Beirdd y Berwyn 1700-1750/Carol Nadolig
| ← Cerdd y Bais | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Pob Cristnogion → |
CAROL NADOLIG.
Tôn—FFARWEL NED PUW."
DOWCH, holl brydyddion croewon cred,
Drwy lân adduned ddoniol,
Ag ymadroddus hwylus hawl
I gweirio mawl rhagorol;
Cans dyma'r dydd y daeth y Gair
I'w eni o Fair y Forwyn,
Yn Dduw, yn ddyn i ddiodde'n ddwys,
Fel oen gwareíddfwys addfwyn;
Gwyl hefyd arbennig, a elwir Nadolig
Y Duw-ddyn di-eiddig i'w chadw 'n barchedig
I'n Duw bendigedig, ein meddyg, a'n mawl;
Hy seiniwn hosanna ne glau haleliwia
I'r nefol Iehofa, fo sy yn Feseia,
A brynnodd had Adda'n ddedwyddawl.
Dowch, y nefolion clydion clau
Ar gywir odlau rhadlon,
O ran ein Hiesu ar hyn o dro
I fwyn gyduno â dynion,
Fel yr angylion gwychion gynt
A fu mewn helynt hoewlon
Yn glân foliannu Duw 'n un blaid.
Ger bron bugeiliaid gwaelion;
Gogoniant yn gynnar ar gyfer yr amser
Ac odle melusber i hael-Dad uchelder
A brenin cyfiawnder yn uchder y ne;
Tangnefedd heddychlon ymhlith daearolion
Ac 'wyllus dda tirion ddaionus i ddynion
O eigion y galon y gwylie.
Duw oedd cyn seilio daear gron,
Na llenwi eigion dyfnder,
Yn un a'i Dad. o anian da,
Er eitha tragwyddolder;
Cyn llunio lloer na haul na ser,
Cyn dechre nifer dyddie,
Teyrnasu 'r oedd, trwy ras a hedd,
Ar nefol orsedd—feincie;
Er hynny disgynnodd, ein hosgedd a wisgodd,
A'n cnawd a gymerodd, ac ufudd ddioddefodd,
I farw fe 'mroddodd lle haeddodd wellhad;
Ac yno adgyfodi, a mynd i eirioli
Am annedd well inni mewn glynnau goleuni,—
Oedd fodd i ragori ar i gariad?
Hyn oll a wnaeth ein llawen Ior,
I egor côr trugaredd,
Ac arwain dynion at i Dduw,
O ddistryw diluw dialedd;
Pan oedd y byd i gyd a gaid
Yn bechaduriaid marwol,
Yr Iesu Dduw o'i ras a ddaeth
Ag iechadwrieth durol;
Dyhudd ddicllonder y nefol gyfiawnder,
Am bechod a balchder a rhyfyg rhy ofer
Gwnaeth gwbwl foddlonder i doster i Dad;
Er maint a fu'r trachwant ceiff pawb a'i gwasnaethant,
Trwy ffydd yn ddiffuant os gwir edifarant
Dragwyddol faddeuant yn ddiwad.
Rhown ninnau anrhegion purion per
Oblegid Ner y plygain,
Fel doethion hardd, i'w cofio'n hir,
A ddaeth o dir y Dwyrain;

Ac yn lle'r aur toddedig dwys,
Aberthwn lwys elusen,
Am thus a myrr rhown weddi glau
A phur foliadau llawen;
A rhown ein myfyrdod a'n serch yn ddiymod
Ar bethau sydd uchod mewn sail-fawr breswylfod
A drefnodd y Drindod dan amod i ni;
Lle mae ein gwir Geidwad yn fawr i gymeriad,
Rhown arni yn deisyfiad yn beraidd a'n bwriad,
Cawn ar ein diweddiad fynd iddi.
A gredo'n rhwydd i'r Arglwydd Ner,
Heb wyrni, a'i hyder arno,
Er maint o ddrygau sydd ar led
Ni ddigwydd niwed iddo;
Er cynhyrfu, er crynnu cred,
Drwy frwydrau caled creulon,
Er mwyn i wir Imaniwel
Fe fydd ddiogel ddigon;
Pe todde'r mynyddoedd, pe syche'r dyfnderoedd,
Pe adfaelie rhyfeloedd 'r hyd lwybrau yn lluoedd
Teyrnasoedd a nerthoedd y bydoedd di-bwyll,
Mae noddfa ac amddiffyn uwch arfod awch ertyn,
Lle dirfawr diderfyn na chyrredd un chwerwyn,
I dderbyn credadyn cry didwyll.
Pan ddelo dydd y dial tost,
Er maint yw ymffrost bagad,
Dedwydda í gyflwr yno a fydd
Y gore i ffydd a'i gariad ;
Nid pur aur glån nag arian gŵr
Ger bron y Barnwr union,
Nid chwaith yr hwya a gloewa 'i gledd
A gyrredd gwyredd goron;
Credinieth ddiysgog a chalon ddihalog,
O naws ddianwesog tra gwraidd trugarog,
A ddwg ei pherchennog yn oediog i'r ne;
Pan fyddo cybyddion twyllodrus, a lladron,
Gorthrechwyr a beilchion, mewn eirias anhirion,
Yn ddianrhydeddion yn diodde.
Duw, plan dangnefedd yn ein plith,
A dyro fendith arnom
Am nad oes wr ond Iesu gu
I lwyr ofalu drosom;
A chadw'n heglwys, weddlwys war,
Tra botho dae'r howddgarlon,
Rhag y Pabyddion, blinion blaid,
A'r Presbyteriaid taerion[1]
Diwreiddia anghredinieth a phob anwybodeth,
A hwylia yn heleth â'th rowiog athrawieth
I drefnu'n bywioleth amherffeth;
Mewn hawl gostwng yn brydlon bob llid a greason,
A phawb o'n caseion a ymroisant i 'mryson
Yn erbyn yr union wirionedd.
Un mil ym mlaen dau bymtheng mlwydd
A pheder hylwydd hwylus,
Yw oed ein Harglwydd, a saith gant,
Rhown iddo foliant felus;
Wrth foli Duw'n y fuchedd hon,
O eitha bron ddifethiant,
Yn gwneir yn gymwys lwys ddi-lyth
I ganu fyth ogoniant,
Gogoniant plygeiniol i'r Tad a'r Mab rhadol
A'r Ysbryd santeiddiol, a fyddo 'n ufuddol
Drwy foddion rhyfeddol dymunol, Amen;
Ac felly yn gaerydd y gwelwn yn gilydd
Mewn didwn gor dedwydd ag awen dragywydd
Yn moli Duw'n llywydd yn llawen.
—EDWARD SAMIWEL[2] a'i cant.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "A'r Methodistiaid tostion," mewn llaw ddiweddarach.
- ↑ Nid ar y Berwyn, fel y dengys ambell odl, y ganwyd Edward Samuel; ond yng Nghwt y Defaid, Penmorfa, yn 1674. Gwnaeth waith ei oes yng ngolwg y Berwyn, ym Mettws Gwerfil Goch a Llangar, ac yn Llangar y claddwyd ef, Ebrill 8, 1748. Hysbysid ei esgob mai gŵr diddefnydd, di-ddarbod oedd, yn rhannu yr amser na fyddai yn yr eglwys "rhwng y dafarn a llyfrau Cymraeg." Ond y mae ei waith yn dweyd peth pur wahanol. Cyhoeddodd Bucheddau'r Apostolion yn 1704; "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," o Ladin Grotius, yn 1716; "Holl Ddyledswydd Dyn," o Saesneg rhywun, yn 1718; "Prif Ddyledswyddau Cristion, o Saesneg Beveridge, yn 1722; "Athrawiaeth yr Eglwys," o Saesneg Dr. Peter Nourse, yn 1723. Bu mab iddo yn berson Llangar ar ei ol, yr oedd ŵyr iddo gyda'r Capten Cook ar ei fordaith olaf.