Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Berwyn 1700-1750/Hil Abel

Oddi ar Wicidestun
Dydd y Farn Beirdd y Berwyn 1700-1750


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Hil Cain

HIL ABEL.
Tôn—"GADEL TIR" (y ffordd hwyaf).

POB calon ddifales, rhowch gennad wych gynnes,
Mi draetha i chwi hanes, wir gyffes, ar gân;
Rhyw stori, 'rwy'n 'styrio, a gair Duw'n i gwirio,
Ond chwilio cewch yno hi 'ch hunan.

Yn llyfr cynta Mosus, hwn ydi Genesus,
Bedwaredd lith hysbys, wybodus, heb wad,
Hon sydd yn rhoi cyfri am blant yn rhieni,
Ac fel y bu rhaini y bu rhaniad.

Cain ydoedd yr hwsmon, ac Abel wâr wirion
Oedd fugel da gwylltion, wr cyfion air cu,
A'n tade byw'n canfod oedd dan y cyfamod
Yn barod heb wrthod aberthu.

Ond Abel offrymodd, a Duw a'i derbyniodd,
Ar Gain nid edrychodd pen welodd o'n waeth,
Ac ynte mor surllyd fe syrthie i wynepryd,
A'i ysbryd a lannwyd o elynieth.

Fo osode mor greulon ymhen i frawd gwirion,
I'w fwrdro heb achosion, wr creulon air croes;
A miloedd sydd eto o'r Cainied, 'rwy'n cwyno,
Y rhain y fu'n tario yn y teiroes.

Gwyr Sodom uffernol yn llethu Lot ddiwiol,
Ac Esau anrasol fwriadol i'w frawd;
Ac felly bu Simon a'i frodyr mor greulon,
Gwerthason un rhadlon yn rhy-dlawd.

Ac felly y bu'r Aifftied, cannoedd fel Cainied,
Yn difa gwiriondeb Hebreaid heb rol;
A Chora'n ymchwerchwi a'i frodyr, plant Lefi,
Gan fyw mewn drygioni'n drigiannol.


Fe 'gore Duw'r ddaiar, a'i safn yn ofyngar,
I lyncu'r maleisgar a'i losgi fo'n boeth,
Ac eto nid rhyfedd pe llynce hi i'w pherfedd
Wrthnebwyr gwirionedd gair annoeth.

'Roedd Iesebel ddi-ras yn erlid Eleias,
'Roedd Haman a'i fwrdas i Fordecai'n ddwys,
Bu Daniel rhwng llewod, a'r tri llanc mewn trallod,
A Dafydd yn gorfod ffoi'n gyfrwys.

Yn nyddie'n Iachawdwr cadd Ioan Fedyddiwr
Gan Herod ddihirwr ei fwrdwr a'i fur,
A Thwysog Tangnefedd a gafodd i ddiwedd,
Chwi glowsoch, i ddialedd, a'i ddolur.

Yr holl apostolion fu feirw'n ferthyron,
Ond Ion, medd y doethion, rai dethol i modd;
A'r Cainied, hyn gwelwch, cry lunwyr creulonwch,
Dyhirwch, rhai mowr-drwch, a'i mwrdrodd.

Mwrdrasant heb orffwys yn nyddie'r brif eglwys,
Lle gwelid un gwiwlwys da gymwys di-gas,
Y Cainied mewn cynnen i waed a dywallten
I lawr i'r ddaiaren mor ddiras.

Y Cainied lusgason y santedd ferthyron,
I'w llosgi'n bentwynion; ond gwirion i gwaith?
Gan ddangos gwrthwyneb cry lownder creulondeb
I bob rhyw ddiwioldeb di-waeldaith.

Ac hefyd mi wela ryw swm o'r oes yma
O'r Cainied mileinia, fi wranta, fu 'rioed;
A'u bwriad mor ddygyn a chreulon lew, 'sgymun,
A'i ddeuad i oresgyn y drysgoed.


I ennyn fflam wynias gwnaent ryfel mewn teyrnas,
Gan wahawdd dyn diras heb wiwsias yn ben,
Hwy ddygen ar fyrder y tandew Byrtender
I Loegr heb gellwer pe gallen.

Duw frenin uchelne, gwradwydda 'i bwriade,
A thâl i holl ddryge a'i beie bob un;
A chadw d'eneiniog dewisol dywysog,
Pob swyddog rad enwog sy danyn.

Mi glowes, rwy'n tystio, y Cainied yn cwyno,
Am ddydd i arteithio a mwrdro rhai mân,
Heb un o'r Abelied yn cynnyg i'r Cainied
Fwy ddrwg nag i'w ened i hunan.

Mae'r Cainied heb ystyr a'u bryd ar i brodyr,
Yn gwaitio am achlysur, mae'n eglur i ni,
A thybien, fath Abel, ffarwel fai i'w hoedel,
Ped faid yn i gadel i godi.

Fy mrodyr diniwed, os cynnyg y Cainied
Eich gwneyd fel Abelied, er gwared y gwaith
A'r Arglwydd ymbiliwch, na lân ddigalonnwch,
Cyhoeddwch nad ofnwch y dyfnwaith.

Rhown glod yn gysurus i'r Arglwydd daionus,
Am frenin daionus a grymus i gred,
Tan Grist yn Gwaredwr, gwell hwn i chwi'n swcwr
A chry-dŵr rhag cynnwr y Cainied.

Duw, cadw drueinied rhag cynnwr y Cainied.
Sy'n difa fel bleiddied y defed mewn dig;
Mae syched rhyfeddol am waed pob dyn diwiol
Ar bobol uffernol yn ffyrnig.

—MORUS ROBERTS a'i cant.


Nodiadau

[golygu]