Beirdd y Berwyn 1700-1750/Carol Haf (2)
| ← Hen Bennill | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Carol Haf, 1741 → |
CAROL HAF.
Ton—"MWYNEN MAL"
TANGNEFEDD glân i'ch annedd glyd,
Dymuno 'ch gosteg mwyn í gyd,
Ni ganwn beth, a gwyn yn byd,
Llawenfryd sy ymhob llwyn;
Clywch yr adar, hawddgar hil,
Er pan aeth ia ac eira ar gil,
Yn tiwnio i Fai fel tanne fil,
Ne ganiad Fyrsil fwyn.
Od oes brydyddion doniol,
A wnant i'r Arglwydd nefol
Gân addas awenyddol,
Grefyddol gore oedd fod;
Creaduriaid byd yn dyrre,
Rhont yn eu hieithoedd hwythe,
A'r cogau, nid rhaid ame,
Sy'n canu glame i glod.
Nef, daear, môr, a dyfnder maith,
Ront fawl i'n Hior, bawb yn i iaith,
Hwyr a bore, gore gwaith,
A pherffaith yn i ffyrdd,
Am roddion da'r Messeia Sant
Fel Hermon wlith i blith i blant
Rhown iddo ar dafod ac ar dant
Ddiffuant foliant fyrdd.
Ni welodd y rhai hyna
Un ail i'r flwyddyn yma,
Na garwach rhew ac eira,
A thosta gaua i gyd;
Nid alle'r gwas braidd ddyrnu,
Yn goes grothog, gan ysgrythu,
A'r meistar aethe 'n finddu,
Gan gredu rynu o'r yd.
Pan ddarfu i'r dyfroedd fferru,
Ewyllys Duw oedd felly,
A wnaeth i Degid dagu,
A Dyfrdwy fel llawr dôl;
Ni chair anifel arni,
Yn ddidwyll mo'i ddiodi,
Ac o ddefeidiau wedi,
Mae cyfri aneiri ar ol.
Bu filoedd mewn cyfyngdra,
Yn gwaeddi am feiriol fara,
Ac oerfel, ne amal gurfa,
Wnaeth bart, fi glywa, 'n gla,
Amhosibl oedd ymhwsio
Na bydde i anwyd w'nio,
Ni a gawn ymddiosg eto,
Gan ymdorheulo'r ha.
Mae llawer morwyn lysti
A redodd i'w phriodi
Nis gwybu tan eleni
Mo'i geni am i gwaith;
Dechreuad yr anffortun
Oedd balchder ar i choryn,
Nes cael i dir aderyn,
Hwy ân yn ara'n saith.
Mae'r ifanc mawr i afieth,
Fel iredd lasbren eurbleth,
Am ddyfod i farwoleth
Ni fyn ysyweth son;
Nid ydyw'r ddysg a'r ddeall
Sy am dianc hebddi ond cibddall,
Hi gyrredd hwn ac arall,
Y fwyall sy ar i fon.
I Dduw bo'r ore arwyren
Ac nid i'n henwau'n hunen,
Am rwystro gelyn milen
I'r gywren Fryden fras;
Caed helynt dda i bob tylwyth,
Cawn eto, byddwn esmwyth,
Daw yde glån diadwyth
Ar ddaear lawnffrwyth las.
Mil, seithcant, a deugeinmlwydd
Yw oedran Crist yn Harglwydd
Pan wnaethpwyd hyn o newydd
I'n Harglwydd heb ddim llai;
Pob prydydd rhoed o'i fynwes,
A'i awenydd yn ddi-anwes,
I Hwn ogoniant cynnes
Ar ddyddiau moeldes Mai.
Duw, cadw'n Heglwys hoew-glod,
Er maint i hymryson isod,
Bydd iddi 'n gadarn briod,
A pharod uwch i phen;
Gwna i George yr Ail reoli
Yn ddibrin frenin arni,
Ond iawn i bawb sy i'w berchi
Ddweyd efo myfi "Amen"?
WILLIAM ROBERTS a'i cant.