Beirdd y Berwyn 1700-1750/I ofyn Falendein
Gwedd
| ← Cerdd Dodrefn Ty | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Marwnad Richard Morus → |
I OFYN FALENDEIN.[1]
HYD atoch, hafedd ganwyll Gwynedd,
Gore i fonedd o Gaer i Fôn,
L E diledieth, W I diwenieth,
Ac S eilweth mewn sylwedd son;
I O di amhur, N E dan awyr,
Ac S dda i gysur mewn synwyr sydd,
Yn flode meibion, dwyrudd dirion,
Ail i Solomon ffyddlon ffydd;
Be cawn i newis yn yr ynys
I wneyd y foddus liwus lein,
Y chwi er hynny rwy i'w chwenychu,
O fil i'w dynnu'n falendein.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Valentine