Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Berwyn 1700-1750/Pob Cristnogion

Oddi ar Wicidestun
Carol Nadolig Beirdd y Berwyn 1700-1750


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
O Wlad Bell

POB CRISTNOGION.
Tôn—Y FEDLE FAWR."

POB Cristnogion manwl mwynion,
A gewch yn unfron fel nefolion,
I'w graslon dirion Dad
Eilio moliant yn ddiffuant,
A chywir-sain gain ogoniant,
Cyd-ddeuent yn ddi-wad;
I ymgysylltu a nyni 'n awr,
Ar ganiad gwawr blygeiniol,
I foli 'r Iesu lwys-gu lain,
A chydsain gywrain garol,
Ar ddiwrnod hen hynod mae'n ddifai ddefod dda,
Ei chadw'n ei chydwedd, mewn llawnedd a'n gwellha.

Pe caem ddefode'r nefol seintie,
A'r angylion gwiwlon gole,
A'u glân feddylie glwys;
A chael gwybodeth o'i raglunieth,
Ei garedigrwydd hylwydd heleth,
A'i greadigeth dwys;
Er hyn nid allem tra bai chwyth,
Fynegi byth ei fawredd,
Nac eitha llwydd ein llywydd llawn,
Na'i gwyredd lawn drugaredd,
Anfeidrol, rhyfeddol, ac un anrhaethol yw,
Rhown fawrglod i'r Duwdod tra bo na bod na byw.

Bu'r byd yn hir trwy anwybodeth,
Mewn gelynieth heb athrawieth
Am iechadwrieth dyn,
Rhai'n Sabeaid traws eu beiau,
Yn addoli mudion ddelwau,
Heb riniau yn yr un;

Rhai'n moli tân a haul a gwres
Fel Zoroastres ydoedd,
Heb faint o barch tra buant fyw
I'w llywydd, Duw y lluoedd ;
Gresyndod oedd ganfod rhai hynod ar i hynt
Mewn mwrllwch dwyllwch a gwyllt anialwch gynt.

Felly 'r oedd y byd cenhedlig,
Er gado rhai yn wyr dysgedig,
Nodedig yn eu dydd,
Plato, Solon, a Lycurgus,
Theophrastus, Marcus Tyliws,
O eisiau teilwng ffydd;
Ni fedrai rhain yn gywrain gall
Trwy ore y dealltwrieth,
Ddirnad achos drygnaws dyn,
A'r dygyn lygredigeth,
Na gwybod y cymod dan amod i ni a wnaed,
I'n hedfryd o adfyd i'r gwynfyd mawr a gaed.

Pan ddaeth disgleirder haul cyfiawnder
Yn ei amser o uchelder,
Eglurder oedd ei glod;
Caed goleuni glân olynol
O wir ddinam oruw ddynol
Yn rhadol dan y rhod;
Yn Iudea, llowna lle,
Bu ddechre gole gwiw-lwys,
A Chaersalem ore 'i sail,
Buredig ail Baradwys,
Oddiyno i Antiochia, yn Syria, melus oedd
Gael galw yn Gristnogion ei weision cyfion coedd.
Gwedi hynny gras yr Iesu
Fu'n ymledu ac yn chwalu
'R fagddu fu'n dallu'r byd;

Gwych oedd ganfod ei gychwynfa
'R hyd teyrnasoedd tirion Asia,
Europea gyfa i gyd;
Ac Affrica, lle twynna tes,
Ac ewybr wres, y gaua;
Yno i'r dyn a'r wyneb du,
A'i lewyrch fo oleua;
Yn yr India a'r Ethiopia a'r Lybia sycha sydd,
Y gwelsant ogoniant y wir ddiffuant ffydd.

Cadwn wyliau 'n ol defodau
Ac esiamplau'n didwyll dadau,
Fu orau 'u gw'rthiau i gyd;
Nid fel Arius a Solinus,
Ond fel ethol Athanathius,
Hynawsedd oedd ei fryd;
Gan gydnabod dyndod Crist,
A'i dduwdod ddidrist ddedwydd,
Y Messeia a mab rhad
Ac un a'r Tad yn Arglwydd;
Achubwr, cyfryngwr, a dyddiwr ydyw ef
Sy yr awrhon yn eiriol yn ethol yn y nef.

Gwr diymod Gair diamur,
Hawddgar ethol yr Ysgrythyr
Ddysg inni gysur gwiw,
Fod i ddynion sad feddiannau
Gyda'r seintiau mawr i breintiau
Yn uchelderau Duw;
A bod Iesu, Celi coeth,,
Trwy ddiodde'n wirddoeth weddus,
Wedi prynnu'r nef i'w blant
Rhown iddo foliant felus;
Cawn yma cyn nemor glodfori 'n Por a'n Pen,
Ag awen dragywydd, mewn mawrllwydd byth, Amen.


Gwnawn weddiau â glân galonnau,
Ac â dibaid gydwybodau,
Am drugareddau a gras;
Gan ddeisyfu ar oesawl Iesu
Am rad in i ymwaredu
Rhag pechu a chablu a chas;
Rhown elusen ymhob man
Lle gwelir gwan ac unig,
A Duw a dâl yn ardal ne,
A'i ddonie bendigedig;
Wrth rannu er mwyn Iesu y gallwn brynnu braint
Yn nhrigfan arbennig y dewisedig saint.

Mil, saith ganmlwydd, a dau wythmlwydd,
A dau ar ddeg a ddigwydd,
Yw oed ein Harglwydd ni;
Rhown ogoniant rhywiog union,
Mewn modd cofus i Dduw cyfion,
Am roddion mawr di-ri;
Mawr glod i Dduw yn nefoedd fawr,
Ar ddaear lawr tangnefedd,
I ddynion ew'llus da di-ludd,
A bendith fydd heb ddiwedd;
Dwg unwaith ni i ganol dy freiniol nefol nyth,
I'th garu a'th foliannu mewn byd a bery byth.
—EDWARD SAMIWEL a'i cant.


Nodiadau

[golygu]