Beirdd y Berwyn 1700-1750/Marwnad Richard Morus
| ← I ofyn Falendein | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Marwnad Antarliwd → |
OCH O'R NEWYDD.
Marwnad Richard Morus o'r Cae Du.
Ton—"Y FEDLE FAWR."
OCH o'r newydd oera arwydd
Gwympo ffrwythydd llawn llawenydd,
A gadd trwy'n gwledydd glod;
Claddu noddfa'r llais melusa,
Gore seiniwr gair hosanna,
Hyd ddiwedd rhedfa y rhod;
Richard Morus o'r Cae Du,
Llawenydd llwyr gwyr llawen,
I'w gynnar daith, gwae ni o'r dydd,
Roi 'ddwyrudd i'r ddaiaren ;
Dydd twyllwch, dydd tristwch, dydd aflonyddwch coedd,
Rhoi 'r eos mewn ceuffos ddechreunos, dychryn oedd.
Gŵr di ymrafel o hyd i hoedel,
A meddwl isel, gair diogel,
Fel angel tawel teg;
Enaid cyfion ymysg dynion,
Fe rodd Duw cvfion burdeb calon,
I'w ffyddlon fron ddi-freg.
Da oedd i gyngor, diddig oen,
A mawr i boen fu beunydd,
I foddio Duw ar feddwl da,
Cywira, cryfa crefydd;
Gŵr parchus, gofalus, madroddus, moddus mwyn,
Cariadus, llwyddiannus, gwên-ddownus, gwae ni o'i ddwyn.
Ni chlywodd clustie i well yn unlle,
Fel gwin ydoedd i ganiade,
Mesure pyncie per;
Gore i garol, cân blygeiniol,
A phob cerdd felus ddewis ddiwiol,
Dawn siriol dan y ser;
Clod a mawl i'r Arglwydd ner,
Mewn salme tiwnie tyner,
Ac yn y deml dawel deg
Fe wnae gyfandeg fwynder,
Llais santedd, llais peredd, a llais gorfoledd fawl,
Mae llawenydd tragywydd, oen hylwydd, yn i hawl.
Gobeithio i'w enaid fynd yn ddibaid
At ffyddlonied arwydd euraid,
Yn llys bendigaid Duw;
Er darfod rhoddi 'r corff i bydru
Fe ddaw yr Iesu i'w ail gysylltu
A'i gyrchu i fyny'n fyw;
Cyfarfod da mewn cryfa cred,
Fo i'w gyfneseified suful,
Yn ufudd lu i nefoedd lon,
Garedigion union anwyl;
Er trymed fu y golled pen y rhodded yn y rhych,
Duw fytho i'w cysuro, ac a'u llawenycho'n wych.
I wraig gariadus, oedran parchus,
I'w synwyr eitha sy'n hiraethus,
Am bur ddaionus ddyn;
A'i fab da 'i natur mewn trwm gysur,
Morus enwog, mawr i synwyr,
Mwy pur ni enir un;
Fe gafodd John i'w fron oer friw,
Mae hireth i'w gyrhaeddyd,
A phrudd yw Dafydd, lonydd lanc,
Fe gadd yn ifanc ofid;
Mawr golled sy i'w ferched pen gaued llyged lles,
Duw fyddo i'w cysuro wrth gofio i briddo heb wres.
Anne fwyn wridog, llais lluosog,
A'i gŵr da, anwyl gariad enwog
A gadd afrywiog fraw;
Elsbeth dirion, Dorthy ffyddlon,
O ddwyfron Siwsan, anian dirion,
Ochneidion dwysion daw;
I'w beder chwaer mae byd rhy chwith,
Mewn aruth ddilyth alar,
Sian a Mari ac Elsbeth fwyn,
A Chatrin fawr-gwyn dringar;
Trist newydd tros wledydd i'w ewyrth Dafydd daeth,
Pob cefnder, cyfnither, dros brudd-der eger aeth.
Neiant parchus, nithoedd gweddus,
Am Richard Morus sy'n alarus,
Oedd drefnus ar i droed,
O ache gwreiddyn Bleddyn Cynfyn
Twysog wynedd peredd purwyn,
Gwir ruddyn gore erioed;
O Fadog Mredydd, llywydd llais,
Pentre Cae'r Sais, Croes Oswallt,
Henafied, bwrdeisied, da i nodde dan y ne,
Gwaed inion bur goron yn llownion ymhob lle.
Llwydied Moelfre, uchel ache,
Arglwydd Drewen, lawen liwie,
A Sarffle, breintie bras,
Bodlith, Lloran, Moel Urch lydan,
Plas Ysgwenan, Trefor ddiddan,
Pwynt gwiwlan, a'r Pant Glas;
Fo dyfe hwn mewn difai hedd,
O fonedd iredd euraid,
Gwnaiff ofni Duw a helpu'r tlawd
Mwy lles i'r cnawd a'r enaid;
Roedd ynte heb fawr feie wrth fel 'r adwaene dyn,
Yn wir aelod preswylfod da hynod Duw i hun.
Ffarwel, serchog bur gymydog,
Ffarwel galon union enwog,
Ffarwel drugarog ŵr;
Ffarwel bencar, ffarwel gymar,
Lludw Llangar, gwely galar,
Sydd iddo 'n siambar siwr;
Yn ddeuddeng mlwydd a deugen oed,
Yn dirion rhoed o i orwedd,
Mil saith gant deugen a dwy,
Oed Brenin rhad anrhydedd;
Mis Chwefror oer dymor rhoed ar i elor wael.
Gwlad seintie y fo i ninne yn gartre gore i'w [gael.
—ARTHUR JONES O LANGADWALADR[1] a'i cant.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bu Arthur Jones farw yn 1758 yn 56 oed. Y mae yn y "Dewisol Ganiadau" farwnad iddo, o waith Jonathan Hughes, "Marwnad o goffadwriaeth am y diweddar fardd canmoladwy Arthur Jones o'r Gyldini, clochydd Llangydwaladr; i'r hwn y bu claddedigaeth o wrthrych galarus iawn, canys claddwyd ef. bedyddiwyd iddo blentyn, a rhyddhawyd ei wraig yn yr eglwys ar yr un amser." Sonnir "am dlws bwnc ei adlais bêr," am ei ddysg, am ei lawysgrif am ei areithyddiaeth hyawdl yn Gymraeg a Saesneg. Gwladwr doeth, gwiw lediwr dysg." oedd hefyd. Bu a fynno lawer ag interliwdiau,—Dyriau gwych da roe gynt,
Defnyddiol a dwfn oeddynt,"