Beibl (1620)/Judith

Oddi ar Wicidestun
(Ailgyfeiriad o Beibl/Judith)

JUDITH

ºPENNOD 1 º1 xxx y ddeuddegfed flwyddyn o deyrn-asiad Nabuchodonosor, yr hwn a deyrnasodd yn Ninefe y ddinas fawr, yn nyddiau Arffacsad, yr hwn a deyrnasodd ar y Mediaid yn Ecbatane,

º2 Ac a adeiladodd yn Ecbatane furiau oddi amgylch, o gerrig nadd, yn dri chufydd o led, ac yn chwe chufydd o hyd, ac a wnaeth uchder y mur 0 ddeg cufydd a deugain;

º3 A'i thyrau hi a osododd efe ar ei phyrth o gan cufydd, a'u tewdwr yn eu sylfaen o dri ugain cufydd;

º4 Ac efe a wnaeth ei phyrth hi yn byrth dyrchafedig, o ddeg cufydd a thrigain o uchder, a'u lied yn ddeugain cufydd, yn ffordd i'w luoedd galluog i fyned allan, ac i fyddino ei wyr traed ef:

º5 le, yn y dyddiau hynny y brenin Nabuchodonosor a ryfelodd yn erbyn y brenin Arffacsad yn y maes mawr, hwn yw'r maes yn ardaloedd Ragau.

º6 Yna holl drigolion y mynydd-dir, a'r holl rai oedd yn preswj^lio wrth Ewffrates, a Thigris, a Hydaspes, a gwlad Arioch brenia yr Elymiaid, a ddaethant ato ef: a Uawer iawn o gen- hedloedd o feibion Celod a ymgynull-asant i'r gad.

º7 A Nabuchodonosor brenin yr As-yriaid a anfonodd at yr holl rai oedd yn trigo o fewn Persia, a'r holl rai oedd yn trigo yn y gorllewin, ac at y rhai oedd yn preswylio yn Cilicia, a Damascus, a Libanus, ac Antilibanus, ac at yr holl rai oedd yn preswylio ar hyd wyneb y mordir,

º8 Ac at y bobloedd y rhai oedd o fewn Garmel, a Galaad, a Galilea uchaf, a maes mawr Esdrelom,

º9 Ac at yr holl rai oedd yn Samaria a'i dinasoedd; a thu hwnt i'r lorddon-en, hyd Jerwsalem, a Betane, a Chelius, a Chades, ac afon yr Aifft, a Thafmes, a Ramesse, a holl wlad Gesem,

º10 Hyd oni ddelir y tu hwnt i Danais a Memffis, ac at holl drigolion yr Aifft, oni ddelir i derfynau Ethiopia.

º11 Ond holl drigolion y wlad a ddi-ystyrasant orchymyn Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid, ac ni ddaethant gydag ef i'r rhyfel; oherwydd nid ofnasant rhagddo ef: ie, yr oedd efe ger eu bronnau hwynt megis un gwr: am hynny hwy a anfonasant ymaith ei

genhadau ef oddi wrthynt neb eu neges, trwy amarch.

º12 Am hynny Nabuchodonosor a lid-jodd yn erbyn yr holl wlad hon yn ddirfawr, ac a dyngodd i'w deyrngadair a'i frenhiniaeth, yr ymddialai efe ar holl derfynau Cilicia, a Damascus, a Syria, ac y lladdai efe a'r cleddyf holl breswylwyr gwlad Moab, a meibion Ammon, a holl Jwdea, a'r rhai oil oedd yn yr Aifft, hyd oni ddelir i derfynau y ddeufor.

º13 Yna efe a fyddinodd a'i gryfdwr yn erbyn y brenin Arffacsad, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg; ac efe a orchfygodd yn ei ryfel: canys efe a ymchwelodd holl nerth Arffacsad, a'i holl feirch ef, a'i holl gerbydau.

º14 Ac efe a enillodd ei ddinasoedd ef; ac a ddaeth hyd Ecbatane, ac a oresgynnodd y tyrau, ac a anrheithiodd ei heolydd hi, ac a osododd ei harddwch hi yn waradwydd.

º15 Ac efe a ddaliodd Arffacsad ym mynyddoedd Ragau, ac a'i trawodd trwyddo a'i bicellau, ac a'i distrywiodd ef yn llwyr y dwthwn hwnnw.

º16 Felly efe a ddychwelodd i Ninefe, efe a'i holl fintai o amryw genhedloedd, yn dyrfa fawr iawn o ryfelwyr; ac efe a fu yno yn segura ac yn gwledda, efe a'i lu, dros gant ac ugain o ddiwrnodiau.

ºPENNOD 2 º1 AC yn y ddeunawfed flwyddyn, yr ail **• dydd ar hugain o'r mis cyntaf, yr oedd y gair yn nhy Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid, yr ymddialai efe ar yr holl ddaear, fel y dywedasai efe.

º2 Felly efe a alwodd ato ei holl weis-ion, a'i holl bendefigion, ac a ym-ddiddanodd a hwynt ynghylch ei gyf-rinach ddirgel; ac a osododd ger eu bron hwynt, a'i enau ei hun, holl ddryg-ioni y ddaear.

º3 Yna hwy a gytunasant ddifetha pob cnawd a'r na chanlynasai orchymyn ei enau ef.

º4 A phan orffennodd efe ei gyfrinach, Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid a alwodd am Oloffernes tywysog ei fil-wriaeth, yr hwn oedd ail ar ei 61 ef, ac a ddywedodd wrtho,

º5 Fel hyn y dywed y brenin mawr, arglwydd yr holl ddaear; Wele, dos ymaith o'm gwydd i, a chymer gyd-a thi wyr yn ymddiried yn eu nerth eu hunain, o wyr traed, cant ac ugain mil, a rhifedi'r meirch a'u marchogion, deuddeng mil;

º6 A dos yn erbyn holl wlad y gorllewin, oherwydd hwy a anufuddhasant i'm gorchymyn i.

º7 A thi a fynegi iddynt, am baratoi o-honynt hwy i mi y ddaear a'r dwfr: canys myfi a af allan yn fy llid yn eu herbyn hwynt, ac a orchuddiaf holl wyneb y ddaear a thraed fy llu, a mi a'u rhoddaf hwynt yn ysglyfaeth iddynt:

º8 Fel y llanwo eu rhai archolledig hwy eu dyffrynnoedd a'u hafonydd hwynt; a'u llifeiriant a Ufa trosodd, wedi ei lenwi a'u celaneddau hwynt.

º9 A mi a'u dygaf hwynt yn gaethion i eithafoedd yr holl ddaear.

º10 Gan hynny dos ymaith, a goresgyn i mi eu holl derfynau hwynt: ac os ym-roddant i ti, ti a'u cedwi hwynt i mi, hyd ddydd eu cosbedigaeth.

º11 Ond am y rhai anufudd, nac ar-beded dy lygad hwynt; eithr dyro hwynt i farwolaeth, ac yn ysbail trwy dy holl dir.

º12 Canys fel yr ydwyf fi yn fyw, ac myn gallu fy mrenhiniaeth, beth bynnag a ddywedais, myfi a'i cwblhaf a'm llaw.

º13 Na throsedda dithau yr un o orchmynion dy arglwydd, eithr cwblha hwynt yn llwyr, fel y gorchmynnais i ti, ac nac oeda eu gwneuthur hwynt.

º14 Yna Oloffernes a aeth allan o wydd ei arglwydd, ac a alwodd am yr holl benaethiaid, a thywysogion a swydd-ogion llu Assur.

º15 Ac efe a gyfrifodd y gwyr etholedig i ryfel fel y gorchmynasai ei arglwydd iddo ef, hyd yn gant ac ugain mil, a deuddeng mil o saethyddion ar feirch.


º16 Ac efe a'u gosododd hwynt mewn trefn, fel y mae'r arfer o osod llu mawr mewn trefn.

º17 Ac efe a gymerth fintai fawr iawn o gamelod ac asynnod i ddwyn eu beich-iau hwynt, a defaid, ac ychen, a geifr, yn lluniaeth iddynt, ar y rhai nid oedd rifedi:

º18 Ac ymborth i bob gwr o'r fyddin, a llawer iawn o aur, ac arian, allan o dy'r brenin.

º19 Yna yr aeth efe a'i holl lu i ffordd, fel yr aent hwy o flaen y brenin Nabuchodonosor, ac y gorchuddient holl wyneb y ddaear tu'a'r gorllewin, a'u cerbydau, ac a'u gwyr meirch, ac a'u gwyr traed etholedig.

º20 A llawer o gymysg ddynion a ddaethant gyda hwynt, fel y ceiliogod rhedyn, ac fel tywod y ddaear: canys nid oedd rifedi arnynt, rhag rnaint oedd qhonynt.

º21 A hwy a aethant o Ninefe daith tri diwrnodj tua gwastadedd Bectileth, ac a wersyllasant oddi wrth Bectileth, yn gyfagos i'r mynydd sydd ar y Haw aswy i Cilicia uchaf,

º22 Yna efe a gymerth ei holl lu, ei wyr traed a'i wyr meirch, a'r cerbydau, ac a aeth oddi yno i'r mynydd-dir:

º23 Ac a ddinistriodd Phud, a Lud, ac a anrheithiodd holl feibion Rasses, a meibion Ismael, y rhai oedd tua'r anialwch, o du'r deau i wlad y Celiaid.

º24 Yna efe a aeth dros Ewffrates, ac a aeth trwy Mesopotamia, ac a ddinistriodd yr holl ddinasoedd uchel y rhai oedd ar afon Arbonai, hyd oni ddeuir i'r mor.

º25 Ac efe a oresgynnodd derfynau Cilicia, ac a ddistrywiodd yr holl rai a'i gwrthwynebent ef; ac efe a ddaeth i ardaloedd Jaffeth, y rhai oedd tua'r deau, ar gyfer Arabia.

º26 Efe a amgylchodd hefyd holl feibion Madian, ac a losgodd eu pebyll hwynt, ac a anrheithiodd eu lluestai.

º27 Yna efe a aeth i waered i wastadedd Damascus, yn nyddiau cvnhaeaf y gwenith, ac a losgodd eu holl feysydd hwynt, ac a ddifethodd eu defaid a'u gwartheg hwynt; ac efe a anrheithiodd eu dinasoedd, ac a Iwyr ysbeiliodd eu gwledydd, ac a laddodd eu holl wyr ieu-ainc hwynt & min y cleddyf.

º28 Am hynny ofn a dychryn a syrth-iodd ar holl drigolion y mordir, y rhai oedd yn Sidon, ac yn Tyrus, ac yn trigo yn Sur ac Ocina, a'r holl rai oedd yn preswylio yn Jemnaan: a phreswylwyr Asotus ac Ascalon a ofnasant rhagddo ef yn ddirfawr.

ºPENNOD 3 º1 "C"ELLY hwy a anfonasant genhadau a •«- geiriau heddychlon ato ef, gan ddy-wedyd,

º2 Wele, ni gweision Nabuchodonosor y brenin mawr ydym yn sefyll yn dy wydd di; gwna i ni fel y gwelych yn dda.

º3 Wele ein tai ni, a'n holl leoedd, a'n holl feysydd gwenith, a'n defaid, a'n gwartheg, a'n holl luestai, a'n pebyll, yn sefyll o'th flaen di; gwna iddynt fel y gwelych di yn dda.

º4 Wele hefyd ein dinasoedd ni a'r rhai sy yn trigo ynddynt yn weision i ti; tyred, a gwna a hwynt fel y gwelych di yn dda.

º5 Felly y gwyr a ddaethant at Olo-ffernes, ac a fynegasant wrtho ef yn 61 y geiriau hyn.

º6 Yna efe a ddaeth i waered tua'r mordir, efe a'i lu, ac a osododd geid-waid yn y dinasoedd uchel, ac a gymerth allan ohonynt wyr etholedig yn gynhorthwy iddo.

º7 Felly hwynt-hwy, a'r holl wlad o amgylch, a'i croesawasant ef a choron-au, & dawnsiau, ac a thympanau.

º8 Er hynny efe a ddifwynodd eu holl froydd hwynt, ac a dorrodd i lawr eu llwynau hwynt: canys efe a roddasai ei fryd ar ddinistrio holl dduwiau'r tir, fel yr addolai'r holl genhedloedd Nabuchodonosor yn unig, ac y galwai pob tafod a llwyth arno ef megis ar Dduw.

º9 Ac efe a ddaeth ar gyfer Esdraelon, yn gyfagos at Dothea, gyferbyn fi'r gyfyng hir i Jwdea:

º10 Ac efe a wersyllodd rhwng Geba a dinas y Scythiaid: ac efe a fu yno fis o ddyddiau; fel y casglai efe holl Iwythau ei lu.

ºPENNOD 4

º1 PAN glybu meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn Jwdea, yr hyn oil a wnaethai Oloffernes tywysog llu Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid i'r cenhedloedd, ac fel yr anrheithiasai efe eu holl demlau hwynt, ac y distryw-iasai efe hwynt,

º2 Yna hwy a ofnasant yn ddirfawr rhagddo ef, ac a drallodwyd oherwydd Jerwsalem, ac oherwydd teml yr Ar-glwydd eu Duw.

º3 Canys newydd ddyfod i fyny oedd-ynt hwy o'r caethiwed, ac yn ddiweddar yr ymgasglasai holl bobl Jwdea, ac y sancteiddiasid y llestri, a'r ty, ar 61 yr halogedigaeth.

º4 Am hynny hwy a anfonasant i holl ardaloedd Samaria, a'r pentrefydd, ac i Bethoron, a Belmen, a Jericho, ac i Choba, ac Esora, ac i ddyffryn Salem;

º5 Ac o'r blaen a gymerasant ben-nau'r mynyddoedd uchel, ac a furiasant y pentrefydd oedd ynddynt, ac a osod-asant ynddynt luniaeth yn ymborth er-byn rhyfei: canys yn ddiweddar y med-asid eu meysydd hwynt.

º6 Joacim hefyd yr archoffeiriad, yr hwn ydoedd yn y dyddiau hynny, a sgrifennodd at y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a Betomestham, yr hon sydd ar gyfer Esdraelon, gyferbyn a'r maes amlwg, yr hwn sydd yn gyfagos i Do-thaim,

º7 Gan ddywedyd wrthynt am gadw bylchau'r mynydd-dir: canys trwyddynt hwy yr ydoedd dyfodfa i Jwdea: ac yr ydoedd yn hawdd eu lluddias hwynt i ddyfod yno, oherwydd y bwlch ydoedd gyfyng i ddau wr o'r mwyaf.

º8 A meibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai Joacim yr archoffeiriad iddynt, a henuriaid holl bobl Israel, y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem.

º9 Yna holl wyr Israel a waeddasant ar Dduw yn ddifrifol iawn, ac a ostyng-asant eu heneidiau trwy ddyfalrwydd mawr;

º10 Hwynt-hwy, a'u gwragedd, a'u plant, a'u hanifeiliaid, a phob dieithr a gwas cyflog, a gweision pryn, a osodas-ant sachliain am eu llwynau.

º11 Fel hyn pot) gwr a gwraig, a'r plant, a thrigolion Jerwsalem, a syrthias-ant o flaen y deml, ac a daenasant ludw ar eu pennau, ac a ledasant eu sachliain gerbron wyneb yr Arglwydd: a hwy a wisgasant yr allor a sachliain;

º12 A hwy a waeddasant ar Dduw Israel i gyd oil o unfryd yn ddyfal, ar na roddai efe eu plant hwy yn ysglyf-aeth, a'u gwragedd yn anrhaith, a dinasoedd eu hetifeddiaethau hwynt yn ddistryw, a'r cysegr yn halogedigaeth, ac yn waradwydd ac yn watwargerdd gan y cenhedloedd.

º13 Felly Duw a wrandawodd ar eu gweddi hwynt, ac a'u gwaredodd hwynt o'u blinder: canys y bobl a ymprydias-ant ddyddiau lawer trwy holl Jwdea a Jerwsalem o flaen cysegr yr Arglwydd hollalluog.

º14 A Joacim yr archoffeiriad, a'r holl offeiriaid, y rhai oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, a'r rhai oedd yn gweini i'r Arglwydd, oedd wedi gwreg-ysu eu llwynau a sachliain, ac yn ofrrym-u poethofrrwm gwastadol, ac add-unedau ac offrymau gwirfodd y bobl; ac yr oedd lludw ar eu meitrau hwynt;

º15 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd a'u holl nerth, ar iddo ef ym-weled yn rasol & holl dy Israel.

ºPENNOD 5

º1 YNA y mynegwyd i Oloffernes tywysog milwriaeth yr Asyriaid ddarfod i feibion Israel ymbaratoi i ryfel, a chau ohonynt hwy fylchau'r mynydd-dir, a murio holl gopa'r mynyddoedd uchel, a gosod rhwystrau yn y meysydd.

º2 Am hynny efe a ddigiodd yn ddirfawr, ac a alwodd am holl dywysogion

Moab, a chapteiniaid Ammon, a holl lywodraethwyr y mordir;

º3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Myneg-wch i mi, chwi feibion Canaan, pwy ydyw y bobl hyn sy*n preswylio yn y mynydd-dir, a pheth yw y dinas-oedd y maent yn trigo ynddynt, a pha faint sydd yn eu llu hwynt, ac ym mha beth y mae eu cadernid a'u nerth hwynt, a pha frenin sydd arnynt, neu dywysog ar eu llu hwynt,

º4 A phaham y rhoesant eu bryd na ddeuent i'm cyfarfod i, yn amgenach na holl drigolion y gorllewin.

º5 Yna y dywedodd Achior tywysog holl feibion Ammon, Gwrandawed fy arglwydd air o enau dy was, a myfi a fynegaf i ti y gwirionedd am y bobl hyn sydd yn preswylio yn y mynydd-dir, yn gyfagos i'r lie yr wyt ti yn cyfanheddu: ac ni ddaw celwydd allan o enau dy was.

º6 Y bobl hyn sy o hiliogaeth y Caldeaid,

º7 Ac a fuant gynt yn trigo ym Mesopotamia, oherwydd na fynnent ganlyn duwiau eu tadau, y rhai oedd yng ngwlad Caldea.

º8 A hwy a aethant allan o ffordd eu rhieni, ac a addolasant Dduw y nefoedd, y Duw yr hwn a adwaenent: felly hwythau a'u bwriasant hwy o wydd eu duwiau; a hwythau a ffoesant i Mesopotamia, ac a wladychasant yno ddydd-iau lawer.

º9 Yna eu Duw hwynt a orchmynnodd iddynt ymado o'r lie yr oeddynt yn aros ynddo, a myned i wlad Canaan; ac yno y trigasant, ac y cynyddasant o aur, ac arian, ac o anifeiliaid lawer iawn.

º10 Pan orchuddiasai newyn holl wlad Canaan, yna hwy a aethant i waered i'r Aifft, ac a arosasant yno, hyd on: ddy-chwelasant; a hwy a wnaed yno yn dyrfa fawr, fel nad oedd rifedi ar eu hiliogaeth hwynt.

º11 Am hynny brenin yr Aifft a gy-fododd yn eu herbyn, ac a wnaeth yn ddicheUgar a hwynt, ac a'u darost-yngodd hwynt trwy lafur a phridd-feini, ac a'u gwnaeth yn gaethweision.

º12 Yna hwy a lefasant ar eu Duw; ac efe a drawodd holl wlad yr Aifft a phlau, y rhai ni ellid eu hiachau: felly yr Eifftiaid a'u bwriasant hwy allan o'u golwg.

º13 A Duw a sychodd y mor coch o'u blaen hwynt;

º14 Ac a'u dug hwy i fynydd Seina, a Chades-Barne, ac a fwriodd ymaith yr holl rai oedd yn trigo yn yr anial-wch.

º15 A hwy a breswyliasant wlad yr Amoriaid, ac a ddistrywiasant trwy eu cryfder y rhai oil o Esebon; a chan fyned dros yr lorddonen hwy a etifedd-asant yr holl fynydd-dir.

º16 A hwy a yrasant ymaith o'u blaen y Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebus-iaid, a'r Sichemiaid, a'r holl Gergesiaid, ac a breswyliasant yno ddyddiau lawer.

º17 A thra fuant hwy heb bechu ger-bron eu Duw, hwy a Iwyddasant; o-herwydd y Duw, yr hwn sydd yn casau anwiredd, oedd gyda hwynt.

º18 Ond pan giliasant hwy o'r ffordd a osodasai efe iddynt, hwy a ddistryw-iwyd trwy ryfeloedd lawer iawn dros ben, ac a gaethgludwyd i wlad nid oedd eiddynt hwy; a them! eu Duw a fwriwyd i lawr, a'u dinasoedd a enill-wyd gan y gelynion.

º19 Ac yn awr y dychwelasant at eu Duw, ac y daethant i fyny o'r wasgarfa lie y gwasgarasid hwynt, ac y meddian- j asant Jerwsalem, lie y mae eu cysegr hwynt, ac y trigasant yn y mynydd-dir; canys anghyfannedd fu.

º20 Yn awr gan hynny, fy llywydd a'm harglwydd, od oes amryfusedd yn y bobl hyn, ac o phechasant yn erbyn eu Duw, ystyriwn mai hyn fydd yn rhwystr i iddynt; ac awn i fyny, a goresgynnwn hwynt.

º21 Eithr onid oes anwiredd yn eu cenedl hwynt, eled fy arglwydd heibio, rhag i'w Harglwydd eu hamddiffyn hwynt, ac i'w Duw fod drostynt, ac i ninnau fod yn waradwydd yng ngolwg yr holl fyd.

º22 A phan orffennodd Achior y geiriau hyn, yr holl bobl oedd yn sefyll p amgylch y babell a furmurasant: a phendefigion Oloffernes, a'r rhai oil oedd yn preswylio'r mordir, a Moab, a ddywedasant am ei ladd ef.

º23 Canys, eb hwynt, nid ofnwn ni rhag wynebau meibion Israel: oherwydd, wele, pobl ydynt hwy heb na nerth na chadernid yn erbyn llu mawr.

º24 Am hynny awn i fyny, a hwy a fyddant yn fwyd i'th lu di, O arglwydd Oloffernes.

ºPENNOD 6 º1 A PHAN ddistawodd twrf y gwyr oedd o amgylch yr eisteddfod, yna Oloffernes tywysog llu yr Asyriaid a ddywedodd wrth Achior a'r Moabiaid oil, gerbron yr holl bobl ddieithr,

º2 A phwy wyt ti, Achior, a chyflog-edigion Effraim, fel y proffwydaist yn ein mysg ni fel heddiw, ac y dywedaist ar na ryfelom ni a phobl Israel, am yr amddiffyn eu Duw hwynt? a phwy sy Dduw onid Nabuchodonosor?

º3 Efe a enfyn ei nerth, ac a'u difetha hwynt oddi ar wyneb y ddaear; ac ni wared eu Duw hwynt; eithr nyni ei weision ef a'u distrywiwn hwynt fel vm gwr; canys ni allant hwy sefyll dan nerth ein meirch ni.

º4 Nyni a'u sathrwn hwy a hwynt; a'u mynyddoedd hwynt a feddwir a'u gwaed, a'u meysydd a lenwir a'u cel-aneddau, 61 eu traed ni allant sefyll o'n blaen, eithr llwyr ddifethir hwynt, medd y brenin Nabuchodonosor, arglwydd yr holl ddaear; canys efe a ddywedodd, Ni bydd un o'm geiriau i yn ofer.

º5 A thithau Achior, cyflogwas Ammon, yr hwn a leferaist y geiriau hyn yn nydd dy anwiredd, ni chei weled mwyach fy wyneb i o heddiw allan, hyd oni ddialwyf ar y genedl hon a ddaeth o'r Aifft.

º6 Yna haearn fy llu i a lliaws fy ngweision, a a trwy dy ystlysau di, a thi a syrthi ymhlith eu lladdedigion hwynt, pan ddychwelwyf.

º7 A'm gweision i a'th ddygant di i'r mynydd-dir, a hwy a'th osodant di yn un o'r dinasoedd uchel.

º8 Ac ni ddifethir di, nes dy ddifetha gyda hwynt.

º9 Ac od wyt ti yn gadael ar dy galon na ddelir hwynt, na syrthied dy wynep-ryd: myfi a'i lleferais, ac ni bydd un o'm geiriau yn ofer.

º10 Yna Oloffernes a orchmynnodd i'w weision, y rhai oedd yn sefyll yn ei babell ef, ddala Achior, a'i ddwyn ef i Bethulia, a'i roddi ef yn nwylo meibion Israel.

º11 Felly ei weision ef a'i daliasant, ac a'i dygasant ef allan o'r gwersyll i'r gwastadedd, ac a aethant o ganol y gwastadedd i'r mynydd-dir, ac a ddaeth-ant at y ffynhonnau sy dan Bethulia.

º12 A phan welodd gwyr y ddinas hwynt, hwy a godasant eu harfau, ac a aethant allan o'r ddinas i ben y bryn; a phob gwr a'r a oedd yn ergydio mewn taflffon a'u lluddiodd hwynt rhag dy' fod i fyny, ac a daflasant gerrig i'w herbyn hwynt.

º13 Yna hwy a aethant dan y bryn, ac a rwymasant Achior, ac a'i taflasant i lawr, ac a'i gadawsant ef wrth droed y bryn, ac a aethant at eu harglwydd.

º14 Yna meibion Israel a ddaethant i waered o'u dinas, ac a ddaethant ato ef, ac a'i gollyngasant yn rhydd, ac a'i dygasant i Bethulia, ac a'i gosodasant gerbron llywodraethwyr eu dinas,

º15 Y rhai oedd yn y dyddiau hynny, Oseias mab Micha, o Iwyth Simeon, a Chabris mab Gothoniel, a Charmis mab Melchiel.

º16 A hwy a alwasant ynghyd holl henuriaid y ddinas; a'u holl wyr ieu-ainc hwy a'u gwragedd a redasant ynghyd i'r gymanfa; a hwy a osod-asant Achior yng nghanol eu pobl: yna Oseias a ofynnodd iddo yr hyn a ddi-gwyddasai.

º17 Ac efe a atebodd, ac a fynegodd iddynt eiriau cyngor Oloffernes, a'r holl eiriau a lefarasai efe ymysg ty-wysogion Assur, a'r pethau oil a ddywedasai Oloffernes yn rhyfygus yn erbyn ty Israel.

º18 Yna y bobl a syrthiasant i lawr, ac a addolasant Dduw, ac a waeddasant ar Dduw, gan ddywedyd,

º19 O Arglwydd Dduw y nefoedd, edrych ar eu balchder hwy, a thrugarha wrth waeledd ein cenedl ni, ac edrych ar wyneb y rhai a sancteiddiwyd i ti y dydd hwn.

º20 Yna hwy a gysurasant Achior, ac a'i canmolasant ef yn ddirfawr.

º21 Ac Oseias a'i cymerth ef o'r gyn-ulleidfa i'w dy, ac a wnaeth wledd i'r henuriaid: a hwy a alwasant ar Dduw Israel yn gynhorthwy iddynt ar hyd y nos honno.

ºPENNOD 7

º1 ATHRANNOETH Oloffernes a orchmynnodd i'w holl lu, ac i'w holl bobl, y rhai a ddaethent yn gynhorthwy iddoj symud eu gwersyllau yn erbyn Bethulia, ac o'r blaen oresgyn bylchau'r mynydd-dir, a gwneuthur rhyfel yn erbyn meibion Israel.

º2 Yna eu gwyr cryfion hwynt a sym-udasant eu gwersyllau y dwthwn hwnnw. A llu y rhyfelwyr oedd gan mil a deng mil a thrigain o wyr traed, a deuddeng mil o wyr meirch, heblaw pobl gymysg, a gwyr eraill, y rhai oedd ar eu traed yn eu plith hwynt, yn dyrfa fawr iawn.

º3 A hwy a wersyllasant yn y dyffryn, yn gyfagos i Bethulia, wrth y ffynnon: ac a gyraeddasant ar led o Dothaim hyd Belmaim, ac ar hyd o Bethulia i Cyamon, yr hon sydd ar gyfer Es-draelom.

º4 A phan welodd meibion Israel eu lliaws hwynt, hwy a gyffroesant yn aruthr, a phob un a ddywedodd wrth ei gilydd, Yn awr y rhai hyn a ores-gynasant wyneb yr holl ddaear: canys ni ddichon y mynyddoedd uchel, na'r dyffrynnoedd, na'r bryniau, gynnal eu pwys hwynt.

º5 Yna pob un a gymerth ei arfau rhyfel, ac a gyneuasant dan ar eu tyrau, ac a arosasant yn gwylied ar hyd y nos honno.

º6 Ac ar yr ail dydd, Oloffernes a ddug allan ei holl wyr meirch yng ngolwg meibion Israel y rhai oedd yn Bethulia.

º7 Ac efe a ddaliodd sylw ar y ffordd yr elid i fyny i'w dinas hwynt, ac efe a ddaeth at eu ffynhonnau dyfroedd hwy, ac a'u goresgynnodd hwynt, ac a osododd fyddinoedd o ryfelwyr arnynt hwy, ac a symudodd ei wersyll tuag at ei bobl.

º8 Yna holl dywysogion meibion Esau, a holl benaethiaid pobl Moab, a holl gapteiniaid y mordir, a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant,

º9 Gwrandawed ein harglwydd air yn awr, rhag dyfod afrwydd-deb yn cry lu di.

º10 Canys y bobl hyn, meibion Israel, nid ydynt yn ymddiried yn eu gwayw-ffyn, eithr yn uchder y mynyddoedd, lie y maent hwy yn preswylio, oblegid anodd yw myned i fyny i bennau eu mynyddoedd hwy.

º11 Yn awr gan hynny, fy arglwydd, nac ymladd a hwynt mewn rhyfel byddinog, ac ni dderfydd am un gwr o'th bobl di.

º12 Arcs yn dy wersyllau, gan gadw pob gwr o'th lu, a goresgynned dy weision di y ffynnon ddwfr sy'n dyfod allan o odre'r mynydd:

º13 Canys oddi yno y mae holl drigolion Bethulia yn cael eu dwfr: felly syched a'u lladd hwynt, a hwy a roddant i fyny eu dinas; a ninnau a'n pobl a awn i fyny i bennau'r mynyddoedd nesaf, ac a wersyllwn yn eu herbyn hwynt, trwy wylied nad elo un gwr allan o'r ddinas.

º14 Felly hwynt-hwy a'u gwragedd a'u meibion a drengant o newyn; a chyn dyfod y cleddyf yn eu herbyn, hwy a ddymchwelir yn yr heolydd lie y maent yn trigo.

º15 Pel hyn y teli di iddynt hwy daled-igaeth ddrygionus oherwydd iddynt wrthryfela, ac nad ufuddhasant i'th wyneb di yn heddychol.

º16 A'u geiriau hwynt a fu fodlon gan Oloffernes, a chan ei holl weision: ac efe a orchmynnodd wneuthur megis y llefarasent hwy.

º17 Felly gwersyllau meibion Ammon a ymadawsant, a chyda hwynt bum mil o'r Asyriaid; a hwy a wersyllasant yn y dyffryn, ac a oresgynasant y dyfroedd, a ffynhonnau dwfr meibion Israel.

º18 A meibion Esau a aethant i fyny gyda meibion Ammon, ac a wersyllasant yn y mynydd-dir ar gyfer Doth-aim: a hwy a anfonasant rai ohonynt tua'r deau, a thua'r dwyrain, gyfer-byn ag Ecrebel, yr hon sydd yn gyfagos i Chusi, yr hon sydd ar yr afon Moch-mur; a'r rhan arall o lu'r Asyriaid a wersyllasant yn y maes, ac a orchuddias-ant holl wyneb y wlad; a'u pebyll hwynt, a'u mud, a wersyllasant yn lliaws mawr iawn.

º19 A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd eu Duw, canys hwy a ddigalonasent; oherwydd bod eu holl elynion o amgylch, fel na allent ffoi o'u plith hwynt.

º20 A holl gynulleidfa'r Asyriaid, a'r gwyr traed, a'r cerbydau, a'u gwyr meirch, a drigasant o'u hamgylch hwynt bedwar diwrnod ar ddeg ar hugain, fel y pallodd eu holl lestri dyfroedd gan holl drigolion Bethulia.

º21 A'r ffynonellau a ddihysbydd-wyd, ac nid oedd ganddynt ddigon o ddwfr i'w yfed dros un diwrnod: canys dan fesur y rhoddent iddynt ddwfr i'w yfed.

º22 Am hynny eu plant hwy a lesmeir-iasant, a'u gwragedd a'u gwyr ieuainc a ballasant gan syched, ac a syrthiasant yn heolydd y ddinas, ac yng nghyniweir-feydd y pyrth: ac nid oedd nerth yn- ddynt mwyach.

º23 Yna'r holl bobl a ymgasglasant at Oseias, ac at dywysogion y ddinas, yn wyr ieuainc, ac yn wragedd, ac yn blant, ac a waeddasant a lief uchel, ac a ddywedasant gerbron yr holl hen-

canys chwi a wnaethoch gam mawr a ni, am na lefarasoch yn heddychlon wrth feibion Asyria.

º25 Canys yn awr nid oes gennym ni gynorthwywr: eithr Duw a'n gwerth-odd ni i'w dwylo hwynt, fel y'n cwymper i lawr o'u blaen hwynt, trwy syched, a thrwy ddinistr mawr.

º26 Yn awr gan hynny gelwch hwynt atoch, a rhoddwch yr holl ddinas yn anrhaith i bobl Oloffernes, ac i'w holl luef.

º27 Canys gwell i ni fod yn anrhaith iddynt hwy na marw o syched: oblegid ni a fyddwn yn weision, fel y byddo byw ein heinioes, ac na welom farwol-aeth ein plant o flaen ein llygaid, na'n gwragedd a'n meibion yn meirw.

º28 Yr ydym yn galw yn dyst yn eich erbyn chwi y nef a'r ddaear, a'n Duw ni, ac Arglwydd ein tadau, yr hwn sydd yn dial arnom ni yn 61 ein pechodau, a phechodau ein tadau, fel na wnelo efe fel hyn y dydd heddiw.

º29 Yna yr oedd wylofain mawr yng nghanol y gynulleidfa gan bawb yn gyt-un: felly hwy a waeddasant ar yr Arglwydd Dduw a lief uchel.

º30 Yna y dywedodd Oseias wrthynt hwy, Cymerwch gysur, frodyr: dis-gwyliwn eto bum niwrnod, yn y rhai y dichon yr Arglwydd ein Duw ddychwel-yd ei drugaredd arnom: canys o'r diwedd ni wrthyd efe mohonom ni.

º31 Ac od a'r dyddiau hyn heibio, heb ddyfod cynhorthwy i ni, mi a wnaf yn 61 eich gair chwi.

º32 Felly efe a wasgarodd y bobl i'w gwersyllau, a hwy a aethant ymaith i'r muriau, ac i dyrau eu dinas, ac a anfonasant eu gwragedd a'u plant i'w tai: a hwy a fuant mewn gostyngiad mawr yn y ddinas.

ºPENNOD 8 º1 xxxxx dyddiau hynny Judith xxxxx xxxx riaid, xxxx Paffaim xxxx

Duw a farno rhyngom m a chwi: xxx Kattaun, xxxxx

ºxxxxx Ananeias, fcb Gedeon, fab fab Acithio, fab Elm, txxxxx

Eliab, fab Nathanael, fab Samael, fab Salasadaij fab Israel.

º2 A Manasses oedd ei gwr hi, o'r un llwyth a gwaedoliaeth a hi: ac efe a fuasai farw yn nyddiau'r cynhaeaf haidd.

º3 Canys yr oedd efe yn ddyfal yn gwylied y rhai oedd yn rhwymo ysgubau yn y maes, a'r gwres a ddaeth ar ei ben ef, fei y syrthiodd efe ar ei wely; ac efe a fu farw yn ninas Bethulia; a hwy a'i claddasant ef gyda'i dadau, yn y maes sy rhwng Dothaim a Balamon.

º4 A Judith oedd yn ei thy ei hun yn weddw, dair blynedd a phedwar mis.

º5 A hi a wnaeth iddi babell yn y fan uchaf o'i thy, ac a osododd sachlen am ei llwynau, a dillad ei gweddwdod oedd amdani.

º6 A hi a ymprydiodd holl ddyddiau ei gweddwdod; oddieithr y dydd cyn y Sabothau, a'r Sabothau, a'r dydd cyn y newyddloerau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau, ac uchel ddyddiau ty Israel.

º7 Ac yr oedd hi yn deg ei gwedd ac yn Ita iawn yr olwg: a Manasses ei gwr hi a adawsai iddi aur, ac arian, a gweision, a morynion, ac anifeiliaid, a meysydd, lie yr oedd hi yn arcs.

º8 Ac nid oedd neb a'r a allai ddwyn drygair yn ei herbyn hi: canys yr yd-oedd hi yn ofni Duw yn fawr.

º9 Pan glybu hi eiriau drygionus y bobl yn erbyn y tywysog, am eu bod hwy yn llesgau gan brinder dyfroedd: (canys Judith a glywsai'r holl eiriau a lefarasai Oseias wrthynt hwy, fel y tyng-asai efe wrthynt y rhoddid y ddinas ym-hen y pum niwrnod i'r Asyriaid:)

º10 Yna hi a anfonodd ei llawforwyn, yr hon oedd yn llywodraethu ei holl olud hi, i alw am Oseias, a Chabris, a Charmis, henuriaid ei dinas.

º11 A hwy a ddaethant ati hi: a hithau a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr arnaf fi, tywysogion y rhai sydd yn preswylio Bethulia: canys nid iawn eich geiriau chwi y rhai a lefarasoch gerbron y bobl heddiw, o ran y llw hwn a osodasoch ac a draethasoch rhwng Duw a ninnau, pan ddywed-asoch y rhoddech y ddinas i'n gelynion, oni ddychwelai'r Arglwydd i'n cyn-orthwyo ni o fewn y dyddiau hyn.

º12 Ac yn awr pwy ydych chwi, y rhai a demtiasoch Dduw y dydd heddiw, ac a'ch gosodasoch eich hunain yn lie Duw ymysg meibion dynion?

º13 Ac yn awr yr ydych chwi yn ceisio'r Arglwydd hollalluog; ond ni chewch wybod dim bythj

º14 Canys ni fedrwch gael allan ddyfn-der calon dyn, na deall y pethau y byddo efe yn eu meddwl: pa fodd wrth hynny y chwiliwch chwi allan Dduw, yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn? ac y gwybyddwch ei feddwl ef, ac y medrwch ddeall ei amcanion ef? nid felly, frodyr; na ddicllonwch yr Arglwydd ein Duw ni.

º15 Canys oni fyn efe ein cynor-thwyo ni o fewn pum niwrnod, y mae ganddo ef allu i'n hamddiffyn ni pan fynno, a phob dydd, neu i'n dinistrio ni o flaen ein gelynion.

º16 Am hynny na rwymwch gynghorion . yr Arglwydd ein Duw ni: canys nid fel dyn y mae Duw, fel y galler ei fyg-wth ef; ac nid fel mab dyn, fel y galler ei farnu ef.

º17 Gan hynny disgwyliwn iachawd-wriaeth oddi wrtho ef, galwn arno ef i'n cynorthwyo ni; ac efe a wrendy ar ein lief, os gwel efe yn dda.

º18 Canys ni chyfododd yn ein hoes-oedd ni, ac nid oes y dydd heddiw, na llwyth, na theulu, na phobl, na dinas, ohonom ni, a'r 'sy'n addoli duwiau a wneir & dwylo, megis y bu yn y dyddiau gym.

º19 Herwydd paham y rhoddwyd ein tadau ni i'r cleddyf, ac yn anrhaith, fel y syrthiasant trwy gwymp mawr o flaen ein gelynion.

º20 Ond nid adwaenom ni Dduw arall; am hynny yr ydym ni yn gobeithio na ddirmyga efe mohonom ni, na neb o'n hiliogaeth.

º21 Canys os delir nyni felly, Jwdea a anghyfanheddir, a'n cysegr ni a anrheithir, ac efe a gais ei halogedigaeth hi o'n genau ni.

º22 A lladdfa ein brodyr ni, a chaeth-iwed y wlad, a diffeithwch ein hetifedd-iaeth, a ddychwel efe ar ein pennau ni ymysg y cenhedloedd, pa le bynnag y gwasanaethom ni; ac ni a fyddwn yn gasbeth ac yn waradwydd yng ngolwg y rhai a'n meddiannant.

º23 Canys ni arweinir ein caethiwed ni mewn hawddgarwch; eithr trwy warth y gesyd yr Arglwydd ein Duw ni hi.

º24 Yn awr gan hynny, O frodyr, dangoswn esampl i'n brodyr; oher-wydd arnom ni y mae eu calon hwynt, a'r cysegr, a'r ty, a'r allor sy a'i phwys arnom ni.

º25 Heblaw hyn oil, diolchwn i'r Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn ein profi ni, megis y profodd efe ein tadau ni.

º26 Cofiwch yr hyn a wnaeth efe ag Abraham, a pha fodd y profodd efe Isaac, a'r hyn a wnaed i Jacob ym Mesopotamia Syria, pan ydoedd efe yn bugeilio defaid Laban brawd ei fain.

º27 Canys ni phrofodd efe ni yn y tan fel hwynt-hwy, er prawf ar eu calon-nau hwynt, ac ni ddialodd arnom ni; eithr yr Arglwydd sydd yn ceryddu y rhai sydd yn nesau ato ef, er mwyn eu rhybuddio.

º28 Yna Oseias a ddywedodd wrthi hi, A chalon dda y lleferaist yr hyn oil a ddywedaist: ac nid oes a ddichon wrth-wynebu dy eiriau di.

º29 Oherwydd nid heddiw yr eglur-wyd dy ddoethineb di; eithr er dech-reuad dy ddyddiau di y gwybu'r holl bobl dy ddoethineb; canys da yw am-can dy galon di.

º30 Ond y bobl oedd yn fawr iawn eu syched, ac a'n cymellasant ni i wneuth-ur iddynt fel y llefarasom, ac i ddwyn arnom lw, yr hwn ni throseddwn.

º31 Am hynny gweddia di yn awr trosom ni, o achos mai gwraig grefyddol ydwyt ti; a'r Arglwydd a enfyn law i lenwi ein ffynonellau ni, fel na lesgaom mwyach.

º32 Yna y dywedodd Judith wrthynt hwy, Gwrandewch arnaf fi, a mi a wnaf beth y byddo son amdano trwy'r holl oesoedd gan feibion ein cenedl ni.

º33 Sefwch chwi yn y porth y nos hon, a myfi a af allan, mi a'm llawforwyn: ac o fewn y dyddiau, yn y rhai y dy-wedasoch y rhoddech chwi y ddinas i'n gelynion, yr Arglwydd a ymwel ag Israel trwy fy Haw i.

º34 Ond na cheisiwch chwi mo'r ymo-fyn am fy ngweithred: canys ni fynegaf fi i chwi, nes gorfien yr hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.

º35 Yna Oseias a'r tywysogion a ddy-wedasant wrthi, Dos mewn heddwch: a'r Arglwydd Dduw a fyddo o'th, flaen di, er dialedd ar ein gelynion.

º36 Felly hwy a ddychwelasant o'r babell, ac a aethant ymaith at eu bydd-inoedd.

ºPENNOD 9 º1 YNA Judith a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a osododd ludw ar ei phen, ac a ddiosgodd y sachliain &'t hwn yr oedd hi wedi ymwisgo: ac ynghylch yr amser yr offrymwyd yr arogl-darth yn Jerwsa-lem, o fewn ty'r Arglwydd, y pryn-hawngwaith hwnnw, yno Judith a waeddodd S lief uchel, ac a ddywedodd,

º2 O Arglwydd Dduw fy nhad Simeon, i'r hwn y rhoddaist gleddyf i ddial ar y dieithriaid, y rhai a agorasant groth y forwyn trwy halogedigaeth, ac a noeth-asant y morddwyd trwy waradwydd, ac a halogasant forwyndod trwy warth; canys tydi a archesit na wneid felly, ac eto hwy a wnaethant felly:

º3 Oherwydd paham y rhoddaist ti eu tywysogion hwynt i'r Eaddfa, a hwy wedi eu twyllo a olchasant eu gwely trwy waed; a thithau a drewaist y gweision gyda'r penaethiaid, a'r penaethiaid ar eu gorseddfeydd,

º4 Ac a roddaist eu gwragedd hwynt yn ysglyfaeth, a'u merched mewn caethiwed, a'u holl anrhaith yn gyfran i feibion cu gennyt; y rhai oedd yn gresynu o'th resyndod di, ac yn ffiaidd ganddynt halogedigaeth eu gwaed, ac a alwasaiit arnat ti yn gynorthwyvvr. O Dduw, O fy Nuw, gwrando arnaf fi yr hon sy weddw;

º5 Canys ti a wnaethost nid yn unig y pethau hynny, eithr hefyd y pethau a ddigwyddodd o'r blaen, a'r rhai a fyddant rhag llaw; a thi a feddyliaist am y pethau presennol, a'r pethau a ddeuant rhag llaw.

º6 A'r pethau yr wyt ti yn eu ham-canu sy bresennol, ac yn dywedyd, Wele ni yma: oherwydd dy holl ffyrdd di sy barod, a'th farnedigaethau yn dy ragwybodaeth.

º7 Wele yr Asyriaid wedi amlhau trwy eu nerth, ymddyrchafasant yn eu meirch a'u marchogion, ymogoneddas-ant yng nghadernid y gwyr traed, ym-ddiriedasant i'r darian, ac i'r bwa, ac i'r daflffon: ac nid ydynt yn gwybod mai tydi, O Arglwydd, sydd yn torri'r rhyfeloedd; yr Arglwydd yw dy enw.

º8 Rhwyga di eu cadernid hwynt a'th nerth, a dryllia eu cryfder a'th ddic-llonedd: canys y maent hwy wedi bwriadu halogi dy gysegr, a difwyno'r tabernacl lie y mae dy enw gogoneddus yn gorffwys, a bwrw i lawr ag arfau gyrn dy allor di.

º9 Edrych ar eu balchder hwynt; an-fon dy ddigofaint ar eu pennau: dod yn fy llaw i, yr hon ydwyf weddw, y nerth a feddyliais i.

º10 Taro di, trwy ddichell fy ngwef-usau, y gwas gyda'r tywysog, a'r ty-wysog gyda'i was: tor di eu huchder hwynt trwy law benyw.

º11 Canys nid yw dy nerth di mewn lliaws, na'th allu yn y rhai cedyrn: eithr tydi wyt Arglwydd y rhai gostyng-edig, a chynorthwywr y rhai bychain, amddiffynnwr y gweiniaid, ymgeleddwr y rhai gwrthodedig, achubwr y rhai an-obeithiol.

º12 Yn ddiamau ti yw Duw fy nhad i, a Duw etifeddiaeth Israel; Llyw-iawdwr nefoedd a daear, Creawdwr y dyfroedd, Brenin pob creadur, gwrando fy ngweddi,

º13 A chaniata i'm hymadrodd a'm dichell i, fod yn archoll ac yn anaf yn eu herbyn hwy, y rhai sydd yn amcanu pethau ysgeler yn erbyn dy dystiolaeth di, a'th dy sanctaidd, a chopa Seion, a thy meddiant dy feibion.

º14 A gwna i bob cenedl a llwyth gyd-nabod mai tydi yw Duw pob gallu a chadernid, ac nad oes neb arall yn amddiffynnwr i genedl Israel ond tydi.

ºPENNOD 10 º1 A PHAN ddarfu iddi weiddi ar Dduw Israel, a gorffen yr holl eiriau hyn,

º2 Hi a gyfododd o'r fan y syrthiasai, ac a alwodd ei llawforwyn, ac a aeth i waered i'r ty, yn yr hwn yr oedd hi yn aros dros ddyddiau y Sabothau, a thros ei gwyliau;

º3 A hi a fwriodd ymaith y sachliain a'r hwn yr ydoedd hi wedi ymwisgo, ac a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod, ac a olchodd ei holl gorff drosto a dwfr, ac a ymeneiniodd ag ennaint gwerth-fawr, ac a osododd wallt ei phen mewn trefn, ac roddodd feitr amo, ac a wisgodd ei dillad parchedig y rhai y.byddai hi arferol o'u gwisgo ym myw ei gwr Manasses;

º4 A hi a gymerodd sandalau am ei thraed, ac a wisgodd freichledau, a chad-wyni, a modrwyau, a chlustlysau, a'i holl deganau, ac a ymbinciodd yn wych iawn, i hudo llygaid pa wyr byn-nag a'i gwelent hi.

º5 Yna hi a roddodd i'w llawforwyn gostrelaid o win, ac ystenaid o olew, ac a lanwodd gwd o beilliaid, ac o ffigys, ac o fara peilliaid: a hi a ddyblygodd ei holl lestri hyn ynghyd, ac a'u gosod-odd arni.

º6 A hwy a aethant ynghyd i borth dinas Bethulia, ac a gawsant Oseias, a henuriaid y ddinas, Chabris a Charmis, yn sefyll wrtho.

º7 A phan welsant hwy hi, a^bod ei hwynepryd hi wedi ei newid, a'i dillad wedi eu newid, hwynt-hwy a ryfeddasant yn ddirfawr oherwydd ei glendid hi, ac a ddywedasant wrthi,


º8 Duw, Duw ein tadau, a roddo i ti ras, ac a gwblhao dy amcanion, i ogon-iant meibion Israel a dyrchafiad Jerwsa-lem. Yna hwy a addolasant Dduw.

º9 A hi a ddywedodd wrthynt, Gorch-mynnwch agoryd i mi borth y ddinas, fel yr elwyf allan i gyflawni'r geiriau a lefarasoch chwi wrthyf. Felly hwy a orchmynasant i'r llanciau agori iddi, megis ag y dywedasai hi: a hwythau a wnaethant felly.

º10 Yna yr aeth Judith allan, hi a'i llawforwyn gyda hi: a gwyr y ddinas a edrychasant ar ei hoi, nes iddi ddisgyn o'r mynydd, a myned trwy'r dyffryn; ac ni allent wedi hynny ei gweled hi.

º11 A hwy a aethant ar hyd y dyffryn yn union: a gwyliadwriaeth gyntaf yr Asyriaid a gyfarfu & hi,

º12 Ac a'i daliasant hi, ac a ofynasant iddi, O ba bobl yr wyt ti? ac o ba le yr wyt ti yn dyfod? ac i ba le yr wyt ti yn myned? A hi a ddywedodd, Merch ydwyf o'r Hebreaid, a ffoi yr ydwyf oddi wrthynt hwy: canys hwy a roddir yn ysglyfaeth i chwi.

º13 Ac yr ydwyf fi yn dyfod gerbron Oloffernes pen-tywysog eich llu chwi, fel y mynegwyf eiriau gwir, ac y dan-goswyf ger ei fron ef y ffordd yr a efe, ac y goresgyn yr holl fynydd-dir; ac ni dderfydd am gorff nac einioes un o'i wyr ef.

º14 Pan glybu y gwyr ei geiriau hi, hwy a ddaliasant sylw ar ei hwynepryd hi, ac yr oedd hi yn landeg odiaeth ger eu bron hwynt; a hwy a ddywedasant wrthi hi,

º15 Tydi a gedwaist dy einioes, gan i ti ddyfod i waered ar frys gerbron ein har-glwydd ni: yn awr gan hynny tyred at ei babell ef, a rhyw rai ohonom a'th arweiniant di, nes iddynt dy roddi yn ei law ef.

º16 A phan sefych di ger ei fron ef, nac ofna yn dy galon, eithr mynega yn 61 dy ymadroddion, ac efe a wna yn dda i ti.

º17 Yna hwy a etholasant gannwr o-honynt, ac a baratoesant gerbyd iddi hi, ac i'w llawforwyn, a hwy a'i dyg-asant hi i babell Oloffernes.

º18 Yna yr oedd rhedegfain trwy'r holl wersyll: canys ei dyfodiad hi a aeth yn gyhoedd yn y pebyll: a hwy a ddaethant, ac a safasant o'i hamgylch hi, canys yr oedd hi yn sefyll o'r tu allan i babell Oloffernes, nes iddynt hwy fynegi iddo o'i herwydd hi.

º19 A hwy a ryfeddasant oherwydd ei glendid hi, ac a ryfeddasant o'i herwydd with feibion Israel; a dywedodd pob un wrth ei gilydd, Pwy a ddirmygai'r bobl hyn, sy a'r fath wragedd yn eu mysg? diau nid yw dda adael un gwr o-honynt; canys pe gadewid hwynt, hwy a allent dwyUo'r holl ddaear.

º20 A'r rhai oedd yn cysgu yn agos at Oloffernes a aethant allan, a'i holl weision ef, ac a'i dygasant hi i'r babell.

º21 Ac Oloffernes oedd yn gorffwys ar ei wely mewn canopi, yr hwn ydoedd wedi ei weu o borffor, ac aur, a smarag-dus, a meini gwerthfawr.

º22 A hwy a fynegasant iddo ef o'i phlegid hi; ac efe a aeth allan i'r cyntedd o flaen ei babell, a Uusernau arian yn myned o'i flaen ef.

º23 A phan ddaeth Judith ger ei fron ef a'i weision, hwy oil a ryfeddasant o-herwydd glendid ei hwynepryd hi: hithau gan syrthio ar ei hwyneb a ym-grymodd iddo: a'i weision ef a'i codasant hi i fyny.

ºPENNOD 11 º1 xxx"NA Oloffernes a ddywedodd wrthi A hi, Cymer gysur, wraig, nac ofna yn dy galon; canys ni wneuthum i niwed i neb a fynnai wasanaethu Na-buchodonosor brenin yr holl ddaear.

º2 Ac yn awr dy bobl di, y rhai sydd yn aros yn y mynyddoedd, oni buasai iddynt hwy fy nirmygu, ni ddyrchaf-aswn fy ngwaywffon yn eu herbyn hwynt: ond hwy a wnaethant hyn iddynt eu hunain.

º3 Ond yn awr dywed i mi paham y ffoaist ti oddi wrthynt hwy, ac y daeth-ost atom ni; canys ti a ddaethost i ddiogelwch: cymer gysur; byw fyddi di y nos hon, a rhag llaw;

º4 Canys nid oes neb a wna niwed i ti, ond a wnel yn dda i ti, megis ag y gwneir i weision fy arglwydd frenin Nabuchodonosor.

º5 Yna Judith a ddywedodd wrtho ef, Derbyn eiriau dy wasanaethferch, a gad i'th lawforwyn lefaru ger dy fron di, ac ni fynegaf geiwydd i'm har-glwydd y nos hon.

º6 Ac os tydi a ganlyni eiriau dy lawforwyn, Duw a wna yn gwbl y peth trwot ti, ac ni phalla fy arglwydd o'i •amcanion.

º7 Fel y mae Nabuchodonosor brenin yr holl ddaear yn fyw, ac mai byw ei nerth ef, yr hwn a'th anfonodd di i uniawni pob enaid; nid yn unig dynion a'i gwasanaethant ef trwot ti, eithr bwystfilod y maes, a'r ysgrubhaid, ac ehediaid y nefoedd, a fyddant byw trwy dy nerth di, dan Nabuchodonosor a'i holl dy ef.

º8 Canys ni a glywsom son am dy ddoethineb di, a chyfrwystra dy galon; ac fe a fynegwyd trwy'r holl ddaear dy fod di yn unig yn rhagorol trwy'r holl deyrnas, ac yn alluog mewn gwy-bodaeth, ac yn rhyfedd yng nghyfarwydd-yd rhyfel.

º9 Ac yn awr am y peth a lefarodd Achior yn dy eisteddfod di, nyni a glywsom ei ymadroddion ef: canys gwyr Bethulia a'i daliasant ef, ac efe a fyneg-odd iddynt yr hyn oil a lefarasai efe wrthyt ti.

º10 Am hynny, O arglwydd lywiawdwr, na ddiystyra ei air ef, ond gosod ef at dy galon; canys gwir yw: oherwydd nid oes dial i'w gymryd yn erbyn ein cenedl ni, ac ni ddichon y cleddyf eu gorchfygu hwynt, oddieithr iddynt hwy bechu yn erbyn eu Duw.

º11 Ac yn awr rhag bod fy arglwydd yn ddiobaith, a methu ganddo yr hyn a amcanodd, marwolaeth a syrthiodd ar-nynt hwy, a phechod a'u daliodd, trwy'r hwn y dicllonant eu Duw, pa bryd bynnag y gwnelont anweddeidd-dra.

º12 Oblegid i'w lluniaeth hwynt ddar-fod, ac i'w dwfr brinhau, hwy a ym-gyngorasant ar ruthro i'r anifeiliaid; ac y maent ar fedr gwastraffu yr hyn oil a waharddodd Duw iddynt hwy trwy ei gyfraith ei fvvyta.

º13 Ac maent ar fedr treulio blaen-firwyth yr yd, a degwm y gwin a'r olew, y rhai a gadwasant yn sanctaidd i'r ofTeiriaid sydd yn sefyll yn Jerwsa-lem gerbron ein Duw ni; y rhai ni pherthyn i neb o'r bobl gyffwrdd a hwynt a'u dwylo.

º14 Hefyd hwy a anfonasant i Jerwsa-iem, oherwydd y rhai sy'n trigo yno a wnaethant felly, rai i ddwyn iddynt hwy gennad o'r seneddr:

º15 A phan ddygont hwy air iddynt, yna hwy a wnant felly: a hwy a roddir i ti i'w dinistrio y dwthwn hwnnw.

º16 Am hynny myfi dy wasanaeth-ferch yn gwybod hyn oil, a ffoais o'u gwydd hwynt: a Duw a'm hanfonodd i wneuthur 4 thi y cyfryw bethau ag y rhyfedda'r holl fyd, a'r sawl a'u clywant oil;

º17 Canys dy wasanaethferch sy gref-yddol, ac yn addoli Duw nef ddydd a . nos. Ac yn awr gad i mi aros gyda thi, fy arglwydd; a'th wasanaethferch a a y nos alian i'r dyffryn, a mi a weddi'af Dduw, ac efe a fynega i mi pa bryd y gwnaethant hwy eu pechodau:

º18 A minnau a ddeuaf, ac a'i myn-egaf i ti, fel yr elych dithau allan a'th holl lu; ac ni bydd neb ohonynt hwy a allo dy wrthwynebu.

º19 A mi a'th arweiniaf di trwy ganol Jwdea, nes i ti ddyfod o flaen Jerwsa-lem; a mi a osodaf dy eisteddfa di yn ei chanol hi, a thi a'u hymlidi hwynt fel defaid heb fugail, ac ni chyfarth ci a'i dafod i'th erbyn: canys hyn a ddywetbwyd i mi trwy fy rhagwybod-aeth, ac a fynegwyd i mi, a myfi a an-fonwyd i fynegi i ti.

º20 A'i geiriau hi a ryglyddasant fodd Oloffernes a'i holl weision: a hwy a ryfeddasant oherwydd ei doethineb hi, ac a ddywedasant,

º21 Nid oes mo'r fath wraig o bryd a ewedd a doeth ymadrodd, o gwr bwy-gilydd i'r ddaear.

º22 Ac Oloffernes a ddywedodd wrthi, Da y gwnaeth Duw, yr hwn a'th anfonodd di o flaen y bobl, fel y byddai nerth yn ein dwylo ni, a distryw ar y rhai a ddirmygant fy arglwydd.

º23 Ac yn awr yr wyt ti yn landeg yr olwg, ac yn ddoeth yn dy ymadrodd: os tydi a wnei megis y lleferaist, dy Dduw di fydd yn Dduw i mi, a thi a gei aros yn nhy Nabuchodonosor y brenin, ac a fyddi yn enwog trwy'r holl ddaear.

ºPENNOD 12 º1 YNA efe a orchmynnodd ei dwyn hi i mewn, lie yr oedd ei drysorau ef ynghadw, ac a archodd hulio bwrdd iddi hi o'i fwydydd ei hun, ac o'i %vin iyfed.

º2 A Judith a ddywedodd, Ni fwytaf fi ohonynt, rhag bod camwedd: eithr o'r pethau hyn a ddaeth gyda mi y bydd fy nhraul.

º3 Yna OlofFernes a ddywedodd wrthi, Os derfydd y pethau sy gyda thi, o ba le y gallwn ni roddi eu cyffelyb hwynt i ti? canys nid oes gyda ni neb o'th genedl di.

º4 A Judith a ddywedodd wrtho ef, Fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, ni threulia dy wasanaethferch yr hyn sy gyda mi, hyd oni wnel yr Arglwydd trwy fy Haw i yr hyn y rhoddodd efe ei fryd arno.

º5 Yna gweision Oloffernes a'i dygas-ant hi i'r babell; a hi a gysgodd hyd banner nos, ac a gyfododd ar yr wyliad-wriaeth foreol;

º6 A hi a anfonodd at Oloffernes, gan ddywedyd, Gorchmynned fy arglwydd yn awr ollwng dy wasanaethferch i ryned allan i weddio.

º7 Yna Oloffernes a orchmynnodd i wylwyr ei gorff ef na rwystrent hi: feEy hi a arhosodd yn y gwersyll dri diwrnod; a hi a ai allan liw nos i ddyffryn Bethulia, ac a ymolchai mewn ffynnon ddwfr wrth y gwersyll.

º8 A phan ddeuai hi i fyny, hi a wedd-lai ar Arglwydd Dduw Israel, ar iddo ef gyfarwyddo ei ffordd hi, er dyrchaf-iad meibion ei phobl.

º9 Felly hi a ai i mewn yn Ian, ac a drigai yn y babell, hyd oni fwytai hi ei bwyd yn yr hwyr.

º10 Ac ar y pedwerydd dydd, Oloffernes a wnaeth wledd i'w weision ei hun yn unig, ac ni wahoddodd efe neb o'r swyddogion i'r wledd.

º11 Yna y dywedodd efe wrth Bagoas ei stafellydd, yr hwn oedd swyddog ar yr hyn oil a feddai efe, Dos, cais gan yr Hebrees yn awr, yr hon sy gyda thi, ddyfod atom ni, fel y bwytao ac yr yfo hi gyda ni:

º12 Canys wele, cywilydd yw i'n hwyneb ni ollwng ymaith y fath wraig heb ymddiddan a hi: oni bydd i ni ei denu hi atom, hi a'n gwatwar ni.

º13 Yna Bagoas a aeth ymaith o wydd Oloffernes, ac a ddaeth i mewn ati hi, ac a ddywedodd, Na fydded blin gan y ferch Ian yma ddyfod at fy arglwydd, i'w hanrhydeddu ger ei fron ef, ac i yfed gyda ni win yn hyfryd, ac i fod y dydd hwn fel yn o ferched meibion Asyria, y rhai sydd yn sefyll yn nh$ Nabuchodonosor.

º14 A Judith a ddywedodd wrtho ef, Pwy ydwyf fi fel y dywedwn yn erbyn fy arglwydd? canys beth bynnag a fyddo bodlon ganddo ef, myfi a'i gwnaf yn ebrwydd; a hyn fydd i mi yn llawenydd hyd ddydd fy marwolaeth.

º15 Felly hi a gyfododd, ac a ymhardd-odd a dillad, ac a phob addurnwisgoedd gwragedd; a'i llawforwyn hi a ddaeth, ac a ledodd iddi hi ar y llawr, ar gyfer Oloffernes, y crwyn a gawsai hi gan Bagoas i'w chyfraid ei hun beunydd, fel yr eisteddai hi ac y,bwytai arnynt.

º16 Pan ddaeth Judith i mewn, ac eistedd, yna calon Oloffernes a ddych-lamodd o'i herwydd hi, a'i ysbryd ef a gynhyrfodd, ac yr oedd yn chwan-nog iawn i gydorwedd a hi: canys yr oedd efe yn gwylied amser i'w thwyllo, er y dydd y gwelsai efe hi.


º17 Yna Oloffernes a ddywedodd wrthi, Yf yn awr, a bydd lawen gyda ni.

º18 A Judith a ddywedodd, Mi a yfaf yn awr, O arglwydd, canys fy einioes a fawrygwyd heddiw, rhagor yr holl ddyddiau er pan y'm ganed.

º19 Yna y cymerodd hi, ac y bwyt-aodd ac yr yfodd ger ei fron ef yr hyn a baratoesai ei llawforwyn hi.

º20 ^.c Oloffernes, a aeth yn llawen o'i phiegid hi, ac a yfodd o win fwy o lawer nag a yfasai efe mewn un dydd er pan anesid ef.

ºPENNOD 13 º1 A PHAN hwyrhaodd hi, ei weision ef a frysiasant i fyned ymaith; a Bagoas a gaeodd ei babell ef o'r tu allan, ac a ollyngodd ymaith y rhai oedd yn sefyll gerbron ei arglwydd, a hwy a aethant i'w gwelyau: canys yr oeddynt oil yn ddiffygiol, oherwydd hir y buasai'r wledd.

º2 A Judith a adawyd ei hun yn y babell; ac Oloffernes oedd yn gorwedd ar ei wely, canys yr oedd efe wedi ym-lenwi o win.

º3 A Judith a ddywedodd wrth ei llawforwyn am iddi sefyll o'r tu allan i'w stafell, a disgwyl am ei dyfodiad hi allan, megis y byddai hi beunydd: oblegid hi a ddywedodd yr ai hi allan i'w gweddi: ac wrth Bagoas y dywed-odd hi yr un ffunud,

º4 Felly pawb a aethant ymaith o'i gwydd hi, ac ni adawyd neb yn yr ystafell o fychan i fawr. Yna Judith yn sefyll wrth ei wely ef a ddywedodd yn ei chalon, O Arglwydd Dduw pob nerth, edrych di yr awr hon ar waith fy nwylo, er dyrchafiad i Jerwsalem:

º5 Canys yn awr y mae yr amser i gynorthwyo dy etifeddiaeth, ac i gwbl-hau fy amcanion i, er distrywio'r gelyn-ion a gyfodasant i'n herbyn ni.

º6 Yna hi a ddaeth at erchwyn y gwely, yr hwn oedd wrth ben Oloffernes, ac a dynnodd i lawr ei gleddyf ef oddi yno.

º7 A hi a ddaeth yn nes at y gwely, ac a ymaflodd yng ngwallt ei ben ef, ac a ddywedodd, Nertha di fi, O Arglwydd Dduw, y dydd hwn.

º8 A hi a drawodd ar ei wddf ef ddwy waith a'i holl nerth, ac a dynnodd ymaith ei ben ef oddi wrthOj

º9 Ac a dreiglodd ei gorff ef o'r gwely, ac a dynnodd ymaith w canopi oddi ar y colofnau: ac wedi ychydig ennyd hi a aeth allan, ac a. roddes ben Oloffernes i'w llawforwyn:

º10 A hithau a'i rhoddes ef yn y tudded lie yr oedd eu bwyd hwynt: yna hwy a aethant allan ill dwyoedd ynghyd, fel y byddent arferol wrth fyned i weddio: a chan fyned trwy'r gwersyll, hwy a amgylchasant y dyffryn hwnnw, a hwy a aethant i fyny i fynydd Bethulia, ac a ddaethant wrth ei phyrth hi.

º11 Yna y dywedodd Judith o hirbell wrth y rhai oedd yn cadw'r pyrth, Agorwch, agorwch weithian y porth. Duw, sef ein Duw ni, sydd gyda ni, i wneuthur eto rymuster yn Israel, a chadernid yn erbyn y gelynion, fel y gwnaeth efe heddiw.

º12 A phan glybu gwyr ei dinas ei llais hi, hwy a frysiasant ddyfod i waered at borth eu dinas: a hwy a alwasant yrig-hyd henuriaid y ddinas.

º13 A hwy a redasant ynghyd o fychan i fawr: canys amau oedd ganddynt ei dyfod hi: felly hwy a agorasant y porth, ac a'i derbyniasant hi, ac a gyneuas-ant dan yn olau, ac a safasant o'u ham-gylch hwynt.

º14 Yna hi a ddywedodd wrthynt a lief uchel, Moliennwch Dduw, molien-nwch, moliennwch Dduw; canys ni thynnodd efe ymaith ei drugaredd oddi wrth dy Israel, eithr efe a ddinistriodd ein gelynion trwy fy Haw i y nos hon.

º15 Yna hi a dynnodd ei ben ef allan o'r cwd, ac a'i dangosodd, ac a ddywedodd wrthynt, Wele ben Oloffernes pen-tywysog milwriaeth yr Asyriaid, ac wele'r brycan yr oedd efe yn gorwedd ynddo yn ei feddwdod: a'r Arglwydd a'i trawodd ef trwy law benyw.


º16 Fel y mae'r Arglwydd yn fyw, yr hwn a'm cadwodd i yn y ffordd y rhodiais arni, fy wyneb i a'i twyllodd ef i'w golledigaeth, ac ni wnaeth efe bechod gyda mi i'm halogi ac i'm cywilyddio.

º17 Yna y synnodd ar yr holl bobl yn aruthr, ac a ymgrymasant, ac a addol-asant Dduw, ac a ddywedasant o unfryd, Bendigedig wyt ti, ein Duw ni, yr hwn a wnaethost elynion dy bobl yn ddi-ddim y dydd heddiw.

º18 Yna Oseias a ddywedodd wrthi hi, O ferch, bendigedig wyt gan Dduw goruchaf, rhagor yr holl wragedd sydd ar y ddaear: a bendigedig fyddo'r Arglwydd Dduw, yr hwn a greodd y nef-oedd a'r ddaear, yr hwn a'th gyfar-wyddodd di i dorri pen tywysog ein gelynion.

º19 Oblegid nid ymedy dy obaith di o galon dynion, y rhai a gofiant nerth Duw yn dragywydd.


º20 A Duw a wnêl hyn yn glod tragwyddol i ti, ac a ymwelo â thi â daioni, oherwydd nad arbedaist dy einioes, o achos cystudd ein cenedl ni, eithr achubaist flaen ein cwymp, gan rodio yn uniawn yng ngolwg ein Duw ni. A'r holl bobl a ddywedasant, Poed gwir fyddo, Amen.


ºPENNOD 14 º1 Yna Judith a ddywedodd wrthynt •*• hwy, Clywch fi yn awr, O frodyr: cymerwch y pen hwn, a chrogwch ef ar y fan uchaf o'n rnur ni.

º2 A phan oleuo'r bore, a chyfodi'r haul ar y ddaear, cymerwch bob un eich arfau rhyfel, ac eled pob gwr cad-arn allan o'r ddinas, a gosodwch dv-wysog arnynt, megis pe byddech chwi ar fedr myned i waered i'r maes at wyl-iadwriaeth yr Asyriaid; ond nac ewch chwi i waered.

º3 Yna hwy a gymerant eu harfau, ac a ant i'w gwersyll, ac a godant dy-wysogion llu'r Asyriaid, ac a redant i babell Oloffernes, ond nis cant ef: yna ofn a syrth arnynt, a hwy a ffoant o'ch gwydd chwi.

º4 Felly chwi, a holl drigolion ardaloedd Israel, a'u herlidiwch hwynt, ac a'u methrwch ar hyd eu ffyrdd.

º5 Ond cyn i chwi wneuthur y pethau hyn, gelwch i mi Achior yr Ammoniad, fel y gwelo efe, ac yr adwaeno yr hwn a ddiystyrodd dy^ Israel, a'r hwn a'i hanfonodd ef atom ni, megis i farwolaeth.


º6 Yna hwy a alwasant Achior allan. o dy Oseias: a phan ddaeth efe, a gweled pen Oloffernes yn llaw rhyw wr yng nghynulleidfa'r bobl, efe a syrthiodd ar ei wyneb, a'i ysbryd ef a ballodd.

º7 Eithr pan godasant hwy ef i fyny, efe a syrthiodd wrth draed Judith, ac a ymgrymodd ger ei bron hi, ac a ddywedodd, Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, a thrwy'r Cenhedloedd; pwy bynnag a glywant dy enw di a synnant.

º8 Yn awr gan hynny mynega i mi yr hyn oll a wnaethost yn y dyddiau hyn. Yna Judith a fynegodd iddo ef yng nghanol y bobl yr hyn oll a wnaethai hi, er y dydd yr aethai hi allan, hyd yr awr honno y llefarai hi wrthynt hwy.

º9 A phan orffennodd hi lefaru, yna y bobl a floeddiasant a lief uchel, ac a roddasant lef lawen yn eu dinas.

º10 A phan welodd Achior yr hyn oil a wnaethai Duw Israel, efe a gredodd yn Nuw yn ddirfawr, ac a enwaedodd gnawd ei ddienwaediad; ac efe a gys-ylltwyd at dy Israel hyd y dydd hwn.

º11 A phan gyfododd y wawr, hwy a grogasant ben Oloffernes ar y mur: a'r holl wyr a gymerasant eu harfau, ac a aethant allan yn finteloedd i fylch-au'r mynydd.

º12 A phan welodd yr Asyriaid hwynt, hwythau a anfonasant eu tywysogion, y rhai a ddaethant at eu capteiniaid, a'u tribuniaid, ac at eu holl lywiawdwyr.

º13 A hwy a ddaethant at babell Oloffernes, ac a ddywedasant wrth yr hwn oedd swyddog ar ei eiddo ef oil, Deffro yn awr, ein harglwydd ni: canys y caethweision a feiddiasant ddyfod i waered yn ein herbyn i ryfel, fel y di-fether hwynt yn gwbl.



º14 Yna yr aeth Bagoas i mewn, ac a gurodd wrth ddrws y babell: oblegid efe a dybiodd ei fod ef yn cysgu gyda Judith.

º15 Pan nad atebodd neb, efe a agor-odd, ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a'i cafodd ef wedi ei daflu ar y llawr yn farw, a'i ben wedi ei ddwyn ymaith oddi wrtho.

º16 Am hynny efe a waeddodd a lief uchel, ag wylofain, ac a griddfan ac a bloedd ddirfawr, ac a rwygodd ei ddillad.

º17 Yna efe a aeth i'r babell lie y byddai Judith yn arcs, ac nis cafodd hi; am hynny efe a neidiodd at y bobl, ac a waeddodd,

º18 Y caethweision hyn a wnaethant ddirdra: un wraig o'r Hebreaid a wnaeth , waradwydd i dy'r brenin Nabuchodon-osor: canys wele Oloffernes yn gorwedd ar y ddaear, a'i ben heb fod ganddo.

º19 Pan glybu tywysogion llu'r As-yriaid hyn, hwy a rwygasant yn y fan eu dillad, a'u meddyliau hwy a gyth-ryblwyd yn ddirfawr: ac yr oedd llefain a gweiddi mawr iawn o fewn y gwersyll.

ºPENNOD 15 º1 A phan glywsant hwy, y rhai oedd yn y pebyll, hwy a synasant o-herwydd y weithred.

º2 Ac ofn a dychryn a syrthiodd arnynt, fel nad oedd neb mwyach a allai aros yn wyneb ei gilydd, eithr yn was-garedig y ffoesant o unfryd i holl ffyrdd y gwastadedd a'r mynydd-dir.

º3 A'r rhai a wersyUasent yn y myn-yddoedd o atngylch Bethulia a ffoesant. Yna meibion Israel, sef pob rhyfelwr o-honynt, a ruthrasant arnynt hwy.

º4 Yna Oseias a anfonodd i Betho-tnasthem, ac i Bebai, ac i Chobai, ac i Chola, ac i holl derfynau Israel, rai i fynegi iddynt yr hyn a ddarfuasai, ac i beri iddynt hwy oil ruthro ar y gelyn-ion, i'w difetha hwynt.

º5 A phan glybu meibion Israel, hwy a ruthrasant oil o unfryd i'w herbyn hwynt hyd Choba. Felly hefyd y rhai a ddaethai o Jerwsalem, ac o'r holl fynydd-dir, (canys rhai a fynegasai iddynt hwy yr hyn a wnaethid yng ngwersyl! eu gelynion,) a'r rhai oedd yn Galaad, ac yn Galilea, a'u hymlidiasant hwynt i phla mawr, nes iddynt fyned heibio i Damascus a'i hardaloedd.

º6 A'r rhan arall, y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a ruthrasant i wersyll yr Asyriaid, ac a'u hysbeiliasant hwy, ac a ymgyfoethogasant yn ddirfawr.

º7 A meibion Israel, y rhai a ddy-chwelasant o'r lladdedigaeth, a berchen-ogasant y gweddill: a'r trefydd a'r dinasoedd, y rhai oedd yn y mynydd-dir, ac yn y dyffryndir, a gawsant an-rhaith fawr: canys eu lliaws oedd fawr iawn.

º8 Yna Joacim yr archoffeiriad, a hen-uriaid meibion Israel, y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, a ddaethant i ed-rych y daioni a wnaethai Duw i Israel, ac i gael gweled Judith, ac i ymddiddan yn heddychlon a hi.

º9 A phan ddaethant hwy ati, hwy a'i bendithiasant hi o unfryd, ac a ddywed-asant wrthi, Ti yw dyrchafiad Jerwsalem; ti yw mawr ogoniant Israel; ti yw mawr barch ein cenedl ni;

º10 Canys ti a wnaethost hyn oil a'th law; ti a wnaethost ddaioni ag Israel: a Duw sy fodlon iddynt. Bendigedig fyddych di gan yr hollalluog Arglwydd byth yn dragywydd. A'r holl bobl a ddywedasant, Felly y byddo.

º11 A'r bobl a ysbeiliasant y gwersyll dros ddeng niwrnod ar hugain. A hwy a roddasant i Judith babell Oloffernes, a'i holl lestri arian, a'r gwelyau, a'r cawgiau, a'i holl ddodrefn ef: a hi a'u cymerth hwynt, ac a'u gosododd ar ei mul, ac a baratodd ei menni, ac a'u llwythodd arnynt.

º12 Yna holl wragedd Israel a redasant ynghyd i'w gweled hi, ac a'i bendithiasant, ac a wnaethant ddawns yn eu mysg eu hunain iddi hi: a hi a gym-erodd ganghennau yn ei dwylo, ac a'u rhoddes hefyd i'r gwragedd oedd gyda hi.

º13 Hwythau hefyd a'i coronasant hi ag olewydd, a'r hon oedd gyda hi: a hi a aeth o flaen yr holl bobl mewn dawns, gan arwain yr holl wragedd: a holl wyr Israel a ganlynasant yn arfog, a choronau ac a chaniadau yn eu geneuau.

ºPENNOD 16 º1 YNA y dechreuodd Judith ganu'r gyffes hon yn holl Israel; a'r holl bobl a ganasant y gan hon ar ei hoi hi.

º2 A Judith a ddywedodd, Dechreuwch i'm Duw i a thympanau, cenwch iddo ef salmau a mawl; dyrchefwch ef, a gelwch ar ei enw.

º3 Canys Duw sydd yn torri'r rhy-feloedd: oherwydd yn y gwersylloedd ymysg y bobl y gwaredodd efe fi o law fy erlidwyr.

º4 Assur a ddaeth o'r mynyddoedd allan o'r gogledd; efe a ddaeth a mil-oedd yn ei luoedd, ei Haws ef a argae-odd yr afonydd, a'i farchogion ef a orchuddiasant y bryniau.

º5 Efe a ddywedodd y llosgai fy ardal-oedd i, ac y lladdai fy ngwyr ieuainc a'r cleddyf, ac y curai'r plant sugno wrth y llawr, ac y rhoddai fy rhai bych-ain yn ysbail, a'm gwyryfon yn ysglyfaeth.

º6 Ond yr hollalluog Arglwydd a'u diddymodd hwynt trwy law benyw:

º7 Canys ni syrthiodd y cadarn trwy wyr ieuainc, ac nid meibion Titan a'i trawsant ef, ac nid y cewri uchel a ymosodasant yn ei erbyn ef: eithr Judith merch Merari trwy ei hwynepryd a'i gwanychodd ef.

º8 Oblegid hi a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod, er dyrchafiad y rhai gor-thrymedig o Israel; hi a irodd ei hwyn-eb ag ennaint, ac a glymodd ei gwallt mewn meitr, ac a gymerth wisg liain i'w dwyllo ef.

º9 Ei sandalau hi a hudodd ei lygaid ef, a'i glendid hi a garcharodd ei fedd-wl ef; y cleddyf a aeth trwy ei wddf ef.

º10 Y Persiaid a grynasant oherwydd ei hyfder hi; a'r Mediaid a gythryb-Iwyd oherydd ei hyder hi.

º11 Yna fy rhai gostyngedig a orfoledd-asant, a'm rhai gweiniaid a floeddiasant: a hwythau a ofnasant, dyrchafasant eu lief, a dychwelasant.

º12 Meibion llancesau a'u trywanasant hwy, ac a'u harchollasant fel plant ffoaduriaid: difethwyd hwynt gan ryfel yr Arglwydd fy Nuw i.

º13 Myfi a ganaf i'r Arglwydd gan newydd. O Arglwydd, ti ydwyt fawr a gogoneddus, rhyfeddol mewn nerth, ac anorchfygol.

º14 Gwasanaethed yr holl greaduriaid dydi; canys ti a ddywedaist, a hwynt a wnaed; ti a anfonaist dy Ysbryd, ac efe a'u creodd hwynt; ac nid oes neb a wrthwynebo dy lef di.

º15 Canys y mynyddoedd a gyffroant oddi ar eu seiliau gyda'r dyfroedd, y creigiau hefyd a doddant fel cwyr yn dy wydd di; eto trugarog wyt i'r rhai a'th ofhant.

º16 Canys yr holl aberthau sydd ry fychan yn arogl peraidd, a'r holl fras-ter sydd ry fychan yn boethoffrwm i ti: ond yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd, sydd fawr bob amser.

º17 Gwae'r Cenhedloedd sydd yn ym-godi yn erbyn fy nghenedl! yr Arglwydd hollalluog a ddial arnynt hwy yn nydd y farn, trwy anfon tan a phryf-ed ar eu cnawd hwynt: a hwy a wylant gan eu clywed yn dragywydd.

º18 A phan aethant hwy i Jerwsalem, hwy a addolasant yr Arglwydd. A hwy'n gyntaf ag y purwyd y bobl, hwy a ofTrymasant eu poethoirrymau, a'u haddunedau, a'u rhoddion.

º19 Judith hefyd a offtymodd holl lestri Oloffernes, y rhai a. roddasai y bobl iddi hi; a hi a roddodd y canopi a gymerasai hi o'i stafell ef, yn offrwm i'r Arglwydd.

º20 Felly y bobl a fuant lawen yn Jerwsalem gerbron y cysegr dros dri mis: a Judith a arhosodd gyda hwynt.

º21 Ac wedi'r dyddiau hynny, pob un a ddychwelodd i'w etifeddiaeth ei hun; a Judith a aeth i Bethulia, ac a drigodd yn ei chyfoeth ei hun: ac yr oedd hi yn ei hamser yn ogoneddus trwy'r holl wlad.

º22 A Uaweroedd a'i chwenychasant hi; ond ni chafodd gwr ei hadnabod hi holl ddyddiau ei heinioes, o'r awr y bu farw Manasses ei gwr hi, ac y casglwyd ef at ei bobl.

º23 A hi a aeth rhagddi yn fawr iawn, ac a heneiddiodd yn nhy ei gwr, yn bum mlwydd a chant; ac a ollyngodd ei llawforwyn yn rhydd. A hi a fu farw yn Bethulia: a hwy a'i claddasant hi ym medd ei gwr Manasses.

º24 A thy Israel a alarodd amdani hi saith o ddyddiau. A chyn iddi hi farw, hi a rannodd ei golud i'r holl rai nesaf i Manasses ei gwr, ac i'r rhai nesaf o'i chenedl ei hun.