Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Berwyn 1700-1750/Cerdd y Saeson

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff R Wmphreys Beirdd y Berwyn 1700-1750


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tair Rhan Oes

CERDD Y SAESON.
Tôn—"MEL WEFUS."

MYNNAI bellach yn ddiballu
Loeger lydan i'w meddiannu,
A blaenffrwyth tyciant y meusydd teca.
Yn ddiysig y ddewisa;
Caiff y Saeson yn i hoese,
Taera gwyr, y tiroedd gore;
Hwy geiff yr hen drigolion cwla
A'u ffydd amhwyll ffoi oddiyma,
I gyrre gelltydd, gaere gwyllta;
Mi fyddwn ninne wrth drin i doldir
Yn wyr ystowtiach ar wastatir,
Ac yno ceiff y Cymry nhwythe
Yrru yr ychen hyd yr ochre,
Mewn man anddig ym min mynydde.

Mi gân yno fyw'n deneuon,
A gwerthu i ninne'r pasgedigion,
Am y pris y fon i'w leicio,
Ped fae o ond hanner hynny dalo;
Cân fwyta llymru ac uwd i'w cadw,
Cawn ninne'n burion rost a berw;
Tan yfed glasdwr a llaeth enwyn,
Mi fyddwn ninne gwell ein ffortun;
Ond gore mael gael cwrw melyn,
Mi gân gwedi nyddu gwdin,
Ymwasgaethach ymysg eithin;
Torri ffrithoedd tir anffrwythlon,
Mewn bwth isel yn gaethweision
Yn oes oesoedd i ni, 'r Saeson.

JONATHAN HUGHES[1] a'i cant.


Nodiadau

[golygu]
  1. Ganwyd Jonathan Hughes Mawrth 17, 1721; treuliodd ei oes yn amaethu Ty'n y Pistyll, ger Llangollen; bu farw Tach. 25. 1805, a chladdwyd ef ym mynwent Llangollen. Cyhoeddodd ei lyfr "Bardd a Byrddau" yn ei henaint yn 1778.