Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Berwyn 1700-1750/Beddargraff R Wmphreys

Oddi ar Wicidestun
Caru wedi Nos Beirdd y Berwyn 1700-1750


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cerdd y Saeson

BEDD-ARGRAFF ROBERT HUMPHREYS.

YR awen gymen ddigamwedd—Robert,
A'i oreuber faswedd,
Mewn gweryd y mae'n gorwedd
Glain y beirdd, gwelwn y bedd.

O Feirion dirion y daeth—a Ragad
Rywiogaidd athrawiaeth;
A'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
O Deirdan at Eilian aeth.

Ei rwydd enaid am ddonie—a gydia
Er gado 'i gorff gartre;
Ddi ledlais dduwiol odle,
Beraidd naws gyda beirdd ne.

EDWARD SAMUEL.


Nodiadau

[golygu]