Beirdd y Berwyn 1700-1750/O Wlad Bell
| ← Pob Cristnogion | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ffarwel i'r Bala → |
O WLAD BELL.[1]
Cywydd a anfonwyd gan Huw Gruffydd (gynt o Lwyn y Brain) o America i Gymru, i annerch ei berthynasau ac i ddangos ansawdd y wlad (gwedi ei ddiwygio o amryw feiau).
EICH annerch, draserch drwsiad,
Dewr ynglyn i dir y ngwlad,
Gwlad Gamber haelber yw hon,
A da onest ei dynion;
Llyma'r wlad lle, a mawr lwydd,
Mae hiraeth i'm o'i herwydd,
Ac am ddynion mwynion mau,
A llesol gyfeillesau,
A cheraint fwynwvch araith,
Caredig enwedig waith;
A gorchmynion wiwlon wedd,
Dewr gennad, i dir Gwynedd,
Fy nghyfarch nid anghofia
Fy anwyl fam ddinam dda,
A'i hwyr bychan mwynlan mau,
Gwan iawn, fy machgen innau;
Dymunais a hoffais hyn
Allu weled Llywelyn,
Am ei weled addfed wyf,
Naws galar, nes y gwelwyf,
Amynedd rwy'n dymuno,
Dewised, cadwed mewn co
Drwy burdeb undeb iawn-dasg
Ofni Duw o fewn ei dasg;
A'm brawd Dafydd celfydd call,
A'i wraig dda rywiog ddeall,
I'w blant boed llwydd dedwydd da,
Er cariad o'r cywira;
Llawer gwaith, a llwyr y gwn,
A da eilwaith y dylwn,
Y cofies eich lies a'ch llwydd,
A dagrau o garedigrwydd.
Er symud enbyd iawn-bell
O fyd gwael i fywyd gwell,
Pe bae gwell deugwell digwyn
Lle disgynnes fynwes fwyn,
Rhown barch loew-barch ar led
Am gynnyrch lle ym ganed,—
Cymru hen, ca ei mawrhau
Yn deilwng, gwn y dylai;
Mae fy nghalon union i,
Wych achos, gyda chwychwi;
Ac felly bydd, ufudd oes,
Rhad fanwl, ar hyd f'einioes.
Addewais roi yn ddiwad,
Hynaws lwydd, hanes y wlad.
Ac felly gwna, mwyndra maith,
Heb wadu fy ngwybodaeth.
Trigolion y tir gwiwlwys,
O amryw barth loewbarth lwys,
Ac yn eu plith, dryfrith dro,
Amryw iaith yn ymrithio;
Er hyn o gywir hanes,
Diamau'r llwydd, dyma'r lles,—
Brawdgarwch bwriad gwrawl
Sydd yn eu mysg, hyddysg hawl;
Swyddogion dyfnion a doeth
I rannu, nid gwyr annoeth;
Cyfiawn farn uniawn a wnant,
O naws gorwag nis gwyrant;
Da y gwyliant deg olwg,
Rhoi barn drom yn erbyn drwg;
Rhoddi yn rhwydd, a llwydd llon,
I wyr gonest a'r gweinion;
Gwlad i bawb, golud a budd,
Cywir wiw-faes er crefydd;
A chael llonydd, ddedwydd ddawn,
Hawdd achles, a heddychlawn;
Gwlad anfelus gofus gur
I'r rhai swga rhy segur,
Gwlad ethol glyd i weithiwr
A chyflog serchog yn siwr ;
Gwlad hedd ac amledd o goed,
Da er esgyn dyrysgoed,
Ni feddianna chwitha chwant,
Heb arloesi, fawr lesiant;
Ac wedi hyn fe geid hawl,
Rhywiog arwydd rhagorawl;
Gwlad bendith y gwenith gwâr,
Llawn dw yn llenwi daear;
A phob grawn yd, hyfryd hawl,
Gain addas yn gynyddawl;
A ffrwythydd coedydd cydwiw,
Perion a llawnion eu lliw,
Gerddi hawddgar a gwyrddiawn,
Yn dwyn ffrwyth a'u llwyth yn llawn;
Anifeiliaid, defaid da,
Ac ychen y rhai gwycha;
Meirch nerthol, gwrol eu gwaith,
Grymus i gario ymaith;
Pasgedig, pysg, ac adar,
Hyddod llon gwylltion a gwâr;
Gwyllt bryfed yn haid hoewdeg,
Breision yn ddanteithion teg;
Am amlder brasder ein bro,
Llaweroedd all ei wirio.
Y sawl sydd er cyngor cu
Buredig yn bwriadu
Ymsymud ennyd union
I olud teg y wlad hon,
Cymered, pwysed heb ball,
Drwy ofn Duw, drefn a deall,
Ystyriaeth hwyrfaith hirfor,
Erwined meithed y môr;
Cefais i hyn, cofus hwyl,
Mwy o dasgwaith na'm disgwyl;
Er gorfod, hirfod yrfa,
O Wynedd mewn diwedd da,
Llawer gwas glân gwiw-glan glod,
O'r golwg aeth i'r gwaelod,
Yn mru Ilaid y môr llydan;
Cyn cael tir, geirwir yw'r gân;
Nid oes dianc grafanc gre,
Loew-ing, o law Ange.
Er y dreuthes ar draethod
Ynghylch y tir, glân eurwir glod,
Nid yw hynt yr helynt hon.
Er denu un o'r dynion
O dir eu gwlad wastad wych,
Yn chwannog, oni chwennych.
Weithian ac yn ddiwaethaf,
Gyd pharch eich cyfarch caf,
Ac felly terfynu fydd
Dan gauad hyn o gywydd.
HUGH GRUFFYDD a'i cant,
Yn nechre y ddeunawfed ganrif.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Codwyd y cywydd hwn o lyfr yn llawysgrif Rowland Huw o'r Graienyn. Aeth William ap Robert Saunderson a'r llyfr hwnnw i'r America tua 1849; boddodd yn afon Alabama, ac aeth ty ei weddw (a'r llyfr ynddo) ar dân