwyn i gadw fo yno fel roedd o'n haeddu? Pwy oedd yn credu y basa fo'n gneud gwyrthia yno, a phwy sy'n credu y bydd o'n broffwyd ac yn efangylydd yng Nghymru eto? Pwy ond i fam o? Mi ellwch chi roi caead ar ych piser yn ddigon di-lol o ran hynny!
ROBERT WILLIAM (yn y drws yn llewys ei grys, a sebon hyd ei wyneb). Dyna hi eto! Ar y fend i, chai ddim agor y ngheg heb i chi neidio i ngwddw i. 'Does arni i ddim eisio fforsio'r hogyn—nag oes arna i, neno'r brensiach annwyl. Eisio iddo fo gael chwara teg sy arna i. Rydech chi'n gweld potsiars ym mhob twll a chongol,—ag AGNES yr Hafod ydi'r potsiar rwan, ddyliwn i. Potsiar wir!
ANN (yn dyfod i'r ty). Mae Miss Vaughan yr Hafod yn dwad ar y buarth, mistres.
ROBERT WILLIAM. Brenin annwyl! lle mae ngholar i, Elin? Ann! wyt ti wedi hiro fy sgidia gora i? Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân?
MALI OWEN. Wyt ti'n gweld y ddwy fflam groes yna yn y tân, Ann? Dyna nhw, weldi.
ANN. Ydw, nain. Ydi hynny'n arwydd o rwbeth, deudwch.
ROBERT WILLIAM. Ydi, siwr iawn,—sein barrug; mae nghymala i yn pigo ers tridia. Mae'n rhaid imi roi tipyn o Oel Morus Ifan arnyn nhw.
ANN. Fydd arnoch chi ddim f'eisio fi eto, mistres?
ROBERT WILLIAM. D'eisio di?—bydd debig iawn. wir, i neud cwpaned o de i Miss Vaughan. Beth wyt ti'n rhythu arna i, dwad, fel bwch ar drana?
ELIN WILLIAM (yn ddistaw). Na fydd, Ann. (Wrth Robert William.) Dydi Miss Vaughan ddim yn deall yn dull ni yn y Sgellog. Mae hi'n trin Ann fel y mae nhw'n trin morynion yr Hafod-fel tasa nhw'n faw dan draed. Dyna ffordd byddigions, debig gin i. (Ann yn myned allan drwy ddrws y cefn.)
(Curo wrth y drws. Elin William yn agor i Agnes Vaughan—merch ifanc landeg wedi'i gwisgo yn y ffasiwn).
ELIN WILLIAM: Sut rydech chi, heno, Miss Vaughan? Dowch i fewn. Mae hi'n dywyll iawn, ond ydi hi?
ROBERT WILLIAM. Ia, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân. (Wrth Pero.) Cerdd o 'ma, Pero, 'rwyt ti am y lle gora bob amser, yr hen ffagwt. Steddwch, Miss Vaughan. (Agnes Vaughan yn eistedd wrth ochr Mali Owen ar y setl y tu ol i'r bwrdd crwn.)
AGNES. Sut yr ydech chi i gyd. Y dech chi'n weddol, Mr. Williams? A chithe, Mali Owen?
ROBERT WILLIAM. Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno.
AGNES. Dydech chi ddim yn superstitious, ydech chi, Mali Owen? Does dim ond fflammau i gweld yn y tân.
MALI OWEN. Mynd yn hen ag yn wirion rydw i. Welsoch chi mo Emrys ar y ffordd yna yn unlle?
AGNES. Naddo, wir. Lle mae o wedi mynd?
ELIN WILLIAM. Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod.
AGNES. Mae'n debig iddo gyrraedd wedi i mi gychwyn. Mi fum i'n ymdroi tipin tua'r siop, yn ol f'arfer.
ELIN WILLIAM. Roedd yno ddigon o straeon, mi wranta. Mae Mrs. Davies—a Dafydd Dafis hefyd o ran hynny yn gwybod hanes y byd a'r Bettws.
AGNES. Chlywsoch chi rioed y fath beth; doedd dim eisio imi yngan gair, dim ond gwrando. Sôn am boachers; yr oedden nhw—(Elin Williams yn edrych drwy'r ffenestr)—a deud fod y sgweier yn just mad—Mae gynno fo suspicion o'i tenants i hun. Mae o wedi bod hefo Mr. Evans y gweinidog yn rhoi rating iawn iddo am beidio pregethu yn erbyn poachio.
ROBERT WILLIAM. Ho, felly wir! Mi gafodd damad go chwerw i gnoi gen yr hen lanc, mi dyffeia i o.
AGNES. Do, wir. Mae nhw'n deud fod Mr. Evans wedi'i hel o dros y drws. Yr oedd Mrs. Davies yn gweld bai mawr arno am drin y gentry fel yna, ag yr oedd bai arno fo hefyd.
ELIN WILLIAM. Bai, Miss Vaughan? Ydech chi'n meddwl y dylid trin y gentry, chwedl chitha, yn wahanol i bobol erill?
AGNES. Wel, mae'n gwilydd i bobol gommon hel i dwylo hyd rai fel y Sgweier—a ninna'i gyd yn tenants iddo. Mae Pa-pa yn deud bob amser fod pob parch wedi marw o'r wlad ar ol '68, ag mai ar y gweinidogion roedd y bai. Mi fyddwn ni fel teulu bron a mynd i'r Eglwys weithia: os ydi'r personiaid yn pregethu'n sal, mae nhw'n wŷr bonheddig, beth bynnag.
MALI OWEN.
Gorchest benna gŵr bonheddig
Gwneud y tlawd yn llwm ag unig."
AGNES. Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen?
MALI OWEN. 'Dydw i'n meddwl dim byd, rwan. . . . . Ydi hi'n dywyll o hyd?
ROBERT WILLIAM. Ydi fel bol—, fel y tu fewn i fuwch, Miss Vaughan. Mi ddaw Emrys toc.
ELIN WILLIAM. Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog.
ROBERT WILLIAM. Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn. Dydi o'n credu dim yn y morfil, Miss Vaughan.
AGNES. Morfil? pa forfil?
ROBERT WILLIAM. Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo.
ELIN WILLIAM. Tewch, tewch, Robert. Rydech chi'n rhy bendew i wybod beth sy gan yr hogyn dan i fawd. Hogyn da ydi'r hogyn.
AGNES. O ia, eisio bod dan ddylanwad rhywun nice. sy arno fo, ynte? Pe bai o'n byw hefo rhywun gwir grefyddol—(Robert William yn edrych arni mewn syndod: Elin William yn gwenu)—buan iawn y basa fo yn dwad yn ol.
MALI OWEN. Ydech chi'n chi'n grefyddol, Miss Vaughan?
AGNES. Ydw, rwy'n gobeithio.
MALI OWEN (fel un yn holi "Rhodd Mam "). Ydi'ch tad yn grefyddol?
AGNES. Ydi—o ydi—rwy'n ddigon siwr ohono. Chyffyrddodd o â dafn o ddiod erioed.
MALI OWEN (fel pe wrthi'i hunan). Mi fydda 'nhad a f'ewyrth yn dwad adre o'r farchnad o'r dre yn feddw gorn bob nos Sadwrn—(yn torri i wylo)—a hen bobol go lew oedd yr hen bobol. Mae petha wedi newid tipin er hynny, pechoda newydd wedi dwad, a'r hen bechoda ystalwm,—gwenwyn a lid a chelwydd—wedi mynd yn betha i'w canmol.
ELIN WILLIAM (yn ei chysuro). Ia, nain bach, ond rydech chi'n hên wraig go dda yn ol yr hen ffasiwn a'r newydd.
AGNES. Ia, ond rhaid cael gwared o'r hen superstitions a'r hen bechoda. Doedd pobol ystalwm ddim yn bobol nice iawn.
ELIN WILLIAM. Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth.
MALI OWEN. Lle mae Emrys, tybed? Oes gen ti damad go flasus yn swper iddo, Elin?
ROBERT WILLIAM. Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr. Wn i ddim lle andros y geill o fod yn ymdroi, na wn i byth o'r fan 'ma.
(Y drws yn agor. Emrys yn dyfod i fewn. Mae ganddo gob fawr am dano, a'i choler wedi ei chodi. Gwr ieuanc sobr yr olwg, yn siarad yn bwyllog ond yn siriol. Mae ysgafnder ei dad yn amlwg ynddo, a meddwl treiddgar ei fam. Mae'n aros eiliad yn y drws cyn dyfod i fewn i'r gegin).
MALI OWEN (yn fywiog). Dyna ti, wir. Tyrd i fewn, y machgen i, ac eistedd yn y fan yma wrth ochor dy nain. Mi wnai le i ti.
Emrys. O'r gore, nain-ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi. Sut rydech chi heno, Miss Vaughan? Mi fum i acw yn yr Hafod hefo'ch tad drwy'r ddechreunos.
AGNES. Rydw i'n reit dda, thank you. Wedi bod yn y siop yr ydw i.
ELIN WILLIAM. Mae Miss Vaughan yn mynd i aros i gael tamaid o swper, a rhaid i titha fynd i danfon hi dros y gors. Tynn dy got, 'y machgen i.
Emrys (yn tynnu ei got yn araf, ac yn rhoi dau ffesant ar y bwrdd). Adda . . . ag Efa!
ROBERT WILLIAM. Yr argian fawr!
ELIN WILLIAM. Lle cest ti rheina?
MALI OWEN. Beth sy gen ti, machgen i?
AGNES. Brace of pheasants!
Emrys. Llonydd i mi gael gair i fewn, neno'r tad.. Nid yn aml y bydd y Sgellog Fawr yn gwledda ar fraster y wlad, aie? Wel, er mwyn i chi glywed y stori i gyd—mi cês nhw fel y cafodd y Sgweier i dir—i cymryd nhw. Yr oeddwn i'n tanio mhibell wrth glawdd y winllan, ac wrth oleu'r fatsian, mi welwn y pâr ifanc ar y clawdd, a chyn y basa hyd yn oed y nhad yn medru deud "carreg a thwll" mi sylwis fod y ddau yn y mhoced i. Rhaid i chitha gael côt fel hon, nhad; welsoch chi 'rioed gymaint o hwyl gaech chi hyd y caeau na: mi dalith mam am y game licence hefo pres y menyn.
ROBERT WILLIAM. Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed?
Emrys. Wn i ddim, a waeth gen i chwaith. Roedden nhw ar y ffordd fawr, ac mae gen i gystal" hawl iddyn nhw a neb arall.
AGNES. Ie, ie, ond pwy piau nhw? Rhaid cadw'r gydwybod yn lân beth bynnag.
Emrys. Twt, twt,-cymrwch yr hyn y mae'r duwiau yn i anfon i chi heb holi gormod. Mi wnân ginio fory.
ROBERT WILLIAM. Hy! cinio wir! Fasa waeth gen i gau ngheg am y gwynt nag am betha felna. (Wrth Elin.) Dydech chi ddim yn paratoi swper i Miss Vaughan, Elin?
AGNES. Na wir, 'rydw i wedi ymdroi gormod yn barod. Mi fydd Ma-ma yn bur anesmwyth am dana i.
ROBERT WILLIAM. Taid annwyl, bedi'r brys? Dydech chi ddim wedi clywed Emrys yn pregethu eto ar yr hyn mae o'n mynd i neud yn y wlad yma.
AGNES. Rydw i'n gobeithio'n fawr nag ydech chi ddim yn mynd yn agitator, Mr. Williams?
Emrys. Agitator? Ydw,—os ca i fy nghyfle, mi leiciwn i daro un ergid neu ddwy dros y werin yma. . . . Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan,- mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia.
MALI OWEN. Pwy sydd yna? Clywch!
ROBERT WILLIAM. Neb.
MALI OWEN. Mae'r ci yma'n anesmwyth iawn.
ROBERT WILLIAM (wrth y ci). Bedi'r acsus sy arnat ti, yr hen lob gwirion? Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam.
Emrys. Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors.
MALI OWEN. Mae yna rywbeth yn dwad y tu allan—yna.
| ROBERT WILLIAM. | Meddwl yr ydech chi. |
| ELIN WILLIAM. |
Emrys (yn troi'r shawl o gwmpas Mali Owen). Mynd i'ch gwely ydi gore i chi, nain bach.
AGNES. Wel dowch ynte, Mr. Williams. It's getting so very late.
(Emrys ac Agnes yn cerdded at y drws, Emrys yn cario'r fasged. Pan ddont at y drws, dyna guro trwm).
MALI OWEN. O!
ROBERT WILLIAM. Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed?
ELIN WILLIAM. Rhowch y ffesants yna o'r golwg, brysiwch! (Llaw Emrys ar y gliced.) Rhowch nhw dan y glustog yma. (Robert William yn eu rhoi dan y glastog ar y sett.)
(Emrys yn agor. Y Plisman, ac Alexander McLagan, y cipar, yn dyfod i mewn).
PLISMAN (yn llygadu o gwmpas). Sut rydech chi yma heno i gyd, deulu diddan?
ALEX MCLAGAN. Sit ich chi pawb? Sit ma ti, Robert Williams?
ROBERT WILLIAM. Hel at y Feibl Gymdeithas, myn fend i! Wyddwn i ddim fod yr un ohonoch chi'n perthyn i'r seiat,-ond steddwch, nen dyn. Cadwch ych hetiau, ddynion. (Alexander yn eistedd ar y gadair y tu ol i'r bwrdd crun,-y plisman yn nes i'r drws.)
PLISMAN, Foneddigion a boneddigesau, nid hel at y Gymdeithas Feiblau ryden ni'r tro yma, ond yma ar berwyl y gyfraith ryden ni. Fel hyn y bu pethau—yr ordd y bonheddwr hwn, sef Mr. Alexander Maclagan, (mae'n wir ddrwg gennyf nad ydyw ei Gymraeg yn deilyngach o'i gwmni), a minnau wrth ein post heno tuag ugain munud wedi wyth yn gwylio am boachers, ac wedi aros wyth munud wrth fy oriawr
ROBERT WILLIAM. Wats y mae o'n feddwl, Mr. Maclagan.
PLISMAN. Yr oeddwn i yn mynd i ddweud, Mr. Williams, pan welsoch chi'n dda dorri ar draws fy sgwrs, ini weled dyn tua phum troedfedd deng modfedd o hyd yn dod allan o Winllan y Coetmor ac yn cerdded yn bwyllog tuag atom. Pan welodd ni, trodd yn ei ol, gan daflu rhywbeth ar y clawdd a rhedeg i ffwrdd. Wedi ini fyned tua'r fan a'r lle, to wit, y clawdd, daethom o hyd i game wedi ei adael yno. Barnasom yn ddoeth, wedi cydymgynghori, adael y game yno i edrych a ddeuai yn ol i'w gyrchu. Cyn hir gwelsom rywun yn dod—y cyhuddedig yn ddiameu—a chymerodd arno oleu'i bibell wrth ymyl y game, ond pan oeddem ar fyned i afael ynddo, clywsom dwrw ymhen draw'r winllan, ac ergid o ddryll. . .
ALEXANDER MCLAGAN. Ti'n missio 'rwan, Roberts, hergid o gwn oedd o,—fi'n nabod sound gwn.
PLISMAN. Dryll, machgen i, dryll,—neu yn iaith y werin, gwn. . . . Erbyn ini droi i chwilio am achos yr ergid, yr oedd y poacher wedi diflannu'n hollol gyda'r game, ond ar ol dilyn ol ei draed yn y gors y mae'n ddiameu gennym mai i'r tŷ hwn y Sgellog Fawr—neu i rywle cyfagos yr aeth. Yn awr, yr wyf yn eich tyghedu nad atalioch oddiwrthyf ddim os gwyddoch!
ROBERT WILLIAM. Diar annwyl bach, Robaits, rydech chi'n glasurol ofnatsan lâs. Rhaid ych bod chi'n ola fel latern. Ydi'ch llygad chi ar y pulpud, deudwch?
ALEXANDER MCLAGAN. Ia, ond gwelis ti rwbath, Robert William?
ROBERT WILLIAM. Y fi? Naddo, nen taid annwyl, ddyn glân. Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol?
ELIN WILLIAM. Naddo.
PLISMAN. Wel, dyna ni wedi colli'n deryn eto, Maclagan. Dowch ar unwaith i chwilio am dano. Nos da, deulu, roedd yn ddrwg genni'ch trwblo.
Emrys. Rhoswch funud. Lle'r oeddech chi'n deud ichi adael y ddau ffesant, Roberts?
PLISMAN (yn troi'n ol yn sydyn). Gadael beth, deudsoch chi?
Emrys. Wel, y ddau ffesant, siwr—y—y—hynny yw, y gêm. Roedd yno ddau, on'd oedd? (Y Plisman a'r Cipar yn troi ac yn edrych arno.)
PLISMAN. Pwy ddeudodd wrthych chi mai dau ffesant oedden nhw?
Emrys (yn gynhyrfus). Meddwl ddarum i ych bod chi'n deud fod yno ddau.
ALEXANDER MCLAGAN. Ti gwbod rwbath am fo, Emris Williams?
Emrys. Y fi!
PLISMAN. Fuoch chi allan heno?
EMRYS. Do.
PLISMAN (yn nesu ato). Ym mhle, mor hy a gofyn?
EMRYS. Dim o'ch busnes chi, Roberts. Ymddygwch fel gŵr bonheddig, neu mi tafla i chi allan. Peidiwch a thorsythu o mlaen i—(yn rhoi'i fys ar fotum ganol côt y Plisman)—Pah! Cwrw a gwêr! Ddyn glân, 'rydech chi'n feddal fel pwdin!
ALEXANDER MCLAGAN (yn symud i'r goleu). Lle ti câl baw coch ar esgid ti, Emris Williams?
ROBERT WILLIAM. 'Run fan a'r lle cawsoch chi'ch locsyn, ddyliwn i. Fuost ti yn Scotland yn ddiweddar, Emrys?
EMRYS. Rydech chi'n methu rhwng dau goch, nhad. Coch llwynog ydi coch Mr. Maclagan. Well i chi fynd oddiyma, Mr. Cipar—mae tipin o frid helgi yn yr hen Bero yma.
PLISMAN (yn myned i'r gadair y tu ol i'r bwrdd). Mae'n rhaid imi eistedd i gymryd notes. Mae mwy yma nag sy yn y golwg. Yn awr, Mr. Emrys Williams, newch chi ddweud wrthyf beth welsoch chi pan oeddech chi'n hel y baw coch yna ar ych esgidia?—er mwyn helpu gwas y gyfraith, wrth gwrs.
EMRYS (yn eistedd ar gongol y bwrdd mawr,—y Plisman yn troi ato). Gwna, yn neno'r tad, os medrwch chi sgrifennu. Mi welis ddau ddyn yn sefyll fel dau lechgi—un yn las drosto fel pry baw, lwmp hyll o ddyn tew ffoglyd, ac un arall wrth i ochor o hefo locsyn coch. Mi feddylis i ar y cynta mai dau fwgan brain wedi'u codi gan ddyn dall oedd yno—ond mi sylweddolis yn y diwedd mai plisman a chipar oedden nhw.
ALEXANDER MCLAGAN. Ti treio bod yn funny dog, Mr. Emris Williams. Fi dim werthin. Fi gneud note o'r peth.
(Ann yn dyfod i mewn yn ddislaw gyda basged ar ei braich).
PLISMAN. Gadewch ef i mi, gyfaill MaclLagan. Prin rydech chi eto'n feistr ar yr hên Gymraeg. (Yn rhoi'i law ar y glustog.) Mae hon ar fy ffordd i. (Elin William yn rhoi'i llaw i'w chadw i lawr.) Maddeuwch i mi, Mrs. Williams. (Yn codi'r glustog ac yn gweld y ddau ffesant.) Oho! felly wir! Rydw i'n gweld 'rwan. To be sure, doedd ryfedd wir ych bod chi'n gwbod am danyn nhw! Dear, dear! mi 'roedd y sgweier yn ameu'i denantiaid. (Yn gafael yn ei het.) Gelwch chi'i chymryd hi fel ffaith, Mr. Williams, y bydd gwarant yn ych erbyn chi, bore fory. Os ydw i—(yn torsythu)—dipin yn raenus fy nghâs, mi fedrai ddal poacher cystal ag undyn. Hefyd, rhaid imi'ch rhybuddio y bydd popeth a ddywedwch yn cael ei godi i'ch erbyn eto. Dowch, gyfaill Maclagan. Ni gawn ni orffen hyn eto! Nos da, deulu, nos da.
ALEXANDER MCLAGAN. Whiskers lliw baw, medda ti. Lliw llwnog, medda ti hefyd. Mi câl gweld sut lliw gwyneb ti yn y court, Mr. Poacher.
EMRYS. Wel, rhag i chi orweithio'r ddau chwarter pen yna sy gynnoch chi ddim pellach, mi ddeuda wrthoch chi mewn ychydig eiriau sut y bu hi. Gweld y ddau dderyn yma ar ochor y clawdd ddarum i wrth ola mhibell, ag mae hawl gan bawb i'r hyn welan nhw ar y ffordd fawr, debig gen i?
ROBERT WILLIAM. Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan. Nenor Rasmws mawr, os na cheith dyn tlawd godi dau dderyn wedi marw oddiar y clawdd mewn gwlad efengyl, mae hi wedi mynd.
AGNES. Dywedwch y gwir, Mr. Williams. Cyfaddefwch y gwir, bydd yn haws i chi gael trugaredd.
ELIN WILLIAM. Miss Vaughan! ydech chi'n meddwl nad ydi Emrys yn deud y gwir?
AGNES. Wel, y fo ac Un arall sy'n gwbod hynny. Elin William. Wel, os nag oes dim ond un heblaw fo'n gwbod—y fi ydi'r un hwnnw. Dydi Emrys ddim wedi gorfod arfer deud celwydd wrth gribddeilio, fel rhai pobol, Miss Vaughan.
PLISMAN. Peidiwch a chynhennu, wragedd! Caiff Mr. Williams bob chware teg i ddeud y gwir wrth yr ustusiaid ddydd Sadwrn, a chaiff son faint fynno fo am ymddanghosiad personol swyddogion y gyfraith. Dowch, Maclagan.
ANN (yn dyfod ymlaen yn wylaidd). Rhoswch funud, Mr. Roberts!... Y fi gymrodd y ddau ffesant yna. (Yn gostwng ei llygaid.) Rydw i'n dymuno rhoi f'hunan i fyny i'r gyfraith.
PLISMAN. O, aie wir? Ond sut y medrwch chi gysoni'r ffaith i mi weld dyn yn i cymryd nhw?
ANN. Cariad i mi oedd o, gwâs fferm heb fod ymhell oddiyma, a mi rhoth nhw i mi gynted ag yr oeddech chi wedi troi'ch cefn.
ELIN WILLIAM. Ann!
EMRYS. Beth sy arnoch chi, Ann?
PLISMAN. Lle ar glawdd pella'r Coetmor roedd y ffesants, meddwch chi?
ANN. Wrth... wrth y... wrth y goeden fala surion... 'rydw i'n cofio'n iawn rwan.
PLISMAN. Nage, ngeneth i,—waeth i chi beidio,—dim iws yn y byd. Ar y clawdd agosa i'r adwy las yr oedden nhw.
MALI OWEN (yn ceisio codi). Emrys bach!
ROBERT WILLIAM (yn ceisio gwthio rhywbeth i law'r Plisman). Am y tro, am y tro!
PLISMAN. Dim iws, Robert William, dyledswydd, dyledswydd. Nos da. (Wrth Emrys.) Mi fydda i'n cadw golwg arnoch chi, nes bydd y papur yn ych llaw chi.
MALI OWEN (yn cerdded at Emrys). Emrys bach!
AGNES (yn symud at y drws). Wel, nos da.
Emrys. Wel, dydi hyn ddim byd—mwy na dŵr ar gefn chwiaden. Fedrwch chi ddim mynd adre'ch hun.
AGNES. No, thanks. Mi af yn iawn fy hunan. Does arnai ddim ofn poachers bellach; mi wn yn lle y mae nhw.
(Agnes yn mynd drwy'r drws; Emrys yn syllu ar ei hol. Elin William yn wylo. Mali Owen a'i llaw ar fraich Emrys).
LLEN.
YR AIL ACT.
(Parlwr tŷ capel Siloh, tuag wyth o'r gloch ar noson waith. Yn y cefn, ar y llaw chwith, ffenestr fach heb na gorchudd na dim arall arni. Ychydig yn nes i'r dde na'r canol y mae'r drws sy'n arwain i'r capel, a'r drws arall sy'n arwain i'r ty ar yr ochr chwith,—dyma hefyd y ffordd allan. Ar yr ochr dde, tân mawr, a phump neu chwech o gadeiriau breichiau plaen a chaledion o flaen y tân. I'r chwith iddynt, bwrdd ysgwâr a gorchudd coch arno, ac ar hynny y mae Beibl mawr, llyfr hymnau a llyfrau cyfrifon. Rhwng y bwrdd a'r drws allan, y mae mainc neu ddwy o ffawydd melyn; yn wir, ffawydd melyn yw'r holl goed sydd yma. Ar y pared, astell a thyrrau o lyfrau'r ysgol blant arni—llyfrau gleision mewn amlen bapur, a'r cwbl yn ddrylliog; pentar o Destamentau a chloch fechan. Ar y mur, lluniau pregethwyr mewn ffram fawr dan y teitl "Cenhadon Hedd." Map o wlad Canaan; poster yn hysbysu'r "Athrofa," cyhoeddiad enwadol; a modulator. Yr argraff a roir arnoch gan y cwbl yw rhywbeth rhwng ysgoldy, llys bach yr ustusiaid a waiting—room mewn gorsaf. Lamp fawr yn crogi o'r nen, a maneg wedi ei chlymu ynddi.
Dafydd Dafis yn eistedd yn fyfyrgar o flaen y tân. O'r capel daw swn gwan y dôn olaf cyn gorffen y seiat:—
Dy dang-nefedd. Dy dang-ne—fedd,
Dy-ro ini yn bar-haus.
Y Drws allan yn agor, a Huw Bennet yn dyfod i fewn gan sychu ei draed yn ofalus, a chwythu allan ei fochau. Tyn ei het a'i gôt, a chymer bibell glai hir o'r gongl, a'i llenwi à "baco'r achos" sydd ar astell uwch ben y tân. Wrth wneuthur hyn, y mae'n siarad â Dafydd Dafis.)
HUW BENNET. Hylo! sut 'rydech chi heno, Dafydd Dafis? Ydi'r teulu acw yn weddol gynnoch chi?
DAFYDD DAFIS. Wel, ydyn, am wn i, ond mae'r wraig acw'n cwyno hefo'r asma yn ofnatsan iawn. Wn i ddim beth i neud;—mae hi'n mygu'n lân.
HUW BENNET. Twt, twt; aros gormod i fewn rydech chi, yn y twll myglyd acw. Mi fyddai yn synnu atoch chi na fasech chi'n retirio bellach, a chitha wedi gwneud cymint o brês. Tasa'r Gelli acw yn talu hanner cystal i mi a'r siop i chi, welsa neb ol yr un o nhraed i yn y tir byth wedyn.
DAFYDD DAFIS. Wyddoch chi ddim am dani hi, Bennet bach,—ddim. Rydech chi'n siarad fel het, ydech byth o'r fan yma. . . . Sut mae nhw yn y Gelli?
HUW BENNET. Symol iawn yden ni i gyd. Mae Lowri acw yn beichio crio ddydd a nos yn ddidor deryn; welis i'r fath beth erioed. . . . Does fawr iawn o lun arna inna chwaith.
DAFYDD DAFIS. Tewch, da chi; beth ydi'r mater? Dydech chi ddim wedi cael colled tua'r Gelli acw?
HUW BENNET. Hy! colled wir!—dyna chi bobl y siopa bob amser yr un fath;—fedrwch chi feddwl am ddim ond colli ac ennill. Wyddoch chi beth, Dafydd Dafis—(yn codi)—dydw i'n hitio dim hynna—(yn clecian ei fysedd)—faint o golledion gaiff fy mhoced i—does genni ddim plant i boeni yn i cylch—os peidia'r amgylchiadau a brifo nghalon i, a f'ysbryd i. Ryden ni gyd wedi cael dyrnod go drom, goelia i, bawb yn yr ardal yma.
DAFYDD DAFIS. At beth yr ydech chi'n cyfeirio, Huw Bennet?
HUW BENNET. Ond wyddoch chi'n iawn gystal a finna i beth yr yden ni fel swyddogion yn cyfarfod yma heno: dyna'r clwy sydd arna i, os oes arnoch chi eisio gwbod.
DAFYDD DAFIS. Diar annwyl, fydda i byth yn gadael i bethau amherthynasol fel yna y mhoeni i. Mae'n rhaid ini fel swyddogion neud yn dyledswydd, waeth pa mor atgas fo hynny.
HUW BENNET. Nid yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd heno,—dydi hynny nag yma nag acw yn y ngolwg i— nid dyna sy'n fy mhoeni i gymint, ond meddwl am y diodde y mae Robert William a'i deulu diniwed wedi gael, a meddwl am Emrys, y creadur gwirion iddo fo. Wyddoch chi be',—rydw i wedi gorfod codi gefn nos, yn methu cysgu gan gwilydd wrth feddwl am danyn nhw—y fi, Huw Bennet y Gelli, sy wedi dwyn mwy o ffesants nag a welodd Emrys Williams erioed, a nhraed yn rhydd yn fy nhŷ fy hun, a fy ngherdded yn sicr yn Seion, ag Emrys Williams, un o'r proffwydi hynny fydd yr Arglwydd yn eu gyrru mor anamal, yn y carchar cyffredin—(crescendo)—yn y jêl fel lleidr, a thacla'r llys a'r carchar yn hel i hen facha aflan hyd—ddo,—a hynny am ddim, ac i ddim pwrpas. (Yn cerdded o gwmpas.) Fyddwch chi'n rhegi weithia, Dafydd Dafis? Na fyddwch o ran hynny, mi wranta . . . ond rydw i newydd ffeindio fod hen eiria ddysgis i'n ifanc yn dwad yn ol i mi—a diolch i Dduw am danyn nhw hefyd!
DAFYDD DAFIS. Hisht! tewch, tewch, ddyn! Beth tasa rhywun yn ych clywed chi?
HUW BENNET. Waeth gen i, waeth gen i. mae hen deulu gonest yn rhoi'r gair gore i bawb ac yn talu'i ffordd heb fod arnyn nhw ddim i neb yn i haeddu oddiar law y wlad? Rhoi'r mab yn y jêl hefo'r lladron a'r puteiniaid? . . .
(Drws y capel yn agoryd. Swn traed rhai yn mynd allan, a'r gweinidog, William Prichard a Mr. Humphreys yr Ysgol yn dyfod i fewn. Pawb yn nodio y naill ar y llall. Distawrwydd. Ochenaid ddislaw. Symud cadair. Trwst traed.)
AZARIAH EVANS. Welis i monoch chi yn y seiat, ers tro, Dafydd Dafis?
DAFYDD DAFIS. Wel, naddo—methu'n glir a gadael y siop. Mae'r hogyn acw mor ddiymddiried, a'r arian mor brin.
AZARIAH EVANS. Lle'r oeddech chi heno, Huw Bennet?
HUW BENNET. Dim blas i ddwad yno, Mr. Evans.
AZARIAH EVANS. Wel, ie; mi allai'ch deall chi'n iawn. Does gen inna fawr iawn o flas ychwaith, ond yr oedd yno fwy nag arfer heno. Mae rhai pobol, os gwelan nhw rywun wedi troi'r drol, yn rhedeg o bob man i gweld hi ar lawr.
MR. HUMPHREYS. Mr. Evans! fyddai hi ddim gwell ini fynd at waith y cyfarfod: mae hi'n mynd yn hwyr, a gore pa gyntaf i neud gwaith diflas, meddai un o awduron y Saeson, "Do an unpleasant task at once."
(Pawb yn eistedd o gwmpas y bwrdd, Mr. Evans a'i gefn i'r ffenestr, a Mr. Humphreys hefo llyfr cofnodion wrth ei ochr.)
AZARIAH EVANS I. Annwyl frodyr,—prin mae rhaid imi ddeud hanes yr helynt yma wrthoch chi. . . y—y. . . gwyddoch o i gyd gystal a minna. . . os nad gwell. Wel. . . fel hyn y mae petha . . . 'rydech chi'n gweld. . . mae'r ddisgyblaeth eglwysig, os ydech chi'n deall,—hynny yw, os ydw i'n gneud y mater yn glir i chi. . . rhaid i chi gofio fod y ddisgyblaeth, yn gofyn inni—mewn ffordd o siarad— (yn torri i lawr)—Mr. Humphreys, busnes i ddyn fel chi ydi hwn,—gwnewch chi o. (Yn eistedd i lawr.)
HUW BENNET (yng nghlust y gweinidog). Mi gneith yr hen sgŵl o wrth fodd i galon. . . mêl ar i fysedd o ydi peth fel hyn.
MR. HUMPHREYS (mewn llais cras awdurdodol, ac yn siarad trwy'i drwyn). Wel, gan fod Mr. Evans wedi bod mor garedig a rhoi'r mater yn fy llaw i, mi wna i fy ngore i gyfleu'r peth o'ch blaen yn hollol gydwybodol heb droi i'r dde na'r aswy. Gwyddoch fod rheolau'n disgyblaeth ni yma yn yn rhwymo ni i ddisgyblu unrhyw un a dorro gyfraith y wlad. Yn awr, dyma'r cwestiwn sydd i'w benderfynu—beth yw torri cyfraith gwlad, ac yn ail, pwy sydd i ddweyd fod y gyfraith wedi ei thorri? Ai'r eglwys sydd i ddweyd ynte'r llys gwladol? Wel, 'does ond un ateb i'r cwestiwn yna—y llys gwladol wrth gwrs, gan mai cyfraith wladol ydi'r gyfraith. Yn awr, y mae Emrys Williams, y Sgellog, wedi ei gael yn euog o dorri'r gyfraith, ac wedi ei roi am dair wythnos yng ngharchar Tre'rcaerau. (Huw Bennet yn tynnu ei ffunen: y Gweinidog yn rhoi ei ben i lawr.) Felly, yr wyf fi'n dal ei bod yn unol â'n cyfansoddiad ni fel enwad ag eglwys i dorri o allan o freintiau'r eglwys. Ni fydd unrhyw gyngor arall a rown i'r eglwys yn unol â'n hamodau a'n haddunedau fel blaenoriaid.
(Yn eistedd i lawr, gan edrych am gymeradwyaeth o'r naill i'r llall, dyn yn leicio clywed swn ei lais ei hun.)
HUW BENNET. Rhoswch chi funud, Mr. Humphreys. Nid rhoi'r mater yn gydwybodol," chwedl chithau", ydi peth fel yna, ond rhoi'r ochr ddua yn erbyn Emrys. Mae yna ochr arall i'r cwestiwn. Hwyrach na fedra i mo'i brofio o, ond mi rydw i'n dweud wrthoch chi—(yn taro'r bwrdd)—fod Emrys y Sgellog wedi diodde anghyfiawnder melltigedig. Beth sydd i ddisgwyl pan fo dim ond meistriaid tir ar y fainc? Wel, rwan, y syniad i am yr eglwys ydi y dylai hi unioni pob cam y mae'r wladwriaeth yn i wneud, ac nid i ddyblu o. . . .
MR. HUMPHREYS. Twt, twt! ych mympwy chi'ch hun ydi peth felna. Wyddoch chi ddim fel mae John Stuart Mill yn deud.
HUW BENNET. Stiwart be ddeudsoch chi?
MR. HUMPHREYS. Stuart Mill, yr athronydd enwog.
HUW BENNET. Beth waeth gen i beth mae'r Sais y felltith yn i ddeud. . . heblaw mod i'n gwbod i fod o, pwy bynnag oedd o neu ydi o, ar ochr y sgweier, fel pob Sais, a phob sgwl hefyd o ran hynny, Wyddoch chi be? 'does gen i ddim cydwybod o gwbl fel sydd gynnoch chi. . . . Dydi'r Gelli acw, frodyr, ddim yn godro digon o wartheg i fforddio cadw cydwybod fel un Mr. Humphreys, ond mae gen innau yn fy nghyfansoddiad rywbeth sy'n gneud yn lle cydwybod—rywbeth sy'n brifo, brifo, ddydd a nos, pan fydd cam yn cael ei wneud â'r gwan. Wel, heb siarad ychwaneg na hollti blew, rydw i fel un yn cynnig yn bod ni'n gadael y mater yn y fan y mae o... a chyn hir, mi rydw i yn mynd i hel enwau i gael anerchiad a thysteb iddo fo..
WILLIAM PRICHARD. Oes rhywun wedi bod yn siarad hefog o?
AZARIAH EVANS. Do, mi fum i, ond soniais i air am i helbul o, wrth gwrs. Fedrwn i ddim, wir. 'Roedd y syniad fod un o ddynion ifanc goleua'r wlad yma— dyn wedi cael manteision addysg penna'r oes, dyn sydd yn mynd i'n helpu ni i ymladd yn erbyn anwybodaeth a drygioni; . . . roedd meddwl fod hogyn fel yna wedi bod yn y carchar cyffredin yn Nhre'rcaerau yn y ngyrru i o ngho.
DAFYDD DAFIS. Ie.—'r ffordd galed," chwedl yr hen lyfr ffordd y troseddwr sydd galed."
HUW BENNET. Hogyn wedi i fagu yn annwyl ac yn ofalus gan i dad a'i fam a'i nain.... (Yn torri i wylo.)
MR. HUMPHREYS. Twt, twt! Sentiment noeth— dydech chi'n ddim ond lwmp o deimlad, Huw Bennet.
WILLIAM PRICHARD. Eh? Ydi o'n ymddangos yn edifeiriol, eh? Eh?
MR. HUMPHREYS. Nag ydi. Mae o mor ffroenuchel ag erioed.
HUW BENNET. Beth sydd eisio iddo fo fod yn edifeiriol? Wnaeth yr hogyn ddim drwg.
AZARIAH EVANS. Naddo.
WILLIAM PRICHARD (hen ddyn bach cneclyd teneu). Wel, chi wyddoch i gyd na fydda i byth yn gwthio fy syniadau ar neb, ond rhaid i mi ddeud y mod i'n cyd-weld â Mr. Humphreys yma, ynte? . . . "BALCHTER O FLAEN CWYMP," ynte? meddai'r hen bobol. Eh? Felly y gwelis i hi erioed. Roedd o'n deud wrthon ni yn yn gwyneba yn bod ni'n gul ac yn rhagfarnllyd, am yn bod ni'n gwrthod rhuthro i neud y petha mawr yr oedd o am neud. Ond dyna my lord wedi bod yn y jel,—a ninnau'n dal yn ein parch o hyd.
HUW BENNET. Parch gythraul!—dyna chi yn y ngyrru i i dyngu mewn tŷ capel. Dyma'n ffordd ni yng Nghymru bob amser, ffordd William Prichard y London. Os bydd dyn i fyny, pob help iddo i fynd yn uwch, i edrych a gawn NI rywbeth gynno fo; os bydd y dyn ar lawr, sathrwch, sathrwch ar i ben o! (Yn gafael yn ei het.) Waeth imi fynd adre ddim,—mi wela mai i ddiarddel o newch chi.
DAFYDD DAFIS. Rhoswch funud, Huw Bennet, peidiwch a bod mor frysiog, a da chitha, cedwch tipyn gwell rheolaeth ar ych tafod. Mae pobol y Sgellog yn gwsmeriaid da yn y siop acw, a mae nhw'n rhoi'n haelionus at yr achos hefyd,—fynnwn i mo'u digio nhw er dim.
HUW BENNET. Hy! mi wela y gall Demas helpu'r diniwed weithia,—ond i chi ddeall cwlwm i bwrs o.
AZARIAH EVANS. Mae'n hawdd iawn canfod nad ydech chi'n unfryd ar y cwestiwn yma. Os ydw i'n deall yn iawn, dydi Huw Bennet yn meddwl dim llai o Emrys wedi iddo fod yn y carchar. Mae Mr. Humphreys am fynd ar ol i gydwybod, a waeth peidio siarad dim pellach hefo fo.
MR. HUMPHREYS. Na waeth ddim.
AZARIAH EVANS. Ac wrth gwrs, mae'i gydwybod o ar ochr y sgweier a'r ustusiaid; mae William Prichard yn gweld cyfle i dorri tipin ar grib annuwiol y balch— a 'dydi Dafydd Dafis ddim wedi gorffen adio'r sym eto. Felly, ryden ni'n rhannol iawn ar y mater.
MR. HUMPHREYS. Rhannol? Beth ydi'ch barn gydwybodol chi, Mr. Evans?
AZARIAH EVANS. Mi ddeuda wrthoch chi mor blaen ag y medra i. Rydw i'n mynd yn hen ddyn, ag mae'n nyddiau goreu i wedi pasio ers tro. Mi fum i'n arfer meddwl, fel pob pregethwr arall, mai'r gwaith gora fedran ni wneud i Grist a'n gwlad oedd byw yn ddiargyhoedd oddiwrth y byd, a rhoi esiampl o fywyd pur a glân a di-fai i'r wlad. . . . Mi dreies i wneud hynny—chi wyddoch na fum i fawr o bregethwr erioed . . . ond rydw inna'n dechreu blino ar fyw fel deryn mewn cage.
MR. HUMPHREYS. Rydw i'n gobeithio nad ydech chi wedi newid ych barn ar bynciau mor hanfodol.
AZARIAH EVANS. Wel do, welwch chi, yr ydw i wedi newid tipyn ar fy marn yn ddiweddar yma. (Yn codi ac yn cerdded at y tan.) Pa gamp ydi byw yn barchus i mi? Wyddoch chi i bod hi'n haws imi fyw yn sobor ac yn barchus na byw fel arall? . . . Aha! . . . Pe baswn i yn oed Emrys Williams, ac yn gwybod yr hyn wn i heddyw, nid byw yn barchus a phlesio mympwyon hen ferched a ffyliaid fyddai ngwaith i, yr wy'n siwr. Frodyr annwyl, fuom i erioed yng ngharchar fel Emrys, a wn i ddim a ddylwn i fod yn neilltuol o falch o hynny ai peidio. Mae William Prichard yn taflu mai dyn wedi methu ydi Emrys . . . nage wir, ond i chi roi i gyfle iddo, a does gan neb i gyfle yng Nghymru os na bo fo'n aelod crefyddol . . . . Ond dyma i chi hen ddyn wedi . . . methu. (Yn pwyntio ato'i hun.)
HUW BENNET. Tewch a chyboli wir, Mr. Evans . . . . Llawer gwaith y deudodd Emrys wrtha i mai chi roes fwya o help iddo o bawb.
MR. HUMPHREYS (yn wawdlyd). Cyhuddiad go ddifrifol yn erbyn gweinidog yr efengyl ydi deud i fod o'n helpu pobol i garchar!
HUW BENNET. Tomos Wmffra, mae dy galon di wedi pydru oddi fewn iti ers blynyddoedd . . . pah! Dafydd Dafis, ar ych pleidlais chi y mae pethau'n dibynnu; er mwyn hen bobol garedig y Sgellog, newch chi bleidleisio i gadw Emrys ym mreintiau'r Eglwys?
WILLIAM PRICHARD. Wyddwn i ddim fod cael aelodaeth yn yr Eglwys yn gymint yn i olwg o. Pa wahaniaeth wna hynny iddo fo?
HUW BENNET. Hyn. Mae'r hogyn druan wedi torri i galon, ag mae i fam o yn deud mai disgyn i iselder a dibrisio'i hunan neith o os digwydd rhywbeth yn bellach iddo fo. Tasan ni'n medru cael yr eglwys i ddangos i chydymdeimlad, mi fasa hynny yn i roi ar i draed eto.
DAFYDD DAFIS. Wel, does genni ddim yn erbyn yr hogyn.
(Curo wrth y drws. Robert ac Elin William yn dyfod i fewn yn gynhyrfus, a Robert William yn rhuthro ymlaen at y bwrdd.)
ROBERT WILLIAM. Maddeuwch imi am ddwad yma —fydda i byth yn trwblo llawer arnoch chi, ond rydw i wedi perswadio Emrys, ar ol llawer iawn o grefu, i ddwad yma i ddeud gair o'i blaid i hun, os ceith o.
AZARIAH EVANS. Caiff, wrth gwrs, Robert William. Ewch i eiste munud, ych dau, i'r capel tra byddwn ni'n gorffen rhyw bwnc bach sy o dan sylw.
ROBERT WILLIAM. O gymdogion annwyl! ffrynds, ffrynds! Nid dwad yma i ofyn cyfiawnder rydw i, ond i ofyn trugaredd! Nid dwad yma i amddiffyn Emrys, ond i ofyn am gymwynas ar ych llaw chi. Huw Bennet, dwad wrthyn nhw na fu nag na grwgnach erioed i neb yn y Sgellog: dwad wrthyn nhw mai fi, a nhad o mlaen i, sydd wedi codi gefn nos i nol y doctor at bawb yn y pentre: dwad wrthyn nhw na fu neb erioed ar y ngofyn i a mynd adre'n waglaw . . .
ELIN WILLIAM. A deudwch chitha, Mr. Evans, yr hyn wyddoch chi am Emrys a'i weledigaethau—rydech chi'n i ddeall o. . . . Oh, fedrwch chi feddwl, frodyr, am i ddwylo o, dwylo cryfion i wneud petha a chynnil i lunio byd newydd, fedrwch chi feddwl am danyn nhw'n pigo ocwm?. . . neu'r meddyliau fu'n ceisio cynllunio Cymru newydd yn hedeg yn wyllt hyd y wlad, a'r meddyliwr i hun rhwng pedwar mur carchar y sir . . . A! (Yn torri i wylo.)
HUW BENNET. Peidiwch a styrbio'ch hunain, wir, cyn bod raid, gymdogion. Ewch i'r capel am funud, da chitha. (Yn agor drws y capel. Y ddau yn mynd allan i'r capel.) (Wrth y lleill.) Rydech chi i gyd yn gweld sut mae petha. Pa raid sydd arna i i siarad dim mwy? Mi alla inna ddeud fel Mr. Evans—mi a fum ieuanc, ac yr wyf yn awr yn hen—ond welis i mo'r cyfiawn na'i blant yn cardota'u bara, naddo wir, nag yn cardota trugaredd ychwaith. Dafydd Dafis, ydech chi'n fodlon i neud fel yr ydw i yn gofyn? Os ydech chi, ni fyddwn yn dri yn erbyn dau.
DAFYDD DAFIS. Waeth gen i, waeth gen i—ond peidiwch rhoi'r pwysa i gyd arna i.
(Y drws allan yn agoryd, a John Vaughan yr Hafod yn dod i fewn gydag Agnes.)
HUW BENNET. Dowch i fewn, Mr. Vaughan, a chitha, Miss Vaughan. Dyma ddau, mi wranta, sydd o blaid Emrys. pe basa gennyn nhw fot . . . ag mi fydd gan Mr. Vaughan föt yng nghyfarfod y swyddogion cyn hir, mi wranta.
VAUGHAN. Eistedd yn y fan yna, Agnes. Esgusodwch fi am dorri ar ych cyngor chi,—mae genni neges arbennig i'w rhoi i chi.
HUW BENNET. I bwy?
VAUGHAN. I chi fel swyddogion, a mae'n dda iawn genni fy mod i wedi medru'ch dal chi cyn i chi fynd adre. Mi wela mai trin achos mab y Sgellog yr ydech chi, ag rydw i'n deall hefyd fod Huw Bennet, fel arfer, yn cymryd gormod yn ganiataol.
WILLIAM PRICHARD. Ie, mab y Sgellog sy dan sylw, hi—hi! Beth sydd gynnoch chi i ddeud am dano fo, Mr. Vaughan?
VAUGHAN (yn dyfod at y bwrdd). Wel, mi fu'r sgweier acw heddiw am oria, fel bydd o'n arfer bob wythnos,— chi wyddoch yn bod ni'n hen ffrindia, a mi ddeudodd i fod o wedi penderfynu lladd dau beth sy'n uchel i penna yn yr ardal yma,—sef poachio, ac yn fwy na dim, y syniada gwylltion newyddion y mae agitators a phobol benboeth yn i hau hyd y wlad yma. Dyna'i ddyledswydd o i Dduw a dyn, medda fo.
HUW BENNET. Y syrffed rhagrithiol,—beth mae dyn fel y fo yn sôn am ddyledswydd?—y burgun sala i gymeriad yn y wlad yma i gyd.
VAUGHAN. Rhoswch chi funud, Huw Bennet, mi fydd genni damaid i chitha hefyd toc. Rwan, am yr Emrys yna,—mae arna i eisio gwbod beth ydech chi am neud â fo; mi gewch weld fod y peth yn bwysig.
(Y drws yn agoryd yn araf. Emrys yn sefyll wrth y drws, yn syn ac yn welw, tra fo Vaughan yn siarad, fel dyn yn cerdded yn ei gwsg. Nid oes neb wedi ei weld elo.)
Yn awr, Dafydd Dafis, yn lle bydd y Plâs yn prynu'r groceries i gyd?
DAFYDD DAFIS. Wel, yn y siop acw bron i gyd.
VAUGHAN. Pwy fydd yn gwneud dillad pobol y Plâs, William Pritchard?
WILLIAM PRICHARD. Y ni yn y London House acw bob amser; wyddon ni'n iawn faint o badding i roi ar i sgwydda fo, a'i dad o o'i flaen, hi—hi!
HUW BENNET. Ydech chi'n mynd yn ocsiwniar yn ych hen ddyddiau, Mr. Vaughan? . . . (Yn troi ac yn gweld Emrys.) Hylo! Emrys, y machgen, tyrd i fewn. Mae'n dda iawn genni dy weld ti. (Emrys yn nodio o bell ar Miss Vaughan,ac yn dyfod ymlaen at y bwrdd.)
EMRYS. Oddiwrth Herod at Caiaphas.
WILLIAM PRICHARD. Eh? beth ydech chi'n ddeud? Emrys. Oddiwrth Herod at Caiaphas. Mi cafwyd fi'n euog yn llys Herod, ondo? Eh, Mr. Humphreys, 'rydech chi'n ddyn doeth ac yn cofio petha. Tair wythnos a llafur caled, ynte?
Mr HUMPHREYS. Faswn i ddim yn ymffrostio yn y peth, y machgen i, taswn i chi.
EMRYS. Ha, ha! ymffrostio, medda fo!. Roeddwn i'n meddwl gofyn i chi beth fyddan nhw'n neud hefo ocwm, Mr. Humphreys. 'Rydw i yn ych cofio chi'n deud wrthon ni yn yr ysgol ystalwm, ond fedrwn i yn fy myw gofio, pan oeddwn i yn i bigo fo i beth 'roedd o'n da. . . . Ond hitiwch befo, ewch chi'n mlaen hefo'r Sanhedrim, o henuriaid y bobl!
(Cynnwrf wrth y drws. Ann yn rhuthro i fewn yn wyllt.)
ANN (yn rhedeg at Mr. Evans). Rydw i wedi clywed cwbl o'r hanes . . . morwyn y Plâs wedi deud wrtha . . . mae'r sgweier wedi gyrru Mr. Vaughan yma i geisio gynnoch chi orffen dinistr Emrys . . . mae o wedi penderfynu i gael o dan draed. Mr. Evans, 'rydw i'n erfyn arnoch chi fadda iddo fo, a pheidio a gwrando ar y sgweier . . . . Wyr Emrys ddim y mod i wedi dwad yma . . . . (yn troi yn sydyn ac yn gweld Emrys: yn rhoi'i dwylo ar ei hwyneb.)
EMRYS. Ann, Ann, beth ydi'r mater arnoch chi? I beth rydech chi'n cynhyrfu'ch hun fel hun? Well i chi fynd adra . . . fedrwch chi neud dim.
AZARIAH EVANS. Ewch drwy'r drws yna i'r capel, ngeneth i, mae'ch mistar a'ch meistres yna yn barod.
(Ann yn myned, a'i dwylo ar ei hwyneb.)
VAUGHAN. Wel, ar ol y pantomime yna, hwyrach y cai fynd ymlaen rwan . . . (Wrth Emrys). Rhoswch yma i glywed—does arna i mo'ch ofn chi. (Emrys yn eistedd i lawr.)
EMRYS. Rydech chi'n mynd yn foel ofnatsan, Mr. Vaughan. Mae arna i ofn nad ydi port wine y Plâs ddim yn digymod â'ch natur chi. . . . Y gout ddaw nesa, gewch chi weld.
VAUGHAN. Hitia ti befo fy moelni i . . . ddei di byth yn foel os torri'r gwallt yn fyr sy'n cadw'r moelni draw . . . y county crop wyddost, 'ngwas i. Wel, dyma ddeudodd y sgweier, y bydd o'n disgwyl i Eglwys Siloh wneud ei dyledswydd yn y mater, sef helpu'r wlad a'r ustusiaid i weinyddu'r gyfraith . . . mae o'n dibynnu arnoch chi i gyd. Wel,
Emrys (yn cyfrif wrtho'i hun). Un, dau . . . dau ddyn, ag un, dau . . . dau siopwr . . . a sgwl. mae cael dau ddyn allan o bump yn o dda.
HUW BENNET. Taw, Emrys, hefo dy lol. (Wrth Vaughan.) Dydw i ddim yn ych deall chi. Beth ydech chi'n feddwl? . . . siaradwch ych meddw! mor blaen a 'dasech chi o flaen tân y Red Lion.
VAUGHAN (yn anwybyddu Huw Bennet). Yn awr, y mae'r sgweier heb dalu ei addewid eto. . .
AZARIAH EVANS. Pa addewid?
VAUGHAN. O, dydech chi ddim yn gwybod? (Wrth Agnes.) Mi ddylet fod wedi deud wrtho, Agnes . . . Mi addawodd y sgweier i Agnes gan punt i dynnu'r ddyled sy ar y capel yma i lawr, . . . ac mae arna i eisio i chi gofio bod o heb i thalu hi eto . . . ond i fod o'n fodlon gneud yfory nesa.
DAFYDD DAFIS. Da iawn, wir,—campus, Miss Vaughan.
AZARIAH EVANS. Pa bryd y cawsoch chi'r addewid?
AGNES. O, rhyw wythnos neu ddwy'n ol.
HUW BENNET. Oedd Emrys yn y carchar yr amser honno?
AGNES. Oedd, am wn i—ond dydw i ddim yn siwr.
HUW BENNET. Wel, wir: feddylis i 'rioed fod yn bosib cynnig breib i Eglwys Dduw mor blaen a dirodres a hynna.
EMRYS. Dear me,—mae'r pris yn codi yn y farchnad ond ydi o, Mr. Vaughan? Deg darn ar hugain oedd pris y Meistr ystalwm . . . yrwan, dyma'r gwas bach yn werth cant! Does gan y sgweier fawr syniad am brynu a gwerthu, nag oes, Dafydd Dafis?
DAFYDD DAFIS. Wn i ddim am hynny, ond dyma'r newydd gora gês i fel Trysorydd yr Eglwys yma ers talwm iawn. Rhoswch chi, Mr. Humphreys, dyma ni'n medru tynnu'r ddyled i lawr i drichant, ynte?
MR. HUMPHREYS. Ie—a phedair punt yn y flwyddyn yn llai o log.
VAUGHAN. Peth arall hefyd, Huw Bennet. Mae o am edrych y bydd i holl ffermydd o yn cael i gosod i bobol onest y pen tymor nesa . . . pobol yn fodlon gneud eu dyledswydd.
'HUW BENNET. O aie, bygwth fy nhroi i o'r Gelli? . . . Ewch i ddeud wrth y burgun aflan y caiff o fynd â'i ffermydd gydag o i golledigaeth . . . (yn cerdded o gwmpas) . . . gwas y neidr!
VAUGHAN (yn paratoi i fynd allan). Wel, gnewch chi fel fynnoch chi——dyna fi wedi deud sut y mae pethau.
DAFYDD DAFIS. Wel, mae'n amlwg na fedr yr un ohonon ni forddio ffraeo hefo'r gwr bonheddig 'Rydw i'n cynnig yn bod ni . . .
EMRYS (yn codi'n wyllt). Rhoswch! (Distawrwydd —yn newid ei don.) Fydda dim gwell i chi fargeinio tipin bach, i edrych gewch chi ddeugant?
WILLIAM PRICHARD. Ydech chi'n barod i syrthio ar ych bai, eh? os buasen ni'n madda?
EMRYS. Pwy ydech chi yn i olygu i fadda i mi? ag am beth?
HUW BENNET. Yr eglwys sydd i fadda iti, machgen i . . . paid a bod mor wyllt a diamynedd, Emrys bach.
EMRYS. Madda beth?
DAFYDD DAFIS. Y carchar a'r gwarth, wrth gwrs.
EMRYS. Dafydd Dafis . . . faint o dywod sydd mewn pwys o siwgwr coch? Ar ol i chi ateb y cwestiwn, mi gewch ddeud wrtha i faint o grefydd sydd mewn cheque canpunt.
DAFYDD DAFIS. Dyma hi—fel yr oeddwn i'n ofni mor galed ag erioed!
EMRYS. Ydw,—a chewch chi byth edifeirwch am hyn oddiwrtha i—does gen i ddim i edifarhau o'i blegid. Mi fuasa fy meddwl i o Eglwys Siloh yn codi tipin . . . tasa chi'n medru pwyso gwarth carchar fel pwyso siwgwr, Dafydd Dafis . . . a chitha'n medru gneud i'ch cydwybod wneud tro caredig ambell dro, Mr. Hum— phreys . . . Ond i beth yr ydw i'n siarad . . . rydech chi i gyd wedi gneud ych meddwl i fyny. Huw Bennet, rydech chi'n dal i gredu yna i, yn dydech chi, 'r hên law?
HUW BENNET. Ydw, machgen i.
EMRYS. Wel, gobeithio y cewch chi fyw'n hir i wasanaethu yn . . . y sêt fawr yma. Os gwelwch chi rywun yn dechra breuddwydio, rhybuddiwch nhw'n erbyn cymryd ffesants oddiar y wal. Os na wrandawan nhw arnoch chi, deudwch wrthyn nhw mai Warder Rhif. 17 ydi'r caredica o ddigon, ond deall i ffordd o. . .
MR. HUMPHREYS. Mae'n mynd yn hwyr rydw i'n eilio cynnig Dafydd Dafis i ofyn i'r eglwys ddisgyblu
(Ann yn rhuthro i mewn: Elin a Robert William y tu ol iddi.)
ANN. Fedra i ddim peidio a chlywed . . . . O cymrwch bwyll. Edrychwch arno fo yn y fan yna . . . ydi o'n debig i ddyn drwg?
EMRYS. Tewch, tewch, Ann. Fedrwch chi neud dim i f'helpu i!
ANN. Mr. Evans, mi wyddoch chi am dana i a nheulu yn ddigon da—mi ges i fy magu'n dda ac yn annwyl nes i nhad gael i ladd yn y chwarel—chwarel y sgweier,—nes i mam druan fynd dan draed y ddiod, a ngadael inna'n waeth nag amddifad. Mr. Vaughan, wyddoch chi lle dysgodd mam yfed?
VAUGHAN. Twt-twt—dos adre; 'rwyt ti'n mynd yr un ffordd a dy fam, faswn i'n meddwl . . .
ANN. Mi ddeuda wrthoch chi, Mr. Vaughan.. Wrth fynd i'r Plâs i wnio, pan oedd hi'n wraig weddw ydech chi'n cofio'r sgweier a chitha'n cael hwyl wrth i gneud hi'n feddw a'i gweld hi'n ymlusgo adre drwy'r eira? y greadures dlawd! Dyna un enaid yrsoch chi a'r sgweier i uffern o'ch blaen . . . ac oh, dyma chi yn helpu'r sgweier yn i waith aflan i yrru enaid arall ar goll eto . . . . Na wnewch byth, mi rhwystra i chi, . . . yn enw'r nefoedd!
WILLIAM PRICHARD. Taw! siarad yn barchus wrth dy well, y ffolog iti.
ANN. Mi fum i ar fy nglinia o flaen y ngwell—o flaen y sgweier—fis yn ol yn erfyn arno drugarhau wrth Emrys—do, yn y lludw a'r clai o'i flaen o—yn erfyn arno fadda i Emrys, er fy mwyn i, er mwyn merch y ddynes feddw fydda'r sgweier a Mr. Vaughan yn i chael i'r tŷ i neud sport iddyn nhw, pan fydda'r llwynogod yn brin,—ac mi troes fi dros y drws, a bygwth y cŵn ar f'ol i. 'Rydw i'n dod yma eto ar yr un neges, at flaenoriaid y bobl—y chi, Wiliam Prichard, dorrodd mam o'r seiat
WILLIAM PRICHARD. Ie, ond rwyt ti'n bryderus iawn ynghylch mab dy feistr, y ngeneth i. Beth ydi'r mater, eh? Mae na ryw reswm, hi, hi!
ANN. Oes: 'rydw i wedi byw a meddwl llawer. Dwy ar hugain fydda i G'lan Gaea nesaf, ond 'rydw i wedi byw llawer mwy na hynny mewn cyni, a diodde, a gwarth. Mi wn i beth ydi colli pob gola, a thywyllu pob ffordd: mi wn i am lyn cysgod angau a'r rhai sy'n cerdded drwyddo; mi wn i beth ydi gwaeddi'r nos am y bore, a'r bore am y nos—am hynny, 'rydw i'n erfyn arnoch chi gadw un arall . . . rhag mynd at y mwyafrif.
WILLIAM PRICHARD. Wel, mae'n rhaid i mi fynd adre, beth bynnag. Mae o wedi i gynnig a'i eilio yn bod ni'n diarddel Emrys Williams. Os ydi rhywun yn meddwl fod gan y sgweier rywbeth i neud â'r peth, mae o'n methu, a chan fod teulu'r Sgellog wedi mynnu dod yma i gael brifo'u teimlada, arnyn nhw mae'r bai. Rydw i'n gofyn i chi roi'r peth i bleidlais, Mr. Evans.
AZARIAH EVANS. Wel, pawb o blaid? (William Prichard, Dafydd Dafis, a Mr. Humphreys yn codi dwylo.) Yn erbyn? (Huw Bennet a'r Gweinidog yn codi dwylo.) Wel, dyna hi felly . . . . Mae o i'w ddiarddel; does gen i ddim mwy i ddeud . . . heblaw hyn. Yr ydw i'n dymuno ymddiswyddo o'r eglwys yma, ac yn mynd oddiyma.
WILLIAM PRICHARD. I ble, hi—hi?
AZARIAH EVANS. I siarad hefo pobol y tafarna a'r cloddia, y publicanod a'r pechaduriaid . . . ond Duw a f'helpo i, . . . rydw i'n rhy hen, rhy hen . . . Wel, nos da . . . (Wrth Emrys.) Mi ddo i'r Sgellog yfory.
HUW BENNET. Rydw inna'n dwad hefo chi—at y publicanod. (Yn gafael yn ei het ac yn mynd allan.)
EMRYS (ar eu hol). Cofiwch gadw'ch blâs, beth bynnag . . . "Chwychwi yw halen y ddaear." (Pawb arall yn symud allan. Emrys yn cysuro'i rieni, ac yn gwthio Ann allan gyda hwy.) Miss Vaughan!
AGNES. Wel? (Yn dod yn ol.)
EMRYS. Yr ydech chi'n cofio beth ddeudis i wrthoch chi fis neu ddau yn ol,—a be ddywedsoch chitha wrtha inna. Wel rydech chi wedi bod yn bur ddieithr i mi byth er hynny—a mae hynny'n ddigon naturiol. Hwyrach ych bod chi'n synnu fy mod i'n cymryd yr holl gywilydd sydd wedi disgyn arna i mor ddidaro, a mod i medru cadw nhempar hefo'ch tad. . . .. Wel, mae pob angor wedi gollwng ond un, ond mae hwnnw'n dal hyd yn hyn. Y chi fedr ddweud, a neb arall, sut y mae hi i fod.
AGNES. Dydw i ddim yn ych deall chi, Mr. Williams. Mae'n rhaid imi fynd,—mae Pa-pa 'n disgwyl.
EMRYS. Ydech chi'n cofio beth ddeudis i wrthych chi'r noson cyn i'r plisman ddwad i'r Sgellog?
AGNES. Ydw.
EMRYS. A'r hyn ddeudsoch chithau wrtha inna?
AGNES. Ydw.
EMRYS Wel?
AGNES. Mae popeth fel yna drosodd, wrth gwrs. Mi ddylech chi wybod hynny . . . (yn cychwyn allan) . . . pan aethoch chi i'r carchar. (Exit.)
(Emrys yn eistedd i lawr yn sydyn. Ann yn dyfod yn ol.)
ANN. Emrys!
Emrys. Wel?
ANN. Dydech chi ddim am adael i hyn wneud dim gwahaniaeth i chi, ydech chi?
EMRYS (yn taro'r bwrdd). Ydw! Os ydyn nhw am y ngyrru i'r cythraul . . . mi âi
ANN (yn gafael yn ei law). Dydw i ddim ond morwyn ych tad a'ch mam . . . merch dynes feddw . . . wedi fy magu ar y plwy . . . ond gwrandewch air genni!
EMRYS. Fedrwch chi ddeud wrtha i be fedra i neud eto!
ANN (yn betrusgar). Na fedra.
EMRYS. Wel, mi fedra i . . . . (Yn myned allan.) . . . Ha, ha! . . . (I'w glywed y tu allan.) . . . Ha, ha!
(Ann yn rhoi'i phen ar y bwrdd ac yn wylo.)
LLEN.
Y DRYDEDD ACT.
(Ystafell fwyta gyffredin y tloty yn Nhre'rcacrau. Y mae'r muriau i gyd wedi eu gwyngalchu; ar y pared pellaf, y mae dwy ffenestr hollol foel, a bariau trymion ar eu traws. Ar y llaw chwith, y mae'r drws sy'n arwain i fewn i ystafelloedd eraill y tloty, ac ar y dde, y drws sy'n arwain i'r neuadd nesaf allan. Ychydig yn nes i'r ffenestri na chanol yr ystafell, y mae bwrdd mawr heb un gorchudd arno, a'r lu ol iddo, ac o'i flaen, fainc cyn foeled a'r bwrdd. Y mae'r tân ar y llaw dde, a llyfr neu ddau ar yr astell uwch ei ben. Ar y chwith i'r bwrdd, y mae cadair neu ddwy a bwrdd llai, gyda lliain arno. Dim arall o gwbl yn yr ystafell.
Y Forwyn—Mari—yn dyfod i fewn i osod pethau yn eu lle ar gyfer pryd.
Y Meistr yn dyfod i fewn ar ei hol o'r drws arall. Dyn buan, awdurdodol. Pe buasai wedi ei eni mewn cylchoedd uwch mewn cymdeithas, buasai'n swyddog ym myddin Prydain, neu, efallai, yn cadw ysgol i blant gwŷr bonheddig. Gan nad oedd ganddo ddim uwch dylanwad o'i blaid na'i fod wedi priodi morwyn clarc y Gwarcheidwaid, mae'n debig mai meistr y tloty a fydd ar hyd ei oes. Nid yw ei swydd wedi gwella dim arno.)
MEISTR. Calyn arni hi, Mari,—y troed gore'n mlaena, rwan. Gofala di na adewi di'r un llwchyn yn unman ar dy ol yn yr ystafell yma.
MORWYN (yn araf ac yn hanner sarug). Beth ydi'r mater heddiw, mistar? Oes eisio i'r lle yma fod yn lanach heddiw na ryw ddwrnod arall?
MEISTR. Oes, debig iawn wir—does bosib gen i na wyddost ti—(mewn llais llawn o barchus ofn)—pwy sy'n dwad yma heddiw?
MORWYN. Na wn i wir, mistar. Ydi'r inspector yn dwad?
MEISTR. Hy! inspector wir. Waeth gen i am dano fo,—wyr o ddim am ddim, a wêl o ddim mwy na phe basa fo'n ddall. Na—y guardians sy'n dwad yma i edrych ydi popeth yn iawn . . . ac os gofynnan nhw gwestiwn i ti, cofia di ateb yn ofalus dim gair yn erbyn dy feistr a'th feistres, na dim gair yn erbyn trefn y tŷ yma . . . neu mi gei di fynd yn ol i fyw ar fara a dŵr, . . . a mi geiff y guardians glywed yr hen stori honno am danat ti.
MORWYN. Mi ddeuda i'r gore am bawb a phopeth, gwna wir, syr, . . . gwna wir, syr.
(Y Meistr yn mynd ac yn rhoi Beibl mawr ar y bwrdd, ac yn brysur hefo'r llyfr cyfrifon. Y Forwyn yn gorffen ei gwaith ac yn mynd allan. Cloch yn canu. Swn tracd. Drws y llaw dde'n agor, a'r dynion yn dyfod i fewn y merched wedyn o ddrws y llaw chwith, ac yn cymryd eu lle o gwmpas y bwrdd yn ddistawy cwbl mewn dillad wedi eu golchi ganwaith. Yn eu plith, Ann, a'i chefn atom, a'i llaw dan ei phen.)
MEISTR (yn taro'r bwrdd â'i law). Rwan, reit ddistaw a rheolaidd: mae arna i eisio i chi gofio fod y guardians yn dwad yma heddiw..
TWM HUWS. Pwy ddeudsoch chi, syr?
MEISTR. Y guardians—y bobol sy'n edrych ar ych hola chi.
TWM HUWS. Wel, wel: wyddwn i ddim fod neb yn edrych ar yn hola ni, yn y fan yma—dyna newydd i mi.
"Mwya fo dyn byw, mwya wêl o, a mwya glyw."
MEISTR. Sut rwyt ti'n meddwl ych bod chi i gyd yn cael bwyd ynte, os nad oes rhywun i edrych ar ych hola chi?
TWM HUWS. Wel, y Llywodraeth, debig iawn, sy'n i anfon o, fel y manna yn yr anialwch. Mr. Gladstone a Mr. Disraeli sy'n cofio am y bobol anlwcus weithia— ac yn gyrru bwyd ini yma . . . i'n cosbi ni.
MEISTR. Cosbi! Cosbi!! Cosbi!!! Beth ydi dy feddwl di, dwad?
TWM HUWS. Wel, gneud ini fyw yn erbyn yn hewyllys—dyna'n cosb ni, a'r pechod wnaethon ni oedd bod yn anlwcus. O ran hynny, dyna ydi pechod pawb, ynte Mistar? Oni bae am y trethi a'r arian sy'n yn cadw ni'n fyw, mi fuasan ni wedi marw i gyd ers blynydd oedd, ond fasan ni, bobol? . . . Ond chawn ni ddim. . . . Os treiwch chi farw, mae nhw'n ych gyrru chi i'r jêl, ac wedyn i'r workws—a dyna lle'r ydyn ni wedi marw i'r byd ag i ai'n hunain. . . . "Lle mae Twm Huws druan?" medda rhywun. . . "Yn y workws," medda pobol, fel tasa'n nhw'n son am rywun yn uffern . . . . Does na ddim ond dau yn gwbod lle'r ydyn ni'n iawn.
UN ARALL O'R TLODION. Pa ddau?
TWM HUWS. Duw . . . a'r diawl. Felly y bydda i yn i gweld hi, beth bynnag.
MEISTR. O, felly wir. Beth wnaeth i ti ddwad yma, os gwn i, Mr. Athronydd?
TWM HUWS. O—drifftio . . . a charedigrwydd pobol barchus. (Wrtho'i hun.) Mi fuo gen i wraig a thri o blant, a thŷ a gardd, a Mari a Jane Liza a Twm bach, a gwraig a thŷ a gardd . . . do, rywdro. Lle mae nhw heno? Mistar, lle mae nhw heno?
MEISTR. Ie lle mae nhw heno? da y gelli di ofyn.
TWM HUWS. Mae'r wraig a'r plant . . . mewn lle na chewch chi byth fynd yno, mistar, . . . chewch CHI byth weld Twm bach. Mi werthodd y guardians y tŷ a'r ardd a'r mochyn i dalu costa'r claddu a bil y doctor . . ..a nghadw inna yn fy salwch pan gollis i fy ngwaith. Caredigrwydd pobol, fel y deudis i, gyrrodd fi yma. Fedra pobol grefyddol garedig y pentre ddim diodda gweld hen ddyn afiach hanner call oedd wedi bod yn rhywun parchus rywdro, yn dihoeni o flaen i llygaid nhw . . . a mi ddarun y ngyrru i i'r workws . . . . Roedd i clonna nhw'n rhy garedig i feddwl i ddal o yn y pentre o flaen i golwg bob dydd. . . . A mi bwriwyd fi i'r môr o angho hwnnw sy'r tu ol i eneidia pobol barchus . . . sef y workws..
MEISTR. Siarad ti'n fwy parchus, ac yn debycach i Gristion, y ngwas i, neu mi gei di fod heb dy faco am wythnos.
TWM HUWS. O'r gora, syr . . . dim ods. Rydw i'n gorfod gneud heb lawer o betha, a mi wna heb hwnnw hefyd gydag amynedd. (Wrtho'i hun.) Mi fydda Jane Liza yn dwad âg owns o faco neis imi o'r dre ystalwm . . . a Twm bach yn i ddwyn o o'r papur. . . . Wel, wel, mae petha wedi newid, ond ydyn nhw?
(Drws o'r neuadd yn agoryd, a'r porthor yn ymddangos.)
PORTHOR. Casual, syr, wrth y drws.
MEISTR. O, Cymro ynte Sais?
PORTHOR. Cymro, syr.
MEISTR. Wyt ti wedi i holi o? Ydi o'n lân, a sobor?
PORTHOR. Wel, mae o'n eitha sobor, ond wn i ddim beth am i lân o . . . ond does fawr air i gael gynno fo . . . un anodd i drin, mi dyffeia i o, syr.
MEISTR. Hitia befo, mi trinia i o. Ydi o'n dallt be raid iddo fod neud cyn mynd odd ma?
PORTHOR. Ydi, syr.
MEISTR. Rho fo yn y Casual Ward nes ca i ddwad i weld o . . . nage, aros!—tyrd â fo yma, iddo fo gael bwyd gynta.
(Porthor yn myned allan.)
TWM HUWS (wrth un arall o'r tilodion). Fyddan nhw'n golchi rhai'n dwad yma fel hyn am noson, dwad?
UN ARALL O'R TLODION. Byddan, debig iawn—a golchfa iawn fyddan nhw'n gael hefyd. Y tro cynta y dois i yma, fel casual y dois i . . . a wedyn, mi ddrifftis fel titha.
TWM HUWS. Mi fasa rhywun yn meddwl i bod NHW, y bobol fawr,—y guardians—yn lân ofnatsan wrth i gweld nhw mor byrticlar hefo ni.
UN ARALL O'R TLODION. Dydyn nhw ddim, ar fend i—ddim chwarter cyn laned a gweithiwr. . . . Mi wn i am be rydw i'n siarad. Ond fel yna mae hi o hyd . . . petha i'w gwthio ar y bobol dlodion ydi'r rhin— wedda mawr i gid—glendid a dirwest a phetha felly.
(Y porthor yn agor y drws, ac Emrys yn dyfod i fewn. Mae ei farf wedi hanner tyfu, a'i ddillad yn garciau am dano. Nid yw'n edrych i'r dde nag i'r aswy, ond yn cerdded ymlaen a'i lygaid i lawr, a phawb ond Ann yn codi'u golwg i edrych arno.)
MEISTR (yn agor ei lyfr). Wel, beth ydi d'enw di? Emrys. Emrys Williams.
MEISTR. Ymha blwy y cest ti d'eni?
Emrys. Llanfesach.
MEISTR. Beth sy arnat ti eisio yma?
EMRYS (yn edrych i fyny'n sydyn). O . . . suite of rooms, a brecwast yn y ngwely, a galw arna i y dydd ar ol fory. Faint o bris fyddwch chi'n godi? . . . o dim ods, dim ods!
MEISTR. O! rwyt ti'n meddwl dy hunan yn ddoniol ofnatsan, ond wyt ti? Mi gei di weld faint fydd y pris eto. O ble doisti?
Emrys. O Drefeglwys . . . o'r Royal Hotel yno.
MEISTR. Felly,—y jel neu'r tloty. Lle rwyt ti'n mynd fory?
EMRYS. I'r cythraul.
MEISTR. Eh?
EMRYS. I'r cythraul . . . rydw i ar y ffordd ers talwm . . . ond heb gyrraedd eto'n llwyr, ond . . .
'Rwy'n gweld y bryniau pell
Yn araf agoshau."
Mae pen y daith yn ymyl.
MEISTR. Taw, neu mi rhoi di ar fara a dŵr—y ffwl anystyriol iti. Eistedd yn y fan yna, a bwyta, . . . a phaid ti a gadael (marcato) . . . imi . . . glywed . . . dim . . . o . . . dy sŵn di.
(Y Meistr yn mynd allan. Mari yn dyfod i fewn, ac yn rhoi bwyd o flaen Emrys.)
TWM HUWS (wrth Emrys). Rydech chi wedi dwad i le da, ar fengoch i . . . . Rhag ofn na wyddoch chi ddim . . . potes ydi hwnna. Mae nhw'n berwi'r un ceiliog bob nos i neud o ers pan ydw i yma—ers pedair blynedd . . . a phedwar ugain . . . a chant!
EMRYS (yn edrych yn graff arno, ac yn amneidio). O, mi fum i ar i salach o. Rydw i wedi bod yn bwyta skilly.[1]
TWM Huws. Wel, wel, frawd bach! Rydech chitha yn un o'r rhai anlwcus felly. Lle buoch chi yn y jêl, mor hy a gofyn?
EMRYS. Yma—yn Nhre'rcaerau.
TWM HUWS. Dwgyd?
EMRYS. Nage.
TWM HUWS. Curo plisman?
EMRYS. Nage—breuddwydio . . . proffwydo. . . a thorri'r tresi, bwrw'r cylchau . . . . Fedra i ddim bwyta hwn . . . a ches i ddim tamaid er y bore.
TWM HUWS. Druan ohonoch chi! (Yn sibrwd yn ddistaw.) Mae gen i damaid o gig yn y mhoced . . . cymrwch o, cymrwch o.
EMRYS. Diolch, frawd bach. Rydech chi wedi methu cyrraedd pen ych siwrna, mi wela.
TWM HUWS. Pen y siwrna?
EMRYS. Ie . . . y cythraul. Dyna lle'r ydw i'n mynd. Rydw i bron wedi cyrraedd.
TWM HUWS. Rydw i yn deall . . . Beth ydi'ch amcan chi?
EMRYS. Mae arna i eisio cledu f'hunan ddigon . . . (yn codi ar ei draed) . . . i ladd dau neu dri o ddynion . . . i gyrru nhw—(yn pwyntio i'r llawr)—i lawr o mlaen. Mi fyddai'n fodlon wedyn.
TWM HUWS. Pwy sy arnoch chi eisio'i ladd, frawd?
EMRYS (yn tynnu papur o'i logell). Dyma nhw— rydw i wedi sgrifennu 'i henwa nhw rhag imi anghofio. William Prichard, London House, Llanfesach, merchant tailor; Thomas Humphreys, Llanfesach, schoolmaster; John Vaughan, yr Hafod, Llanddyfi, gentleman farmer; David Davies
UN ARALL O'R TLODION. Hist! Hist! Dyma'r guardians yn dwad.
(Y drws ar y chwith yn agor. William Prichard a Mr. Vaughan yn dyfod i fewn gyda'r Meistr.)
MEISTR. Ie, foneddigion,—dyma nhw'r teulu—y nheulu i fydda i yn i galw nhw. (Wrth y tlodion.) Hitiwch befo, boys bach . . . ewch chi'n mlaen hefo'ch bwyd.
WILLIAM PRICHARD. O! dyma nhw'r bobol sy'n codi'r trethi i fyny, ynte? Eh? Braster y wlad iddyn nhw; mi dyffeia nhw, eh?
VAUGHAN (wrth y Meistr a'r Matron, sy'n eistedd gyda'r merched). Gellwch chi fynd allan rwan, a'n gadael ni yma i holi tipin ar y bobol yma. (Y ddau yn mynd allan.) Sut na fasan nhw yn gneud rhywbeth? Tybed y byddan nhw'n cael byd da fel hyn bob amser?
Byth o'r fan yma, William Prichard, mai hi'n talu'n well i fod yn y workws nag yn byw yn onest. (Yn cerdded o gwmpas ac yn dyfod at Emrys.) Sut na fasan nhw yn golchi un fel hyn? (Yn gafael yng ngudyn ei wallt ac yn ei godi.)
(Emrys yn codi'n sydyn, ac yn cilio oddiwrthynt gan syllu'n graff.)
EMRYS. Ho! . . . Hylo! Dyma'r diwedd yn gynt nag y disgwyliais i. Rydw i wedi bod yn chwilio am danoch chi'ch dau ers tro,—oh do!—a dyma ngyrfa i ar ben. Hen frawd—(yn curo Twm Huws ar ei gefn)— mi a ymdrechais ymdrech deg . . . mi a redais. . . a dyma fi . . . (Yn eistedd i lawr a'i law ar ei wyneb.)
William Prichard (yn cilio'n ofnus y tu ol i Mr. Vaughan). Eh? Pwy ydi hwn, eh? Rydw i wedi i weld o o'r blaen yn rhywle, eh?
VAUGHAN (yn pwyntio at Emrys). Ewch â'r dyn yna allan; mae o'n wallco. Pwy ydi o?
EMRYS (yn codi'n sydyn, ac yn cerdded at y drws, ac yn ei gloi: yna'n cloi'r drws arall: wedyn yn tynnu pistol allan). Eisteddwch i lawr!
WILLIAM PRICHARD: Beth ydi'r mater, syr? Wneis i erioed ddim i chi, ŵr da.
EMRYS (yn darllen o'r papur). William Prichard, London House, Llanfesach, merchant tailor; John Vaughan yr Hafod, Llanddyfi, gentleman farmer . . . . Ie, dyma nhw . . . . Mi brynais y pistol yma dair blynedd yn ol i seuthu rhyw bedwar o bryfed oddiar wyneb y ddaear yma. Llawer gwaith y bum i y tu ol i chi ar noson dywyll yn meddwl gwneud . . . ond yn methu. Roeddwn i heb gyrraedd pen y daith, rydech chi'n gweld . . . ond yn awr—(yn codi'i lais)—mae'r ysbryd wedi disgyn arna i . . . ac yr ydw i'n mynd i glirio'r wlad yma o ddau drychfil!
WILLIAM PRICHARD. Pwy ydi o? (Yn dechreu llefain.)
EMRYS. William Prichard a John Vaughan, edrychwch yn myw fy llygaid i.
'ANN (yn rhuthro o'r gongl, ac Emrys am funud yn rhoi'i law i lawr, ac yn edrych yn syn arni). Emrys!
EMRYS. Ann!
ANN. O Emrys, beth ydech chi'n neud?
EMRYS. Sefwch yn y fan yna . . . mi ga i siarad hefo chi eto.
ANN (yn dyfod ato). Emrys!
EMRYS (yn awdurdodol). Eisteddwch i lawr, fel rydw i'n deud wrthoch chi. (Wrth y tlodion.) Ewch i'r gongol yna i gyd: wna i ddim i chi, druain bach. (Y tlodion i gyd yn mynd i'r gongl mewn dychryn). Yn awr, dyma fi. William Prichard, ydech chi'n fy nghofio i?
WILLIAM PRICHARD. Ydw, . . . syr. Mr. Emrys Williams.
EMRYS. A chitha, Mr. Vaughan?
VAUGHAN. Ydw—rydw inna yn ych adnabod chi rwan.
EMRYS. Ydech chi'n cofio beth wnaethoch chi imi?
WILLIAM PRICHARD. Dim,—dim, syr!
EMRYS (yn uchel). Atebwch fi. (Y'n codi'i law.) Beth?
WILLIAM PRICHARD. Wel, syr, ych diarddel chi o'r seiat.
EMRYS. Ie—William Prichard—y chi orffennodd y job, onide? Wel, y fi ydi'r barnwr heno, a chitha ydi'r carcharorion. Sefwch i fyny yna.
(William Prichard a John Vaughan yn sefyll i fyny.)
EMRYS (yn eistedd i lawr y tu ol i'r bwrdd). Dacw'r jury, y tlodion acw . . . . Yn awr, William Prichard, rydech chi dan y cyhuddiad o fod o wirfodd calon wedi difetha fy mywyd i—wedi fy lladd i, os mynnwch. Beth ydi'ch amddiffyniad chi. Atebwch ar unwaith.
WILLIAM PRICHARD (yn crynnu). Eh? . . . Eh? . . . Dim ond dyledswydd.
EMRYS (yn codi'r pistol). Y gwir . . . neu
WILLIAM PRICHARD. Arhoswch, syr. I gyfadde'r gwir i chi, syr—cenfigen oedd gen i atoch chi, os oes arnoch chi eisio'r gwir.
EMRYS (yn synnu). Eh? Beth ddywedsoch chi?
WILLIAM PRICHARD. Cenfigen.
EMRYS. Pam? Beth oedd yr achos?
WILLIAM PRICHARD. Wel, syr . . . (yn mwmian) . . .
EMRYS. Siaradwch yn uwch.
WILLIAM PRICHARD. Mi wyddoch ych bod chi wedi curo John ymhob peth, ag yr oeddwn i wedi crafu a chynhilo pob dima i wneud gŵr bonheddig o John, ac yr oeddwn i wedi methu.
EMRYS (yn rhoi'r pistol i lawr). Oh! rydw i'ngweld. Lle mae John?
WILLIAM PRICHARD. Mae o wedi priodi.
EMRYS. Lle MAE o? Beth mae o'n wneud?
WILLIAM PRICHARD (yn torri i wylo). Dim syr,—dim ond gwario pob dima yn y Red Lion. Mae gynno fo bedwar o blant, a finna'n gorfod i cadw nhw i gyd—mae'r dafarn yn mynd â phob dima mae o'n ennill. Rydw i wedi gwario'r cwbwl hefo fo, ac wedi f'ysigo am byth. Mi fum i'n gobeithio.
EMRYS. O mi fuoch chitha'n gobeithio, felly. (Yn ysgrifennu rhywbeth ar bapur.) Rhaid imi gofio hyn. Gobeithio beth?
WILLIAM PRICHARD. Y basa John yn gredud imi ac i'r wlad ond mae o'n sotyn diobaith.
EMRYS. Diobaith . . . .
TWM HUWS. Beddau'r blys!
EMRYS. Cibroth—Hatafah—beddau'r blys. Mae'r wlad yma'n llawn o feddau, William Prichard,—beddau'r proffwydi.
WILLIAM PRICHARD. A chyfyd o byth, syr, byth.
EMRYS. Yn awr—ar eich llw—codwch ych llaw—ar ych llw o flaen Duw—nid Duw'r set fawr, ond y Duw hwnnw sy'n edrych ar ol y rhain. (Yn pwyntio at y tlodion.) Cenfigen ynte dyledswydd a'ch cymhellodd chi i fy niarddel i?
WILLIAM PRICHARD. Rydw i'n syrthio ar fy mai o flaen Duw—cenfigen, a dim arall.
(Emrys a'i ddwylo ar ei wyneb, a'i ben ar y bwrdd. Curo mawr wrth y drws. Emrys yn neidio i fyny, ac yn troi'r pistol at John Vaughan.)
EMRYS. Ewch at y drws: agorwch: a dywedwch wrthyn nhw am fynd i ffwrdd a'n gadael ni'n llonydd. Dywedwch gelwydd i'w twyllo yn ych dull digymar ych hun. Cofiwch . . . mae angeu yn ych ymyl.
(John Vaughan yn agor y drws yn gilagored.)
VAUGHAN. Hym! Gadewch ini am funud yma, Mr. Parry, . . . mi fuasen ni . . . hy . . .
EMRYS. Yn hoffi cael llonydd.
VAUGHAN. Yn hoffi cael llonydd.
EMRYS. Am ryw chwarter awr.
VAUGHAN. Am ryw charter awr.
EMRYS. I holi tipin ar y bobol yma.
VAUGHAN. I holi tipin ar y bobol yma.
EMRYS. Ag i weinyddu barn. (Gyda phwyslais.)
VAUGHAN. Ag i weinyddu barn.
MEISTR. Oh! popeth yn iawn, Mr. Vaughan, Methu deall yr oedden ni pam roedd y drws wedi'i gloi.
EMRYS. Caewch y drws. (John Vaughan yn ei gau.) Clowch o. (John Vaughan yn ei gloi.) Safwch wrth y bar, ych dau. (Wrth y tlodion.) Foneddigion a boneddigesau, y mae'r cyhuddedig, William Prichard, yn pledio cenfigen yn esgus. Oes yma rywun i ddweyd gair o'i blaid, neu i'w erbyn?
(Ann yn dyfod ymlaen.)
EMRYS. Ych enw?
ANN.Ann
EMRYS. Gwaith?
ANN. Dim—yn y tloty.
EMRYS. Dywedwch ar f'ol i. "Rwy'n mynd i ddweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir."
ANN. Rwy'n mynd i ddweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir. . . . Roeddwn i'n nabod i dad o.. bu farw'n hen ŵr. Dyna oedd mainspring i fywyd yntau—cenfigen. 'Roedd o'n ddyn caredig at bawb, ond at bobol oedd yn uwch neu'n well nag o. . . . Chafodd William Prichard ddysgu dim arall erioed. Y nefoedd fawr, Emrys, dydech chi ddim yn deall? Chwythodd yr un chwa o'r awelon iachus ar enaid William Prichard erioed, i yrru'r cymyla i ffwrdd. Doedd o'r un o'r etholedigion . . . un o'r rhai hynny sy'n eistedd yng nglyn cysgod Angeu, heb weld y goleu mawr. Ddaeth yr efengyl erioed i wlad o
EMRYS. Ann, ewch i'ch lle . . . diolch i chi. Doeddwn i mo'ch nabod chi o'r blaen, mi wela; rydech chi wedi cael mwy o ysgol na mi. William Prichard, ewch acw . . . at y tlodion ereill!
(William Pritchard yn myned i'r gongl at y tlodion.)
EMRYS. Yn awr, John Vaughan, beth oedd ych rhan chi yn y ngwarth i?
VAUGHAN. Doedd gen i ran yn y byd!
EMRYS. O'r gore. (Yn codi'r pistol.) Un . . . dau—
VAUGHAN. Arhoswch, Mr. Williams. Mi ddeuda i.
EMRYS. Ie—mae'n well i chi.
VAUGHAN. Y sgweier wnaeth imi fynd at y blaenoriaid yn Siloh, i'ch cael chi o'r seiat . . . .
EMRYS. Ie, ond doedd arnoch ddim eisio hynny'ch hun?
VAUGHAN. Nag oedd, ar fy ngwir.
EMRYS. Oh! snobbery, taeogrwydd, gwaseidd- dra at y sgweier oedd yn ych cymell chi felly?
VAUGHAN. Nage, nid hynny chwaith . . . . Roedd y sgweier wedi rhoi pedwar cant o bunnau'n fenthig i mi.
EMRYS. Oho!—pedwar cant . . . i beth?
VAUGHAN. I dalu'r diffig yn y nghyfrifon i fel trysorydd y Clwb . . . yr oeddwn i wedi gwario arian nad oedd yn perthyn imi.
EMRYS. Ann! sefwch yma. (Ann yn dyfod ymlaen.) Ydi hyn yn wir?
ANN. Ydi. Mi glywis y mam yn dweud lawer gwaith. Yr oedd y sgweier wedi gwneud Mr. Vaughan yn gi bach iddo, i wneud popeth,—i redeg ag i gario, gyfarth ag i frathu. Chafodd dynoliaeth John Vaughan ddim cyfle i dyfu—roedd hi wedi i chrybachu o'i ienctid.
EMRYS. Ho! felly wir . . . Wel, John Vaughan, steddwch ar lawr wrth draed yr hen ŵr acw. (John Vaughan yn eistedd.) Rydw i'n deall yn awr am y tro cynta, druan ohonoch chi'ch dau. Rydech chi wedi colli llyw ych llong, ag yr ydech chi ar drugaredd yr un gwynt a'm chwythodd inna ar y creigia. Doedd gynnoch chi ddim help, debig,—ysbryd gwenwyn o uffern yn gyrru un, canlyniadau hen bechod yn gyrru'r llall. Codwch ych dau, a dowch allan yma. (Y ddau yn dyfod ymlaen.) Rydw i'n madda i chi . . . O, na nid am y mod i'n faddeugar, chwaith . . . ond rydw i'n deall ac yn tosturio wrthoch chi'ch dau. ond mae arna i ofn nag oes dim workws i rai fel chi. . . . Ewch mewn heddwch, ond rydw i'n gofyn ichi addo un peth cyn mynd . . .
(Y drws yn cael ei wthio i fewn. Y Meistr a'r Porthor yn rhuthro i'r ystafell.)
MEISTR. Daliwch o!
EMRYS (yn dal y pistol atynt). Dim cam yn nes! Ewch allan ych dau gyda'r tlodion yma, ac ewch â'r tlodion ereill, John Vaughan a William Prichard, hefo chi. Rydw i'n gofyn un peth fel addewid gynnoch chi cyn ych gollwng chi . . . peidio gyrru'r plisman na neb arall ar f'ol am chwarter awr . . . mae arna i eisio hynny o amser i ail—wneud y byd . . . a mi fyddai'n barod wedyn.
WILLIAM PRICHARD. Rydw i'n addo, machgen i . . . mae'r gwenwyn oedd gen i atoch chi wedi darfod ers tro.
JOHN VAUGHAN. A finnau hefyd . . . mi geith y sgweier y ngyrru i i'r man fynno.
EMRYS (wrth y Meistr). Wel?
MEISTR. Dydw i ddim yn deall y chware yma . . . ond gan fod y guardians yn fodlon, rhaid i minnau fod hefyd debig.
EMRYS. Ewch!
(Pawb yn mynd allan yr araf. Twm Huws yn aros ar ol eiliad, ac wrth basio yn troi ato.)
TWM HUWS. Mi gollis wraig a phlant, a thŷ a gardd, a dyma fi yn y workws, . . . ond chollis i mo f'enaid, y machgen i. Pa leshad i ddyn os deall ef bopeth . . . a cholli i enaid ei hun?
EMRYS. Beth ydi'ch meddwl chi, frawd?
TWM HUWS. Cymrwch ofal . . . byddwch yn gapten ar ych llong, beth bynnag . . . pa un bynnag ai yn y porthladd ai yn nannedd y storm y bo . . . ydech chi'n deall?
EMRYS. Ydw—rydw i yn deall . . . ond dydi'r llong ddim yn werth i chadw . . . mae'r llygod mawr wedi gadael hi i gyd.
(Emrys yn cerdded o gwmpas, yn gafael yn y pistol, ac yn ei roi wrth ei ben: yn ei daflu i lawr, ac yn ei godi drachefn. Drws yn agor. Ann yn rhuthro i fewn, ac yn taro'r pistol i lawr.)
ANN. Emrys! Eisteddwch i lawr,—a deudwch ych hanes . . . deudwch y breuddwyd, ag hwyrach y medra i i esbonio fo i chi . . . . Os mynnwch chi farw yn y diwedd, mi fydda i farw hefo chi.
EMRYS. Ann, dydw i ddim yn ych deall chi'n iawn . . . mi ddylwn fod wedi treio nghynt, ac hwyrach y buasai hi'n well arna i. Beth sydd arnoch chi eisio hefo mi?
ANN. Codi a byw!
EMRYS. Codi a byw! Codi a byw! Wyddoch chi fy hanes i yn ystod y pedair blynedd dwytha? Wel, mi ddeuda i wrthoch chi. Mi eis i'r jêl yn ddiniwed, fel y gwyddoch chi—ac wedi dwad allan, mi gollis fy mharch. Mi bwriwyd fi o'r seiat, a dydw i ddim yn ddigon o ffwl nag ydw i gwbod be di hynny. Doeddwn i ddim yn mynd i aros ar drugaredd fy nhad a mam, a'u tynnu nhw i'r llaid a'r f'ol, . . . a mi benderfynis fynd i Canada i fod o olwg Cymru a Chymraeg, a chapel a sgweier am byth. Doedd gen i ddim arian . . . ag er mwyn talu'r passage, mi ddygis ddeg— punt o dŷ yn sir Gaer—tŷ sgweier fel yn sgweier ni,— a doedd hynny yn ddim ar y nghydwybod i . . . mi wyddwn y mod i'n gwneud gwasanaeth i'r wlad drwy'i dwyn nhw. Ond mi daliwyd fi ym Montreal, ag mi ddois yn ol yma am ddeunaw mis o lafur caled yng ngharchar Caer. Wel, dyma fi, Ann, cyfaill lladron a phuteiniaid, jail-bird, dyn wedi byw yn y baw! Ann, rydech chi'n ddigon call i wybod nag oes dim esboniad arall ar y mater . . . dyma'r unig ffordd. (Yn codi'r pistol i fyny.)
ANN. le, dyma'r unig ffordd . . . (yn cipio'r pistol) . . . ond y fi'n gynta.
EMRYS. Ann, Ann! rhowch o i lawr. Pam y rhaid i chi wneud?
ANN. Yr un pam a chitha . . . mae ngyrfa inna ar ben. Mi ddoi hefoch chi . . . . Clowch y drws.
EMRYS. Na, na, Ann annwyl . . . gadewch i mi glywed rhywbeth mwy gynnoch chi. Pam rydech chi'n poeni cymint o fy achos i?
ANN. Wel, waeth imi ddweud bellach . . . rydech chi'n ddall iawn. Faint o bobol, meddwch chi, sy'n dal i ymddiried ynoch chi?
EMRYS. A dyna hi! Faint? . . . Debig gen i fod fy nhad a mam yn dal i ngharu i o hyd . . . druain ohonyn nhw . . . ond ymddiried? Nag oes neb.
ANN. Oes.
EMRYS. Nag oes.
ANN. Oes, un.
EMRYS. Pwy ydi o?
ANN. Y fi—dae waeth am hynny. Ond dydw i fawr credud i neb. Mae rhyw ginc yna i; rhyw dro yn y natur i. Mi roes marw mam a'ch anffawd chitha rywbeth yn y nghalon i, sydd wedi ngyrru i yma ac acw ar draws y cefnfor, . . . ond mae un peth wedi aros.
EMRYS. Beth ydi hwnnw?
ANN. Wel, rydw i'n ddigon digwilidd i ddeud . . . y nghariad i atoch chi, Emrys. Dydi hwnnw ddim llai na'r diwrnod pan ddaethoch chi adre o'r coleg, hefoch cenhadaeth fawr i werin Cymru . . . na, mae o'n fwy!
EMRYS (yn gafael yn ei llaw). Druan ohonoch chi, Ann! Dydech chi ddim yn gwbod beth fum i yn i wneud . . . . Gai ddeud wrthoch chi?
ANN. Na does dim eisio, a waeth gen i chwaith.
EMRYS (yn hanner ffansiol). Faint fuasech chi'n ymddiried yna i, Ann?
ANN. Y mywyd i gyd. —yn i roi o i chi rwan. Rydw i (yn gafael yn y pistol)
(Emrys yn cerdded o gwmpas.)
EMRYS. Ann, rydw i wedi meddwl llawer am danoch chi erioed welis i neb fel y chi eto yn y byd yma. Rydech chi'n wahanol i bawb. Pam?
ANN. Wedi diodde mwy na'r rhan fwya yr ydw i—ac wedi cyrraedd yr ochr arall . . . ac yn deall.
EMRYS. Y neall i?
ANN. Ie—i gyd.
EMRYS. Wel, wel,
ANN. Mae'r amser yn mynd . . . does fawr yn y byd yma ond y chi, eto.
ANN. Y fi?
EMRYS. Ie, chi. Wel, beth fydda ora i wneud? (Yn gafael yn y pistol.)
ANN. Treio un fordaith ar yr hen gefnfor eto.
EMRYS. Sut y medrwn i?
ANN. Gyda'n gilydd—mi ddoi i hefoch chi, os ca i.
EMRYS. Glywsoch chi fi'n deud i'r lle rydw i'n mynd?
ANN. Do i'r cythraul. Mi ddoi hefoch chi.
EMRYS. Dyna hi eto—rydech chi—a finna hefyd— yn methu. Rydw i'n failure ymhob peth. Rydw i wedi methu mynd i'r nefoedd ers tro . . . mi gwelsoch fi'n methu mynd i'r cythraul gynna . . . pan faddeuais i William Prichard a Mr. Vaughan. Fedrai neud dim. . . Mae Duw a'r cythraul wedi ngwrthod i.
ANN. Ddaru chi erioed feddwl mai wedi bod yn cerdded y gors gyntaf—Cors Anobaith yn nhaith y pererin yr ydech chi yn ystod y pedair blynedd yma? . . . dysgu'r ffordd?
EMRYS. Naddo, wir..
ANN. Gaiff Cristiana a Christion ddringo o'r gors hefo'i gilydd y tro yma?
EMRYS (yn chwerthin). Ha, ha! rydech chi wedi dysgu donioldeb yn rhywle. Beth ydi'r cam nesa meddwch chi?
ANN. Hwn! (Yn taflu'r pistol drwy'r ffenestr.)
EMRYS. Beth wedyn?
ANN. Rywbeth fynnoch—ond adawai i monoch chi byth eto. Mi ddoi hefo'ch chi'n forwyn i lanhau'ch sgidia chi, os na chymrwch fi yn wraig . . . a chymrwch chi mohonai, mi wn, wedi clywed f'hanes i, a sut y dois i i'r workws yma.
EMRYS. Ydi o'n ddrwg?
ANN. Ydi.
EMRYS. Drwg iawn?
ANN. Ydi, drwg iawn.
EMRYS. Bendigedig!—gore'n y byd . . . ond Ann? (Yn rhoi'i law ar ei hysgwydd.)
ANN. Wel?
EMRYS. Mi gewch i ddeud o wrtha i . . . ar ol ini adael y gors . . . pan fydd y pererinion yn eistedd dan y palmwydd. Hyd hynny, peidiwcb a son . . . .. Wel, wir, dyma garu go od, goelia i?
ANN. Rhyfedd iawn . . . Emrys bach, ond dydi hi ddim i'r rhyfeddodau ddaw eto. (Emrys yn nesu ati.) Na! ddim eto . . . wrth ddrws y jêl pan ddowch chi allan. Mae nhw'n siwr o'ch gyrru chi yno am hyn. Mi fyddai yno'n disgwyl.
(Curo wrth y drws. Roberts y plisman yn dod i mewn.)
ROBERTS. Wel, wel. Job ffiaidd ydi job plisman,
Mr. Williams. Mae arna'i ofn bod rhaid imi fynd â chi eto.
EMRYS. Rhaid, sergeant; mi ddoi'n ufudd. Rydw i wedi madda i chi.
ROBERTS. Wel wir: mae gan Dduw ffordd ryfedd i godi proffwydi, Mr. Williams. Ambell dro, mae o'n i codi nhw o'u beddau. Mae o wedi gwneud hynny cyn heddiw.
EMRYS. Wel, wel, pwy wyr? Nos da . . . Ann-wylyd—rhyfeddod yr holl fyd!
LLEN.
Y BEDWAREDD ACT.
(Cegin y Sgellog fawr, fel yn Act I., tuag wyth o'r gloch y nos. Y mae'r Setl wedi ei gwthio'n ol, a lleithig yn ei lle, a Robert William yn gorwedd arni. Y mae Elin William yn dyfod i fewn o'r ty llaeth y mae'r ddau wedi heneiddio llawer, a'u bywiogrwydd wedi darfod bron i gyd. Y mae Elin William yn trefnu'r cwrlid sydd tros ei gâr, ac yn eistedd yn ddislaw o flaen y tân).
ROBERT WILLIAM. Mae o'n ddigon hir yn dwad, ond ydi o? Tuag wyth o'r gloch ddeudodd o y bydda fo yma.
ELIN WILLIAM (yn edrych ar y cloc). O mi ddaw toc . . . . Dyn clên iawn ydi o, medda pawb. Piti na fasa fo'n stiwart ers talwm.
ROBERT WILLIAM. Piti na fasa'r hen sgweier wedi marw, ydech chi'n feddwl. Mae pob stiwart, welwch chi, yn newid i liw i siwtio'i fistar. Mi fasa hyd yn oed yr hen Jackson yn eitha dyn, tasa i fistar o'n debig i rywbeth . . . . Glywsoch chi rywun yn deud sut y mae Huw Bennet, deudwch?
ELIN WILLIAM. Mae o'n codi allan rwan, medda nhw, ond roedd Lowri Bennet yn deud mai digon gwanllyd ydi o o hyd.
ROBERT WILLIAM. Ydi o wedi toi i wair eto?
ELIN WILLIAM. Ydi.
ROBERT WILLIAM. Wel, wel . . . cha i doi'r un das byth eto yn y Sgellog beth bynnag. Ychydig feddylis i y basan ni'n mynd heb ddim, fel hyn, wedi i ni gynhilo ar hyd yn hoes . . . Elin!
ELIN WILLIAM. Wel?
ROBERT WILLIAM. Mi freuddwydis i'r pnawn yma, fy mod i yn i weld o . . . Emrys, pan oeddwn ni'n cysgu'n y fan yma ar y mhen fy hunan.
ELIN WILLIAM (yn wylo). Mi fydda i yn i weld o bob nos bron . . . . Heblaw mod i'n cael breuddwydio am dano fo, mi faswn i wedi marw ers blynyddoedd.
ROBERT WILLIAM. Wel, wel: waeth i ni beidio a styrbio'n hunain yn sôn am dano fo; . . . mae popeth wedi mynd yn ddigon main arnon ni.
(Distawrwydd. Cnoc wrth y drws. Elin William yn codi).
ELIN WILLIAM. Dyna Mr. Wynne wedi dwad. (Yn agor y drws.) Bobol annwyl! Huw Bennet! Sut daru chi fedru cerdded mor bell?
HUW BENNET (yn dyfod i mewn ar ddwy ffon). Wel, gymdogion, sut mae hi yma heno?
ROBERT WILLIAM. Hylo, Huw Bennet, sut rwyt ti ers talwm . . . . Mae'n dda genni dy weld ti. Rwyt ti'n mendio o mlaen i eto. Tyrd yma. (Y ddau yn ysgwyd llaw.)
ELIN WILLIAM. Steddwch yn y fan yna, Huw Bennet. Rydech chi wedi blino, mi wranta.
HUW BENNET (yn eistedd). Wel, tawn i'n llwgu'r munud ma . . . toes dim golwg dyn sal arnat ti, nag oes wir. Mi fyddi di o gwmpas dy betha ymhell o mlaen i eto, gei di weld.
ROBERT WILLIAM. Na, weldi, does dim feder y ngwella i bellach. . . . Mae hi wedi mynd yn rhy ddiweddar. Ond wyddost ti beth? mi fydda i'n meddwl weithia, cawn i weld Emrys yn sefyll ar y llawr yna, yn wych neu'n wael, yn dda neu'n ddrwg, . . . y medrwn i neidio gyn uched a'r distia yna. Medrwn, myn fendi!
HUW BENNET. Wel, wel . . . pwy wyr? Ond i ddeud y gwir wrthyt ti, mi ddylet gael hwsmon yma i d'helpu, gan na fedri di fynd o gwmpas dy hunan. Rydw i wedi sylwi fod y gwrychoedd yna wrth y gadlas yn fler ofnatsan las. Mi yrra i Twm y gwas acw i daclu tipin yma fory.
ELIN WILLIAM. Diolch i chi'r un fath, Huw Bennet, ond waeth i chi beidio ddim. Ryden ni wedi gyrru am Mr. Wynne y Stiwart i ddwad yma; mi addawodd fod yma erbyn wyth.
HUW BENNET. Wynne y stiwart newydd? I beth? . . . i ddeud wrtho fo lle mae'r hen sgweier wedi mynd?
ROBERT WILLIAM. Nage . . . . Wn i mo hynny, er gwaethed dyn oedd y sgweier. . . . Hwyrach fod y Brenin mawr wedi cael lle hyd yn oed i'r sgweier yn un o'r llawer o drigfannau sydd yn i dŷ.
HUW BENNET (yn codi). Nag ydi, myn gafr i!. os nag oes gan y Brenin mawr gytiau moch yn i drigfannau, ag os nad ydi popeth ddysgis i yn yr Ysgol Sul yn ffwlbri . . . "Lle nad â i fewn ddim aflan na halogedig." Mi elli di fod yn ddigon tawel dy feddwl, Robert, na weli di mo dy drwblo eto gan y sgweier, yr ochor yma na'r ochor arall . . . Ond dywed i mi, beth sydd arnat ti eisio hefo Mr. Wynne?
ROBERT WILLIAM (yn rhoi'i ben i lawr yn ddistaw). Rhoi'r Sgellog yma i fyny.
HUW BENNET. Rhoi'r Sgellog i fyny? (Mewn llais isel.) Beth ydi'r mater?
ROBERT WILLIAM. Rydw i, fel y gweli di, wedi mynd yn rhy wael i ffarmio byth eto . . . rydw i wedi colli pob deleit yn y ffarm yma. Wyddost ti faint o arian sy genni at y rhent nesa? Elin, dowch â'r jwg i lawr.
ELIN WILLIAM (yn mynd at y dressel ac yn tywallt arian o'r jwg ar y bwrdd). Dyma nhw, Huw Bennet, pedair punt a saith a dima . . . i dalu hanner canpunt o rent.
(Distawrwydd mawr am hir amser).
HUW BENNET (yn sydyn). Faint ydi gwerth y stoc yma a'r dodrefn?
ROBERT WILLIAM. Does fawr gwerth yn y stoc: ryden ni wedi gorfod madal â phopeth o ddim gwerth . . . does yma ddim gwerth trichant rhwng y cwbw. Mae'n rhaid i ni roi ocsiwn ar y cwbwl . . . hen betha y nhad a nhaid a f'hen daid o mlaen i.
HUW BENNET. Rwan, gymdogion, newch chi addo wrtha i gadw'ch cegau'n ynghaead am bum munud? Mae arna i eisio sgwennu. Inc, Elin William, a phwt o gwilsyn.
(Elin William yn dyfod ag inc a chwilsyn oddiar y dressel).
(Huw Bennet yn tynnu cheque-book o'i boced ac yn ysgrifennu).
HUW BENNET. Be newch chi âg ocsiwn, deudwch? Ocsiwn wir! Os ydi trichant yn ddigon gen ti, mi bryna i'r stoc i gyd rhag trafferth . . . dyna cheque i ti am danyn nhw. (Yn estyn cheque i Robert William. )
ROBERT WILLIAM (yn edrych yn hir ar y cheque). Hm! ddaru mi rioed feddwl y basat ti'n fy mhrynu i allan, Huw Bennet, naddo wir . . . . Pa bryd y mae arnat ti eisio cymryd meddiant?
HUW BENNET. Heno!
ELIN WILLIAM. Heno?
HUW BENNET. Ie . . . wrth gwrs, y chi fydd yn aros yma fel o'r blaen, dim ond mai f'enw i fydd ar y stoc.
ROBERT WILLIAM. Huw Bennet, 'r hen gyfaill, rydyn ni'n fwy diolchgar iti na medra i byth ddangos: rwyt ti wedi bod erioed y cyfaill a'r cymydog gora gafodd neb. Ond a deud y gwir wrthyt ti, fedrwn i byth dalu log iti . . . ond dydyn ni yn methu talu'r rhent?
HUW BENNET. Aros funud: gwna bwt o bapur yn deud mai fi pia'r stoc.
ROBERT WILLIAM. Wel, gan dy fod ti am fynnu'n gwthio ni i drybini hefo'r ffarm yma eto, mi sgwenna i o. (Yn ysgrifennu.) Dyma fo. Neith o'r tro, dwad, heb stamp?
HUW BENNET (yn edrych ar y papur, ac yn ei roi ar y bwrdd). Oes gen ti faco yma?
ROBERT WILLIAM.—Oes yn tad, dyma fo; helpa dy hunan.
(Huw Bennet yn llenwi ei bibell, ac wedi gorffen, yn gwneud spill o'r papur ac yn goleu'i bibell gydag ef).
ROBERT WILLIAM. Huw, beth wyt ti'n neud?
ELIN WILLIAM. Beth sy arnoch chi, Huw Bennet? Ydech chi o'ch co?
HUW BENNET (yn codi). Rydw i'n mynd adra rwan i gael tipin o hwyl yn deud yr hanes wrth Lowri . . . . Wyt ti'n cofio nhaid, yr hen Robin Bennet y Gelli? Wel, mi gafodd yr hen begor arian, fel y gwyddost ti, reit siwr, ar ol yr hen berson, rhyw fil neu ddwy; ac er mwyn dangos i'r hen Dwm Cadi, ewyrth i William Prichard y London, faint oedd o'n feddwl o'i arian, mi daniodd i getyn hefo papur pumpunt ym mharlwr y Red Lion. Rydw i wedi bod ar hyd fy oes yn ysu am wneud yr un peth, a phedaswn i'n arfer mynd i'r Red Lion, mi faswn wedi gwneud ers talwm. Ond dyma fy nghyfle i wedi dwad, a rwan, dyma fi wedi offrymu tipin bach o aberth hen wr—(yn tynnu ei het)—i'r Arglwydd— hen wr wedi bod yn llawer rhy grintachlyd a chybyddlyd ar hyd i oes . . . . Nos dawch, a pheidiwch gadael imi glywed byth eto am danoch chi'n gadael y Sgellog na dim lol o'r fath.
(Curo wrth y drws: Elin William yn agor, Mr. Wynne yn dyfod i mewn).
WYNNE. Sut rydech chi yma i gyd heno? Ydech chi'n o lew, Mrs. Williams? Ydech chitha'n mendio, Robert William? Sut mae Sgweier y Gelli heno?
ELIN WILLIAM. Mae Huw Bennet yn dechra colli'i synhwyra, Mr. Wynne! (Huw Bennet yn cau ei ddwrn ar Elin William, ac yn sisial, "Dim gair o'ch pen.") Steddwch i lawr wrth y tân, Mr. Wynne.
WYNNE. Wel, rydw i'n clywed fod arnoch chi eisio rhoi'r Sgellog yma i fyny.
ROBERT WILLIAM Felly roedden ni'n meddwl pan ddaru mi yrru am danoch chi, syr.
WYNNE. Wyddoch chi faint sy ers pan mae'ch teulu chi yma, Robert William?
ROBERT WILLIAM. Na wn i wir, heblaw fod yna hen garreg fedd wrth ffenestr y llan, ag enw rhyw William Cadwalad o'r Sgellog Fawr arni, . . . wedi i gladdu yn y flwyddyn mil a chwe chant a deugain.
WYNNE. Rydech chi yma'n mhell cyn hynny. Rydw i'n meddwl mai tyfu o'r ddaear ddaruch chi tuag amser y diliw . . . . Ag rydech chi'n mynd i madael, felly?
HUW BENNET. Nag ydyn.
WYNNE. Nag ydyn? Beth ydech chi'n feddwl, Huw Bennet?
HUW BENNET. Mae nhw'n mynd i aros yma bellach.
ROBERT WILLIAM. Fi fydd y dwytha o'r hen deulu, . . pan ai odd ma . . . does gen i neb ar f'ol.
WYNNE (ynghlust Huw Bennet). Ewch i eistedd i'r fan yna, Huw Bennet, a pheidiwch a deud gair o'ch pen nes cewch chi ganiatad. (Huw Bennet yn eistedd wrth y bwrdd mawr.)
WYNNE (yn codi, ac yn hamddenol). Wel, mae'n wir ddrwg genni glywed ych bod chi wedi newid ych meddwl. Wel, ydi wir, MAE'N ddrwg genni. Y gwir plaen i chi ydi hyn. Rydw i wedi gosod y Sgellog ar gyfer y tymor nesa i denant newydd.
ROBERT WILLIAM. Gosod y Sgellog?
ELIN WILLIAM. Wedi gosod yn cartre ni?
WYNNE. Ie, a fedra i ddim tynnu'n ol . . . mae'r fargen wedi ei tharo.
ELIN WILLIAM. O, Mr. Wynne, rydech chi'n galed. Fedrwch chi ddim gneud rhywbeth i ddadwneud y peth, deudwch? Cofiwch gymint ddaru ni ddiodde ar law'r sgweier, a'r hen stiwart o'ch blaen chi . . . . A chitha yn yr ysgol hefo fo . . . hefo Emrys.
WYNNE. Oeddwn, Mrs. Williams; a chan ych bod chi'n sôn am ysgol, rhaid i mi gyfadde mai hogyn oedd yn yr ysgol hefo mi ydi'r tenant newydd. Mi ddylech fod yn falch i roi'r lle i fyny iddo fo . . . mi wneith i'r Sgellog flodeuo fel gardd Saror, a mi wneith y wlad yma'n well o'i gwmpas hefyd. Mi fydd yn dda i'r pentre yma a'r ardal gael un dyn i'ch tynnu chi o'r gors yr ydech chi wedi mynd iddi hi
ROBERT WILLIAM. Mr. Wynne, mi glywis i siarad fel yna o'r blaen, flynyddoedd yn ol, a dydw i'n beio dim arnoch chi,—rydech chi'n ifanc eto, ac heb golli'ch ffydd. Ond os dyn fel yna ydi o, mae yna ddigon o dorwyr beddau yng Nghymru ac yn yr ardal yma, i gael İle i'w roi ar unwaith . . . . Cofiwch y proffwydi a'r tadau . . . y rhai a aeth o'ch blaen chi . . .
ELIN WILLIAM. Wel, wel, roeddwn ni wedi meddwl mynd odd ma . . . ond (yn wylo)—yrwan, dyma ni'n cael yn hel. Arnon ni roedd y bai, wrth gwrs, yn sôn am y peth, ond
HUW BENNET. Bedi'r joc, Mr. Wynne? Mae gynnoch chi ffordd ryfedd iawn i fwynhau'ch hun ar hirnos gaea, mae'n rhaid imi ddeud yn blaen wrthoch chi.
WYNNE. Rydw io ddifri, Huw Bennet, a rhag i chi fynd i ddim petrustod pellach, hwyrach y byddai'n well i chi weld y tenant newydd. Mae o wedi cyrraedd yma er y pnawn, y fo a'i wraig, a mi peris i nhw aros yn y Sgellog Bach, nes galwn i arnyn nhw. Fydda i ddim munud.
(Wynne yn mynd allan.)
ROBERT WILLIAM. Wel, dyma hi ar ben, Huw Bennet. Peidiwch a chrio, Elin; mi fedran dalu cheque Huw Bennet yn ol, beth bynnag arall fedrwn ni dalu.
HUW BENNET. Cheque bybeth? Cadwch o; nid y fi pia fo. Mi fydd yn dda i chi wrtho fo eto, mae arna i ofn.
(Distawrwydd mawr.)
MALI OWEN (o'r llofft). Mae hi wedi taro pedwar. Ydi fara llaeth o yn barod?
ROBERT WILLIAM. Mae mam druan wedi colli arni hunan yn lân . . . mae hi wedi anghofio'r cwbwl o'r pymtheng mlynedd dwytha. Meddwl am Emrys yn hogyn bach y mae hi drwy'r dydd.
(Drws yn agor. Wynne yn dyfod i mewn a dau ddieithr—gŵr a gwraig gydag ef. Gorchudd trwm ar wyneb y wraig, a'r gŵr a'i got fawr a'i choler wedi ei chodi).
(Llais Mali Owen yn gwaeddi'n uchel).
WYNNE. Dyma nhw'r tenantiaid newydd. Rydw i wedi siarad hefo nhw, a mi gewch chware teg gynnyn nhw, mi wn. Mae gynnyn nhw ddigon o arian i'ch prynu chi a'r Gelli hefo'i gilydd, Huw Bennet, er cymin o hen grafwr ydech chi.
HUW BENNET. Wel, bendith ar i clonna nhw . . . os caiff yr hen bobol yma chware teg gennyn nhw.
ROBERT WILLIAM. Sais ydech chi, syr, ynte Cymro?
Y GWR. Cymro—o Canada.
ROBERT WILLIAM (yn taflu'r blanced oddi arno, ac yn neidio i dynnu coler y dyn i lawr). Yr Arglwydd mawr! Emrys!
ELIN WILLIAM. Eh? Emrys annwyl! mi ddoist o'r diwedd!
(Huw Bennet yn taflu'i ddwyffon i fyny, ac yn hoblian dros y llawr).
HUW BENNET. Hwre! Bendigedig!! Pwy ddeudodd fod yr Arglwydd yn anghofio'r cyfiawn?
EMRYS. Mam annwyl!—(yn cofleidio'i fam)—a nhad —(a'i law ar ei ysgwydd)—a Huw Bennet. Does dim eisio croeso i mi . . . edrychwch ar hon.
ELIN WILLIAM. Ann, fel mae byw fi! (Yn ei chofleidio.)
ROBERT WILLIAM. Wel, byth o'r fan ma . . . sut rwyt ti, Ann?—a thi ydi'i wraig o, aie?
EMRYS. Rydw i wedi dwad yma i edrych ar ych hola chi, am byth bythoedd . . . brecwast yn ych gwelâu bob dydd, a braster y wlad i chi, a heddwch yn ych hen ddyddiau. Ydech chi'n cofio'r noson honno, pan ddaeth y plisman a'r cipar yma?
ELIN WILLIAM. Ydw.
EMRYS. Wel, breuddwyd yng nghorff y nos neithiwr oedd hynny a dim arall . . . ac yr yden ni i gyd wedi bod yn cysgu er hynny. Rydw i wedi dwad i ail ddechra . . . ar y gwaith mawr.
HUW BENNET. Beth ydi o, machgen i?
EMRYS. Gafael yn nau gorn yr arad, a dysgu i Lanfesach dorri cwys unionach ar wyneb y tir . . . dyna i gyd.
WYNNE. Deudwch wrthyn nhw pwy a'ch dysgodd chi, Emrys.
EMRYS (yn gafael yn llaw Ann). Dyma hi,—dyma'r proffwyd. Hi tynnodd fi o'r pridd tew a'r clai tomlyd. Dyma i chi ddyniolaeth wedi diodde, ac wedi concro . . . ac yn awr yn medru dysgu pawb.
ANN. Tewch, Emrys . . . lle baswn i heblaw chi? Yn y workws y cafodd o hyd i mi. Sut y medrwn i ddysgu neb?
EMRYS. Ie, yn y fan honno y dois i o hyd i fy ngwraig. O medrwch, mi fedrwch chi'n dysgu ni i gyd, Ann. . . am ych bod chi'n deall. Huw Bennet, 'r hen gyfaill annwyl, deudwch wrtha i sut ddyn oedd yr hen sgweier?
HUW BENNET. Dyn melltigedig—dyn drwg o'r top i'r gwaelod.
EMRYS. Nage wir, yr hen Rodd Mam, rydech chi'n methu, ydech wir. Mae Ann yma'n mynd i ddileu'r gair BAI allan o'r geiriadur, ac yn mynd i roi'r TOSTURIO yn ei le . . . . Mae hi wedi nysgu i i dosturio wrth ddynion fel y sgweier.
ANN. Ie, Huw Bennet, mae yna rywun wedi bod yn anrheithio eneidiau yn yr hen fyd yma, er y dechra . . . a phobol fel y sgweier oedd nesa i'r ergydion hwyrach. Ond cofiwch chi, rhai fel chi a nhad a mam gorchfygith o yn y diwedd.
EMRYS. Ie, . . . rydw i wedi dysgu hynny tra buon ni yn Canada yn brwydro yn erbyn holl bwerau natur . . . ac hefo rhai fel chi rydw i am fyw bellach.. yn cadw drws yn Seion.
(Drws yn agor. Mali Owen yn dyfod i mewn. Pawb yn codi mewn dychryn).
MALI OWEN. O, mi ddoist adre, Emrys bach, o'r ysgol? Wyt ti am fynd i'r seiat heno?
EMRYS. Ydw, nain.
MALI OWEN (yn estyn afal). Dyma afol i ti am ddysgu dy adnod. Dywad hi, ngwas i, er mwyn i dy nain i chlywed hi.
EMRYS (yn sefyll ar ganol y llawr). "Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear."
LLEN.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cawl tenau o flawd ceirch wedi ei gymysgu â dŵr. Yn cael ei weini mewn carchardai a llongau cosb yn y 19G
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.
|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |