Beirdd y Berwyn 1700-1750/Cerdd y Bais
| ← Tair Pibell | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Carol Nadolig → |
CERDD Y BAIS.
Tôn—"ANODD YMADEL."
TAILWRIED y fordor, rhowch gyngor i gyd,
Gwrandewch ar y nghyffes a'r hanes o hyd,
Mi a i weithio gwaith newydd yn gelfydd, mi a'i gwn,
Pe cawn i'r iawn ffasiwn mi a'i rhoddwn ar hwn.
Nid oeddwn i ond paitsiwr ne glytiwr di-glod,
Yrwan rwy'n dailiwr yn dilyn y nod,
Gan Grey o liw'r wylan, mor ledwan i llais,
Cyflychais er neithiwr i wneuthur i phais.
"Arhoswch ddau ddiwrnod, gwawr hynod, yn rhodd,
Ni feddai mo'r ceriach i'w cario wrth fy modd,—
Gwniadur, na haiarn, na nodwydd ddur faith,
Na llathen, na gwelle, nag ewyllys i'r gwaith."
Mi af at Robert William o'r Geulan, y go,
Gwneuthurwr gwelleifie difeie ydi fo;
Dwy ddolen fawr lyden, a'i ddeufin o ddur,
A hwnnw gwna i fusnes y baenes yn bur.
Cadwalad, saer gweithgar digymar yw'r gwr,
Ertolwg na omeddwch, na siomwch fi 'n siwr;
Rwy'n myned yn dailiwr rhwng dwylo pob math,
Mae'n anodd mesuro na llunio heb ffon llath.
Caf gan 'r eurych mwynedd o berfedd y barth
Sy'n gynnes i loches yn Llechwedd y Garth,
Pan draethwi 'r 'madroddion mawr rhwyddion yn rhes,
Gwneiff imi wniadur yn brysur o bres.
Mi brynna folt nodwydd a'i deunydd o'r dur,
Mi gaf gan f'ewyrth Ólfyr ei gwneuthur hi 'n bur,
Ac iddi grai llydan, a llawn digon llym,
I wnio ac i ysditsio ac i dronio'n iawn drum.
Mae genni bob offer ar gyfer y gwaith,
Ond cael haiarn presio ni phrisiwn i'r daith,
I ystwytho gwniade difeie ydi fo,
Ca i hwn o gain ddyfais gan Ddafydd y go.
Rhisgl helyg neu barsment i fesur bun gain,
Rhoi sialc ne glai purwyn yn llinyn pob llain,
Twll bwtcin ne garre i gyrredd pob un
Datodiad a cheidwad ar rodiad y fun.
Bellach mi a'i llunia, mi a'i paria mewn pwyll,
Mi a'i gwnia hi beunydd mewn deunydd di-dwyll;
Os bydd i'th foddloni, rwy'n deyd yn ddi-nam
Mi gwranta hi 'n hollol wrth 'wyllys dy fam.
Deg llath o ddail rhosys mor drefnus heb drai,
'Rwyn tybio wrth i llaester nad a llawer yn llai;
Ac ede o niwl barrug, a'i berwi hi 'n ddwys,
Rwy'n tybied wrth f' amcan mai bychan oedd bwys.
Dail masarn yn fordor sydd bropor i'm bryd,
Mi a'u gwela nhw'n lletach na haiach o hyd,
A lasie hardd odiaeth o edyn y paen,
A'i gwnio cyn sadied a sidan y waen.
Mi addewes wrth wenfron cyn gorffen y nhasg,
Roi pletied pur gampus o gwmpas ei gwasg;
A phoced o dafol, o'm dyfais fy hun,
I gadw'r arwyddion a rodder i'r fun.
Na farned gwyr seliad ar osodiad ei seis,
Wel dyna, 'n deg antur, y gynta ar a wneis;
Pan ddelo 'r gwaith nywddedd mor lluniedd i'r llan,
Bydd part o gwsmeried mor rhwydded i'm rhan.
—ROBERT LLWYD o'r Pale a'i cant.