Beirdd y Berwyn 1700-1750/Cerdd Dodrefn Ty
| ← Clyw, feinir | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
I ofyn Falendein → |
CERDD DODREFN TY.
Tôn—"HUN GWENLLIAN."
DOWCH уn nes i wrando arna,
I chwi'n ufudd y mynega,
Llawer peth y ddylech geisio,
Er na wyddoch ddim oddiwrtho;
Oni bydd morwyn sad synhwyrol,
A dyn glew gwaredd da naturiol,
Gwell yw iddyn i gwasaneth
Nag ymrwymo yn ddi—goweth,
Oni bydd y stoc i ddechre
Ganddo fo ne ganddi hithe;
Os priodi 'n ddiariangar,
Cyn pen hir y bydd edifar.
Dyle pob gŵr gwedi ymrwmo
Wneyd y fydde gweddol iddo,
Cymryd gofal yn wastadol
Am y pethe sy angenrheidiol;
Ni all dyn na dynes heini
Fyw ar gariad a chusanu,
Rhaid cael bwyd, a diod hefyd,
Ac yn rhwydd arian i'w cyrhaeddyd,
Rhaid cael buwch i ddechre swieth,
A cheffyl iti os mynni ysmoneth,
I gario tanwydd wrth ych eisie,
Gore towydd i fynd adre.
Gwag yw tŷ heb iar a cheliog,
A phorchellyn wrth y rhiniog,
Fo biga 'r iar lle syrth y briwsion,
Fe bortha'r porchell ar y golchion;
Padell fawr a phadell fechan,
Crochan pres ne efydd cadarn,
Piser, budde, hidil, curnen,
Rhaid i'w cael cyn byw'n ddiangen;
Rhaid cael twned i dylino,
A stwnt i roddi 'r ddiod ynddo,
Rhaid cael sach i fynd i'r felin,
A gogor blawd i ddal yr eisin.
Llech, a grafell, a phren pobi,
Mit llaeth sur, a gordd i gorddi,
Noe i gweirio yr ymenyn,
A photie pridd i ddal yr enwyn;
Desgil, sowser, a chanwyllbren,
Ledel, phiol, a chrwth halen,
Trybedd, gefel, bache crochon,
Saltar, a thynswrie ddigon;
Bwrdd a meincie i eistedd wrtho,
Ac ystolion i orffwyso,
Silff i roddi y pethe arni,
Cowsellt, carcaws, a chryd llestri.
Bu agos imi a gado yn ango,
Gwely y nos i gysgu ynddo,
Cwrlid, gwrthban, a chynfase,
A gobennydd i roi'n penne;
Ac ond odid bydd raid ceisio
Cryd i roddi 'r babi ynddo;
Padell uwd a pheillied, mopren,
Picie bach a rhwymyn gwlanen;
Rhac a batog, caib a gwddi,
Car, ystrodur, mynwr, mynci,
Picwarch, cribin, ffust i ddyrnu,
Gogor nithio gyda hynny.
Bwyall, nedde, ac ebillion,
Lli a rhasgal, gordd a chynion,
Pladur, cryman i gynhafa
Gwair ac yd mewn pryd cynhaua,
Morter, pestel, padell haiarn,
Padell ffrio, grat, a llwydan,
Siswrn, nodwydd, a gwniadur,
Troell a gardie a chliniadur,
Cyllell, gwerthyd, bêr, gwybede,
Crib mân a bras i gribo penne,
Pabwyr, gwêr, i wneyd canhwylle.
Wedi cael y rheini i'r unlle
Gwelir eisie cant o bethe,
Gwledd a bedydd a fydd gostus,
A mamaethod sydd drafferthus;
Bydd rhaid talu ardreth hefyd,
A rhoi treth er lleied golud.
Ystyried pawb cyn gwneyd y fargen,
A ellir cadw ty 'n ddiangen,
Haws yw gorwedd heb gywely
Na byw mewn eisie'r pethau hynny.
Cyn priodi dysgwch wybod
Nad oes mo'r dewis wedi darfod.
—C. D. a'i cant.