Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Berwyn 1700-1750/Gwrandewch fy mryd

Oddi ar Wicidestun
Ymbil Serchog Beirdd y Berwyn 1700-1750


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Ddwy Ffordd Hynod

GWRANDEWCH FY MRYD.

Tôn—"GWEL YR ADEILAD."

GWRANDEWCH fy mryd, fy mrodyr,
Gwyn deilwng ar ol dolur,
A chur di-chware;
Mi ymroiswn, mi fum ry-swrth,
Nes cael y nharo yng-ngwrth
Ym mron ange.
Mi ges yn ysig imi a wnes,
Fy nodi â'r wialen
Gan Dduw fy mherchen,
Am fyw mor llawen, llwyr angen felly yr es;
A'n rhoi yn ol drachefen
Er 'lusen a mawr les.
O'r blaen ni choelien mwy na Chain
Fod Duw yn canfod
Pob dirgel bechod,
Er sen cydwybod ni rown er ddiwrnod ddraen,
Fy nghalon aeth yn gwbwl a'i meddwl fel y maen.

Yrwan Duw sy'n trefnu
Modd eilweth i'w meddalu
Rhag mwy o ddialedd;
Mawr foliant iddo'n wastad,
Pwy welodd fyrdra i gariad
O'i fawr drugaredd?
Fy rhoi yn drist heb allu ymdroi,
Ymron fy symud
I'r farn ddychrynllyd
Fy nharo i hefyd un ffunud heb le i ffoi;
I edrych beth i wneuthyd,
Oedd yn y mryd i ymroi;
A m'fi yn llesg, a'm dagrau'n lli,
Yn brudd atebes,
"Fi a beches,"

Llai nag a heuddes o soriant gefes i,
Mawr Feddyg, O mor feddal wrth roddi tâl wyt ti.

Yrwan Duw sy' i hunan
Gan faint y ngwaedd a'm cwynfan,
Ac ynte i'm canfod,
A m'fi yn halogedig,,
Amhur, a mawr y mherig,
Yn rhy amharod,
Fo roes i law i esmwytho y loes,
Fo a'm ysbariodd,
Yn rhydd fo'm rhoddodd,
Fo'm medigaethodd, fo 'stynnodd fisoedd f'oes;
Ar ol fy ngwialenodio i'm treio, 'n ol fe'm troes.
Bydd drud a braw i mi ryw bryd,
Os byw heb grefydd
Wna i'n anufudd,
Ar ol cael rhybudd a diodde cystudd cyd,
Mi gaf fy ngalw i gyfri am bob direidi drud.

Am hyn, yr ifinc nwyfus,
Tra bon yn owchion iachus,
Heb ddim i'n nychu,
Meddylied hyn yn gynta,
Cyn dwad o'n clwy ola,
A'n cla' wely;
Fo ddaw awr farwol freuol fraw
I droi yn adlad
Ar fyr ddyheuad,
A phallu o'r llygad, a rhwystro llusgiad llaw,
A'r tafod wedi methu, a'r dyn ar drengu draw.
Ple bydd y doethder yn y dydd,
A'n balch ymddygiad,
A'n gwychion ddillad,
A'n coeg chwerthiniad, a'n bwriad rediad rhydd?
Y cwbwl oll a'n gedy, ni phery dim ond ffydd.


Gwag galon a gâr goledd
Llifeiriant holl oferedd,
A lle i'w fario;
Cyn dwad hyn o ddychryn,
A'n dal mewn rhwyde rhy-dyn,
Yn dynn am dano,
Fo wna ryfygus glwyfus gla
Ddeyd llwyr y gwaue
Am dorri Sulie
A charu a chware nosweithie a dyddie da,
Mi dreulies fy holl amser yn ofer. Beth a wna?
Rhoi 'mryd, tra bythw 'i byw'n y byd,
Am fyw'n Gristnogol,
Gufodd grefyddol,
A throi chwant cnawdol, ffordd hudol, i ffwrdd o hyd,
Rhag gorfod gwneuthur cyfri am bob direidi drud.

Am hyn, rhag ofon gofid,
A dialedd Duw yn ddulid,
Diame y dylwn
Am ras i fyw'n fucheddol,
Da, addfwyn, doeth, a deddfol,
Llwyr oll lle'r clwn,
Am roi iawn dreial yn ddiymdroi,
A'm bryd heb gellwer
Er prynnu f' amser,
A byw trwy burder, was gwiwber, heb osgoi,
I gael yn amser adfyd at Dduw drwy ffydd draw droi;
Pob hen cariadus, weddus wên,
A phob ifienctid,
Sy'n hyfion hefyd,
Wellhau mewn iechyd, dda lownfryd a ddylen,
Dan ddyfal bur weddio am ras i ymendio. Amen.

MORUS ROBERTS a'i cant.


Nodiadau

[golygu]