Beirdd y Berwyn 1700-1750/Dydd y Farn
| ← Y Ddwy Ffordd Hynod | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hil Abel → |
DYDD Y FARN.[1]
GWYDDOCH oll, gwaeddwch allan
Ar Dduw yn awr, mawr a mân;
Ymprydiwch, wylwch alar,
Llid a fydd, llaw Duw a'i fâr;
Ein Duw'n ddwys diau na ddaw
Heb waedd dost, ni bydd distaw;
Disgwyliodd Duw os gwelwn
Arbed hir wŷr y byd hwn;
Daw Duw mawr rhyw awr mewn rhoch,
A thebyg pryd na thybioch;
Hyn ni wyr neb hanner nos,
Dychrynnwn, ai dechreunos;
Garw sain ai plygain-ddydd
Awr bur ddig ai 'r bore ddydd;
Hyll dân dig fel mellden draw
O'r dwyrain yn garw daraw;
A llawn floedd a'i lliw yn flin,
Ai ger llaw i'r gorllewin;
Y ddaear faith a'i gwaith gwir,
Gwŷn hirfaith, a gynhyrfir,
Crynfa a fydd drwy'r crwnfyd,
Holl fryniau a banciau byd;
Y creigiau oll a holltir,
Pery hyll dân trwy holl dir;
Trefi ar fron, trwy oer friw,
Uchelfraint, ant yn chwilfriw;
Plasau a'r tyrau tirion,
Pob gwal i'r growndwal a'n gron;
Eu caer fawr yn curo fydd,
I'w gweled yn eu gilydd;
A'r môr, sydd annedwydd nad,
Yn rhuo fel swn rhaiad;
A'r ffurfafen, len lana,
Drwy allu nerth dryllio wna;
Y ser o'r uchder yr ant,
Yn swrth i lawr y syrthiant;
Llwyr ddeuant oll i'r ddaear,
Och daer gwymp, o'r uchder gwâr;
Dau oleuad da lewyrch,
Diffygion cyfion a'u cyrch;
Rhyw lawn ddig, yr haul a'n ddu,
Liw erchyll heb lewyrchu;
Lloer yn waed llwyr newidiol,
Draw o'i nerth, heb droi yn ol;
Corn du dig, utcorn Duw Dad,
A ddyd swn o ddadseiniad;
Y ddaear fyddar neu for
Gauadwisg a gyd esgor;
Meirwon oll, mawr iawn allu,
Sy'n y llwch, a sai 'n llu;
A'r môr a ddyry'r meirwon
I fynu bawb, fan y b'on;
Y byw a'i gwel, bywiog wir,
Ofnadwy fe'n newidir;
Yno gwelant i'w golwg,
Fab y dyn, dychryn a'i dwg;
Pan welant, poen y wylia,
Allu'r Oen, yn llew yr a;
Dychrynna, crynna, pob cry,
Eu praw tân y pryd hynny;
Och i le uchel o wyr
Er eu moliant a'r milwyr;
Y rhai'n heb edifarhau,
Crog waedd a ront i'r creigiau;
Ar fryniau nadau a wnant,
Am eu lladd amwyll waeddant;
Er crefu, crynnu, er cri,
Goddef dychryn a gwaeddi,
Ni wel yr annuwiolion,
Gwewyr a braw ger eu bron,
Le o wydd Duw, lywydd daear,
I'w cuddio byth rhag gwaedd bâr;
Daw i'w galw Duw a'i gwelodd,—
"Dowch i'r fan," mewn duchwerw fodd;
"At orsedd Crist," trist yw'r tro,
"Cyn damniad i'ch condemnio,"
Yno'r grudd yn brudd ger bron,
Holi tost a hel tystion;
Cydwybod gwiwnod gynnil,
Yn llym iawn fydd yn lle mil;
Er serio hon er's hwyrach
Ryw ennyd yn y byd bach,
Tost yno fel tyst union,
Garw a hynt fydd geiriau hon;
Gwae'r dyn, er cael geiriau da,
Di amorth o'r byd yma;
A'i galon front o'r golwg
Yn gennad traws yn gwneud drwg;
Er cuddio drwg rhag gwaedd drom,
Neu 'sgapio fel nas gwypom,
Er puteinio mewn tro trwch
O'r golwg mewn dirgelwch,
Er celu balchder calon,
Fe gyfyd ryw bryd ger bron.
Gochel ddyn, ag na chel ddig
Uffernol bechod ffyrnig;
O celi fâr, coelia fi,
Clyw ddwetwyf, cwilydd iti,
Daw y dydd a Duw a'i dwg,
Llwyr gwilydd oll i'r golwg.
A gwyn fyd, hoewfyd ufudd,
Y dyn oedd wr da 'n ei ddydd;
Er ei boeni, oer benyd,
Gan rwystrau a bachau'r byd;
Er mynd o'r byd ynfyd wall,
Heibio ddoe, heb ei ddeall;
A'i daeru 'n ffals â darn ffydd
Ben dene, heb un deunydd,
Byrdwn oer heb eirda'n ol,
Nag unmath yn ei ganmol,
Gwyn ei fyd, ddi-ynfyd ddyn,
Da hyder Duw a'i hedwyn;
Gan ei roi heb wyr droi draw,
Dduw hael ar ei ddeheulaw;
Yno bydd o rydd iawn rad
Gu heddwch y gwahoddiad,—
"Dowch trwy hedd, etifeddion,
I'r lân deyrnas hoew-ras hon;
Cewch feddiant er moliant mael,
O'r nefoedd, gwir iawn afael.'
Annuwiolion sy'n wylaw
Ias lem ar ei aswy law,—
"Ewch o amorth, chwi, ymaith
I ffwrn fawr hen uffern faith."
Yno bydd yn y dydd du
Didoliad rhwng dau deulu.
—MORYS ROBERTS o'r Bala a'i cant.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Codais y cywydd hwn o'r "Piser Hir," y casgliad helaeth gan y Parch. D. Ellis sydd yn awr yn nghadw yn Llyfrgell Rydd Abertawe. Gyda'r cywydd y mae'r nodiad canlynol, o waith y casglydd parchedig.—Morys Roberts o'r Bala oedd yn byw yn amser y Frenhines Ann; gwr difrifol oedd, fel y tebygwn oddiwrth ei waith, ond ychydig a wyddai am reol barddoniaeth gywrain. Nid oedd ychwaith yn cyttuno a'r llywodraeth fel y tystiai ymryson â fu rhyngddo a Robert Williams o'r Geulan Goch, yr hwn oedd wir aelod o Eglwys Loegr a deiliad cywir i'r Frenhines. D. E."Wedi hynny, daeth y casgliad i law Iolo Morgannwg, ac y mae yntau wedi ysgrifennu y peth cyntaf ddaeth i'w feddwl, sef,—"O Ddiawl! Ai Ymneillduwr oedd? Nid rhyfedd ynteu chwilio am fai neu haeru yn anwireddus ei fod ar gywydd ddifai Morys Roberts. Iolo Morganwg."